Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XI

Oddi ar Wicidestun
X Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XII

XI.

"Asgre lân, diogel ei pherchen."
HEN DDIHAREB.

YR oedd y Gymanfa Dairsirol wrth y drws. Yng nghyfarfod y diaconiaid fore Sul penderfynwyd galw pwyllgor yn ystod yr wythnos i drefnu ynghylch bwydo'r torfeydd ddisgwylid, ac hefyd, bod ffermwyr a theuluoedd cyfrifol ereill yr ardal i gael eu gwahodd i teya'r gweinidogion. Addawodd y Bugail fynd ar hynt o ymweled, a thynnu allan restr o'r cartrefi a foddlonai gymryd dau weinidog neu fwy i aros noson.

Safai'r Mwyndir ar lethr o fewn llai na hanner milltir i gapel Y Bryn. Ymestynai ei ddaear fras i lawr hyd làn yr afon. Yr oedd yno dŷ cyfleus, a chedwid ef mor lân a threfnus ag unrhyw dŷ yn y gymdogaeth. Ar y bore Llun hwnnw, aeth y gweinidog yno gyda dau neges,—gofyn yn swyddogol am ganiatad i gynnal y Gymanfa ar un o'r caeau, ac hefyd am gael llety noson i ddau neu fwy o weinidogion.

Er yn ŵr blaenllaw gyda chrefydd a gwaith yr eglwys, nid oedd y reddf groesawgar yn amlwg o gwbl yng nghymeriad Tomos Bŵen na'i wraig Ester. Am y rheswm hwnnw, ynghyd a gwyleidd-dra naturiol Owen Elis, er yr adwaenai bob un o'r teulu, ni fuasai ef erioed dros drothwy'r tŷ. Gwyddid ei fod yn dod y diwrnod hwnnw, a phan oedd Marged Elen yn gorffen gwisgo, gwelodd ef o ffenestr y llofft yn camu'n gloff drwy'r llwybr a arweiniai ar draws y cae gwair at y tŷ.

Cafwyd atebion ffafriol i'r ddau gais, wrth gwrs. Nid oedd dim a roddai fwy o fwynhad i Tomos Bŵen a'i deulu bach na chael bod o wasanaeth i achos crefydd yn y lle. Mewn gair, nid oedd cae yn yr ardal a wnai'r tro cystal a Pharc y Berllan. Os adeiledid yr esgynlawr ar y gwaelod, cai'r gynulleidfa eistedd neu sefyll yn rhestri ar y llethr, ac felly, cai pawb weld a chlywed yn hwylus. Yr oedd gwely segur wrth gwrs, bob amser yn y rwm goreu, felly gellid cymeryd dau weinidog, ac yn awr, wedi gwerthu'r ebol, yr oedd lle i saith o geffylau yn yr ystabl.

Wedi mwynhau'r tê a'r danteithion, yng nghwmni'r gŵr a'r wraig a'r ferch yn y gegin oreu, lle'r oedd pob dodrefnyn a llestr yn disgleirio, cafodd Tomos Bŵen a'r gweinidog gyfle pellach i ymddiddan a thrin pynciau dyfnach feallai nag a ellid wneud yng nghlyw'r menywod.

"Fe ddaw ma dwisged o weinidogion, gwlei, o'r taer Shir, a thyrfa o bobol te," ebe Tomos Bŵen.

"Daw, yn ddiau, daw," ebe'r gweinidog. "Wir, rwy'n hyderu y daw'r Wyl a bywyd newydd i'r wlad yma. Mae eisieu ysgwyd a deffro tipyn ohonom."

"Wês,' ebe Thomas Bŵen. "O, fe ddaw a bowid newi'n ddiddadl. Fidd ma bwer o barotoi a thrwsho, wa'th fidd pawb am fod ar i gore'r wthnos ni, welwch chi, a mi geith y shope ma gyfle gore'i bowid."

"Rych chi'n y nghamddeall i, Tomos Bŵen. Bywyd newydd mewn ystyr arall,

"O, ie, ie. Wel, wrth gwrs, mai'n dda i brigethwirs glŵed i gili hefyd. Ie, clwed prigethe, yn lle'i rhoi nw o hid."

"——Bywyd ysbrydol newydd oeddwn i'n feddwl. Fe ddyle'r Wyl yma'n codi ni fel gwlad nes dadfachu'n hunain oddiwrth bethau'r ddaear, a chael gafael ar y bywyd sydd fywyd yn wir. Mae'n od ein bod ni'n ymglymu cymaint am bethau sydd a chyn lleied o werth ac o barhad ynddyn nw, ac mor ddall i bethau mawr y byd ysbrydol,—y golud na dderfydd."

