Brethyn Cartref/Darn o Fywyd

Oddi ar Wicidestun
Ysmaldod y Sais Mawr Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Y Bardd


VIII. DARN O FYWYD.

YR oedd y simnai fawr wedi ei gorffen, un o'r rhai mwyaf yn yr holl wlad. Yr oedd mor uchel fel yr oedd edrych arni o'r gwaelod yn ddigon i godi'r bendro ar ddyn.

Yr oedd yr holl ysgaffaldiau wedi eu tynnu i lawr, ac yr oedd un dyn ar ben y simnai, un o'r dynion hynny sy'n medru sefyll mewn lle uchel mor ddi daro âg ar lawr. Yr oedd yn gorffen gosod y wifren oedd yn rhedeg gyda'r simnai o'r brig i'r bôn i dynnu'r mellt ati a'u harwain i'r ddaear rhag difrod i'r simnai. Yr oedd ganddo raff oddi mewn i'r simnai i fynd i lawr pan fyddai yntau wedi gorffen ei waith.

Yr oedd y gweithwyr eraill wrthi yn clirio'r ysgaffaldiau ar y gwaelod, ac ambell un obonynt yn awr ac yn y man yn edrych i fyny tua brig y simnai gan gysgodi ei lygaid â'i law, i weled pa fodd yr oedd y dyn ar y brig yn dyfod ymlaen gyda'i waith.

O'r diwedd, gorffennodd hwnnw ei orchwyl. Cododd ar ei draed, safodd ar ymyl y simnai, tynnodd ei gap a gwaeddodd "Hwre!" Gwaeddodd y dynion ar lawr "Hwre!" yr un modd, gan chwifio eu capiau hwythau.

Yr oedd y dyn ar y brig yn un mentrus. Grwaeth na hynny, yr oedd yn un gorchestol. Safodd ar yr ymyl, ar ei untroed, a'i droed arall allan dros y dibyn a'i law ar led yn chwifio ei gap, a'r llaw arall yn pwyso ar ei ystlys, yn ddi-daro.

Troes amryw o'r dynion oedd ar lawr eu golygon draw rhag edrych arno. Yr oedd fel pe buasai yn herio ffawd yn y fath le, ac wrth wneud y fath branc. Gwelodd yntau ei fod yn rhoi braw iddynt. Chwarddodd, a dechreuodd ddawnsio ar yr ymyl, a throi o gwmpas rhimyn cul y simnai, mor chwim a di-daro ag aderyn.

"Cymer ofal, Wil!" llefodd un o'r dynion oedd ar lawr, "cymer ofal rhag ofn iti syrthio!"

Ond yr oedd Wil yn ei elfen, chwarddodd drachefn, a daliodd ati i brancio ar ben y simnai nes oedd ei gydweithwyr yn dechreu mynd yn sal eu calon wrth ei weled.

Yna, yn sydyn, daeth cyfnewidiad dros Wil. Yr oedd wedi plygu i lawr i edrych i mewn i'r simnai, ac yna wedi codi a sefyll, ac yr oedd bellach yn edrych yn syn ar y dyfnder tano.

Pa beth oedd wedi digwydd?

Clywyd llais Wil yn dyfod i lawr o'r uchter, —

"Be wna i 'rwan, hogia? Mae'r rhaff wedi rhedeg i lawr!"

Dychrynwyd hwy i gyd ar y cyntaf. Pa fodd y doi Wil i lawr? Nid oedd ond un ffordd am dani. Rhaid codi'r ysgaffaldiau i gyd yn eu holau! Gwaeddasant arno fod yn llonydd yno, a dechreuasant ddyfod a'r coed a'r rhaffau ar eu holau at fôn y simnai.

