Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Gwahodd

Oddi ar Wicidestun
Eifion Wyn Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Tachwedd 11, 1928

Y GWAHODD.
(Trwy ganiatad caredig y "Western Mail.")

MAE serch yn galw arnom,
O tyrd fy mun am dro;
Cawn ddychwel pryd y mynnom
Hyd lwybrau cudd y fro.

Cawn ar y bryniau uchel
Anadlu newydd hoen;
A rhodio llennyrch tawel
Lle ni anturia poen.

Cawn wrando cân aderyn
O'r golwg yn y dail;
A syllu ar flodeuyn
Na phaentiodd dyn ei ail.

Os deui ngeneth dirion
Hyd lwybrau cudd y fro;
Agoraf iti'r galon
Sydd hyd yn hyn dan glo.


Nodiadau

[golygu]