Bugail y Bryn/XXI
| ← XX | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XXII → |
XXI.
Na feier anwadalwch merch.
—GWILYM COWLYD.
NID yw'r nos dduaf heb ei myrdd o ser rywle tu ol i'r cwmwl, ac nid yw nen dywyllaf bywyd heb ei phelydr,—bydded wanaidd, bydded ddisglair, o gysur. Mae'r cysuron roddir mor amrywiol a'r personau a'u derbyn. Wedi'r nos Sul ystormus hwnnw, tywynnodd heulwen drachefn i galon Bugail y Bryn. Daeth ato'n hyglyw lais Un ddywedodd, Mi a orchfygais y byd,' a chymerodd gysur; cafodd ei hun yng nghwmni seintiau'r oesau, a theimlodd yn foddlawn.
Ni fu nos Gwen chwaith yn ddibelydr. Wedi derbyniad llythyr oddiwrthi gan ei mam, gyrrwyd ei chwaer Manw, geneth bymtheg oed, i fod yn gwmni iddi. Bu Fred hefyd yn ffyddlon i'w addewid, ac o dipyn i beth, daeth cael ymgom fechan ag ef gyda brig yr hwyr, yn brif ddigwyddiad y dydd i Gwen. Gan fod Manw yno yn y tŷ, nid oedd mynd am dro mwyach yn amhosibl. Gwenodd y lleuad Fedi a lleuad arall lawer noson, ar y Sais a hithau, fraich-ymraich, yn difyr rodianna drwy lwybrau'r coed a'r caeau.
Nid oedd Gwen am hynny'n llai hoff o'i thadcu, nac yn llai gofalus o hono. Nid ai allan byth pan fyddai ei heisieu arno ef, ni pheidiai wneud popeth a fedrai i'w gysuro. Eithr tra mae'r hen a'i huan yn machlud, ymegyr y dydd a'i bosibliadau o flaen yr ieuanc, ac ar rai pynciau mae dealltwriaeth berffaith rhyngddynt yn amhosibl. Os digwyddai i'r hen wr sylwi ar absenoldeb Gwen a holi Manw pa le yr oedd, yr oedd yr ateb bob amser yn barod;—ei bod wedi mynd i Benffynnon ar neges at Nani a Sali, neu wedi mynd gyda'i ffrind Ann Maesyryn i'r lle hwn neu'r lle arall.
Nid oedd 'Gwen mor berffaith ag y dywedir mewn llyfrau fod rhai.
Yn ei thyb hi ateb i'w gweddi oedd dyfodiad Fred. Pan fydd yn alarus gan siomiant cariad, nid oes dim a gwyd galon merch yn well na chariad newydd. Dechreuodd Gwen feddwl fod amgylchiadau yn trefnu eu hunain, ac mai felly yr oedd pethau i fod. Pe cai ei dewis o'r dau, ni phetrusai ddewis y gweinidog. Ond pa sawl merch ga briodi yr hwn gafodd gariad pura'i chalon? Yr oedd pennill o gân ddysg asai Gwen yn ddigon difeddwl rywbryd yn awr yn rhan o'i phrofiad,-
"Y rhai garasant fore'u hoes,
Anfynych cânt gyd-fyw,
Gobeithion a ffurfiasom gynt
Aeth gyda'r gwynt yn wyw:
Gan amser fe'n rheolir oll,
Llawn coll yw bywyd Gwen.
A siawns daw'r degfed ran neu rith
O'i dewis byth i ben."
Purion peth fyddai i'r gweinidog ddeall nad oedd ei gwmni ef yn anhebgorol i'w chysur. Ar y cyntaf, ni fedrai oddef y syniad o briodi Fred, ond erbyn hyn nid ymddangosai'r peth hanner mor amhosibl. Bob tro y cwrddent, cytgan barhaus Fred fyddai, "How I wish I could take you away with me! We will go away together yet." Yr oedd y darlun gyfodai'r geiriau hynny o'i blaen yn graddol dynnu golwg Gwen oddiar bob anfantais yn ei chysylltiad ag ef. A beth pe byddai i'w thadcu farw, a'i gadael yn unig?
Ni rannai Gwen y dedwyddwch newydd hwn ag Ann, Maesyryn, nag a neb arall ond Manw.
Un prynhawn Gwener tua dechreu Tachwedd, digwyddai Anna Ifans, Maesyryn, fod yn Isaber. Er pan ddaethpwyd i wybod am afiechyd yr hen wr, deuai gwragedd caredig y gymdogaeth o un i un ar brynhawnau i edrych am dano gan ddwyn rhoddion o dê a siwgr neu rywbeth arall. Ar hynt felly yr oedd Anna Ifans yn awr, ac wrth geisio cysuro Gwen adroddai a'i llais wylofus am afiechydon ereill tebig welsai yn ystod ei hoes, a'r modd y cawsid gwellhad. Er fod Dafydd Alun yn hen, gallasai fyw blynyddau eto. Yr oedd ei thad hi yn bedwar ugain a deuddeg yn marw.
"Fiodd y gweinidog ma?" gofynnai, gan graffu ar Gwen.
Yr oedd Gwen wedi dechreu paratoi cwpanaid o de. Trôdd at y seld i gael y llestri, tra'n ateb,—
"Naddo, wir. Fiodd e'm nawr o ar ma Daci'n sal."
