Bugail y Bryn/IV
| ← III | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
V → |
IV.
Nid oes heddyw ond yr atgof
Am y pethau hynny gynt.
HIRAETHOG.
ANAML, yn yr amser gynt, y digwyddai dim cyffrous iawn yn ardal Cwmgwynli. Yr oedd y bryniau a'r moelydd a'r dyffrynoedd yn aros yn yr unfan er erioed, a phan ddeuai'r tymhorau i newid eu gwisgoedd, gwnaent hynny mor araf a diswn nes cael o bawb ddigon o amser i dderbyn y cyfnewidiad heb gyffroi. Yr oedd pob dydd, yn ei waith a'i ddigwyddiadau, yn hynod debig i bob dydd arall; pryd hau a phryd medi yn dod bob blwyddyn yn ddiffael, haf a gaeaf, dydd a nos heb erioed anghofio eu hamser. Araf a phwyllog ac ansymudol fel Natur o'u cwmpas oedd preswylwyr y Cwm hefyd. Anaml y brysiai neb wrth fyw ei fywyd. Ni ddaethai trên na dim arall buan a rhwysgfawr a thrystiog erioed i beri rhuthr a chyffro iddynt. Ni cherddai'r llythyr- gludydd ond drwy ffordd fawr y plwyf. Cai'r byd mawr tuallan fynd ymlaen a'i ferw gwyllt. Hir y byddai gwan adsain o'i drwst cyn cyrraedd ardal lonydd Cwmgwynli.
Ym myd crefydd hefyd, araf a phwyllog ryfeddol oedd yr ardalwyr. Yr anhawster i'w symud a'u deffro flinai enaid y Parch. Owen Elis. Daethai ef i'w plith a'r weledigaeth nefol yn fyw o flaen ei lygaid, ei enaid wedi ei gyffroi i'w waelodion gan sylweddau byd arall, a phethau'r byd hwn yn mynd yn fwy anelwig a dibwys yn ei olwg bob dydd. Ei freuddwyd mawr oedd troi Cymru i'r unrhyw ffydd, gan ddechreu yng Nghwmgwynli. Tra'n ymdrechu pwysleisio ei neges o Sul i Sul ac o wythnos i wythnos, disgwyliai weld arwydd o lwyddiant, ond aethai bellach bron bedwar mis heibio, a neb o'i braidd wedi eu cynhyrfu'n ormodol. Cytunid yn gyffredin fod ganddo ddull tra newydd o bregethu; nid oeddid eto wedi penderfynu pa un a ddaliai dull felly yn ei flas ai peidio.
Ond yr oedd cynnwrf o natur arall gerllaw. Blynyddoedd caled i amaethwyr Cwmgwynli oedd y rhai hynny. Gweithient yn galed o wawr i hwyr; boddlonent ar yr ymborth symlaf; anaml ac ychydig oedd eu dyddiau o bleser; eto yn y ffeiriau a'r marchnadoedd nid oedd neb yn awyddus iawn am eu nwyddau. Byddai raid iddynt foddloni cadw eu.hanifeiliaid neu dderbyn prisiau isel iawn am danynt.
Ac ar ddiwedd y flwyddyn, yn hanes llawer iawn o honynt, byddai deupen y llinyn ymhell o fod ynghyd.
Yn eu cyfyngder, gyrrwyd hwy i edrych yn fanylach i bethau, ac i dderbyn yr hyn ystyrient yn anghyfiawnderau yn llai tawel a dirwgnach. Gofynasant i offeiriad y plwyf (nid Mr. Puw'r bennod ddiweddaf) gan nad ystyrient eu hunain yn ei ddyled, foddloni ar lai nag arfer o ddegwm. Ffromodd hwnnw'n aruthr, a hawliodd lawn fesur.
