Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XIX

Oddi ar Wicidestun
XVIII Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XX

XIX.

Tymhorau ehedant,
Y blodau a wywant,
A dail a orweddant
Ar hyd y llawr.
Medelwyr a ganant,
Yd addfed a gludant,
Adar ehedant
Dros y môr mawr.

—CALEDFRYN.

BUAN iawn daeth yn gynhaeaf Medi. Un bore mwynaidd, aeth John Maesyryn, gan mai efe oedd y mwyaf diwaith o'r teulu y bore hwnnw, i alw am help y tyddynwyr i rwymo'r ŷd. Ai heibio Isaber ar ei ffordd, a meddyliodd mai purion peth fyddai gofyn am help Gwen Alun. Rhoddai hynny esgus iddo i alw, beth bynnag, a hwyrach y cai gyfle i gael ymgom fechan gyda Gwen. Yr oedd yn dyheu am gyfle felly, heb ond hwy eu dau yno. Yr oedd ganddo rywbeth neilltuol i'w ddywedyd wrthi.

Nid oedd John yn un o'r rhai fedr ruthro'n hyf i gwmni merch a theimlo'n gartrefol yno. Rhai dieithr iawn iddo ef oedd merched ei adnabyddiaeth. Er hynny, nid dieithr iddo oedd cariad. Ers blwyddi rai, Gwen bioedd ei galon, ond yr oedd mynd i'w phresenoldeb a siarad â hi yn peri cymaint cyffro iddo, ac yr oedd arno gymaint o ofn ei wrthod, nes y boddlonai o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn, ei chanlyn o hirbell, a'i haddoli'n y dirgel. Yn awr, yr oedd gwrid merchedaidd ar ei rudd, a churai ei galon yn gyflym wrth neshau at y drws. Daeth llais Gwen tuag ato yn canu'n lleddf-dyner un o hen emynau Pantycelyn. Rhydd merched Cymru wledig yn fynych iawn fwy nag un ystyr i lawer o hen emynau'r cysegr. Bychan yw eu hystor hwy o ganeuon teimlad, a llawer emyn ga wneud y tro'r delyneg serch. Arhosodd John fan honno nes i Gwen ddistaw ganu'r ddau bennill drwyddynt. Pwy feddyliai fod cymaint o swyn yn yr hen dôn gyfarwydd 'Eifionydd'? Pa faint o brofiad Gwen, tybed, oedd yn y geiriau trist?

"Eto unwaith mi ddyrchafaf
Un ochenaid tua'r nef,
Ac a wylaf ddagrau'r hidl
Am Ei bresenoldeb Ef.
Pwy a wyr na chaf fy ngwrando
Gan Dywysog mawr y nen,
Ac na ddaw fy nymuniadau
Trist, hiraethlawn, oll i ben?

Fel y rhed llifogydd mawrion,
Fel y chwyth yr awel gref,
Felly bydded fy ngruddfannau
Yn dyrchafu hyd y nef.
Gwn, fy Nuw, nas gelli atal,
Gwn nas gelli' roi nacâd.
O un fendith îs y nefoedd
Ag sydd imi er llesâd."

Yn swn y llinell olaf aeth John yn ol ar flaenau ei draed hyd yr iet fach, caeodd hi'n drystfawr, a cherddodd at y drws gan waeddu'n serchog, "Helo ma?"

Yr oedd Gwen yn gwnio ffedog liain i Nani Penffynnon. Aeth â'i gwaith yn ei llaw i'r drws.

"Helo! chi si na? Dewch miwn," ebe hi.

Na, dos gen i'm amser," ebe John, gan wenu a gwrido mwy nag erioed. "Dod i mofin help i rwimo wi."

Yr oedd rhyw leithter yn llygaid Gwen, ac yr oedd swn wylo yn ei chanu hefyd, ond erioed ni welsai John hi'n edrych yn dlysach. Mor gyflym a deheuig y symudai ei bysedd gwynion wrth wnio! Ciliodd yn ol, ac eisteddodd ar y clawdd bach, fel y gallai siarad â hi a gwrando arni heb dynnu ei lygaid oddiarni. Ond am y tywydd, a'r cynhaeaf, a helyntion y gymydogaeth y siaradent. Er y curai ei galon yn wyllt gan gariad, nid oedd John yn fedrus yn yr iaith.

O'r diwedd, o bellter diogel y clawdd bach, anturiodd fynegi ei newydd.

"Widdoch chi bod y gweinidog yn cari'n din?" gofynnai. "Odi e wir? A phwi?" gofynnai Gwen yn siriol, ac os gwynnodd ei grudd, methodd John ganfod hynny, ac yr oedd yn rhy bell i glywed curiad ei chalon. Gwniai hi o hyd yn brysur.

"Marged Elen, Y Mwyndir."

