Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill (testun cyfansawdd)
| ← | Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill (testun cyfansawdd) gan William J Richards |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Blagur y Gwanwyn a Chaneuon Ereill |


YR AWDUR
Blagur y Gwanwyn
A
Chaneuon Ereill.
GAN
W. J. RICHARDS.
GLANDYFI.
♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦♦
I'W GAEL GAN YR AWDUR:—
CASTLE LODGE, GLANDYFI.
SIR ABERTEIFI.
❃
DOLGELLAU
Argraffwyd gan Hughes Bros., Swyddfa'r
DYSGEDYDD
RHAGAIR.
ANNWYL DDARLLENYDD.
Estynnaf y Gyfrol fechan hon i ti i'w darllen, ei beirniadu, ei chondemnio, a'i chanmol. Gobeithiaf y bydd i ti gael blas arni, sef y blas gwlad hwnnw a deimlaist cyn heddiw ar oledd un o fynyddoedd Cymru. 'Does dim eisiau i mi ddweud wrthyt mae plentyn y wlad, a mab y werin ydwyf.
Wn i ddim am gyffro dinas na moethau plas; dyhead dyfnaf fy nghalon ydyw bod yn fardd da, sef yw hynny, gallu dweud fy meddwl mor syml fel y geill y "symlaf o'r werinos" ei ddeall.
I mi, peth syml iawn ydyw gwir Farddon- iaeth, a llawer mwy o gamp ydyw arfer symledd, na rhodres. Collodd Cymru un o'i beirdd symlaf lai na dwy flynedd yn ol, a chollodd ei bardd gore'n ogystal. Felly, os am fod yn fawr mewn gwirionedd, rhaid bod yn agos at eraill.
Cefais bob cymorth gan gyfeillion pell ac agos i gyhoeddi y gyfrol, diolchaf i'r tanysgrifwyr a phawb fu yn rhan i ddwyn y cyfryw i'r wasg.
Pan ddaw y Gyfrol i dy ddwylo Ddarllenydd hoff, dyro'r ffaeleddau i gyd ar ysgwyddai'r Awdur, a gobeithio y bydd i bawb a'i darllenno dderbyn pleser a bendith ynddi, gan edrych heibio'r gwaelaf i gyfeiriad y gore yn ei hanes.
Yn bur iawn,
- YR AWDUR.
- Awst 13, 1928.
- Awst 13, 1928.
- YR AWDUR.
❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃
CYFLWYNEDIG
I
J. M. HOWELL, Ysw.,
PLAS PEN HELIG, ABERDYFI,
am ei deyrngarwch i'r Gymraeg.
❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃
Y CYNNWYS.
Rhagair
Blagur y Gwanwyn
Dyddiau Mebyd
Y Torrwyr Saboth yn Aberdyfi
Mam
Llwybrau'r Wlad
Hen Ardal Aberhosan
Y Diwygiwr
Golchfa'r Bugeilyn
TELYNEGION A SONEDAU :―
I'r Lloer
Disgwyl yn Ofer
Crefydd a Gwaith
Y Diwedydd
Cariad
Bywyd
Tyrd Enethig
Serch
Y Gaeaf
Gwenlli Foty'r Brwyn
Wrth y Ffynnon
Rhowch i mi'r Eneth
Sian
Y Gaeaf yn y Cwm
Y Gwerinwr
Wedi'r Angladd
Torri'r Tegan
Y Crewr Prydferth
Y Ddau Drosedd
Y Goedwig
Y Cyfnos
Y Gwanwyn
Yn yr Ysgol
Hwyrddydd Haf
Popeth Tlws
Dafydd William
Y Capel Bach
Hyd yma
Cymdeithion
Tan y Lloer
Gobaith yr Alltud
Rhyw Gyda'r Nos
Y Gweddill
Gwynt Mawr Hydre' 1927
Y Fodrwy
Y Fodrwy Eto
Y Pistyll
Yr Hebrwng
Gyda'r Nos.
Y Twyllwr
Dau Angerdd
Roli
Yr Henwr
Pethau Hoff
Y Nwyd Anorthrech
Fin Hwyr
Y Stori
Murmuron Atgo
Rhiniau'r Offrwm
Aberystwyth
Wedi'r Storm
Yn yr Hwyr
Colli'r ffordd
Yr Ynys
Mewn Album
Y Postmon
Y Pris
Ar Garbed o Bali
Eifion Wyn
Y Gwahodd
Tachwedd 11, 1928
Ar y Trothwy
Ar y Gornel
Hydre
Dafydd Ifans
Yr Hen Dorrwr Beddau
Rhoswen
ODLAU HIRAETH:—
Chwith Atgo
Er Cof
❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃
BLAGUR Y GWANWYN.
❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃❃
Blagur y Gwanwyn,
MEWN annedd dawel unig
Yng nghwrr y mynydd draw,
Y mae genethig ddeunaw oed
Ar drothwy'r byd a ddaw;
Edwina rhos ei deurudd
Wrth fynd i'r broydd pell,
A hir lonyddwch angeu'i hun
A deimlir yn ei chell.
Ymloywodd gardd o flodau
O dan ei dwylo mwyn,
Bu llawer rhosyn ar ei bron
Yn îr, a phêr ei swyn;
Ond heddiw, yn y gerddi
'Does mo'r prydferthion drud.
Yr ardd a'r sawl a'i trwsiai hi
Sy'n cyflym wywo 'nghyd.
Nid oes ond cri y corwynt
I'w glywed yn y cwm,
Fe ddarfu swynion drud yr hâf
Mae dôl a gwig yn llwm;
Daw trymder ar fy nghalon
Wrth fedd yr hâf a fu,
Can's trwy 'ngwythiennau treiddia iâs
Yr Hydre' garw a du.
Yn drwm a phrudd ymlwybraf
Hyd unig lwybrau'r coed;
Can's yma gynt y cerddwn i
A'r eneth ddeunaw oed;
Bryd hynny gwenai blodau
Yn deg eu lliw a'u llun,
Ond heddiw gwag a thrymaidd iawn
Yw'r byd i mi fy hun.
O Fiagur mwyn y Gwanwyn
Fu'n swyno 'nghalon wan,
Y bywyd newydd pur o hyd
Sy'n codi'r llesg i'r lan;
Rhaid aros cyn daw'r harddwch
Yn ôl i'r doldir llwm,
Ac O mae ing yng nghri y gwynt
Yng nghangau noeth y cwm.
Beth os yw'r coed yn dawel
Heb gân aderyn bach,
Daw eto lesni îr i'r fro
Tan haul ac awyr iach;
Ond ni bydd ar y llwybrau
Ond un lle gynt bu dau,
Yr un a'i gur o fewn ei fron
A'i hiraeth yn parhau.
Pan äf im 'stafell heno
Bydd darlun ar y mur,
Darlun yr Iesu yn yr Ardd
Yn chwysu yn Ei gur;
Ei chwys yn goch yn disgyn
Ar flodau yn eu hedd,
Ac ing holl oesoedd daear lawr
Yn cronni yn Ei wedd.
Bum lawer gwaith yn syllu
I'w wyneb tawel Ef,
Nes teimlo'i wawl yn troi y byd
Yn oleu fel y nef;
Nes gweld fod pob prydferthwch
Ar ffordd rhyw wae o hyd,
Nes gweld mai rhaid y Crist Ei hun
Oedd marw tros y byd.
Caf syllu ar y darlun
Gwaith llaw arlunydd sant,
Cur calon Iesu ar Fi wedd,
A'i weddi ar Ei fant;
Y coed i gyd yn llonydd,
Y dail a'r blodau'n drist,
A'r ardd i gyd yn cadw gŵyl
Gorthrymder Iesu Grist.
O syllu'n hir caf ddeall
Cyfrinach ddistaw Duw,
Trwy greulon farw'r gore Un
Mae'r gwaelaf yn cael byw;
Ar fedd y gaeaf fferllyd
Daw egin glwys ei wawr,
O tan bob bedd mae tawel rym
Yr atgyfodiad mawr.
O fedd y santaidd hwnnw
Daw bywyd dynol ryw,
A gymell tua'r newydd ddydd
Yr oesoedd llesg a gwyw;
Bydd rhyfel wedi peidio,
Oes hedd fydd ar y llawr,
A hen, hen fyd fydd fel y nef
Yng ngoleu glân y wawr.
Daw eto flagur ifanc
Ar goed oedrannus iawn,
Rhwng newydd ddail bydd adar mân
O fore hyd brynhawn;
Ar yr oleddau tawel
A fu yn llwm cyhyd,
Fe welir gyda'r Gwanwyn pêr
Wyn bach yn wyn eu byd.
Ac yn nadeni anian,
Canfyddaf ddarlun pur,
O adwedd enaid wedi oes
O boen a chwerw gur;
Yr enaid yn anadlu
Awelon nefol fyd,
Pob llesgedd wedi gorffen mwy,
A Duw a dyn ynghyd.
Mae pob blodeuyn prydferth
A greodd Duw erioed
Yn cilio cyn daw'r barrug oer
I dawel lwybrau'r coed;
Edwinodd y rhosynnau
Ar ddeurudd dlos y fun,
Ac estyn cyfle wnaethant hwy
I flodau'r nef ei hun.
Er rhoddi'r eneth honno
I'r bedd yn llesg a gwyw,
Ni chollaf mo'ni am y gwn
Mai marw wnaeth i fyw;
Yn nwyf yr oes dragywydd
Bydd hi yn ifanc byth,
Ac uchelderau'r dwyfol fyd
O'i blaen yn swyn di lyth.
Os nad oes edn yn canu,
Os nad oes ddail ar bren,
Daw tymor bob gorthrymder hir
Ar ddiddan awr i ben.
Rhydd hynny fyth i 'nghalon
Flaen baladr rhyfedd wawr,
O tan bob bedd mae tawel rym
Yr Atgyfodiad Mawr.
"DYDDIAU MEBYD."
TYRED awen yn grynedig
I roi tro i fore oes,
Mae llanerchau cysegredig
Ar y llwybrau onid oes?
Rhaid yw mynd ar edyn atgo,
Pam yr wyt mor drist dy wedd?
Fe ddaw popeth gladdwyd yno
Eto i fyny'n fyw o'r bedd.
Digwyddiadau ffôl plentynnaidd,
Tyred heibio iddynt oll,
Lle y treuliwyd oriau santaidd
Cyn fy nhroi o'r Wynfa Goll,"
Pan oedd pechod imi'n estron,
Pan oedd nefoedd imi'n ffaith,
Cyn adnabod twyll y galon,
Ie, cyn ei thwyllo chwaith.
Awn i'r bwthyn dinod hwnnw
Sydd rhwng bryniau Maldwyn gu,
Clywir yno ddweyd fy enw
Gan angylion dyddiau fu;
Chwilio'i ystafelloedd gweigion
Ond sydd imi'n fwy na llawn,
Rhwng y muriau y mae digon
O destunau difyr iawn.
Beth os dywed y goludog
Bod yr annedd honno'n dlawd,
Peidiwch er mwyn calon ddrylliog
Taflu arno unrhyw wawd;
Aed y plas a'i holl anrhydedd
I uchelwyr moeth y wlad,
Haeddu parch a wna dinodedd
Bwthyn clyd fy mam a nhad.
Rhed y nant i lawr o'r mynydd
Daw tan ganu heibio'i ddor,
Hiraeth yw ei thestun beunydd,
Am ei chartre yn y môr;
Gwn i minnau allu canu
Ganwaith yn ei chwmni hi,
Ond mae 'stormydd wedi llygru
Peraidd dant fy nhelyn i.
Adeg ddedwydd ydoedd honno
Pan oedd mam yn siglo 'nghrud,
Heddiw llonydd ydyw'r dwylo
Ac mae'r swynol lais yn fud;
Minnau yn fy ngwynfa wylwn
Ddagrau fy ieuenctyd gwyn,
Wylaf heddiw am na fedrwn
Alw'n ôl yr oriau hyn.
Dysgu cropian, dyna orchwyl
A gyfrifwn gynt yn fawr,
Mae'r codymau hynny'n annwyl,
Yn fy ngolwg i yn awr;
Gwyddwn i bod breichiau cariad
Yn gofalu na chawn glwy',
'Doedd y rhain ond gwael fynegiad
O godymau llawer mwy.
