Bugail y Bryn/XV
| ← XIV | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XVI → |
XV.
Ai ni wnest Ti, o ddydd i ddydd,
Ymwadu a phleserau'n llwyr?
—KERI.
FEL y rhan fwyaf o aelodau ei eglwys, rhoddai'r Parch. Owen Elis hefyd lawer o le yn ei feddwl i'r Gymanfa agoshaol, a chymysg fel efe ei hun oedd ei ddisgwyliadau am dani a'i baratoadau ar ei chyfer. Gofynasid iddo fod yn un o ddau i bregethu yn yr oedfa ddau o'r gloch ar brif ddydd yr Wyl. Nid peth arferol oedd gofyn hynny i weinidog yr eglwys lle y cynhelid y Gymanfa. Yr oedd ef hefyd mor ieuanc ac yn newydd yn y lle,—yn newydd yn wir yn y weinidogaeth. Ond pan ddygodd y ffeithiau hyn i sylw'r awdurdodau, gan erfyn arnynt yn wylaidd geisio rhywun addasach nag ef, ni fynnent wrando arno. Yr oedd disgwyliad yn y Cyfundeb am ei glywed, a dywedwyd wrtho y byddai y cyfle hwn i wneud ei hun yn adnabyddus i Annibynwyr y tair sir yn sicr o droi'n fantais iddo eto'n ol llaw.
Felly, yr un noson ag y defnyddiai Ann a Gwen ei enw mor rhydd ynglyn a'u bwriadau dyfodol, cerddai ef yn ol a blaen yn ei fyfyrgell, weithiau a rhyw lawenydd anrhaethadwy yn pelydru o'i lygaid, bryd allan a'i ben tua'r llawr, a'r rhychau yn ddwfn ar ei dalcen. Arhosodd, cydiodd yn y Beibl ac agorodd ef ar antur fel y gwnai yn fynych. Ar y geiriau hynny yn y drydedd bennod ar ddeg ar hugain o Eseciel y disgynnodd ei lygaid, "Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddiwrthyf fi."
Hon oedd un o'i hoff benodau. Darllenai hi'n fynych ar ddechreu'r gwasanaeth yn ei gapel. Ie, y fath gyfrifoldeb oedd ynglŷn â'r gwaith, ond y fath orfoledd hefyd! Y fath gyfle braf a gai ar ddydd y Gymanfa! Tystio dros ei Waredwr gerbron tyrfa o weinidogion a channoedd o bobl! Dywedyd neges fawr ei fywyd, nid wrth ddyrnaid o bobl mewn capel, ond yng ngwydd y tyrfaoedd yn yr awyr agored, a chludid ei eiriau ar adenydd yr awel ymhell dros y wlad. O ryfedd gariad! O'r fraint gael dywedyd am dano!
Yna, a phelydr ei orfoledd o hyd yn ei lygaid, aeth ei feddyliau heb yn wybod iddo i gyfeiriad arall. Rhaid fod son am dano fel pregethwr wedi mynd eisoes drwy'r wlad. Rhaid fod hyd yn oed ei frodyr yn y weinidogaeth yn meddwl cryn dipyn o hono. Nid safle ddibwys oedd i fachgen tlawd fod wedi ei chyrraedd. Yn hollol heb ganiatad na chroesaw ymlusgodd i mewn i'w galon feddwl bychan arall, sef, y gwnai les, feallai, i'r gweinidogion . . . ., ond mygodd hwnnw cyn iddo fynd ymhellach, ac aeth i ddychmygu ei hun, ar y llwyfan a'r gynulleidfa fawr o'i gylch. Wyneb Gwen oedd o'i flaen o hyd. Gwelai ei llygaid gleision mawr yn edrych arno mewn edmygedd tra'i meddwl yn cyd-deithio a'i feddwl yntau. Dychmygai weld ei gwefusau yn symud fel y gwnaent o hyd yn ol yr hyn a deimlai ac a feddyliai. Yr oedd cymaint o fynegiant yng ngwefusau 'Gwen ag oedd yn ei llygaid.
Her mobile lips, her tender eyes!'
Ah! y fath wynfyd fyddai bywyd yng nghwmni' Gwen!
