Bugail y Bryn/VIII
| ← VII | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
IX → |
VIII.
Shades of Evening, close not o'er us,
Leave our lonely bark awhile!
—T. H. BAYLEY.
DYDD pwysig iawn yn ardal Cwmgwynli oedd dydd Ffair Galanmai, neu, fel y gelwid hi'n gyffredin, "Ffaer Glame." Honno a Ffair Fedi oedd dwy ffair bleser y flwyddyn. Tyrrai'r bobl ieuainc o bob cyfeiriad i Abergwynli ar y dyddiau hynny, a lawer tro, dechreuwyd yno gwmniaeth a barhaodd am oes gyfan.
Y flwyddyn honno, Dafydd Alun aeth o Isaber i Ffair Galanmai, ac nid Gwen. Yr oedd ganddo neges yno a ofynnai am ei bresenoldeb, a chafodd ei gario i lawr yng ngherbyd bychan esmwyth Mr. Puw y Rheithor, gyda Mr. Puw ei hun yn gwmni. Yr oedd gan Gwen felly ddydd hir o Fai i'w dreulio wrthi ei hun.
Gan fod y ffermwyr a'u gweision yn y ffair, yr oedd swn arferol dydd gwaith wedi peidio. Ni welid neb yn llafurio hyd y caeau. Dadluddedai'r ceffylau blinedig hyd y meysydd glas, gan edrych fel pe'n methu deall ystyr y seibiant sydyn. Teyrnasai tawelwch Sabathaidd drwy'r wlad, a cheinder hudol Mai yn hulio bro a bryn.
O ymyl y ffordd lle y croesid yr afon Gwynli gan y bompren gul, ymestynnai dolydd Maesyryn am bellter hir gyda glan yr afon. Yn gynnar yn y Gwanwyn, buasid yn torri tanwydd yno, a gadawsid aml hen foncyff yma a thraw a ffurfiai sedd gysurus ar fin yr afon. At un o'r rhai hyn y cyfeiriai Gwen ei chamre yn gynnar yn y prynhawn a llyfr yn ei llaw.
Cyn cyrraedd bwlch y ddol, pwy welai yn cerdded yn araf i'w chyfarfod ond Owen Elis! Edrychai'n fyfyrgar tua'r llawr, pwysai weithiau'n drwm ar ei ffon, a chariai ei het wellt yn ei law. Braidd na wridodd pan gododd ei ben yn sydyn a gweld Gwen yn ei ymyl. Safasant i siarad ynghanol y tawelwch Sabathaidd a cheinder hudol y tymor mwyn.
Trodd Gwen yn ol gydag ef, ond pan ddywedodd fod ei thadcu wedi mynd i'r ffair, arhosodd Mr. Elis.
"Ddo i ddim i'r tŷ, ynte, gan nad yw'ch tadcu gartre, ebe ef, ac edrychodd ar Gwen a'i llyfr. Nid oedd am ei gadael ar unwaith hefyd. "Oeddech chi'n mynd rywle?" "Mind i'r ddol i iste—i eistedd ar lan yr afon own i. Wi'n leico darllen yn swn y dwr," ebe Gwen, ac ychwanegodd yn syml, gan edrych i wyneb y gweinidog,—
"Odich chi wedi mind nol ariod trw lwibir y ddol? Mai'n nes i chi na mind trw'r ffordd ac yn sichach lawer. Ma pompren fach yn croesi'r afon yn y ddol ganol. Mi ddangosa i'r llwibir i chi, os i chi am."
Felly cyd-gerddodd y ddeuddyn ieuanc trwy'r ddol las, esmwyth, hyd lan yr hen afon fechan droellog, o olwg ac Yno wrthynt o glyw pawb ond y gwartheg breuddwydiol. eu hunain, mor naturiol y siaradent! Deuai'r meddyliau a'r geiriau yn rhwydd a didrafferth. Ni chlywsent,—ni chlywsai Gwen leiaf—son erioed am gydnawsedd ysbryd." Ni feddyliodd yr un o'r ddau ymholi paham y caent bleser mor fyw yng nghwmni ei gilydd,—paham yr ymdoddai un enaid i'r llall mor llwyr. Profasant y gwmniaeth felys, bur, sydd o hyd yn bosibl rhwng ambell fab a merch.
