Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XXV

Oddi ar Wicidestun
XXIV Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XXVI

XXV.

"Un ffordd iawn, gyfiawn a gwedd,
Un arall drwy anwiredd."

PAN ddeffrodd Owen Elis drannoeth yr ymdrech, teimlai'n ddyn newydd. Yr oedd ei benderfyniad wedi ei wneud, ac nid oedd bellach fodd i'w newid. Daeth llwybr bywyd drachefn yn glir. Bu'r dydd hwnnw yn un o'i ddyddiau goreu yn ei fyfyrgell; bu myfyrio a chyfansoddi mor ddi-drafferth iddo ag anadlu.

Awyddai am fynd i'r Mwyndir drachefn i weld yr hen le a phrofi iddo'i hun nad edifar ganddo ei benderfyniad ynglŷn ag ef. Awyddai edrych i wyneb Tomos Bwen yn y goleuni newydd gawsai ar gymeriad hwnnw. Hwyrach mai eisieu cyfle oedd arno yntau i gyffesu. Ai tybed mai grisiau at y gyffes gyflawn oedd rhoddion y dyddiau diweddaf? Awyddai hefyd fynd tua Maesyryn i weld hapusrwydd yn tywynnu o lygaid diwenwyn Ann, yn y rhagolwg ar ei bywyd fel gwraig Y Mwyndir, ac yn ei dedwyddwch hi cai yntau'r dedwydd- wch o feddwl y gallasai ef fod wedi cymylu ei dyfodol, ac iddo gael gras i beidio. O dan, ac yn gymysg a phob awydd arall, awyddai am fynd i Isaber, a chael eto edrych yn llygaid Gwen.

Yn hwyr y dydd hwnnw, daeth Miss Elis adref o siop y pentref a'r newydd rhyfedd fod Tomos Bwen, Y Mwyndir, ar goll. Ni welsai neb ef wedi amser noswylio'r noson cynt. Pan ddeffrodd Ester Bwen yn y bore, gwelodd nad oedd ei gwr yn y gwely, ac er chwilio a chwilio, ni chawsid dim o'i hanes yn ystod y dydd. Adroddodd Miss Elis farn hwn ac arall fel y'u clywsai yn y siop. Hen ddyn od oedd Tomos Bwen erioed.

Er fod pob ymddangosiad allanol yn ddifai, digon anghysurus oedd bywyd yn Y Mwyndir. Yr oedd ofn croesi'r hen ddyn arnynt i gyd. Yn ddiweddar, hefyd, bu- asai'n fwy cecrus nag arfer. Bernid fod ei fwriad i ymadael â'r Mwyndir wedi pwyso arno nes amharu ei synnwyr.

Ond os teimlai felly, pa reidrwydd oedd arno i roi'r Mwyndir i'w fab? Yr oedd yn drueni gweld Ester Bwen, meddid. Ofni wnaent ei fod wedi gwneud niwed iddo'i hunan rywle. Ond pa le y gallasai fod wedi mynd?

Yn gynnar drannoeth, aeth y gweinidog i geisio gweini cysur i'r teulu adfydus.

Eisteddai Ester Bwen wrth y tân cwlwm yn y gegin oreu, a shol ddu hir am ei gwarr. Edrychodd yn ofidus a hanner ofnus ar y gweinidog, a phlygodd ei phen drachefn heb siarad gair. Daeth Marged Elen i mewn. Prudd oedd hithau, ond gwridodd yn brydferth a gwenodd yn fwyn iawn wrth ysgwyd llaw. Mor fuan y daethai'r gweinidog i'w gweled! Ni chlywsai erioed iddo frysio felly at deuluoedd ereill yn eu gofid, a dyma 'fe yn eu tŷ hwy am unarddeg yn y bore!

