Bugail y Bryn/XIV
| ← XIII | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XV → |
XIV.
"Ni chaf chwaneg fynegi
Y ffordd arall deall di."
WRTH fynd tua'i chartref, meddylai Gwen mor wahanol oedd ei byd yn awr i'r hyn a fuasai dri mis yn ol. Erbyn hyn, yr oedd muriau wedi syrthio, a'i byd bach wedi lledu'n sydyn. Daethai'r gweinidog i'w bywyd, ac wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd! Daethai Fred hefyd. Gwas fferm oedd Fred, a 'hen Sais' oedd, ond gwyddai Gwen nad oedd hynny yn ddisgrifiad llawn ohono. Beth bynnag a fuasai ei orffennol, nid i fod yn was fferm y cawsai ei ddwyn i fyny. Yn ei gwmni ef arweinid hi allan i gyfeiriad newydd,—i ryw fyd dieithr ond llawn o swyn. Dau ddyn a'u trem ar fywyd yn hollol wahanol oedd y gweinidog a'r Sais, a datblygent ddwy duedd hollol wahanol yn ei natur hi, nes creu brwydrau mewnol mynych. Ond nid oedd gan y brwydrau mewnol hyn ddim i wneud a theimlad ei chalon tuag at y naill a'r llall. Cai hyfrydwch yng nghwmni Fred. Treiddiai dylanwad y gweinidog yn ddyfnach. Efe'n unig a feddai'r gallu i roi iddi
"Wae a gwynfyd,
Nef ac uffern bob yn ail."
Gwrandawsai Duw ar ddeisyfiad ei henaid, a rhoisai iddi fwy nag a ddymunasai gael. Ni ofynasai hi erioed, yn. nyddiau mwyaf llwydaidd ei bywyd, am y 'cur annifyr,' yr ing, a'r anesmwythyd a deimlasai yn ddiweddar. Yng nghyfarfodydd gweddi'r Bryn, clywsai fynych ddefnyddio'r frawddeg "Ni wyddom ni pa beth a weddiom megis ag y dylem." Ai tybed mai ofni wnai yr hen weddiwyr profiadol osod llawer o'u dymuniadau hoffusaf gydag eglurder gerbron yr Orsedd, rhag y byddai raid derbyn llawer o extras anhyfryd ynglyn a'r atebion iddynt?
Pan ddaw Cariad i mewn i'r bywyd, rhaid i bob merch, ac eithrio'r rhai anaturiol gall, gael rhannu'r dedwyddwch a rhyw ferch arall. Ddwywaith a mwy bob wythnos, mynnai Ann a Gwen ryw esgus i fod yng nghwmni ei gilydd. Ni flinai Ann ddyfod a Josi'r Mwyndir gerbron bob tro yn holl agweddau ei gymeriad; oherwydd, er llwyred' ei hadnab ofynyddiaeth ohono, deuai rhyw swynion newydd ynglyn ag ef i'r golwg yn barhaus, a byddai raid i Gwen roi ei barn ar lawer gair ac ymddygiad o'i eiddo, ac edmygu'n briodol ei fwynder fel dyn, ei dalent fel amaethwr, a'i berffeithrwydd cyffredinol. Lle hyfryd i fyw ynddo fyddai'r Mwyndir. Ar briodas eu mab, ai Tomos Bŵen a'i wraig a'i ferch yn ol i'r hen gartref,—Pencnwcbach. Yr oedd yn awr yn Orffennaf, a rywbryd tua'r Nadolig byddai Ann yn wraig yn Y Mwyndir.
Nid mor sicr oedd Gwen ynglyn a'i hapusrwydd dyfodol. Rhyw sicrwydd mewnol,—y peth amhendant ac anelwig hwnnw,—yn unig a feddai hi. Ond y mae i ddealltwriaeth gyfrin felly rhwng deuddyn ei swyn a'i melyster ei hun Hanner ofnus y soniai Gwen am ei chariad. Yr oedd y gogoniant mor danbaid, rhyfyg fyddai bod yn ddiofn, ac yr oedd Ann dan rwymedigaeth i beidio datguddio'r gyfrinach fwyn hyd nes cai ganiatad.
Trefnasai'r ddwy fynd gyda'i gilydd ar nos Iau, drannoeth gwerthu'r fuwch, i dŷ'r wniadyddes, Martha'r Bont. Yr oedd dydd pwysig y Gymanfa yn dod, a dillad newydd Gwen heb eu dechreu. Yn fuan wedi saith o'r gloch, galwodd Ann yn Isaber ar ei ffordd, yn ol y cytundeb.
"Wi bron bod yn barod," gwaeddai Gwen o'r llofft pan glywai Ann yn dod i mewn. "Isteddwch finid. Rhaid i fi aros nes daw Daci nol. Fidd e ddim yn hir, wi'n shwr."
Atebodd Ann ar gân,-
"Gwen Alun, Gwen Alun, be si arnoch chi chwant? Fe ddaw Owen Elis i'ch mofin chi bant, A'i geffil, a'i garetsh, a'i was gidag e, I'ch mofin chi bant yn wraig iddo fe!'
