Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/VI

Oddi ar Wicidestun
V Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

VII

VI.

Mae'r henwyr? Ai meirw rheini?
Hynaf oll heno wyf i.
—GUTO'R GLYN.

DAETH Dafydd Alun i mewn yn araf, ac eisteddodd yn drwm ar ei gadair freichiau dderw, a chan bwyso ei ddwylaw ar ei ffon, edrychodd ar y gweinidog ieuanc, a dy wedodd,—

Ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto ei nerth sydd boen a blinder.' Rw i wedi gadael y mhedwar ugain a thair, Mr. Elis."

Edrychodd y dyn ieuanc ar yr hen ŵr yn ddistaw, a dywedodd, wedi ennyd o fyfyrdod,

"Mae rhyw air Saesneg yn dweyd fel hyn,—

'Let him not boast who puts his armour on,
Like him who puts it off, the battle won.'

Hyn yw ei ystyr,

"O, ma Daci'n diall Sisneg," ebe Gwen, gan wenu. Derbyniodd y gweinidog y ffaith yn ddistaw, a dywedodd, "Nawr wyf fi'n gwisgo'r arfau o ddifri, Dafydd Alun. Mae'r frwydr a'i helyntion, y blino a'r diffygio, i gyd yn f' aros i. Sut ych chi'n teimlo nawr wedi byw oes faith? Ydych chi'n foddlon myn'd oma?"

"Ma Rhagluniaeth yn garedig iawn wrthym ni'r hen bobol," ebe Dafydd Alun. "Mae'n mynd a ni ymaith mor raddol. Mae'r nerth yn mynd, y clyw, y perth'nase, a'r cyfeillion, rhai fu'n cydfyw a chyd-frwydro â ni; ma nw'n mynd o un i un, nes fod mwy o honom ni'r ochor draw nag sy'r ochor hyn, ac fod cystal da ninne fynd a pheido."

"Rw i da chi, Daci," ebe Gwen, gan sefyll yn ei ymyl a phwyso ei breichiau ar gefn ei gadair.

"Fuset tithe, merch i, 'n fwy rhydd hebddw i. Ffwdan wi i tithe nawr."

"O, Daci!"

"Gwen sy wedi gofalu am dana i ers whech mlyne nawr," ebe Dafydd Alun. "Ma'n unig blentyn i'n byw yn Shir Gâr, a theulu mowr da hi. Merch hena honno yw Gwen. Pan farw Sara ngwraig, whap wedi i ni roi'r ffarm fyny, rown i'n meddwl taw dim ond am gwpwl o fisodd buse ise Gwen arna i. Ond rw i'n cal byw o hyd. Wn i a nês i'n iawn, Gwen fach, i dy ddwyn di o wrth y plant erill."

"Dyna gân Daci nawr, stil, Mr. Elis," ebe Gwen rhwng lleddf a llon, "fel se fe ddim yn gwbod taw gidag ewi. hapisa.


"Mae'n anodd gwybod beth sy'n iawn yn fynych," ebe'r gweinidog. "Un cyfle geir i fyw'n y byd. Mae cymaint o wahanol lwybrau, a phob un yn gorfod dewis ei lwybr heb neb i roi cyfarwyddyd pendant. Problem barhaus yw bywyd. A gawsoch chi'r cwestiynau a'r anawsterau yna yn eich bywyd chwi, Dafydd Alun?"

Do, do. Ond ma'r gole'n dod hefyd. Ma'r hen fyd ma'n dod a ni i'n lle, Mr. Elis. Pan own i'n ifanc a heini fel chi, rown i'n galed ac uchel, a hunan ddigonol. 'Doedd mo Duw yn fy holl feddyliau. Fe fu raid i fi weld' trallodion a henent a dyddie blin cyn i f'ysbryd i ddod i'w le. Ro'dd Sara'n wahanol iawn i fi, a hi gas y dedwyddwch pura; a nawr, wedi iddi hi farw, rw i'n gweld' ystyr pŵer o'r pethe o'dd hi'n weyd, ie, nawr, wedi iddi hi farw," ebe'r hen wr fel wrtho'i hun.

Bu munud neu ddwy o ddistawrwydd.

Anaml ych chi'n dod i'r cwrdd', Dafydd Alun," ebe'r gweinidog.

Braidd nad anghofies i taw Bugail y Bryn oeddech chi, ac mai dod yma fel Bugail oedd eich neges," ebe'r hen ŵr mewn tôn dipyn yn sychlyd.

Ie, fel Bugail y does i yma, Dafydd Alun, ond wedi'ch nabod chi, rw i am newid lle a chi. Rych chi'n hynaf— gwr profiadol ac yn Gristion. Rhowch help llaw i ddyn ieuanc. Methu deall w i na fyddai dyn o'ch bath chi yn amlach mewn lle o addoliad. Rych chi'n cerdded yn hoew, a dyw'r capel ddim ymhell iawn."

Pwysodd Dafydd Alun ei ben ar ei ffon, ac atebodd yn araf, fel wrtho'i hun,—

Ie, lle o addoliad,— Wele, y mae'r awr yn dyfod,' ie—hm— eithr mewn ysbryd a gwirionedd.' Mi fues i'n. dipyn o gwrddwr unwaith, ond fues i ariôd yn nodedig o flaenllaw gyda gwaith capel. Does gen i fawr o feddwl o lawer sy felly. Ofynnir dim i mi ar y diwedd, welwch chi, Sawl gwaith buest ti'n y capel?' ond Shwt buest ti byw?"

