Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/II

Oddi ar Wicidestun
II Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

III

II.

Ah! must—
Designer infinite!—
Ah! must Thou char the wood ere Thou canst
limn with it?
—FRANCIS THOMPSON.

AM fwy nag ugain mlynedd buasai Catrin Lewis yn forwyn yn Y Mwyndir, gyda'r hen Sion ac Ester Bŵen. Morwyn ddistaw, ddiwyd, ffyddlon fu hi, yn gweini, nid â llygad-wasanaeth, ond megis i'r Arglwydd. Ryw noson yn ystod yr amser hwnnw, torrodd tân allan yn ystafell wely unig ferch y teulu, a bu Catrin yn ddigon dewr i ruthro drwy'r flamau i achub y fechan. Wedi'r cyfan, bu farw'r eneth dan effeithiau'r tân a'r braw, a bu agos i Catrin golli ei bywyd hefyd. Cariodd olion ei haberth ar ei dwylaw. ac ar ei hwyneb tra fu byw.

Fel cydnabyddiaeth am ei harwriaeth, rhoddodd ei meistr iddi ugain punt, gan ddywedyd yn dyner yr haeddai fwy, ac y cai fwy hefyd ar ryw adeg fwy cyfleus yn y dyfodol. Yng ngrym yr ugain punt hynny, ynghyd â'u hychydi; enillion ereill, mentrodd Griffi Elis a Chatrin Lewis ymbriodi, ac aethant i fyw i Foelygaer,—tyddyn bychan llwm ymhen ucha'r Sir. Yno y ganwyd iddynt eu hunig blentyn at phlentyn eu henoed—Owen Elis.

Daeth morwyn arall i'r Mwyndir, yr hon nid adwaenai mo Catrin. A phan bu farw Ester, ac ymhen blynyddau, yr hen Sion ei hun, prin y synnodd Catrin weled na chofiasai'r naill na'r llall eu haddewid iddi hi. Yn wir, ni chlybuwyd son am un ewyllys, a pherthynas agosaf Sion, sef Tomos Bwen, Pencnwc Bach, a ddaeth i feddiant o'r Mwyndir a'r medliannau.

Llwm yn wir, ac anghysbell oedd Moelygaer. Yr oedd y tai bron yn adfeilion, a'r heolydd arweiniai tuag yno yn droiog a blín i'r eithaf. Ac mor brudd oedd popeth o'i gylch! Nid oedd y môr yn y golwg, ond clywid ei ru lleddf yn fynych, a than ei awel, plygai a gruddfannai beunydd bob coeden a phob llwyn ger y fan. Ar y rhandir moel hwnnw, anaml cedd y preswylwyr, a phell bell o'r tyddyn bach oedd y capel, yr ysgol, a'r pentref.

Ychydig o ogoniant bywyd prio lasol brofwyd gan Gruffydd a Chatrin Elis. Prin yr adfeddiannodd Catrin ei hiechyd wedi'r tân. Cafodd fab i'w llonni, ond ni ddychwelodd iechyd a hoen y dyddiau gynt. Helbulus fu eu bywyd ar y tyddyn. Nid heb lawer o bryder y cesglid deuddeg punt bob hanner blwyddyn at yr ardreth, a chyn bod yn hanner cant oed, crymai'r ddeuddyn dan bwys gofalon a llafur caled.

Yn nhymor ei febyd, ei dad a'i fam oedd prif gwmni Owen Elis. Yn ystod nosweithiau hirion y gaeaf, dysgodd ddarllen—a'i fys bychan yn dilyn bys ei fam ar hyd dail yr hen Feibl. Dysgodd adnodau ac emynau dirif, a buan daeth i ddarllen pob llyfr a feddai ei rieni,—hen rifynnau melynwawr o Gronicl S.R.,—rhai diweddarach o'r Dysgedydd a'r Tywysydd, ac Esboniad Barnes ar yr Efengylau. Am dymhorau, yn awr ac yn y man, cai fynd i ysgol y pentref, a dysgai yno hefyd yn awchus, nes synnu o'r cymdogion at ei wybodaeth, a rhyfeddu beth ddeuai o hono, a pha anrhydedd a'i harhosai.

Eithr prudd iawn, ac amddifad iawn o bleserau rhai o'i oed oedd bywyd y bachgen. Yn y rhan honno o'r wlad, gwelid angladdau yn llawer amlach na phriodasau, ac eid i dy galar yn llawer mwy mynych nag i dŷ gwledd. Medrai Owen ganu, ond prin y gwyddai unrhyw dôn heblaw hymnau, ac anthemau, a'r rhai hynny gan mwyaf yn rhai lleddf. Swn cwynfan dan orthrymder, a hiraeth am wlad well, lle ca'r blinedig orffwys, ac y peidia'r annuwiolion â'u cyffro, glywid gynt, Sul a gwyl, haf a gaeaf, yn yr ardal honno fel mewn llawer ardal arall yng Nghymru.

Mewn awyrgylch felly tyfodd Owen Elis hyd yn bymtheg oed. Un bore Sul yn y Gwanwyn, deffrôdd y llanc o gwsg Buasai y Sadwm cynt yn llyfnu'r tir yn galed drwy trwm. y dydd, a gadawsai ei rieni tyner ef ar ei wely i ddadflino tra y buasent hwy eu dau yn cyflawni eu goruchwylion arferol cyn boreufwyd. Cododd Owen ar ei eistedd, gwelodd yr haul yn uchel yn y ffurfafen; plygodd dros erchwyn ei wely er mwyn ceisio darganfod drwy'r symudiadau yn y gegin pa amser oedd. Clywodd un yn chwythu'r tân yn aiddgar, ac un arall yn arllwys llaeth o bedyll."