"Wel, fe ddilse fod wedi bod. Gwan iw e fel Bigel. Sdim ots d'a ge shwt ma'n hanner ni'n biw. Fiodd e ddim yn y ti co chwaith es wthnose. Ond own i'n meddwl i fod e'n trado pwer ma.
"Wi'n credi i fod e mwi cloff nawr nag wedd e, a ma'r hen ffirdd ma'n arw iawn," ebe Gwen.
"Hm. Mai e'n galler trado'n digon shonc i rai manne, a mai e felse fe wedi newid i gid yn ddiweddar. Mai e fwi'n i gragen na biodd e arioed, heb hidio beth ma neb yn feddwl am dano. Tua'r Mwyndir na ma'i holl feddwl e. am wn i. Ond neith hinni mo'r tro, mewn Bigel. Gwas i bawb ddile fe fod. 'Swn i'n cal cifle arno wrtho'i hinan mi wetswn hinni wrtho."
Fel mewn atebiad i ddymuniad Anna Ifans, clywyd y cerddediad cloff cyfarwydd oddiallan. Curodd calon Gwen yn ddilywodraeth, a sylwodd Anna Ifans gyda diddordeb ar ei chyffro. Cynhyddodd ei diddordeb a'i syndod pan ddaeth y gweinidog i mewn o'i weld yntau mor anesmwyth a chyffrous ei wedd a Gwen. Aeth ei haraith fwriadol o'i chof wrth syllu ar y dyn ieuanc a cheisio cael allan y dirgelwch ynglyn ag ef. Aeth Gwen i'r llofft i ddywedyd wrth ei thadcu pwy oedd yno.
Cyn pen munud neu ddwy daeth i lawr drachefn, a dychryn lond ei llygaid.
"Ma rhiw olwg ddierth iawn ar Daci," ebe hi. "Mai e am i chi'ch doi ddod lan.
Dilynodd Anna Ifans a'r gweinidog hi heb ddywedyd gair. Safasant wrth ymyl y gwely, ond prin y sylwodd yr hen wr eu bod yno. Cydiodd y gweinidog yn ei law, a gofynnodd iddo sut y teimlai. Araf a bloesg oedd yr ateb,—
"Mae arnaf chwant i'm datod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.
Penliniodd Gwen wrth y gwely, symudodd ei llaw yn ysgafn dros dalcen ei thadcu. Daeth Manw i mewn o rywle ar flaenau ei thraed. Aeth pawb yn ddistaw. Ni chlywid ond anadliad byrr y claf.
Cyn hir, trodd Dafydd Alun ei lygaid ar y ddau ddieithr, a dywedodd,—
"Duw a'ch halodd chi'ch dou ma heno. Arhoswch hyd y diwedd. Ma ise cwmni ar Gwen fach." Yna edrychodd yn dyner ar Gwen,—
"Chei di mo'r gwaetha, merch i. Ma Duw wedi addo gofalu am danat ti. Thorr E mo'i air."
Bu distawrwydd drachefn am bum munud hir, ddwys. Troediai'r claf ar hyd glyn cysgod angau ei hun, a'r rhai a'i gwyliai heb fedru dod ond i lan y dwr. Gan afael o hyd yn ei law, adroddodd y gweinidog yn ddistaw eiriau'r hen emyn,
Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.
Yn swn y geiriau cysurlawn croesodd Dafydd Alun yn ddiogel i'r lan draw.
Daeth cyffro mawr yn lle'r tawelwch i'r ystafell fach. Llefodd Manw'n uchel, a llewygodd Gwen. Tra y ceisiai Anna Ifans yn anfedrus ei dadebru, cymerodd Owen Elis hi yn ei freichiau, a chariodd hi i lawr dros y grisiau i fan lle ceid mwy o awyr; gosododd hi ar wastad ei chefn ar y lawr, tafledd ddwfr oer ar ei hwyneb nes iddi agor ei llygaid a syllu arno. Yna, pan ddaeth cymdogion o un i un at y tŷ, wedi clywed y newydd drwy ryw fodd, aeth y gweinidog oddiyno a'i gamre'n gloff iawn a'i galon drymed ag eiddo Gwen.
Y noson honno ym Maesyryn, ni flinai Anna Ifans adrodd ac ail-adrodd yr hyn a welsai. Yr oedd mwy nag un mater heb fod yn eglur iddi. Sut oedd Dafydd Alun,—hen wr gyfrifasai hi erioed yn oer a stoicaidd a digrefydd, heb feddwl fawr am gapel nac eglwys, yn marw felly ac adnodau ar ei wefus? A beth oedd y dirgelwch rhwng Gwen a'r Bugail? Mor awdurdodol a digywilydd y cymerasai hi'n ei freichiau! Efallai nad oedd hynny'n beth newydd iddo! Dyna'r gwaethaf o gael dyn ifanc yn weinidog. Ac yr oedd yr hen Ddafydd Alun wedi cystal a gofyn iddo ofalu am dani.
Aethai Ann i lawr ar unwaith i Isaber at Gwen.
Gwrandawai'r lleill yn awchus ar yr hanes cyffrous. Fflachiai llygaid Leisa'n beryglus, ac yfai John a Fred eu cawl llaeth yn egniol pan ddywedai Anna Ifans na synnai hi ddim pe clywid fod Gwen a'r gweinidog wedi priodi cyn i'r hen wr oeri'n ei fedd.