Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Wedi'r Angladd

Oddi ar Wicidestun
Y Gwerinwr Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Torri'r Tegan

WEDI'R ANGLADD.

Clwyd y fynwent yn gauedig
Hen gyfeillion wedi ffoi;
Minnau'n araf a chrynedig
Tua'r aelwyd wâg yn troi.

Pob gobeithion wedi'm siomi,
A'u mwyniannau'n ffoi o'm gŵydd;
Yn fy nghalon drom yn cronni
'Roedd atgofion trigain mlwydd.

Wedi cyrraedd at y bwthyn,
Hawdd arogli mŵg y mawn;
Tynnai hiraeth hefyd ddarlun
Cadair wâg a beddrod llawn.

Eilwaith cofiais am y geiriau
Ganai'r dorf yn angladd Gwen,
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddeil fy mhen."

1927.


Nodiadau

[golygu]