Bugail y Bryn/X
| ← IX | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XI → |
X.
I ba beth y byddaf brudd,
A throi llawenydd heibio?
HEN BENILLION.
PAN oedd y llwyth olaf o wair wedi ei godi, a glesni newydd y cae yn gwylaidd wenu ar haul y gorllewin, aeth Ann Mesyryn i gael ymgom a'i ffrynd Gwen.
Ych y fi, ych y finne, Ych y cwn, ych y cathe!" ebe hi. "O dîr, w i wedi blino!
Fidd raid i fi godi'n fore fori to a mind ar ol y da i'r ffair."
"I chi'n mind i Ffair Haf?" gofynnai Gwen. "Na neis!"'
"Fidd hi'm yn neis iawn i gered pim milltir ar ol haid o dda! Ma Leisa bron dwli ise mind i'r ffair, ond eithe hi ddim am lawer ar ol da. Ochodin, Fred a finne si'n mind, a nhad ar gefen y gaseg wrth gwrs. Rhaid i John fod gatre o achos y rhic.
Os gwerthwn ni'r hen dda yn y bore, fidda i'n rhidd wedin am y prinhawn. Dewch lawr, es! Na spri gewn ni!"
"O, mi leicswn ddod," ebe Gwen, gan feddwl yn brysur. "Ond shwt gna i? Ma raid i fi gorddi. Ma ise mind i'r dre arna i hefid. Ma'r cwrdde mhen tair wthnos, a finne heb gal y'n hat."
"Gadwch y corddi am ddiwarnod, es! Wddis yn y bid pwi fidd co," ebe Ann.
"Odi Jo'n mind?" gofynnai Gwen.
"Wn i ddim. Diw e'm yn gwbod mod i'n mind. Gobeithio bidd e no, sech ni.
"O, ie. Beth nawn i wedin?"
"Tish! Allech ddod da ni'n doi, es. A falle bidd rhiwin arall co," ebe Ann, gan wenu.
"O, hisht!" ebe Gwen.
"Fidd Fred co no, a chewch chi'm bod yn ddiflas lle bidd e."
Ochneidiodd Gwen. "Weda i i chi beth na i. Mi gordda i yn y bore. Fidd Daci'n ddigon bolon i fi ddod wedin. Mai e'n gwbod bod ise prini hat arna i. Beth i chi'n gal yn newi erbin y Gymanfa, Ann?"
I ni'n cal dillad a hate o'r siop ma leni. Martha'r Bont si'n i gneid nw. Defnidd gole bach iw e. Hate dion, a thith o flode mân, bach, a dolen fowr o riban 'rîn liw a'r dillad."
Hat wen w i'n mind i gal. Ma gwinn yn y nharo i, medde nhw, achos bod y ngwallt i mor ddi."
"Pwi iw'r nhw?" gofynnai Ann, gan wenu.
Gwenodd Gwen hefyd dros ei hwyneb, a dywedodd, Cofiwch fori nawr te! Fidda i lawr biti doiddeg. Drichwch am dana i."
Felly, yn fore drannoeth, aeth Ann a Fred a'r pum' eidion blwydd i Ffair Abergwynli. Dilynodd Morgan Ifans yn ŵr trwsiadus ar gefn y gaseg felen, a'r cyfrwy'n gwichian yn urddasol gyda phob symudiad.
Yr oedd digon o gwmni ar y ffordd y bore hwnnw, niferoedd o anifeiliaid yn tyrru ymlaen yn ofnus heb wybod i ba le; ambell ffermwr fel Morgan Ifans ar geffyl; arall a'i briod a'i blant bochgoch mewn cerbyd; ambell un a'i gart yn llawn o berchyll gwichlyd; un arall a'i briod ieuanc yn eu dillad goreu, yn gyrru'n chwyrn mewn car newydd disglair. Uwchlaw twrw traed a cherbydau, clywid bloedd iadau croch y bechgyn a brefiadau crynedig yr ychain a'r defaid. Wedi cyrraedd y dref, rhestrid yr anifeiliaid ger y cloddiau i ddisgwyl y prynwyr. Pan yn sefyll felly, llawenychodd calon Ann, o weld yn disgyn y rhiw, gerbyd hardd y Mwyndir, a Josi'n eistedd tu ol gan arwain ebol 'blwydd gerfydd ei ffrwyn. Ni feiddiai y ddau wneud ond gwenu a siarad a'u llygaid, ond daeth y ffair a'r anrhefn a'r blinder ar unwaith yn llawn o swyn iddynt.
Yna dechreuodd cyffro a thwrw'r bargeinio,—y prynwyr yn arllwys eu Saesneg mewn lleisiau croch, y gwerthwyr a'u llygaid yn graff, a'u brawddegau yn gynnil, ond i'r pwrpas. Isel oedd y prisiau y bore hwnnw, ac ychydig o fynd oedd ar bethau. Am tua'r degfed gwaith, trodd Morgan Ifans ei drem flin ar "ddeler."
