Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XVII

Oddi ar Wicidestun
XVI Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XVIII

XVII.

"Llwyther y bibell weithion,—yn ei mwg
Dychmyger myrdd swynion;
Yn lludw aed trallodion
Llawer awr ar allor hon."

WEDI diwedd yr oedfa olaf, yr oedd yn rhy hwyr ac yn rhy bell i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr ddychwelyd i'w cartrefi. Cyn ymwasgaru, ymgasglodd nifer o honynt yn nhŷ'r capel i gael ymgom wedi cyffro'r dydd. Nid oedd gormod o le yn ystafell oreu'r tŷ bychan. Gorfu i bob ystafell arall ynddo roi benthyg cadair neu ddwy. Wedi ymdrech egniol, llwyddodd Jones y Berth i agor y ffenestr hyd ei hanner. Daeth Leisa a'r lamp i mewn a thynnodd y llenni. Buan aeth bron yn amhosibl i wr weld wyneb ei gyfaill gan fwg. Ychydig o siarad a glywid ar y cyntaf, ond tynnai pob un yn egniol, ac yr oedd rhywbeth yn esmwythhaol yn y swn, fel swn ceffylau yn dyfal dyfal gnoi eu gwair wedi dydd o ludded ar y maes.

Daethai Owen Elis i mewn hefyd. Wedi eistedd yn anesmwyth am dipyn, edrychodd yn hanner ofnus o'i gylch, dywedodd ei fod yn flinedig iawn, a'i fod yn gobeithio yr esgusodid ef am eu gadael; ysgydwodd law a dau neu dri o'r rhai hynaf, dymunodd "Nos Da" i bawb, ac aeth allan gan gau'r drws yn ysgafn ar ei ol.


"Thank Heaven for that,"" ebe Jones y Berth dan ei ddannedd.

Edrychodd dau neu dri ereill fel pe baent hwythau yr un mor ddiolchgar, ond bu pawb yn ddistaw nes i swn cerddediad cloff Owen Elis fynd o glyw.

"Pam oeddet ti'n diolch, Jones?" gofynnai'r hen wr penwyn, Dafis Bethel.

"Am gael lle i anadlu eto. Mae un olwg ar wyneb y dyn yna yn codi diffyg ana'l arna i."

"Wir, fe bregethodd yn nodedig o nerthol," ebe Dafis. "Hm!" ebe Morgan Puw. Mae pregeth fel honna ar dro efallai'n burion, ond yn yr hen rut yna mae e o hyd, ac y mae hanner ei gynulleidfa wedi cael digon arno. Rown i'n aros yn nhŷ un o'i braidd e neithiwr; os yw hwnnw'n dweyd y gwir, cilio o'r Bryn wna pobol un ar ol y llall."

"A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith, ebe Sam John, gweinidog ieuanc Hermon, yn ddistaw. "Beth yw'i fai mawr e?" gofynnai Dafis. "Mae e'n rhy bell oddiwrth i bobol. Ma'i safon e mor amhosibl. Ma'i bregethe fe mor sych a rhisgl coed, medde dyn y Mwyndir na wrthw i," ebe Morgan Puw.

Glywais inne fod y rhan fwyaf o'i gynulleidfa wedi rhoi fyny bob gobaith am nefoedd," ebe Dewi Edwards.

Dyw strôcs fel yna'm yn talu,—rhyw or-dduwioldeb fel yna? Rhaid i chi astudio tipyn o'ch cynulleidfaoedd, os am ddod ymlaen gyda nw." ebe Jones.

"Ie, dywedwch chi a fynnoch chi, 'dall dyn ddim pregethu'r peth ddyle fe na'r peth leice fe y dyddie hyn,—'n enwedig dyn sy a gwraig a phlant gydag e. Rw i wedi cal fod yr Iddewon yn destyn sâff iawn," ebe Rhys y Dyffryn.

"Wir, fachgen," ebe Dafis yn araf, gan chwythu mwg fel colofn niwl o'i enau, rwy'n ofni bod mwy nag un dyn wedi colli ei enaid oherwydd ei wraig a'i blant.'

"Fe rydd hwn hefyd ei draed ar y ddaear pan priôd e," ebe Rhys.

"Neu fe beidia a phriodi," ebe Dafis. "Mae llawer o'r mystic ynddo fe, welwch chi."

"Beth yw mystic?" gofynnai Gwynli Williams.

Chwarddodd Jones y Berth yn uchel.

Machgen bach i!" ebe Morgan Puw, "ddeallet ti ddim pe bai dyn yn hala awr i dreio'i esbonio i ti. A guddiwyd oddiwrth y doethion a'r deallus, wel di.

