Brethyn Cartref/Mab y Môr

Oddi ar Wicidestun
Ynghwsg ai yn Effro? Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Un Bregeth Gruffydd Jones


V. MAB Y MÔR. UN o blant y môr oedd Sion Morys, a'r môr oedd ei hoffter pennaf. Nid rhyfedd hynny ychwaith. Morwyr oedd y teulu er cyn cof. Yr oedd y môr fel pe buasai'n galw arnynt yn blant, ac nid allent hwythau beidio âg ufuddhau iddo. Yr oeddynt fel hwyaid am y dwfr. Yr oedd yn wybyddus fod pum cenhedlaeth o feibion y teulu yn forwyr. Hwyrach fod rhagor. Yn wir, mae'n dra sicr fod. Taid Sion Morys a holwyd gan y dyn hwnnw oedd yn ofni'r môr.

"Ym mhle bu farw'ch tad?"

"Ar y môr."

"A'ch taid?"

"Ar y môr."

"A'ch hen daid?"

"Ar y môr hefyd, a'i hen daid ynte yr un fath."

"Gwarchod ni!" meddai'r ofnus, "os gynnoch chithe ddim ofn marw ar y môr?"

"Wel," eb yr hen wr, "lle bu dy dad di farw ynte?"

"Wel, adref yn i wely, siwr."

"A'th daid?"

"Yr un fath."

"A'i daid ynte?"

"Ie, yr un fath."

"Wel, ar f'engoch i, mi ddylet wneud rhywbeth! Oes arnat tithe ddim ofn marw yn dy wely, dywed?"

Ar y môr mewn gwirionedd y bu farw y rhan fwyaf o hynafiaid Sion Morys, ac yn y môr y claddwyd hwy. Yn wir, cyn belled ag yr oedd cof yn mynd, un ohonynt yn unig a fu farw ar y lan ac a gladdwyd yn y ddaear, a thrwy ddamwain y bu hynny hefyd.

Yr oedd mam Sion Morys yn ofni'r môr yn arw, ac am hynny, mynnodd fynd i fyw yn ddigon pell oddi wrth y môr cyn geni Sion. Yr oedd hi am ddwyn Sion i fyny i fyw ar y tir, ac yr oedd wedi gwneud cytundeb a'i gŵr cyn ei briodi ei bod hi i gael byw ynghanol y wlad yn mhell oddi wrth y môr, a bod y plant i gael eu dwyn i fyny i fyw ar y tir. Yr oedd yntau wedi cytuno. Hwyrach ei fod yn teimlo yn sicr nad allai dim dorri ar yr olyniaeth forwrol. Prun bynnag, ni bu iddo ef a'i wraig ond un mab, sef Sion, ac yr oedd Sion yn ddeg oed cyn gweled y môr o gwbl. Gwir ei fod er yn blentyn yn hoff iawn o'r dwfr, ac mai ei ddifyrrwch pennaf, pan gai gefn ei fam, fyddai mynd i chware i'r llyn mynyddig oedd heb fod ymhell oddi wrth ei gartref. Pan oedd o tua deg oed, sut bynnag, tybiodd ei fam y gallai fentro ei gymryd gyda hi i Laneigion i gyfarfod ei dad. Yr oedd ei dad heb fod adref ers tair blynedd, ac yr oedd y fam wedi addo y cae Sion fynd i'w gyfarfod pan ddeuai. Daeth y llong o'r diwedd i Laneigion, ac aeth Beti Morys a'i mab yno i'w chyfarfod.

Yr oedd Capten Morys yn awyddus iawn am weld ei fab, ond yr oedd yn cofio yn dda fod Beti Morys yn ofni'r môr, a'i bod yn debyg o fod wedi dwyn ei mab i fyny i'w ofni yr un fath â hi ei hun. Eto, pan welodd y bachgen, deallodd rywfodd ar ei osgo mai mab ei dad ydoedd ac nid mab ei fam. Nid ai Beti Morys i aros ar fwrdd y llong, ac felly yr oedd yn rhaid cymryd lle iddi hi a'r bachgen mewn tafarn yn y dref.