Cododd yr amaethwyr mewn gwrthryfel, a gwrthodasant dalu dim. Ymhen amser, gwelodd yr awdurdodau eglwysig os na cheid yr arian trwy deg fod yn rhaid eu cael trwy drais, a daeth swn rhyfel, a seiniau aflafar anghydfod i aflonyddu ar dawelwch y wlad.
Un dydd Llun, a'r Parch. Owen Elis a'i fodryb wrth eu bwrdd ciniaw, clywyd curiad ar y drws. Aeth y gweinidog ei hun i'w agor. Dau foneddwr trwsiadus oedd yno yn gofyn am gael eu cyfeirio i Faesyryn, os gwelai yn dda. Gwyddent fod y lle rywle yn y cyffiniau, ond nid oeddent yn siwr pa un o'r ffermydd oedd.
Aeth Owen Elis—a'i feddyliau yn brysur—allan gyda hwy at yr iet. Dywedodd wrthynt am fynd i lawr hyd y groesffordd, troi oddiyno ar y dde, a mynd ymlaen nes dod at y pentref, a gofyn i rywun yno ddangos iddynt y lon a arweiniai tua'r fferm.
Daeth yn ol i'r tŷ yn frysiog, a daeth Miss Elis mor frysiog ag y gallai i lawr o'r llofft, o'r lle y buasai yn cael llawn olwg ar y dieithriaid fel yr aent oddiwrth y ti.
"Beth we rheina, te, chi?" ebe hi.
"'Rwy'n credu'n siwr taw beiliaid y. Degwm yn'nw," ebe Owen Elis, gan gydio yn ei het. "Ma son bod nw wedi bod mewn rhai ardaloedd, a ma nw'n dechre yma. Fe gymer hanner awr dda iddyn nw fynd drw'r ffordd. Mi af fi yno nawr drw'r caeau i ddweyd wrth Ifans bod nw'n dod. Falle leicse fe gloi'r iete."
Cyflogasai'r ddwy blaid,—y ffermwyr a'r offeiriaid,—bob. un ei chyfreithwyr, i'w cyfarwyddo ynghylch mân bethau'r gyfraith, fel y gallent fynd belled ag oedd bosibl er eu lles eu hunain heb droseddu'r gyfraith. Ym mysg pethau ereill, dysgwyd hwynt na feddai yr un atafaelydd hawl i dorri clo drws neu glwyd, nac ychwaith ddringo ffordd arall er mwyn gosod' ei law ar nwyddau neu anifeiliaid. Felly, pe gofelid cloi'r clwydydd a arweiniai at y fferm, gellid teimlo'n ddiogel. Eithr lle'r oedd mynych dramwy, anodd oedd gwneud hyn, ac os llwyddid i gadw'r anifeiliaid o'r golwg, yr oedd y gwair a'r ŷd mewn man digon amlwg fynychaf.
Er ei gloffni, medrai Owen Elis gerdded yn gyflym, yn enwedig pan na fyddai neb gerllaw i edrych arno. Cyrhaeddodd Maesyryn a'i anadl yn ei wddf, pan oedd y teulu ar ginio.
"Helo ma," ebe ef, gan gerdded i mewn i'r gegin. "Mi redais i roi gwybod i chi fod y Beiliaid ar eu ffordd yma. Rwy'n teimlo'n siwr mai hwy oedden nhw. Fe fuon yn gofyn y ffordd i fi, ac mi cyfeiries nw drw'r pentref. Mi gewch amser i gloi, ond i chi frysio."
Cyn iddo orffen, yr oedd Morgan Ifans ar ei draed, ac yn galw ar y Sais o'r 'rwmford.'
"Fred, rhed i hol y tshaen o'r cartws. Dere a'i lan i'r iet goch," ac allan ag ef cyn cael amser i ddiolch i'r gweinidog.