'O, wir," ebe Gwen, yn siriol eto.

Own ni wedi cal rhiw shis o'r peth, ond mi gweles nw nos Wener diwetha a'n lliged yn hinan Own i'n digwydd dod lawr trw lôn Y Mwyndir, a mi gwrddais a nhw i doi, yn breicho'n din hefid.

"O, ma nw shwr o fod obiti find te," ebe Gwen.

"Shwr o fod. Ma arian yn Y Mwyndir welwch chi, ma'r dîn bach yn giwt," ebe John, gan edrych yn graff iawn ar Gwen, ond methodd weld un arwydd o ofid am y peth ar ei hwyneb. Teimlai'n falch am hynny. Lodes gall oedd Gwen. Diau na feddyliasai erioed am y gweinidog fel 'cariad,' er cymaint siaradai pobl. Yr oedd ei chalon yn rhydd, ac yr oedd gobaith iddo ef eto.

"Deis i! Ma rhaid i fi find," ebe ef. "Ddewch chi i rwimo?"

"Gna, gna. Prid biddwch chi'n dachre?"

Ni fu Gwen yn llonnach erioed nag yn y cae ŷd y diwrnod hwnnw. Medrai rwymo'r ysgubau mor ddeheuig ag y gwniai ffedog Nani. Clywid ei chwerthin llon yn amlach na'r eiddo neb arall, ac yn swn miwsig ei llais, tra'n torri'r ŷd yno'n ymyl ei gilydd, gwnai John a Fred bob un ei gynlluniau erbyn y dyfodol, a Gwen a lanwai'r naill a'r llall.

Ond wedi gorffen gwaith y dydd ar y cae, wedi gwneud ei gorchwylion bychain gartref, wedi i'w thadcu fwyta'i swper a mynd i'w wely, daeth Gwen wyneb yn wyneb a'r nos. Yn oriau anhrugarog y tywyllwch ciliodd cwsg ymhell oddiwrthi, a daeth cwestiynau ac atgofion, blinderau a chamgymeriadau ei bywyd bach yn fyw ger ei bron. Beth a wnaethai i Mr. Elis? Beth a barasai iddo newid mor sydyn yn ei ymddygiad tuag ati? Pwy a ddaethai i'w gwahanu? Ac ni chai ofyn iddo am esboniad! Ni chawsai Gwen yr un addysg ond greddf ar y pwnc, ond gwyddai mai dioddef yn ddistaw oedd raid, o derbyn ymddygiad mor rhyfedd fel pe bai'r peth naturiolaf yn y byd. Cofiai fel yr edrychasai ymlaen at y Gymanfa. Mor llawn o Owen Elis y buasai ei holl feddyliau am dani! Teimlai yn awr, rywfodd, mai o'r dydd hwnnw y dechreuasai pethau fynd yn ei herbyn. Ni welsai ef byth oddiar hynny ond yn ei bwlpud ar y Sul. Cofiai ei weld o ganol y gweinidogion yn syllu yn graff arni, a phan roisai hi hanner gwên iddo, troisai draw yn sydyn gan grychu ei dalcen. Hwyrach fod ei gwên a'i hedrychiad wedi dangos gormod o gariad ei chalon, ac iddo yntau weld mor amhosibl a gwrthun oedd meddwl y gallent hwy eu dau fod yn ddim i'w gilydd. Yr oedd ef yn ddyn o bwys yno ynghanol y gweinidogion, a hithau yn ferch dlawd ddinod. Sychodd Gwen ei dagrau. Gwelodd eto John Maesyryn ar y clawdd bach a'r wên fwyn ar ei wyneb yn dweyd ei newydd; teimlodd eto'r pwysau annioddefol ar ei chalon, a gwyddai y byddai'r darlun hwnnw a'r boen honno yn dileu am byth bob atgof a theimlad arall am John Maesyryn.

Marged Elen, Y Mwyndir! Pam na fuasai Ann wedi dweyd rhywbeth wrthi? Gwyddai Josi'n ddiau, ac felly gwyddai Ann, a gallai ar yr un pryd siarad a hi am dano yn yr hen ddull! Pa mor bell y gellid ymddiried mewn ffrind? Ni chai neb gymaint o'i chyfrinachau mwy.

"Ma arian yn Y Mwyndir, welwch chi. Mae'r dîn bach yn giwt," meddai llais tawel John eto'n ei chlustiau. O'r gore, os mai dyn felly oedd Mr. Elis, aed. Efallai fod ereill yn y byd heb fod mor ddibris o honi. Yna, daeth yr oedfa honno ger yr afon gyda rhuthr i'w chof. Wylodd drachefn nes oedd ei gobennydd yn foddfa ddagrau, ac a haul y bore yn gwenu i'w hystafell, cysgodd yn drwm.

Nodiadau

[golygu]