Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XXIV

Oddi ar Wicidestun
XXIII Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XXV

XXIV.

Ac anniddig iawn oeddwn,—gwyddwn ing
Gweddi nos ar wndwn;
Enaid yn byw o dan bwn a dolur,
Arial o gysur awel a geisiwn.

—T. H. PARRY WILLIAMS.

FEL un mewn breuddwyd y cerddodd Bugail y Bryn o bentref Glynygroes tua'i gartref. Gan mor llawn o'i feddyliau ei hun yr oedd, ni welodd Bwen, Y Mwyndir, a. golwg ddychrynedig yn ei lygaid yn troi i efail Simon y gof yng ngwaelod y pentref.

Nid hon oedd yr efail agosaf i'r Mwyndir, ac anaml yr ai Tomos Bwen yno; ond wedi meddwl ychydig, llwyddodd i gael neges cyfaddas. Yr oedd arno awydd bod rywle ym mhentref Glynygroes y prynhawn hwnnw, fel ag i glywed yn gynnar y newydd a ddisgwyliai, a gwyddai pawb nad oedd gof Cwmgwynli yn agos cystal a gof Glynygroes am wneud swch a chwlltwr.

Wedi cyfarch y gof a chael rhywbeth cyfaddas i eistedd arno yn aflerwch yr efail, gofynnodd mor ddidaro ag y medrai,—

"Ble mai e'r boi cloff wedi bod heddi, te?"

Rhoddodd y gof drem tua'r heol a gwelodd Owen Elis ar fynd o'r golwg yn y tro; cydiodd mewn darn o haearn, dododd ef yn y tân, chwythodd yn egniol a'r fegin a phoerodd yn chwim i'r lludw poeth cyn ateb.

"Nawr mai e'n mind nol! Ma hen wraig ar lan fan na'n wael iawn,—Rachel, gwraig John Shincin. Beth, i chi'n i nhabod i, morwm y Mwyndir gint. Wedd i'n galw'n rhifedd am weld Elis. Ath lan da Shincin o'r angla ginne, a nawr mai e'n mind nol. Mai e na es awr a hanner dda." Sychodd Tomos Bwen y chwys oddiar ei dalcen, gan ddywedyd wrth y gof ei bod yn glos iawn i gerdded er fod y gaeaf yn ymyl.

"Ble bioch chi, te? Nid nawr i chi'n dod o'r angla?" gofynnai Miss Elis o'r drws, tra'n gwylio'r gweinidog yn dynesu at y tŷ, a mwy nag arfer o nodau cur a blinder ar ei wedd.

Fe halwd yn hol i i Glynygroes at hen wraig oedd ar fin marw."

"Glynygroes! Owen bach, pam na ddoithech chi nol, gal tipyn o ginno yng nghinta? Rhaid i chi feddwl rhwbeth am e'ch hinan."

"Gymera i gwpaned o dê nawr, os yw e'n barod," ebe yntau'n flin, gan eistedd ar ei gadair, a syllu'n drist i'r tân cwlwm siriol.

Yn fuan wedi tê, dywedodd wrth ei fodryb ei fod yn mynd allan drachefn, ac os byddai'n hwyr arno'n dychwelyd, am iddi beidio aros ar lawr i'w ddisgwyl.

"Owen bach! A chithe wedi blino cimint," protestiai Miss Elis.

"Rw i wedi dadflino nawr. Ma raid i fi fynd. Cerwch chi i'r gwely, modryb," ebe ef, a chyda'r eglurhad hanerog hwnnw, aeth Owen Elis i geisio'i het a'i got fawr.

Yr oedd Miss Elis yn hen gyfarwydd â byw ar hanner- esboniadau felly ar ran ei nai. Buasai'n well ganddi gadw tŷ i rywun a fedrai ddeall yn drwyadl,—rhywun mwy tebig i bob dyn arall. Ond er yn byw dan yr un to, yr oedd Owen Elis mor bell oddiwrthi a phe bai yn byw ar gyfandir arall, ac ers llawer dydd, rhoisai Miss Elis i fyny bob gobaith am fynd yn agos ato. Ocheneidiodd a throdd at ei gwaith.

