Tudalen:Y bibl cyssegr-lan.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.

20 Ac Adda a enwodd enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes: ond ni chafodd efe i Adda ymgeledd cymmwys iddo.

21 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i drwmgwsg syrthio ar Adda, ac efe a gysgodd: ac efe a gymmerodd un o’i asennau ef, ac a gauodd gig yn ei lle hi.

22 A’r Arglwydd Dduw a wnaeth yr asen a gymmerasai efe o’r dyn, yn wraig, ac a’i dug at y dyn.

23 Ac Adda a ddywedodd, Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir gwraig, oblegid o wr y cymmerwyd hi.

24 O herwydd hyn yr ymedy gwr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.

25 Ac yr oeddynt ill dau yn noethion, Adda a’i wraig, ac nid oedd arnynt gywilydd.

Pennod III.

1 Y sarph yn hudo Efa. 6 Cywilyddus gwymp dyn. 9 Duw yn eu holi ac yn eu barnu hwy. 14 Melldigo y sarph. 15 Addaw yr had. 16 Cospedigaeth dyn. 21 Ei wisgad cyntaf; 22 a’i fwrw allan o Baradwys.

A’r sarph oedd gyfrwysach na holl fwystfilod y maes, y rhai a wnaethai yr Arglwydd Dduw. A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai dïau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwytta o bob pren o’r ardd?

2 A’r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwytta:

3 Ond am ffrwyth y pren sydd y’nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.

4 A’r sarph a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.

5 Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.

6 A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i’w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.

7 A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.

8 A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd âg awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysg prennau yr ardd.

9 A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?

10 Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.

11 A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchymynaswn i ti na fwyttâit o hono, y bwytteaist?

12 Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwytteais.

13 A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.

14 A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.

15 Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.

16 Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy wr, ac efe a lywodraetha arnat ti.

17 Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.

18 Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwyttêi di.

19 Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid o honi y’th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.

20 A’r dyn a alwodd enw ei wraig