Y bore ar ol glaniad y llong, yr oedd Capten Morys wedi mynd i'r dafarn at ei wraig a'i fab. Bore Sul hyfryd ym mis Gorffennaf ydoedd, ac yr oedd hyd yn oed Beti Morys yn teimlo y buasai tro ar lan y môr yn braf. Aeth y tri ar y traeth, ac wedi cerdded o gwmpas nes blino braidd, eisteddasant ar y tywod. Yn fuan iawn yr oedd y capten wedi cysgu yn yr haul, a Beti Morys hithau yn teimlo yn bur swrth hefyd. Am Sion, yr oedd o wedi synnu at y môr a'i ryfeddodau, ac yn gwylio'r bobl oedd yn ymdrochi gyda dyddordeb anghyffredin.

Cysgodd y capten yn drwm, a hunodd Beti Morys hefyd, er gwaethaf ei phryder am y bachgen. Toc, sut bynnag, deffroes Beti, a'r peth cyntaf a wnaeth oedd edrych o'i chwmpas am Sion.

Nid oedd olwg arno yn unman.

Dychrynodd Beti Morys a deffroes ei gŵr.

"Huw!" ebr hi, "lle mae'r bachgen?"

Deffroes y capten yn araf.

"Be sydd?" meddai.

"Lle mae'r bachgen?" ebr Beti.

"Wn i ddim," meddai'r capten, "ble'r aeth o ynte?"

"O! mae o wedi mynd i rywle. Rhaid i fod o wedi boddi! O, machgen annwyl i, a ninne yn cysgu yn y fan yma!"

"Boddi? Choelia i fawr!" meddai'r capten. "Foddodd yr un o'r Morysiaid erioed ond drwy i'r llong dorri arnyn nhw ynghanol y môr agored!"

"Ond 'does dim golwg am dano fo," ebr Beti Morys, "i ble 'rae o? Rhaid i fod o wedi boddi, Huw! Faddeua i byth i mi fy hun!"

"Gadewch i ni weld ynte," meddai'r capten, gan godi yn araf ar ei draed ac edrych o'i gwmpas.

Yr oedd Beti ar ei thraed eisoes, ac yn edrych yn graff yma ac acw. Toc, dyma hi yn gweled rhywbeth ac yn rhoi ysgrech.

"Be sydd?" meddai'r capten.

"Dyma'i ddillad o!" ebr Beti.

A dyna lle yr oedd dillad Sion yn swp ar y traeth.

"O, wel, rhaid i fod o yn y dwr ynte," ebr y capten, gan fynd ymlaen at y dwr, a dal ei law uwchben ei lygaid ac edrych o'i gwmpas.

Yr oedd Beti wedi rhedeg ar ei ol, ac yn sefyll yn ei ymyl mewn ofn mawr.

"Dacw fo," meddai'r capten.

"Ym mhle?" ebr Beti.

"Ond yn y dwr."

"Ond fuo fo 'rioed yn y dwr o'r blaen, mi foddiff yn siwr! Ewch i'w nol o!" ebr Beti.

"Mae o'n nofio yn braf!" meddai'r capten.

"Nofio, a fynte erioed wedi gweld y môr o'r blaen?"

"Ie, siwr," meddai'r capten, "ond oedd y Morysiaid i gyd yn medru nofio o'u mebyd."

Ac yr oedd Sion yn y dwfr yn nofio yn braf ers hanner awr. Pan gafodd ddigon ar y dwfr, daeth i'r lan, a chafodd wers lem gan ei fam, a hanner coron gan ei dad.

Ar ol y diwrnod hwnnw, ofer oedd ceisio cadw Sion o'r môr. Yr oedd yntau wedi clywed galwad yr eigion, ac er holl ofal ei fam, yr oedd wedi rhedeg i'r môr cyn ei fod yn ddeuddeg oed.

Ac yn y môr y bu ar hyd ei oes nes oedd yn hen ŵr trigain a phump oed. Yr adeg honno, aeth drwy ryw anap yn rhy fusgrell i allu dilyn ei alwedigaeth yn hwy.