Y funud honno, dechreuodd pobl dyrru i'r lle o'r pentref ger llaw. Yr oedd yr hanes wedi ymledu yn gyflym, ac yr oedd y bobl mewn dychryn wrth edrych i fyny a gweled lle'r oedd y dyn, heb foddion yn y byd i ddyfod i lawr oddi yno. Gwyddent am orchestion y dyn, ond yr oeddynt yn awr yn dechreu meddwl ei fod wedi "ei gwneud hi," ac wedi mynd i le rhy beryglus hyd yn oed iddo yntau fedru dyfod ohono yn ddiogel. Yr oeddynt yn sefyll yn dyrrau o gwmpas ac yn siarad â'i gilydd yn ei gylch, yn rhyw hanner distaw, fel y bydd pobl yn siarad mewn claddedigaeth neu o gwmpas gwely dyn ar farw.

Drwy eu canol, rhedodd dynes a hogyn bychan i'r lle. Yr oedd yn amlwg fod y ddynes mewn cryn gyffro, ond pan welodd hi Wil yn eistedd yn dawel ar ymyl y simnai a'i droed drosodd, tawelodd hithau hefyd.

"Wedi bod yn chware castie gwirion fel arfer y mae o?" meddai hi.

"Ie, y rhaff wedi rhedeg," ebr un o'r dynion ger llaw.

"Be wnewch chwi 'rwan, ynte?" ebr hi.

"Codi'r ysgaiffaldie yn ol," meddai'r dyn. "Beth arall wnawn i?"

Safodd y ddynes o'r neilltu, yn syn.

Gwraig Wil oedd hi. Yr oedd yr hogyn bach wedi bod yn chware o gwmpas drwy'r dydd. Teulu crwydr oeddynt, ac nid oedd y plentyn yn mynd i'r ysgol. Pan welodd y bychan pa beth oedd wedi dyfod i ran ei dad, rhedodd adref ar ei gyfer a dywedodd wrth ei fam pa beth oedd wedi digwydd. A daeth hithau yno rhag blaen, er mai prin y disgwyliai fedru gwneud dim ond edrych ar Wil yn ei berigl ymhen y simnai.

Yr oedd y dynion wrthi yn brysur yn paratoi at ail godi'r ysgaffaldiau. Pa beth arall oedd i'w wneud? Llafur mawr, a hynny o achos gwrhydri gwyllt y dyn ar y brig!

"Yr hen benbwl gynno fo!" ebr un o'r dynion.

"Ie," meddai un arall, "mi fase'n hawdd ddigon iddo fo golli gafel i draed a dwad i lawr ar i ben."

"Base, ag eitha gwaith a fo, mewn rhyw ffordd hefyd!"

"Ie. Edrych mor ddi-daro y mae'r cena yn y fan acw!"

Tra'r oedd yr ymddiddan yn mynd ymlaen, yr oedd y ddynes wedi eistedd ar ddarn o bren ger llaw.

Bu hi unwaith yn ddynes hardd, yr oedd yn amlwg. Yr oedd ganddi wallt melyngoch hir a chyrliog, ond ei fod wedi colli ei ddisgleirdeb oherwydd bod yn hir heb ei olchi a'i gribo. Yr oedd ganddi lygaid gleision prydferth, ond yn awr, yr oedd cleisiau duon oddi tanynt. A'r dyn oedd ar frig y simnai a roes y cleisiau iddi hefyd, yn ei ddiod y nos Sadwrn cynt. Nid oedd hi eto ond dydd Mercher, ac nid oedd y cleisiau wedi colli eu lliw dugoch. Yr oedd Wil yn eithaf dyn yn sobr. Ond gwae bawb rhagddo yn ei ddiod.

Yn sydyn, cyfododd y wraig ar ei thraed ac edrychodd i fyny ar ei gwr yn yr uchter mawr.

Dododd ei dwylaw un o bobtu i'w genau a gwaeddodd, —

"Wil! Wil!"

"Be sydd?" ebr yntau, gan blygu uwch ben y dyfnder.

"Pa sane sydd gen ti?"

"Y sane gwlan newydd rheiny."

"O'r gore. 'Roeddwn i yn meddwl. Oes gen ti gyllell?"

"Oes?"

"Wel, tyn dy esgid."