Gwn pe buaswn i heb brofi
Ysgafn groesau bore oes,
Buasai f'ysgwydd wedi torri
Tan arteithiol bwys y groes;
Dysgu cario'r croesau bychain
Wnaeth yn gref fy ysgwydd wan,
Rhag fy syrthio .lawr yn gelain
Tan eu trymach yn y man.
Dysgais weddi fach i'w dwedyd
Pan yn mynd i gysgu'r nos,
Ac wrth godi'r bore hefyd
Cofiwn ddweyd y weddi dlos;
Os caf fynd i'r nefoedd rhywdro
I'w glodfori ger Ei fron,
Wedi'r blinder glaniaf yno
Yng ngoleuni'r weddi hon.
II.
Treuliais lawer orig ddedwydd
Yng nghwmpeini'r grug a'r brwyn,
A thelorai pob uchedydd
Emyn bychan er fy mwyn;
Hedydd arall sydd yn pyncio
Uwch yr hen lanerchau mŷg,
Erbyn heddiw gwelir yno
Newydd frwyn, a newydd rug.
Pawr y defaid y llechweddau
Megis yn y dyddiau fu,
A mynychir y corlannau
Eto gan fugeiliaid lu;
Ond mae'r defaid a adwaenwn
Wedi mynd i'w holaf daith,
A'r bugeiliaid gynt a garwn
Ni ddont i'r corlannau chwaith.
Ple mae corgwn dyddiau mebyd
Gwir ffyddloniaid oeddynt hwy,
"Hafren," "Sofren," "Brwynen" hefyd
A'r hen "Jolly" nid yw mwy;
Pe codaswn golofn harddwedd
Rywdro ar eich beddrod chwi,
"Buoch ffyddlon hyd y diwedd"
Arni'n eglur gerfiwn i."
Diwrnod pwysig ydoedd hwnnw
Pan yr euthum gyda'r plant,
Tros anhygyrch lwybrau garw,
Tuag Ysgol Blaen y Pant;
Cofiaf mor grynedig oeddwn,
Ofni symud llaw na throed,
Ond yr oeddwn, fel y tybıwn
Yn fwy dyn na bum erioed.
Wedi dechreu cydnabyddu
Gyda'r hen gyfoedion mwyn,
Daeth y wers yn hawdd i'w dysgu
A'r holl groesau'n haws eu dwyn t
Dysgais hefyd wedi hynny
Yn ystormydd byd a'u gŵg,
Bod y da yn hawdd ei darfu,
Ond mai anodd lladd y drwg.
Gwelwn ddyddiau euraid bywyd
Tros gyffiniau'r pymtheg oed,
Ffarwel mwyach chwerw adfyd
Am y mwyniant gore 'rioed,
Ond canfyddais yn lle blodau
Ddrain gofidiau'n haen ar haen,
Er fy syndod yr oedd croesau
Yno'n aros o fy mlaen.
Dyma'r adeg y'm harweiniwyd
Trwy fy nagrau bob yn gam,
Gwinoedd bywyd i mi chwerwyd
Pan agorwyd bedd fy mam;
Disgwyl pethau gwych i ddyfod"
Wnawn ym more bywyd gwyn,
Rhodio glynnoedd dyfnaf trallod
Orfod imi y pryd hyn.
Ysbaid wedyn bum yn cerdded
Llwybrau gwyrgam praidd fy nhad,
Treuliais ambell awr i yfed
Rhyfedd swynion Bywyd Gwlad;
Ond ni ddaeth prydferthion anian
Imi mwyach fel y bu,
Yr oedd bylchau fewn ac allan
Ym mhob man o gylch y tŷ.
Llithrodd y blynyddoedd heibio
Llithrais innau gyda hwy,
Ond heb gennyf fam i'm gwylio
Ar y palmant llithrig mwy;
Gwn i'r Duw a'i daliodd hithau
Yn nhrofeydd yr anial maith,
Hefyd roddi nerth i minnau
Rhag diffygio lawer gwaith.
Bellach gwn i aeaf gofid
A'i ystormydd ddod im rhan,
Beth na roddwn am y rhyddid
Brofais pan yn faban gwan;
Os oes nef tu yma'i angau
Yn y byd yr wyf yn byw,
Cyfaddefaf yn fy nagrau
Diau dyddiau mebyd yw.
Gelwais heibio hen lanerchau
Cysegredig ar y daith,
Dianc wnaeth y digwyddiadau
Uwch amgyffred meidrol iaith;
Rywsut ofnwn eu hanafu,
Wrth eu hadrodd wrthych chwi,
Fwyn ddarllenydd maddeu hynny
Cofia werth y rhain i mi.
Y TORRWYR SABOTH YN ABERDYFI.
MAE berw'r llifeiriant Seisnigaidd
Yn bygwth anrheithio ein gwlad,
A threm y gormeswyr anwaraidd
Yn orlawn o ffugiol fawrhad;
Ymladdwn yn eofn heb ildio
Er mynnu ein hawliau i fyw,
Tra'r Saeson digrefydd a'u gamblo
Anhydrin fyddara ein clyw.
Nid digon eu rhyddid i'r giwaid
Heb sarnu ein Saboth i'r llawr,
Ymladdwn er mwyn yr henafiaid
Estynnodd in' freiniau mor fawr;
Os ydynt am groesi "Clawdd Offa,
I hawlio ein swyddi a'n tir,
Dangoswn yr erys yng Ngwalia
Wroniaid eill barchu y gwir.
Os costiodd ein Saboth a'n crefydd
Ferthyron ar stanciau y byd,
Mae'n eglur nad ydyw Meirionydd
Heb gofio y treuliau i gyd;
Mae ysbryd Bronelydwr a Phenri
Yn aros yn fyw yn y wlad,
A chalon pob Cymro yn gwaeddi
Yn erbyn y creulon sarhad.
Tra cofir y dewr Ieuan Gwynedd
Fu farw ar wely o waed,
'Does ronyn o obaith i rinwedd
A moesau ymostwng dan draed;
Mae Baner ein Rhyddid yn chwifio
Ar goryn pob mynydd o'r bron,
Ac anodd i'r gelyn anturio
Anadlu yn agos i hon.
Un Saboth i hedd Aberdyfi
Daeth tyrfa estronol ar daith,
A balchter eu calon yn berwi
Yn erbyn ein crefydd a'n hiaith;
Beiddiasant i'r "Golf Links" i chware,
Heb ofyn erioed ganiatad
Ond profwyd mai ofer y siwrne
Bod Arthur yn fyw yn y wlad.
Cyfododd trigolion yr ardal
A'r pentref yn ddewr a digryn,
Dangoswyd mai rhaid ydoedd atal
Ar unwaith fath amharch a hyn;
Daeth dyn ac anifail yn eon
I wyneb anrheithwyr diglod,
Er profi nad maes i chwaraeon
Bwriadwyd y llannerch i fod.
Er cyrchu cyfreithiwr urddasol
I ddadleu tros ormes y blaid,
Dangosodd y Cymry teyrngarol
I'r Saeson mai ffoi ydoedd raid;
Canfuwyd nad gweiniaid di-hawliau
Mewn trinoedd yw'r bonedd a'r gwreng,
A erys cydrhwng ein mynyddau
I odde mursendod mor ddreng.
Nid digon yw dyddiau yr wythnos.
I estron farchogaeth ein gwlad,
Tra hynny i'r Cymro'n ymddangos
Yn haeddu tragwyddol sarhad,
Rhoi Saboth ein Duw i chwaraeon,
Estroniaid gwehelyth ac iaith,
Cyfodwn i gwrdd â'r gelynion,
Er profi fod crefydd yn ffaith.
Mae gennym rwy'n falch o ddywedyd.
Addoldai ar fynydd a dol,
A dynion fel cewri a gyfyd
I gadw'r llifeiriant yn ol;
Apeliwn yn daer i gynhadledd
A phwyllgor am godi eu llais,
Gan sefyll yn wrol tros rinwedd
Heb ofni cynddaredd y Sais.
Rhoir llawer cenhedlaeth i gysgu
Yn hunell di-freuddwyd y glyn,
Cyn ildia crefyddwyr hen Gymru
Yn wasaidd i ormes fel hyn;
Na chroesed y Sais tros derfynnau
Ein talaeth a rheg ar ei fant,
Heb gofio bod ysbryd y tadau
Yn enaid i fywyd y plant.
MAM.
CENAIST awen i destunau
Sydd aruthrol llai eu bri,
Heddiw yn dy wisgoedd goreu
Dyro folawd iddi hi;
Er it nyddu cerddi hirfaith,
I wrthrychau pur ddinod,
Rhaid eneinio'n awr am unwaith
Un sy'n llawn deilyngu'r clod.
Mwy bendithion gefais ynddi
Na thrysorau daear gron,
Mae rhyw nefol swynion imi
Yn llythrennau enw hon;
Beth fuasai golud bydoedd
Er gofalu na chawn gam,
Gwn im dderbyn gan y nefcedd
Lawer mwy pan gefais mam.
Ewch a hi oddiwrth y baban
Sydd yn sugno macth ei bron
Rhoddwch bopeth daear gyfan
Yn ei lle i'r bychan llon.
Ni chyfrifai'r popeth hynny
Ond fel sorrod diwerth ffol,
Taflai'r cyfan am gael cysgu
Munud yn ei chynnes gôl.
Od oes ddeuair mwy na'i gilydd,
Yng ngeirlyfrau unrhyw iaith,
Ni ofynnaf i'r gwyddonydd
Nac i'r dwfn athronydd chwaith;
Ond anturiaf ddweyd heb wneuthur
Chwaith â geiriau eraill gam,
Mai canolbwynt pob geiriadur
Yn y byd yw Duw a Mam.
LLWYBRAU'R WLAD.
HEN lwybrau hoff di-ango
Yn yr anghysbell dud,
A Duw yn eu haddurno
Yn ha 1 â'i berlau drud;
Mae prif-ffyrdd yr angylion
Yn unigeddau'r cwm,
Lle ni ddaw'r byd a'i swynion
Fyth i arogli'n drwm.
Amryliw fflur yn gwenu
O anorchfygol swyn,
A'r côr pereiddia'n canu
Alawon ym mhob llwyn;
Ni chefais mewn olyniaeth
Oludoedd nac ystad,
Hudolach y teudwyaeth
Hyd erwau pell fy nhad.
Mae eira'r hâf ers dyddiau
Yn hulio'r ddraenen wen,
Tra'r gloyn prydferth yntau
Yn gwarchod gylch fy mhen,
Mae'r wlad yn llawn hudoledd
I galon prydydd claf,
A drachtio yn ddi-ddiwedd
O'r diorwelion wnaf.
Dilynais ôl y defaid
Yn unigeddau'r grug,
I eigion dwfn fy enaid
Daeth rhywbeth mwy na ffug;
Os mynnwch im addoli
Yn onest heb nacâd,
Rhowch imi fynych brofi
O'r hâf ar lwybrau'r wlad.
Canfyddaf ddelw'r Crewr
Ar y prydferthion hyn,
Tra gwedy yr anffyddiwr
Y llaw a'u gwnaeth os mynn;
Try pob blodeuyn bychan
Yn bregeth ar fy nghlyw,
Hiraetha f'ysbryd hedfan
Lle mae'r Prydfertha'n byw.
Tramwyais erwau'r swynion
Ym more bywyd gwyn,
A glynaf byth yn ffyddlon
Wrth y llanerchau hyn;
Ar lechwedd pell eithinog
Mae'r bwth dechreuais fyw,
A chroesais tros ei riniog
I mewn i gyfoeth Duw.
Gwnewch imi fedd fel Gwenffrwd
Yn unigeddau'r wlad,
Lle delo'r hâf i siffrwd
Eanged fy ystad;
Rhowch i mi gysgu'n dawel
Heb faen na mynor trwm,
Gwell gennyf gwmni'r awel
A'r fflur addurna'r cwm.
HEN ARDAL ABERHOSAN.
HEN ardal Aberhosan,
Mor gysegredig yw,
Fan honno'n wannaidd faban
Dechreuais innau fyw;
O ddechreu mor ddi-ddarfod
Tragwyddol ei barhad,
Fu hwn i blentyn dinod
Yn hen luesty'i dad.
Hen ardal Aberhosan,
Anwylach ydwyt ti,
Na gwledydd daear gyfan
A'u golud oll i mi;
Rwy'n caru'r grug a'r eithin,
Ar dy lanerchau mwyn,
Tra'r awel fach yn chwerthin
Wrth chware yn y brwyn.