"Mr. Elis bach, i chi wedi rhedeg sbo chi'n whîs. Sdim yn ormod da chi neid os gallwch chi neid cimŵinas," ebe Mrs. Ifans yn araf leddf. "Eisteddwch gal ych anal. Ann, rho ddiferin o ddwr yn y tegil. Odich, ginta, wedi cinhawa, a phe na fisech chi, sdim pŵer o flas ar y tato ma heddi. Gewch ddised o de nawr. W i'n leico dised yn hinan ar ol cino. Dere, Ann, a'r tegil."
Ni sylwasai Mrs. Ifans yn y cyffro fod Ann wedi rhedeg allan, ac wedi dilyn ei thad at yr iet. Leisa'n unig oedd ar ol yn y rwmford, ac yr oedd erbyn hyn wedi brysiog ddatod plethiad ei gwallt, ac wedi ei drefnu oreu medrai dan yr amgylchiadau. Yr hyn a'i blinai oedd mai ffedog waith oedd o'i blaen. Pam na fuasai wedi gwisgo ffedog wen fel y gwnai bob dydd cyn eistedd at giniaw. Nid oedd modd dod o hyd i honno yn awr heb ddangos ei hun i'r gweinidog. Aeth allan yn siriol i'r gegin a'r tegell yn ei llaw.
"Shwt i chi, Mr. Elis?" ebe hi, yn llon a gwylaidd, gan hongian y tegell uwchben y tân.
Cyn pen ychydig funudau clywyd swn rhywun yn rhedeg at y tŷ. Yr oedd gan Ann, Maesyryn, stôr o hen rigymau ar ei chof. Adroddai un bryd y mynnai, a neb ond ei hunan. yn gwybod pa gysylltiad oedd rhwng y rhigwm ac amgylchiadau'r funud. Daeth i'r tŷ yn awr yn ddiseremoni, gan ddweyd yn ddifrifol ddigon,—
"Ilbin Shon Alban a redodd yn chwirn, Ddaliodd wahadden gerfidd i girn; Redodd yn inion, dododd hi lawr, Wedodd wrth Alban, mi lladda hi nawr."
Mam, ma'r ddoi ddîn da nhad a Fred fan na, yn Parc yr Ardd, yn drichid ar y da.
Bryd hwnnw y cofiodd am bresenoldeb y gweinidog. Edrychodd i'w gyfeiriad gan wenu, a dywedodd:—
Alle nhad fod' wedi cloi'n brion, Mr. Elis, se fe'n dewis. Roisoch chi ddigon o amser iddo. Ond we'r dinion fan ni yn y tro pan doith e a Fred at yr iet, a wedd e'm yn leico. cloi fan ni o flân i lliged nw."
"Wel, wirione," llefai Mrs. Ifans. "Na nawr, fe werthan e'n da ni a'n cwbwl ni, a fidd e'n leico hinni, wn i?" ac aeth allan i weld beth ddigwyddai.
Ni fynnai Mr. Elis fynd allan i gael ei weld gan y dieithriaid, felly eisteddodd yng nghwmni Ann yn y tŷ. Clywid swn Leisa'n symud ar y llofft uwch eu pen. Aethai John y mab oddicartref er y bore.
Merch tua dwy ar hugain oed oedd Ann. Hi oedd yr ieuengaf o'r teulu. Dwy flwydd yn hŷn na hi oedd Leisa, a John tua dwy flwydd yn hŷn na hithau. Meddai Ann y swyn prin o naturioldeb. Nid oedd unrhyw dlysni anghyffredin yn ei gwedd. Cawsai awel Ebrill ryddid i chwarae a'i gwallt, ac yr oedd lliw ei haul ar ei breichiau neoth. oedd ei llygaid glas yn onest ac agored, heb ormodedd dyfnder ynddynt, ond yn llawn chwerthin hapus. Yr oedd bod yn ei chwmni fel eistedd mewn cae lle tyf porfa lâs Mehefin a'r blodau gwylltion amryliw heb ofyn sylw na diolch neb. Yr oedd cwpan ei dedwyddwch yn llawn, oherwydd onid oedd Josi'r Mwyndir a hithau wedi ymdynghedu i fod yn ŵr a gwraig cyn diwedd y flwyddyn?