"Mae e rywfodd yn gymaint o awdurdod ar y byd ysbrydol," ebe Dafis. "Y byd hwnnw yw'r byd real iddo fo. Roedd e'n siarad mor ymarferol, ei ffeithiau mor ddidroi- yn-ol, a'i resymeg mor glir ag eiddo unrhyw ddyn o'r byd am ei fusnes. Mae llawer o honom ni o ddifri, gobeithio, mae e'n wir wedi cyrraedd tir uwch; mae e rywsut yn siarad yn fwy fel dinesydd o'r byd ysbrydol, a chanddo fwy first hand knowledge, wyddoch."

"Wn i'm wir, fachgen," ebe Morus y Bont, hynafgwr arall. "Pobol digon cyffredin fel ti a finne a gododd Gymru i'r man lle mae heddyw. 'Doedd dim llawer o'r mystic yn Williams o'r Wern a'r hen Gristmas a John Elias."

"Mwy nag a feddyliet ti, lawer. 'Roedd yr hen bregethwyr i gyd yn llawer llai o beiriannau nag ym ni."

Dyw dynion o fath Owen Elis ddim yn hollol sane, allan nw'm bod," ebe Morgan Puw.

"Sane" neu beidio, rw i'n credu byddai dau neu dri o ddynion wedi codi—neu ostwng—i'r lefelau yna yn ddigon mewn un wlad ac oes; rhywbeth i gadw meddwl y genedl yn fyw ar y pwnc. Ond mae'r safon yn rhy amhosibl i'r bobl gyffredin," ebe Jones y Berth.

"Fanatics mewn ystyr yw'r mystics ma welwch chi," ebe Rhys y Dyffryn. "Dydyn nw ddim yn hollol sane fel oeddet ti'n dweyd, Puw. Mae nw fel penboethiaid mewn unrhyw gylch arall. Mae'n dda bod ambell un ohonynt er mwyn codi ac arwain meddwl cenedl, ond mae'r Holl-Ddoeth wedi trefnu nad all pawb ddim bod mor or-grefyddol, a diolch am hynny, on'te?"

"Mae Elis yn rhy ofnadwy ddifrifol a phrudd," ebe Dewi Edwards. "O'm rhan i, rwy'n credu llawer mwy yn efengyl Robert Louis Stevenson. There is no duty we so much under-rate as the duty of being happy,' medde fe. A dyma bennill o'i eiddo fe sydd a chymaint o grefydd ynddo ag unrhyw emyn,-

"If I have faltered more or less
In my great task of happiness;
If I have moved among my race,

And showed no glorious morning face;
If beams from happy human eyes
Have moved me not; if morning skies,
Books, and my food, and summer rain
Knocked on my sullen heart in vain; Lord,
Thy most pointed pleasure take And stab my spirit broad awake;
Or, Lord, if too obdurate I,
Choose Thou, before that spirit die,
A piercing pain, a killing sin,
And to my dead heart run them in."

"Mae'r llinellau'n rhagorol wrth gwrs," ebe Sam John, "ond does dim ynddyn nw'n taro Owen Elis. Dyw e ddim yn brudd."

"Na, dyw e ddim yn brudd," ebe Dafis Bethel.

"Pwy erioed a'i gwelodd e'n dangos 'glorious morning face'? Ma'i wyneb e fel ffidl bob amser," ebe Dewi.

"Wn i'm a ydych chi wedi sylwi ynglyn a'r so-called mytics ma," ebe Morgan Puw, taw ar ol blynydde o suddo dros y pen ym mhleserau'r byd mae pobol yn troi i'r cyflwr yna.

Rhyw gael eu ffling yng nghynta, aie?" ebe rhywun.

Ie, ie, a rhyw surni ysbryd mewn gwirionedd yw dechreu ac weithiau diwedd hefyd y teimlad uchel yma. Mae rhyw siom neu ryw flinder wedi gyrru'r rhan fwyaf ohonyn' nw i gasau'r byd, a dyna nhw, yn full-fledged mystics whap iawn, os oes tuedd grefyddol yn eu natur nw.

"Fe all ddigwydd felly weithiau, ond lol yw dweyd taw dyna'r rheol," ebe Sam John.

"Mae'n digwydd yn go aml, rwy'n meddwl," ebe Puw. "Mae'r Salmydd yn son rywle am Dduw yn chwerthin, ebe Harri Huws, gan gymeryd rhan am y tro cyntaf yn yr ymddiddan. Rwy'n meddwl weithiau 'i fod E'n cael ambell spri yn iawn wrth edrych ar Gymru,—pobol a'u gwahanol syniadau bach, un yn tynnu ffordd hyn a'r llall ffordd arall, a phob un gymaint o ddifri a'i gilydd; neb am wn i yn iawn, a Duw yn cuddio'i hun yn y dirgelion pell ac yn chwerthin.

