Brenin yr Ellyllon (testun cyfansawdd)
| ← | Brenin yr Ellyllon (testun cyfansawdd) gan Nicolai Gogol wedi'i gyfieithu gan Gwilym Aneurin Tudor Davies golygwyd gan Henry Lewis |
Rhagair → |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Brenin yr Ellyllon |

BRENIN YR ELLYLLON.
CYFRES Y WERIN.
Golygyddion:
IFOR L. EVANS.HENRY LEWIS.
RHIF 5
BRENIN YR ELLYLLON.
GWILYM A. T. DAVIES
A
HENRY LEWIS.
Cyhoeddwyd gan
Y CWMNI CYHOEDDI ADDYSGOL, CAERDYDD.
THE EDUCATIONAL PUBLISHING Co., LTD., PENARTH ROAD, CARDIFF.
Amcan CYFRES Y WERIN:—"i ddyscu, helpu, diddanu, a pherffeiddio gwyr fy ngwlad, ymhob peth a fo golud iddynt, hyglod yngolwg y byd.
(Geiriau'r Dr. Griffith Roberts yn y Rhagymadrodd i'w Ramadeg a gyhoeddwyd yn 1567.)
Copi yw'r wyneb-ddalen o honno sydd ar y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg, sef "Yn y lhyvyr hwnn" gan Syr John Prys, a ymddangosodd yn 1546.
Ar y clawr ceir llun Gogol.

RHAGAIR.
GANED Nicolas Gogol yn y flwyddyn 1809 yn Wcraina, y wlad a elwir yn Saesneg "Little Russia." Prif-ddinas y wlad honno yw Kiev (llefarer Cieff). Y mae Wcraina'n un o'r gwledydd bychain hynny y gwelir yn y dyddiau hyn genedl newydd yn dyfod i'r golwg ynddynt. Ganed y genedl honno mewn ystormydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a phur ystormus a fu ei bywyd ar ei hyd. Y mae rhan o'r genedl yn awr yn byw yng Ngalicia, dioddef dan iau y Pwyliaid. Y mae rhan arall ohoni yn byw yn Slofacia, yn mwynhau Ymreolaeth dan y Weriniaeth Tsech.
Un o wir blant Wcraina ydoedd Nicolas Gogol. Yr oedd ei feddwl wedi ei drwytho â chwedloniaeth ac â cherddi nwyfus gwladgarol ei genedl. Er bod Wcraina dan goron Tsar Rwsia, ac er i Gogol dreulio blynyddoedd ym Mhetrograd, Wcrainiad i'r carn ydoedd Gogol, a charai Kiev, prif— ddinas ei wlad ei hun, yn angerddol fwy na Phetrograd a'i blinai. Nid oedd iddo ddim diddanwch yn hanes yr Ymerodraeth o gwbl, eithr ymroes i astudio hanes ei genedl ei hun. Bu'n cloddio'n hir yn y croniclau, eithr blinodd ar eu sychter. Troes at ei llên, ei chwedloniaeth, a'i chân. Ebr ef mewn llythyr, "Cerddi Wcraina yw ei phopeth, ei barddoniaeth, ei hanes, a bedd ei thadau." Wedi yfed yn helaeth o'r ffynnon iach risialaidd hon, ysgrifennodd ei storïau godidog. Yr oedd ei feddwl ar dân gan ramant cân a chwedl. Yr oedd yr hyn a greodd ei feddwl yn llawn o'r dychymyg mwyaf byw a rhamantaidd. Pwysicach fyth oedd mai anadl y fro a chwythai drwy'r hyn a greodd, a hynny a gyfrif am ei fawredd a'i werth yn hanes llenyddiaeth Rwsia. Yn y ddeunawfed ganrif, patrymau estron oedd i'r llenyddiaeth honno; rhywbeth gwneuthur ydoedd, heb nemor o fywyd y wlad ei hun ynddi. Amlheid geiriau estron—Almaeneg, Ffrangeg, a Saesneg yn iaith y gwŷr mawr, a rhoddid bri yn wasaidd ar y patrymau estron. Yr oedd y llenyddiaeth felly'n rhwysgfalch a marwaidd.
Adnewyddwyd bywyd yn y llenyddiaeth honno ar ddechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf gan Alexander Pushkin, bardd mwyaf Rwsia (1799—1837), a Nicolas Gogol. Troes y ddau at yr iaith frodorol. Y mae dylanwad estron arnynt hwythau, eithr nid fel caethion yn derbyn briwsion o wledd y gŵr mawr yr oeddynt. Yn hytrach, gwladgarwyr rhydd yn dewis yr hyn a fynnent gan y byd, a llunio hwnnw yn ol eu hewyllys at ddibenion eu pobl eu hunain. Gwelsom beth tebyg yn hanes llenyddiaeth Cymru. Yr unig gyfnodau mawr yn ei hanes yw'r rhai hynny pan edrychwyd â'r llygad noeth Cymreig ar drysorau'r byd yn uniongyrchol.
Fel y dywed Gogol yn ei nodyn, darn o lên gwerin Wcraina yw'r stori ramantus a gyfieithir yma. Y mae manylrwydd ei ddisgrifiad o Athrofa Kiev yn ernes go sicr o'i gariad at brif—ddinas ei wlad. Ceir disgrifiad llawnach o'r Athrofa yn ei stori arwrgerddol Homeraidd " Tarass Bulba, sydd hefyd yn bortread gorchestol o fywyd rhydd, awyr—agored, arwrol Cosaciaid Zaporozhe. Ei orchestwaith yw'r nofel ryfedd "Yr Eneidiau Meirw." Ysgrifennodd amryw storïau byrion yn ogystal.
Y mae Wcraina'n wlad gyfoethog iawn. Diau y bydd, ar gyfrif hynny, yn bwysig yn y dyfodol agos—fel gwlad wleidyddol annibynnol neu fel rhan o Rwsia. Dyma i Werin Cymru ddarn o lên gwerin Wcraina gan un a garodd draddodiadau gwych Wcraina yn angerddol.
I'r Athro Gwilym A. T. Davies yr ydym yn ddyledus am allu troi "Brenin yr Ellyllon" i'r Gymraeg. Ysgrifennwyd yr holl eiriau ac enwau priod Rwsiaidd (ac eithrio Kiev) er mwyn dangos mor agos ag y gellir pa fodd y seinid hwy yn Gymraeg. O destun diwygiedig holl weithiau Gogol, dan olygiaeth Ticho Nrafof, y cyfieithwyd "Brenin yr Ellyllon." Myfi sy'n gyfrifol am ei wisg Gymraeg, ac felly bwrier ei holl ddiffygion arnaf i'n unig.
HENRY LEWIS.
- Awst 30, 1921.
NODYN GAN YR AWDUR.
Creadigaeth anferth dychymyg y werin yw'r Fïi. Dyma'r enw a ddyry trigolion Wcraina i frenin yr ellyllon, a'i aeliau'n cyrraedd hyd y llawr. Traddodiad y bobl yw'r stori i gyd. Ceisiais ei gadael yn ddigyfnewid ymhob dim, a'i hadrodd bron yn yr un dull syml ag yr adroddwyd hi i mi.
BRENIN YR ELLYLLON.
FÏI
BRENIN YR ELLYLLON.
NID cynt y canodd cloch drystfawr y Coleg yn y bore yn Kiev—crogai wrth borth Mynachlog y Brodyr—nag y prysurai'r myfyrwyr a'r ysgolorion yn finteioedd o bob cwr i'r dref. Myfyrwyr gramadeg, astudwyr rheitheg, athronwyr, myfyrwyr diwinyddol—yr oeddynt oll yn cyrchu at eu gwersi, a'u llyfrau ysgrifennu dan eu cesail. Ychydig iawn oedd nifer y myfyrwyr gramadeg; gwthient ei gilydd ar y ffordd, neu ymrysonent ynghyd mewn meinllais trebl, gwichlyd; gwisgai bron pob un ohonynt ryw ddillad oedd wedi eu rhwygo neu'n seimlyd, a byddai eu pocedi bob amser ar dorri gan bob math o sothach, megis esgyrn clicio, chwît blu, pasteion wedi eu hanner bwyta, ac weithiau hyd yn oed adar y to bychain y byddai un ohonynt yn peri i'w berchennog gael gwialenodiau trwm ar ei ddwy law drwy drydar yn sydyn yn ystod yr ysbeidiau prin hynny o dawelwch yn y dosbarth, neu weithiau hyd yn oed gwialen ceirioswydd. Cerddai'r rheithegwyr yn fwy gweddus; byddai eu gwisgoedd yn aml yn hollol gyfain, ond er hynny gwelid rhyw addurn neu 'i gilydd ar eu hwynebau, fel troell— ymadrodd rheithegol neu dlws. Byddai naill lygad un ohonynt wedi cilio'n ol braidd dan ei dalcen, neu byddai'r hyn a fuasai'n wefus yn rhyw chŵydd crwn; neu byddai yno ryw arwydd arall. Siaradai'r rhai hyn â'i gilydd, a rhegent ei gilydd mewn llais tenor. Byddai llais yr athronwyr lawn wythawd yn is. Ni chynhwysai eu pocedi hwy namyn tafell galed o dybaco. Ni ddygasent ddim lluniaeth ganddynt, ond bwyta ar y pryd unrhyw beth a fyddai wrth law. Cerddai aroglau tybaco a gwirod oddiwrthynt, a hynny mor bell, ar brydiau, ag yr arhosai rhyw grefftwr wrth fyned heibio iddynt, a ffroeni'r awyr yn hir, fel gwaedgi.
Yr oedd y marchnadle tua'r amser hynny'n dechreu cyffro, a'r masnachwyr, gyda'u teisennau caled, eu caciau, eu hadau melon a'u coesau pabi, yn cydio ac yn tynnu wrth siacedi llïain teneu neu frethyn papur yr ysgolheigion hyn.
Fyddigion, fyddigion! Ffor' hyn, ffor' hyn!" galwent o bob tu, "teisenni, bonau pabi, topiau, pledrenni—ffein i gyd, myn Duw, ffein i gyd!" Gwaeddai hen wreigan arall, gan gydio mewn ffon hir o fara wedi ei blethu," Fale! fyddigion; prynwch fy fale i!"
"Peidiwch â gwrando arni; edrychwch mor fudr yw hi; mae'i thrwyn hi'n rhedeg, a'i dwylo'n frwnt."
Ond yr oedd arnynt ofn cydio yn yr athronwyr a'r diwinyddion, oherwydd byddai'r rheini bob amser yn hoff o gymryd rhywbeth "i'w brofi "—a byddai hynny'n llonaid dwrn bob cynnyg.
Wrth fyned i mewn i'r athrofa, ymrannai'r holl dorf yn ddosbarthiadau a gynhelid mewn ystefyll isel ond gweddol helaeth, ac iddynt ffenestri bach, drysau llydain, a desgiau budr. Yr oedd y dosbarth yn llawn ar unwaith o sisial ymhob llais. Gwrandawai'r isathrawon ar wersi eu hysgolheigion. Tarawai trebl treiddiol y dysgwr gramadeg gwareli datseiniol y ffenestri bach, ac atebai'r cwareli dan glindarddach bron yn yr un dôn. Prysur fwmiai yn y cornel astudiwr rheitheg, y rhoddai ei enau a'i wefusau chwyddedig hawl iddo i'w gyfrif yn fyfyriwr ffilosoffi. Myngial a wnai mewn llais bâs, ond y cwbl a glywid o bell ydoedd "bw, bw, bw, bw, bw, . . . "Tra fyddai'r isathrawon yn gwrando ar y wers, cadwent un llygad yn sefydlog dan y ddesg, lle y sbiai caciau neu gwlffyn o bwdin berwi neu hadau melon allan o boced yr ysgolheigion dan eu gofal.
Pan ddigwyddai i'r holl dorf hon o fyfyrwyr gyrraedd yn weddol gynnar, neu pan wyddent y byddai'r athro dipyn yn ddiweddarach nag arfer, yna cytunent ar ymladd â'i gilydd, a byddai'n rhaid i bawb ymuno'n y ffrwgwd—hyd yn oed y rhai yr oedd yn ddyletswydd arnynt gadw trefn ar y dosbarth a'i ddisgyblu. Fel rheol, penderfynai dau fyfyriwr diwinyddol ar ddull yr ymladd—a ddylai pob un ymladd â'i gyfnesaf, ai ymrannu o'r dosbarth yn ddau, sef yr ysgolorion a'r myfyrwyr cyffredin. Pa fodd bynnag, y gramadegwyr a ddechreuai; yna wedi i'r rheithegwyr ymuno â'r frwydr, dringai'r gramadegwyr i ben y bannau i edrych ar yr ymladd. Wedi hynny disgynnai'r athronwyr â'u trawswch hirddu yn y drin, ac yn ddiweddaf oll y diwinyddion hir eu gyddfau, ofnadwy a rhyfedd eu llodrau. Dibennai'r frwydr, gan amlaf, drwy i Ddiwinyddiaeth drechu pawb arall, a gwthio Athroniaeth i'r dosbarth a hithau'n rhwbio'i hochrau ac yn cymryd ei lle ar y meinciau i ymorffwys.
Pan ddeuai'r athro i mewn at y dosbarth—buasai yntau yn ei ddydd mewn cyffelyb ymladdfeydd—canfyddai ar unwaith fod brwydr galed wedi digwydd, gan goched wynebau ei ddisgyblion. Yr un pryd ag y lluchiai'r naill athro'i wialen fedw ar bennau ei fyfyrwyr rheitheg, gwastatai'r llall mewn dosbarth arall yr athronwyr â'i ffon drom. Mewn dull arall hollol y telid i'r diwinyddion. Rhoddid iddynt ddognau o" bwdin pys," chwedl eu hathro—sef oedd hynny, fflangell ledr fer.
Ar yr uchelwyliau a'r gwyliau cyffredin, byddai'r myfyrwyr a'r ysgolorion yn myned o dŷ i dŷ, a theatr fach ganddynt. Actient weithiau gomedi, ac ymddisgleiriai rhyw fyfyriwr diwinyddol neu 'i gilydd drwy fod yn Herodias neu Botiffar, gwraig y gŵr llys o'r Aifft. Rhoddid iddynt yn dâl ddarn o frethyn neu sachaid o filed, neu hanner gŵydd rost, neu rywbeth o'r fath. Yr oedd mor rhyfedd o galed ar yr holl gasgliad hwn o ysgolheigion—yn fyfyrwyr cyffredin ac yn ysgolorion, a ddaliai i ymladd â'i gilydd fel petai hynny'n etifeddiaeth ganddynt—am luniaeth, a byddent mor drachwantus yn ogystal, ag mai cwbl amhosibl a fyddai rhifo pa faint o dwmplenni a ysent yn yr hwyr; ac felly nid digon iddynt a fyddai anrhegion caredig y perchenogion cefnog. Gan hynny, byddai'r senedd, a gynhwysid o athronwyr a diwinyddion, yn anfon y gramadegwyr a'r rheithegwyr, dan arweiniad un o'r athronwyr (er bod y senedd hithau'n ymuno weithiau), â sachau ar eu hysgwyddau, i ysbeilio pentrefi dieithr—ac ymddangosai cawl pompiwn ymysg y rhai ieuaf. Ysai'r seneddwyr gymaint o felonau a melonau'r dwfr ag y clywai'r athrawon ddwy wers ganddynt drannoeth yn lle un—deuai'r naill dros eu gwefusau, a mwmiai'r llall yn y stumog seneddol.