Twimo llâth i'r lloi. Biti saith i'w i," ebe Owen rhyngddo a'i hun.

Cyn iddo orwedd yn ol, daeth llais ei dad i fyny ato yn groew drwy ddwndwr y pedyll llaeth a'r chwythu.—

"Odw, Catrin, wi am i Owen fod yn brigethwr."

Rhyw ochenaid ddofn oedd atebiad y fam, ochenaid oedd fel pe yn cyfleu na fedrai hi feddwl am ddim gogoneddusach mewn bywyd, ond bod y delfryd, O! mor bell ac anghyraeddadwy.

Aeth gwaith y gegin yn ei flaen, ac arhosodd Owen fan honno, yn plygu dros erchwyn ei wely ac yn dwys feddwl. Bedair blynedd ymhellach yr oedd Owen Elis yn fyfyriwr yn ysgol ramaderol Maesyrhaf, a chynllun ei fywyd wedi ei dynnu allan yn glir yn ei feddwl. Onid cedd son drwy'r oesau am bobl neilltuol wedi eu galw i waith neilltuol, a llaw Duw wedi eu llywio o'r dechreu drwy gaddug a niwl? Dyna Joseph, a Moses, Daniel a Phaul. Un felly ar raddfa lai oedd yntau yn ddiddadl, neu paham yr oedd mor anhebig i blant o'i oed? Paham y daliasai difrifwch bywyd ef mor fore? Paham y rhodded iddo dalentau yn anad neb o'i gyfoedion? Oedd, yr oedd gwaith neilltuol ar ei gyfer yntau.—pregethu'r efengyl, efallai yn dra gwahanol ac yn fwy rymus na neb yng Nghymru. Buasai Duw yn siarad ag ef ar hyd y blynyddau, geiriau ei dad ar y bore Sabath hwnnw, a'i deffroisai i glywed yr alwad.

Gartref ar y tyddyn, llafuriai ei dad a'i fam fore a hwyr i ddwyn eu breuddwyd gogoneddus i ben.

Tra yn yr ysgol a'r coleg, yn ymgymysgu a chwmni llon y lleoedd hynny, cafodd Owen Elis olwg newydd ar fywyd, a golwg newydd ar ei natur ei hun. Yr oedd yno dwr o fechgyn ieuainc fel yntau, â'u hwynebau ar y weinidogaeth, ond nid oedd pwysigrwydd y gwaith na dwyster yr alwad nefol wedi dwyn rhyw ddifrifwch neilltuol i'w bywydau hwy. Gwisgai, rhodiai, ymddiddanai a chwarddai y rhan fwyaf o honynt fel dynion ereill. Yr oedd bywyd mewn tref hefyd yn llawer llai llethol na bywyd y wlad. Ni frawychid un yno â mynych orymdeithiau galarus tua'r fynwent brudd. Pan fyddai angladd, eid â'r galarwyr yn frysiog mewn cerbydau cauedig, a dodid y marw allan o olwg gynted ag y gellid rhag aflonyddu ar bleserau'r byw. Nid oedd y nos yno agos mor ddu, na'r gwynt agos mor gwynfannus ag yn ardal Moelygaer.

A daeth blwyddi tirfion ieuengoed a llu o fwyniannau newyddion i'w canlyn. Fel gyda'i wersi a'i bregethau, rhagorai Owen Elis ar ei gyd-efrydwyr ymhob chwareuon a difyr-gampau. Daeth y byd a'i swynion afrifed' i'w ddenu. Daeth Pleser a Chlod i gynnyg eu rhoddion iddo, a graddol, graddol giliodd gogoniant y byd anweledig.

Eithr ataliwyd ef yn sydyn ar ei yrfa i ddinystr. Un prynhawn tywyll o Dachwedd, ar faes y bel droed, anafwyd ef yn enbyd. Pan ddaeth allan o'r ysbyty dri mis ymhellach, yr oedd yn gloff, a dywedwyd wrtho mai cloff a fyddai am y gweddill o'i oes.

Tra'n gorwedd ar ei wely cystudd, cafodd y newydd prudd am farwolaeth ei fam. Methodd fynd adref i roi gair o gysur iddi ar ei gwely angau, ac i gael yr olwg olaf ar ei hwyneb creithiog caredig yn ei harch; a phan, cyn diwedd y flwyddyn ddu, y dilynodd yn gloff, gorff ei dad i'r un fynwent lonydd, dywedai gyda'r Salmydd, "Amgylchynaist fi yn ol ac ymlaen, a gosodaist Dy law arnaf." Byth ar ol hynny, ni chollodd olwg ar ei etholedigaeth ac amcan mawr ei fywyd. Croeshoeliwyd y byd iddo, ac yntau i'r byd. Ddwy flynedd wedi marwolaeth ei dad, a chyn gorffen ei dmor yn y coleg, cafodd alwad i fugeilio eglwys Annibynnol Bryngwynli. Atebodd hi, a dechreuodd ar ei waith yno, fel y gwelwyd eisoes, ar ddechreu'r flwyddyn newydd.

Nodiadau

[golygu]