Bugail y Bryn/I
| ← I | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
II → |
BUGAIL Y BRYN.
I.
Da gwyddost wrando gweddi—dy weision;
Dewisaist eu noddi;
A minnau wyf, o mynni,
Duw Iesu deg, dy was Di.
—GORONWY OWEN.
YR wythnos gyntaf o'r flwyddyn newydd oedd,—wythnos y "cwrdde gweddi bob nos," yn ardal Cwmgwynli. Ceid cynulleidfaoedd lliosog yn y cyrddau hyn. Deuai i'r capeli bychain—o bell drwy'r tywyllwch—ffermwyr cefnog, prysur, heblaw'r diaconiaid a'r geneuau cyhoeddus. Deuai eu gweision a'u morwynion, eu gwragedd a'u plant. Deuai'r crefftwr o'i weithdy a'r hen wraig o'i bwthyn. Dywedai un gwr craff am danynt eu bod yn debig iawn i'r oruchwyliaeth gyfarwydd honno ymhlith amaethwyr, sef "mofyn cwlwm." Wedi gorffen a'r cynhaeafau, eid bron bob dydd am wythnos gyfan i'r orsaf neu i lan y môr, a chludid oddi-yno lawer llwyth o lô a chwlwm, ac wedi trin hwnnw a'i roi dan dô, teimlid fod tân ar yr aelwyd am flwyddyn arall wedi ei sicrhau.
Yr oedd felly, ar y nos Lun gyntaf o'r flwyddyn 18, oleu egwan yn pelydru o ffenestri capel Y Bryn, a chlywid swn araf-gerdded drwy'r heolydd lleidiog tuag yno. Daethai rhai o'r hen bobl yno yn gynnar â lanterni ac â ffyn, ac wedi gosod y rhai hyn yn ofalus o dan y sedd, eisteddent yn amyneddgar a defosiynol i ddisgwyl y lleill. Gwaith digon diddorol oedd eistedd yno a gwylio'r naill ar ol y llall yn dod i mewn,—fel yr anifeiliaid i'r arch;—pob.un â'i edrychiad â'i wisg neilltuol, a'i ddull neilltuol o gerdded. Cai'r meddwl grwydro'n hamddenol o gylch hanes pob un fel y deuai. Cyn amser dechreu'r gwasanaeth, yr oedd tyrfa fechan lonydd wedi dod ynghyd, ac anadl pob un yn y distawrwydd yn esgyn fel arogldarth i'r nefoedd. Y noson honno, yr oedd mwy nag arfer o ddisgwyliad yn llygaid y praidd bychan. Daethai Bugail newydd i'w plith, a hwn fyddai ei gyfarfod gweddi cyntaf yn y lle. Yn y pwlpud y gwelsid ef ar y Sul, a rywfodd, pell iawn. yw dyn mewn pwlpud oddiwrth nifer fawr o'r gynulleidfa. Heno, caent olwg gliriach arno. Deuai ychydig yn nes atynt, a chai y rhai a fyddai yno mewn pryd ei weld yn dod i mewn.
Ddwy funud cyn hanner awr wedi chwech, caed y pleser hwnnw. Daeth y gweinilog ieuanc i mewn drwy'r drws â'i het yn ei law; taflodd un olwg hanner ofnus ar y gynulleidfa, a cherddodd yn flinderus at ei sedd o dan y pwlpud. Tra yr eisteddai yno am funud mewn myfyrdod â'i law ar ei lygaid, gwelai y rhai oedd gerllaw iddo y chwys yn dew ar ei dalcen.
Ieuanc iawn oedd. Daethai'r newydd o'i flaen nad oedd ond pedair ar hugain. Ond heno, gwelodd llawer llygad aml flewyn gwyn yn gymysg a'i wallt tywyll. Yr oedd ei wyneb fel pe wedi ei fwriadlu i chwerthin llawer, ac yr oedd ei gorff heini fel pe wedi ei drefnu i deithio yn amlder ei rym drwy'r byd. Yr oedd ei lygaid, yn wir, fel pe wedi eu gorfodi i edrych yn ddwys ar ol disgyblaeth galed. Cawsent eu gwasgu lawer gwaith fel yn awr i'w cadw yng nghau, ac yr oeddent eto yn llawn cwestiynau dolefus, fel eiddo plentyn na ddeall ystyr ei gosb, er wedi ei ddysgu i gredu fod triniaeth ei dad tuag ato yn iawn. Yr oedd y dyn icne yn gloff, ac hyd yn hyn, methasai a chyfrif ei gloffni yn beth dibwys a hawdd ei ddioddef yn ei fywyd.