Rhedodd Gwen i lawr o'r llofft gan wenu'n llawen iawn, a rhoddi ei llaw ar enau Ann ac erfyn arni dewi.
Beth pe bai rhywun yn ei chlywed? A pheth arall, yr oedd hi erbyn hyn yn berffaith siwr nad oedd y gweinidog yn meddwl dim am dani. Gwelsai ef ddoe ym Mhenffynnon, ond atynt hwy i Maesyryn yr aethai, gan ei gadael hi'n ddigon diesgus a diseremoni.
Yna aethpwyd i ddyfalu paham. Disgrifiodd Gwen ddyfodiad Fred, a dywedodd gyda llaw, fod rhywbeth yn atyniadol iawn yn Fred. Yr oedd mor heini ac mor llawen, ac yr oedd yr un fath bob amser. Ac ocheneidiodd Gwen.
Yna tywalltodd Ann ei balm.
"Mai e'n dwli arnoch chi merch i! A ma dinion mewn cariad yn graff iawn. Ma ofan arno'ch bod chi'n cari Fred. Mai e'n gwbod bo chi a finne'n ffrindie, a mai e'n serchog iawn i fi'n ddiweddar. Ma hinni'n eitha arwidd! Wn i ddim pam mai e beido gweid pethe'n blaen, ond fe neith riw ddiwarnod, gewch weld. All e'm peido."
Cyn i Gwen gael amser i ateb, clywyd curo wrth y drws, a chyn i neb gael amser i'w hatal, cerddodd gipsy i mewn a basged o amryw drugareddau ar ei braich. Penliniodd yn d'diseremoni ar y llawr, gan ddangos ei nwyddau, a siarad yn ddiaros,-
"Buy some of this beautiful lace this evening, Miss, do.Help a poor woman. a yard. Look at this lovely piece for sixpence It's a bargain.
You'll never regret it, Miss. Let me sell you both a nice length. Luck's coming' t'you, it's comin' t'ye both, an" ye'll think o' me as told you before han'. Now which of you will buy first?"
Wedi gwrthod, a chael eu cymell drachefn, a gwenu, ac ymgynghori a'i gilydd, a chael gostyngiad sylweddol ym mhris y nwyddau, tynnodd y ddwy ddarn o arian allan, a bu'r gipsy mor garedig a 'dweyd ei ffortiwn' wrth y naill a'r llall yn y fargen. Tro Ann ddaeth gyntaf.
"I see a fair man comin' towards you with a ring, an' you 're goin' to wear his ring. Before you are two years older you will be a wife. An' ye're one o' the lucky ones, my dear, an' ye'll remember in years to come as I told you so. But, look out! There's some one as is tryin" to do you harm. Keep yer head above water. Keep this bit o' lace as ye've just bought, Miss. Use it to trim a dainty wrapper for your first born. It'll bring luck to him an' you. An' God bless you, Miss."
Yna estynnodd Gwen ei llaw yn grynedig. Trodd y fenyw hagr ei llygaid duon arni am funud gyfan cyn dechreu datgan ei phroffwydoliaeth..
This is going to be a crowded year for you, my dear, ay, a crowded year. There are two men, ay, maybe three, a tryin' for yer 'and. Not one o' the three will you marry. Your 'appiness comes from another direction. For ye're goin' to be 'appy, ay, 'appy an' very lucky. The old gipsy woman knows what she's saying. God tempers the wind to the shorn lamb! You may 'ave some trouble, but after that a great 'appiness is in store for you,-a great 'appiness! God bless you, Miss."
Da oedd gan Gwen i'r hen wraig gael amser i fynd yn ddigon pell o'r tŷ cyn i Dafydd Alun ddychwelyd. Am ddyddiau lawer, bu'r geiriau rhyfedd a glywsent yn destyn siarad gan y ddwy. Rhai ffol iawn yw merched yn ol barn gyffredin y byd, ac nid oedd Ann a Gwen yn wahanol i'r lleill. Credent fod yr hen wraig groen-felyn, drwy ryw allu cyfrin, wedi codi cwrr y flen o'u blaen. Sut y gallai? Ah! pwy wyr? Ond mae llawer o ddirgeledigaethau yn y gread igaeth nas deallwyd eto gan y callaf. Tuedd y ddwy eneth, er hynny, oedd credu yr hyn garent ei fod yn wir, ac ang- hredu neu anghofio'r gweddill.
"Na beth rhifedd iddi weid two or maybe three' wrthoch chi," meddai Ann. "Mi wn i pwi iw'r trididd, a falle nad o's neb arall yn gwbod. Ond weda i ddim.
Ond shwt odd i'n gweid na phriodech chi ddim in o nw? Wes rhiwin cifoethog iawn yn mind i ddod i'ch hol chi?"
"Wedd i'n croesweid i hinan fan na,"" ebe Gwen, "wa'th shwt gallwn i fod yn hapis a pheido."
Yna chwarddod y ddwy yn iachus.