Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Yn yr Hwyr
Gwedd
| ← Wedi'r Storm | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Colli'r ffordd → |
YN YR HWYR.
Y DYDD a suddodd yn y pell orllewin,
A dring y lloer lechweddi'r mynydd serth;
Tra clywir islais deuoedd bro yn chwerthin,
Wrth lawer camfa, a than lawer perth.
Fyrred eu horiau ym mhangfeydd breuddwydiol
I felus oedi yno fin wrth fin;
A sugno'n helaeth o'r cusanau hudol
Heb ofni meddwi ar bereidd-dra'r gwin.
Yr henwr legach sydd yn cadw noswyl,
A'r almon aeddfed ydyw coron hwn;
Os gwael ei enllyn, caled iawn ei orchwyl
A'r fraich grynedig nid yw gref mi wn.
Nis gŵyr y nefoedd sy'n 'nghalonnau'r ifanc,
Wrth oedi'n ddeuoedd hyd rodfeydd y fro;
Ond wedi dod yr Hwyr hiraetha ddianc
Lle bydd arteithiau'r brwydro'i gyd dros go'.
1928.