Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Torri'r Tegan
Gwedd
| ← Wedi'r Angladd | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Y Crewr Prydferth → |
TORRI'R TEGAN.
RHOIS fy nghalon iti'n gyfan,
Gyda'r nôs tan sêr y nen,
Cefais innau wên a chusan
Yn gyfnewid gennyt Men.
Hudaist fi â d'allu rhyfedd
I dy garu wirion ferch,
Ond nis credaf mai hudoledd
Fel yr eiddot ti yw serch.
Llwyr anghofio'r llw a seliwyd
Wnaethost wrthgiliedig fun,
Pob rhyw ddrud obeithion chwalwyd
Gan dy 'stranciau di dy hun.
Rhois fy nghalon iti'n gyfan,
Gyda'r nôs tan sêr y nen,
Cês hi'n ôl heb wên na chusan,
Wedi torri'n ddeuddarn Men.
1927.