Y gwyliau oedd y prif dymor gwledda i'r athrofa, sef o Fehefin ymlaen, pan dorrai'r ysgol i fyned adref. Y pryd hynny, prysurai'r gramadegwyr a'r rheithegwyr a'r diwinyddion ar hyd pob priffordd. Ai'r rhai nad oedd iddynt le i fyned iddo gydag un o'u cyd-fyfyrwyr. Ai'r athronwyr a'r diwinyddion allan "i wasanaeth "—sef i ddysgu neu baratoi plant pobl gyfoethog, a rhoddid iddynt yn dâl am hynny bâr o esgidiau newydd y flwyddyn, a chôt hefyd, efallai. Gwersyllai'r holl dorf fel haid o sipsiwn; gweithient gawl iddynt eu hunain, a chysgu yn y maes agored. Llusgai pob un ohonynt sach ar ei ol, a chrys a phâr o rwymau coes ynddi. Byddai'r diwinyddion yn arbennig yn ofalus a darbodol. Diosgent eu hesgidiau, rhag eu llwyr dreulio, a chlyment hwy wrth eu ffyn, a'u cario ar eu hysgwyddau,—yn enwedig pan fyddai'n lleidiog. Yna, torchent eu llodrau at y penliniau, a cherdded yn ddidaro drwy'r llaca gan dasgu'r dwfr. Cyn gynted ag y gwelent ffermdy oddiar yr heol, troent o'r ffordd, a neshau at y caban mwyaf dymunol ei saernïaeth. Safent yn rhes o flaen y ffenestri, a tharo cân. Gwrandawai'r gŵr da— rhyw hen ffermwr o Gosac—yn hir ar y gân, â'i ben ar ei ddwylo; yna dywedai wrth ei briod, gan wylo'n chwerw:
"Rhaid bod cân y sgleigion yn un synhwyrol. Rhowch dipyn o lard iddyn nhw, a thipyn o rwbeth sy gynnon ni i fyta."
Yna, teflid i'r sach lonaid dysgl gawl o bwdin berwi, darn go dda o lard, ychydig dorthau bach—ac weithiau fe geid yno hefyd iâr wedi ei thaclu. Wedi ymgyfoethogi gan y bwydydd hyn, ail-gychwynnai'r gramadegwyr a'r rheithegwyr a'r diwinyddion eu taith. Ond po bellaf y cerddent, lleiaf oll a fyddai eu nifer. Ymwasgarent bron i gyd i'w cartrefi, ac nid arhosai ond y rhai y byddai eu cartrefi ymhellach na'r lleill.
Un tro, ar ymfudiad cyffelyb, fe droes tri ysgolor oddiar y briffordd, gan feddwl cael tipyn o luniaeth yn y ffermdy cyntaf y deuent ar ei draws, oherwydd yr oedd eu sachau'n wag ers hir amser. Sef oeddynt, Chaliafa y diwinydd, Choma Brwt yr athronydd, a Thiberius Gorobets y rheithegwr.
Un tal, ysgwyddog, oedd y diwinydd. Yr oedd iddo un gynneddf hynod iawn—ni fethai ganddo ladrata pa beth bynnag a ddelai o hyd iddo. Pruddaidd oedd ei gymeriad ond hynny, a phan feddwai, ymguddiai yng ngwair uchel y rhostir a thrafferth ddirfawr i'r myfyrwyr a fyddai cael gafael arno.
Un llon ei natur oedd yr athronydd Choma Brwt—hoff iawn o orweddian a thynnu mygyn. Pan ddiotai, galwai'n ddiffael am y cerddorion, a dawnsiai gornddawns i'w diwedd. Byddai'n aml yn cael pryd o "bwdin pys," eithr derbyniai'r cwbl yn dawel ddifater, gan ddywedyd, "Beth sy raid, sy raid."
Ni feddai Tiberius Gorobets hawl i dyfu trawswch eto, nac i yfed gwirodydd, nac i dynnu mygyn. Yr unig nodwedd allanol arno oedd ei gudynnau modrwyog, ac felly yr oedd ei gymeriad hyd yn hyn heb ei lwyr ddatblygu. Ond gellid tybied y byddai'n ymladdwr dygn, a barnu oddiwrth y talpiau mawr ar ei dalcen, a welid yn aml yn y dosbarth. Tynnid ef yn fynych gerfydd ei dusw cudynnau gan Chaliafa'r diwinydd a Choma'r athronydd, yn arwydd o'u nawddogaeth hwy drosto, a defnyddid ef ganddynt ar fraint cennad drostynt.
Yr oedd eisoes yn fin nos pan droesant oddiar y briffordd; yr oedd yr haul newydd ymachlud, ac arhosai gwrês y dydd eto'n yr awyr. Cerddai'r athronydd a'r diwinydd yn eu blaen yn dawedog, gan fygu eu pibau. Lladdai Tiberius Gorobets y rheithegwr â'i ffon bennau'r ysgall a dyfai ar fin y ffordd. Yr oedd y ffordd rhwng llwyni gwasgarog o dderw a pherllan o gyll, a guddiai'r caeau pori. Torrid y gwastadedd weithiau gan lethrau a bryniau glas bychain, pengrynion fel cromennau. Mewn dau fan, ymddangosodd caeau â gwenith arnynt yn aeddfedu, a rhoddes hynny ar ddeall iddynt fod yn rhaid i ryw bentref ddyfod i'r golwg yn fuan. Eithr yr oedd bellach dros awr er pan aethent heibio i'r tywysennau gwenith, ac ni ddeuthent ar draws yr un creadur byw yn ystod yr holl amser. Yr oedd y ffurfafen erbyn hyn wedi ei gorchuddio gan dywyllwch yn y gorllewin yn unig yr arhosai rhith o oleuni porffor, a hynny'n bur welw.
"I ddiawl age!" ebr Choma Brwt yr athronydd. Rown i'n meddwl yn siwr y byddai ffermdy ar unwaith!"
Ymgadwodd y diwinydd yn ddistaw, gan edrych ar yr olygfa o gwmpas, ac yna rhoi ei bib eto'n ei enau. Ac aethant ymlaen ar eu taith.
"Duw annwyl!" meddai'r athronydd eto, gan aros, "all dyn ddim gweld 'i law!"
"Wel, falle down ni ar draws rhyw fferm neu'i gilydd ymhellach ymlaen," meddai'r diwinydd, heb dynnu ei bib o'i enau.
Ond erbyn hyn yr oedd yn nos, ac yn nos dywyll. Yr oedd cymylau bychain yn peri iddi fod yn fwy cadduglyd, ac nid oedd yr un argoel y gellid disgwyl na lloer na sêr. Sylweddolodd y myfyrwyr eu bod wedi colli'r llwybr, a'u bod wedi cerdded yn hir oddiar y ffordd. Ymysgydwodd yr athronydd â'i draed ymhob cyfeiriad o gwmpas, ac o'r diwedd gofynnodd yn swta, " Ble mae'r ffordd?" Yr oedd y diwinydd yn ddistaw, ond wedi meddwl, dywedodd, Ydi, mae'n noson dywyll." Aeth y rheithegwr i'r naill ochr, a cheisiodd ymbalfalu ar ei liniau am yr heol, ond ar dyllau bleiddiaid yn unig y disgynnai ei ddwylo.
Parodd y sylwadau hyn i'r athronydd Choma lwyr anobeithio; ond yn sydyn ffroenodd aroglau pysgodyn wedi ei sychu. Taflodd gipolwg ar lodrau'r diwinydd a gerddai yn ei ymyl, a gwelodd gynffon mawr pysgodyn yn ymwthio o'i logell. Yr oedd y diwinydd eisoes wedi llwyddo i ysglyfaethu carp cyfan o'r cart. Gan mai o wir arferiad, ac nid o unrhyw drachwant, y gwnaethai hyn, a chan ei fod eisoes wedi llwyr anghofio'i garp ac yn ceisio ffordd i ddwyn rhywbeth arall, llithrodd Choma'i law i logell y diwinydd fel petai ei eiddo'i hun, a dug y carp oddiarno. Nid oedd ond y rhostir ymhobman, ac i bob golwg nid oedd neb yn symud ar hwnnw.
Ymegniai'r teithwyr, serch hynny, i fyned yn eu blaen, eithr yr un diffeithwch oedd ymhobman. Ceisiodd yr athronydd weiddi, ond aeth ei lais ar goll o gwmpas iddo, ac nid oedd garreg ateb. Ymhen ychydig, clywent ryw riddfan egwan, fel oernad blaidd.
"Nawr te! beth a wnawn ni?" meddai'r athronydd. Gwneuthur? Pam, aros a chysgu yn y maes," atebodd y diwinydd, a gwthiodd ei law i'w boced i gael modd tân pib i gael mygyn eto.
Ond ni allai'r athronydd gytuno. Yr oedd ef wedi arfer cuddio ychydig dorthau a phedwar pwys o lard bob nos, a chlywai'r funud honno ryw wacter annioddefol yn ei stumog.
Heblaw hynny, yr oedd yr athronydd braidd yn ofni'r bleiddiaid, er ei holl natur ysgafn.
"Na, Chaliafa, amhosibl!" meddai. "Sut y gallwn ni ymestyn fel cŵn, heb gael dim byd i ffresio tipyn arnom. Gad i ni dreio eto, falle y down ni ar draws rhyw greadur byw, a bod yn ddigon lwcus i gael glasied o licwr heno o leiaf."
Ar y gair "licwr" dyma'r diwinydd yn poeri, ac yn dywedyd, "'Dyw hwnnw, beth bynnag, ddim i'w gael yn yr awyr agored."
Daliodd y myfyrwyr i gerdded, ac er eu dirfawr lawenydd, dyna gyfarthiad yn y pellter. Clustfeiniwyd i gael gwybod o ba gyfeiriad y deuai, ac yna ymlaen â hwy'n galonnog; ymhen ychydig gwelent oleu.
"Fferm, myn Duw, fferm!" meddai'r athronydd.
Nis twyllwyd hwy, canys cyn bo hir gwelsant fferm fach o ddau gaban, y ddau yn yr un buarth. Disgleiriai goleuni yn y ffenestri; ymgodai deuddeg pren eirin yn y clawdd. Sbiodd y myfyrwyr drwy'r tyllau yn y glwyd bren, a gwelent fuarth a nifer o wagenni ynddo. Tywynnai'r sêr yn rhywle yn y ffurfafen y foment honno.
"Dewch, fechgyn, peidiwch ag aros yn ol! Beth bynnag a ddigwyddo, rhaid inni gael cysgod."
Curodd y tri myfyriwr yn gyfeillgar ar y glwyd, gan weiddi, Agorwch!"
Agorodd drws un caban, dan grafu, ac mewn munud gwelai'r myfyrwyr ger eu bron hen wraig mewn croen dafad.
"Pwy sy 'na?" meddai hi, gan besychu'n gryg.
"Rhowch lety dros y nos, yr hen wraig; rŷn ni wedi colli'r ffordd; y mae bod allan cynddrwg â bod â stumog wag.
A sut bobol ŷch chi?"
"Rhai digon diddrwg—Chaliafa'r diwinydd, Brwt yr athronydd, a Gorobets y rheithegwr."
Amhosibl," meddai'r hen wraig, "Mae'r fferm yn llawn, a phob cornel yn y caban wedi'i lanw. Ble y dodaf i chi, a chithe'n fechgyn tal, iach! Fe rwygai'r caban pe treiwn roi'r fath ddynion mawr ynddo. Rwy'n nabod yr athronwyr a'r diwinyddion hyn; unwaith y dechreuwch roi croeso i'r fath feddwon, fe ddifethir y fferm. Ffwrdd â chi! Does dim lle i chi yma'n awr.'
Cymerwch drueni, yr hen wraig! Sut y gellwch chi adael i Gristnogion farw heb i chi godi bys. Dodwch ni lle y mynnoch; ac os gwnawn ni ryw ddrwg, beth bynnag a fo, gwywed ein dwylo, a Duw'n unig a ŵyr beth a ddigwydd inni. Dyna ichi!"
Lliniarwyd yr hen wraig dipyn.
"O'r gore," meddai, gan ystyried tipyn fel petai, "cewch ddod i mewn, ond fe'ch dodaf i chi mewn llefydd gwahanol, onite, ni allwn i fod yn dawel fy meddwl petaech chi'n cysgu gyda'ch gilydd."
"Fel y mynnoch; ni ffraewn ni ddim am hynny," atebodd y myfyrwyr.
Agorodd y glwyd, ac aethant i mewn i'r buarth.
"Nawr, yr hen wraig," meddai'r athronydd, gan neshau ati," beth petai, mewn ystyr
Duw! rwy'n clywed fy stumog fel petawn i'n treio cerdded ar fy mhenliniau. Dim crystyn yn fy ngenau oddiar y bore."
"Dyna hi, 'lwch chi, dyna'r ŷch chi'n mofyn," meddai'r hen wraig. "Na does gen i ddim o'r fath, ac ni chyneuwyd mo'r stôf heddi."
Ond fe dalwn am hynny i gyd," ychwanegai'r athronydd, ag arian parod, fel sy'n iawn, yfory. Ie," meddai dan ei anadl, "cythraul o ddim a gewch chi gynnon ni."
Dewch ymlân, dewch ymlân! A byddwch yn folon ar beth ŷch chi'n 'i gael! Y gŵr drwg 'i hunan sy wedi anfon y gwŷr byddigion bach neis hyn!
Parodd y sylwadau hyn i'r athronydd Choma lwyr anobeithio; ond yn sydyn ffroenodd aroglau pysgodyn wedi ei sychu. Taflodd gipolwg ar lodrau'r diwinydd a gerddai yn ei ymyl, a gwelodd gynffon mawr pysgodyn yn ymwthio o'i logell. Yr oedd y diwinydd eisoes wedi llwyddo i ysglyfaethu carp cyfan o'r cart. Gan mai o wir arferiad, ac nid o unrhyw drachwant, y gwnaethai hyn, a chan ei fod eisoes wedi llwyr anghofio'i garp ac yn ceisio ffordd i ddwyn rhywbeth arall, llithrodd Choma'i law i logell y diwinydd fel petai ei eiddo'i hun, a dug y carp oddiarno.
Rhoddes yr hen wraig eu cysgleoedd i'r myfyrwyr. Dododd y rheithegwr yn y caban; cloes y diwinydd yn yr ysgubor wag; gosododd yr athronydd mewn côr defaid gwag.
Ysodd yr athronydd y carp ar unwaith, wedi ei adael yn unig. Edrychodd oddiamgylch ar ochrau plethedig y côr. Ciciodd y trwyn a wthid i mewn ato gan hwch chwilfrydig oedd yn y côr nesaf, ac yr oedd ar droi ar ei ochr dde i gysgu fel y marw. Dyma'r drws isel yn agor yn ddisymwth, a'r hen wraig dan grynu'n dod i mewn i'r côr. "Yr hen wraig, beth ŷch chi'n 'i mofyn?" gofynnai'r athronydd.
Ond deuai'r hen wraig yn syth ato â'i breichiau'n agored. "Oho!" meddyliai'r athronydd, "Dwyt ti ddim yn rhy hen i hynny, yr hen galon.'
Symudodd draw ychydig, ond neshaodd yr hen wraig ato eilwaith yn ddiseremoni.
Gwrando, yr hen wraig," meddai'r athronydd, " mae'r rhain yn ddyddiau ympryd. Rwyf i mor egwyddorol ag na chymerwn i ddim mil o bunnoedd am dorri fy llw."