Ocheneidiodd Owen Elis hefyd. Oni hoffai yntau ar lawer adeg, Duw a wyr, fod yn debycach i bob dyn arall; medru ymgomio'n rhydd ac agored am ei lawenydd a'i wae, yn lle bod fel meudwy ar ynys, mor ofnadwy bell oddiwrth bawb a'r eigion yn berwi o'i gylch! Eithr heb fedru dewis, oni raid i bob dyn ddygymod a'i bersonoliaeth ei hun er gwell neu er gwaeth am byth?

Wedi datguddiadau'r dydd, teimlai'r dyn ieuanc awydd anorchfygol i fynd hyd at Y Mwyndir; eistedd ar ryw gamfa heb fod yn rhy agos i'r tŷ, a'r nos garedig yn ei gysgodi, ac yno wrtho'i hun, ceisio meddwl yn glir am bethau.

Cerddodd yn gyflym drwy'r tywyllwch. Er nad oedd ond prin wyth o'r gloch nid oedd nemawr o bobl ar hyd y ffyrdd. Aeth heibio'r fynwent, lle'r oeddis newydd osod Dafydd Alun i orwedd; croesodd gloddiau a daeth allan o fewn lled cae i'r Mwyndir, ar lethr y tu ol i'r tŷ. Gorweddai twrr o loi'r Gwanwyn yn un cornel i'r cae. Camodd yn ysgafn rhag eu dychrynu. Ger y cornel arall, safai hen glwyd segur ar ymyl y clawdd. Eisteddodd ar honno.

Arhosodd yn llonydd er mwyn i dangnefedd y nos dreiddio i'w enaid. Cyn hir cliriodd ei feddwl.

Eiddo ef yr erwau bras o'i gylch, eiddo ef y ffermdai clyd yng nghysgod y coed, eiddo ef y coed eu hunain! Caeodd ei law'n dyn am y papyr melynwawr yn ei boced. A ai yn awr i lawr hyd y tŷ ac i mewn drwy'r drws i ddal y gorffennol o flaen llygaid Tomos Bwen? Pa ryw wyneb fedrai hwnnw ddangos wedi'r dadleniad? Ond yr oedd yn rhy gynnar eto.

A dyma'r lle bu ei fam yn llafurio'n galed am flynyddau maith. Cododd a thremiodd yn wyliadwrus drwy'r bwlch er mwyn cael llawn olwg ar y clôs, a thai'r anifeiliaid. Dychmygai weld ei fam yn awr yn symud hyd y fan,—ei chefn wedi crymu dan bwys llafur oes, a'i llygaid mor llawn o fwyneidd-dra dirwgnach. Gweithio, gweithio fu ei rhan. hi hyd y diwedd, gweithio er ei fwyn ef, ac O! gweithio pan ddylasai ei byd fod yn gysurus a'i dyfodol yn ddibryder. Eisteddodd Owen Elis drachefn ar yr hen glwyd, pwysodd ei ben ar ei ddwylaw, cynhyrfwyd ei enaid.

Daeth i'w gof ymddygiad Tomos Bwen tuag ato drwy gydol y flwyddyn. Cofiodd am y modd dibris y derbyniasai ei gyfeiriad ef at aberth ei fam. Cofiodd mor reddfol anghysurus y teimlasai ef yn wyneb caredigrwydd nodedig Y Mwyndir yn ddiweddar. A beth oedd y rheswm am y caredigrwydd hwn? Hir y bu Owen Elis cyn canfod y cysylltiad, oherwydd anghyfarwydd a diddarfelydd oedd efe yng nghynlluniau cyfrwys plant y byd. O'r diwedd, tywynnodd goleuni arno. Deallodd genhadaeth yr ymenyn, y cywion ieir, a'r llwythi tato, ac O! syndod, gwelodd ystyr danfoniad Marged Elen mor aml. Ceisio unioni'r cam felly! Er mwyn osgoi dial, ei wneud yn un o'r teulu! Ceisio newid cwrs ei fywyd ef i wasanaethu eu dybenion isel eu hunain!

