Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Diwedydd
Gwedd
| ← Crefydd a Gwaith | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Cariad → |
Y DIWEDYDD.
GORFFWYSAI'r wedd wrth dynnu'r olaf lwyth
O'r tywys aeddfed tua'r ydlan glyd,
Ac awrlais fawr y dref yn taro wyth,
Tra tynnai'r nos ei llenni tros y byd;
Ymlwybrai'r saint o Fethel y pryd hyn
'Rol bod yn sŵn griddfannau Calfari,
A gweled y dwyfoldeb bythol wyn
Yn wyneb gwelw'r Gŵr a'n prynodd ni.
Ac eraill oedd uwchben y gwirod coch
Heb yn eu henaid barch i ddyn na Duw,
Tra y disgynnai'r llwon isel croch
Fel o ddyfnderoedd Annwn ar fy nghlyw
Daeth gwrid i'm hwyneb pan y cofiais i
Bod Iesu eto ar Ei Galfari.
1926.