Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Rhowch i mi'r Eneth
| ← Wrth y Ffynnon | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Sian → |
RHOWCH I MI'R ENETH.
Rhowch i mi'r eneth dirion
Fedd ar gymeriad glan,
Fodlona fod yn ffyddlon
I mi trwy ddwr a thân;
Yr eneth eill gusanu
Heb fynd i'r tiroedd pell,
Bydd hynny'n gwneuthur caru
I ddau yn llawer gwell.
Rhowch i mi'r eneth honno
Dosturia wrth y gwan,
Yr eneth fentra frwydro
A'r byd i wneud ei rhan;
Yr eneth geidw'r aelwyd
Yn addurn ar ei rhyw,
Bydd hynny'n gwneuthur bywyd
I ddau yn werth ei fyw.
Rhowch i mi'r eneth brydferth
Mewn symledd gwisg a moes,
Heb unwaith fynd yn aberth
I ffol ffasiynnau'r oes;
Yr eneth gyda gwenau
Wyneba 'stormydd blin,
Try hynny bob gofidiau
I ddau yn felus win.
Rhowch i mi'r eneth lednais
Ni waeth os bydd dylawd,
Heb yn ei chalon falais,
Nag yn ei genau wawd;
Yr eneth drwy ddrycinoedd
A'i chariad yn cryfhau,
Cewch weled llifo'r nefoedd
I mewn i fywyd dau.