"Dy'st'rio!" ebe Nani, Penlôn,—un o'r ddwy hen wraig eisteddai yn un o'r seddau canol—yn hanner clywadwy, â'i llygaid hen yn llaith gan ddagrau.
Trodd Sali olwg geryddol arni, am iddi feidklio dangos teimlad yn gyhoeddus felly. Lledodd hithau ei haeliau, a sychodd ei genau â'i chadach gwyn, glân, fel y gwnai ar amgylchiadau o brudd—der neilltuol neu o wir ddefosiwn.
Cododd Dafi Dafis, diacon hynaf yr eglwys, o'i sedd yn ymyl y pregethwr, a chan bwyso ar ei ffon, a symud ei dafod yn ddibaid drwy ei enau gwag,—fel baban cyn cael ei ddaned, edrychodd yn ofalus ar y wynebau o'i flaen. Wedi munud o anesmwythyd i lawer calon, galwodd, John Ifans, ddewch chi mlân, machgen i, i ddachre'r cwrdd?"
Gwridodd John yn ysgafn, a phetrusodd am ennyd, ond ufuddhaodd. Un o fechgyn ieuainc mwyaf addawol yr eglwys oedd John Ifans, ac ynddo elfennau amlwg diacon. Yr oedd ei d'ad, Morgan Ifans, Maesyryn, un o ffermwyr cryfaf yr ardal, yn ddiacon er's blynyddau. Teimlai yr. hen Ddafi Dafis faich ei lywyddiaeth o'r cyfarfod lawer yn ysgafnach wedi cael John i ddechreu'r cwrdd, heno pan oedd y gweinidog newydd yn bresennol. Gellid bod yn sicr yr ai John drwy ei ran yn syml a deheuig, heb ddarllen pennod ry faith neu ry amhwrpasol, ac heb ddywedyd pethau rhy ryfedd ar weddi. Gwrandawai ei fam ar John mewn agwedd foddhaus, gan symud ei chorff tal mewn mwynhad addolgar. Ceisiai Leisa ei chwaer ddarganfod effaith ei leferydd ar y gweinidog, ond yn ystod y weddi a'r darllen, ni chafodd y pleser o weled hwnnw unwaith yn codi ei olygon. Er na wasgai ei lygaid a'i law fel ar y dechreu, yr oedd yn dra gofalus i'w cadw yng nghau.
Wedi i John Ifans orffen, cododd Dafi Dafis drachefn. Symudodd ei dafod yn brysur fel o'r blaen cyn galw yn araf â llais crynedig,
"Sam Griffi, ddewch chi mlân i find a'r cwrdd ymhellach."
Eisteddai Sam yn ei agwedd gysurus arferol, ei ddwy fraich wedi eu gosod ar ymyl y sedd o'i flaen yn obennydd i'w ben. Hanner ymuniawnodd ar yr alwad, ac atebodd yn groew â llais bychan main,
"Fies i nos Lîn dwetha."
"Ddewch chi mlân, Daniel Jones?" ebe Dafi Dafis eto. Cododd Daniel o'i fangre, a symudodd yn araf ymlaen, ei wyneb diwên a'i holl osgo yn ddarlun o'r hunan-ymostyngiad a'r edifeirwch dwysaf, a'i ddwylaw aflonydd fel pe'n hiraethu am y rhaw gyfarwydd i afael ynddi. Safodd wrth risiau'r pwlpud, heb ryfygu mynd hyd at y bwrdd, a chan hanner bwyso ar fraich y grisiau tra'i holl gorff yn ym. wingo'n barhaus, rhoddodd allan o'i gof, mewn llais dwfn, tawel, ei emyn,—
"Treuliwyd blwyddyn ar ol blwyddyn,
Roddwyd in' gan Frenin nef,
'Cawsom eto ddechreu blwyddyn
O'i ddaioni rhyfedd ef;
Uwchben llawer un eleni
Oedd y llynedd yn dra llon;
Gellir heddyw ysgrifennu
Byddi farw'r flwyddyn hon.
Hedeg wna fy oriau innau
A'm blynyddau oll i gyd,
Brysio'r ydwyf tuag adre
I drigfannau bythol fyd;
Mae fy amser yn mynd heibio,
Rhaid im' ado daear gron,
Gallai mod i'n un o'r werin
A fydd marw'r flwyddyn hon."
