Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Tyrd Enethig

Oddi ar Wicidestun
Bywyd Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Serch

TYRD ENETHIG.

TYRD enethig hyd y llwybrau
Rodiwyd gynt gan hen gariadau,
Mae eu swynion hwy i ninnau,
Tyrd enethig fwyn.

Tyrd at gamfa'r oed yr awrhon,
Hyfryd lannerch ddibryderon,
Sibrwd yno dy gyfrinion,
Tyrd, enethig fwyn.

Dacw'r lloer oedd yno'n gwylio
Hen gariadau'r fro'n cofleidio;
Gŵyr sawl amod gadd ei selio,
Tyrd, enethig fwyn.

Beth os ydynt hwy yn gorwedd
Yn nistawrwydd hendre llygredd?
Yn eu bywyd bu gorfoledd,
Tyrd, enethig fwyn.

Os mai tywyll y ffurfafen,
Paid âg oedi fwynaf feinwen;
Ni bu gwmwl heb ei heulwen,
Tyrd, enethig fwyn.

Dywed wrthyf fi dy stori,
'Rol i ddwndwr byd ddistewi;
Mae fy nghalon heno'n torri,
Tyrd, enethig fwyn.

1926.


Nodiadau

[golygu]