"How much a head, Sir?",
"Hm! They're worth just five pounds and no more.
Come, Sir! Twenty-five pounds for the lot. By Jove! if that's not a handsome price for these ill-looking beasts! Trodd Morgan Ifans ymaith yn sarrug ei wedd.
"Nawr, nawr! Gatwch i fi'ch 'elpi chi!" ebe rhyw ŵr byrr ei gorff ond' tra bywiog ei symudiadau gerddai gyda'r deler. "Ma gormod o w'niath rynto chi nawr. Dewch chi lawr, dicin bech, Syr, aiff ynta ma lan dicin. Nawr ta."
"Ich chi'n Gymro no. Ddile fod mwi o gidwibod da chi na hwn. Odich chi'n y fisnes?" gofynnai Morgan Ifans.
Wel, otw, am 'neddi ta beth. Wi weti bod dicin ar îd y ffira ma'n ddweddar, yn sharad' ticin o Gwmrêg dros y boi ma. Diawst! wi'n ceti dechria i ar y job y minan waff. Now, Sir, what is your best hoffer?"
Wedi llawer o siarad trystfawr, llawer o edrych dirmygus; llawer o droi ymaith a dod yn ol drachefn; llawer o eiriau Saesneg cryfion ar ran y 'deler'; a llawer o gyfryngu gan y gŵr o Forgannwg; tarawodd y gwerthwr a'r prynwr eu dwylaw ynghyd, ac edrychodd Ann a Fred ar ei gilydd gyda golwg o ryddhad wrth weld prynhawn o bleser o'u blaen.
"Gwetwch ta, o bwi bart rain yn dod?" gofynnai'r gŵr byrr.
"O Maesyryn, ardal Cwmwynli," atebai Morgan Ifans. Cwmgwynli! Iefa, din? In o na iw ngwraig i, din." "O, falle wir!"
"Ia, ia, ond ma shew o amsar o ar gatws i'r lle, bit shwr. Dich chi'm yn i chofio i, sposo. Rachel Parri odd i cin prioti."
"Rachel Parri we'n forwn yn Y Mwyndir slawer di?" Dyna hi, dîn."
"O, falle wir, ŵr! Own i'n nabod Rachel yn brion. Shwt mai!"
"Wel, cenolig bach iw i e's ticin. Dyna pam dethon ni i fiw nol ffor hin. We dim perswad arni isha cal dod nol i'r hen ardal. In o Gwm Rhondda w i'm inan,—John Jinkins wrth y menw. Ma raid ifiddhai i'r minwod ma, din! I ni'n biw nawr yn ardal Glynygors na, a winne ffel in yn gallar nithir ticin o docins ta'r mochwrs a'r delers ma."
"O, falle wir! O, cofiwch fi at Rachel,—Ifans Maes- yr-yn. Gobeithio daw i whap."
"Gna shwr din. Ia. Wel, so long nawr."
"Ffarwel!"
Cymerodd John Jincins a Fred ofal y pum bustach, aeth Ann ar ei hynt drwy'r dref, ac aeth Morgan Ifans a'r deler i'r Red Lion i gyfnewid arian ac yfed iechyd da ei gilydd.
Mewn ystafell eang yno yr oedd cwmni trystfawr, ffermwyr a phrynwyr, a llygaid y rhan fwyaf yn dechreu pelydru'n beryglus, a'u dwylaw yn crynu wrth godi'r gwydrau at eu geneuau. Yr oedd tinc yr arian a'r gwydrau ac uchel swn y siarad, yn ddigon i fyddaru un, ac weithiau, taflai ambell wraig drem bryderus i mewn drwy'r drws gan gilio'n ol drachefn. Yn ymyl un o'r byrddau eisteddai gŵr Y Mwyndir, a gwydriad o win o'i flaen, yn ail rifo arian dalesid iddo gan y gŵr praff oedd newydd godi o'i ymyl.
"Dydd da, Tomos Bŵen," ebe Morgan Ifans.
"Dydd da, dydd da."
"Werthwd y cel bach?"
"Gwerthwd e, ne fe rhowd e no. Slac iw i ma heddi."
"Slac ombeidis! Werthes inne'r pim bistach am hanner i gwerth. What you drink?" (wrth y deler).
"Brandy, Sir."
"Dewch a doi frandi fan hin, os gwelwch chi'n dda."
Wedi gorffen y fusnes a chael gwared ar y deler, trodd y ddau ffermwr drachefn i gael ymgom bellach.
"Na, wn i ddim o ble ma'r talmentodd yn mind i ddod leni, a phopeth mor slac," ebe Morgan Ifans. "Ond dyna, i chi ar le'ch hinan, widdoch chi ddim am deni."
