Neidio i'r cynnwys

Brethyn Cartref/Ysmaldod y Sais Mawr

Oddi ar Wicidestun
Un Bregeth Gruffydd Jones Brethyn Cartref

gan Thomas Gwynn Jones

Darn o Fywyd


VII. YSMALDOD Y SAIS MAWR.

Y MAE llawer blwyddyn er pan ddaeth y Sais mawr i'r ardal i fyw. Pan ddaeth, nid oedd ganddo syniad yn y byd am Gymru na dim Cymreig. Yn wir, nid oedd ganddo y syniad lleiaf fod dim ar wyneb y ddaear yn bosibl ond Sais a Saesneg. Os oedd ganddo ddamcaniaeth ar y pwnc o gwbl, gallem feddwl mai Sais oedd yr hollalluog yn ol ei syniad ef, ac mai Saeson oedd holl bobloedd y byd ar y dechreu, ond eu bod wedi dirywio a mynd yn bechaduriaid mawr a mwy yn ol y radd yr ymbellhasant oddiwrth fod yn Saeson. Felly, pan ddaeth i Gymru a chlywed iaith ddieithr iddo a gweled arferion estron, deallodd ar unwaith fod y Cymry yn bechaduriaid aruthr. Rhaid eu bod. Nid oedd dim arall yn bosibl. A hwy yn byw yn ymyl y Saeson, eto dewisent fod yn Gymry. Yr oeddynt, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhywfaint o Saesneg, ac eto yn dewis siarad rhyw gawdel o gydseiniaid, fel y tybiai ef, heb ystyr yn y byd iddynt, ac heb fod yn bosibl eu swnio heb i ddyn dorri ei gorn gwddw neu roi ei dafod o'i le.

Wrth gwrs, penderfynodd y Sais ar unwaith nad oedd ystyr yn y byd i'r geiriau a lefarai y Cymry wrth ei gilydd, ac nad oedd bosibl i neb arall, yn enwedig Sais, fyth ddysgu arfer y geiriau diystyr hynny. Nid oedd yno neb yn yr ardal, meddai, a allai siarad yn ddeallus ag o, am nad oeddynt yn medru ond rhyw ychydig Saesneg, digon i son am y tywydd a rhywbeth felly.

Daeth ar ddamwain i gyfarfod âg un neu ddau o Gymry yn medru Saesneg yn weddol rigl, megis y doctor a'r offeiriad, ond yr oedd yn well hyd yn oed gan y ddau hynny siarad Cymraeg, ac yr oedd hynny ynddo'i hun yn profi fod y pechod gwreiddiol yn gryf ynddynt hwythau hefyd, er gwaethaf y Saesneg a'r cwbl.

Ni buasai yntau yn gwneud rhyw lawer â'r ddau hynny mwy nag â'r bobl gyffredin oni bae fod yn rhaid iddo fynd at y doctor weithiau, a bod yn rhyw fath o raid arno yn ol ei syniadau crefyddol ymddwyn o leiaf ychydig yn fwy cwrtais tuagat wr eglwysig. Felly ryw dro, pan oedd wedi mynd at y doctor, aeth yn ymddiddan rhyngddynt ynghylch Cymru a Chymraeg.

"Beth ydyw'ch enw chwi hefyd?" meddai wrth y doctor.

"Cadwaladr Gruffydd," ebr y doctor.

"Gwared pawb!" ebr y Sais, "sut yr ydych yn medru byw gyda'r fath enw?"

"O, wel, yn eitha," meddai'r doctor. "Pa beth yw'ch enw chwithau, syr?"

"Cuthbert Cathcart Strongbridge," ebr y Sais.

"Felly, yn wir," meddai'r doctor, "enw hynod beraidd a hawdd i'w ddywedyd, yn siwr."

"Ie," ebr y Sais, "nid rhyw dwrr o gydseiniaid na fedr neb eu swnio."

"Nage, 'ddyliwn," ebr y doctor.

"Ond rhyw bobl heb ddim digrifwch nag ysmaldod yn eu natur ydych chwi, y Cymry," meddai'r Sais.

"Ie, mae'n debyg," ebr y doctor.

"Ie yn siwr," ebr y Sais, "yn siarad rhyw iaith mor ddychrynllyd fel hyn o hyd. Fum i 'rioed mewn gwlad a'r bobl yn siarad cymaint o'u hiaith eu hun ynddi."

"Aie?" meddai'r doctor. "Fuoch chi 'rioed yn Lloegr?"

" 'Rioed yn Lloegr? Wel do, debyg iawn. Lle'r 'rydech chi yn meddwl mod i wedi bod, syr?"

"O, be wyddwn i," ebr y doctor, " 'roeddwn i yn meddwl—wel, wn i ddim be, wrth gwrs. Mae arna i ofn mod inne, fel fy nghydwladwyr, yn amddifad iawn o bob syniad am ddigrifwch ac ysmaldod."

"Mae'n siwr," meddai'r Sais, "os oeddech chi yn meddwl na fum i erioed yn Lloegr."

"Ie, wel, 'does mo'r help," ebr y doctor.

"Beth ydyw enw y pentref nesaf yma hefyd?" ebr y Sais.

"Pa un, y nesaf ar y dde?"

"Ie siwr."

"O, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch," meddai'r doctor, gan edrych cyn sobred â sant.

"Y nefoedd fawr!" ebr y Sais. "Y fath dryblith! Wn i ddim sut y mae neb yn medru dywedyd y fath beth, a byw! Dywedwch yr enw eto."

Dywedodd y doctor ef yn bwyllog a difrif fel o'r blaen.

"Ac y mae hwnyna yn enw ar ryw bentref bychan fel yna?" meddai'r Sais mewn syndod.