Ond, yn sicr," ebe'r gweinidog, "hyd nes daw pobl yn berffeithiach, mae gweinidogaeth capel ac eglwys yn angenrheidiol. All dynion cyffredin mewn gwlad na thre ddim addoli mewn ysbryd ac mewn gwirionedd heb help y pethau allanol yma. Dyna foddion gras onte?

"Rych chi'n iawn, rych chi'n iawn. Ond ma perigl o'r ochor arall i bobol bwyso gormod arnyn nw gynhyrchu iechyd yw e, ac nid yr iechyd i hunan, falle nad yw'r un moddion ddim yn cytuno â phawb."

Daeth gwên siomedig i wyneb y pregethwr.

"Dyna berigl Cymru a'i channoedd capeli ac eglwysi," ychwanegai Dafydd Alun,— "meddwl mai bod yn aelod eglwysig yw crefydd. Wirionedd i, na proffeswyr crefydd yng Nghymru yn debig iawn ag oedden nw yng ngwlad Canaan yn amser Crist, yn meddwl taw nhwy'n unig sy'n diall y ffordd i'r bywyd. Ma'r capeli a'r eglwysi wedi gneud twysged o les i Gymru, ond cyn bo hir,—fe fyddwch chi byw i weld hynny,—fe fydd raid cal rhyw foddion gras o natur wahanol, hyd yn oed yn e'n gwlad ni. Ma pobol yn colli golwg ar yr ysbrydol. Ma gofid ne drallod mowr yn amal yn dwyn dyn i'w le. Fe ddaw rhyw gynnwrf tebig ryw ddiwrnod i ysgwyd y genedl yn gyfan yn ol at y pethe mowr.

"Ond, ond," ebe'r gweinidog yn hanner ofnus, "yn lle cadw o'r capeli am fod y crefyddwyr mor amherffaith, ai nid ein dyledswydd ni yw gwneud ein gore i ddod a phethau yn fwy perffaith?"

"Ma hynna shwr o fod yn wir, Daci," ebe Gwen.

"Gyda chi'r ieuanc ma'r cyfle te," ebe Dafydd Alun. "Ma'n amser i ar ben. Wnawn i ddim rhyw bŵer o les mwy tawn i'n mynd i'r cwrdd yn gyson".

"Fe fuse esiampl dyn fel chi'n gwneud llawer," ebe'r gweinidog.

"Does dim eisie esiampl i fyn'd i'r cwrdd," ebe'r hen ŵr. "Mae pawb yn gneud hynny ffor hyn. Ma digon o eisie esiamplau i fyw'n onest, yn eirwir, yn ddi—genfigen. Rw i'n treio gneud hynny."

"Rhwbeth fel na ma Esaiah'n weid yn y bennod ddarllenson ni bore heddi," ebe Gwen, a difynnodd yr adnodau o'i chof: "Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? Ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachlian a lludw arno? Ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd? Onid dyma yr ympryd a ddewisais? Datod' rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri o honoch bob iau? Onid torri dy fara i'r newynog, a dwyn o honot y crwydriaid i dŷ? A phan welych y noeth ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddiwrth dy gnawd dy hun?"

Trodd y gweinidog ei lygaid o syllu ar Gwen, a dywedodd," Rhaid i mi ddweyd hyn: 'Rwyf erbyn hyn yn gyfarwydd a'r rhan fwyaf o aelodau'r eglwys yn Y Bryn, ond chefais i neb eto mor ysbrydol eu meddwl a chwi eich dau. Rw i am i chi ddod i'r cwrdd nawr am reswm arall hollol,—pan alloch chi, Dafydd Alun,—i fod yn galondid i mi, i mi gael teimlo fod rhywun yn y gynulleidfa yn fy neall."

"Mi na i—mi wnaf fi i Daci ddod mwy, amell waith," ebe Gwen.

"A pheth arall," ebe'r gweinidog, a'i lygaid yn disgleirio, mae mwy mewn crefydd na bod yn orest, a geirwir, a digenfigen, mwy hyd yn oed na datod rhwymau anwiredd a thorri bara i'r newynog, ac yn y blaen fel mae Esaiah 'n dweyd. A ddarllensoch chi ar ddiwedd y bennod am yr ymhyfrydu' yna? Y gorfoledd hwnnw na wyr y byd ddim am dano, y gorfoledd hwnnw sy'n codi dyn ymhell uwchlaw'r ddaear, nes gwneud holl gysylltiadau daear yn ddibwys, ie, sy'n gweddnewid y byd i gyd! Ma hynna mewn crefydd, a rw i'n credu taw yn y cysegr mae teimlo hwnna ar ei fan gore."

Pan gododd y gweinidog i fynd, cofiodd Gwen yn sydyn nad oedd wedi cynnig bwyd iddo, fel y gwnai pob teulu yn y wlad i ymwelwyr.

"O, Mr. Elis, arhoswch, fe ddaw tê'n barod' 'mhen cwpwl o finide," ebe hi.

"Diolch. Rhaid i mi fynd nawr, a mi ges dê yn Y Glaslwyn. Roedd yn well gen i'r ymgom yna a chwi eich dau nag un pryd o fwyd."

Felly ffarweliwyd. Aeth y gweinidog, a meddyliau am Gwen yn torri ar draws ei feddyliau arferol am ei waith, a blinai Gwen drwy weddill y dydd am anghofio o honi estyn croesaw arferol y wlad i'r gweinidog newydd.

Nodiadau

[golygu]