Bugail y Bryn/XIII
| ← XII | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XIV → |
XIII
Pa beth yw Storom? Awel yn ei grym.
—ISLWYN.
ER prinned ei hamser, ni allai Gwen fynd heibio tŷ Nani a Sali heb alw i holi hynt ei dwy hen ffrind. Cai Leisa, os dewisai, weld nad oedd gormod o awydd arni i redeg tuag adref i weld Mr. Elis. Tynnodd ei het, cariodd hi ar ei braich, a cherddodd yn araf. Yr oedd am deimlo'r awel fwyn wrth chwarae a'i gwallt yn llonyddu tipyn ar ei hysbryd wedi cyffroi cymaint dan eiriau Leisa. Ond ai nid gyflymed ag y medrai tuag adref y chwenychai fynd? Wrth ymdroi felly a pheri iddi ei hun fynd i mewn i'r bwthyn, ceisiai dwyllo ei hun a thwyllo unrhyw un a fynnai ei gwylied; ond ar yr un funud penderfynai rhyw feddwl arall o'i mewn na wnai aros ond ychydig iawn o amser yn y tŷ, ac y gallai redeg tipyn wedi mynd heibio'r tro. Swniai ei chlocs y glir ac uchel ar y cerrig gleision llyfn o flaen y tŷ. Cerddodd i mewn yn ddibetrus gan alw'n llon, "Ble ma'r bobol ma heddi?"
Nid cyn sefyll o honi ar ganol llawr yr ystafell fechan dywell y clywodd lais tawel-ddwfn y gweinidog yn darllen. ac y gwelodd Sali, a'i hwyneb Dydd Sul, yn amneidio arni wylio ar ei throed wrth ddyfod i mewn, ac yn dangos cadair iddi i eistedd. Safodd Gwen am eiliad mewn petruster syn, ond yr oedd yn rhy ddiweddar i redeg allan heb air o eglurhad. Felly eisteddodd, gan edrych yn ddyfal tua'r llawr.
Darllenodd y gweinidog un adnod gyfan a'i lygaid ar Gwen, yna gorffennodd y bennod fel pe na bai hi yno. Eisteddai Nani yn y cornel, yn ymyl y ffenestr fach a'r gwely, a'i llygaid direidus yn mynnu troi i gyfeiriad Gwen, gan ddisgwyl cyfle i roi gwên lydan iddi hyd nes ceid amser i chwerthin yn uchel ar ddigrifwch y sefyllfa. Ar y stol deir- troed yr eisteddai Sali, gan roi ochneidiau aml, a mynych sychu ei hwyneb a'i chadach poced glân, yn union fel pe bai yn y capel.
Wedi darlleniad y bennod, penliniodd y pedwar ar y llawr pridd,—pob un a'i bwys ar ei gadair, ac offrymodd y gweinidog weddi dyner. Cai Gwen o'i chongl lawn olwg arno, ac fel yn y capel er ys llawer Sul bellach, cai y pleser o syllu arno'n ddirwystr tra'n gwau ei breuddwydion per am dano. Bellach, cawsai lawer cyfle i siarad ag ef ac i'w adnabod. Buasai ef droion yn Isaber, a dywedasai unwaith fod y cartref yn Fethania iddo, a'i bod hi yn Fair a Martha. Ni ddywedasai ddim yn fwy pendant na hynny, ond a oes eisieu mynegiad o'r ffaith mewn geiriau noeth cyn i ferch ddeall fod mab yn ei charu?
Cofiodd Gwen yn sydyn am eiriau Leisa. Diau ei bod wedi gweld Mr. Elis yn troi i Benffynnon, ond ei bod am iddi hi fynd adref heb ei weld. Gwenodd wrth feddwl beth ddywedasai Leisa o'i gweld yno wedi'r cyfan. Dechreuodd ei chalon guro'n gyffrous wrth glywed y weddi yn tynnu at y terfyn. Yr oedd ar fin mwynhad mawr,—os mwynhad hefyd. Hwyrach mai siom a'i harhosai. Boddlon fuasai i'r weddi honno bara awr arall. Buasai'r awr honno beth bynnag, yn fwynhad digymysg.
Dilywodraeth felly yw meddyliau merch! Gwridodd Gwen gan gywilydd pan ddaeth Amennau'r gweinidog a Sali a hi ati ei hun. Cododd pawb.
"Adar o'r inlliw hedant i'r inlle," ebe Nani, a pharai rheolau moesgarwch yr adeg a'r cwmni nad allai Sali hyd yn oed edrych yn llym arni, llawer llai weinyddu cerydd. Esboniodd Gwen ei dyfodiad diseremoni tra'n ysgwyd llaw â'r gweinidog. Yr oedd yn dda cael rhywbeth i'w ddweyd rhag datguddio pethau cyn yr amser. Siaradwyd am y gwerthu, y dyrfa, y fuwch, a phethau ereill. Pan ddywedodd Gwen fod yn rhaid iddi fynd, ffarweliodd y gweinidog hefyd a'r ddwy hen wraig, a chafodd Nani gyfle i roi winc awgrymiadol ar Gwen.
Aeth y ddau allan gyda'i gilydd, ond am ryw reswm, nid oedd gan y gweinidog nemawr i'w ddywedyd. Bwriadai fynd adref heibio Maesyryn. Cnodd Gwen ei gwefus rhag iddi grynu gormod. Yr oedd Leisa i gael ei dymuniad wedi'r cyfan, a hithau i fynd adref a brath yn ei chalon! Ar y funud honno, clywyd chwibanu llon, a gwelwyd Fred yn croesi'r cae gerllaw ar ei ffordd yn ol o hebrwng y dyrfa. Cerddai'n wisgi a'i ddwylaw yn ei bocedi. Yn hytrach na thrafferthu i agor y llidiart a safai o'i flaen, gosododd ei law arni a neidiodd yn chwim drosti. Pan welodd Gwen a'r gweinidog, ataliodd ei chwibanu, cododd ei gap yn siriol, ac aeth yn ei flaen. Edrychodd Owen Elis yn llechwraidd ar Gwen mewn pryd i'w gweld yn gwenu ar Fred. Gwelodd y pelydr yn ei llygaid a'r gwrid ar ei hwyneb, ac aeth symudiadau heini Fred a swn ei chwiban llon yn chwerwder ysbryd i'r dyn ieuanc cloff. Dywedodd drachefn ei fod yn mynd heibio Maesyryn, a thra y dywedai hyn, cadwai Gwen ei golwg ar Fred yn symud ymlaen yn y pellter cyn troi i ddymuno Prynhawn Da' yn siriol. Yna aeth adref a'i het ar ei braich, gan fwmian canu er mwyn ceisio perswadio'i hun ei bod yn hapus.
Yr un yw ystrywiau bycha mab a merch yng nghyrion pella'r wlad ag yn lleoedd mwyaf ffasiynol y byd. Mae Afon Cariad yr un mor anodd i'w mordwyo yn y naill le a'r llall. Gwaeda calonnau a gwelwa wynebau am achosion sydd yn debig iawn i'w gilydd ym mhobman.