Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XXII

Oddi ar Wicidestun
XXI Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XXIII

XXII.

Ai nid yw'r adar fel yn cydymdeimlo?
Nid ynt fel arfer ar y berth yn pyncio;
Mae anian fel yn gwau ei galar emyn,
A'i adsain brudd yn crwydro hyd y dyffryn.

—PENNAR.

DAETH tyrfa fawr ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i Dafydd Alun. Heblaw trigolion Cwmgwynli, daeth ereill o bell, rhai a barchai'r hen wr fel un o ddisgynyddion hen deulu urddasol a fuasai unwaith yn cymeryd rhan amlwg yn hanes eu sir a'u gwlad. Daeth hefyd rai hynafgwyr cyfrifol a fuasai'n cydysgolia ag ef yn y blynyddau pell pan oedd ysgolia'n beth dieithr a phrin. Nid fel dyn dinod yn byw mewn bwthyn diarffordd y claddwyd Dafydd Alun, ond megis gwr mawr yn Israel.

Yn y wlad, mae dydd claddedigaeth yn un o'r cyfleusterau anaml geir i gymdeithasu ac i weled hen wynebau. Os bydd y ffordd o'r tŷ i'r capel yn hir, ceir amser hyfryd i drin holl faterion y wlad a'r ardal.

Ar eu taith araf, ai'r cynhebrwng heibio Pencnwcbach,— hen gartref Tomas Bŵen, Y Mwyndir, a bu'r lle a'i hanes yn destyn ymddiddan rhwng bron pob dau o'r dyr a ddu. Sylwyd fod llenni dros ei ffenestri, a bod ei ddrysau yng nghaead. Oddiar Wyl Fihangel buasai'r tŷ'n wag. Cawsai'r tenant rybudd i ymadael gan y bwriadai Tomos Bŵen a'i wraig a'i ferch ddychwelyd iddo i fyw rywbryd cyn y Nadolig, er mwyn rhoi'r Mwyndir i fyny i'w mab ar ei briodas a merch Maesyryn. Cofiai llawer am yr hen Sion Bŵen a'i wraig. Mor ffodus y buasai Tomos Bwen i'r hen Sion farw'n ddiewyllys! Synai pawb ar y pryd iddo fod mor garedig i'w nai. Gwyddid nad oedd ganddo berthynas arall, ac ni fuasai ganddo erioed olwg fawr ar ei nai. Soniai am dano'n ddigon mynych fel hen gigfran yn gwylio am gyfle i ddisgyn ar ei ysglyfaeth. Od na fuasai wedi trefnu'n wahanol, ond hen greadur digon od oedd fel Tomos Bŵen ei hun, ac y mae rhyw deimlad o barch gan bob dyn tuag at ei dylwyth. Rhyw radd o'r teimlad hwnnw'n ddiau a barasai i Sion beidio a rhoi ei arian i neb arall, a'i gasineb o'i nai a barasai iddo beidio gwneud ewyllys bendant yn ei ffafr ef. Trueni iddynt golli eu hunig ferch! Pa le'r oedd y forwyn honno fuasai'n eu gwasanaeth mor hir, ac a losgasai ei hwyneb yn y tân? Cofiodd rhywun glywed farw ohoni hi a'i gwr yn agos iawn at ei gilydd ychydig flynyddau'n ol, a chofiodd rhywun arall mai un o'r ardal honno oedd gweinidog ieuanc Y Bryn, ac o ryw gwrr o'r dyrfa, treiglodd y ffaith hynod mai mab y Gatrin honno oedd efe. I rai, parodd hynny syndod anghyffredin. Sut na fuasent wedi meddwl am y cysylltiad yng nghynt? I rai hefyd, nid oedd y newydd yn gwbl hyfryd. Carasent achyddiaeth fwy urddasol i'w Bugail. Ond i'r rhan fwyaf, enw pell o dir angof oedd enw Catrin Lewis.

Y cysylltiad hwn, yn ddiau, esboniai ddechreuad y gyfathrach rhwng y Bugail a theulu presennol Y Mwyndir. Os oedd yr hyn a ddywedid yn wir, tebig y byddai ef a merch y Mwyndir cyn hir yn wr a gwraig. Gallai'r ferch fod yn lodes digon neis, ond hen ddyn gwael oedd yr hen Domos, er crefydded ei osgo ac er hyotled ei weddiau. Gwir na feiddiai neb estyn bys ato, oherwydd nid pechodau cyhoeddus oedd yr eiddo ef, ac os eid i gosbi hunanoldeb a rhagrith, dy'st'rio! pa le y dechreuid, a pha le y gorffennid? Yr oedd yn gall iawn beth bynnag i roi'r Mwyndir i fyny i'w fab. Tebig mai aros iddynt setlo i lawr ym Mhencnwcbach oedd y ferch cyn eu gadael. Tua'r Gwanwyn felly, mae'n debig, y byddai'r briodas. Pa sail oedd i'r siarad? O. rhaid fod rhyw sail cyn buasai'r son wedi dechreu. Onid oeddid wedi gweld cludo cistiaid o dato'r Hydref o'r Mwyndir i dŷ'r gweinidog? Ac oni welsai rhywun rywbryd y ddeuddyn ieuanc yn cerdded fraichymraich? Felly y ffurfid y damcaniaethau ac y treiglid y stori yn swn cerddediad yr orymdaith a murmur lleddf olwynion yr hêrs.