Hen ardal Aberhosan,
Ail eden ydwyt ti,
Dy swynion sydd anniflan
Yng ngwraidd fy enaid i;
Tra bo'r diferyn olaf
Yn curo tan fy mron,
'Does berig' yr anghofiaf
Hen lwybrau annwyl hon.
Hen ardal Aberhosan,
Anfarwol yw dy fri,
A'r byd i gornel fechan
Os yr anghofiaf di;
Dihalog fro breuddwydion
Yn nyddiau cynnar oes,
Bryd gwyddwn bod angylion
Yn gwylio'r glan ei foes.
Hen ardal Aberhosan,
Meithrinfa llawer sant,
Ni lysg eu henwau allan
Tros byth yng nghof y plant;
'Rwyn falch o gael fy ngalw
Yn un o feib y fro,
A hyfryd wedi marw
Fa'i hunell yn ei gro.
Hen ardal Aberhosan,
Heb yn ei haddurn ffug,
Ac yntau'r hedydd bychan,
Delora yn y grug;
Tra'r wawr mewn ymdaith wisgi
Ym mraich ei Chrewr gwyn,
Bodlona hithau oedi
Wrth groesi'r bannau hyn.
Hen ardal Aberhosan,
Paradwys daear gron,
Fy nghalon dyn o bobman
I hudol eden hon;
Daeth 'stormydd blinion bywyd
Im gwarthaf ar fy hynt,
Aeth drud freuddwydion mebyd
Fel üs i'r pedwar gwynt.
Hen ardal Aberhosan,
A'r holl amaethdai clyd,
Tra hithau'r hen Foel Fadian
Yn gwylio rhain i gyd;
Dy hoff dyddynwyr gwledig
Wrth drin dy erwau sydd
Bob noswyl yn lluddedig
'Rol blinfaith waith y dydd.
Hen ardal Aberhosan,
Mae yma demel Duw,
Lle mae'r lluestwyr gwiwlan
O hyd yn dysgu byw;
Yn ymyl ar y llechwedd,
Mae'r cysegredig dir,
Rhoed seintiau'r fro i orwedd
Er cadw'r noswyl hir.
Hen ardal Aberhosan,
Rhaid im dy adael di,
Ond maddeu deyrnged egwan
Dy brydydd gwael wyf fi;
Nid ydyw'r oll ond ernes
O'r serch sydd yn fy mron,
Bydd iti gornel cynnes
Tros byth yn nyfnder hon.
Y DIWYGIWR.
CWSG yn dawel hen ddiwygiwr
Heb adnabod clod a bri
Gwelais arlliw gwawr y gweithiwr
Yn dy lygaid llonydd di;
Gwyddost sathru llawer gelyn
Haerllug beiddgar yn dy blwy
Er yn fynych orfod derbyn
Am orchfygu lawer clwy'.
Nid adnabu'r byd mohonot
Gymwynasydd llwyd dy rudd,
Llawn gwroniaeth, cerdded rhagot
Wnaethost tua'r mannau cudd;
Leddaist di erioed dy gyd-ddyn,
Na rhoi iddo'r leiaf graith,
Ond gŵyr rhywrai gadw newyn
Oddiwrthynt lawer gwaith.
Ufuddhau i'r uchel alwad
Wnaeth efe yn enw'r Nef,
Nid oedd culni sect nag enwad,
Plaid na gwlad i'w luddias ef;
Gwyddai brofi nerthoedd anwel
Yn ei gynnal ym mhob pla,
Tra 'roedd Phariseaith capel
Am ei ladd am fyw yn dda.
Mynd ymlaen a thrwy diriogaeth
Creulon wersyll brenin braw,
Tra'r oedd baner buddugoliaeth
Brwydrau'r anial yn ei law;
Heb adnabod teitlau uchel
Megis Arwr Calfari,
Trwy orchfygu yn y dirgel
Tua'r wawr y cerddaist di.
Cwsg yn esmwyth hen ddiwygiwr,
Heb adnabod clod a bri,
Wedi mynd i fedd y gweithiwr,
Melas dy freuddwydion di;
Er it orfod cadw noswyl
Dan arteithiol bwys y groes,
Bydd dy enw fyth yn annwyl
Yng ngoleuni'r newydd oes.
GOLCHFA'R BUGEILYN.
YNG nghafnau y creigiau ysgythrog,
Tramwyfa y curyll a'r frân,
Y gwelir yr olchfa fyd-enwog
Osodwyd yn destun i'r gân;
Canfyddwyd "Hugh Crowner" Bugeilyn
Ym mhlygain canrifoedd cyn hyn,
Yn annos ei breiddiau o'r clogwyn
I ddefod lanhaol y llyn.
Preswylwyr afrifed y "Moelydd,"
A helfa y maith "Lechwedd Crin,"
I'r gorlan a ddont at ei gilydd
Er gallu eu trafod a'u trin;
Tra eraill o'r hyll "Ffrydiau Duon"
A gyrchir yn gyson i'r lle,
Bugeiliaid a chŵn yn ymryson
Wrth ymdrin â byddin mor gre'.
'Rol cyrraedd rhaid aros ychydig
Cyn dechreu ar orchwyl mor fawr,
A hwythau'r defeidgwn lluddedig
Orffwysa o'u gofal yn awr ;
Ymdrafod y mynydd a'i fawredd
Wna'r golchwyr a'u pwys ar eu ffyn,
Gollyngwyd ystor o hyawdledd
Gwerinol ar geulan y llyn
Hugh Crowner a'i gorgwn a hunodd,
Ni chofiant y ddefod a'r llyn,
A migwyn y corsydd a dyfodd
Ar lwybrau'u gorwyrion cyn hyn;
Er cilio o'r cŵn a'r bugeiliaid
A newid gorseddau y byd
Daw tyrfa afrifed o ddefaid
I "Olchfa'r Bugeilyn" o hyd.
TELYNEGION❃❃❃
❃❃❃A SONEDAU.
—❃—
I'R LLOER.
Dywynnai i'm hystafell hanner nos.
DIOLCHAF iti heno
Garedig leuad dlos,
Am ddyfod a goleuo
Fy 'stafell hanner nos;
Yn dy oleuni rhadlon
Bu llawer mab a merch,
Cyn hyn yn newid calon
Yn oedfa santaidd serch.
Y truan tlawd siomedig
Na wybu barch a bri,
A grwydra yn lluddedig
Wrth dy oleuni di;
Pob llewych wedi peidio
Yn holl ffenestri'r dref,
Tra thithau yn goleuo
Ei lwybrau dyrus ef.
Garedig leuad hawddgar,
Wyt yn arweinydd cun,
Wrth daflu d'oleu llachar,
Ar ddyrus lwybrau dyn.
Llewyrchi ar golofnau
Heirdd fynor meibion ffawd,
Cuseni hefyd flodau
Uwch llwch y dyn tylawd.
Yn dy oleuni rhadlon
Bu llawer mab a merch,
Cyn hyn yn newid calon
Yn oedfa santaidd serch;
Diolchaf iti heno
Garedig leuad hardd
Am dawel, dawel wylio
Uwch hunell mam y bardd.
DISGWYL YN OFER.
Yr haul oedd yn machludo
A'r llygaid dydd yng nghau,
Tra minnau'n disgwyl Gwenno,
Y fun ddeunawmlwydd honno,
I 'nghwrdd i'r oedfa ddau.
Mwyalchen fwyn delorai
Ar gangen uwch fy mhen,
Ar hynny clywais innau
Yn fiwsig ar fy nghlustiau,
Gerddediad ysgafn Gwen.
O tan y fedwen honno
Yng ngŵydd y blodau mân,
Bu yno hir gofleidio,
Ac ni bumi a Gwenno
Er hynny ar wahan.
Fy haul sydd yn machludo
A nghamau yn byrhau,
Ond ofer disgwyl Gwenno,
Y fun ddeunawmlwydd honno
I 'nghwrdd i'r oedfa ddau.
CREFYDD, A GWAITH.
Dos a gwna dy ran yn ufudd
Yn y cwmwd 'rwyt yn byw;
Gweithio ydyw gore crefydd
Meddai Duw.
Bydd yn ffyddlon, gwna dy ore.
Ddyddiau d'einioes ar eu hyd;
Cofio byw dy broffes gartre
Dyna'i gyd.
Mynn y grefydd ddaw dy ganlyn,
I helyntion byd, fy mrawd;
Trugarha o gweli rywun,
Yn dylawd.
O bydd arall wedi syrthio
I anobaith blin y daith:
Dywed air o gysur wrtho,
Dyna'r gwaith.
Gwylia geisio rhodio'r llwybrau
Yn hunanol meddai Ef;
Ennill eraill ar y siwrnai
Fydd y nef.
Geill y daw anobaith weithian,
A'i ystormydd i dy ran;
Ond nid nepell bryniau Canaan,
Enaid gwan.
Y DIWEDYDD.
GORFFWYSAI'r wedd wrth dynnu'r olaf lwyth
O'r tywys aeddfed tua'r ydlan glyd,
Ac awrlais fawr y dref yn taro wyth,
Tra tynnai'r nos ei llenni tros y byd;
Ymlwybrai'r saint o Fethel y pryd hyn
'Rol bod yn sŵn griddfannau Calfari,
A gweled y dwyfoldeb bythol wyn
Yn wyneb gwelw'r Gŵr a'n prynodd ni.
Ac eraill oedd uwchben y gwirod coch
Heb yn eu henaid barch i ddyn na Duw,
Tra y disgynnai'r llwon isel croch
Fel o ddyfnderoedd Annwn ar fy nghlyw
Daeth gwrid i'm hwyneb pan y cofiais i
Bod Iesu eto ar Ei Galfari.
CARIAD.
Pwy sy'n ymdaith trwy y meusydd
Ac yn difa'r harddwch drud?
Onid ydyw yno beunydd
Heb ei ganfod gan y byd?
Welaist di y rhosyn neithiwr
Wenai'n siriol wrth dy ddrws?
Cyn y bore rhyw gyfriniwr
Gipiodd ffwrdd y bychan tlws.
Ond gofynnaf pwy fu yno
Noson cynt yn paentio'i ddǝil,
Rhywun oedd â gallu ganddo
Greu a difa bob yn ail.
Gwell gan Hwnnw alw adre'
Y rhosynnau porffor prid;
Cyn i ddeifiol farrug hydre'
Edwi eu harddunol wrid.
Y mae popeth a gyflawna
Dwyfol dyner ddwylo Duw.
Ar y blodyn bach distadla
Heddiw'n dweud mai cariad yw.
BYWYD.
BETH yw bywyd? dim ond cyfle
I bar'toi am arall fyd;
Dyn yn ymdaith tuag adre
Hyn yw Bywyd, dyna i gyd.
Y tragwyddol yn pabellu
Tymor byr mewn tŷ o glai;
A phob eiliad yn hiraethu
Am y môr heb iddo drai.
Beth fydd cyfrifoldeb enaid
Yn y tragwyddoldeb pell,
Wedi colli'r cyfle euraid
Heb un gobaith cael ei well?
TYRD ENETHIG.
TYRD enethig hyd y llwybrau
Rodiwyd gynt gan hen gariadau,
Mae eu swynion hwy i ninnau,
Tyrd enethig fwyn.
Tyrd at gamfa'r oed yr awrhon,
Hyfryd lannerch ddibryderon,
Sibrwd yno dy gyfrinion,
Tyrd, enethig fwyn.
Dacw'r lloer oedd yno'n gwylio
Hen gariadau'r fro'n cofleidio;
Gŵyr sawl amod gadd ei selio,
Tyrd, enethig fwyn.
Beth os ydynt hwy yn gorwedd
Yn nistawrwydd hendre llygredd?
Yn eu bywyd bu gorfoledd,
Tyrd, enethig fwyn.
Os mai tywyll y ffurfafen,
Paid âg oedi fwynaf feinwen;
Ni bu gwmwl heb ei heulwen,
Tyrd, enethig fwyn.
Dywed wrthyf fi dy stori,
'Rol i ddwndwr byd ddistewi;
Mae fy nghalon heno'n torri,
Tyrd, enethig fwyn.
SERCH.
MAE Gwen a minnau bellach
Yn tynnu 'mlaen mewn oed
Ond ni bu ddau dedwyddach
Mewn bwthyn bach erioed.
Mae gwallt sidannaidd Gwenno
Oedd gynt fel llenni'r nos,
Yn awr yn dechreu britho
Er harddu'i deurudd dlos.