Wedi'r anghaffael hwnnw, bu raid i Sion Morys roddi'r goreu i'r môr, a chyda gofid mawr y gwnaeth hynny. Yr oedd ganddo ddigon o arian i fyw yn gysurus o ran hynny, ond nid oedd gysur i Sion mewn byw ar y tir. Yr oedd o erbyn hyn hefyd yn dra amddifad. Yr oedd ei wraig wedi marw ers blynyddoedd, a'i unig fab wedi mynd i'r môr ac wedi colli yn rhywle ers llawer o amser. Bu Sion heb wybod yr hanes am flwyddyn a hanner neu ddwy flynedd ei hun, a phan ddaeth i dir o'r diwedd a chlywed fod llong ei fab ar goll ers deunaw mis, edrychodd ar y môr yn hir ac yn graff, sychodd ddeigryn o'i lygad ac yna ymostyngodd i'r dynged fel dyn, neu yn hytrach fel morwr. Bu ar led ei hun am flynyddoedd wedi hynny, ond o'r diwedd yr oedd yr hen forwr cadarn ar y lan, fel hen long wedi ei dryllio a'i thaflu ar y traeth gan y tonnau i fynd yn ddarnau yn araf deg dan bwys y tonnau a dannedd y graig.

Ac yn Llaneigion y glaniodd Sion Morys am y tro olaf. Cymerodd lety yno, mewn tŷ ar lan y môr, lle'r oedd hen gydnabod iddo gynt yn byw. Yno yr wyf fi yn ei gofio gyntaf, yn hen ŵr deg a thrigain oed, a'i wallt a'i farf yn wyn fel y llin, neu yn hytrach

"Fel ewyn y donn pan fo'n creuloni,
A mawr rhuolwynt ar y môr heli."

Yr oedd ei wyneb yn rhychau dyfnion, a'i ddwylaw yn gelyd fel haearn. Cerddai yn araf, gan grymu tipyn ar ei gefn, a gellid ei weled bob dydd, haf a gaeaf yr un fath, yn mynd am dro i lan y môr. Byddai yno yn cerdded ar y traeth am oriau bob dydd, ni waeth pa fath dywydd a fyddai. Yn wir, pan fyddai yn ystorm, byddai Sion Morys yno yn hwy na phan fyddai yn braf, a pho ffyrnicaf yr ystorm, goreu yn y byd ganddo. Ar hyd y blynyddoedd, ymdrochai bob bore, a nofiai o gwmpas am yn hir er gwaethaf anystwythder ei goes a'i fraich chwith. Yn y prynhawn gwelid ef ar y cei gyda hen forwyr ereill oedd wedi mynd yn rhy hen i ddilyn eu galwedigaeth mwy, ond nad oeddynt mor hoff o'r môr ag ydoedd Sion Morys. O leiaf, ni byddent hwy yn mynd i lawr i'r traeth bob dydd nag yn ymdrochi fel y byddai ef. Llawer ysgwrs a fyddai rhyngddynt ar y cei yn y prynhawn, a llawer son am hen gydnabod ac am bethau wedi digwydd ym mhellter byd flynyddoedd lawer yn ol, pan oeddynt hwy yn eu pwmp.

Ond yr oedd Sion Morys yn mynd yn hŷn ac yn fusgrellach, ac o'r diwedd, aeth i fethu ymdrochi mwy. Yr oedd hynny yn pwyso ar ei feddwl yn fawr, ond yr oedd yn dal ati o hyd i ymlusgo i lan y môr bob dydd, ac yn aros yno am oriau i wylio'r tonnau yn curo'n dragywydd ar y traeth. Un gaeaf, clafychodd, a bu drwy'r gwanwyn heb fedru mynd i lan y môr. Yr oedd hynny yn torri ei galon. Teneuodd yn arw, a chrymodd ei gefn, ac aeth yntau yn ddistaw a hurt ei olwg. Ond fel yr oedd yr haf yn dynesu a'r tywydd yn tyneru, dechreuodd Sion Morys godi allan drachefn, a cheisiodd gerdded tua'r môr fel o'r blaen. Yr oedd y daith yn ormod iddo ar y dechreu, ond o dipyn i beth medrodd un diwrnod yn nechreu haf gyrraedd y traeth. Yr oedd y môr fel llyn a'r dwfr yn chware yn gynnes ar y traeth. Tynnodd Sion Morys am dano, a cherddodd yn araf a musgrell i'r dwfr. Daeth hen deimlad ei ieuenctyd yn ol iddo, ymollyngodd i'r tonnau gan geisio nofio fel o'r blaen, ond yr oedd dyddiau nofio Sion Morys drosodd.

Y noswaith honno cafwyd hyd iddo ar y traeth. Ac fel ei hynafiaid, bu yntau, yr olaf o'r teulu, farw yn y môr.

Nodiadau[golygu]