Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Wrth y Ffynnon

Oddi ar Wicidestun
Gwenlli Foty'r Brwyn Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Rhowch i mi'r Eneth

WRTH Y FFYNNON.

HAWDD i minnau ydyw cofio
Oedi melus mab a merch,
Hithau'r lleuad oeraidd yno
Wrth y ffynnon fel yn uno
Yng nghyfaredd hudol serch.

Wylodd Morfudd ddagrau gloewon
O eigionnau ifanc fron,
Yno 'ngwydd y lloer a'r ffynnon,
Oni chefais gan y fannon
Olud puraf mynwes hon?

Oedais yn y llannerch honno
Ymhen misoedd wedi hyn,
Wrth y ffynnon hawdded wylo
Tybed ydoedd hithau'n cofio
Addunedau Morfudd Wyn?

1926.


Nodiadau

[golygu]