A gŵyr fy Nuw tra'n cofio
Ddedwydded bywyd dau,
Mai anodd iawn ymado
A'r cwlwm yn tynnhau.
Trwy bob gofidiau chwerw
A thynnu 'mlaen mewn oed,
Mae Gwenno i mi heddiw
Yn dlysach nag erioed.
Wrth roi fy nghorff mewn gweryd,
(Rwy'n awr yn dweud y gwir);
Gwnewch le i Wenno hefyd,
Fydd hithau ddim yn hir.
Pan roddir ni i bydru,
O deuwch heibio'r fan,
Na foed i'ch ddibris sangu
Ein llwch yn erw'r llan.
Yn ango aeth cusanu
A phob rhyw felus hoen;
Cawn ninnau gysgu, cysgu
O sŵn y byd a'i boen.
Y GAEAF.
MAE'r gaeaf wedi dyfod
I fynydd, bryn a dôl;
Gofala Duw am wanwyn
I alw'r tlws yn ôl.
Mae'r gaeaf wedi dyfod.
A'r cread heddiw'n llwm;
Ond gwisgoedd gore'r gwanwyn
Fydd tlws friallu'r cwm.
Mae'r gaeaf wedi dyfod,
Sisialai henwr gwan,
"Disgwyliaf innau wanwyn,
Tragwyddol yn y man."
GWENLLI FOTY'R BRWYN.
Genethig hynaws heini,
Dihareb am ei swyn
Sirioled a'r goleuni
Oedd Gwenlli Foty'r Brwyn;
'Roedd hâf mewn gwisg ysblennydd
Hyd ochrau'r droetffordd gam,
Pan welais bedair ysgwydd
Yn mynd tan arch ei mam.
Hwn oedd y diwrnod cyntaf
Im weled Gwenlli dlos,
'Roedd iddi'r ddeurudd harddaf,
Tan wallt oedd unlliw'r nôs;
,Bryd hyn 'roedd ffrydiau gloewon
Yn treiglo lawr y ddwy,
Ac arlun clir o'i chalon
I'w gweled ynddynt hwy.
Ei thad yn gaeth i'w chwantau
Aeth yn oferddyn ffol,
Rhy wan ymbilgar ddagrau
Y ferch i'w gadw'n ol;
Ei gofid geisiai guddio,
Tra hyglyw ddwedai'i gwedd,
Ei bod yn cyflym wyro
I gynnar, gynnar fedd.
Aeth popeth bron i'r dafarn
Ac O wirionedd erch,
Y tad a chalon haiarn
Fu'n agor bedd ei ferch;
Pan wenai blodau cynnar,
Pan ganai côr y llwyn,
Mewn arch ar ysgwydd pedwar
Aeth Gwenlli Foty'r Brwyn.
WRTH Y FFYNNON.
HAWDD i minnau ydyw cofio
Oedi melus mab a merch,
Hithau'r lleuad oeraidd yno
Wrth y ffynnon fel yn uno
Yng nghyfaredd hudol serch.
Wylodd Morfudd ddagrau gloewon
O eigionnau ifanc fron,
Yno 'ngwydd y lloer a'r ffynnon,
Oni chefais gan y fannon
Olud puraf mynwes hon?
Oedais yn y llannerch honno
Ymhen misoedd wedi hyn,
Wrth y ffynnon hawdded wylo
Tybed ydoedd hithau'n cofio
Addunedau Morfudd Wyn?
RHOWCH I MI'R ENETH.
Rhowch i mi'r eneth dirion
Fedd ar gymeriad glan,
Fodlona fod yn ffyddlon
I mi trwy ddwr a thân;
Yr eneth eill gusanu
Heb fynd i'r tiroedd pell,
Bydd hynny'n gwneuthur caru
I ddau yn llawer gwell.
Rhowch i mi'r eneth honno
Dosturia wrth y gwan,
Yr eneth fentra frwydro
A'r byd i wneud ei rhan;
Yr eneth geidw'r aelwyd
Yn addurn ar ei rhyw,
Bydd hynny'n gwneuthur bywyd
I ddau yn werth ei fyw.
Rhowch i mi'r eneth brydferth
Mewn symledd gwisg a moes,
Heb unwaith fynd yn aberth
I ffol ffasiynnau'r oes;
Yr eneth gyda gwenau
Wyneba 'stormydd blin,
Try hynny bob gofidiau
I ddau yn felus win.
Rhowch i mi'r eneth lednais
Ni waeth os bydd dylawd,
Heb yn ei chalon falais,
Nag yn ei genau wawd;
Yr eneth drwy ddrycinoedd
A'i chariad yn cryfhau,
Cewch weled llifo'r nefoedd
I mewn i fywyd dau.
SIAN.
ER gweled llawer geneth lân
'Doedd neb fel Sian i'm swyno,
Wrth edrych ar eu deurudd hardd
Yr oedd y bardd yn gwrido ;
Tra'n meddwl am cael profi'r gwin
Oedd ar ei min a'i selio.
Mi gofia'r cwrdd o dan y lloer
Tra'r barrug oer ar fynydd,
Er hyn yng ngwres calonnau glân
Yr aeth y tân ar gynnydd;
A meddwl am yr oedfa hon
Ddoluria 'mron i beunydd.
Mi wn ei gweled wedi hyn
Hyd fin y llyn yn rhodio,
Od oedd y gwanwyn tan ein traed
Y feinir gaed yn gwywo,
Yng nghanol swynion drud y pau
Mi dorrodd dau i wylo.
Ymhen y ddeufis cerddwn i
I'w harwyl hi'n amddifad
A hawdded wylo dagrau parch
Ar gaead arch fy nghariad;
Ond ni chuddia rhandir cur
Byth riniau pur gymeriad.
Daeth oerni henaint i fy ngwaed
A minnau gaed yn gwywo,
Yn dilyn angeu llym ei gledd
Canfyddaf fedd ac amdo;
Rhowch i mi le yn hundy Sian
Enethig lân i huno.
Na chodwch chwaith un mynor hardd
Lle bydd y bardd yn cysgu,
Ond plannwch flodau'r grug yn drwch
Uwch ben ein llwch i dyfu;
Canfyddir rhwng y clychau mân
Galonnau glân yn caru.
Pan ddelo utgorn bore'r farn
I alw darn at ddarnau,
Yr adeg honno'n deg ein gwedd
O rwymau'r bedd down ninnau;
I hedeg ar adanedd cân
I'r nefol lân orwelau.
Y GAEAF YN Y CWM.
TRA curai'r cenllusg ddellt y bwthyn llwm,
A'r corwynt bron a threisio'r fregus ddôr,
Cynddaredd anian yn gordoi y cwm,
Ond calon mam ehedai tua'r môr.
Mae'n dod i gof ystormydd lawer iawn,
Ond dim o fath y noson ryfedd hon,
Dau lygad serch o ddagrau drud yn llawn
A chalon yn dygyfor dan ei bron.
Aeth i orffwyso, ond 'roedd hun ymhell
Uchenaid ddistaw aeth at orsedd Duw,
Ac yn unigedd oer ei chyfyng gell
Disgynnodd canu swynol ar ei chlyw.
Ehedodd gyda'r gân o'r bwthyn llwm,
O sŵn y môr a'r gaeaf yn y cwm.
Y GWERINWR.
RHWNG bannau oer ei faboed
Bu'n trin yr erwau llwm
Ym mhell cyn dyddiau henoed
Fe aeth ei gefn yn grwm.
Diwylliodd hwn ei hunan
Er trymed croesau'r daith,
A chafodd Cymru gyfan
Y mêl wrth fedi'r gwaith.
Pob parch i'r prif ysgolion
A gwerth eu graddau drud;
Mae Duw yn yr encilion
Yn meithrin plant o hyd.
Rhwng bannau oer ei faboed
Bu'n nôd i lawer clwy',
Er mynd cyn dyddiau henoed
I'r bedd yn arch y plwy.
Fy Nghymru lân ganfyddaf
Yn porthi balchter ffawd,
A'i chymwynasydd pennaf
Yn mynd i'r bedd yn dlawd.
WEDI'R ANGLADD.
Clwyd y fynwent yn gauedig
Hen gyfeillion wedi ffoi;
Minnau'n araf a chrynedig
Tua'r aelwyd wâg yn troi.
Pob gobeithion wedi'm siomi,
A'u mwyniannau'n ffoi o'm gŵydd;
Yn fy nghalon drom yn cronni
'Roedd atgofion trigain mlwydd.
Wedi cyrraedd at y bwthyn,
Hawdd arogli mŵg y mawn;
Tynnai hiraeth hefyd ddarlun
Cadair wâg a beddrod llawn.
Eilwaith cofiais am y geiriau
Ganai'r dorf yn angladd Gwen,
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau
Nid oes neb a ddeil fy mhen."
TORRI'R TEGAN.
RHOIS fy nghalon iti'n gyfan,
Gyda'r nôs tan sêr y nen,
Cefais innau wên a chusan
Yn gyfnewid gennyt Men.
Hudaist fi â d'allu rhyfedd
I dy garu wirion ferch,
Ond nis credaf mai hudoledd
Fel yr eiddot ti yw serch.
Llwyr anghofio'r llw a seliwyd
Wnaethost wrthgiliedig fun,
Pob rhyw ddrud obeithion chwalwyd
Gan dy 'stranciau di dy hun.
Rhois fy nghalon iti'n gyfan,
Gyda'r nôs tan sêr y nen,
Cês hi'n ôl heb wên na chusan,
Wedi torri'n ddeuddarn Men.
Y CREWR PRYDFERTH.
Mi welais rosyn prydferth
Yng nghysgod clawdd yr ardd,
Pwy gymrodd gymaint trafferth
I baentio'i liwiau hardd.
Mi welais y briallu
Ar unig lwybrau'r coed,
Pwy ddysgodd iddynt wenu
Yn stormydd byd erioed?
Mi glywais gân aderyn
Yng nghwrr y goedlan werdd,
Pwy drwsiodd blu ei edyn
A dysgu iddo'i gerdd?
Mi welais oen yn prancio
A'i wisg fel angel Duw,
Pwy ddysgodd hwn i ddawnsio
Er llonni dynol ryw?
Pwy gymrodd gymaint trafferth
Wrth lunio rhain bob un?
Mae'n rhaid bod Hwnnw'n brydferth
Uwchlaw amgyffred dyn.
Y DDAU DROSEDD.
AR wely llwm y tloty
Gorweddai'r dlysa 'rioed,
Hi ddathlodd yno ben ei blwydd
Yn un ar hugain oed.
'Roedd baban yn ei hymyl
Heb dad i'w arddel ef,
Ysgodd yr adyn drwg y cam
Heb gofio Duw y Nef.
'Roedd gore Duw mewn Gwanwyn
Tu faes yn gwenu'n llon,
Tra yr edwinai deuros drud
Ar ddeurudd telaid hon.
Mewn plas uwch-ben eu digon
'Roedd teulu yn gytun,
Tra bolltiai y rhieni'r drws
Yn dynn yn erbyn un.
Ar wely llwm y tloty
Bu farw 'r dlysa 'rioed;
Gadawodd mwy heb dad na mam
Ei phlentyn deufis oed.
Hi syrthiodd ac fe dorrodd
Ei chalon bur yn ddwy;
Ar bedair ysgwydd estron aeth
I beidio dychwel mwy.
Rhwydd roddodd Duw faddeuant
I'r wrthodedig fun,
Tra'r ydoedd bolltau heyrn ar ddrws
Ei thad a'i mam ei hun.
Troseddodd y rhieni
Yn erbyn Duw yn fwy,
Ni wn oes gan y nefoedd drefn
I faddeu'u camwedd hwy.
Y GOEDWIG.
FE'i gwelais pan oedd stormydd gaeaf blin
Yn creulon ddifa ei harddunedd drud,
Heb delyn mwyach, yn ddiffeithwch mud
A'r chwa ogleddol droellai'r deiliach crin;
Tra'u siffrwd distaw dorrai ar fy nghlyw
Heb geisio lloches gwell na ffos y clawdd,
I mi o'u gweled buasai wylo'n hawdd
Heb le i farw wedi methu byw.
Paham mae Ef yn creu a difa'n chwim
A ddiystyra Hwn Ei Hunan mawr
Trwy godi'n uchel, a thrwy dynnu lawr?
Gofynnais eglurhad heb ddyfod dim
Nes cerdded Gwanwyn trwy y fynwent wyw
I'w throi yn goedwig hardd trwy Fydded Duw
Y CYFNOS.