"Ydyw," ebr y doctor, yntau mewn syndod hefyd.

Ni wyddai y meddyg pa beth a ddygodd y fath beth i'w ben, ond ni chlywodd mo'r enw erioed ei hun o'r blaen. Daeth dros ei wefusau bron ohono ei hun. Synnai fod y fath gasgliad o eiriau wedi taro i'w feddwl o ei hun rywsut, ond yr oedd yn synnu mwy fod neb ar y ddaear wedi cymryd yr ysmaldod o ddifrif.

Yr oedd y Sais Mawr sut bynnag, cyn sobred â sant, ac yn murmur wrtho'i hun, "tremenjus! tremenjus!"

Toc, troes at y doctor.

"Buaswn yn hoffi medru dyweyd y gair yna!" meddai. "Buaswn felly yn torri pob record!"

"Yn ddiameu, i Sais!" ebr y doctor yn ddifrifol.

"A wnewch chwi fy nysgu i, ynte?"

"Wel, gwnaf, os medraf," meddai'r doctor yn ddifrif o hyd.

"O'r goreu!"

Ac am ddyddiau lawer, bu'r Sais yn cerdded i dŷ'r doctor i ddysgu dywedyd yr enw newydd ar Lanfair Pwll Gwyngyll. Wedi hir ymdrech, llwyddodd i ddywedyd rhywbeth heb fod yn hollol anhebyg iddo, ac yna aeth am dro adref i Loegr rhag ei flaen i "dorri'r record." Pan ddaeth yn ei ol, aeth i dŷ'r doctor i ddyweyd yr hanes, a'i hysbysu fod pobl yn Lloegr wedi synnu ato a'i fawr fedrusrwydd. Yr oedd yntau mewn gwirionedd wedi dotio ato ei hun, ac yn dywedyd yr enw yn ei ffordd ei hun bob cyfle a gai. Aeth y son am dano ar led, ac o'r diwedd, gwelodd rhyw Gymro o argraffydd tipyn craffach na'i gilydd fod yn bosibl gwneud arian o'r peth. Argraffodd yr enw ar lain hir o bapur gan ei alw yn gamp i Sais a'i werthu am geiniog, a chyn pen ychydig flynyddoedd gwnaeth ffortun ohono.

Yr oedd y Sais Mawr o hyd yn hawlio yn gryf mai efô oedd y cyntaf i dorri'r record, ac yn dal ati i lefaru'r gair lawer gwaith bob dydd rhag ofn ei anghofio neu golli ei fedr i'w lefaru. Prin yr oedd ganddo unrhyw amcan mewn bywyd ond hynny, a'i un ysmaldod ym mhob cwmpeini lle bynnag y byddai oedd yr enw aruthr hwnnw. Byddai Saeson yn chwerthin am ei ben. A'r Cymry hefyd. Ond nid am yr un rheswm.

Un diwrnod, galwyd yn sydyn ar y meddyg i dŷ y Sais Mawr. Yr oedd yr hen greadur wedi cael ergyd o'r parlys, ac yr oedd y diwedd yn bur agos ato. Buasai fyw yn dda ar hyd ei oes. Yr oedd yr ystumog genedlaethol ganddo. A gwnaeth fwy na chware teg â hi am ran helaeth o'i oes. Buasai farw yn llawer cynt oni bae iddo feddwl am dorri'r record fel y gwnaeth. Tynnodd hynny dipyn o'i sylw oddiar ei ystumog a'r modd i'w bodloni. Ond y mae lle i ofni na ddarfu ond symud y pwys hefyd. Yn lle bod ei ymborth yn bwys ar ei ystumog, aeth y record yn bwys ar ei ben. Ac i'r lle gwannaf y mae popeth yn mynd, wrth gwrs. Pa beth bynnag oedd yr achos, yr oedd y parlys wedi gafael yn y Sais Mawr, o'r diwedd.

Ond nid ar ei leferydd, ond ar ei freichiau a'i goesau. Nid ŵyr y meddyg yn iawn hyd heddyw pa un ai bwyd a diod, ai Llanfair Pwll Gwyngyll, &c., a'i lladdodd.

Yr oedd y meddyg un noswaith yn sefyll wrth erchwyn ei wely. Yr oedd yn amlwg fod y diwedd yn agos iawn. Yr oedd y Sais Mawr yn dawel ae yn ddistaw ers tro, ac yn anadlu'n wannach wannach o hyd. Daethai 'r offeiriad yno rhag ofn y buasai arno eisiau rhyw air o gysur ganddo fo cyn i'r diwedd ddyfod. Ac yr oedd yr offeiriad a'r meddyg yn sefyll un o bobtu i'r gwely, yn edrych weithiau ar y claf ac weithiau ar ei gilydd.

Yn sydyn, rhoes y claf ryw dro anesmwyth, a deallodd y meddyg fod arno eisiau rhywbeth. Plygodd ato, a gofynnodd iddo pa beth a fynnai, ond ni fedrai y Sais Mawr ddywedyd ei feddwl erbyn hyn. Yr oedd ei leferydd wedi mynd yn aneglur, ond tybiodd y meddyg ei fod yn dywedyd rhywbeth tebig i "go—go—god," a meddyliodd y byddai yn well i'r offeiriad geisio deall y claf. Dywedodd wrth hwnnw am geisio.

Plygodd yr offeiriad i lawr a gofynnodd yn garedig i'r Sais Mawr pa beth a fynnai. Ac yna daeth llewyrch rhyfedd i lygad y Sais, a chlywodd y ddau ef yn sibrwd —

"Thlanvairpoolgwynhillgogherikhwirndroboolthlantissiliogogogock!"

A dyna air olaf y gwr mawr hwnnw.

Nodiadau

[golygu]