Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Goedwig

Oddi ar Wicidestun
Y Ddau Drosedd Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Y Cyfnos

Y GOEDWIG.

FE'i gwelais pan oedd stormydd gaeaf blin
Yn creulon ddifa ei harddunedd drud,
Heb delyn mwyach, yn ddiffeithwch mud
A'r chwa ogleddol droellai'r deiliach crin;
Tra'u siffrwd distaw dorrai ar fy nghlyw
Heb geisio lloches gwell na ffos y clawdd,
I mi o'u gweled buasai wylo'n hawdd
Heb le i farw wedi methu byw.
Paham mae Ef yn creu a difa'n chwim
A ddiystyra Hwn Ei Hunan mawr
Trwy godi'n uchel, a thrwy dynnu lawr?
Gofynnais eglurhad heb ddyfod dim
Nes cerdded Gwanwyn trwy y fynwent wyw
I'w throi yn goedwig hardd trwy Fydded Duw

1927.


Nodiadau

[golygu]