Ni chaed y geiriau yn y llyfr emynau, er troi dail lawer gan Tomos Tomos, yr arweinydd canu. Felly cyn anturio arno, sibrydodd Tomos yn hyglyw,—
"Well i chi roi e mas bob yn ddwi lein." Yna, o nerth i nerth, canwyd y ddau bennill ar y dôn Alecsander. Siglai'r hen eu pennau'n fyfyrgar gan ddifrifoled y geiriau a phrudled y dôn, a gwenai'r ieuainc yn llon gan mor ddigrif y sefyllfa.
Gweddi ddwys fel ei wedd oedd gan Daniel Jones. Llawer mwy hyderus oedd efe wrth siarad â'i Dduw nag â'i gydddynion. Yn gymysg â'i erfyniadau taer, cyffesai o hyd derfynau cyfyng ei wybodaeth am y pethau uchaf. "Dina fel i ni'n diall, Arglwydd; dina fel i ni'n câl yn Di air Di," meddai unwaith a thrachefn wrth gyflwyno ei achos i sylw'r nef. Eithr er mor bŵl ei oleuni, ac er mor ddieithr iddo oedd y dirgelion, yr oedd rhyw dawelwch cartrefol bob amser yn niwedd ei weddi. "Hwre ni nawr i Dy law wedi madde'n holl gamwedde, yn heiddiant Di annwyl Fab., Amen."
A'r noson honno, fel ar lawer tro arall, rhwng muriau llwydion capel bach Y Bryn, yn swn ymadroddion anghelfydd yr hen dyddynwr, aeth y byd a'i bethau ymhell o'r golwg, a daeth Duw yn agos.
Nid oedd y cyfarfod eto ar ben. Buasai Dafi Dafis yn ofalus i gadw'r dawn cryfa'n olaf. Cyn i Daniel Jones orffen, yr oedd Tomos Bŵen wedi clirio'i wddf a sychu ei wyneb fel ag i fod yn barod, ond wedi clywed llais crynedig yr hen ddiacon yn ei alw, barnodd Tomos yn weddus betruso lawn dwy funud, a gostwng ei ben gan sydynrwydd y peth cyn beiddio penderfynu. Yna cododd, a cherddodd ymlaen yn wrol.
Ym mywyd Tomos Bŵen, Y Mwyndir, fel ym mywydau rhan fwyaf o honom, yr oedd rhai pethau hollol annealladwy. Yr oedd yn awr dros ei hanner cant oed, yn "enau cyhoeddus" neilltuol o gymeradwy yng nghapel Y Bryn er's deng mlynedd a mwy; er's blynyddau lawer yn byw ar ei fferm ei hun ac yn berchen un arall, eto ni welsid yn dda agor drws y ddiaconiaeth iddo. Dyma gyfle iddo heno i ddwyn ei ragoriaethau neilltuol gerbron y gweinidog newydd. Nid oedd yn hollol amharod, oherwydd, yn ystod y dydd, tra yn yr ydlan yn gyrru'r ceffylau a weithiai'r peiriant dyrnu, cawsai gyfle i adrodd wrtho'i hun eiriau'r weddi a fwriadai offrymu os deuai'r alwad. Tra felly yn arllwys ei genllif geiriau, clywodd ei glustiau effro un ochenaid ddofn oddiwrth y gweinidog, a mwy nag un Amen o gyfeiriadau ereill.
Wedi canu drachefn, plygodd yr hen Ddafi Dafis ei ben gwyn i gyfeiriad y gweinidog, ac yn hanner-ofnus, sibrydodd air yn ei glust. Yna distawodd pawb i wrando ar y Bugail. Byr a syml oedd ei eiriau, a distaw a threiddgar oedd ei lais. Mor fawr oedd eu braint i gael dechreu blwyddyn arall,—dalen wen na wyddid eto beth a ysgrifennid arni. O am ysgrifennu yn lân ac eglur fel y gellid ei darllen ar y diwedd gyda mwynhad! Dechreu blwyddyn yn ddechreu cyfle newydd i wneud rhywbeth yn y byd,—i helpu Duw ddwyn i ben Ei fwriadau tragwyddol. Cyd-weithwyr Duw! Uched y fraint! O, orfoledd y syniad! Pa lawenydd fedrai'r ddaear roi i gymharu a hwnnw oedd i'w gael yng ngwasanaeth Duw? Ac wrth ddechreu blwyddyn, i wynebu ar ystormydd ei gaeaf a hyfrydwch ei haf, felused meddwl mai Tad tyner oedd yn danfon y cwbl, a bod Ei ofal Ef dros bob un a'i nerth at bob rhaid. Wedi eu cyflwyno drachefn mewn gweddi, aeth y gynulleidfa fechan bob un i'w dy, pob un i ddechreu byw ei flwyddyn.