Ond agorodd yr hen wraig ei breichiau, a gafaelodd ynddo heb lefaru gair.
Clywai'r athronydd ryw aeth drosto pan ganfu befrio annaearol yn ei llygaid.
"Yr hen wraig! beth sy'n bod? Ewch ymaith, er mwyn Duw!" gwaeddai.
Eithr nid atebodd yr hen wraig yr un gair, ond ymaflyd yn ei ddwy law. Neidiodd yntau ar ei draed, gan feddwl dianc. Ond safodd yr hen wraig yn y drws, gan sefydlu ei llygaid lluchedennol arno, a dechreuodd unwaith eto symud ymlaen tuag ato.
Rhoddes yr hen wraig eu cysgleoedd i'r myfyrwyr. Dododd y rheithegwr yn y caban; cloes y diwinydd yn yr ysgubor wag; gosododd yr athronydd mewn côr defaid gwag.
Ysodd yr athronydd y carp ar unwaith, wedi ei adael yn unig. Edrychodd oddiamgylch ar ochrau plethedig y côr. Ciciodd y trwyn a wthid i mewn ato gan hwch chwilfrydig oedd yn y côr nesaf, ac yr oedd ar droi ar ei ochr dde i gysgu fel y marw. Dyma'r drws isel yn agor yn ddisymwth, a'r hen wraig dan grynu'n dod i mewn i'r côr. "Yr hen wraig, beth ŷch chi'n 'i mofyn?" gofynnai'r athronydd.
Ond deuai'r hen wraig yn syth ato â'i breichiau'n agored. "Oho!" meddyliai'r athronydd, "Dwyt ti ddim yn rhy hen i hynny, yr hen galon.'
Symudodd draw ychydig, ond neshaodd yr hen wraig ato eilwaith yn ddiseremoni.
Mynnai'r athronydd ei chilgwthio, ond, er mawr syndod iddo, canfu na allai na chodi ei ddwylo na symud ei draed. Dychrynwyd ef hefyd pan gafodd fod ei lais wedi distewi a bod ei wefusau'n dywedyd geiriau di-sŵn. Ni chlywai ond ei galon yn curo. Gwelai'r hen wraig yn dyfod ato, gan blethu ei dwylo, a chrymu ei phen, yn neidio fel cath ar ei gefn, yn taro'i ochr â choes ei hysgubell, ac yntau ei hun yn llamu fel march adeiniog, gan ei chario ar ei ysgwyddau.
Digwyddodd hyn oll mor gyflym ag mai prin y gallai'r athronydd ddyfod ato'i hunan. Daliodd yn ei benliniau â'i ddwy law, i geisio atal ei goesau. Ond er syfrdandod iddo, codid hwy, yn erbyn ei ewyllys, a charlament ymlaen yn fuanach na march Circasaidd.
Wedi iddynt fyned heibio i'r ffermdy, a'r gwastadedd llyfn yn ymagor o'u blaen, a choed du fel y glo'n ymledu yn eu hymyl, dyna'r pryd y dywedodd gyntaf wrtho'i hunan——
"Ha! gwiddon yw hi!"
Tywynnai'r lleuad newydd yn yr wybren. Gorweddai llewych meddal canolnos yn llen dryloew ar y ddaear, fel nudden ysgafn. Yr oedd y coetir, y maes, yr wybren, a'r gwastadeddau fel petaent yn cysgu'n llygad agored. Bu awel yn siffrwd ac yn dyrchafu o ryw gwr neu'i gilydd unwaith yn unig. Yr oedd rhyw naws laith—gynnes yn ffresni'r nos. Yr oedd cysgodion y coed a'r llwyni, megis llafnau main, yn syrthio ar y gwastadedd llechweddol fel sêr gwib. Dyna'r fath nos ydoedd pan garlamai'r athronydd Choma Brwt â marchoges ddirgelaidd ar ei gefn. Clywai ryw fath o ludded poenus, ryw nychtod yn llithro i mewn i'w galon. Gostyngodd ei ben, a gwelai'r gwellt, a oedd yn awr bron dan ei draed, fel petai'n dyfnhau ac yn ymehangu, a dwfr yn ymledu drosto a oedd mor glir â ffynnon y mynydd. Yr oedd y glaswellt yn debig i wely rhyw fôr disglair, gloew i'w ddyfnderoedd. Pa fodd bynnag, gallai weld yn eglur ynddo ei lun ei hun â'r hen wraig yn eistedd ar ei gefn. Gwelai ryw fath o haul yn tywynnu yno yn lle'r lloer. Clywai flodau'r gog yn tincial wrth ysgwyd eu pennau. Gwelai fôr—forwyn yn nofio allan o'r hesg, ei chefn a'i thraed yn disgleirio, ei chorff yn lluniaidd a heinif, fel llewych pefrol. Troes hi ato, a dyna'i hwyneb,—â'r llygaid treiddiol yn fflachio, a chân ar ei gwefus a glwyfai ei galon,— yn dod tuag at ei wyneb yntau, ac wedi prin gyffwrdd ag wyneb y dwfr yn dychwelyd eto, dan grynu wrth chwerthin. Ac yna, trodd ar ei chefn, ac ymloewai ei bronnau tywyll yn yr haul, fel llestr tseini di-owmal, ar ymyl ei chorff meinwisgi. Yr oedd clych y dwfr fel perlau bychain yn wisg am dani. Gwenai yn y dwfr dan grynu o'i phen i'w thraed.
A welai ef hyn, ai peidio? A oedd yn effro ai'n breuddwydio? Ond pa beth oedd y sŵn? y gwynt neu fiwsig? a hynny'n canu, yn dirwyn, yn dringo, ac yn treiddio i'w enaid ag ing annioddefol. "Pa beth yw?" meddyliai'r athronydd Choma Brwt, gan edrych i lawr wrth chwyrnellu ymlaen ar ei gyflymaf. Llifai'r chwŷs allan ohono. Clywai ryw ddieflig drythyllwch yn ei feddiannu—rhyw felyschwant treiddiol lluddedus anaele. Tybiodd droeon ei fod wedi colli ei galon, a rhoes ei law, yn ei ddychryn, i chwilio am dani. Yr oedd yn ddiffygiol ac yn hurt, ceisiodd alw i'w gof yr holl weddïau a wyddai. Adroddodd yr holl felltithion ar y drwg ysbrydion, ac yn sydyn fe'i clywai ei hun yn adfywio rywsut; yr oedd yn teithio'n arafach, arafach. Eisteddai'r wrach yn llai tyn ar ei gefn. Cyffyrddai'r gwair tew ag ef, ac ni welai mwyach ddim eithriadol ynddo. Disgleiriai'r lleuad glaer yn yr wybren.
"Da iawn," meddyliai'r athronydd Choma ynddo'i hun, a dechreu adrodd y melltithion yn uchel bron. O'r diwedd, neidiodd fel mellten oddi tan yr hen wraig, a llamodd ar ei chefn hithau. Rhedai'r hen wraig â thuth mor fân ag iddo brin gael ei anadl. Yr oedd y ddaear fel petai'n chwyrnellu heibio danynt. Goleuid popeth yn eglur gan y lloer, er bod honno'n newydd. Nid oedd dim rhyngddynt â'r gwastadedd, eithr teithient mor gyflym ag mai egwan a chymysglyd y gwelai hwnnw.. Cipiodd ffon a orweddai ar yr heol, a dechreuodd faeddu'r hen wraig â'i holl nerth. Ysgrechiodd honno'n wyllt, dan fygwth yn llidiog ar y cyntaf, ond buan yr aeth ei gweiddi'n wannach, dawelach, gliriach, ac o'r diwedd yn dyner, heb brin seinio, fel clychau arian lleddf. Suddodd hynny i'w galon, a heb wybod iddo fflach— iodd i'w feddwl, "Ai'r hen wraig yn wir yw hon?
"Och fi! ni allaf fynd ymlaen," llefai hithau, dan lewygu, a syrthio i'r llawr.
Safodd yntau, ac edrych i'w llygaid. Yr oedd y wawr yn torri, a disgleiniai aur gromennau eglwysi Kiev yn y pellter. O'i flaen, gorweddai morwyn brydferth, a'i main lywethau'n anhrefnus, a'i hamranflew'n hir fel saethau. Curai ei dwy law wen, noeth bob ochr iddi yn ei hanymwybod, ac edrychai i fyny dan riddfan, a'i llygaid yn llawn dagrau.
Crynai Choma fel y ddeilen. Yr oedd wedi ei orchfygu gan drueni, a rhyw gyffro rhyfedd, a rhyw yswildod a oedd ddieithr beth iddo ef. Dechreuodd redeg ei eithaf. Ar y ffordd, curai ei galon yn wyllt, ac ni allai esbonio iddo'i hunan pa fath deimlad newydd a rhyfedd a'i meddiannai. Penderfynodd nad ai'n ol i'r fferm, a brysiodd ymlaen i Kiev, gan fyfyrio'r holl ffordd ar y digwyddiad dirgelaidd hwn. Nid oedd neb braidd o'r ysgolheigion yn y ddinas. Yr oeddynt oll ar wasgar yn y ffermydd, neu "mewn gwasanaeth," neu heb fod mewn unrhyw "wasanaeth" o gwbl, canys digon hawdd yn ffermydd Wcraina gael twmplenni, caws, llaeth enwyn, a phwdin berwi gymaint â het, heb dalu ffyrlling. Yr oedd yr aneddle mawr candryll lle y preswyliai'r byrddwyr yn hollol wag, ac er i'r athronydd chwilota ymhob cornel a phalfalu yn yr holl dyllau yn y to, ni chafodd yn unman yr un darn o fraster, na hyd yn oed o hen fara a fyddai'r ysgolheigion yn ei guddio.
Pa fodd bynnag, cafodd yr athronydd yn fuan gyfle i newid ei gyflwr tostur. Wrth ymdroi deirawr o gwmpas y marchnadle, llwyddodd i daro ar weddw ifanc a wisgai fonet felen, yn gwerthu rhubanau, pelenni saethu, ac olwynion. Y diwrnod hwnnw, fe'i llanwyd â chig adar a phwdin berwi-yn wir ni ellir cyfrif y pethau a arlwyai'r ford o'i flaen yn y caban bach clai ynghanol y berllan geirios. A'r nos honno, gwelid yr athronydd yn nhafarn y pentref. Lledorweddai ar y sgiw, gan smygu ei bib fel arfer, a thaflu chweugain aur at y tafarnwr o Iddew yng ngŵydd y cwmni. Yr oedd godard o'i flaen. Edrychai'n dawel ddidaro ar y gwesteion yn mynd a dod, wedi llwyr beidio â meddwl am ei brofiad dieithr.
Yn y cyfamser, lledai'r sôn dros yr holl le fod merch un o'r capteiniaid Cosac cyfoethocaf, â'i fferm tua phymtheng milltir o Kiev, wedi dychwelyd i'r tŷ'n llwyr ddiffygiol, a phrin ddigon cryf i allu cyrraedd yno ar ol bod am dro; ei bod hi ar farw, ac yn dymuno, cyn marw, am adrodd gweddïau dros y meirw am dri diwrnod ar ol ei dydd hi gan ryw fyfyriwr o Kiev, Choma Brwt. Torrwyd y newydd hwn i'r athronydd gan y rheithor ei hun, a'i galwodd yn naturiol i'w ystafell a dywedyd wrtho y dylai frysio'n ddiymdroi ar ei daith, fod cyrnol o Gosac wedi gyrru cerbyd a gwŷr yn arbennig i'w gyrchu.
Crynai'r athronydd gan ryw deimlad dieithr na allai mo'i egluro iddo'i hunan. Dywedai rhywbeth dirgel wrtho fod rhyw chwithdod ar ddod i'w ran. Mynegodd yn bendant, heb wybod ei hun paham, nad elai.
"Nawr, edrych yma, meistr Choma," ebe'r rheithor, a fedrai ar brydiau annerch y rhai dano'n eithriadol foesgar, "does yr un cythraul yn gofyn i ti a fynni di fynd ai peidio. Yn unig mi ddwedaf hyn wrthyt, os dechreui di ryw ffwlbri i'm twyllo i, neu ddechreu dadleu, y rhof i'r gair i olchi dy gefn â bwndel o fedw fel na allit fyth ddymuno'i well."
Aeth yr athronydd allan dan grafu ei glust, heb ateb gair, gan arofun y cyfle cyntaf roi ei draed yn y tir. Yr oedd yn disgyn yn fyfyriol dros y grisiau serth a arweiniai i'r cwrt ynghanol y poplys. Arhosodd ennyd, canys clywai'n eglur lais y rheithor yn gorchymyn i'w stiward ac i ryw un arall hefyd—un o'r gweision oddiwrth y Cosac i'w gyrchu, debig iawn.
"Diolch i'w Anrhydedd am y blawd a'r wyau," ebr y rheithor," a dywed wrtho yr anfonaf y llyfrau yr ysgrifenna am danynt yn union pan fônt yn barod; rwyf i eisoes wedi eu rhoi i sgrifennydd i'w copio. A phaid ag anghofio, 'machgen da i, ddywedyd wrth ei Anrhydedd fy mod yn gwybod bod pysgota da ar ei stâd, yn enwedig stwrsiwn. Rwy'n gobeithio yr enfyn beth imi pan gaffo gyfle. Gwael a drud yw'r pysgod yn y basarau yma. Iaftwch, rho wydraid o licwr yr un i'r bechgyn da yma; ïe, a rhwyma'r athronydd neu y mae'n siwr o ddianc ar unwaith."
"Cei weld, yr hen fab gast!" meddyliai'r athronydd. "Fe'i sbectodd, yr hen gnaf hirgoes!"
Disgynnodd i'r cwrt, ac yno gwelodd fen, a feddyliai gyntaf ei bod yn ysgubor ar olwynion—yr oedd yn wir mor fawr ag odyn i bobi priddfeini. Un o gerbydau cyffredin Cracof ydoedd, y byddai rhyw drigain o Iddewon, ynghyda'u gosgorddwyr, yn teithio ynddynt i ba le bynnag y clywent ei bod yn ddydd ffair. Yr oedd chwe Chosac corffol, cadarn, gweddol oedrannus yn ei ddisgwyl. Dangosai eu cotiau brodiog o liain main eu bod yn weision i ryw ŵr cyfrifol, cefnog arno. Yr oedd rhyw fân greithiau'n dystiolaeth iddynt wasnaethu, nid heb glod, yn y brwydrau.
Beth a allaf ei wneuthur? Ni all neb osgoi ei ran,' meddyliai'r athronydd. Felly, cerddodd at y Cosaciaid. 'Dydd da, frodyr gydfforddolion," meddai wrthynt yn arw.
'Dydd da, meistr athronydd," atebai rhai ohonynt. 'Wel, ac mae'n rhaid i mi eistedd gyda chi? Cerbyd rhagorol," meddai, gan fyned i mewn iddo. "Pe gallem hurio cerddorion, gallem gael dawns ynddo."
"Gallem, mae digon o le ynddo, "ebr un o'r Cosaciaid, gan eistedd yn ymyl y gyrrwr.
Gwisgai'r olaf ddarn o frethyn am ei ben, yn lle'i gap a lwyddasai i'w roi'n adneu yn y tŷ tafarn. Dringodd y pump arall, gyda'r athronydd, i mewn i ganol y cerbyd, a gorwedd i lawr ar y sachau a oedd yn llawn o'r gwahanol bethau a brynasent yn Kiev.
