Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Fodrwy Eto

Oddi ar Wicidestun
Y Fodrwy Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Pistyll

Y FODRWY EΤΟ.

Y fodrwy gron,
O fewn i hon
Mae dau yn byw.
Mewn undeb glân
Annorffen gân
Eu cartref yw.

Breuddwydio'n hir
Heb weld yn glir
Bu llawer dau;
Hualau cur
Edwinai fflur
Santeiddia'r bau.

'Deill adwyth erch
Lle byddo serch
Ond ei gryfhau ;
Gobeithion gwyn
Y ddeuddyn hyn
Sydd yn tynhau.

Annorffen gân
Paradwys lân
Yw'r fodrwy gron;
Hyd angau mwy,
Cyd-dynnant hwy
O fewn i hon.

1927.


Nodiadau

[golygu]