Bugail y Bryn/XXIII
| ← XXII | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XXIV → |
XXIII.
Hallt yw'r môr i'r sawl a'i profo.
Cas yw'r byd i'r neb a'i caro.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.
ARWEINIODD Jincins y gweinidog i fwthyn bach tô gwellt ar gwrr pellaf pentref Glynygroes. I ddychymyg byw Owen Elis yr oedd gwedd allanol y bwthyn fel wyneb cyfaill yn sefyll i fyny i'w rybuddio o ryw brudd-der llethol tu mewn. Tremiai'r ddwy ffenestr fechan arno fel dau lygad syn, a phlygu eu pennau'n drist wnai'r ychydig flodau gerllaw. Dwy ystafell oedd i'r bwthyn, ac yr oeddent yn lân iawn ac wedi eu dodrefnu'n ddigon gweddus heb ol tlodi ar ddim. Ar wely uchel yn y penucha' gorweddai hen wraig, ei hwyneb rhychiog bron mor welw a'r gobennydd—ei llygaid yn wyllt, a'i dwylaw hen yn symud yn aflonydd ar y dillad glân. Safai un o wragedd y pentref gerllaw i weini arni.
"Rachal, dyma'r gweinidog wedi dod, Rachel fach," ebe'r dyn bach.
Tynnodd yr hen wraig ochenaid ddofn, llonyddodd ei dwylaw a'i llygaid, edrychodd yn syn ar y gweinidog, gafael- odd yn dyn yn y llaw estynnodd iddi, a dywedodd yn araf a bloesg,—
"Owen Elis, mab Catrin, mab Y Mwyndir, gŵr Y Mwyndir, perchen Y Mwyndir!"
Trodd Jincins ei gefn at y gwely, a sibrydodd wrth y gweinidog ryw ymddiheurad am eiriau ei wraig, oherwydd nid dieithr i'w glustiau yntau oedd y si am y gweinidog a merch Y Mwyndir.
"Fiws hi'n forwn yn Y Mwyndir, 'lwch chi, yno ma'i meddwl i'n ddiweddar. Do's dim iws dishgwl ar beth mai'n wêd, ma'r meddwl bech yn crwidro, oti, oti, ma'r meddwl bech yn crwidro."
"John," ebe llais clir o'r gwely, "cer mas o'r ti nawr, cer di a Mali, cerwch i rywle a chaewch y drws."
Nid oedd modd anufuddhau. Gorfu i'r hen wraig gael ei boddloni taw nid yn y gegin yr oeddent. Ymddangosai erbyn hyn yn hollol effro a chlir ei meddwl.
"Odich chi'n gweld y basged bach co si'n hongian dan lofft "ebe hi wrth y gweinidog. "Dewch ag ei fi. Dyna! Isteddwch ar y gater na, nawr, Syr, a grondwch ar gyffes Rachel Jincins."
Yr oedd y fasged fechan yn llawn o bellennau edafedd. Chwiliodd yr hen wraig ynddo, a chafodd un fawr lwyd, ac ychydig edau goch wedi ei ddirwyn am dani fel ar ddamwain. Daliodd y bellen yn ei llaw, syllodd arni'n fud, a llanwodd ei llygaid o ddagrau. Yna'n sydyn, gydag ochenaid dywedodd,-
"Do's gida fi ddim amser i golli," a thynnodd ymaith yr edau goch gan ddechreu dirwyn yr edafedd am ei bysedd. "Dirwinwch chi," ebe hi wrth y gweinidog, "rw i wedi blino."
Ufuddhaodd y pregethwr syn, gan deimlo mai gwell peidio croesi ewyllys yr hen wraig, er mor ffol a dibwrpas ei gofynion. Teimlai'n ddigon anghysurus, a dymunai'n ei galon am i rywbeth beri i John Jincins ddod i mewn. Ond, er prudded yr amgylchiadau, ni fedrai lai na gweld ochr ddigrif y peth. Daethai yno, fel y tybiai, i weini cysuri un ar fin marw, ac wele ef, yn holl bwysigrwydd ei ddillad duon goreu, yn anfedrus ddirwyn edafedd; a'r hen wraig ar ei gwely yn syllu amo'n ddibaid a'i llygaid gwyllt, gan furmur yn awr ac eilwaith eiriau rhyfedd digyswllt.