"Pob în ai ffwdan i hinan iw i," ebe Tomos Bŵen. "Fiswn i ddim wedi gwerthi'r ebol nawr onbai fod ise'i wared e arna i. Ma rhwbeth ar i goese fe, chi,—rhiw riwmitis ma am wn i. Geison drwbwl da ge trw'r geia, a miwn biodd e bob nos da ni trw'r haf. Own i'n onfi wirione, bise fe'n gloff heddi wedi cered lawr, ond wir, mi safiodd yn lew a silwodd neb fod dim mas o le arno."
"O, falle wir! "
"A ma ise i le fe arna i. Ma'r cwrdde ma'n dod. Fe fidd cimin o geir yn dod o bobman, a fe fidd ise'r stabal. We'r ebol yn cadw lle doi yn y lŵs bocs, welwch chi."
"Na fe, bidd, shwr. Widdoch chi pwi weles i heddi yn helpi gida'r din brinodd y nifeiled gen i? Gŵr y Rachel ni we'n forwn da'r hen Sion Bŵen yn Y Mwyndir. Ma hi ag inte'n biw sha Glynygroes, nawr."
Yfodd Tomos Bŵen ei wydriad gwin cyn ateb.
"O," ebe ef. "Nabiddes i'm llawer o'r feniw ariôd. Wedd i'n briod pan ath hi o ma, te?"
"Nag wedd. Dîn o'r Rhondda na iw e."
"Glynygroes, wetsoch chi?"
"Ie shwr. Diw hi'm yn iach iawn, mynte'r din bach, a wedi minnid dod nol i fiw."
"O. Ma oed mowr arni nawr ginta. Ma igen mline o ar gadodd i'r Mwyndir, ag wedd' i'm yn ifanc iawn prinni, os w i'n cofio'n iawn. Hei! dewch a glased o frandi ma. Ifwch chi lased arall, Ifans?"
"Na-na, tenci, Tomos Bŵen. Ma hwn yn gimint ag a alla i ddala heddi."
"Wi'n teimlo rhiw wendid arna i, chi. Y gwrês ma, gwlei, si'n llethol."
Tua deuddeg o'r gloch, safai Fred, a'i bwys ar un o'r ceirt o flaen y Red Lion, gan edrych yn fynych i ben y rhiw fel pe yn disgwyl rhywun. O'r diwedd, ymuniawnodd, a chroesodd yn heini i ganol y ffordd i gyfarfod â Gwen.
"Helo, Fred! Le ma Ann?" gofynnai Gwen.
"Ann a Jo wedi mind," ebe Fred, gan godi ei ysgwyddau a chyfeirio at ben ucha'r dre.
Edrychodd Gwen yn siomedig, a Fred heb dynnu ei lygaid oddiarni.
Gwen," ebe ef yn dyner, "come with me to-day. Let me help you to enjoy yourself.
"O, I don't know, indeed," ebe Gwen, gan droi draw.
Rhaid i fi brini hat, no, a phrini lot o bethe erill. Falle gwela i Ann to."
"May I walk down with you?" gofynnai Fred.
O, come then, if you like," atebai Gwen.
Felly, drwy'r dyrfa aflonydd cerddodd Gwen, ar y cyntaf fel pe yn rhyw hanner boddlon, yn ymyl y bachgen tâl, lluniaidd. Dan ei arweiniad profiadol ef, cafodd ei rhan o bleserau diniwed y ffair. Ac, fel arfer, wedi'r munudau cyntaf o hanner cywilydd, daeth Gwen yn hollol rydd yn ei gwmni, a mwynhaodd ei hun hyd yr eithaf. Yr oedd Fred mor dal a heini, mor garedig, cymerai ofal mor llwyr o honi, a gwyddai bopeth am bob lle mor dda. Rywfodd, ymddangosai yn fwy o ddyn nac, hyd yn oed, unrhyw fab fferm a adwaenai Gwen. Ac wrth deithio tuag adref yn y cyfnos mwyn, drwy yr heol fach gul a arweiniai at Isaber, melys iawn oedd teimlo braich gref Fred am dani, a chlywed ei eiriau mwyn. Wedi prynhawn mor hyfryd yn ei gwmni, sut medrai wrthod iddo un cusan?
Y noson honno ar ei gwely, wedi terfysg y dydd, cai Gwen ei hun heb yn wybod iddi, yn eistedd gyda'r gweinidog ar yr hen foncyff ger yr afon, ac eilwaith a thrachefn deuai swn eu deulais i'w chlustiau yn cyd-ganu'r ganig fechan dlos,-
"Shades of Evening, close not o'er us, Leave our lonely bark awhile!"
"O diolch," ebe hi, "na welodd mo Owen Elis fi'n dod gatre ym mraich Fred."