"Carwn wybod," eb yr athronydd, "pa sawl ceffyl a fyddai'n rhaid eu cael i dynnu'r cerbyd hwn pe llenwid ef â rhyw nwydd fel halen, neu gynion haearn."
"Ie," meddai'r Cosac ar y bocs ar ol aros, " byddai'n rhaid i ni gael cryn nifer o geffylau."
Ar ol yr ateb llawn hwn, tybiai'r Cosac fod ganddo hawl i barhau'n ddistaw weddill y siwrnai.
Yr oedd yr athronydd yn awchus iawn i wybod yn fwy manwl pwy a pha fath oedd y cyrnol o Gosac, ac am ei ferch hithau, a ddychwelodd adref mor rhyfedd ei chyflwr, ac a orweddai'n awr ar farw, a'i thynged wedi ei chymhlethu mor dyn yn yr eiddo yntau; pa fath oedd eu bywyd, a pha beth oedd trefn eu tŷ. Holai'r Cosaciaid, eithr yr oeddynt hwy, debig, yn athronwyr megis yntau, canys pwffian y mwg yn unig a wnaent yn ateb iddo, wedi eu rhoi eu hunain yn gomfforddus ar y sachau.
Ond rhoddes un ohonynt orchymyn byr i'r gyrrwr ar y bocs. "Edrych yma, Oferco, yr hen ffwl, pan ddown ni at yr heol fawr—heol Tswchrail, wrth gwrs,—paid di ag anghofio aros yno a'm deffro i a'r bechgyn eraill os digwydd i ni gwympo i gysgu."
Yna, fe gwympodd i gysgu, gan chwyrnu'n uchel. Pa fodd bynnag, nid aeth y cyfarwyddiadau hyn yn gwbl ofer, oherwydd y munud y dechreuodd y fen anferth nesu at
yr heol fawr neu heol Tswchrail," gwaeddodd yr holl gwmni ag un llais "Aros." Heblaw hynny, yr oedd ceffylau Oferco wedi ymgyfarwyddo gymaint â'r drefn hon ag yr arferent aros o'u rhan eu hunain y tu allan i bob tŷ tafarn.
Er mai diwrnod mwrn yng Ngorffennaf ydoedd, deuthant oll allan o'r cerbyd, a mynd i mewn i ystafell front isel, a'r tafarnwr o Iddew'n rhuthro ymlaen gan lawenhau i groesawu ei hen gydnabod. Tynnodd selsigod porc allan o blygion ei siaced, eu rhoi ar y ford, a throi ar unwaith oddiwrth y cig hwn a waharddai'r Talmud. Eistedd ohonynt i gyd o gwmpas y bwrdd; godardau pridd yn dod ger bron pob gwestai. Gorfu i Choma Brwt gymryd rhan yn y wledd gyffredin. A chan fod trigolion Wcraina yn ddieithriad yn ymgofleidio neu'n cyd-wylo pan fônt ar y sbri, ni bu ohir nad oedd yr holl gaban yn atseinio â mwytheiriau.
"Dere mlaen, Spirid, gad i ni gusanu'n gilydd." "Dere 'ma, Dorosh, i mi gael dy gofleidio."
Pwysai un Cosac â thrawswch brith, yr hynaf ohonynt, ei ên ar ei law, a dechreu ubain o galon am nad oedd ganddo na thad na mam, a'i fod yn unig yn y byd. Yr oedd un arall, clebrwr mawr, yn dal i'w gysuro.
"Paid â llefain, er mwyn Duw, paid â llefain! Beth sy draw?—Duw'n unig a ŵyr beth sydd, na sut y mae, draw."
Aeth y Cosac a elwid Dorosh yn holgar dros ben, a dechreuodd annerch yr athronydd Choma, a'i groes holi'n ddi-daw.
"Carwn wybod beth a ddysgant i chi yn yr athrofa; ai'r un peth ag a ddarllen yr offeiriad yn yr eglwys i ni, ai'n wahanol?"
"Paid â'i holi!" meddai'r clebrwr, yn araf, "“gad iddynt ddysgu'r peth a gânt yn wastad.
Duw a ŵyr beth sy raid. Gŵyr Duw bopeth."
"Na, mae arnaf eisiau gwybod," ebe Dorosh," rwyf i am wybod beth sy'n ysgrifenedig yn y llyfrau yna sy ganddynt. Efallai ei fod yn hollol wahanol i'r hyn sydd yn llyfr yr offeiriad."
"Duw! Duw!" meddai ei deilwng hyfforddwr wrtho, beth yw'r holl siarad hyn. Ewyllys Duw ydyw, meddaf i ti, Duw a'i hordeiniodd. Ni ellir newid a drefno Duw felly."
Mae arnaf eisiau gwybod popeth sy'n ysgrifenedig. Mi af innau i athrofa; af, myn Duw. Wyt ti'n meddwl fy mod i'n rhy hen i ddysgu? Mi ddysgaf bopeth, meddaf wrthyt, popeth!"
"Duw! Duw!" meddai ei gysurwr, gan ostwng ei ben ar y ford, yn gwbl analluog i'w gynnal i fyny'n hwy.
Siaradai'r Cosaciaid eraill am y gwŷr mawr, a hefyd paham yr oedd lleuad yn yr wybr.
Pan welodd yr athronydd Choma fod y gyfeddach wedi codi i'w pennau, penderfynodd ddal ar y cyfle a llithro ymaith. I ddechreu, anerchodd y Cosac gwalltfrith a fuasai'n cwyno dros ei dad a'i fam.
"Am beth y buoch chi'n cwyno'r hen frawd?" ebr ef. Bachgen amddifad wyf innau! Gedwch fi'n rhydd, fechgyn! Beth a wneuthum i chi?"
"Gad e'n rhydd," atebai rhai ohonynt, "meddwl, bachgen amddifad yw e. Gad iddo fynd lle mynno."
"Duw! Duw!" meddai'r cysurwr, gan godi ei ben oddiar y ford, "gad iddo fynd. Gad iddo fynd ei ffordd."
Ac yr oedd y Cosaciaid ar fynd ag ef allan eu hunain, pan ataliwyd hwy gan hwnnw a fuasai mor awyddus am ddysg.
Rhowch lonydd iddo," meddai wrthynt, "rwyf i'n mynd i siarad ag e' ynghylch yr athrofa. Rwyf innau'n mynd i'r athrofa fy hunan."
Ar wahân i hynny, y mae'n amheus a allasai'r athronydd gyflawni ei gynllun, canys pan geisiodd godi o'i gadair, aeth ei draed fel pren, a daeth niferoedd o ddrysau i'r golwg yn yr ystafell, fel yr oedd yn bwnc a allasai daro ar y drws iawn.
Nid cyn nos y cofiodd y cwmni fod yn rhaid iddynt fyned ymlaen ar eu taith. Ymwthiasant yn llwyr frwysg i'r fen, dan weiddi ar y ceffylau a chanu cân na allasai neb ddeall na'r alaw na'r geiriau. Teithio felly gryn hanner y nos, a cholli'n barhaus y ffordd a wyddent yn dda pan fyddent sobr. O'r diwedd, dringo llethr serth, a dod i wastadedd, lle y sylwai'r athronydd ar berth wedi ei phlethu yn ymestyn ar ddwy ochr yr heol, a thu ol i'r berth goed bychain iawn, a thoau yn ymddangos uwchlaw iddynt. Yr oedd hwn yn bentref mawr, rhan o stâd y Cyrnol.
Yr oedd erbyn hyn ymhell dros ganol nos. Yr oedd yr wybr yn dywyll, er bod sêr bychain yn pefrio hwnt ac yma. Ni welid goleu yn un o'r bwthynnod. Udai ci wrth eu bod yn myned i mewn i'r cwrt. Yr oedd ysguboriau a bwthynnod to cawn ar bob tu i hwnnw. Yr oedd un o'r tai, a wynebai'r glwyd, yn fwy na'r lleill, a thebig mai hwnnw oedd tŷ'r Cyrnol. Safodd y cerbyd o flaen math o ysgubor fach, ac aeth y teithwyr i'w hundyau. Yr oedd ar yr athronydd eisiau edrych tipyn ar y tuallan i dŷ'r gŵr mawr, ond er iddo rwbio a rhwbio'i lygaid yn galed, nid oedd dim yn glir iddo. Yn lle tŷ, gwelai arth, a throai'r simnai'n rheithor. Ysgydwodd ei law'n ddiobaith, ac aeth ymaith i gysgu.
Pan ddeffroes, cafodd fod rhyw gyffro yn y tŷ. Buasai'r ferch ifanc farw yn y nos. Rhuthrai'r morynion yn ol ac ymlaen; wylai rhyw hen wragedd; safai nifer o bobl ymofyngar yn edrych drwy'r cledrau i'r cwrt, fel ped fai rhywbeth neilltuol i'w weled. Dechreuodd yr athronydd yn awr edrych ar y lle mewn modd na buasai bosibl iddo'r Adeilad bach isel oedd aneddle'r gŵr mawr, y math a godid yn yr hen amser yn Wcraina. To cawn oedd iddo. Codai'r piniwn bychan i big fain. Yr oedd ynddo ffenestr fechan fel llygad wedi ei godi. Yr oedd wedi ei baentio drosto â blodau glas a melyn, a hanner—lleuadau coch. Safai ar golofnau deri, â'u hanner uchaf yn gylch, a'u hanner isaf yn chweochrog; yr oedd addurniadau cwafarog wedi eu torri ar eu pennau. Dan y piniwn, safai rhes fach o risiau â seddau ar yr ochrau.
O flaen y tŷ, tyfai pren pêr mawr, fel pyramid, a'i ddail yn siffrwd yn ddibaid. Ynghanol y cwrt, ffurfiai nifer o ysguboriau, yn ddwy res, fath o rodfa a arweiniai at y tŷ. Wrth gefn yr ysguboriau, tuag at y porth, safai dwy wingell drionglog do cawn. Yr oedd drws bychan ym mur pob un, ac amryw ddarluniau wedi eu paentio ar y mur. Er enghraifft, ar y naill, llun Cosac yn marchogaeth baril, gan ddal tanced uwch ei ben, gyda'r geiriau " Yfaf o hyd." Ar y llall, yr oedd wedi eu paentio gostrelau a fflagenni, ac yn crogi o'u hochrau, meirch llamsachus, pib, a thympan, gyda'r geiriau," Gwin yw gorhoffedd y Cosac." Yn llofft un o'r ysguboriau, gwelai ddrwm a thrwmpedi prês y tu ol i ffenestr nenlofft fawr. Safai dwy fagnel wrth y glwyd. Yr oedd popeth yn dyst bod y perchennog yn hoff o firi, a bod y cwrt yn aml yn datseinio gan lais y cyfeddachwyr. O flaen y glwyd, yr oedd dwy felin wynt.
Yng nghefn y tŷ, ymestynnai'r gerddi, a rhwng brigau'r coed pennau duon simneiau'r bwthynnod yn unig a welid—yr oedd y bwthynnod eu hunain wedi eu cuddio yn y prysgwydd glas. Safai'r pentref yn gyfan ar fron lefn, eang y mynydd. Caeai'r mynydd serth bopeth allan ar ochr y gogledd—yr oedd ei droed ar y cwrt. Ymddangosai'n serthach byth wrth edrych arno o'r gwaelod. Ar ei gopaon uchel, safai bonau anghyfartal gwair sych y rhostir, yma a thraw, yn ddu yn erbyn y ffurfafen oleu. Parai ei olwg gleiog noethlwm ryw bruddglwyf i ddyn; yr oedd yn dyllau ac yn gwysi gan y glaw. Codai dau fwthyn allan o'i lethr serth. Ysgydwai pren afalau llydanfrig, a gynhelid yn y bôn â pholion bychain wedi eu sicrhau â phridd, ei gangau dros un ohonynt. Pan chwythid yr afalau oddiar y pren gan y gwynt, treiglent i lawr i fuarth y gŵr bonheddig.
Dirwynai'r heol i lawr o gopa'r mynydd, ac ar y gwaelod, arweiniai heibio i'r buarth i mewn i'r pentref. Pan syllodd yr athronydd ar y llethr arswydus, a chofio gyrru'r diwrnod cynt, penderfynodd naill ai bod gan y gŵr bonheddig geffylau eithriadol o gall, ai bod gan ei Gosaciaid bennau eithriadol o gryf, am iddynt lwyddo, hyd yn oed yn eu cyflwr brwysg, i ymgadw rhag mynd bendramwnwgl, y fen lwythog anferth a chwbl. Yr oedd yr athronydd yn sefyll ar fan uchaf y buarth, a phan droes i'r gwrthwyneb, gwelai olygfa hollol wahanol. Ymestynnai'r pentref i lawr dros y llethr at y gwastadedd. Ymledai meysydd aneirif draw i'r pellter. gan dywyllu eu glesni disglair wrth bellhau. Gwelid rhesi cyfain o bentrefi yn y pellter glas, er eu bod dros ugain milltir i ffwrdd. Ar y dde i'r meysydd hyn, ymestynnai mynyddoedd, a thraw ymhell, cerddai Dnieper loew-dywyll, fel rhuban, bron yn anweledig.
Gwlad wych," meddai'r athronydd, "dyma'r lle y carwn drigo; pysgota yn Dnieper a'r llynnau, maglu gwernieir, a saethu hwyaid gwyllt a chyffylogod. Gellid sychu'r ffrwyth a'i werthu'n y crynswth yn y dref—neu well byth, gwneuthur fodca ohono, oherwydd fodca wedi ei wneuthur o ffrwyth yw'r ddiod oreu sydd. Ond wedi'r cwbl, does dim i'm cadw rhag meddwl am ddianc oddiyma."
Y tu cefn i'r berth, gwelai lwybr bach wedi ei lwyr guddio gan orthwf y rhoswair. Camodd arno'n hollol ddidaro, gan fwriadu rhodianna ymlaen yn unig i ddechreu, ac yna fyned heb ei weled o neb rhwng tai'r llafurwyr, ac yna allan i'r wlad agored, pan glywai daro llaw drom ar ei ysgwydd.
Yr oedd yr hen Gosac yn sefyll o'i ôl, hwnnw a fuasai'r diwrnod cynt yn galaru mor dost uwchben marwolaeth ei dad a'i fam, a'i gyflwr ei hun fel amddifad.
"Ni waeth i ti heb feddwl dianc o'r fferm, Mr. Athronydd," meddai, "nid hwn yw'r sefydliad iawn i allu rhedeg ohono. Hefyd mae'r heolydd yn ddrwg i'r sawl sy'n cerdded. Na, tyrd at y gŵr bonheddig; y mae'n dy ddisgwyl ers amser yn y parlwr."
Gad i mi fynd! Hy-y-y, wel, da iawn," meddai'r athronydd, a dyma fe'n dechreu dilyn y Cosac.
Yr oedd y gŵr bonheddig—dyn oedrannus, â thrawswch frith, a golwg brudd, alarus arno—yn eistedd wrth y ford yn y parlwr, â'i ben ar ei ddwylo. Yr oedd tua hanner cant oed; ond dangosai'r anobaith dwys yn ei wynepryd, a'i liw gwelw fod ei ysbryd wedi ei ddryllio mewn un munud, a bod holl firi a llawenydd y bywyd gynt wedi darfod am byth. Pan ddaeth Choma i mewn gyda'r hen Gosac, tynnodd un llaw'n ol, ac ymgrymodd ychydig wrth eu hymostyngiad isel hwy.