"Ma dwst ar yr hen bellen, dwst igen mline. Tinnwch y dafe'n dinnach, drichwch mor llac i chi'n dirwn! Pwi feddylie am y bellen—yn y basged fan na gida'r lleill? Megis doe dirwines i ddi,—megis doe,—igen mline. A ma'n dda gen i nawr i fi neid. Mi beches, do, ond own i'm yn ddrwg i gid, mi ddifares ddigon. Fies i'm yn hapis, naddo, fies i'm yn hapis! A mi ro i bethe'n reit. Rhingto fe a'i fisnes! Does da fi ond bwrw'n hinan ar drigaredd Duw. Well gen i fwrw'n hinan ar drigaredd Duw nag ar drigaredd Twm Bwen, Y Mwyndir."
Cyn hir, pan oedd Owen Elis wedi hen flino ar ei waith. a'r bellen newydd oedd yn ei law bron cymaint a'i ddeu-ddwrn, ac mor feddal a gobennydd Rachel, daeth diwedd y dirwyn i'r golwg yn ymddangosiad darn o bapyr plygedig rhwng gweddill yr edafedd. Cydiodd Rachel yn y papyr yn wyllt, a daliodd ei gafael ynddo nes ei gael yn rhydd o'r edafedd.
"Rhowch y dafe yn y fasged nol dan lofft nawr," ebe hi. Agorodd y papyr yn ofalus, a'i dwylaw hen yn crynu. Edrychodd yn syn ar yr ysgrifen oedd wedi melynu gan henaint. Estynnodd ef i Owen Elis.
"Darllenwch,' 'ebe hi.
Crynai llaw a llais y gweinidog tra'n darllen y geiriau rhyfedd,—
Dyma fy Ewyllys olaf i-John Bowen, Y Mwyndir, Swydd X. Amaethwr.
O'r arian geir ar fy enw yn Y Banc, Abergwynli, gwnaer y taliadau a ganlyn,-
1. Deg punt i Tomos Bowen, Pencnwcbach, Swydd X, i dalu am unrhyw dreuliau ynglyn a'm claddu.
2. Deg punt i Rachel Parri, fy morwyn bresennol, os bydd yn fy ngwasanaeth pan fyddwyf farw. Dymunaf fod i'r gweddill o'm harian geir ar fy enw yn Y Banc, Abergwynli, ynghyd a'm holl feddiannau, sef fferm Y Mwyndir, a'r holl stoc, a'r crop; holl ddodrefn y tŷ, a phopeth o'm heiddo ym mhobman, ag eithrio'r ddau daliad uchod 1. a 2.,—i fod yn eiddo i Catrin Elis, yn awr o Foelygaer, Swydd X, am iddi unwaith beryglu ei bywyd er ceisio achub fy merch.
Arwyddwyd gennyf fi, JOHN BOWEN.
Dyddiad: Tachwedd 3ydd, 18
Arwyddwyd gennym ni, ym mhresenoldeb
John Bowen, ac ym mhresenoldeb ein gilydd,
SIMON PHYLIP.
ESEC LEWIS.
Cododd Owen Elis o'r gadair yn sydyn. Cerddodd yn wyllt-gloff ar draws ac ar hyd yr ystafell fechan gyfyng, a'r papyr melynwawr yn ei law. Ugain mlynedd yn ol! Y Mwyndir a'r meddiannau yn eiddo i'w fam er yr amser hwnnw, pan nad oedd ef ond pedair oed! A'i rieni druain wedi gorfod brwydro cymaint ag amgylchiadau bywyd ac wedi mynd i'w bedd, feallai yn anamserol, pan allent fod wedi byw'n gysurus uwchlaw pryderon!
