Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Gaeaf yn y Cwm

Oddi ar Wicidestun
Sian Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Gwerinwr

Y GAEAF YN Y CWM.

TRA curai'r cenllusg ddellt y bwthyn llwm,
A'r corwynt bron a threisio'r fregus ddôr,
Cynddaredd anian yn gordoi y cwm,
Ond calon mam ehedai tua'r môr.
Mae'n dod i gof ystormydd lawer iawn,
Ond dim o fath y noson ryfedd hon,
Dau lygad serch o ddagrau drud yn llawn
A chalon yn dygyfor dan ei bron.
Aeth i orffwyso, ond 'roedd hun ymhell
Uchenaid ddistaw aeth at orsedd Duw,
Ac yn unigedd oer ei chyfyng gell
Disgynnodd canu swynol ar ei chlyw.
Ehedodd gyda'r gân o'r bwthyn llwm,
O sŵn y môr a'r gaeaf yn y cwm.


Nodiadau

[golygu]