Neidio i'r cynnwys

Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Y Stori

Oddi ar Wicidestun
Fin Hwyr Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill

gan William J Richards

Murmuron Atgo

Y 'STORI.

DYWEDWCH im y stori
Am Iesu'r dwyfol Aer,
Yn dewis y tylodi
A gaed yng nghoty'r saer.

Ystori dlos y preseb,
A'i eni yn y gwair,
Etifedd tragwyddoldeb
Yn sugno bronnau Mair.

Dywedwch stori'r bradwr,
Ac ingoedd Calfari,
Mae cariad y Gwaredwr
Yn tanio f'enaid i.

Os gwelir fi heb bechod.
Wrth orsedd wen yr Aer,
Rhyfeddod pob rhyfeddod
Fydd stori coty'r saer.

1928.


Nodiadau

[golygu]