Daeth gwaedd o'r gwely i dorri ar lif ei feddyliau,
"O! arhoswch, Syr! Dewch nol fan hin. Isteddwch i fi gal gweid yr hanes—i fi gal ciffesi. Does gen i'm amser i golli! Fidda i wedi mind toc o flân y Marnwr. Codwch y pilw dipin, ie, fel na, a grondwch yn ofalus. Alla i'm siarad yn uchel."
"Igen mline! ond wi'n cofio o hid. Wedd yr hen Sion ar farw, wedd e wedi bod fel marw bron trw'r di. We Tomos ac Ester ar lan yn y rwm da ge yn i ddisgwl e i dinni'r anal ola. Ddoith Tomos lawr ata i i'r gegin, lle'r own i'n dirwn dafe. Beiti naw o'r gloch y nos wedd i."
"Rachel," minte fe, "dyma sofren felen. Dyma hi i ti os gwedi di wrthw i ble ma gwillis yr hen wr."
Atebes i'm gaer am spel. "Wit ti am y bint?" minte fe lweth.
Chidig own i'n ennill. Twm Bwen we inig berthinas biw'r hen wr "Wedd pint yn bint i fi, Syr. Pwi ddrwg fidde mewn gweid? Mi wedes. Fe ath inte a channwll yn i law i ddrichid am deni.
Ddoith nol ymhen spel heb y gannwll. "Dere ma, Rachel," minte fe. Fe gaeodd ddrws y penisha arnom ni. "O Syr, shwt gweda i? Estinnwch y glas a'r dwr na i fi. Fe ddarllenodd y willis i fi. Dim iddo fe! Pe na bai willis, iddo fe bidde'r cwbwl.
"Ma'r ddoi witnest wedi mind," minte fe.
"Ma Esec yn dod gatre'n i goffin fori, a ma Simon wedi marw es blwiddin. Ti'n inig si'n gwbod bod gwillis i gal." Ginhigodd arian mowr i fi am losgi'r willis a dala nhafod. Own i'n crini! We nhw'n arian mowr-can pint!
"Llosg i nawr," minte fe.
"Os gna i, rhaid i chi roi'ch addewid ar bapir," minte fi. Fe nath hinni. We'r papir gen i'n în llaw, a'r willis yn y llaw arall.
Wn i ddim beth barodd iddo find i'r lofft ar y finid ni at yr hen wr. Fe halodd rhwbeth e heb iddo stando. Ar yr în finid fe ddoith siniad newi ata inne o rwle. Mi bliges bapir y willis a mi ddirwines ddafe'n din am dano, a mi nês bellen fowr 'n inion. Wedd llithir gen i yn y mhoced, mi roies hwnnw'n y tân. Wedd e'n llosgi'n neis pan doith Bwen lawr, a'r bellen yn ddiniwed i golwg fan ni ar stol.
"Dina'ch willis chi," minte fi, a mi wasgeres y papir llosgedig a'r pocer.
Fe nghredoddi ar y ngair. Mi ges y canpint, gas inte'r Mwyndir. Nawr, dyma'r willis i chi. Minnwch i phrofi ddi. Cerwch at Morus y Shop. Ma da ge lithiron mi wn o wrth yr hen Sion a'r ddoi witnest, allwch brofi'r llaw- 'sgrife owrth rheini. Cerwch at gifreithwr. Chi bia'r Mwyndir. Fies i'm yn hapis, ond dyna fi wedi rhoi pethe'n reit, a nawr,—
Gyda chri wylofus, syrthiodd yr hen wraig yn ol ar y gobennydd. Pan ddaeth John Jincins ar flaenau ei draed at y ffenestr, gwelodd y gweinidog ar ei liniau wrth y gwely a'r hen wraig a'i llygaid yng nghau yn anadlu'n drwm. Ni chaed gair ganddi drachefn. Cyn hanner nos bu farw.