DACW'r haul yn araf gilio
Yn eiriasdan tros y bryn;
Hudol rodda wrth fynd heibio
Ffarwel gusan ar y llyn.
Ar y llyn heb ddim i'w blino
Rhwyfai dau ddedwydda'r byd;
Wyddai neb yn well na Gwenno
Am yr hafan tawel clyd.
Tawel clyd yw popeth cariad
Ym mreuddwydion mab a merch;
Ni wna drycin drom ei sangiad
Fenu ar obeithion serch.
Serch fy Ngwenno sydd yn aros
Yn eiriasdan tan fy mron;
Rhaid i minnau garu'r cyfnos
Wedi ennill calon hon.
Calon hon ddaeth imi'n eiddo
Geill fy rhwyfo lle y myn;
Pan bwyf i'n cusanu Gwenno
Caiff yr haul gusanu'r llyn.
Y GWANWYN.
Wyn yn dawnsio ar y lasddol,
Yn ddiglwy;
Hudol wenai blodau siriol,
Arnynt hwy.
Hirddydd braf yng nghwmni heulwen
Ar y bryn:
Atsain hyfryd cân mwyalchen
Yn y Glyn.
Wedi i'r ystormydd nerthol
Edwi'r tlws,
Oni cherddodd yr Anfeidrol
Heibio'r drws?
YN YR YSGOL.
Yn yr ysgol hudol eiriau
Fynn fy nwyn heb wybod pam,
At y bore diofidiau
Y cyfeiriais gynta nghamau
I wynebu'r byd a'i frwydrau
O gynnesrwydd aelwyd mam.
Gado'r tegan, dysgu'r wyddor,
Newid mawr i'r pumlwydd oed;
Rhoddodd imi lawer cyngor
With fy hebrwng at y sgubor
Tra 'roedd drws y byd yn agor
Imi y waith gynta 'rioed.
Misoedd aeth ynghyd â blwyddi,
Megis breuddwyd cyflym hynt,
Trechais innau lu o'r gwersi
Codais gestyll dirifedi,
Ond er siom ac alaeth imi
Aeth eu llwch i'r pedwar gwynt.
Mae y gloch yn galw eto,
Ond i ysgol fwy ei bri,
Heddiw gwelais yn ymdeithio
Mewn llawenydd tuag yno
Heb ofalon byd i'w blino,
Blant y plant adwaenwn i.
HWYRDDYDD HAF.
TROS ysgwydd bell y bryn anturia'r nos,
A thynn ei llenni tros ffenestri'r dydd,
Y fwyalch wedi odli alaw dlos
Yng nghyngerdd anian yn noswylio sydd.
Afrifed flodau a'u hamrannau 'nghau,
I huno'n esmwyth heb un arswyd blin,
Lledrithia angel i'r heddychol bau,
Ireiddia'r oll â'r gwlith tynera'i rin.
Mor fud yw popeth, nid oes mwyach dant
Na siffrwd awel yn y deilios chwaith,
Nid oes a glywir onid su y nant,
Ymdroella'n ddiog dros y graian llaith,
Tan lenni'r gwyll ddwyfoled yw yr hud
A Duw yn ymdaith yn y cread mud.
POPETH TLWS.
DIFLANNODD y friallen
Dyfasai wrth y drws;
Mae Rhywun cyn y gaeaf oer,
Yn casglu popeth tlws.
Distawodd y telynnau
Oedd yn y goedwig werdd,
Mae Rhywun cyn y gaeaf oer
Yn casglu nodau'r gerdd.
'Rol cilio y friallen
A drud delynau'r coed,
Fe'i gwelais hi mewn arch yn mynd
I'r bedd yn ugain oed.
Dychwela'r gân i'r goedwig
A blodau hulia'r ddôl,
Ond ofer iawn ei disgwyl hi
O'r distaw fedd yn ôl.
Yng ngwanwyn euraid bywyd
Agorwyd iddi'r drws;
Mae Rhywun cyn y gaeaf oer
Yn casglu popeth tlws.
DAFYDD WILLIAM.
YR athro a'r pregethwr,
Y 'sgolor gwych a'r sant,
Mor anodd rhoddi'r gweithiwr
I'r bedd yn hanner cant;
Hebryngwyd cyfaill dinam
I daith annychwel mwy,
Yn arwyl Dafydd William
'Roedd gwlad o dan ei chlwy'.
Adferir clwy'r ysgariad,
Anghofir eto'r graith,
Tra'r erys ei gymeriad
Yn fyw flynyddoedd maith;
Pam syrthiwn heddiw'i gwyno,
O'i golli, peidiwn sôn,
Diolchwn fwy amdano
I Dduw ac ynys Môn.
Y CAPEL BACH.
MAE'r capel eto'n aros
Yn yr anghysbell fro,
Mi deimlais Dduw yn agos
Yn hwnnw lawer tro;
Nid ydoedd yn ddi-hanes
Od oedd ei furiau'n llwm,
A'r deiliaid mor ddirodres
A hen annedd-dai'r cwm.
Wynebau eraill welir
Yn mynd a dod i'w hynt,
Ple'r aeth y seintiau cywir
A welais yno gynt;
Dwed meini'r fynwent agos
Eu rhoddi oll dan glo,
Tra'r capel eto'n aros
Yn yr anghysbell fro.
HYD YMA.
CEI edliw os y mynni faint fy mhechod,
Ac i mi ganwaith ofer, ofer fyw,
Ond gwybydd bod y cyfan fynni ddannod,
O holl grwydriadau pella oes ddisperod
Ym môr anghofrwydd dwfn drugaredd Duw.
Gwn i mi golli nawdd y weddi ddinod
Offrymai 'nhad cyn cychwyn tua'i gell,
A llawenychu ganwaith yn fy mhechod,
Nes meddwi ar y gwin, a droes yn wermod
Yn nhlodi hyllig yr anialwch pell.
Ond wedi fy holl grwydro daeth y Bugail
I geisio y colledig tan ei glwy',
Achubwyd finnau cyn fy mynd yn yspail
Beth a ddywedi'n awr annelwig gythraul,
Am nad oes i ti hawl i ddannod mwy?
CYMDEITHION.
RHUA'r corwynt yn y goedwig,
Cura'r cenllysg ar y tô;
Tra mae'r crinddail gwasgaredig
Yn amddifaid llwm ar ffo.
Teithia crwydryn llesg ei gamau
Yn erchylltra'r storom gref;
A goleua'r fellten ofnau
Ei ddiarffordd lwybrau Ef.
Gwn ei fod yn wrthodedig,
Heb gydymaith ar ei hynt,
Ond y crinddail gwasgaredig
A erlidir gan y gwynt.
TAN Y LLOER.
Tyrd at y gamfa heno
Nid yw'n oer,
Tan y lloer
Os y byddi yno.
Anghofir holl bryderon,
Melus win
Oriau blin
Yw dy gwmni Fannon.
Ba waeth os bydd y cread
Oer ei wedd,
Fel y bedd,
Gwyn ein byd fy nghariad.
Cawn yno lwyr anghofio
Chwerw loes
Garw groes
Yn yr hir gofleidio.
Mae 'nghalon yn gynhyrfus,
Fel y don,
Tan fy mron,
Yn y nos ystormus.
Ac allwedd fy ngobeithion,
Coelia fi,
Gennyt ti,
Ddiwies deg fy nghalon.
Bum wrth y gamfa heno
Heb y ferch,
Aeth a'm serch
Yn y llannerch honno.
Dêr Fannon deg dy ddeurudd,
Dwed y gwir,
Imi'n glir,
Pam y troist yn llofrudd?
I druan tlawd siomedig
O mor oer,
Tan y lloer,
Ydyw'r galon unig.
GOBAITH YR ALLTUD.
MAE'r gornant fwyn yn llusgo
'N hamddenol trwy y cwm,
A'r defaid coesfain eto bawr
Yr hen oleddi llwm;
Hiraethus gri tylluan
Dyr heddwch drud y pau,
Tra'r cadno rydd gyfarthiad oer
Ym mhorth ei ddiogel ffau.
Yng nghesail noeth y bannau
Mae'r hen anedd-dy clyd,
Rhwng pedwar mur hen ffasiwn hwn
Bu nefoedd bore myd;
Os byth y galwaf heibio
Cyn angau ar fy hynt,
Canfyddaf yno'r drws ynghlo
Fu mor agored gynt.
Er rhoi fy nghorff i bydru
Mewn pridd, a graian oer,
Na synnwch gwrdd drychiolaeth lesg
Yng ngoleu gwan y lloer;
Na feier mor tylluan
Na'r cadno cyfrwys chwaith,
Er gwaethaf bolltau hawlio wnaf
Y bwthyn ambell waith.
RHYW GYDA'R NOS.
RHYW gyda'r nos
Enethig dlos
Y gwelais i;
Ddiorwel hud
Rhyw nefoedd ddrud
Yn eiddo ti.
Tywynnai'r lloer
Ar farrug oer
Y noson hon;
Pan ddoist yn nes
Mi deimlais wres
Dy dyner fron.
Mi brofais win
Dy ruddaidd fin,
Tan wybren glir;
Pereiddiach blas
Na gwin y plas
Dy gusan hir.
Rhyw gyda'r nos,
Enethig dlos
Y daeth i mi.;
Ddiorwel hud
Y nefoedd drud
Oedd eiddo ti.
Y GWEDDILL.
BLODEUYN yswil yn llechu
Yng nghysgod gerwin y mur,
A'r stormydd bron gorffen trechu
Darfelydd ei fywyd pur.
Aderyn unig yn distyll
O'i olud ar gangen grin;
Cynnig er gwanned wrthsefyll
Cynddaredd yr hydre blin.
Gwenynen farus yn crwydro
Mynwent y blodau yn syn;
Gollodd hi'r mêl wrth ei gludo
I ganol y tryblith hyn
Gollwng o'm gwirfodd ochenaid
Heb wybod am beth na phwy;
Medd llais o'r gorffennol euraid,
Gweddill yr hâf ydynt hwy.
GWYNT MAWR HYDRE 1927.
Bu rhywun yn tramwy neithiwr,
Rhuai mewn rhwysg yn y cwm;
Welwyd erioed mor dymchwelwr
Ond 'roedd ei ymdaith yn drwm.
Hyrddiai y ddor megis gwallco,
Tynnai y llechi o'r tô;
Crwydryn digartre mohono
Ond teyrn yn meddiannu bro
Fe gofir ei fwyell hyllig
Ar dafod ardal yn hir
Cwympodd frenhinbren y goedwig
Heb ofyn i'r Meistir Tir.
Y FODRWY.
Cwlwm ar gyfamodau,
Yng nghalon mab a merch.
Aduno addunedau
Eneiniwyd gyda dagrau
Santeiddiaf dduwies serch.
Anrhydedd priodasol
Y diwair ddeuddyn glân,
Trwy'r bywyd pur rhinweddol,
A'r cariad anorchfygol
I'w cadw'n ddiwahan.
Eithafnod penderfyniad,
Trwy uno dau yn un,
Mewn dwyfol ymgysegriad,
Arwyddnod uchaf cariad,
Yng ngoleu Duw Ei Hun.
Y FODRWY EΤΟ.
Y fodrwy gron,
O fewn i hon
Mae dau yn byw.
Mewn undeb glân
Annorffen gân
Eu cartref yw.
Breuddwydio'n hir
Heb weld yn glir
Bu llawer dau;
Hualau cur
Edwinai fflur
Santeiddia'r bau.
'Deill adwyth erch
Lle byddo serch
Ond ei gryfhau ;
Gobeithion gwyn
Y ddeuddyn hyn
Sydd yn tynhau.
Annorffen gân
Paradwys lân
Yw'r fodrwy gron;
Hyd angau mwy,
Cyd-dynnant hwy
O fewn i hon.
Y PISTYLL.
CANODD eraill i afonydd
Gluda'r llongau ar eu lli,
Nyddaf innau ganig newydd
Ore medraf wael awenydd
I dy rawd ddiaddurn di.
Mae fy nghalon glaf yn llonni,
Yn dy wir gymroaidd swyn,
Gweld dy ddyfroedd fel yn gloewi
Rhwng y cerrig wrth ymdroelli
Tua'r eigion bistyll mwyn.
Blin ymdeithydd ydwyf innau,
Plentyn yr ystorm a'r graith;
O na allwn megis tithau
Trwy orchfygu anawsterau
Fod yn lân ar ben y daith.
