Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XII

Oddi ar Wicidestun
XI Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XIII

XII.

Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
Y'r holl awyrgylch sydd yn ddu.
—MYNYDDOG.

TRA'R oedd pawb o drigolion Cwmgwynli yn edrych ymlaen at y Gymanfa,-a'r bywyd newydd hwnnw y soniai Tomos Bŵen am dano yn dechreu cael ei deimlo drwy'r ardal; y gwniadyddesau a'r teiliwriaid yn brysur; pob perchen gardd yn ei chwynu a'i thrin; tai yma a thraw yn cael eu gwyngalchu y naill ar ol y llall; merched gwamal. fel Ann Maesyryn, a Gwen Alun, yn son am rubanau a gwisgoedd acin; y siopwyr yn symud yn ysgafn-droed ac yn derbyn i'w tai gyflenwad o nwyddau;—daeth digwyddiad cyffrous arall i dorri ar lonyddwch y fro.

Yr oedd buwch benwen Maesyryn wedi hen anghofio ymweliad y ddau foneddwr yn nechreu Ebrill, a phorai bob dydd ar y ddol las yn dawel-ddiddig gyda'r gwartheg ereill. Ond ryw fore yn fuan wedi ffair haf, daeth dau wr drachefn i'w gweled, a braidd yn ddiarwybod iddi, rhoddwyd torch ddur greulon yn ei ffroenau, ac, o'i hanfodd, a hi yn edrych o'i chylch yn syn, arweiniwyd hi i'r clôr. Yno yr oedd tyrfa drystfawr wedi ymgynnull, a swn pedyll yn tincian a chyrn yn canu.

Daeth y swn aflafar i glustiau Gwen Alun tra'n prysur chwynnu'r pâm cennin yn yr ardd. Cododd ei phen i wrando, gan fethu deall beth oedd y twrw anarferol, ond pan glywodd swn y pedyll rhedodd i'r tŷ gan waeddu,—

"Daci! Daci! Ma'r Bwms mas. Wi'n shwr taw ym Maesyryn ma nw. Ma nw wedi dod i werthu fiwch, gewch wedd.

"Falle wir! Ma nw mas heddi to! Ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru," ebe Dafydd Alun, gan blygu ei bapyr a chymeryd ei ffon a mynd allan. "Wês ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru. Gwell i ti fynd lan i gal gweld be sy'n mynd ymlân. Ie, wirione, ym Maesyryn ma nw."

"Mi af fi te," ebe Gwen, gan wisgo ffedog lân. Os na ddo i nol erbin cinno, ma iwd yn barod yn y ddisgil ar fainc fach y lleithdy, a ma llâth yn y badell felen." Rhedodd drwy Barc y Big a Pharc y Bariwns ac i fyny drwy'r clòs nes cyrraedd ymyl y dyrfa. Yn y canol gwelai'r fuwch ddychrynedig, a'i llygaid mawr, prudd, yn dweyd mor anesboniadwy iddi oedd triniaeth mor chwerw ar fan mor gyfarwydd. Yn ei hymyl yr oedd dyn tal yn gafael mewn rhaff gref, a honno'n glymedig am y dorch ddur oedd yn ei thrwyn. Gerllaw, safai dyn bychan arall, ac ychydig greithiau duon ar ei wyneb, yn edrych fel pe rhoisai'r byd am le i ffoi o wydd y dyrfa aflonydd, fygythiol, oedd o'i gylch. O ba le y daethai cynifer o bobl mewn cyn lleied o amser? Deuent o hyd drwy gaeau a thros wrychoedd, rhai yn cario pigffyrch, ereill bastwyni mawrion, ereill gyrn, neu unrhyw fath ar lestr a wnai aflafar dincian.

