Braint, braint
Gwedd
| ← Duw tyrd a'th saint o dan y ne | Braint, braint gan John Roberts (Siôn Robert Lewis) a Robert Jones, Rhoslan |
Esgyn gyda'r lluoedd → |
331[1] Cymdeithas y Saint.
2. 88. 888.
1BRAINT, braint
Yw cael cymdeithas gyda'r saint,
Na welodd neb erioed ei maint;
Ni ddaw un haint byth iddynt hwy;
Y mae'r gymdeithas yma'n gref,
Ond yn y nef hi fydd yn fwy.
2Daeth trwy
Ein Iesu glân a'i farwol glwy',
Fendithion fyrdd—daw eto fwy:
Mae ynddo faith ddiderfyn stôr;
Ni gawsom rai defnynnau i lawr;
Beth am yr awr cawn fynd i'r môr?
3Gwledd, gwledd
O fywyd a thragwyddol hedd
Sydd yn y byd tu draw i'r bedd;
Mor hardd fydd gwedd y dyrfa i gyd
Sy'n byw ar haeddiant gwaed yr Oen,
O sŵn y boen sy yn y byd!
1—John Roberts (Siôn Robert Lewis)
2-3—Grawnsypiau Canaan 1795
(gol Robert Jones, Rhoslan)
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 331, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930