"Ie, ie, i chi'n eitha reit, i chi'n eitha reit," ebe Tomos Bŵen, gan symud yn anesmwyth ar ei gadair.

"Ma pobol wedi mynd mor faterol. Y fferm a'r fusnes yw'r pethe pwysig,—"

"Ie, ie, wrth gwrs," ebe Tomos Bŵen yn rhy frysiog. "Ma pobol yn methu sylweddoli y fath bethau bach a dibwys yw'r rhai hyn mewn gwirionedd," ychwanegai'r gweinidog.

"Fe glwes Jôns y Bont yn gweid rhwbeth tebig i hinna rwbrid ar i bregeth yng nghapel Blâncwm. Capel Methodist odd e, mae'n wir, a Methotsin wedd inte. Ond fachgen, wedd e'n i gweid i, ag yn gweiddi, te! Nosweth o haf wedd i, a we'r drwse ar gored. We nw'n gweid bod nw'n i glwed e'n amlwg reit o ben icha'r Rhosgoch."

Ochneidiodd y gweinidog a throdd ei olygon o gylch yr ystafell am ennyd fel pe'n chwilio am bwnc newydd.

"Faint sy er pan rych chi'n byw yma, Tomos Bŵen."

"Be si nawr? Igen mline i gwlhangel nesa, gwlei.' Rwy wedi bwriadu dod i fyny yma lawer gwaith i weld y tŷ a'r lle. Fe fu mam yn forwyn yma am flynyddau."

"E'ch mam?" ebe Tomos Bŵen yn gyffrous, gan hanner godi o'i gadair.

"Do siwr," ebe'r gweinidog yn dawel. "Catrin Lewis oedd hi. Oddiyma yr aeth hi i briodi. Sion Bŵen, onide, oedd y meistr bryd hwnnw?"

"Ie, ie. Cender i fi wedd e," ebe Thomas Bŵen, gan ddal ei ên yn dyn yn ei law, a chraffu ar y gweinidog.

"Fe glywsoch, yn ddiau, pan fu'r lle yma ar dân, i ferch Sion Bŵen fod bron llosgi i farwolaeth. Fy mam a'i hachubodd hi o ryw ystafell ar y llofft. Leicswn i weld yr ystafell honno unwaith, Tomos Bŵen," ebe'r gweinidog gyda golwg hanner-ofnus.

Wel,-hy,-ma'r ti wedi i ail-fildo, ne wedi i adnewiddi no wedi hinni, a dw i ddim yn meddwl y gŵir neb ma pwi rwm wedd hwnnw. Wi'n cofio clwed rhiw son am y tân, flinidde lawer cin i Sion farw wrth gwrs. Allwch weld y ti wrth gwrs, brid minnoch chi, ond do's ma neb yn shwr am y rhwm."

"O, does dim gwahaniaeth felly. Roedd' creithiau dyfnion ar wyneb a dwylaw mam, a llawer gwaith y gorfu iddi esbonio'r achos o honynt i mi."

"Ie, ie, i chi'n eitha reit. Os w i'n cofio'n iawn, fe gas e'ch mam igen pint am i thrwbwl. Arian mowr! ond dina shwt i'n wedd Siop y nghender. Ie, arian mowr, wa'th marw nath y losgron fach, wedi'r cwbl."

Buan cododd Owen Elis i fynd adref, ac aeth Tomos Bŵen allan gydag ef hyd ben y llwybr, gan graffu arno beunydd yn llechwraidd drwy ei lygaid meinion. Wrth ddychwelyd at y tŷ, cerddai a chamre bychain brysiog yn ol ei arfer, ei ddwylaw ar ei gefn a'i olygon tua'r llawr fel mewn penbleth.

"Be si'n bod, chi?" gofynnai ei wraig wrth ddod o'r beudy a'r gunog laeth yn ei llaw. "Ath Mr. Elis?"

"Hm! Do. Fise'n dda gen i swn i heb ariôd weld yr hen hwlcin cloff! Shwt bies i mor dwp? Pam na fiswn i wedi holi? Ond dw i'm yn meddwl fod neb ffor hin yn gwbod dim am i rieni e. Ma'r hen griadir mor ddistaw am i bobol! Wyddost ti pwi iw e? Mab yr hen Gatrin!

Nodiadau

[golygu]