Mor dda ganddo na syrthiasai i'r rhwyd a osodasid iddo. Ni feddyliasai erioed am Marged Elen ond fel plentyn. Yr oedd mor bell o'i feddwl ef a phe bai yn naw oed yn lle yn ddeunaw. Marged Elen! Nid oedd un ferch yn bod' iddo ef ond Gwen. Ai heddyw yr ysgydwasai law a Gwen, yno yn ei dillad duon a'r dagrau ar ei grudd? Beth pe gwybu- asai Gwen am ei deimlad cynnes tuag ati, am y frwydr bar- haus yn ei fron! Eithr ni roed iddo ef y mwyniant o gael dywedyd ei gariad wrthi a gwylio ddeffro o Serch yn ei chalon hithau. Anhebig i ddynion ereill oedd efe yn hyn eto, a pha bryd y sylweddolai hynny ac yr ymlonyddai ei enaid? Pa bryd y medrai roi ei hun yn gyfangwbl i'r llawenydd uwch, yn lle siglo o'r naill i'r llall a cholli'r ddau?

Beth oedd da'r byd hwn iddo ef? Pa les iddo ef fyddai meddiant o'r Mwyndir a'r meddiannau? Yr oedd ganddo'n awr ddigon at ei raid. Nid oedd ganddo neb i ddod ar ei ol. Ni fyddai yn amddifadu neb o'r hyn oedd eiddo iddynt. A oedd yn werth iddo ef,—a fuasai'n deilwng o'i urddas i ymgecru ag ereill am elw bydol, i ymgiprys am bethau nad oedd ar y goreu ond pethau dros amser? Yr oedd ganddo hawl iddynt, oedd. Ond a oedd yn werth iddo ef drwy chwys a lludded fynnu dangos ei hawl at beth oedd wedi'r cyfan mor gymharol ddibwys? Gwnaed cam a'i dad a'i fam. Do, ond dianghasent hwy, a gwell goddef cam na'i wneuthur. Gwnaed cam ag yntau. A gai hynny derfysgu ei enaid yn awr?

Tybed nad bwriad Duw oedd cadw'r pethau hyn oddiwrtho? Po leiaf yr afael o'r ddaear, rhwyddach ac uwch y gellid esgyn. Onid rhan o driniaeth Duw ar ei enaid oedd tlodi a phrudd-der ei febyd? Ie, yn ddiameu. Anrhydedd fawr cael dibrisio popeth daear er Ei fwyn Ef!

Beth yw holl dda daear at ryddid enaid?

Gallai Tomos Bwen a'i deulu gysgu'n dawel. Nid ai ef heno nag un noson arall i aflonyddu arnynt, a thynnu dan seiliau eu cysuron. Pell oedd o genfigennu wrth Tomos Bwen. Yn hytrach, tosturiai wrtho am iddo werthu heddwch cydwybod mor rhad. Tosturiai hefyd wrth yr hen wraig gariasai bwysau'r gyfrinach erch am gyhyd o amser nes rhychu ei gwedd ac amharu ei synnwyr.

Cododd, ac aeth yn araf at y bwlch arweiniai o'r cae i'r lôn. Clywodd swn cerdded a siarad. Adnabu lais Ann, Maesyryn. Ar ei ffordd adref o'r Mwyndir yr oedd yn ddiau, a Josi oedd ei chwmni. Yr oedd dydd eu priodas wedi ei benodi. Arhosodd y gweinidog lle yr oedd nes iddynt fynd heibio. Daeth llais tawel Josi tuag ato,-

Wit ti'n meddwl biddi di'n hapis yn Y Mwyndir, Ann?" "Wrth gwrs, Jo. Fiddi di a finne'r ddoi hapisa fio biw ariod! Do's dim lle fel Y Mwyndir yn y byd..

Rwi'n hoffi'r nith, rwi'n hoffi'r nith, Ac, O! rwi'n hoffi'r derin!"

ac yna swn chwerthin llawen.

Cyn mynd i'w wely'r noson honno, tynnodd Owen Elis y papyr melynwawr, rhychiog, o'i boced; edrychodd arno'n syn am funud gyfan, yna daliodd ef yn fflam y gannwyll, a gwyliodd y llawysgrif grynedig, anunion, air ar ol gair, oll yn llosgi'n ulw.

Nodiadau

[golygu]