YR HEBRWNG.
BUM yn ei hebrwng ganwaith, eneth dlos
Yng ngwawl y lleuad draws y rhostir llaith,
Mor hawdd oedd oedi weithion ar y daith,
Yn llesmair serch tan ddwyfol hud y nos ;
Seliasom lawer amod tan y pîn,
A'r oll yn annhoredig dybiem ni,
Er gweled deigryn yn ei llygaid hi
Pan brofais ar y rhostir fêl ei min.
'Roedd yng nghalonnau deuddyn freuddwyd gwyn
Am wynfa heulog ym mharadwys serch,
Ond chwalwyd drud sylfeini cestyll derch
Ein dymuniadau, pwy esbonia hyn?
Dychwelais heno draws y rhostir llaith
O hebrwng rhywun hoff i'w holaf daith.
GYDA'R NOS.
GADEWAIS gladdfa'r pentre,
Gyda'r nos,
A throis fy wyneb adre',
Gyda'r nos;
Ond nid oedd undyn yno
Allasai gydymdeimlo,
A thorrais lawr i wylo,
Gyda'r nos.
Daeth llu o hen atgofion,
Gyda'r nos,
O drysorgell fy nghalon,
Gyda'r nos;
A chofiais am fy Morfudd,
A gwrid ei thelaid ddeurudd,
Tra'i braich am wddw'r prydydd,
Gyda'r nos.
Fe'i gwelais ganwaith wedyn,
Gyda'r nos,
A chyrls ei hirwallt melyn,
Gyda'r nos;
Ces win gwefusau rhuddon,
A santaidd addewidion,
Ynglŷn â gore'i chalon,
Gyda'r nos.
Gwna lliw y machlud cynnar
Gyda'r nos,
Rhyw arlun tlws digymar,
Gyda'r nos;
Ac felly ciliodd Morfudd,
Tra gwrid ei hifanc ddeurudd
Yn eiliw prydferth hafddydd,
Gyda'r nos.
Daeth Morfudd ataf heno,
Gyda'r nos,
Er gwaetha bedd ac amdo,
Gyda'r nos;
Hi sychodd ffwrdd y deigryn
A chyrls ei hirwallt melyn,
Gofynnodd im ei dilyn,
Gyda'r nos.
Y TWYLLWR.
GWN na bu un o'i phrydferthach
Ymysg ei holl gyfoed hi;
Ddaeth neb a chalon onestach
I'r cwmwd y magwyd fi.
Mae'n anodd ei 'nabod heddiw,
Wel druan o'r brydferth brudd ;
Ac arlliw ei gofid chwerw
Edwinodd rosynnau'i grudd.
Braint ydoedd yn un o bedwar
Rhoi ysgwydd o tan ei harch;
Gwn na ddaeth y fath alar
I'r hendre, a chymaint parch.
Caewyd y bedd ers blynyddau,
Aeth ing y brydferth tros go';
Ond clywir ei hucheneidiau
Fel 'sprydion yn llanw'r fro.
Welwyd hyd yma mor adyn
A'i twyllodd tan arlliw serch;
Dial y nef fyddo'n dilyn
Brwnt lofrudd y lanaf ferch.
DAU ANGERDD.
GWASG yn dynnach, dynnach Gwenno,
Gwrando nghariad ar fy nghwyn,
Teimla'r galon bura'n curo
Mewn hualau er dy fwyn;
Mae eigionnau yn dygyfor
Yn ei gwannaf guriad hi,
Wnei di heno daflu angor
Dy ffyddlondeb ar ei lli?
Tonnai'r gwaed i'w deurudd burlan,
A chyfrolau ym mhob ton,
Minnau'n darllen yn ei chusan
Ddyfned gofwy enaid hon;
Nid wy'n cofio a ddigwyddodd
Wedi hynny'r nef a'i gŵyr,
Ond eigionnau blin dawelodd
'Rol im ennill honno'n llwyr.
Tynnu mae'r hen gwpwl diddan,
Tua'r talar erbyn hyn,
Gwasgu llaw ac ambell gusan
Ar y siwrne tua'r glyn;
Gwasg yn dynnach, dynnach Gwenno,
Mae'r gorwelion yn neshau,
Hwylia'r bad i'r hafan heno,
Cawn y nefoedd eto'n dau.
ROLI.
Bu Roli heddiw'n curo
Wrth gotai llwm y fro,
Daw ar ei drafel heibio
Yr ardal er cyn co';
Ac ni bu esgeuluso
Ynglŷn â'i raglen o.
Mae'n cludo nwyddau gwerthu
Mewn blwch tan ei fraich dde,
A'r cyfan wedi'u gwasgu
I 'chydig iawn o le;
'Does nemor yn masnachu
Onested ag efe.
Na fyddwch wrtho'n galed
Os geilw ar ei rawd,
'Deill Duw byth odde'i wele
Yn destun sen a gwawd;
Tra cofia Un fu'n cerdded
Heolydd byd yn dlawd.
Daw ar ei drafel heibio
Yr ardal er cyn co';
Ac os na eilw eto
Fel arfer yn ei dro,
Bydd hiraeth am ei guro
Yng nghotai llwm y fro.
YR HENWR.
Mi wela'r henwr tawel
A'r "Hymnau" tan ei fraich;
Nid oes ond Seiad Bethel
Eill ysgafnhau ei faich.
'Roedd niwl yn y panylau
A thros ei enaid trist,
Ac nid oedd dim a'i chwalai
Ond presenoldeb Crist.
Ar ol yr oedfa dawel,
Cychwynodd tua thref;
A llusern Seiad Bethel,
Oleuai'i lwybrau ef.
Cyrhaeddodd trwy y caddug
A'r "Hymnau" tan ei fraich,
Canmolai'r Gŵr caredig
Oedd wedi dwyn ei faich.
PETHAU HOFF.
NID rhu y môr
Sydd wrth fy nôr
A'i donnog li;
Ond cornant fach
A'i murmur iach
A'm denodd i.
Ehedydd mwyn
Mewn grug a brwyn,
I mi sy'n well
Na'r eos dlos
Delora'r nos
Mewn brodir bell.
Blodeuyn brith
Ar lethrau'r ffrith
Yn gwasgar sawr,
Mewn gwynt a glaw
Yn nhyner law
Y Garddwr Mawr.
Melodi'r nant,
Y cynnar dant,
Heb nemor fri,
A'r blodyn gwyllt
Ar lwybrau'r myllt
A garaf i.
Y NWYD ANORTHRECH.
TYRD bellach fun fy nghalon tua'r oed
I heddwch drud diarffordd lwybrau'r wlad,
Cawn yno ryddid i feddiannu'r stad
Sydd i bob dau yn eiddo glân erioed,
Yng nghwmni'r crinddail a'r awelig oer
Cawn ddrachtio o gysuron fel y gwin;
A gwylaidd selio'n ddistaw fin wrth fin
Ddianaf hewyd serch tan wawl y lloer.
Cyn dychwel profwn werth eiliadau mud
A dwfn gyfrinach y distawrwydd hir,
A rhithio'n esmwyth i'r santeiddiaf dir
Lle try'r uchenaid wan yn alaf drud,
Fe ddeffry tro hudolus llygad merch
Rhyw nwyd anorthrech eilw'r byd yn serch.
Beth eill fod hwnnw namyn ysfa ffol
Neu gythraul aflan yn nhiriogaeth cnawd,
I gilio eilwaith ar fuanaf hawd
Heb ado onid atgo brwnt o'i ôl?
Gwae i mi groesi ei anoddun ffin,
Na rhodio'i lennyrch heiniog yn fy myw,
V nef freuddwydiol droes, os hynny yw,
Yn Hades dywyll i eneidiau crin.
Beth allsai beri 'nghreu yng nghroth fy mam
Cyn baeddu f'enaid wrth grochanau'r byd,
Pan genid santaidd odlau uwch fy nghrud,
A'm henwi'n angel pur heb wybod cam?
Deleidiaf wyryf tyred tua'r oed,
Mae'r nwyd anorthrech gryfed ag erioed.
FIN HWYR.
TRA syllai'r wenlloer dawel
I lygad glas y llyn.
Tra siffrwd tyner awel
Gyfrinach yn yr yun,
Mor agos ydyw'r anwel
Ar gyfnos braf fel hyn.
Cyfeiriais innau'n araf
At hendre nhad a mam,
Gwych gartre'r breuddwyd cyntaf
Bryd na choleddwn gam,
Er tloted yw fe'i caraf
A'r nefoedd wyr paham
Lle bu y garreg aelwyd,
Penliniais gyda'r nos,
Daeth gwynfa bore bywyd
Yn ôl i'r Eden dlos,
Ac engyl gwyn fy mreuddwyd
Hofrannai uwch y rhos.
Tan ledrith hwyrddydd tawel
A swyn y llannerch fud,
Canfyddais dyner angel
Yn gwylio mabol dud,
A theimlais hud yr anwel
Yn hendre'r breuddwyd drud.
Y 'STORI.
DYWEDWCH im y stori
Am Iesu'r dwyfol Aer,
Yn dewis y tylodi
A gaed yng nghoty'r saer.
Ystori dlos y preseb,
A'i eni yn y gwair,
Etifedd tragwyddoldeb
Yn sugno bronnau Mair.
Dywedwch stori'r bradwr,
Ac ingoedd Calfari,
Mae cariad y Gwaredwr
Yn tanio f'enaid i.
Os gwelir fi heb bechod.
Wrth orsedd wen yr Aer,
Rhyfeddod pob rhyfeddod
Fydd stori coty'r saer.
MURMURON ATGO.
Fy nhelyn hoff cyweiria eto'r tant
A distyll odlau fel y tyner wlith
Ireiddiai bob dechreunos flodeu'r ffrith,
Gerllaw y bwthyn bach ar fin y nant.
Anadla eilwaith yn y frodir bell
Ddihewyd hyfryd dy ifengaidd hoen,
Cyn gwybod profi o hualau poen
Ond sugno heiniog rawn dyfodol gwell.
Ceir amhrisiadwy werth mewn adwyth blin,
Tra byw o fewn ei fagwyr a'm tristâ,
Er profi mewn anobaith ambell chwa
Dry holl gymhelri'r cefnfor imi'n win.
Miraglau Duw sydd eto yn y wlad
Y siglwyd finnau gynt yn swn y mawl,
I gaddug fy anobaith rhithia gwawl
Y nef a brofais pan yn aer y stad.
I mi y tyfai'r blodau fyny'r cwm,
A grug y bannau yn eu porffor tlws;
Y fi oedd piau'r gornant basiai'r drws,
A chân uchedydd uwch y marian llwm.
Y fi oedd piau'r nythod yn y brwyn,
A'r gruglys aeddfed grynai wrth fy nhroed
Prydferthion drutaf daeár i mi roed,
Brefiadau defaid a dawnsfeydd yr ŵyn.
Ond rywsut cilio a'r fuannaf hawd
O ŵydd drycinoedd cethrin wnaethant oll;
A minnau wylaf am y "Wynfa Goll,"
O gyfoeth ienctid wedi mynd yn dlawd.
Er mynych grwydro geirwon lwybrau'r Groes
A chilio'r cyfan tros anychwel ffin,
Rhywelais obaith ym mhangfeydd y drin
Yn dadleu imi hawliau'r nef a ffoes.
O chollais lawer, mi ennillais fwy,
Eglurir hynny pan esbonia Duw,
Holl droeon garw'r byd wyf ynddo'n byw
Hyd hynny sugnaf win o'u hatgo hwy.
RHINIAU'R OFFRWM.
Rwy'n cofio'n dda fy mynd i'r capel gwledig,
Yn llaw fy nhad yn blentyn pumlwydd iach;
A chofiaf am yr henwr blin crynedig
Yn gwylaidd blygu tan y pulpud bach.
Anniddig oeddwn yn nihewyd plenyn,
A gormod tasg oedd gwrando'r weddi faith,
Ond welais i na neb ond Duw y deigryn
A leithiau'i ddeurudd hen yng ngwres y gwaith
Er huno'r henwr crwm ym mreichiau'r Ceidwad
A rhuthro trigain gaeaf dros ei fedd;
Daw eto furmur rhiniau ei gymeriad
A dry i f'enaid yn dragwyddol wledd
ABERYSTWYTH.
