Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Tan y Lloer
Gwedd
| ← Cymdeithion | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Gobaith yr Alltud → |
TAN Y LLOER.
Tyrd at y gamfa heno
Nid yw'n oer,
Tan y lloer
Os y byddi yno.
Anghofir holl bryderon,
Melus win
Oriau blin
Yw dy gwmni Fannon.
Ba waeth os bydd y cread
Oer ei wedd,
Fel y bedd,
Gwyn ein byd fy nghariad.
Cawn yno lwyr anghofio
Chwerw loes
Garw groes
Yn yr hir gofleidio.
Mae 'nghalon yn gynhyrfus,
Fel y don,
Tan fy mron,
Yn y nos ystormus.
Ac allwedd fy ngobeithion,
Coelia fi,
Gennyt ti,
Ddiwies deg fy nghalon.
Bum wrth y gamfa heno
Heb y ferch,
Aeth a'm serch
Yn y llannerch honno.
Dêr Fannon deg dy ddeurudd,
Dwed y gwir,
Imi'n glir,
Pam y troist yn llofrudd?
I druan tlawd siomedig
O mor oer,
Tan y lloer,
Ydyw'r galon unig.
1927.