Arhosodd Choma a'r Cosac yn foesgar wrth y drws.
"Pwy ydych, o ble y deuthoch, a pha beth ydych, wrda," gofynnai'r gŵr bonheddig, mewn llais nad oedd na meddal na garw.
"Ysgolhaig wyf i, myfyriwr mewn athroniaeth, a Choma Brwt yw f'enw."
"A phwy oedd eich tad?"
"Ni wn, syr."
"A'ch mam?"
"Ni wn hynny chwaith. Rhaid bod gennyf fam, bid siwr y mae synnwyr cyffredin yn dangos hynny i mi; ond pwy oedd, neu o ble yr oedd, neu ymhle y trigai, y nefoedd fawr, syr, ni wn i!"
Arhosodd yr hen ŵr bonheddig, fel ped ymgollasai yn ei feddwl.
"Pa fodd y deuthoch i adnabod fy merch?"
"Nid adnabûm i mohoni erioed, syr; yn enw'r nef, naddo erioed! Ni bu a fynnwn i erioed â boneddigesau ifainc, naddo yn fy myw. Dangio nhw!—heb ddywedyd dim cryfach."
Wel, sut y rhoes hi gyfarwyddyd mai chwi, ac nid neb arall, a ddylai weddïo drosti?
Ysgydwodd yr athronydd ei ysgwyddau.
"Duw'n unig a ŵyr sut i esbonio hynny! Gŵyr yr holl fyd fod ar y gwŷr mawr weithiau eisiau'r fath bethau ag na all y dynion mwyaf dysgedig mo'u hamgyffred. Ac fel y dywed y ddihareb, Dawnsiwch, y cythreuliaid, a'r gŵr mawr yn dywedyd wrthych.'
"Onid ŷch yn dywedyd anwiredd yn awr, Mr. Athronydd?"
"Tarawed y fellten fi'n farw y fan yma, os wyf."
"Pe buasai hi fyw yn unig foment yn hwy," meddai'r gŵr bonheddig yn bruddaidd, " cawswn yn siwr ddeall y cwbl. Nadwch i neb adrodd y gweddïau drosof, Dada, ond ewch ar unwaith i'r Athrofa yn Kiev at y myfyriwr, Choma Brwt. Gweddïed ef dair noswaith dros fy enaid pechadurus. Y mae ef yn gwybod. . . Ond pa beth a ŵyr, nis clywais, canys hynny'n unig a ddywedodd y druan gariad, a bu farw. Go debig eich bod chwi, ŵr da, yn enwog am eich buchedd dduwiol a'ch gweithredoedd defosiwn, ac efallai mai felly y clywodd amdanoch."
"Pwy? Myfi?" meddai'r myfyriwr, gan gamu'n ol mewn syndod. "Buchedd dduwiol?" llefai, gan edrych ym myw llygaid y gŵr bonheddig. "Duw a'ch helpo chi, syr! Beth a bair i chi ddywedyd hynny? Y Dydd Iau Santaidd olaf i gyd, fe euthum i mewn i'r siop felysion— er y dylai fod arnaf gywilydd ei gyfaddef."
"Wel, sut bynnag, rhaid bod ganddi ryw reswm dros ei gorchymyn. Rhaid i chi ddechreu'ch dyletswyddau heddyw."
"O ran hynny, syr, carwn ddywedyd wrthych . . . Yn wir, gallai unrhyw ddyn hyddysg yn yr Ysgrythur Lân. . . ond cymhwysach fyddai galw offeiriad yma, neu beth bynnag ddarllenwr Ilithiau. Y maent hwy'n bobl hyddysg a ŵyr yn iawn sut y dylid cyflawni'r defodau hyn; ond am danaf i . . . Ie, a 'dyw fy llais i ddim yn taro, a minnau fy hunan—wfft i'r peth! 'Dwyf i ddim yn cyfrif am ddim."
Gellwch feddwl a fynnoch, ond fe gyflawnaf i holl ddymuniadau olaf fy nghariad fach bob un. A phan orffennoch ddarllen y gweddïau'n hollol reolaidd am dair noswaith o heddyw, fe dalaf i chwi. Onis gwnewch— cynghoraf i'r diafol ei hun na'm croeso."
Rhoddodd y gŵr bonheddig gymaint o bwyslais ar y geiriau olaf hyn ag na chollodd yr athronydd ddim o'u hergyd.
"Dilynwch fi," ebr y gŵr mawr.
Aethant i'r neuadd. Agorodd y gŵr bonheddig ddrws ystafell arall a wynebai ei ystafell ei hun. Arhoes yr athronydd ennyd yn y neuadd i chwythu ei drwyn, ac yna croesodd yr hiniog ag ofn di-ddirnad yn ei feddiannu.
Yr oedd llawr yr ystafell wedi ei guddio'n llwyr â llïain coch. Yn un o'r conglau dan ddelwau'r saint, gorweddai corff y ferch ar ford uchel â chwrlid o felfed glas ac ymyl o eddi aur a thaseli wedi ei dannu drosti. Safai canhwyllau cŵyr uchel, a blodau'r eira yn gymhleth am danynt, wrth ei phen a'i thraed, a rhoddai'r rheini oleu egwan a ymdoddai yn y goleu ddydd. Ni allai ef weled wyneb y ferch, canys eisteddodd y tad, na fynnai mo'i gysuro, o'i blaen, gan droi ei gefn ar y drws. Brathai'r geiriau a glywai galon yr athronydd.
"Nid wyf yn galaru, fy merch anwylaf, iti ymadael â'r byd, i'm chwerw drallod, ym mlodau dy ddyddiau, a chwrs dy flynyddoedd heb ei gyflawni. Ond cwynaf, fy ngholomen, am na wn pa elyn marwol i mi a barodd iti farw. Pe gwypwn pwy a allai feddwl dy niweidio, ïe, neu ddywedyd gair cas am danat, yna, Duw'n dyst, ni welai byth mwy mo'i blant, pe byddai'n hen ddyn fel myfi, neu ei dad a'i fam, pe byddai yn ei ddewredd. Byddai ei gorff wedi ei daflu'n ysglyfaeth i fwystfilod ac adar y rhostir! Ond gwae fi, fy nghariad fach, f'anwylyd, fod yn rhaid i mi fyw holl ddyddiau fy mywyd heb lawenydd, gan sychu'r dagrau a lifa o'm llygaid hen, a'm gelyn yn gorfoleddu ac yn chwerthin yn ddirgel dros hen ŵr gwan
Arhosodd, canys daeth cenllif o ddagrau dros ei ruddiau o don orwyllt o alar.
Cyffrowyd yr athronydd gan y trallod anniddanadwy hwn. Pesychodd, a chlirio'i wddf yn dyner wrth geisio'i lais.
Troes y gŵr bonheddig ato, a dangos iddo le wrth ben y corff o flaen desg weddïo fach â llyfrau arni.
"Gallaf ddal hyn dair noswaith," tybiai'r athronydd, 'oherwydd fe orleinw y gŵr mawr fy nwy logell â phunnoedd disglair."
Aeth at y corff, a chan besychu unwaith eto, dechreu darllen, gan hoelio'i lygaid ar y llyfr fel nad edrychai ar wyneb y ferch farw. Yr oedd yno dawelwch mawr. Deallodd fod y gŵr bonheddig wedi myned allan o'r ystafell. Cododd ei ben yn araf i edrych ar wyneb y marw, ac • • • •
Aeth echryd drosto. Gorweddai o'i flaen y fath brydferthwch ag na welir ond yn anaml yn y byd. Tybiai na cherfiwyd erioed wynepryd yn y fath fodd dillyn a thelaid. Yr oedd fel petai'n fyw. Gellid meddwl wrth ei thalcen, a oedd fel yr arian o welw, ac fel yr eira o dyner, ei bod yn myfyrio ar rywbeth. Codai ei hamrannau gwymp dichlyn—nos ynghanol goleu'r dydd yn falch uwch ei llygaid caeëdig. Gorffwysai'r amranflew fel saethau ar ei gruddiau, a losgai gan wrid dyhewyd dirgel. Yr oedd ei gwefusau rhuddgoch yn wastadol ar dorri'n wên orhoenus, yn llif o ddedwyddwch . . . Ond yn yr un wynepryd, gwelai rywbeth a'i harswydai, a geulai ei waed. Clywai ryw boen clafaidd yn dechreu yn ei galon, fel pan fo rhywun yn sydyn yn taro rhyw gainc alarnad ynghanol y ddawns lawen chwidr bensyfrdan. Yr oedd ei gwefusau rhuddgoch fel petaent yn sugno'i galon. "Y widdon," gwaeddai mewn llais dieithr iddo, a chan droi ei lygaid ymaith, dechreuodd, yn welw ei wedd, ddarllen ei weddïau. Y widdon a laddasai ydoedd. Cludasant y corff i'r eglwys, a'r haul yn dechreu ymachlud. Cynhaliai'r athronydd yr elor ddu ar un ysgwydd, a chlywai ias oer fel yr ia yn yr ysgwydd honno. Cerddai'r gŵr bonheddig ei hun yn y blaen, gan ddal ochr dde cartref cul y marw. Safai'r eglwys goed, a dduai gan henaint, ac wedi ei gorchuddio â chen gwyrdd, bron ar ymyl y pentref yn ei hunigrwydd chwithig. Yr oedd yn amlwg na buasai gwasanaeth ynddi ers hir amser. Safai canhwyllau goleuedig o flaen pob delw bron. Rhoesant yr arch i lawr ynghanol yr eglwys o flaen yr allor. Cusanodd yr hen ŵr bonheddig ei ferch farw unwaith eto, ac ymostwng yn ei hyd, a myned allan o'r eglwys gyda'r cludwyr, gan orchymyn iddynt gyfrannu'n fanwl i holl gyfreidiau'r athronydd a myned ag ef yn ol i'r eglwys wedi iddo swpera. Ar ol iddynt fyned i mewn i'r gegin, rhoes pawb a fu'n cario'r arch ei law ar y stôf—arferiad ymhlith trigolion Wcraina wedi edrych ar gorff.
Parodd y newyn yr oedd yr athronydd yn dechreu ymglywed ag ef iddo anghofio popeth am y ferch farw am rai munudau. Dechreuodd holl weision (a morynion) y tŷ ymgynnull yn y gegin yn bur fuan. Yr oedd y gegin yn nhŷ'r gwrda yn debig i glwb, lle y llithrai pawb a drigai ar y fferm, ynghyd â'u cŵn, a ddeuai, dan ysgwyd eu cynffon, at y drws, i gael esgyrn a briwsion cig. Pa neges bynnag yr anfonid gwas iddi, pa fusnes bynnag a fyddai ganddo mewn llaw, troai'n ddieithriad i'r gegin ynghyntaf, i orwedd tipyn ar y sgiw a thynnu mygyn. Gorweddai holl weision y tŷ, yn focsachus yn eu siacedi Cosac, drwy'r dydd bron ar y sgiw, dan y sgiw, ar y stôf—yn wir, lle bynnag y caffent gornel cynnes i orweddian ynddo. Ymhellach, gadawai pawb rywbeth ar ol yn y gegin yn ddieithriad,— cap, chwip ar gyfer cŵn dieithr, neu rywbeth o'r fath. Ond pryd swper y byddai'r cwmni mwyaf yno; canys, at hynny, deuai'r marchwas ar ol troi'r ceffylau i'w parc, y gwarthegydd wedi myned â'r gwartheg i'w godro, a phawb na welid yn ystod y dydd. Ar ol swper, clebrai'r tafodau mwyaf bloesg. A thestun y clebran—unrhyw beth a phopeth, pwy a wnaethai bâr newydd o lodrau iddo'i hun, beth oedd ynghanol y ddaear, a phwy a welsai flaidd. Yr oedd yn y cwmni nifer o fechgyn ffraeth, nad oes brinder ohonynt ymhlith pobl Wcraina.
Eisteddodd yr athronydd gyda'r lleill yn y cylch mawr, yn yr awyr agored, ar hiniog y gegin. Dyma hen wraig yn hercian drwy'r drws cyn bo hir, â llestr o dwmplenni twym yn eu dwylo, ac yn rhoi hwnnw ynghanol y rhai oedd wedi eistedd i gael swper. Tynnodd pawb ei lwy bren allan o'i logell, a'r rhai tlotaf eu fforc. Cyn gynted ag y dechreuai eu genau symud tipyn yn arafach, a dofi tipyn o'r newyn blaidd a oedd ar y cwmni, dyma rai ohonynt yn dechreu siarad. Yn naturiol, troes y stori ar y ferch farw.
"Ydi hi'n wir," ebe bugail ifanc, a roesai gymaint o fotymau a phlatiau prês wrth ei gas pib lledr â'i fod yn debig i siop gwerthwr mân nwyddau, "ydi hi'n wir bod y ferch ifanc trugaredd Duw arni—wedi bod yn ymdrafod â'r Gŵr Drwg?
"Pwy? y ferch ifanc?" ebe Dorosh, a adwaenai'r athronydd eisoes. "Pam, roedd hi'n eitha gwiddon! Mi rof fy llw, gwiddon oedd hi!"
Dyna ddigon! Dyna ddigon! Dorosh," meddai un arall, y neb a fuasai mor selog fel cysurwr ar y siwrnai, nid dy fusnes di yw hynny; Duw fo gyda nhw. Gwell i ni beidio â siarad am y fath bethau."
Ond nid oedd awydd bod yn ddistaw ar Ddorosh; ychydig cyn hynny, aethai i lawr i'r seler, gyda'r selerydd, ar fusnes pwysig, ac wedi gogwyddo ohono at lawer casgen fwy nag unwaith, daeth allan oddi yno'n nodedig o lawen, a siaradai'n ddi-baid.
"Beth a fynni di? i mi fod yn ddistaw?" meddai," ond y mae hi wedi marchogaeth ar fy nghefn i fy hunan, mi rof fy llw ei bod."
"Dwedwch wrthym, 'newythr," ebe'r bugail ifanc â'r botymau, pa fodd yr adweinir gwiddon?
"Ni elli adnabod un o gwbl," atebai Dorosh, "gelli wybod y Llyfr Gweddi ar dy dafod, ond ni elli adnabod gwiddon."
"O! gelli, gelli, Dorosh, paid â siarad felly," meddai'r cysurwr gynt," mae Duw wedi rhoi o bwrpas i bob person ryw gynneddf arbennig. Mae'r rhai sydd wedi astudio dewiniaeth yn dal bod gan widdon gynffon fitw bach."
"Mae pob hen fenyw yn widdon," ebe Cosac penfrith, yn ddidaro.
"Ie, rhai braf ŷch chi'r gwŷr a gweision," atebai'r hen wraig a oedd ar y pryd yn arllwys rhagor o dwmplenni i'r llestr gwag. "'Dŷch chi'n ddim ond moch tew!"
Gwenodd yr hen Gosac, Iaftwch wrth ei enw, yn hunan-foddhaus wrth weled bod ei sylw wedi crafu'r hen wraig i'r byw. Chwarddodd y bugail mor uchel â phe byddai dau darw yn rhuo wyneb yn wyneb yr un pryd.
Cododd yr ymddiddan hwn awydd diwala ar yr athronydd am glywed ychwaneg o fanylion ynglŷn â merch farw y gŵr bonheddig. Felly, mynnai droi'r siarad yn ol at y testun cyntaf, a chan droi at ei gyfnesaf, ebr ef:
"Carwn wybod pam y mae pawb sydd yma wrth y swper yn credu mai gwiddon oedd y ferch ifanc. A wnaeth hi niwed i rywun, neu ei gario i ffwrdd?