Atebodd ei holiadau caredig a rhoddodd iddo holl hanes pethau er pan welsid eisiau ei thad. Ymhen ychydig, unodd Ester Bwen hefyd yn yr ymddiddan. Yr oedd ganddynt ryw gymaint o gysur erbyn hyn; gwelsent fod Tomos Bwen wedi cymeryd gydag ef ddeugain punt, pris nifer o fustych werthasai yn y ffair ddechreu'r wythnos. Nid oedd yr arian yn eu lle arferol, ac yr oeddent yno'r noson cyn ei ymadawiad. Awgrymai hynny mai mynd i ffwrdd i rywle a wnaethai, ac nid gwneud diwedd arno'i hun. Ond i ble a phaham? Yr hyn wnai'r peth yn fwy chwithig fyth oedd y ffaith fod dydd priodas Josi ac Ann wedi ei benodi. Prin pythefnos oedd hyd hynny. Yr oeddent hwy eisoes wedi dechreu symud eu pethau i Bencnwcbach, ac yn awr, dyma hyn yn torri ar draws eu holl drefniadau. Yr oedd yn dda cael rhyw awgrym ei fod yn fyw, ond beth i wneud, a pha fodd i drefnu pethau, ni wyddai Ester Bwen yn ei byw.

Syllodd y gweinidog yn syn ar wyneb curiedig y wraig, tra y siaradai. Pa faint o hanes yr ewyllys a wyddai hi tybed? Os oedd yn gyfrannog yn y pechod, diau mai cael ei gorfodi i hynny gan natur gryfach ei gwr a wnaethai. Edrychai fel pe wedi ufuddhau ac ofni ar hyd ei hoes. Tosturiodd Owen Elis wrthi, a cheisiodd drwy ei eiriau a'i ymddygiad, wasgar ei hofnau a'i phryderon—os oedd yn ofni a phryderu—ynglŷn â'i gysylltiad ef a'r Mwyndir. Cynghorodd hwy i fod yn dawel ac i fynd ymlaen a'u trefniadau blaenorol ynglŷn â'r briodas a'r symud. Diau y caent ryw esboniad buan ar ymddygiad rhyfedd Tomos Bwen.

Daeth Josi, gan hanner rhedeg, i mewn i'r tŷ. Buasai ym Maesyryn yn cario'r newydd am y deugain punt i ysgafnhau calon Ann. Cyn cymeryd amser i gyfarch y gweinidog, dywedodd,

"Mam, mi welwd nhad ar stesion Abergwynli bore dwe yn disgwl y tren naw. Trafeilwr oedd yn gneid yn siop y Pentre bore heddi iddo'i weld e a'i liged i hinan. We crwt y siop ar y lôn fan na nawr, ar i ffordd 'lan i weid."

Wylodd Ester Bwen a Marged Elen. Ble gaflasai fod erbyn hyn? Beth fyddai'r trydydd newydd glywid am dano? Holwyd ac atebwyd, ac aed dros bethau drachefn gyda Josi.

"Wi'm yn diall beth gododd ar nhad. Allwch chi roi rhiw esboniad, Mr. Elis?" gofynnai Josi, gan edrych yn wyneb y gweinidog a'i lygad yn llawn pryder.

O'r braidd y medrodd Owen Elis beidio datguddio'r gyfrinach drist. Iddo ef, yr oedd pethau'n eglur ddigon. Yr euog a ffy heb ei erlid. Diau i Tomos Bwen glywed am ei ymweliad ef a'r hen wraig. Credodd fod amser y ddrycin wedi dod, a cheisiodd redeg i'r cysgod gan adael ei wraig a'i blant i wynebu'r gwaethaf. Yn lle cyffesu, llithro o un camwedd i gamwedd arall wnai'r dyn. Anghofiodd y gweinidog ei dosturi. Fflachiodd ei lygaid ar ei waethaf yn lle ateb cwestiwn Josi, dywedodd yn dyner,— "Mae'r cwbl yn ymddangos yn dywyll iawn. Does gyda chi ond ceisio bod yn amyneddgar. Synnwn i ddim na chaech chi air oddiwrtho cyn pen ychydig ddyddiau. Fe dry pethau'n well nag ydych chi'n ofni, rwy'n teimlo'n sicr." Dywedodd hefyd ei fod yn mynd heibio Maesyryn, ac y cariai'r newydd olaf i Ann, ac ail-adroddodd ei gynghorion ynghylch y briodas a'r symud.

