Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Rhyw Gyda'r Nos
Gwedd
| ← Gobaith yr Alltud | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Y Gweddill → |
RHYW GYDA'R NOS.
RHYW gyda'r nos
Enethig dlos
Y gwelais i;
Ddiorwel hud
Rhyw nefoedd ddrud
Yn eiddo ti.
Tywynnai'r lloer
Ar farrug oer
Y noson hon;
Pan ddoist yn nes
Mi deimlais wres
Dy dyner fron.
Mi brofais win
Dy ruddaidd fin,
Tan wybren glir;
Pereiddiach blas
Na gwin y plas
Dy gusan hir.
Rhyw gyda'r nos,
Enethig dlos
Y daeth i mi.;
Ddiorwel hud
Y nefoedd drud
Oedd eiddo ti.