"Mae pob math o storiâu," atebai dyn wynebglawr nid annhebig i lwyarn. "Mae pawb yn cofio'r heliwr Micita, a'r bachgen hwnnw
"Pwy oedd Micita'r heliwr?" gofynnai'r athronydd. "Aros!
Mi ddwedaf i wrthyt stori Micita," meddai Dorosh.
"Myfi a ddywed stori Micita wrthyt," ebr y marchwas, roedd e'n dad bedydd i mi."
Na, mi ddywedaf i stori Micita," mynnai Spirid.
"Ie, ie, gedwch i Spirid ei hadrodd," meddent oll.
Dechreuodd Spirid.
"Nid adwaenech chi mo Micita, Mr. Athronydd Choma. Dyna i chi ddyn o fil! Byddai'n adnabod pob ci fel ei dad ei hun, 'Dyw'r heliwr presennol Micola, sy'n eistedd nesaf ond dau ataf i, ddim yn ffit i gau ei esgidiau. Mae yntau'n deall ei fusnes hefyd mewn ffordd, ond yn ymyl Micita!—sothach, gwarged."
Rwyt ti'n ei hadrodd hi'n wych iawn, yn wir," meddai Dorosh, gan ysgwyd ei ben i borthi.
Aeth Spirid ymlaen.
"Gallai weld ysgyfarnog ynghynt nag y gellir sychu'r snwff oddiwrth eich trwyn. Gallai chwiban Dere yma, Robin,' 'Dere yma, Tom,' a ffwrdd ag ef ar ei geffyl ar garlam gwyllt—ni wyddech pa un oedd gyflymaf—ei gi neu yntau. Gallai lyncu chwart o gwrw ar ei dalcen—ni welsoch y fath beth erioed. A dyna heliwr godidog! Ond am beth amser yn ddiweddar, cadwai ei lygad yn dyn ar y ferch ifanc. Yr oedd ef wedi cwympo mewn cariad â hi, neu efallai ei bod hi wedi ei reibio—sut bynnag, yr oedd yn ddyn colledig, wedi colli ei ben yn llwyr ar fenyw. Aeth yn y cythraul a ŵyr beth; ach a fi, mae'n gas gen i ddwedyd beth."
"Da iawn," ebe Dorosh.
"Pryd bynnag yr edrychai'r ferch ifanc arno, syrthiai'r awenau o'i law; gwaeddai Robin,' ' Bes,'; cwympai,—ac ni wyddai beth yr oedd yn ei wneuthur. Daeth y ferch ifanc un tro i'r stabl, ac yntau'n brwsio'r ceffylau.
Micita bach,' meddai hi, carwn roi fy nhroed arnat.' Ac ebr yntau'r ffwl, wedi dwlu'n lân, Nid un droed yn unig, ond eisteddwch arnaf.' Cododd y ferch ifanc ei throed, a phan welodd ef y droed noeth, luniaidd, wen, yna, meddai ef, yr oedd fel petai'n hurt gan ryw berlewyg. Camodd yr hurtyn ei gefn, a chan ddal ei thraed noeth yn ei ddwy law, dechreu tuthio fel ceffyl dros y stabl. Ni wyddai i ba le y marchogasant; ond daeth yn ol yn hanner marw, ac o'r pryd hynny allan, nychodd a gwywodd fel asglodyn. Ac un diwrnod pan ddeuthant i'r stabl, yn lle Micita, gorweddai twr o ludw a bwced gwag yno. Yr oedd wedi ei iwyr losgi. Ond yr oedd yn heliwr gwych, heb ei debig yn unman!"
Wedi i Spirid orffen ei stori, llefarai pawb am rinweddau'r heliwr ymadawedig.
"A glywsoch chi erioed am Sieptsicha?" gofynnai Dorosh, gan droi at Choma.
"Naddo."
"Ha ha! Mae'n amlwg nad ŷn nhw ddim yn dysgu llawer i chi yn y coleg yna. Wel gwrandewch. Y mae gennym ni Gosac yn y pentre o'r enw Sieptŵn—Cosac braf! Mae'n hoff o dipyn o ladrata a dywedyd celwydd— dim ond o ran sbri, ond Cosac braf yw e. 'Dyw ei fwthyn ddim ymhell oddiyma. Un noswaith, tua'r amser hyn, aeth Sieptŵn a'i wraig, wedi gorffen eu diwrnod gwaith, i'r gwely, a chan fod y tywydd yn deg, cysgodd Sieptsicha yn y buarth, a Sieptŵn yn y bwthyn ar y sgiw—nage, Sieptsicha yn y tŷ ar y sgiw, a Sieptŵn yn y buarth
"Ar y llawr, nid ar y sgiw, y cysgodd Sieptsicha," meddai hen wraig a safai yn y drws, â'i gên ar ei llaw.
Edrychodd Dorosh arni hi, yna ar y llawr, ac eto arni hi, ac wedi aros ychydig, ebr ef:
"Mae'n debig na fyddwch chi ddim wrth eich bodd os tynnaf i'ch dillad chi i lawr o flaen y cwmni yma."
Yr oedd y cerydd hwn yn ddigon. Distawodd yr hen wraig, ac ni thorrodd ar ei draws eto.
Aeth Dorosh ymlaen.
"Gorweddai baban blwydd oed mewn crud a hongiai ynghanol yr ystafell. Ni wn ai mab ai merch oedd. Roedd Sieptsicha newydd orwedd, pan glywai gi'n crafu wrth y drws, ac yn udo'n ddigon uchel i beri i un redeg allan o'r tŷ. Yr oedd dychryn arni, oherwydd y mae'r benywod mor ddwl fel, os estynnwch eich tafod allan arnynt o'r tu ol i ddrws wedi nos, y cwympa'u calon i'w traed. Beth bynnag, meddai hi wrthi ei hun, Damio! Mi darawaf i'r ci cythraul ar ei drwyn i roi taw ar ei udo,' ac felly cymryd y pocer a mynd i agor y drws. Prin yr agorodd y drws nad dyma'r ci'n rhuthro rhwng ei choesau'n union at y crud.
Gwelodd Sieptsicha'n awr nad ci ydoedd, ond y ferch ifanc. Ni byddai mor ddrwg pe'r ferch ifanc yn ei gwedd arferol a fyddai; ni buasai hynny'n ddim. Ond y peth rhyfedd a dieithr oedd ei bod hi'n las drosti i gyd, a'i llygaid yn llosgi fel tân. Ymaflodd yn y baban, torrodd ei wddf yn agored, a dechreu sugno'i waed. Gwaeddodd Sieptsicha, O! fy maban truan i!' a rhedodd allan o'r tŷ. Ni welai ddim, ond bod drws yr ysgubor ynghau. Felly esgynnodd i'r llofft, ac yno yr eisteddodd y wraig ffôl, yn crynu drosti. Yna, gwelodd y ferch ifanc yn dod ar ei hol i'r llofft; rhuthrodd honno ar Sieptsicha, a dechreu cnoi'r fenyw ddwl. Bore trannoeth, cariodd Sieptŵn ei wraig i lawr o'r llofft, wedi ei chnoi'n anafus, ac yn las drosti; a'r ail trannoeth bu'r fenyw ffôl farw. Ie, rhaid cael pob math i wneuthur byd—nid aur yw popeth melyn. Perthyn i deulu'r meistr y mae hyn, ond er hynny, y peth a ddywedaf i yw hyn—unwaith yn widdon, gwiddon yn wastad."
Edrychodd Dorosh o gwmpas yn hunan—foddhaus ar ol y stori hon, gan wthio'i fys i'w bib i baratoi at ei llanw drachefn o dybaco. Yr oedd pwnc y widdon yn ddihysbydd. Yr oedd pob un yn ei dro'n awyddus am adrodd rhyw stori neu'i gilydd. Gwelsai un widdon ar lun tas wair yn dod at ddrws ei fwthyn; dygasai ei gap neu ei bib oddiar un arall; torasai bleth o wallt oddi ar amryw o ferched y pentref; yfasai fwcedeidiau o waed rhai eraill.
O'r diwedd, dyma'r holl gwmni'n ymbwyllo, a gweled eu bod wedi clebran yn rhy hir, canys yr oedd yn nos y tuallan. Dechreu chwilio am le i gysgu yn y gegin neu'r ysgubor, neu ynghanol y cwrt.
Wel, Mistar Choma, mae'n bryd i ninnau fynd at y marw," ebr y Cosac brith, gan droi at yr athronydd, a dyma'r pedwar—Spirid a Dorosh hwythau yn cychwyn at yr eglwys, gan lachio'u chwipiau ar y cŵn gwyllt a grwydrai hyd yr heolydd yn lluoedd, ac a gnoai'r ffyn yn ffyrnig.
Er nad esgeulusodd ei gryfhau ei hun ymlaen llaw â gwydraid da o licwr, clywai'r athronydd ryw ddirgel ofn yn ymgripio drosto, yn fwy fyth po nesaf y deuent at yr eglwys oleu. Buasai'r storïau a'r hanesion rhyfedd a glywsai yn gymorth pellach i ddeffro'i ddychymyg. Dechreuodd y tywyllwch dan y cledrau a'r coed leihau, a'r wlad yn ymagor dipyn. O'r diwedd, dyma hwy drwodd i'r hen fynwent ac i'r clos bychan; y tu ol i hwn nid oedd mwyach ddim coed—na dim i'w weled ond y maes agored, a chaeau wedi eu claddu yn nhywyllwch y nos. Dringodd y tri Chosac gyda Choma y grisiau tro, ac aethant i mewn i'r eglwys. Yno y gadawsant yr athronydd, gan ddymuno iddo lwc dda i gyflawni ei orchwylion, a chloi'r drws arno yn ol gorchymyn eu meistr.
Yr oedd yr athronydd wrtho'i hunan. Dylyfodd ei ên ar y cyntaf, yna estyn ei freichiau, yna chwythu ar ei ddwy law, ac yna edrych o'i gwmpas. Safai'r arch ddu ynghanol yr eglwys; llosgai'r canhwyllau o flaen darluniau tywyll y seintiau, eithr ni oleuai eu llewych ond yr eilunfa, ac, yn ddigon prin, gorff yr eglwys—yr oedd y conglau pellaf yn y tywyllwch eithaf. Yr oedd digon o ôl traul y blynydd— oedd ar yr hen eilunfa uchel; disgleiriai ei rhwyllwaith goreuredig o hyd yma a thraw; yr oedd y goreuriad wedi cwympo ymaith y fan hon, a'r fan acw wedi llwyr bylu; yr oedd wynebau'r seintiau wedi cwbl dduo, a rhyw olwg wrthwynebus arnynt. Edrychodd yr athronydd o'i gwmpas unwaith eto.
"Wel, beth sydd i'w ofni?" meddai. "Ni all y byw ddod i mewn yma, ac y mae gennyf fy ngweddïau i'm cadw rhag y marw a'r drychiolaethau o'r byd arall gweddïau sy ddigon cryf, os darllenaf hwy drwyddynt, i beri na roddont fys arnaf. Waeth yn y byd!" meddai, gan rwyfo'i law, "mi ddarllenaf."
Wrth neshau at y corau, gwelodd amryw bacedi o ganhwyllau.
"Rhagorol," meddyliai, "mi oleuaf yr eglwys i gyd, fel y bo hi mor ddisglair â'r dydd. Druan ohonof, mae'n ddrwg na all dyn gael mygyn yn nhŷ Dduw."
A dechreuodd ddodi'r canhwyllau cŵyr wrth bob bach, darllenfa, a llun sanctaidd, heb fod yn brin arnynt, ac ni bu ohir nad oedd yr eglwys yn llawn goleu. Ond yr oedd y tywyllwch yn dduach byth tua'r to, ac edrychai'r wynebau tywyll yn y lluniau yn fwy sarrug allan o'r fframau, wedi eu cerfio'n hen ffasiwn, ac yn tywynnu yma ac acw gan y goreuriad arnynt. Aeth at yr arch, ac edrychodd yn ofnog ar wyneb y ferch farw, ac ni allai nad ysmicai, a rhyw grynfa'n mynd drwyddo, Yr oedd ei thegwch mor ofnadwy, mor wych!
Troes ymaith, ar fedr ymadael â'r arch; ond yn rhyfedd iawn, fel y digwydd i ddyn yn arbennig pan fo ofn arno, gorfodid ef gan ryw swyn dieithr treiddgar, wrth droi o'r neilltu, i syllu arni, ac yna, tan grynu eto, syllu drachefn. Ac, yn wir, yr oedd rhywbeth arswydus ym mhrydferthwch treiddiol y ferch. Dichon na pharasai hyd yn oed hithau y fath ias o arswyd pe buasai dipyn yn anolygus. Eithr nid oedd yn ei hwynepryd ddim rhith o erchylltod yr angeu. Yr oedd ei hwyneb yn fyw, a dychmygai'r athronydd ei bod hi'n edrych arno o dan yr amrannau caeëdig. Yn wir, tybiai fod deigryn yn treiglo i lawr o dan ei hamrant de, a phan arhoes hwnnw ar ei grudd, gwelodd yn eglur— mai dafn o waed ydoedd.
Brysiodd at y côr, agor ei lyfr, ac i fagu calon dechreuodd ddarllen y gweddïau ar eithaf ei lais. Tarawodd ei lais ar y muriau pren, a orweddasai'n hir yn y tawelwch; eithr nid oedd ateb i'w fâs dwfn—gwasgarwyd hwnnw yn y tawelwch bedd yno; hyd yn oed i'r darllenwr ei hun yr oedd rhyw sŵn dieithr yn ei lais. Daliodd i feddwl ynddo'i hunan:
"Pa beth sydd i'w ofni? Ni chyfyd hi o'i harch, oherwydd y mae arni ofn Gair Duw. Rhaid iddi orwedd yna! A pha fath Gosac a fyddaf i, os dangosaf fod ofn arnaf? Wel, cefais ddiferyn yn ormod—a dyna'r rheswm yr wyf yn ymglywed yn od. Ac yn awr am dipyn o snwff. Ha! Snwff gwych! Snwff rhagorol!"
Serch hynny, daliai i giledrych at y corff, wrth droi pob dalen, ac yr oedd fel pe byddai rhyw reddf, ar ei waethaf, yn sisial wrtho, "Edrych! mae hi'n codi! Edrych! mae hi'n sefyll—mae hi eisoes yn edrych dros yr arch!"
Ond parhai'r tawelwch angeu; yr oedd yr arch yn ddigyffro; tywalltai'r canhwyllau oleuni gwastad, llawn. Y mae eglwys wedi ei goleuo yn y nos, a chorff ynddi, heb enaid byw yn gwmni, yn erchyll!
Dechreuodd yr athronydd ganu mewn gwahanol gyweiriau, gan godi ei lais er mwyn lladd ei holl ofn, ond cadwai i droi ei lygaid bob munud at yr arch, fel petai ar ei waethaf yn gofyn "A beth pe bai hi'n codi?"
Eithr ni symudodd yr arch. O na cheid rhyw sŵn, na roddai rhyw greadur byw lais, pe na bai ond criciedyn yn canu yn y cornel!
Nid oedd dim i'w glywed ond y goleu'n tasgu o ryw gannwyll bell, neu sŵn meddal, tawel y cŵyr yn diferu i'r llawr.