Pan oedd yn ymadael, daeth Ester Bwen gydag ef at y drws, a dywedodd wrtho a'r dagrau'n ei llygaid,-

"Ma dda gen i'ch bod chi wedi dod lan i'n gweld ni yn ein gofid. Alla i'm gweid mor dda si gen i. I chi wedi rhoi pwer o gysir i fi. Diolch i chi, machgen i."

Yr oedd Leisa, Maesyryn, ar ei ffordd adref o'r siop,- yr oedd llawer o gerdded rhwng Maesyryn a'r siop y dyddiau hynny. Edrychodd yn ol o ben rhiw'r Bwlch i gael golwg ar y dyffryn ac hefyd i gael anadl, oherwydd yr oedd ei basged yn drwm. Yn nhro'r ffordd ar y gwaelod gwelodd rywun mewn dillad duon yn cerdded yn gloff. Rhoddodd ei meddwl cyflym ar waith. Dod i Maesyryn yr oedd yn ddiau, er nad o'r cyfeiriad arferol. Cymerai bum' munud iddo gyrraedd gwaelod y rhiw. Pam na fuasai hi wedi digwydd. bod bum munud yn hwyrach, ac felly gael cyd-gerdded ag ef? Cofiodd fod eisieu dweyd wrth Nel, Troedyrhiw, eu bod wedi corddi ym Maesyryn y bore hwnnw, ac am iddi ddod a'i hysten i gael llaeth enwyn. Brysiodd yn ol a'r fasged ar ei braich. Yr oedd arni ormod o frys i fynd i'r tŷ ar waethaf cymhellion Neli. Siaradodd ychydig eiriau a hi ger y drws. Yr oedd cymaint o waith ym Maesyryn y dyddiau hynny; yr oedd hi yn wir wedi blino arno, a hwyrach mai ofer fyddai'r helger i gyd eto os na cheid rhyw oleuni ar achos yr hen Domos Bwen. Yr oedd yn dda ganddi mai Ann ac nid hi oedd yn mynd i mewn i'r fath deulu.

Pan ddywedodd ei chlust effro wrthi fod yr amser cyfaddas wedi dod, cododd ei basged, chwarddodd yn llon pan ddywedodd Nel y clywid am briodas arall ym Maesyryn eto cyn hir, ac, a'r wên ar ei hwyneb aeth allan i'r lôn yr un funud ag y cyrhaeddodd y gweinidog yno.

"Helo, Mr. Elis!" ebe hi, gan agor ei llygaid mewn syndod, pwi feddylie'ch gweld chi ffor hin mor fore?"

Cafodd Owen Elis eto'r fraint o gario basged.

Helynt y Mwyndir, wrth gwrs, oedd pwnc cyntaf eu hym ddiddan, yna pan soniwyd ddarfod gweld Tomos Bwen yn ymddangosiadol yn ei iawn bwyll yn angladd Dafydd Alun, llithrodd yr ymddiddan yn rhwydd at Gwen.

Siarad yn fwyn iawn wnai Leisa am Gwen. Er yn ei charu'n fawr ni allai wrth gwrs lai na gweld ei ffaeleddau amlwg. Ei hoffter o honi'n wir a barai fod y rhai hyn yn peri cymaint blinder iddi.

"Trieni am Gwen, drian fach," ebe hi, "mai'n ifanc iawn i fod mor bell o wrth i mham? "'

"Pam? Beth sy'n bod?" ebe'r gweinidog, dipyn yn frysiog.

'O, wel," petrusai Leisa, "difeddwl iw i wedi bod. Wi'n shwr taw hinni iw e, dim yn ystiried mai. Ma Ann a hithe'n bartners mowr wrth gwrs, ond dim nawr 'n agos fel bion nw. Ma Ann yn dachre diall pethe nawr."

"Pam, ynte? Beth sydd i'w ddweyd am Gwen Alun?" gofynnai'r gweinidog eto.

Wel, dw i'm yn leico gweid wrthoch chi, seriws, Mr. Elis," ebe Leisa, gan wrido'n brydferth.

"Odich chi'n nabod Fred we da ni'n was?"

"Ydw. Ai nid gyda chi mae Fred eleni?"

