Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XVI

Oddi ar Wicidestun
XV Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XVII

XVI.

A weli di mo'r pumil ar y llethr
O adladd teg yng nghwrr y wenallt draw?
Ni wnaethpwyd ond cyhoeddi cennad Nef
I draethu'r Gair ar benodedig ddydd,
Ac wele'r cwmwd pell a'r hwndrwd moel
Yn codi i'r alwad gyda'r bore glas.

—CRWYS.

DA oedd gan Gwen weld pelydrau'r haul yn llanw ei hystafell pan ddeffrodd fore'r Gymanfa. Buasai hin anffafriol yn tynnu cryn dipyn oddiwrth ogoniant y dydd. Gwisgodd yn ebrwydd, a phan aeth allan i odro, er nad oedd ond pump o'r gloch, gwelai fwg yn esgyn o simneiau'r ffermdai, twrr o wartheg yma a thraw yn cael eu cyrchu, a gwartheg Maesyryn yn dychwelyd i'r cae wedi eu godro. Nid bore i ymdroi oedd hwnnw, oherwydd dechreuai'r oedfa gyntaf am saith o'r gloch. Er hynny, ni fedrodd Gwen brysuro. Yn lle galw ei buwch o'r bwlch fel y gwnai fynychaf, cerddodd tuag ati drwy'r gwlith a'r borfa îr i ben pellaf y cae, ac yfodd i'w henaid o dangnefedd dwys y bore. Yr oedd swn Dydd Sul ym mhobman, cyffro daear wedi gosteg, a Duw yn siarad.

Ni welsai Gwen erioed Gymanfa yn yr awyr agored. Medrai ei thadcu edrych yn ol ar res hir ohonynt. Wrth fynd allan o'r tŷ y bore hwnnw ar bwys ei ffon, dywedodd wrth Gwen heb edrych arni,—

"Ma raid i fi gal yr oedfa saith heddi, wa'th dyma'r Gymanfa ola wela i, wel di."

Ni fedrodd Gwen ateb gair. Safodd, a'r brwsh dillad yn ei llaw i edrych arno'n mynd i fyny drwy'r lôn fach. Yr oedd gan Gwen feddwl uchel iawn o'i thadcu. Yn ol ei barn hi, ni fyddai un dyn yn y Gymanfa heddyw, na ffermwr nac arall, o leiaf ag eithrio'r gweinidogion, a ddaliai ei gymharu ag ef yn urddas ei natur a'i gymeriad. Ystyrrid ef gan lawer, rhai na fedrai byth ei ddeall, yn oer, a balch, a sarhaus. Ni wyddent hwy pa ryw ddyfnder o gariad a thynerwch oedd yn ei natur, na pha mor uchel y gallai esgyn ym myd meddwl ac ysbryd. Cynhesodd calon Gwen o'r newydd at yr hen ŵr, a throdd i'r tŷ gan sychu ei llygaid.

I'r oedfa ddeg a'r oedfa ddau o'r gloch yr ai Gwen a'i ffrind Ann. Byddai raid iddynt ar ol hynny frysio adref i odro. Addawsai Gwen helpu Ann, fel y gallent ddychwelyd drachefn gyda'i gilydd i gael rhyw gyfran o'r oedfa chwech. Yr oedd Leisa yn rhwym am y dydd. Maesyryn oedd yn cadw'r mis, a hwy felly a ofalai am fwyd y gweinidogion yn nhŷ'r capel. Yn lle cael help Ann a Gwen yno, trefnodd Leisa eu bod i wahodd Miss Elis. Ni fyddai hynny ond ei chydnabod yn briodol fel perthynas y gweinidog, a rhoi cyfle iddi adnabod rhai o'r un byd ag ef. Sicrhaodd Leisa y byddai hi a'i mam a Miss Elis a gwraig tŷ'r capel yn hen ddigon at y gwaith, ac felly, cai Ann a Gwen helpu bwydo'r bobl yn y festri a bod gyda'i gilydd.

Wrth fynd, cai'r ddwy lawn olwg ar faes y Gymanfa ymhell cyn ei gyrraedd. Yr oedd cae Tomos Bŵen yn ddu gan bobl. Safai'r mwyafrif ar eu traed, eisteddai, penliniai, a lled orweddai ereill ar ymyl uchaf y dorf ger y clawdd, a chrwydrai ambell un ger bwlch y cae ac ar hyd y ffordd. Codasid pabell eang ar gyfer y gweinidogion. Cefn honno welent yn awr, ond gyda'r awel ysgafn, deuai llais melodaidd y pregethwr tuag atynt. Ac yr oedd Natur oll fel pe'n distewi ac yn gwrando. Yr oedd gwair John Sâr ar lawr ac yn galw am ei drin, ond ni feddyliai neb am ei gyffwrdd ar ddydd yr wyl. Safai cerrig beddau'r fynwent gerllaw fel ar flaenau eu traed. i wrando, ac ymsymudai dail y coed a'r borfa, ac ymsiriolent, fel pe bai'r dirgelion oll eisoes yn eglur iddynt hwy, ac fel pe yn dda ganddynt weld dynol-ryw yn ymhyfrydu yn yr un pethau gogoneddus. Daeth cenllif o gerddoriaeth o'r cae. Clywyd dyblu a threblu'r geiriau,

"Gad in' deimlo Awel o Galfaria Fryn."