Yr oedd meddyliau Tomos Bŵen ei hun hefyd yn brysur iawn wrth fynd heibio'i hen gartref. Y noson cynt clywsai yn ddamweiniol newydd a wnaethai i'w galon lawenychu'n ddirfawr. Yr oedd yr hen Rachel, yr hen wraig oedd a cholled arni, ar ei gwely angau. Dywedasai'r doctor nad oedd ganddi ond ychydig oriau i fyw. Mwy na thebig y clywid rhybuddio ei hangladd heddyw. Yr oedd pethau bellach yn ddiau yn cyfeirio fel y dylent. Unwaith y caeai hi ei llygaid gallai ef glecian ei fysedd ar bawb. Ni ddylasai fod wedi ameu'r hen wraig, ond paham y daethai'n ol i'r ardal i beri cymaint o anesmwythyd iddo? Wel, rhaid mentro rhyw gymaint yn y byd hwn. "Never venture, never win," meddai'r Sais. Yr oedd yn dda ganddo erbyn hyn ei fod wedi mentro. Daethai'r fenter a llu o fendithion iddo eisoes. Hyd yn oed pe dywedai'r hen Rachel rywbeth yn awr, yr oedd y peth mor bell yn ol, a phwy roisai ronyn o sylw i eiriau gwyllt hen wraig a cholled arni. Y tato a'r ymenyn a'r cywion roisid i'r Bugail a fuasai'r unig golled ynglŷn â'r peth wedi'r cyfan. Bu bron a chwerthin yn uchel yno yn yr angladd wrth gofio am ei gallineb yn trefnu go-gyfer a'r gwaethaf, a ffolineb ei ofnau disail. A dacw Owen Elis yn camu'n gloff o'i flaen heb freuddwydio gymaint o'i dynged oedd yn ei law ef—Bwen, Y Mwyndir! "Machgen mowr i," ebe ef yn ei feddwl wrth y Bugail, "wit ti wedi cal dy giw ola o'r Mwyndir, a gna di'n fowr o'r llwith tato gest ti stwetha, weli di'm în arall!" Lle digrif a diddorol oedd y byd wedi'r cyfan. Teimlai Tomos Bŵen hynny i'r eithaf wrth drwm gerdded gyda'r dorf.

Wedi'r gwasanaeth yn y capel ac yn y fynwent, cerddai Gwen a'i mam a Manw yn alarus oddiwrth y bedd. Daeth y gweinidog tuag atynt yn hanner ofnus i ysgwyd llaw â hwy. Tynerodd ei lygaid a chyffrôdd ei wedd wrth edrych ar Gwen yn ei du a'i dagrau. Paham na chai ei chymeryd yn ei freichiau a'i gwasgu at ei galon fel y gwnaethai'r noson honno yn y tŷ? Waeth beth geisiai feddwl am hynny, yr oedd ei deimlad tuag ati bron mynd yn drech nag ef, a gorfu iddo droi ymaith yn frysiog, nes gwneud i galon Gwen grynu, ac i'w mam synnu mor fyrr yr oedd yn ei ymddiddan ac mor anfedrus oedd fel gweinidog yn ei ymdrechion i gysuro pobl.

"Annar minid, Syr, os gwelwch chi'n ddê," ebe rhyw lais tu ol i Owen Elis pan gerddai'n frysiog tua'i gartref. Arhosodd y gweinidog, a gwelodd wr bychan dieithr yn ei ymyl, yn dal ei het yn ei law, ac yn sychu'r chwys oddiar ei dalcen.

"O'n i weti meddwl e'ch dala chi cin i chi ddod o'r englodd," ehe ef. "Ma ngwraig i bron marw. Ma'r doctor yn gwêd taw ffili marw ma'i o achos rwpath. Mi ofynnws y bora ma am gal e'ch gweld chi, Syr. Din a wir pam gofynnws i am denoch chi. Ma rwi gollad bach arni slwar didd, ond odd i'n dishgwl yn i senses y bora ma, a odd raid i fi ddod i whilo am denoch chi. Ddewch chi, Syr?"

Dylifodd y dyn bychan ei eiriau allan bron heb anadl. Wedi cael ychydig fanylion pellach, trodd y gweinidog yn ol gydag ef yn ddibetrus. Yr oedd ganddynt lawn tair milltir a'u blaen cyn cyrraedd ardal Glynygroes, ac er iddynt gyfarfod ag amryw o bobl yr angladd wrth fynd yn ol heibio'r capel, nid amser oedd hwnnw i aros ac esbonio.

Nodiadau

[golygu]