Nage. Gwas aral si da ni leni. Diwedd yr wthnos ddiwetha gadawodd Fred wrth gwrs. Do's dim neb yn gwbod beth mai e'n oligi neid mwy, wede fe'm gair o'i blans wrth nhad, ond mae e yn y gwmdogeth o hid,—yn lodjo da Anna'r Bwlch. Gwen si'n gwbod i hanes e ore, clo. Pan wedd i thaci'n wael, wedd i'n mind mas da Fred bron bob nos, a nawr, wrth gwrs,

"Mae ei chwaer yna gyda hi on'd yw hi?"

"Odi, am wn i. Trieni si am Gwen, drian fach. Dim yn stando mai. Ma Fred yn weithwr da, ond wrth gwrs, we ni'n gweld ol peth ifed arno o hid, a hen Sais yw e wedin!"

Rwy'n mynd i alw i weld Miss Alun, heddyw ar fy ffordd yn ol," ebe'r Bugail, a newidiodd bwnc yr ymddiddan yn ddiymdroi, ac ofnodd Leisa'n ei chalon mai ofer ei gwaith.

Aethai Morgan Ifans i'r farchnad, ond yr oedd John y mab gartref. Mynnodd Leisa gyfle i roi gair o gyngor iddo, a gwyddai fod gan John ei resymau ei hun dros fod yn ddigon parod i wrando arni.

"Mai e'n mind i weld Gwen Alun. Cer i hebrwn e, gan nad iw nhad ma. Minn esgis i find da ge i Isaber. Dyna nawn i pe bawn i'n teimlo fel ti 'no," ebe hi, gan edrych yn ddirmygus ar wrid merchedaidd gruddiau John.

Felly, wedi gorffen ei neges, a mwynhau cwpanaid o dê cyn cinio gyda'r teulu, cychwynodd y gweinidog yn ol, ac aeth John yn wylaidd gydag ef drwy'r lôn gul. Beth gymerasai'r naill am ddweyd wrth y llall yr hyn a lanwai ei galon? Yn lle hynny, ceisient yn ddyfal feddwl am ryw bwnc i ymddiddan arno, ac yr oedd pob un o'r ddau yn llawer distawach nag y dymunai fod. Dywedodd rhywun mai modd i guddio teimladau a meddyliau yw geiriau, ac mai drwy ddistawrwydd y dadlennir un enaid i'r llall. Y bore hwnnw, ar waethaf eu hymdrechion, cafodd Owen Elis a John Ifans drem glir i galonnau ei gilydd.

Wedi dod at yr iet wen, arhosodd y gweinidog, estynnodd ei law i John, gan gymeryd yn ganiataol fod ymadael yno; ond dywedodd John, gan wrido, ond hefyd â llawn grym penderfyniad,—

"Wi'n dod gida chi dipin ymhellach, Mr. Elis, ma neges bach gen i at Dafi, Llainddu."

Daeth Isaber i'r golwg. Curai calonnau y ddau ddyn ieuanc, a gwylient ei gilydd yn llechwraidd. Yr oedd meddwl mynd i mewn yno yng nghwmni John yn groes i deimlad Mr. Elis. Synnodd deimlo'n ei fynwes rywbeth heblaw cariad brawdol tuag at John. Cyflymodd y ddau eu cerddediad heb yn wybod iddynt eu hunain. Daeth geiriau. Ni fu'r ddau mor siaradus drwy'r holl ffordd ag wrth basio'r tŷ hwnnw. O'r braidd y medrent ddioddef cwmni ei gilydd hyd Llainddu. Diseremoni fu eu ffarwel.

Aeth John i'w ffordd gan synnu debyced i ddynion meidrol oedd y Bugail. Amlwg oedd ei fod yn ddyn cyn bod yn sant. Yr un ffaith drist bwysai ar galon Owen Elis, ond yn gymysg â'r cwbl yr oedd penderfyniad cryf i fynnu gweld Gwen unwaith eto, heb ond ef a hi. Yr oedd yn ddyledswydd arno fynd i'w gweld. Daeth Dyledswydd am unwaith yn greadur newydd.

Nodiadau

[golygu]