"A beth pe bai hi'n codi?"
Dechreuodd ddyrchafael ei phen.
Edrychodd yntau'n wyllt, a rhwbio'i lygaid. Na, nid oedd mwyach yn gorwedd yn ei harch, ond yn eistedd. Tynnodd ef ymaith ei lygaid, ac eto'u troi'n ofnus at yr arch. Safodd hithau—cerddodd i fyny drwy'r eglwys â'i llygaid ynghau, gan ddal i estyn ei dwylo fel pe mynnai ymaflyd yn rhywun. Aeth yn syth tuag ato. Tynnodd gylch o'i gwmpas ei hun; ymdrechodd adrodd ei weddïau, a dywedyd swyneiriau a ddysgasai gan fynach a gyfarfuasai drwy gydol ei fywyd â gwiddonod ac ysbrydion aflan.
Yr oedd hi'n awr bron ar ymyl y cylch; eithr yr oedd yn amlwg na allai ei groesi. Aeth yn las ei lliw fel gŵr a fu farw ers dyddiau. Nid oedd galon gan Choma i edrych arni—yr oedd hi mor ddychrynllyd. Ysgyrnygodd ei dannedd, ac agor ei llygaid marw; ond gan na welai ddim, troes i gyfeiriad arall yn ei chynddaredd a welid yng nghryndod ei hwyneb, gan grafangu ymhob piler a chongl â'i breichiau estynedig yn ei hymgais i gydio yn Choma. Arhosodd o'r diwedd, ysgwyd ei dwrn yn fygythiol, a gorwedd yn ei harch.
Methai gan yr athronydd o hyd ei adfeddiannu ei hun, a syllai yn ei ddychryn ar addef gul y widdon. O'r diwedd, neidiodd yr arch yn sydyn o'i lle, a than chwyrnellu, dechreuodd chwildroi ar hyd yr eglwys i gyd, gan groesi'r awyr i bob cyfeiriad. Yr oedd yn awr uwch ei ben yn union; ond canfu'r athronydd ar unwaith na allai daro ar y cylch a dynasai, a dyblodd ei swyneiriau. Cwympodd yr arch yn sydyn ar ganol yr eglwys, ac ni symudodd. Cododd y corff drachefn ohono, yn wyrddlas ei liw. Eithr y foment honno, clybuwyd o bell ganiad y ceiliog; ymollyngodd y corff i'r arch, a slamiodd y clawr arno.
Curai calon yr athronydd yn wyllt, a llifai'r chwŷs drosto. Ond cymerth galon wrth gân y ceiliog, a darllenodd yn frysiog y tudalennau a ddylasai eu darllen ynghynt. Ar lasiad y wawr, daeth i'w ryddhau gurad ac Iaftwch walltfrith a wasnaethai'n glochydd am y tro.
Methodd gan yr athronydd gysgu yn hir wedi iddo gyrraedd ei wely pell; ond cafodd ei flinder y trechaf, a hunodd tan bryd cinio. Pan ddeffroes, yr oedd holl ddigwyddiad y nos cynt fel breuddwyd iddo. Rhoesant iddo beint o licwr er mwyn iddo ddod i'w le. Amser cinio, buan y cafodd hwyl, gan roi barn ar wahanol bynciau, ac ysodd ei hunan bron fochyn sugno go fawr. Ond yr un pryd, penderfynodd na ddywedai air am ei brofiad yn yr eglwys a hynny oherwydd rhyw deimlad na allai ef mo'i esbonio. Pan ofynnai'r rhai holgar rywbeth iddo, ei unig ateb a fyddai, "Do, digwyddodd amryw bethau rhyfedd." Yr oedd yr athronydd yn un o'r bobl hynny sydd yn magu rhyw radlonrwydd eithriadol pan fônt wedi cael eu gwala o fwyd. Gorweddodd â'i bib rhwng ei ddannedd, gan edrych ar y cwmni â llygad nodedig o dyner, a phoerai'n ddiddiwedd ar y llawr.
Wedi cinio, yr oedd yr athronydd yn hollol wrth ei fodd. Aeth dros yr holl le er mwyn adnabod pawb. Yn wir, fe'i gwthiwyd allan o rai o'r bwthynnod. Rhoes un llances wisgi ergyd iawn iddo yn ei gefn â'i llwyarn, am iddo ddechreu ei thynnu a cheisio gweld pa beth oedd defnydd ei chamse a'i sgyrt. Ond po nesaf y deuai'r nos, tawelaf oll yr ai'r athronydd. Yr awr cyn swper, byddai'r holl gwmni'n crynhoi ynghyd i chwarae "cragli," math o chwarae ceilys lle y defnyddir ffyn hir yn lle pelau, a chan yr enillwr hawl i farchogaeth ar gefn y collwr. Yr oedd y chwarae hwn yn llawn difyrrwch i'r sawl a fyddai'n edrych arno. Weithiau marchogai'r marchwas corffol ar gefn y meichiad—cor o greadur bach gwannaidd. Bryd arall, rhoddai'r marchwas ei gefn ei hun, a Dorosh yn neidio arno gan weiddi, "Dyma ych braf!" Eisteddai aelodau mwyaf sobr y teulu ar drothwy'r gegin. Ysmygent eu pipau, ac edrych yn ddifrifol iawn, hyd yn oed pan waeddai'r rhai ifainc wrth chwerthin am ryw ateb ffraeth gan y marchwas neu Spirid. Ofer y ceisiai Choma ymroi i'r chwarae; yr oedd rhyw brudd—der wedi ei hoelio ar ei feddwl. Pa mor galed bynnag y ceisiai ymddifyrru wedi swper, llosgai dychryn yn ei fynwes fel y lledai'r tywyllwch dros y ffurfafen.
"Wel, mae'n bryd mynd, Mistar Myfyriwr," eb y Cosac gwalltfrith, gan godi gyda Dorosh, awn at ein busnes.'
Arweiniwyd Choma fel o'r blaen at yr eglwys; fel o'r blaen, gadawsant ef yn unig, a chloi'r drws arno. Cyn gynted ag y gadawyd ef wrtho'i hun, dechreuodd ofnocâu eto. Bwriodd ei olwg drachefn ar luniau tywyll y seintiau yn eu fframiau disglair, ac ar yr elor ddu a safai'n fygythiol o dawel a llonydd ynghanol yr eglwys.
"Pam," ebr ef," nid oes dim rhyfedd yn hyn y tro hwn! Y tro cyntaf yn unig y cefais ofn. Ie, y tro cyntaf yn unig yr oedd arnaf dipyn bach o ofn, ond nid oes arnaf ddim yn awr—dim o gwbl yn awr."
Aeth yn gyflym i mewn i gôr, tynnu cylch o'i gwmpas, dywedyd ychydig swyneiriau, a dechreu darllen y gweddïau â llais uchel, gan benderfynu na chodai ei lygaid oddiar ei lyfr, ac na sylwai ar ddim. Bu'n darllen am ryw awr, ac yr oedd yn dechreu blino a phesychu; cymerth ei flwch snwff o'i boced, a chyn rhoi snwff at eu drwyn edrych yn nerfus at yr arch. Oerodd ei galon yn ddisyfyd o'i fewn; yr oedd y corff yn sefyll o'i flaen, ar y cylch, a'r llygaid gwyrdd fel angeu wedi eu hoelio arno. Arswydodd y myfyriwr, Sefydlodd ei lygaid ar ei lyfr ac aeth ias oer drwy ei holl wythi. lyfr, a dechreu darllen yn uwch ei weddïau a'i swyneiriau; a chlywodd y corff eto'n ysgyrnygu dannedd ac yn estyn ei freichiau allan i gydio ynddo. Ond wrth giledrych ag un llygad arno, gwelodd nad oedd y corff yn crafangu am dano ef yn y fan lle y safai, ac yn amlwg, na allai ei weled. Dechreuodd y widdon sisial yn dawel, a llefaru geiriau dychrynllyd â'i gwefusau marw. Yr oedd rhyw igian cryg ynddynt, fel bwrlwm pyg wrth ferwi. Ni wyddai ef mo'u hystyr, ond cynhwysent ryw feddwl arswydus. Parodd ei ddychryn i'r athronydd ddeall ei bod yn llunio melltithion.
Wedi iddi siarad, cododd corwynt yn yr eglwys, a chlywid sŵn fel taro llu o adenydd. Clywai hwy'n taro yn erbyn ffenestri'r eglwys ac yn erbyn eu barrau heyrn, a chrafu'r haearn â chrafangau, a rhyw allu anweledig yn curo'r drws ac yn ceisio torri i mewn i'r eglwys. Curai ei galon yn wyllt o hyd; crychodd ei lygaid, a dal i ddarllen ei swyn— eiriau a'i weddiau. O'r diwedd, dyna sŵn clir sydyn yn y pellter—ceiliog yn canu draw ymhell ydoedd. Peidiodd yr athronydd diffygiol â'i ddarllen, ac ucheneidiodd yn rhydd.
Pan ddeuthant i mewn i'w ryddhau, cawsant ef yn fwy marw na byw; yr oedd wedi pwyso'i gefn ar y mur, ac edrychai ei lygaid llonydd llydan—agored ar y Cosaciaid yn dynesu. Cariasant ef allan bron, a bu raid iddynt ei helpu bob cam o'r ffordd adref. Wedi iddo gyrraedd y tŷ, crynodd drosto, a chrefodd arnynt am roi iddo beint o licwr. Yfodd hwnnw, rhoes ei law drwy ei wallt, a dywedyd, "Y mae pob math o ffieidd—dra ar waith yn y byd! A'r fath ddychrynfeydd yn bod, wel. . ."—ac amneidiodd â'i law arnynt. Crymodd y rhai a ymgasglasai o'i gylch eu pen wrth glywed ei eiriau.
Yr oedd hyd yn oed y crwt bach y tybiai'r holl deulu fod ganddynt hawl i roi cyflawn awdurdod arno pan fyddai'n bwnc o garthu'r ystablau neu gyrchu dwfr—yr oedd hyd yn oed y crwt truan hwn yn agor ei enau'n llydan, fel ei well.
Y foment honno, pasiai geneth ifanc mewn gwisg den a ddangosai ei ffurf lawn gadarn yn eglur, cynorthwyydd yr hen goges, coegen ofnadwy, a chanddi rywbeth bob amser yn ei het—darn o ruban, neu flodeuyn, neu hyd yn oed ddarn o bapur pe na allai gael gafael ar ddim arall.
"Dydd da, Choma," eb hi, pan welodd yr athronydd. "Diar annwyl!" meddai, gan guro'i dwylo ynghyd, " beth a ddigwyddodd i chi?"
"Beth yw'ch meddwl chi'r hoeden?"
"O'r nefoedd annwyl! 'rych chi wedi britho'n hollol." 'Diar, diar! mae hi'n iawn," ebe Spirid, gan edrych arno'n ofalus. "Mae'n ffaith, rwyt ti wedi britho, fel yr hen laftwch."
Pan glywodd yr athronydd hynny, rhuthrodd i'r gegin, lle y gwelsai, wedi ei roi wrth y mur, ddarn triongl o ddrych yn llawn chwyth cylion. Hongiai o'i flaen ychydig o ysgorpionllys y gors, a thusw o fythwyrdd, a ddangosai pa mor bwysig oedd ar gyfair trwsiad y fursen ifanc oedd mor fanwl ar ol ei golwg. Sylweddolodd gyda dychryn. wirionedd ei geiriau. Yr oedd hanner ei wallt yn llwyd.
Crymodd Choma Brwt ei ben, ac aeth i syn-fyfyrdod.
"Af at y meistr," meddai o'r diwedd; "dywedaf wrtho'r holl hanes, a dangos yn glir iddo nad wyf am ddal ati ddarllen. Rhaid iddo f'anfon yn ol ar unwaith i Kiev." Dyna'i feddyliau wrth fynd at ddrws ffrynt tŷ'r meistr. Eisteddai'r Cyrnol, yn ddigyffro bron, yn ei barlwr. Yr oedd ar ei wyneb yr un trallod anobeithiol ag a welsai Choma yno o'r blaen; ond yr oedd llawer mwy o bant yn ei ruddiau na chynt. Yr oedd yn amlwg na chymerasai ond ychydig luniaeth—efallai, yn wir, na phrofasai ddim o gwbl. Parai rhyw welwedd dieithr iddo edrych fel darn o farmor disigl.
"Dydd da, ŵr ifanc," eb ef pan welodd Choma'n sefyll â'i gap yn ei law wrth y drws. "Wel, sut 'rŷch chi'n dod ymlaen? Yn iawn?"
"Yn iawn, ie yn iawn. Mae'r fath gythraul o chwarae'n mynd ymlaen, fel y mae arnaf i chwant cydio'n fy nghap, ac i ffwrdd â mi nerth fy nhraed."
"Sut felly?
"Wel, mae'ch merch chi, syr . . . Ac ystyried, yn iawn, mae hi wrth gwrs o dras bonheddig, ni all neb ei beirniadu ar y pwynt yna; ond—os caf ddywedyd hynny heb i chi golli'ch tymer—rhodded Duw orffwys i'w henaid
"Pam—beth a wnaeth fy merch i?"
"Y mae hi yng ngallu'r diafol. Y mae hi'n peri'r fath ddychrynfeydd ag na all yr un ysgrythur eu maddeu iddi.”
"Deliwch ati i ddarllen eich gweddïau, meddaf wrthych. Nid er dim yr anfonodd am danoch; yr oedd yn bryderus, yr anwylyd bach, am ei hiechydwriaeth, ac yn chwennych erlid ymaith bob ysbryd drwg drwy weddi."
"At eich gwasanaeth, syr, ond, ar fy llw, y mae tuhwnt i'm gallu."
"Deliwch ati i ddarllen, meddaf wrthych!" meddai'r Cyrnol, yn yr un llais bygythiol. "Un nos yn unig sy gennych eto; rŷch chi'n gwneuthur gwaith Cristnogol, a rhoddaf yn dâl i chi. . . "
"Rhowch imi'r dâl a fynnoch—pa faint bynnag sydd arnoch o eisiau hynny, syr, nid af ddim ymlaen â'r darllen," meddai Choma'n bendant.
"Gwrando'n awr, athronydd," ebr y Cyrnol, a'i lais yn caledu'n fygythiol, "nid wyf yn hoffi'r meddyliau hyn sy gennyt. Gelli ymddwyn felly yn dy goleg, ond ni wna'r tro yma. Mi a'th fflangellaf yn wahanol i ffonodiau dy ysgolfeistr. A wyddost ti beth yw' cantswc '[1] ledr dew?
"Gwn, wrth gwrs," meddai'r athronydd, mewn llais isel, 'gŵyr pawb beth yw cantswc—ergydion o'r bron, na all neb dynol mo'u goddef."
"Eithaf gwir. Ond y mae eto un peth na wyddost, sef y modd y gall fy ngweision i flingo!" meddai'r Cyrnol yn fygylus, gan sefyll yn syth, a golwg greulon ormesol ar ei wyneb a ddatguddiai pa mor annofadwy oedd ei ysbryd na thawelwyd mohono ond dros dro gan ei drallod. Bydd fy ngweision i'n blingo gyntaf, yna'n arllwys licwr i'r clwyfau, ac yna'n blingo drachefn. Dos, dos, gwna dy ddyletswydd. Oni wnei, ni byddi'n gallu sefyll mwy; os gwnei—mil o chweugeiniau."