Eisteddodd y dyn ieuanc ar ei gadair gydag ochenaid. Atgofiodd ei hun yn chwerw o'i gloffni. Sut gallai byth ofyn i eneth hoew, nwyfus, fel Gwen, gylymu ei hun wrth un ymlusgai drwy fywyd fel y gwnai ef? Ac oni chloffwyd ef i bwrpas neilltuol? Onid un o alwadau cryfaf Duw ato oedd hyn, i'w ddenu oddiwrth bleserau anwadal y byd i dangnefedd diderfyn? Eithr mor siomedig oedd ei gynnydd ysbrydol! Profiad y Salmydd oedd ei brofiad yntau,— Glynodd fy enaid yn y llwch." Pa bryd y medrai ymysgwyd ac ehedeg uwchlaw pethau bychain amser a lle? Efe, neilltuasid i waith mor aruchel, yn cystadlu ag ereill am fwyniannau'r byd, gogoniant dynion, bri daear! Yr oedd bychander felly yn sarhad ar urddas ei ymgysegriad.
Ie, ymgysegriad! Nid modd i ennill bara beunyddiol oedd ei waith mawr iddo ef. Onid hyn oedd un o'r beiau ynglŷn â Phrotestaniaeth yng Nghymru, gwneud pregethu'n grefft nes bod rhy ychydig o wahaniaeth rhwng y pregethwyr a'r byd? Yr oedd eisieu arweinwyr newydd, rhai wnai ymwadu â phleserau a mwyniannau daear er mwyn medru cyfranogi'n helaethach o'r llawenydd uwch a dangos reality'r llawenydd hwnnw ger bron y byd. Meddyliai am y gwahanol fathau ar arweinwyr crefyddol Cymru ar y pryd,—ei llu pregethwyr ymneilltuol,—rhai o honynt na ellir eu gwahaniaethu oddiwrth y dyrfa, os nad wrth eu gwisg neu dôn eu llais. Trist oedd meddwl bod dibynnu ar yr eglwysi am eu cynhaliaeth yn tueddu i gymryd oddiarnynt ryddid llafar a rhyddid barn, ac yn codi cymylau tew rhyngddynt a nef y nefoedd. Na ato Duw iddo yntau fod yn un ohonynt yn hyn! Nid chwaith fel offeiriaid Eglwys Loegr y carai fod. Oni ellid adnabod llawer o honynt hwy gan foethusrwydd eu gwedd a'u llediaith Saesneg? I'w dyb ef, meddai yr ychydig offeiriaid pabyddol a welsai yn y dref yn nyddiau ei goleg un ragoriaeth amlwg. I bob ymddangosiad allanol, yr oeddynt wedi ymgysegru'n llwyrach. Tystiai eu gwedd eu bod yn ymwrthod a moethau'r byd, a gwyddai y gwarafunid iddynt lawer o fwyniannau cymdeithasol cyffredin bywyd. Yn hyn, yr oeddent yn nes i'w lle fel arweinwyr. Ai ni chai ei ymgysegriad yntau—weinidog ymneilltuol—fod yr un mor llwyr?
Ni chai un cysylltiad daearol ei gadw yntau'n ol. Na, ni chai cariad gwraig na phleserau bywyd teuluol gyfyngu rhyddid ei enaid. Ni feiddiai gondemnio ereill, ond rhaid oedd iddo ef ddilyn y goleu roed iddo.
Rhaid iddo yrru pob meddwl am Gwen ymhell oddiwrtho. Gwae iddo erioed oddef i'w serchiadau ymglymu am dani! Am hynny y poenid ef yn awr, a beth os rhoisai ddigon o le iddi hithau feddwl am dano yntau! Na, cofiodd am dani'n gwrido wrth weld Fred, ac yn gwenu arno. Fred yn ŵr i un fel Gwen! Sais difater a'i gymeriad yn ddiau ymhell o fod yn ddilychwyn i briodi merch fwyn a phur fel Gwen! Annioddefol! Cofiai am y prynhawn hyfryd hwnnw ger yr afon; yn sicr nid oedd Gwen wedi anghofio hwnnw. Ond rhaid oedd gosod y pethau hyn o'r tu ol. Pe cai ef briodi Gwen ni fyddai lle yn ei galon na'i fywyd i waith y nef. Hanerog fyddai ei ymgysegriad, a byddai pob bore glân o'i fywyd yn ei wawdio am iddo ollwng gafael ar y mwy er mwyn cadw'r llai. Na, rhaid ymlid Gwen o'i galon, a pheidio mynd mwy i'w golwg os gallai beidio.
"A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" ebe ef yn chwerw. Agorodd ei Feibl drachefn, a darllenodd eiriau a'i brawychodd, ac a adawodd bwysau fel plwm ar ei galon,—
"Wele, fab dyn, fi yn cymeryd oddiwrthyt ddymuniad dy lygaid a dyrnod, eto na alara, ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau.'