Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Gwerinwr
Gwedd
| ← Y Gaeaf yn y Cwm | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Wedi'r Angladd → |
Y GWERINWR.
RHWNG bannau oer ei faboed
Bu'n trin yr erwau llwm
Ym mhell cyn dyddiau henoed
Fe aeth ei gefn yn grwm.
Diwylliodd hwn ei hunan
Er trymed croesau'r daith,
A chafodd Cymru gyfan
Y mêl wrth fedi'r gwaith.
Pob parch i'r prif ysgolion
A gwerth eu graddau drud;
Mae Duw yn yr encilion
Yn meithrin plant o hyd.
Rhwng bannau oer ei faboed
Bu'n nôd i lawer clwy',
Er mynd cyn dyddiau henoed
I'r bedd yn arch y plwy.
Fy Nghymru lân ganfyddaf
Yn porthi balchter ffawd,
A'i chymwynasydd pennaf
Yn mynd i'r bedd yn dlawd.
1927.