Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Postmon
Gwedd
| ← Mewn Album | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Y Pris → |
Y POSTMON.
YN fyr ei gam a'i gefn yn grwm
Mae'n mynd i'r daith bob bore;
Os garw'r troetffyrdd fyny'r cwm
Efe sy'n gwybod ore.
Ond hawdded beio rhiwiau serth
Wnaeth gestyll drud yn gandryll;
Daeth hwn i wybod cyflawn werth
Ychydig nerth sy 'ngweddill.
Bodlona fyw ar enllun gwael
Yn ffyddlon was i'r Brenin;
Os ar adegau'n drwm ei ael
Mae'i gymwynasau'n ddibrin.
A phwy yn unman ddywed werth
Y pensiwn gwael sydd iddo;
Mae'r postmon wedi gwario nerth
Y dyddiau gwell amdano.
Yn fyr ei gam a'i gefn yn grwm
Mae'n troi yn ôl o'r siwrne;
Os garw'r troetffyrdd fyny'r cwm
Efe sy'n gwybod ore.
1928.