Yм miri'r dref a'r cynnwr,
'Does yno nemor swyn,
Mae'n well i enaid prydydd
Na gwymon, rug a brwyn;
Nid swynol glŷch y Cantre,
'A'r lawer nos ddistŵr,"
Chwaith ddenodd fy serchiadau
Wrth "ganu tan y dŵr."
Ar lwydion furiau'r castell
Mae cen canrifoedd hir,
Yn siffrwd cyfrinachau
'R gorffennol eto'n glir;
Mi wn y gallwn aros
Hyd angau ar y tŵr,
Heb fy hudoli ganddynt
"Na'r clychau tan y dŵr."
Nid cusan olaf Ystwyth
Ar fin y cefnfor maith,
Na thraddodiadau'r glannau
A aeth â 'nghalon chwaith;
'Rol gweld y ferch â'm carodd
Ar lawer nos ddistŵr,"
Ni chofiwn furiau'r castell
Na'r "clychau tan y dŵr."
WEDI'R 'STORM.
OEDAIS hyd erwau yr henfro
I weld ei phrydferthion hi,
Teimlais rhyw ledrith yn swyno
Dwfn fy ymwybod nes taro
Ar dannau fy nghalon i.
Daeth cwmwl i dduo'r asur,
Ac awel gynhyrfai'r coed,
Profais arteithiau anghysur
Ban welais ddinistrio'r lwysbur
Baradwys brydfertha 'rioed.
Goleuai y fellten danbaid
Gymylau ddued â'r nos,
Griddfennais yn nwfn fy enaid,
Tra'r storm a'i chynddaredd di-baid
Anrheithiai fy Ngwynfa dlos.
Arafodd elfennau'r cyffro,
Peidiodd y cynni a'r cri,
Can's angel gwarcheidiol oedd yno
Diolchais i'r Nefoedd amdano,
I gadw'i phrydferthion hi.
YN YR HWYR.
Y DYDD a suddodd yn y pell orllewin,
A dring y lloer lechweddi'r mynydd serth;
Tra clywir islais deuoedd bro yn chwerthin,
Wrth lawer camfa, a than lawer perth.
Fyrred eu horiau ym mhangfeydd breuddwydiol
I felus oedi yno fin wrth fin;
A sugno'n helaeth o'r cusanau hudol
Heb ofni meddwi ar bereidd-dra'r gwin.
Yr henwr legach sydd yn cadw noswyl,
A'r almon aeddfed ydyw coron hwn;
Os gwael ei enllyn, caled iawn ei orchwyl
A'r fraich grynedig nid yw gref mi wn.
Nis gŵyr y nefoedd sy'n 'nghalonnau'r ifanc,
Wrth oedi'n ddeuoedd hyd rodfeydd y fro;
Ond wedi dod yr Hwyr hiraetha ddianc
Lle bydd arteithiau'r brwydro'i gyd dros go'.
COLLI'R FFORDD.
'ROEDD ei thad yn ŵr gweddol barchus,
A'i mam am wn i'n ddifai;
Fe'i magwyd mewn gobaith pryderus
Dynered a blodyn Mai.
Gadawodd ei chartre yng Nghymru
Am ferw y ddinas fawr;
A hwythau'r hen gwpwl yn mynnu
Ei chofio 'mhob gweddi'n awr.
Ymlusgodd blynyddoedd o bryder
Trwy'r bwthyn yn hedd y wlad;
A gofid yn ol ei hen arfer
Wargrymodd y fam a'r tad.
Hwy wyddent fod Duw yn y nefoedd
Yn gwrando holl gri Ei blant;
Ond beth wyddent hwy am y 'strydoedd
Mae'r diafol yn porthi chwant.
Fe'i gwelais yn hafddydd ugeinmlwydd
A barrug nos yn ei gwedd,
Canfyddais fod cysgod ei haflwydd
Yn dduach na nos y bedd.
Bu farw yn fun waradwyddus,
Cyn mynd o'r ymbil ar drai;
'Rol cychwyn o'r aelwyd gysurus
Dynered â blodyn Mai.
YR YNYS.
TYRD i'r cwch fy nhirion,
Hwyliwn tros y lli;
Hwnt i bell orwelion
Mae ein cartre ni.
Parod wyf i rwyfo
Wrth dy amnaid ferch;
Cyrchwn tuag yno
Ym mhleserfad serch.
Gwn am brydferth hafan,
Hwnt i niwloedd cur;
Cluda'r awel weithian
Beraroglau'i fflur.
Tyrd o'r cwch fy nhirion,
Gâd y tonnog li;
Ynys dlos Breuddwydion,
Awn meddiannwn hi.
MEWN ALBUM.
Dim ond rhosyn
Gwyn melyn
Ar y grwn;
Haul a chawod
Heb yn wybod
Baentiodd hwn.
Cân aderyn
Ar y brigyn,
Gyda'r wawr,
Yn y bore,
Ddaeth â gore
Duw i lawr.
Dim ond canu,
Dim ond gwenu
Ym mhob man;
A daw gwleddoedd
Gore nefoedd
Duw i'n rhan.
Y POSTMON.
YN fyr ei gam a'i gefn yn grwm
Mae'n mynd i'r daith bob bore;
Os garw'r troetffyrdd fyny'r cwm
Efe sy'n gwybod ore.
Ond hawdded beio rhiwiau serth
Wnaeth gestyll drud yn gandryll;
Daeth hwn i wybod cyflawn werth
Ychydig nerth sy 'ngweddill.
Bodlona fyw ar enllun gwael
Yn ffyddlon was i'r Brenin;
Os ar adegau'n drwm ei ael
Mae'i gymwynasau'n ddibrin.
A phwy yn unman ddywed werth
Y pensiwn gwael sydd iddo;
Mae'r postmon wedi gwario nerth
Y dyddiau gwell amdano.
Yn fyr ei gam a'i gefn yn grwm
Mae'n troi yn ôl o'r siwrne;
Os garw'r troetffyrdd fyny'r cwm
Efe sy'n gwybod ore.
Y PRIS.
ER dryllio tannau'r delyn
Ddiddorai 'nghalon gynt,
Mae eto ambell nodyn
Disberod yn y gwynt;
Ystormydd wnaeth yn gandryll
Freuddwydion melys ffol,
Rhaid wrth y nos er ennill
Gobeithion dydd yn ôl.
Er prudded orfod casglu
A ddrylliwyd yn y drin,
Y wermod ddysg im garu
A gwrthfawrogi'r gwin;
'Dyw colli'r holl fwyniannau
Oedd yn y cwpan llawn,
Ond ein hyfforddi ninnau
I ddysgu prisio'n iawn.
Rhaid yw wrth aeaf eilchwyl
A rhodio rhandir cur,
Neu ofer iawn fydd disgwyl
Yr hâf a'i felfed fflur;
Anghofir popeth wariwyd
(A digon hawdd fydd hyn),
Wrth weld y delyn ddrylliwyd
A'i thannau eto'n dynn.
AR GARBED O BALI.
AR garbed o bali
Tan gysgod yr hwyr,
Gofynnais gan Sali
Ei chalon yn llwyr;
Er gwrido ei hwyneb
A throi ei phen draw,
Mi deimlais yr ateb
Yng ngwasgiad ei llaw.
'Roedd dwsmel awelon
Ym mrigau y coed,
A minnau a nghalon
Mor glaf ag erioed;
Daeth cri y gwylanod
Mal hiraeth o'r traeth
Ac euthum tan orfod
I'r eneth yn gaeth.
Cydgordiai fy nghalon
A chalon y ferch
Cusenais hi droeon,
Un rhyfedd yw serch;
A'i grudd fel y porffor
Yn swil meddai hi,
"O heno hyd elor
Dy eiddo wyf i."
Hebryngais y lanwedd
Hyd lwybyr y ddol,
A theimlwn yn rhyfedd
Wrth gerdded yn ol;
Ennillais fy Sali
A'i chalon yn llwyr,
Ar garbed o bali
Tan gysgod yr hwyr.
EIFION WYN.
GWYDDOM bellach faint yr alaeth
Pan y ciliodd yn y glyn,
Ond ein cysur yn ein hiraeth
Ni bu farw Eifion Wyn.
Syrthiodd gwerin dlawd i wylo
Aeth calonnau gwlad yn llyn,
Ond daw adlais i'n cysuro,
"Mynd i'r nef wnaeth Eifion Wyn."
Beth os yw ei Fenna'n unig
Ac yn methu deall hyn?
Iesu tirion a charedig,
Cofia briod Eifion Wyn.
Pan ddaw stormydd hydre'i chwythu
Yn henafol dderw'r glyn;
Cofia'n dyner y pryd hynny
Am Beredur Eifion Wyn.
Wrth y bedd ym mynwent Chwilog
Mae yr awen heddiw'n syn;
Ac o'r "ywen ddu ganghennog"
Hola serch am Eifion Wyn.
Llawer beddrod dinod harddwyd
Gyda marmor drud cyn hyn;
Codi colofn yn ei fywyd
Gredaf i wnaeth Eifion Wyn.
Ffug a rhodres ewch oddiwrtho,
Gwylaidd ydoedd, ac nis mynn;
Tra bo'r iaith ar dafod Cymro
Perchir enw Eifion Wyn.
Cerdda Cymru'n ddistaw heibio
Mynor costus feddau'r glyn;
Ond rhaid oedi'n hir i wylo
Uwch gorffwysfan Eifion Wyn.
"Yn yr Allt ar lannau Dwyfor,"
Crwydra rhywun heddiw'n syn;
Tra mae'i chalon yn dygyfor
Wedi colli Eifion Wyn.
Y GWAHODD.
(Trwy ganiatad caredig y "Western Mail.")
MAE serch yn galw arnom,
O tyrd fy mun am dro;
Cawn ddychwel pryd y mynnom
Hyd lwybrau cudd y fro.
Cawn ar y bryniau uchel
Anadlu newydd hoen;
A rhodio llennyrch tawel
Lle ni anturia poen.
Cawn wrando cân aderyn
O'r golwg yn y dail;
A syllu ar flodeuyn
Na phaentiodd dyn ei ail.
Os deui ngeneth dirion
Hyd lwybrau cudd y fro;
Agoraf iti'r galon
Sydd hyd yn hyn dan glo.
TACHWEDD II, 1928.
DAETH Tachwedd eto yn ei dro
Tros erwau llwydion Cymru,
Rhaid cofio'r plant y sydd yng ngro
Yr estron pell yn pydru.
Mae'u henwau ar y golofn fud
Mewn llawer llan a phentref,
Ond wedi'r oll mae telyn ddrud
Yng ngholl. yng nghân y cartref.
A'r miloedd heddiw'n llwm eu gwedd
Hyd ffyrdd ein gwlad yn crwydro,
Fu'n rhoi i rywrai esmwyth sedd
Ymhell o sŵn y brwydro.
Rhaid rhoddi'r cleddyf yn y wain
A bario safn y fagnel,
A phlannu blodau yn lle drain
Hyd erwau gwaedlyd rhyfel.
Ein gweddi ä at Orsedd Duw
Am weled deffro'r Senedd,
Fel câ'r cyffredin hawl i fyw
Tan faner wen Tangnefedd.
Beth os mae'r ddraig sydd unlliw'r gwaed
Fynn hawlio lluman Prydain?
Pan gwyd y werin ar 'i thraed
Yr Oen fydd yno'n arwain.
Pa beth wna cofio'r flwyddyn hon
Trwy y munudau tawel,
Ond ail ddyfnhau y glwyfus fron
Wyr beth a gostiodd rhyfel.
Yr unig ffordd i leddfu clwy'
Bywydau aeth i golli,
Yw peidio sôn am Ryfel mwy.
Yng ngŵydd yr oes sy'n codi.
AR Y TROTHWY.
HIR oedais ar y trothwy
Cyn mentro rhoddi llam,
Yn blentyn digynorthwy
Tan ofal cariad mam;
Mae'r garreg yno'r funud hon
Fel llwyfan cynta maboed llon.
Gwn groesi'r hên derfynau
Oedd rhyngwyf i â'r byd,
Gwn hefyd golli hawliau
A nawdd y cartre clyd;
Llychwinwyd llawer gobaith tlws
Flagurai'n ddengar wrth y drws.
Mi gofia'r pridd yn disgyn
Ar gaead arch fy mam,
Ystormydd llawer blwyddyn
A'm gwnaeth yn henwr cam,
A hydre henaint bellach gaed
Yn cyflym gerdded trwy fy ngwaed.
