Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Fodrwy
Gwedd
| ← Gwynt Mawr Hydre' 1927 | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Y Fodrwy Eto → |
Y FODRWY.
Cwlwm ar gyfamodau,
Yng nghalon mab a merch.
Aduno addunedau
Eneiniwyd gyda dagrau
Santeiddiaf dduwies serch.
Anrhydedd priodasol
Y diwair ddeuddyn glân,
Trwy'r bywyd pur rhinweddol,
A'r cariad anorchfygol
I'w cadw'n ddiwahan.
Eithafnod penderfyniad,
Trwy uno dau yn un,
Mewn dwyfol ymgysegriad,
Arwyddnod uchaf cariad,
Yng ngoleu Duw Ei Hun.
1927.