Ni ddywedwyd gan Mr. Elis a hithau ddim digon pwysig i'w groniclo, a buan daeth Leisa i lawr o'r llofft wedi rhoddi heibio ei dillad gwaith, ac o'i blaen ffedog fechan wen yn lle'r ffedog sach. Yr oedd ei gwallt crych wedi ei drefnu'n dlws; yr oedd gwrid' ysgafn ar ei grudd, a'i haeliau trymion bron yn cuddio ei. llygaid. Rhyw edrychiad llechwraidd yn awr ac eilwaith daflai at Mr. Elis, ac yr oedd pob edrychiad a phob osgo o'i heiddo wrth osod y ford fach gron yn barod' erbyn tê,—fel yn mynegu rhyw bryder a gobaith am ba argraff a roddai ar y llygaid a'i gwyliai.
Pan ddychwelodd Morgan ac Anna Ifans i'r tŷ, yr oedd olion y giniaw wedi eu symud, a'r cwpanaid tê cysurus yn barod.
"Na'r diolch i chi'n gal, Mr. Elis, am ffwdani rhedeg drwa! Yn lle cloi fel gallse fe neid yn brion, towli'r tshaen o'i law nath e os gwelwch chi'n dda, a hagor y iet, felse fe'n i croesawi nw i find a'i eiddo fe i gyd," galarai Mrs. Ifans.
Dyna nês i ochodin, dwl ne beido," ebe Morgan Ifans. "Ie, a dina nw wedi streino ar 'n biwch ore ni! Fidd aeshon ma nawr, a'r dyrfa a'r ffwdan! Fise'n well i chi fod wedi tali'r hen ddegwm—fe goste lai. Cimrwch, Mr. Elis, gnewch gore galloch chi, fel mai e da ni. Leisa, torr ragor o fara menin. Fe limprith di dad hin 'mhen fowr o dro."
"Diolch yn fawr, Mrs. Ifans. Pwy oedd y ddau ddyn, Ifans?" gofynnai'r gweinidog.
"y Beili,—Lewis wrth i enw, mae'n debig, a Jones y Cifreithwr we'r llall."
"Ofynson i chi dalu heddyw?'
"Do, do. Fe widden yn brion beth we ni'n neid wrth yr iet hefyd. Wetson i nheges. Fise'n dda da nw os talwn i, ond os na, wedd e'n streino. Gwrthod nês i'n bendant, ac fe welson y gwartheg fan ni'n pori, a dina fe, fe streinodd ar y fiwch benwen. Biwch dda iw i. Fise mwi yn y mhoced i taswn i'n tali. Pimp a wheigen o ddegwm si arna i, ma'r fiwch fach yn werth wth ne naw pint. Gorffed i fi i seino papir hefid i addo na werthwn i mo'r fiwch nes delen nw i hol i. Dîn yn sharad yn neis we'r din, a'r hen gifreithwr bach hefid, we'r ddoi'n ddigon boneddigedd.
"Hm!" llefai Anna Ifans, "fe seinech chi'ch pen i bobol ond cal e'ch galw'n syr yn ddigon amal am hinni." "Pam na dalech chi te? Fuase hynny ddim yn well?" gofynnai Mr. Elis.
"Weda i chi, fel hin mai," ebe Morgan Ifans. "Rin ni fel Indeb wedi citino i ddangos e'n gwrthwinebiad i'r Degwm trw beido tali,—trw roi'r ffwdan iddin nhw i streino, a gwerthi'r nifel nei'r nwidd, a mind ag e gered. Os bidd acshon ma, dos ma neb trw'r cimdogeithe a feiddie ginnig ar ddim. Gist iddin nw ddod' a'i prinwir gida nhw. Teit fidd i armin nw wedyn i gali harian."
