Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XVIII

Oddi ar Wicidestun
XVII Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XIX

XVIII.

"Oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni."—IESU.

UN o gampau pennaf plant y byd hwn yw dwyn allan y gau a gwneud iddo gymeryd lle'r gwir. Hawdded y gellir bathu darn o fetel melyn a'i wneud mor debyg i'r aur nes mai llygad y cyfarwydd yn unig a genfydd y gwahaniaeth. Digwydd yr un peth mewn bydoedd uwch. Gymaint o ffug dosturi, o ffug garedigrwydd, o ffug gariad brawdol a gyfnewidir yn y byd! Gymaint o'r cyfryw a dderbynir yn ddiolchgar gan bobl grediniol yr oesau heb ameu eu gwerth! Nid newydd yw'r grefft chwaith. Daw swn geiriau melfedaidd y goruchwyliwr anffyddlawn hwnnw i lawr o'r oesau pell, Pa faint sydd arnat ti o ddyled? . . . . Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna ddeg a deugain." Ceir dilynwyr y dyn hwnnw ym mhob cylch o gymdeithas heddyw. Nid aur yw popeth melyn, ac nid caredigrwydd yw pob gweithred a gymer yr enw.

Offeryn defnyddiol iawn yw'r ffug-garedigrwydd hwn. A oes arnat eisieu ffafr gan neb? Paid meddwl gofyn iddo'n uniongyrchol ac wyneb-agored. Yn hytrach chwilia am le i wneud iddo rywbeth na chyst lawer i ti, ac na fydd ond odid yn nemawr lles iddo yntau. Daw yn ddiau o dipyn i beth i ddeall beth garet gael ar ei ran, a phwy felly fedr dy wrthod a chadw ei anrhydedd? A wnest gam a rhywun erioed? Os nad oes berigl iddo ddial ei gam, na ofala. Eithr os yw Nemesis ar dy warthaf, beth a wnei?

Dos at y gwr y gwnest gam ag ef; dangos iddo ochr felfedeiddiaf dy natur; gosod fân actau digost o garedigrwydd yn llyffethair am ei arddyrnau, fel pan ddel yr awr y bydd yn anodd iddo godi ei law yn dy erbyn. Dyna ddoethineb y byd hwn.

Ni fu'r Gymanfa heb ei heffaith ar fywyd y wlad. Gwir na thorrodd allan ar unwaith ddiwygiadau cyffrous mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu cyfarfodydd gweddi yr wythnosau dilynol lawer yn lliosocach na'r rhai cynt. Ni chanfyddid rhyw wahaniaeth amlwg iawn yn yr iaith a'r ymddygiad ar y meysydd cynhaeaf, yn y ffair a'r farchnad, yng nghwmniau llawen yr efail a'r gweithdy. Bu mwy nag un Bugail yn cwynfan gyda'r Proffwyd, "Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth."

Eithr er yn hir o'r golwg, nid aethai'r had da i gyd ar goll. Hwyrach mai yn y dirgel y gwnaed llawer o'r addunedau; nid oeddynt am hynny yn llai difrifol na'r ymdrechion i'w cadw yn llai egniol. Weithiau, ar aelwydydd, fin nos, ceid aml ymddiddan dwys rhwng gwr a gwraig neu rhwng dau gymydog, ar rai o bynciau'r pregethau,—ymddiddanion o'u clywed a fuasai'n agoriad llygaid ac yn adgyfnerthiad ysbryd i lawer gweinidog blin Weithiau hefyd, tra'n unig ar y maes yn gyrru'r wedd, cai'r aradrwr ei hun yn distaw ganu darn o emyn ganesid gyda hwyl ddydd y 'Gymanfa, a chyda'r emyn deuai'n ol radd o'r un dylanwadau. Os syrthiodd peth o'r had ar y palmant caled, peth, ysywaeth, ar y creigle, a peth ymysg drain, fe syrthiodd peth ar dir da, ac yn araf a distaw a ddug ei ffrwyth.