Af eto at y bwthyn
Ymdrechaf lamu'n ôl,
Tros bob rhyw glawdd a therfyn
I'r diniweidrwydd ffol;
Os na chaf falm i galon glaf,
Bodloni marw yno wnaf.
AR Y GORNEL.
AR lawer cyfnos dawel
Hawdd cofio'r fintai iach,
Yn oedi ar y gornel
Cyn i gysgodion rhyfel
A thrystfawr sŵn y fagnel
Ddihuno'r pentre bach.
Fan hon daeth Deio'r Hafod
I gwrdd â'r Forfudd dlos,
Vr oriau difyr hynod
Giliasant megis cysgod
Gwn nad oedd le i drallod,
'Mhlith arwyr gwaun a rhos.
Mae bellach golofn yno
Ar ol yr heldrin hell,
Bob nos daw un i wylo
A darllen enw Deio
Sydd yn di-freuddwyd huno
Yn Saloneica bell.
HYDRE.
DAETH arlliw hydre weithion
Tros harddwch pur yr hâf
Ceir oriau tywyll hirion
Lle bu'r cyfnosau braf;
Bu machlud drud Mehefin
Yn euro'r llwybrau hyn,
Tra heddiw chwyth y ddrycin
Y crinddail lle y mynn.
Mae'r nyth o tan y bondo
Yn wâg 'rol colli'r gainc,
A'r plant feithrinwyd yno
Aeth i ddeheubarth Ffrainc;
Tra'r gwcw swynai 'nghalon
Cyn hynny aeth i ffwrdd,
Rho wybod hydre creulon
A gawn ni eto gwrdd?
Cei bellach daenu'r barrug
I edwi'r glân a'r tlws,
A dod bob bore'n sarrug
A d'oerwynt at fy nrws;
Os ydwyt lofrudd gwancus,
Mi wn na elli di
Byth ladd yr atgo melys
Sydd yn fy nghalon i.
DAFYDD IFANS.
WYF bellach wedi colli'r henwr mwyn,
A'r Cristion aeddfed (pwy amheua hyn?)
Tra gwypwyf yn fy ngalon fod y glyn
A'i fwrllwch oer cydrhyngom-ofer cŵyn;
Ond ucheneidiaf o eigionnau cur
O golli braffed enaid âg efô,
Tra erys yn anniflan yn y cô,
Berarogl esmwyth ei gymeriad pur.
Gwn iddo aru cwys i dalar oes
Heb wyro nemor (fel gwna ambell un),
A chau'i amrannau yn ei olaf hun
A'i bwys yn drwm ar fynwes Gŵr y Groes;
Onested ydoedd gwn yr hoffai'r nef
Weld cwysau lawer fel yr eiddo ef.
YR HEN DORRWR BEDDAU,
(Myfyrdod yn ei angladd;)
CRINDDAIL, hydre'n drwm ar wasgar
Ymhob man,
Pan aeth ef ar ysgwydd pedwar
Tua'r llan;
Rhyfedd daith y tir diysgar
Ddaeth i'w ran.
Crwydrai awel oer y dwyrain
Tros ei fedd,
Tinc y gloch mor brudd, ac unsain
Darfai'r hedd,
Yntau'n henwr pedwar ugain
Gwael ei wedd.
Ef fu'n torri'r beddau tawel
Bob yr un,
Croesodd ffiniau'r broydd anwel
Gymrawd cun,
Ond anghofiodd dorri argel
Iddo'i hun.
"RHOSWEN."
(Ysgrifenwyd yn ei Halbum).
GENETHIG dyner, lednais fwyn,
Yn deilwng ferch yr awen,
Un a'i gwyleidd-dra yn eich dwyn.
I'w charu ydyw Rhoswen.
Geill hon yn fedrus lunio cân
(Mae hynny yn ei helfen),
Ond wedi'r oll cymeriad glân
Yw coron bywyd Rhoswen.
Boed llwybrau'r daith yn llawn o fflur
A'i hoes i gyd yn heulwen,
Mae'r nefoedd yn edmygu'r pur
Nodwedda fywyd Rhoswen.
Neu os daw'r groes a'r cwmwl du
I guddio glesni'r wybren,
Mi wn bydd engyl Duw yn llu.
Wrth law i gymorth Rhoswen.
❃❃❃❃❃
ODLAU HIRAETH.
❃❃❃❃❃
CHWITH ATGO.
Am y Ddiweddar Mrs. Elizabeth Pugh, Rhiwgam, Aberhosan.
TRA llym awelon Rhagfyr
Ar y llechweddau llwm,
A'r gornant fach yn murmur
Yn oeraidd yn y cwm;
'Doedd bellach dant i'w glywed
I lonni'r galon wan,
Na blodyn bach diniwed
Yn gwenu yn un man.
Mewn hen amaethdy diddos.
Yng nghwrr y mynydd draw,
Yn gwrando cŵyn yr hirnos
A thincial trwm y glaw;
Canfyddaf deulu dedwydd
Yn estron i bob clwy,
Ac nid oedd unrhyw arwydd
Y tarfai gofid hwy.
Eisteddent oll yn gryno
Oddeutu'r pentan clyd,
A minnau bron yn dotio
Gan wynned oedd eu byd;
Ac ar y boncyff derw
Mewn hwyl ymborthai'r tân,
Ni welais wyneb gwelw
Yn oedfa'r aelwyd lân.
Es heibio 'mhen yr wythnos
A'r oerwynt ar y waen,
'Doedd' unpeth yn ymddangos
Yn debig fel o'r blaen;
Daeth brwnt ymwelydd sydyn
I darfu'r heddwch drud,
O'i ôl 'roedd ofn a dychryn
A thelyn aur yn fud.
'Doedd oeraidd gŵyn y gaeaf
Oddiar y mynydd mawr,
Ond arlun amherffeithiaf
O'r teulu hwn yn awr;
Yn lle y gân, daeth wylo,
I erddi'r Eden dlos,
Calonnau wedi dryllio
O tan gysgodau'r nos.
Aeth un o'r mamau gore
I'r bell annychwel hynt,
A holl gysuron cartre
Ar chwâl i'r pedwar gwynt;
Edwinwyd egin gobaith
Yn awel oer y drin,
Cysuron aeth yn anrhaith
O flaen y deifwynt blin.
Agorwyd beddrod bellach
Yng nghwrr y fynwent ddu,
Agorwyd beddrod dyfnach
Yng nghalon priod cu;
Lledrithiai hen atgofion
I borthi'r ing a'r braw,
Ail oeddynt i ysbrydion
Anelwig ar bob llaw.
'Roedd yno blant yn griddfan
Lle bu'r llawenydd drud,
Can's gwyddent golli tarian
Rhag creulon ddwrn y byd;
Nis medd y ddaear linyn
Heb wneud aruthrol gam,
Eill fesur gofwy plentyn
O golli nodded mam.
Llafuriodd bron yn ddibrin
O wawr, hyd oleu'r lloer,
Trwy desni Alban Hefin
Ac Alban Arthan oer;
Hi wyddai golli cysgu
Mewn llawer hirnos flin,
Ond troai gwasanaethu
I hon yn felys win.
"Roedd ynddi rhyw barodrwydd
Annisgrifiadwy bron,
A thyfodd caredigrwydd
Ynglŷn â natur hon;
Ei chalon gurai'n gynnes
At weiniaid o bob rhyw,
A chollwyd boneddiges
Pan hunodd Leisa Puw.
Nid proffes oedd ei chrefydd,
I ddilyn sect, a phlaid,
Ond codi'r dioddefydd
O'r gwter oer a'r llaid;
Bu'n ffyddlon yn y capel,
(Nid dyna'i nerth ychwaith),
Ond gwyddai yn y dirgel
Am grefydd dillad gwaith.
Daw'r gaeaf tros Foel Fadian
Ac i'r llechweddi llwm,
Ymdroella'r gornant fechan
Fel arfer yn y cwm;
Bydd rhywrai eto'n disgwyl
Am glywed sŵn ei throed,
A bolltio'r drws yn orchwyl
Creulonach nag erioed.
Tros deulu yn ei alar
Boed diddos aden Duw.
Er dryllio breuddwyd cynnar
Nid annobeithiol yw;
A hithau'r fam oedrannus
Yn nhawch yr hirnos ddu,
Boed iddi'r meddwl hapus
Bod gore'r nef o'i thu.
Daw plant y blin drallodion
"Ar dorriad bore wawr,"
"Oll yn eu gynnau gwynion
Yn iach o'r cystudd mawr;'
Try trymion groesau'r ddaear
Yn heirdd goronau drud,
Fydd yno neb mewn galar,
Na thelyn aur yn fud.
ER COF
Am y ddiweddar Mrs. Catherine Evans, gynt o'r "Mynachdy," Aberhosan.
I FYNWENT Aberhosan trof yn awr,
Er distyll deigryn parch ar lawer bedd;
Lle'r huna rhywrai mewn difreuddwyd hedd
Nes delo'r alwad i'r Gymanfa Fawr.
Mae'r galon bron llesteirio tan ei chlwy,
Wrth gofio'u rhoddi yn y graean llaith;
Tra mynn daioni dyfu yn y graith,
Nes hulio'r llwybrau a gerddasant hwy.
Wrth hundy Catrin Ifans, oedi'n syn,
Er dwyn i gof rinweddau'i bywyd hi;
Nes teimlo ei bod heddiw'n fwy ei bri
A gwawl ei heinioes faith yn brydferth wyn.
Meithrinodd er yn ifanc barch i Dduw,
A'i ordinhadau cysegredig Ef;
Prif nôd ei chalon ydoedd ennill Nef
Ar ben y daith, a hynny trwy ei byw.
Ba ryfedd hynny, wedi cofio'r trâs
Y deilliodd hi ohono'n 'more'i byd;
A chadwodd hon y traddodiadau'i gyd
Heb lithro unwaith i rigolau bâs.
Bu drws ei chartre beunydd led y pen,
Er estyn croeso brwd i'r Ysgol Sul;
Pan ydoedd rhagfarn a'i damcaniaeth gul
Yn poeri ar broffwydi wawdlyd sen.
Dewisodd gymar o'r un anian bur,
I ymladd brwydrau ac ystormydd certh,
Tra gwyddent ym mhob gofwy brofi nerth
Oedd anwel yn eu cynnal ym mhob cur.
I'r oedfa fore Saboth cerddai'r ddau,
A'r daith ddiarffordd ni chyfrifent hwy ;
Nid ydoedd rwystrau, bron na thorrent trwy
Mor dynn eu gafael fel nad oedd ryddhau.
Cynyddai'r teulu ar yr aelwyd glyd,
Cynyddai hefyd bryder tad a mam;
Rhag i'w hanwyliaid orfod goddef cam,
Wynebu'n eofn raid heb ofni'r byd.
Ond er y gofal a'r pryderu dwys,
A phopeth ychwanegwyd yn eu plith;
Rhaid oedd wrth grefydd iawn, nid digon rhith
I ddau o'u rhuddin hwy i roi eu pwys.
Meithrinwyd plant yn sŵn y gân a'r mawl,
A'r weddi hwyrol wedi gwaith y dydd ;
I'r aelwyd honno y teyrnasa ffydd
Nid oes i'r gelyn ei herfeiddiol hawl.
Ond mewn sydynrwydd collodd briod cu,
A thad gofalus i rai bach di-gefn ;
Tra llwyr fodlonodd Catrin yn y drefn
A gwelodd ddwyrain yn y cwmwl du.
Gwnaeth hon ei rhan a phwysodd ar y Gŵr
Yr ymddiriedodd ynddo fore oes;
Er profi llawer adwyth blin a chroes,
Bu Duw y teulu iddi'n gadarn Dŵr.
Hi welodd fagu'r plant heb eisiau dim,
A'u gwylio yn sefydlu yn y byd;
A'r grefydd honno fu'n y llinach cyd
A erys ynddynt hwythau'n fawr eu grym.
Mor hawdd noswylio wedi llafur blin,
A mynd o'r holl hualau'n berffaith rydd,
Cymhelri'r anial yn flasusfwyd sydd,
A'r holl drallodau cudd yn felys win.
Boed iti hedd yn dy anoddun gell,
Ym mro dy faboed gyda chyfoed gynt;
Tra yn yr Ywen clywaf sŵn y gwynt
Yn dadleu iti hawl mewn hafan well.
DOLGELLAU:
Argraffwyd gan Hughes Bros., Swyddfa'r
DYSGEDYDD

Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.