"Beth yw'r rheswm ynte, fod pobol wedi talu'n ddiddig ar hyd y blynydde, a nawr yn protesto?" gofynnai Mr. Elis. "Rhai anodd i'n symud i ni fel ffermwrs, chi. Ma'n well da ni odde pwer o bethe na chiffro'n hinen i wrthwinebi, nes eith i'n rhi galed. Fel ni mai nawr. Fio dim fath amser slac ar bopeth es tro. Ma'r landlordied i gid wedi gistwn rhiw gimint ar y rhenti; pe bise'r ffeirad bach wedi gistwn tipin ar y degwm fel gofinnwd iddo, fise dim rhagor o helger yn bod. Nawr trw ffwdan ceith e ddim."
"Ie, ac am beth mai e yn i cal nw?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, anghyfiawnder yn ddiau yw'r Degwm yng Nghymru nawr," ebe Mr. Elis, "a cheir dim gwared ar unrhyw anghyfiawnder heb i rywrai ymladd. Dw i fawr o ymladdwr— nawr, ond yn wir, mae 'nghydymdeimlad i gyda'r rhai sy'n ddigon gwrol i neud hynny."
"Wês, wês, ma raid wmla," ebe Morgan Ifans, "a wmla gewn ni'n hir wi'n onfi. Cadw'r ffermwirs ar lawr dan i trâd nhw iw amcan y gwir mowr, welwch chi, a ma'r cifreithe a'r Lliwodreth wedi bod ar i hochor nw ariod.
"Ie, a o ble ma'r hawl wedi dod iddin nhwi i lhordian i ar gefne pobol dlawd si'n gweithio'n galed?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, o ble? Oes, ma'n rhaid ymladd," ebe'r gweinidog yn fyfyrgar.
O hynny nes codi oddiwrth y bwrdd tê, yr oedd ei feddyliau yn rhy brysur i'w alluogi i gymeryd rhan helaeth yn yr ymddiddan. Tremiai i'w galon ei hun. Mor barod oedd i roi pwys ar bethau'r byd hwn a chefnogi ereill i wneud yr un peth! Beth oedd yn werth myned i'r fath helbul a ffwdan yn ei gylch? Beth ond y peth mawr? Ni ddylasai ef fod' wedi cymeryd cymaint o ddiddordeb mewn pethau mor faterol, nes rhedeg yn ei wylltineb draws y caeau i'w rhybuddio fel y gwnaethai. Ai nid ei waith ef oedd cyfeirio meddyliau pobl at fyd y sylweddau? Ie, a rhodio yn eu mysg fel un yn gweled yr Anweledig, ac heb awydd gostwng ei olygon at bethau daear. Wedi dod i mewn i'r tŷ hwn heddyw, nid oedd wedi son gair ond am bethau byd ac amser; —yr oedd wedi ymdroi gyda'r lleill ynghanol pethau di-urddas, ac wedi anghofio ei neges fawr.
Ac yn awr, hyd yn oed, ni allai gael gair allan am y pethau y teimlai y dylai siarad. Casaodd ei hun. Teimlodd ei fychander truenus. Wedi ychydig amser cododd i fynd adref.
Aeth Morgan ac Anna Ifans i'w hebrwng hyd ben y lôn. Safai Leisa ar y drws i'w gwylio'n cychwyn, a meddyliai rhyngddi a'i hun:
Na fachgen pert yw e on'bai fod e'n gloff! Ond do's neb yn berffeth, a alle neb weid fod dim arno pan iw e'n y pilpid'. Wedd e'n drichid digon, fid! A wedd e'n ddistaw iawn nawr cin mind oma. Pwi feddylie bore heddi bise fe ma yn ifed tê!"
Wrth droi'n ol i'r gegin agorodd ddrws y parlwr, lle'r oedd y drych mawr uwchben y tân, a chymerodd lawn olwg arni ei hun cyn tynnu'r ffedog wen ac ail-gydio mewn gwaith.