Gyda chryn anhawster, llwyddodd Gwen i gyrraedd diogelwch clawdd y berllan, lle y safai Anna Ifans a Leisa ac Ann yn gwylio'r digwyddiadau ar y clôs. Ond ychydig ellid weld oddiyno. A oedd yn bosibl fod y fuwch yn cael ei gwerthu? Pwy fedrai beri clywed ei lais yn y dwndwr ofnadwy? Ymddangosai pawb ar ei eithaf yn bloeddio, yn oernadu, neu yn gwneud swn o ryw fath, a rhuthrent i gyd drwy ei gilydd fel anifeiliaid gwylltion. Dacw rywbeth yn cael ei hyrddio drwy'r awyr i gyfeiriad y gwerthwr, a chwerthiniad calonnog y dyrfa yn dangos ei fod wedi cyrraedd ei nod. Curai calonnau'r gwragedd gan fraw o weld Morgans y Polis a heddgeidwad arall yn cerdded yn dywysogaidd at y dorf. Pwy wyddai beth ddigwyddai? Nid peth amhosibl fai gweld clwyfo a lladd mewn tyrfa mor anhydrin. Lliniarodd y terfysg ryw gymaint wedi dyfodiad gwŷr y gyfraith, a buan gwelai Gwen a'i chwmni symud cyffredinol tua chyfeiriad y lôn. Canai'r cyrn a thincianai'r pedyll mor aflafar ag erioed. Yr oedd y fuwch wedi ei gwerthu i rywun. Gwelsant hefyd fod y dyn a'i harweiniai wedi colli ei het, ac fod ei ddillad ef a'i gymdeithion yn wlyb gan ryw hylif drewedig. Rhedodd y tair merch i ymgymysgu â'r dorf, ac aeth Anna Ifans yn brudd ei gwedd a lleddf ei llais tua'r tŷ.

Rywbryd yn y prynhawn, a'r fuwch benwen a'i gosgorddlu trystfawr erbyn hynny ymhell ar ei ffordd i'r orsaf, safai Leisa ac Ann a Gwen Alun yn flinedig yn ymyl yr iet wen, yn trist adolygu digwyddiadau'r dydd.

"O dir," ebe Ann, "wn i'm shwt ma. codi i odro fori, a gwbod na fidd mo Penwen no i ddod ata i o weilod y clôs fel arfe i ofin am i godro. O druan fach! Wedd i'n drichid arna i felse i'n sinni bo fi'n galler sefill fan ni i gweld i'n cal i phoini."

"Drian fach!" ebe Gwen. "Dyna în o'r pethe wi ddim yn ddiall yn y bid ma—pam ma criadiriaid mîd a diamddiffyn yn gorffod godde cimint o'i drelo!"

Erbyn hyn, wylai Ann yn hidl i'w ffedog, "Paid gwenwino. Ann!" be Leisa'n llym. "Beth ta dim ond în fiwch da ni fel si da Gwen, a honno wedi mind!" Yna gan newid ei llais," Dina dda bo fi wedi gwingalchi'r claw bach dwe! We dinion o bob parte wedi dod."

Yr oedd ar Gwen ryw ofn greddfol ym mhresenoldeb Leisa. Teimlai ei hun yn ei hymyl yn wan a dinerth, a'i bywyd yn fethiant i gyd." Yr oedd llygaid Leisa mor oer a chaled a sicr ar bob pwnc. Symudent yn effro fel pe yn mesur a phwyso pawb a phopeth yn ddidrafferth, ac nid sedd dim yn y nef na'r ddaear a wnai iddynt ymagor ychydig mewn syndod. Ni ddangosent byth unrhyw betruster na'r gronyn lleiaf o deimlad, ac ai Gwen fynychaf yn anesmwyth dan eu pelydr oer.

O'r lle y safent, gellid gweld y lon gul i lawr heibio Pen- ffynnon a bron hyd Isaber. Wynebai Leisa ar hon, a safai Gwen gyferbyn â hi. Pwysai Ann ar yr iet.

Tra'n son am wyngalchu'r clawdd bach, gwelodd Leisa rywbeth neu rywun yn y pellter a wnaeth iddi gyffroi ychydig a hanner gwrido, ond cadwodd ei chyfrinach, a gofalodd gadw ei llygaid ar Gwen a phara i ymddiddan rhag i honno gael cyfle i droi yn ol.