"O dir," ebe Gwen.. "Wi'n teimlo felswn i wrth borth y nefoedd."

Chwarddodd Ann, a dywedodd fel y gwnai'n fynych, "Na lodes rifedd i chi, Gwen." Ac ychwanegodd, "Weles i monoch chi'n drichid yn neisach ariod. Gwisgwch hat wen stil mwy.

Na'ch taro chi ma'i! A fidd dim ise i chi dinni'ch golwg o ar y stage, trw'r amser! Wn i'm bid ym mhwi ran o'r dyrfa fawr y ca i weld Jo.

A disgynnodd Gwen o'r uchelion i drafod yr un pwnc, i feddwl am yr awr ginio, y myrdd dieithriaid, y dillad newydd, a'r pleserau posibl. Yn anad dim, edrychai hi ymlaen at y mwynhad o glywed Owen Elis yn annerch y dorf fawr, a hi yn gwybod yn ei chalon ei bod hi'n nes ato ac yn ei ddeall yn well nac hyd yn oed y llu gweinidogion oedd o'i gwmpas.

Dywed rhai fod Cymanfa rymus y dyddiau gynt yng Nghymru wedi dirywio erbyn hyn nes bod yn ddim namyn cystadleuaeth neu arddangosfa bregethu.

Gall fod gwir yn hynny weithiau. Meidrol yw pawb, ac y mae rhagor rhwng pregethwr a phregethwr mewn ysbrydolrwydd meddwl a llwyredd ymgysegriad. Daeth y demtasiwn i gwrdd ag Owen Elis. Brwydrodd a hi, a daeth allan yn goncwerwr. Ar brynhawn dydd y Gymanfa, pan godai ei lef dros ei Waredwr ger bron y gynulleidfa fawr, ciliodd y byd yn ufudd o'r golwg.

"Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymaith, oedd testun ei bregeth. Tywalltodd allan gyfrinion enaid gyda rhyw hyawdledd a wefreiddiai'r dorf fawr. Ar y cychwyn, taflai'r gweinidogion edrychiadau mynych at ei gilydd gan wenu'n awgrymiadol; gwrandawai'r dyrfa ar y llethr yn astud iawn, daeth y rhai oedd ger y clawdd o un i un yn nes i ymyl y dorf, gan sibrwd wrth ei gilydd, "Fachgen, ma'r boi cloff na'n galler i gweid i!" Safai Owen Elis o'u blaen yn eofn ac yn wylaidd ar yr un pryd, heb wybod dim yn eu plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi Ei groeshoelio. Cyn diwedd y bregeth ryfedd honno, ciliasai swn yr Amennau, ac yr oedd y distawrwydd bron yn llethol. Edrychai llawer yn frawychus fel pe baent, er wedi byw blynyddau hir, heb hyd yr awr honno ddeall gwir ystyr bywyd. Pan eisteddodd y pregethwr, ni symudodd y gynulleidfa. Parhaodd y myfyrdod syn a'r tawelwch nes i eiriau'r emyn a'i nodau hiraethus roddi i bawb ollyngdod teimlad.

Ymwasgarodd y dorf. Gorfu i lu o ferched fel Ann a Gwen gefnu ar y fan a brysio'n ddiramant tuag adref i odro. Aethai llu ereill, merched eto—ymhell cyn diwedd yr oedfa i'r festri i baratoi tê. Tuag yno y dylifai'r dorf yn awr, rhai mewn brys anweddaidd, ac ereill yn hamddenol, gan fesur a phwyso'r pregethau. Ar ol yn y cae, gwelwyd nifer fechan yn symud yn gyffrous o gwmpas rhywun neu rywbeth, ac un arall yn rhedeg tuag atynt a gwydraid o ddwfr yn ei llaw. Yr oedd yno rywun wedi llewygu. Hen wraig fechan oedd, ac amser wedi rhychu pob modfedd o'i hwyneb llwyd. Os mai mewn llewyg y buasai, yr oedd yn awr wedi dadebru. Yr oedd ei llygaid yn llydan agored, ac yn rhythu ar bawb fel pe heb weld neb, a threiglai dagrau fel dwy afon loew dros ei dwyrudd hen. Siaradai yn ddi-daw. Daliai'r ferch y gwydraid dwr yn ei hymyl heb feiddio torri ar lif ei geiriau. Bernid fod y pregethu dwys ynghyd a gwres yr hin wedi bod yn ormod iddi i'w dal. Beth ond hynny ellid gasglu oddiwrth ei geiriau gwyllt?