Tynnodd Wil ei esgid a thaflodd hi i lawr, nes oedd yn ymgladdu mewn swp o dywod wrth odre'r simnai.

"Yrwan, tyn dy hosan," meddai'r wraig.

Tynnodd Wil ei hosan, ond yr oedd yn amlwg na wyddai pa beth oedd ym meddwl ei wraig.

" 'Rwan," ebr hithau, "cymer dy gyllell a datod flaen yr hosan a thyn yr ede allan dipyn."

Gwnaeth Wil felly.

"Dyna ti," ebr y wraig. " 'Rwan, cymer dy gyllell a rhwyma hi wrth flaen yr ede, a gollwng hi i lawr yn ara deg. Cymer ofal, 'rwan, y penbwl!"

Gwnaeth Wil fel y gorchmynnwyd iddo, a dechreuodd y gyllell ddyfod i lawr yn araf.

Tra yr oedd hyn yn digwydd, galwodd y wraig ar yr hogyn, a dywedodd rywbeth wrtho. Gwelwyd yr hogyn yntau yn carlamu ymaith yn ddioed.

Cyn pen ychydig eiliadan, yr oedd y gyllell wedi cyrraedd y llawr, a'r gweddill o'r hosan oedd heb ddatod yn llaw Wil ar ben y simnai.

"Feder o byth dynnu'r rhaff i fyny gerfydd yr ede wlan yna!" meddai un o'r gweithwyr ar lawr.

"Na feder, siwr," ebr y ddynes, "ond rhoswch chi funud —"

Ar hynny carlamodd yr hogyn i'r lle yn ei ol, a phellen o linyn go gryf yn ei law.

"Dyna fo i'r dim!" ebr y wraig, gan gipio'r bellen o law yr hogyn.

Datododd y gyllell oddi wrth flaen yr edef, a rhwymodd flaen y llinyn wrthi.

Yna, cododd ei phen a gwaeddodd ar ei gŵr —

" 'Rwan, Wil, benbwl, tyn y llinyn yma i fyny atat!"

Tynnodd Wil y llinyn i fyny yn chwyrn, ac wedi iddo gael ei ben i'w law, stopiodd.

" 'Rwan ynte," ebr y wraig, "ble mae y rhaff honno!"

Dygwyd y rhaff iddi rhag blaen, a chylymodd hithau hi wrth flaen y llinyn.

"Tyn hi i fyny 'rwan, ynte, y catffwl gen ti!" ebr hi.

A thynnodd Wil y rhaff i fyny eto i ben y simnai.

Pan gafodd afael ar y rhaff, neidiodd ar ei draed ar ben y simnai drachefn, dawnsiodd o gwmpas yr ymyl, safodd ar ei untroed fel o'r blaen, a'i gap yn un llaw a'r rhaff yn y llall, a gwaeddodd a'i holl egni —

"Hwre i'r hen wraig, myn cebyst hefyd!"

A gwaeddodd y dynion ar lawr dair hwre egniol i'r "hen wraig."

Yr oedd hithau yn sefyll ar y darn pren a'i breichiau ymhleth, heb wên ar ei hwyneb. Cododd ei llais yn sydyn.

"Wil," ebe hir, "tyrd i lawr, y cena gwirion gen ti. 'Rydw i wedi achub dy fywyd di chwe gwaith yrwan. Wna i ddim eto, fel mai byw fi!"

Cyn pen dau funud, diflannodd Wil y tu mewn i'r simnai, ac ymhen eiliad neu ddau wedyn, yr oedd ar lawr yn ymyl ei wraig.

"Myn cebyst!" ebe fo, "wyddost ti be, Catrin, mae'n aflwydd o gwilydd i mi fod wedi duo dy lygada di fel yna, ydi, tawn i'n marw y munud yma! Tyrd, wna i byth eto!"

A chan ruthro ati, taflodd ei freichiau am dani, a chusanodd ei hwyneb hanner glân yn ffyrnig ac yn hir.

Ac edrychodd y bobl ar y ddau mewn syndod.

Nodiadau[golygu]