"When each by turns was guide to each,
And Fancy light from Fancy caught;
And thought leap out to wed with thought,
Ere thought could wed itself with speech.
Daethant i ymyl hen foncyff hir, braf, ar fin y dwr. "Fan hin own i'n mind i is—i eistedd," ebe Gwen. Eisteddodd y ddau yn swn murmur hyfryd yr afon, gan wylio ambell frithyll chwaraeai yn y dwr. Cofiodd Gwen am ei llyfr.
Llyfr o donau bychain syml i blant ysgol oedd, a'r geiriau'n Saesneg, wrth gwrs. Caneuon Moore oedd y rhan fwyaf ohonynt. Cymerodd Owen Elis y llyfr o law Gwen. Trodd y dail, a chanodd mewn llais isel, un alaw fechan ar ol y llall, ac weithiau, bron heb yn wybod iddi, unai Gwen ag ef, ac ymgymysgai'r ddeulais yn fwyn.
"Ma na în ddeuawd i gal," ebe Gwen. Dyma hi,— Isle of Beauty." Canwch chi'r Alto, mi gana inne'r Top."
Cydganodd y ddau,—
Shades of evening close not o'er us,
Leave our lonely bark awhile!"
Swynol iawn oedd yr alaw a'r geiriau. Canasant y pennill cyntaf drosodd drachefn, ac ymddangosai Natur oll fel pe'n gwrando arnynt. Ym murmur isel yr afon deuai ambell nodyn lleddf, lleddf, i ymgymysgu a seiniau clir y mab a'r ferch pan ganent, feallai'n ddifeddwl ddigon,— "
Darker shadows round us hover,
Isle of Beauty, Fare thee well! ",
"Odich chi'n gwbod, Flow On, Thou Shining River,'" gofynnai Gwen. "Dyma hi.
"Ydw. Mi gyfieithes y geiriau yna rywbryd. Leicsech chi eu clywed nw?"
"O, leicwn, os gwelwch chi'n dda."
"Dw i ddim yn siwr o'u cofio ar unwaith, ond mi hysgrifenna i nw. Fe ddôn i'r cof, felly."
Tynnodd ddarn o bapyr o lyfr a gariai yn ei boced, ac ysgrifennodd arno'r ddau bennill. Dilynai llygaid Gwen bob gair fel y deuai,—
"O llifa, afon loew;
Ond cyn daw'th daith i ben
Gwna daflu'r blodau tlysion hyn
I ymyl cartref Gwen;
A dywed wrth yr eneth fwyn,
Os gwna hi ddod yn eiddo i mi,
Ein bywyd fydd mor llawn o swyn
A'r blodau ddygaist ti!
Ond os mai diystyrrwch
Oddiwrthi fydd fy rhan,
O! gad i'r blodau tlysion per
I wywo ar dy lan!
A dywed wrthi drosof fi,
'Rol darfod dyddiau ie'nctyd iach,
Yn unig, oer, heb swyn bydd hi,
'Run fath a'r blodau bach."
Daliodd y papyr o flaen Gwen tra bu hi yn ei ddarllen.
"O, ma nw'n bert!" ebe Gwen, gan edrych gydag edmygedd ar y gweinidog. "Dyna glefer i chi! A ga i i cadw nw, Mr. Elis?'
Plygodd Owen Elis y papyr, a rhoddodd ef iddi heb ddywedyd gair. Rywfodd distawodd y ddau. Ni lafai'r geir iau mor rhwydd a chynt. Cyn hir, cododd Gwen, gan ddywedyd,—
Ma rhaid ifi find. Mr. Elis. Falle daw Daci gatre'n ginnar. Ma'r bompren lan fan na, a ma'r llwibir yn ddigon amlwg. Fe ddewch mâs yn Llainddu."
Dywedodd y gweinidog y cerddai yn ol gyda hi hyd y bwlch. Yna ysgwyd dwylaw gan wenu, ond yr oedd rhywbeth newydd wedi dod i'r ddwy wên ac i gyffyrddiad y ddwy law. Aeth y gweinidog yn ol drachefn drwy'r ddol, ac wrth fynd i fyny drwy'r ffordd fach arw, ail-ddarllenai Gwen eiriau'r gân.