Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill/Yr Hen Dorrwr Beddau
Gwedd
| ← Dafydd Ifans | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill gan William J Richards |
Rhoswen → |
YR HEN DORRWR BEDDAU,
(Myfyrdod yn ei angladd;)
CRINDDAIL, hydre'n drwm ar wasgar
Ymhob man,
Pan aeth ef ar ysgwydd pedwar
Tua'r llan;
Rhyfedd daith y tir diysgar
Ddaeth i'w ran.
Crwydrai awel oer y dwyrain
Tros ei fedd,
Tinc y gloch mor brudd, ac unsain
Darfai'r hedd,
Yntau'n henwr pedwar ugain
Gwael ei wedd.
Ef fu'n torri'r beddau tawel
Bob yr un,
Croesodd ffiniau'r broydd anwel
Gymrawd cun,
Ond anghofiodd dorri argel
Iddo'i hun.
1928.