'Fachgen, fachgen!" ebe dau neu dri.

"Dydw i'n credu fawr ym mhobol yr un idea yma," ebe Morus y Bont. Rwy'n tueddu i ffafrio dy grefydd di, Dewi, ac R.L.S. Dynion rownd, ys dywedai'r hen bobol, sy eisieu; rhai i wasgar sirioldeb a daioni wrth fynd drwy'r byd. Beth sy eiseu'n rhagor?

"Rw i'n ieuanc iawn mi wn, i siarad ar bwnc fel hwn," ebe Sam John, " ond mae gen i un syniad bach, ac rwy am i ddweyd e. Roedd llwyddiant yr hen bregethwyr i'w briodoli i'r pellter mewn un ystyr oedd rhyngddyn' nw a'r bobl. Roedden' nw'n gallu llefaru gydag awdurdod am mai ganddynt hwy oedd y dirgelion. Mae'r mystery na yn help i addoliad a chrefydd. Mae hwnna ar goll yng Nghymru heddyw. Mae pawb yn hyf ar y pethau sancteiddiolaf, a ninnau'r arweinwyr yn un a'r bobl, ac felly heb fawr o ddylanwad. Mae'n rhaid i ni godi'n hunain,—a gwneud hynny drwy ryw fodd heblaw addysg. Does dim modd am dani ond yn ol dull proffwydi'r Hen Destament,—drwy gymundeb agos ac uniongyrchol a Duw. Mystics ein dyddiau ni yw'r tebycaf i wneud hyn.

"A ydyw Sam John hefyd ymysg y proffwydi?" ebe—Jones. y Berth, yn ddistaw.

Machgen i, rwyt ti'n llygad dy le," ebe Dafis Bethel, gan godi o'i gadair, ac wynebu ei gynulleidfa, a chadw'i bibell yn ei law i bwysleisio'i ymadroddion. "Mae'r mystics yma'n bobol ryfedd iawn. Mae llawer o honyn nw'n rhai anodd i fyw da nw ac i gwmnia a nw. Dynion yr un idea! Ond mae'r rhai hyn wedi specialiso yn y wybodaeth uchaf, coeliwch chi fi. Penboethni os mynnwch, ond penboethni gogoneddus! Gyda nhw mae allwedd bywyd. Hwy sy'n cael y mwyniant puraf a'r mwyaf parhaol. Mae ambell beth yn Owen Elis nad wy'n hoffi, ond yn ei gwmni ddoe, ac wrth ei glywed yn pregethu heddyw, rown i'n teimlo f'enaid yn sefyll ar flaenau 'i draed. Mi dd'weda i chi beth arall, fechgyn, dyma bregethwyr dyfodol Cymru. Mae tymor y deffro drwy son am ddydd y farn wedi mynd: mae tymor y dysgu drwy erthyglau diwinyddol gorffenedig wedi mynd hefyd. Hwyrach y deil pregeth fach y teimlad eto am "dipyn, a'i storiau difyr a phrudd, ac hefyd y bregeth up-to-date wyddonol, smart, ond dyw'r rhai hyn fawr o les ysbrydol i neb. Profiad ysbrydol sydd yn eisieu mewn pregethwr heddyw. "Roeddet ti'n iawn, John, machgen i. Rhai sydd gartref yn y byd anweledig yw'r unig rai ga siarad gydag awdurdod o bwlpud Cymru mwy.

Maes o law, fe fydd llawer llai o godi pregethwyr yn ein gwlad nag a fu. Dim ond y rhai a alwyd a etyb. Dim ond rhai â neges ganddynt ga'r hawl i draethu. Felly fe fydd yr ymgysegriad yn naturiol yn llwyrach, a'r wobr yn un ysbrydol."

Eisteddodd yr hen wr drachefn. Bu pawb am ennyd yn ddistaw. Dechreuwyd paratoi i ymwahanu.

"Wel, fe fydd lle i amrywiaeth o hyd, gobeithio," ebe Rhys y Dyffryn, gan godi o'i gadair a botymu ei gôt.

"'Dall neb ddim byw ar y lefel ofnadwy uchel na o hyd,' ebe Jones y Berth yn bendant. "The heart cannot beat without its intervening pauses," ys dywed Matheson."

"A beth newch chi o'r rhai sydd a'r alwad bron mor gryf o'r ddau gyfeiriad,—ni'r bobl gymysg yma?" ebe Dewi Edwards, gan droi yn ol i'r drws.

Symudodd mwy nag un ei ben fel pe'n ategu'r cwestiwn ond ni ddywedodd neb air. Ymwasgarodd y cymni cyn beiddio o neb gynnig atebiad iddo.

Nodiadau

[golygu]