Yn hanes Tomos ac Ester Bŵen, Y Mwyndir, yn anad neb, bu dydd y Gymanfa yn drobwynt tra phwysig. Yr hwyr hwnnw, braidd na fu'r Parch. Morgan Puw a'r gweinidog arall yn rhy araf wrth fodd eu lletywr gyda'u swper a'u hymgom. Digon anodd oedd cymeryd rhan siriol mewn ymddiddan, a phethau trymion yn gwasgu ar y meddwl. Wedi i'r ddau wr dieithr o'r diwedd weld yn dda noswylio, cafodd y mab a'r ferch hefyd orchymyn i fynd ar unwaith i'w gwelyau, gan ei bod yn hwyr, ac y byddai raid codi gyda'r wawr drachefn drannoeth. Yna cymerodd Ester y pocer, gwnaeth i'r tân cwlwm glân fflamio ychydig yn siriolach, tynnodd y ddau eu cadeiriau yn nes ato, a dechreuwyd ymddiddan dwys a barhaodd nes i'r wawr dorri. Pa ddiwygiadau bynnag a ddygodd y Gymanfa i fywyd y wlad, dysgodd i Tomos ac Ester yr angenrheidrwydd o ffurfio polisi newydd hollol am y dyfodol, ac er y gallai'r polisi hwnnw droi'n dreulfawr ac o bosibl yn ddifudd, yr oedd yn werth mentro arno os mewn unrhyw fodd y gellid osgoi amgylchiadau ereill anhawddach eu cyfarfod

Un prynhawn Gwener, yr ail wedi'r Gymanfa, synnwyd Marged Elen o gael ei gorchymyn gan ei mam i drefnu ei gwaith fel y gallai fynd cyn nos ar neges fechan i dŷ'r gweinidog. Buasai'r Mwyndir yn ffodus iawn yn eu cywion ieir y flwyddyn honno, a theimlai Ester Bŵen y gallent yn hawdd hepgor un i'r gweinidog. Rhoddai ereill o bobl yr eglwys roddion bychain iddo'n awr ac eilwaith, a pha eisieu iddynt hwythau fod ar ol. Esboniodd y fam yn ofalus i'r ferch ei bod hi ers tro wedi gweld y priodoldeb o wneud pethau felly, ond fod ei thad mor glòs. Beth bynnag, wedi iddi hi siarad ag ef yn ddwys ar y pwnc, daethai i weld pethau o'i safbwynt hi. Felly, yr oedd Mari'r forwyn eisoes yn plufio'r ffowlyn bach, a chai Marged Elen fynd yn union wedi godro.

Amlwg oedd fod ei thad wedi cael troedigaeth lwyr ar y pwnc, oherwydd gwelodd Marged Elen na cheisiai ei mam guddio dim rhagddo y tro hwn. Pan aeth hi i lawr o'r llofft wedi gwisgo yr oedd y fasged fach a'i chynhwysiad yno ar y ford yn ei ymyl, ac yntau heb wg ar ei wyneb wrth weld gwerth arian felly yn mynd o'i dŷ. Mwy syndod fyth, ei thad a awgrymodd fod digon o le yn y fasged i bwys o ymenyn ffres y diwrnod hwnnw. Cyn troi i'r llaethdy i gyrchu'r pwys ymenyn, dywedodd y fam,—

Newided i hat, wir, Marged Elen. Leices i mo honna ar i phen i ariôd. Diw i'm yn mind yn amal i'r gwmdogeth na.

Daeth Marged Elen i lawr yr ail waith a'i het oreu ar ei phen.

Yr oedd tŷ'r gweinidog filltir a hanner o'r Mwyndir. Pan gychwynodd Marged Elen yn ol wedi gwneud ei neges a chael cwpanaid o dê yr oedd yn dechreu tywyllu. Er iddi sicrhau nad oedd ofn arni, ni allai Owen Elis fod mor anniolchgar ac anfoesgar a gadael iddi fynd drwy'r tywyllwch ei hun. Aeth gyda hi'n gloff drwy'r pentref, a bron hyd y tŷ, gan gario'i basged.

Be si wedi codi ym mhen nhad a mam, te?" ebe Josi, pan oedd ei chwaer ac yntau eu hunain yn y gegin y noson honno. "Beth ddoith a'r idea iddin nw mor sidin? Allan beido ffwdani. Cin i ti roi mwi o dy feddwl ar y Bigel, mi weda i gwmsel wrthot ti. Dw i ddim fod i weid, ond mae e'n ddigon gwir. Mae'r boi dros i ben mewn cariad â Gwen Alun."

"Gwen Alun! Bidd ddistaw da tithe, Josi," ebe Marged Elen yn anghrediniol.

"O reit," ebe Josi, "ond ma'r peth yn ffact coila di fi." Ni feddyliai Josi na'i chwaer son am gyfrinachau felly wrth eu mam na'u tad, ac ni chymerai Marged Elen arni un amser fod yn deall dim o'r polisi newydd; ond bu'r fasged a hithau fwy nag unwaith drachefn yn nhŷ'r gweinidog ar neges gyffelyb; ac o leiaf unwaith, a'r noson yn dywell iawn, gwelwyd Owen Elis a hithau yn dod tua'r Mwyndir, drwy'r heolydd cul, anwastad, fraichymraich.

Nodiadau

[golygu]