"Odi, odi, ma didd y cyfri'n shwr o ddod. Ble bidda i wedin? Faint o fwinhad ges i wedi'r cwbwl? Ond nid arna i wedd y bai i gyd, nage, nid arno i wedd y bai mwia, ma Duw'n gwbod. Ond mi roia i bethe'n reit yto. Alla i ddim marw'n dawel heb hinni. Shwt wmeda i ddidd y farn a mhechode i heb i madde? Ma rhaid i fi find at y prigeth- wr i roi pethe'n reit. Le ma'r prigethwr? Owen Elis wi'n feddwl, y bachgen cloff na. Ma raid i fi gal sharad ag e.

Ceisiodd godi, ac yr oedd ei threm yn wyllt ac anaturiol. Tra'r oedd rhai o'r gwragedd caredig yn ceisio ei pherswadio i yfed diferyn o ddwr ac aros yno yn y cysgod am ychydig yn hytrach na mynd i ganol y dyrfa, torrodd yr hen wraig i wylo'n hidl a distaw. Gadawyd iddi, gan wybod mai hynny a wnai fwyaf o les iddi.

Tra'r oeddid mewn penbleth felly yn ei chylch, daeth dyn bychan byrr ar hanner rhedeg tuag atynt. Yr oedd creithiau duon ar ei wyneb, ac adwaenodd rhai ef fel cydymaith beili'r degwm. Rhuthrodd drwy'r cwmni a'i anadl yn ei wddf, ac olion ei bryd tê brysiog ar ei wefusau, a dywedodd, gan blygu at yr hen wraig,—

"Man i'n wit ti, ta? Dera, dera, Rachal fach. Be si matar eddi to? Dera, sich dy lyced. Awn adra'r minid ma. Wetas taw fel in bysa pethach."

Yna trodd at y cwmni i esbonio pethau mewn hanner sibrwd, "Wetas ddicon wrthi'r bora ma, lwch chi, taw aros adra fydda ora iddi. Diw i'm yn iech es ticin, a ma rhwi feddyla bech arni. Dos dim iws dishgwl ar beth ma'i'n wêd, na tolach gormodd arni. Bod yn ffirm si ora, medde'r doctor. Own i'n meddwl byddai'n well weti dod ffordd in i fiw, ond gwathyci ma'i, ia, gwathyci. 'Dera nawr, Rachal fach. Gei ddishglad fach o dê nawr yn y festri co, a mi gerddwn adra gan bwyll.

Bob yn dipyn, caed gan Rachel ufuddhau, ac aeth heb weld y pregethwr ym mraich ei gwr bychan bywiog. I rai, bu ei hanes o fwy diddordeb na'r un o'r pregethau. Daethpwyd mewn byrr amser i wybod cymaint ellid wybod am dani; ei bod wedi bod yn forwyn yn Y Mwyndir cyn i Tomos Bŵen fynd yno, ei bod wedi mynd bant' i fyw ar ol hynny, a phriodi dyn bychan llawer iau na hi o rywle yn Sir For gannwg; fod ei hiechyd wedi cilio, a'i bod wedi dod yn ol i'r wlad i fyw, tuag ardal Glynygroes; fod ei gwr yn rynu anifeiliaid ar hyd y ffeiriau, ac yn prynu hefyd i hen feili'r Degwm.

Medrai rhai pobl ddychmygu llawer mwy am dani. Pan fyddai" meddylie" ar rywun, yr oedd rhyw achos am hynny fynychaf. Pwy wyddai beth a fuasai gorffennol yr hen wraig? Rhyw le rhyfedd sydd yn y gweithfeydd. Pregeth Owen Elis yn ddiau a ddeffroisai ei chydwybod heddyw, dyna paham y galwasai am dano ef. Rhaid fod rhyw bechod yn pwyso ar ei chydwybod. Cofid am dani yn Y Mwyndir gan rai o'r ardal. Ni fuasai unrhyw son am dani' yno. Cofiodd rhywun fod ganddi chwaer rywle ger Abergwynli yn byw bywyd digon isel. Sut priododd hithau hen ddyn bach oedd gymaint yn iau na hi, a rhyw hen waith rhyfedd oedd ganddo. Trueni iddo ddod yno i'r cae cyn i'r hen wraig gael gweld y gweinidog. Gallesid bod wedi cael clywed ei chyffes, a chael manylion a fuasai'n bwnc ymddiddan diddorol ynghanol undonedd bywyd gwlad am amser hir.

Nodiadau

[golygu]