Cyraeddasai peth o ymgom y rhic ei chlustiau hithau. Buasai sibrydion tebig yn y cae gwair. Gwelsai a'i llygaid ei hun yr hen wr a'r gweinidog ieuanc yn cerdded drwy Barc y Berth. Er fod ffurf gwên ar ei hwyneb wrth siarad â Gwen, teimlai yn ddigon dig tuag ati i'w tharo. Pa hawl oedd gan ferch yn byw mewn tŷ bach, heb ond prin fodd i fyw, fod mor bert ag oedd Gwen? Pa reswm bod y gweinidog yn cymeryd ei ddenu ganddi? Y dyn ffol, heb feddwl am ddim ond yr olwg allanol! Ac wedi'r cyfan, a oedd Gwen yn bert? Ni fuasai hi byth yn ei chyfrif yn lodes deidi. Nid oedd ei gwallt yn gwrl, ac yr oedd ei llygaid mor ddof a llygaid Penwen.: Meddai hi bellach un stori a gai'r gweinidog glywed drwy ryw fodd ne'i gilydd hwyr neu hwyrach.

Tra rhedai'r pethau hyn drwy ei meddwl, siaradai o hyd yn fwyn a diaros â Gwen am y gwahanol bersonau welsid. Yn sydyn, gorffennodd daflu ei golygon i'r lon fach. Yr oedd y neb a wyliai, pwy bynnag oedd, wedi mynd o'r golwg i rywle.

"Gatre ma'ch Tacî heddi?" ebe hi.

"Ie."

'Pwi si'n gneid cinno iddo te?"

"Nês i honno'n barod cin dod."

"O, wir."

"Ma'i bron yn brid te nawr, hefid. Rhaid i fi find," ebe Gwen.

Widdoch chi pwi ath o'r golwg yn y tro obri nawr? Y gweinidog! I'ch ti chi mai e'n mind, ginta. Mi eithwn i gatre ar ras 'swn i'n eich lle chi."

Gwridod'd Gwen, ac edrychodd Ann arni gan wenu drwy ei dagrau. "Ble gwelest ti e, Leisa?" gofynnai.

"Se di liged dithe ar gored, gwelset tithe fe. Mai e newi find heibo'r tro. Mai e shwr o fod yn Isaber nawr. Cerwch gloi chi, Gwen."

Fflachiodd Gwen un olwg arni, a'r llygaid oedd fynychaf, fel y dywedai Leisa, mor dawel a llygaid Penwen, a dywedodd,—

Falle leicech chi find. Dyma gifle i chi.

Mi arosa i fan hin am awr arall. Whilwch riw neges at Daci."

"O, na i mo'r tro iddo, wi'n shwr," ebe Leisa'n fwyn, "nac i Fred chwaith. Odich chi'n gweid wrth Mr. Elis e'ch bod chi heb benderfyni rhinto fe a Fred to?"

Cyn i Gwen gael amser i ateb, dywedodd Ann, gan bwyso ar yr iet, a swn wylo ar ol y fuwch o hyd yn ei llais,—

"Blin iw cari yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnnw,
Ond o'r blinderau, blinaf blinder,
Cur annifir cari'n ofer."

Yn hytrach na chweryla, bu'r tair yn ddigon doeth i newid yr ymddiddan. Cyn hir, aeth Gwen i lawr drwy'r lôn ei hun, a throdd Leisa ac Ann tua Maesyryn. Ond wedi dechreu'r ffordd, rhedodd Leisa'n ol yn sydyn i ymyl yr iet, a mynnodd weld i ba le yr ai Gwen. Gwelodd hi'n troi i mewn i Benffynnon. Gwasgodd ei dannedd ynghyd yn ei thymer.

"Yr hen ffwl!" ebe hi, a cherddodd tuag adref heb ym ostwng i esbonio dim o deithi ei meddwl i un mor ddistadl a'i chwaer Ann.

Nodiadau

[golygu]