"Ha! ha! rhyw ddychryn o ddyn ydyw," meddyliai'r athronydd wrth fyned allan, "ni ellir cellwair ag ef. Ond aros dipyn, ffrind. Mi rof i fin ar f'esgidiau eira, fel na elli di a'th gŵn mo'm dal."
A phenderfynodd Choma ddianc ar unrhyw delerau. Ni fynnai ond aros tan yr awr ar ol cinio, pan fyddai holl bobl y tŷ'n cilio i'r gwair yn yr ysguboriau, i chwyrnu a phwffian, yn geg-agored, fel peiriannau ffactri.
Daeth yr amser o'r diwedd. Yr oedd hyd yn oed Iaftwch yn smicio'i lygaid ac yn ymestyn yn yr haul. Aeth yr athronydd, yn ei ofn a'i ddychryn, ar flaenau'i draed i ardd y meistr, y tybiodd y byddai'n haws dianc ohoni, heb ei weled, i'r wlad agored. Yr oedd yr ardd hon fel rheol wedi gordyfu'n aruthrol, ac felly'n taro i'r dim at ryw weithred ddirgel. Ac eithrio un llwybr wedi ei droedio
bobl y tŷ, yr oedd yr holl le wedi ei orchuddio gan goed ceirios tewdwf, llwyni meryw, ac ysgall uchel a wthiai eu paladrau tal, â'u blagur coch edafog, i'r lan. Toid y casgliad amryfal hwn o goed a llwyni gan rwyd grepianog, a ymestynnai i'r berth, a thaflu drosti amdorchau'n ymblethu fel nadredd i ganol gwyllt—flodau'r maes. Y tu cefn i'r berth ar ymyl yr ardd, gorweddai fforest gyfan o rug, na buasai neb, dybygid, yn ddigon ymchwilgar i fwrw golwg arni, a lle y chwilfriwid pladur pe mynnai byth â'i min dorri'r bonau coed ystyfnig hyn.
Pan oedd yr athronydd ar ddringo dros y berth, tarawodd ei ddannedd ynghyd, a churodd ei galon mor gyflym ag iddo ddychrynu. Yr oedd ymyl ei glog hir yn glynu wrth y llawr, fel petai wedi ei hoelio yno. Wedi iddo groesi, tybiai glywed llais main yn gwichian yn ei glust, "Lle'r wyt ti'n mynd, he?" Neidiodd yr athronydd i ganol y grug, a dechreu rhedeg, gan gwympo bob cam dros hen wreiddiau, neu sengi ar dyrchod daear. Wedi ei dynnu ei hunan yn rhydd o'r grug, gwelai fod ganddo gae i'w groesi eto, a pherth ddrain dew'n rhedeg y tu ol iddo. Tybiodd y byddai'n ddiogel pe cyrhaeddai hon, canys cyfrifai y dylai gael yr heol i Kiev y tu arall iddi. Felly, rhedodd dros y cae, ac ymdaflodd i ganol y llwyn drain tew. Ymgripiodd drwy'r llwyn, gan adael darnau o'i gôt yn doll ar bob pin draen, ac ymgododd mewn lle bychan agored. Tyfai helygen yn ymyl, a'i changau'n ymgwympo ymaith ar wahân bron at y llawr, a disgleiriai ffynnon fach glir fel arian yno. Y peth cyntaf a wnaeth yr athronydd oedd ymgrymu i lawr ac yfed ei wala, canys yr oedd arno syched annioddefol. "Dwfr gwych yw hwn," meddai, dan sychu ei wefusau. Hoffwn allu gorwedd yma."
"Na, gwell i chi redeg ymhellach; efallai y'ch dilynir." Llefarwyd y geiriau hyn y tu ol iddo. Troes—a safai Iaftwch o'i flaen.
"Yr Iaftwch cythraul yma!" meddyliai'r athronydd, yn llidiog. "Carwn gydio yn dy draed dryllio dy hen swch ffiaidd a phopeth ohonot ar foncyff pren.
Gwnaethoch gamsyniad wrth ddod o gwmpas mor bell," meddai Iaftwch. "Buasai'n llawer gwell i chi gymryd yr heol y deuthum i drosti—yn syth heibio i'r ystablau. Trueni, hefyd, am eich côt. A'r brethyn mor dda. Beth y llath a gostiodd? Sut bynnag, cawsom dro da; mae'n bryd mynd adre."
Crafodd yr athronydd ei ben, a dilynodd Iaftwch. "Fe ry'r hen widdon ddiawl dipyn o bupur i mi'n awr,' meddyliai. "Wel, beth bynnag, beth yn wir wyf i, ac ofn pa beth sydd arnaf? Onid Cosac wyf i? Rwy' wedi darllen y gweddïau ddwy noswaith, a chyda help Duw, af drwy'r drydedd. Mae'n amlwg bod llwyth da o bechodau ar gefn yr hen widdon ddiawl, neu ni roesai'r Gŵr Drwg y fath gefnogaeth iddi."
Felly y meddyliai wrth fyned i mewn i fferm y gŵr bonheddig. Wedi ei galonogi ei hun â'r meddyliau hyn, crefodd ar Ddorosh, a lwyddai weithiau ar gyfrif ei ddylanwad gyda'r stiward i fyned i mewn i seler y meistr, am ddod â fflagen o licwr i fyny. Ar ol eistedd yn yr ysgubor, yfodd y ddau y rhan fwyaf o alwyn, nes i'r athronydd neidio'n sydyn ar ei draed, a gweiddi, "Crythorion, rhaid i mi gael crythorion." Ond, heb aros i'r crythorion, dechreuodd ddawnsio'r tropac mewn lle clir yn y cwrt. Dawnsiodd nes iddi fod yn hwyrddydd, a gwnaeth pobl y fferm, fel y digwydd ar achlysuron felly, gylch o'i gwmpas, ac o'r diwedd, poeri a myned ymaith gan ddywedyd, "Mae'n rhyfedd pa mor hir y gall ddawnsio." Gorweddodd yr athronydd o'r diwedd i gysgu ar y fan honno, a bu raid cael bwcedaid mawr o ddwfr oer i'w ddihuno erbyn swper. Yn ystod y pryd bwyd, pregethai ar ystyr " Cosac," i ddangos na ddylai ofni dim yn y byd.
"Mae'n bryd," meddai Iaftwch. "Awn."
"Mi hoffwn i losgi dy dafod di, y mochwr diawl!" meddyliai'r athronydd; yna safodd, a dywedyd, " Awn." Fel yr oeddynt yn myned, daliai'r athronydd i edrych o'i gylch ar bob tu, a cheisiodd ymgomio â'i gyfeillion. Ond yr oedd Iaftwch yn ddistaw, ac nid oedd hyd yn oed ar Ddorosh chwant siarad. Yr oedd yn nos uffernol. Oernadai'r bleiddiaid yn gôr yn y pellter, ac yr oedd rhyw aeth hyd yn oed yng nghyfarthiad y cŵn.
"Mae hwnna fel sŵn rhywbeth arall yn udo; nid blaidd ydyw," ebe Dorosh.
Yr oedd Iaftwch yn ddistaw. Ni allai'r athronydd ddywedyd dim. Deuthent i'r eglwys, a myned i mewn dan ei tho pren oedd yn dadfeilio, yr hyn a ddangosai pa faint a hidiai perchen y lle am Dduw ac am ei enaid ei hun. Ymneilltuodd Iaftwch a Dorosh fel o'r blaen, a gadawyd yr athronydd yn unig.
Yr oedd popeth yr un fath, yr un olwg fygythiol ar bopeth. Safodd yn llonydd am funud. Safai arch y widdon ddychrynllyd yn ddigyffro ynghanol yr eglwys. "Nid oes arnaf ofn, ar fy llw, nid oes arnaf ofn!" meddai, a chan dynnu cylch o'i gwmpas fel o'r blaen, dechreuodd adrodd eto ei holl swyneiriau.
Yr oedd y tawelwch yn llethol; llanwai'r canhwyllau gwan yr holl eglwys â goleu. Troes yr athronydd un ddalen, ac yna un arall, a sylwodd ei fod yn darllen rhywbeth hollol wahanol i'r hyn oedd yn y llyfr. Ymgroesodd yn ei ddychryn, a dechreu canu emyn. Rhoes hyn galon iddo, ac ail ddechreuodd ddarllen, gan droi'r naill ddalen ar ol y llall.
Yn sydyn ynghanol y distawrwydd, dyma glawr haearn yr arch yn ymagor ar lam, a'r widdon farw yn sefyll. Yr oedd yn fwy arswydus fyth yr olwg arni na'r tro cyntaf. Rhinciai ei dannedd yn ddychrynllyd, y naill res ar y llall, yr oedd ei gwefusau'n ddirdyn ddirgryn, a hysiai allan lif o felltithion ffyrnig. Cododd gwynt yn yr eglwys, chwilfriwiodd yr eilunod i'r llawr, a chwympodd cwareli'r ffenestri yn ysgyrion. Tynnwyd y drysau oddiar eu colynnau, a rhuthrodd mintai aneirif o angen filod i eglwys Dduw. Llanwyd yr eglwys â sŵn echryslon eu hadenydd yn taro a'u hewinedd yn crafu. Yr oeddynt oll yn symud, ar lawr ac yn yr awyr, gan chwilio ymhobman am yr athronydd. Diflannodd poethder ei feddwdod yn llwyr o ymennydd Choma. Ymgroesodd yn ddibaid, ac adrodd gweddi ar ol gweddi'n gymysg—dra—chymysg. A'r holl amser, clywai haid o ddiefyl yn rhuthro o'i gwmpas, a bron rhwbio ynddo â blaenau eu hadenydd a'u cynffonnau erchyll. Nid oedd galon ynddo i edrych arnynt. Ni welai ond bod anghen fil hyll yn sefyll ar bob mur ynghanol dyrysni cedenog ei flew fel mewn fforest, a bod pâr o lygaid yn hylltremu drwy rwyd ei wallt. Uwch ei ben, ynghanol yr awyr, siglai rhywbeth ar lun pledren anferth, ag ewinedd aneirif a cholynnau ysgorpion yn dod allan ohoni, a thyweirch o bridd tywyll yn hongian wrthynt. Edrychent oll tuag ato, yn chwilio am dano heb fedru ei weled, gan fod y cylch dirgel o'i gwmpas.
"Dygwch y Fïi! Cyrchwch y Fïi," gwaeddai'r widdon farw.
A bu dawelwch mawr ar unwaith yn yr eglwys. Daeth oernad bell y bleiddiaid i'r glust, a chlywid heb ohir sŵn traed trwm yn atsain drwy'r eglwys. Cododd ei olygon yn llechwraidd, a gwelai arwain rhywun bychan coesgam afrosgo ar ddelw dyn. Yr oedd wedi ei orchuddio â phridd du. Safai ei goesau a'i freichiau allan, wedi eu cuddio â phridd, fel gwreiddiau cygnog, gewynnog, cadarn. Cerddai'n drwm, a chwympai ar bob cam. Ymestynnai ei amrannau aruthrol hyd y llawr. Canfu Choma gyda dychryn fod ei wyneb o haearn. Arweiniwyd ef i mewn gerfydd ei freichiau, a'i osod ar y fan lle y safai Choma.
Dyrchefwch fy aeliau—ni fedraf weld," ebr y Fïi mewn llais bedd—a brysiodd yr holl fintai i ddyrchafael ei aeliau. Nac edrych," ebr llais oddimewn wrth yr athronydd. Ond ni allai ymgadw. Edrychodd.
Dacw ef," meddai'r Fii, gan gyfeirio ato â bys haearn; a rhuthrodd yr holl giwed angen filod arno ar unwaith. Yr oedd wedi ei barlysu gan ofn, syrthiodd fel pren i'r llawr, ac yno yr ehedodd ei enaid oddiwrtho oherwydd ei ofn.
Canodd y ceiliog. Hwn oedd yr ail dro—ni chlywsai'r ellyllon y caniad cyntaf. Brysiodd pob un o'r ysbrydion dychrynedig ei oreu i'r ffenestri a'r drysau i ffoi cyn gynted ag y gallai. Ond nid oedd amser; felly arosasant ynghrog yno, wedi eu maglu yn y drysau a'r ffenestri. Pan ddaeth yr offeiriad, safodd yn syn wrth y fath halogi cysegr Duw, ac ni fentrodd gynnal gwasanaeth i'r marw yno. Safodd yr eglwys am genedlaethau fel yr oedd, a ffurfiau'r angen filod yn gymhleth yn y ffenestri a'r drysau. Tyfodd y prysgwydd, y llwyni, y grug gwyllt, a'r drain drosti, ac ni ŵyr neb heddyw ddatguddio'r fan y safai.
Pan ddaeth y sôn am hyn i Kiev, a chlywed o'r diwinydd Chaliafa dynged drist yr athronydd Choma, fe'i llethwyd gan fyfyrdod am awr lawn. Buasai cyfnewid pwysig yn ei fywyd yn y cyfamser. Gwenasai ffawd arno. Wedi iddo orffen astudio, dewiswyd ef yn glochydd eglwys fwyaf Kiev, ac ymddangosai bob amser bron â'i drwyn wedi ei dorri, canys cywilyddus o anniben y codasid y grisiau coed i fyny i'r clochty.
"A glywaist ti'r hyn a ddigwyddodd i Choma?" meddai Tiberius Gorobets, gan neshau ato. (Troesai Tiberius yn athronydd, ac yr oedd yn blodeuo trawswch.)
"Ewyllys Duw ydoedd," ebr y clochydd. "Awn i'r tŷ tafarn, ac yfwn wydraid at iechydwriaeth ei enaid." Dangosodd yr athronydd ifanc, a ddechreuasai arfer ei freiniau â'r fath frwdfrydedd fel yr oedd aroglau licwr a thybaco ar ei gôt, ei lodrau, a hyd yn oed ei gap, ar unwaith ei fod yn barod.
"Bachgen braf oedd Choma," ebr y clochydd, wedi i'r tafarnwr cloff roi ei drydydd gwydraid ger ei fron. 'Bachgen rhagorol! A chollodd ei fywyd am ddim.'
"Mi wn i pa fodd y collodd ei fywyd," ebr y llall, "o achos bod arno ofn y bu hynny; pe na buasai ofn arno, ni allasai'r widdon wneuthur unrhyw niwed iddo. Nid rhaid i ddyn ond ymgroesi ger bron gwiddon, a phoeri ar ei chynffon, ac ni ddaw niwed iddo. Mi wn i bopeth am hynny, oherwydd gwiddonod yw'r holl hen wragedd sy'n eistedd yn y farchnad yn Kiev yma."
Amneidiodd y clochydd â'i ben i gytuno. Ond gan iddo sylweddoli na allai ei dafod yngan gair, cododd yn ofalus o'i sedd, a than siglo o'r naill ochr i'r llall, aeth ymaith i chwilio am le i ymguddio yn rhyw lecyn pell yn y grug. Yr un pryd, yn ol ei hen arfer gynt, nid anghofiodd ladrata hen wadn esgid a orweddai ar fainc y tŷ tafarn.
THE EDUCATIONAL PUBLISHING CO., LTD.,
CARDIFF AND LONDON.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Cantswc—Gair tafodiaith am nagaica (fflangell Gosac).
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.
|
|
Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1931, ac mae felly yn y parth cyhoeddus o dan gyfreithiau hawlfraint UDA, y wlad lle mae Wicidestun yn cael ei gyhoeddi. | |