Bugail y Bryn/XXVII
← XXVI | Bugail y Bryn gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
XXVIII → |
XXVII.
Fy neigr aeth o fewn y gro
Ar erchwynnau'r arch honno.
—TUDUR ALED.
WEDI'R tymhestloedd gerwin, daeth drachefn dywydd teg. Yr oedd bore priodas Ann, Maesyryn, twyned a bore o wanwyn. Torasai'r afon Gwynll dros ei cheulannau, gan orchuddio'r dolydd. Clywid ei rhu mawreddog o bob rhan o'r cwm tawel, a thywynnai'r haul yn siriol ar ruthr y dyfroedd.
Ciliasai'r storm bryderon hefyd o ffurfafen Ann a Josi, a gwenai'r haul, er yn wannaidd, fel haul Rhagfyr. Dri diwrnod cyn y briodas, caed' llythyr oddiwrth gyfnither i Ester Bwen o Lerpwl, yn dywedyd fod Tomos Bwen wedi dod yno'n ddisymwth wythnos yn ol; fod rhywbeth yn od yn ei ymddygiad, fel pe na bai yn ei iawn bwyll; ond wedi cael gorffwys a chysgu ei fod lawer yn well, ac y caent yn fuan esboniad llawn ganddo ef ei hun o'r tro rhyfedd a wnaethai.
Siaredid llawer am y digwyddiad o hyd yn ardal Cwm-gwynli. Barnai rhai fod rhywbeth tu ol i'r cyfan, rhyw gweryl â'r mab ynghylch ymadael a Maesyryn a dybid oedd
. wrth wraidd y peth, a chredai pawb fod Ester yn gwybod mwy nag a fynnai ddangos. Clywyd o rywle fod llythyr wedi mynd o Faesyryn i'r gyfnither yn Lerpwl cyn derbyniad ei llythyr hi a'r newydd. Er dyfalu, methwyd cael esboniad boddhaol ar bethau, a gorfu i'r byd foddloni mynd yn ei flaen fel cvnt. Y peth pwysig oedd bod y ffordd wedi dod yn glir i briodas Ann a Josi.
Dydd llawn o gyffro oedd hwnnw ym Maesyryn. Gan fod y ddau deulu yn ffermwyr cefnog, trefnwyd bod y briodas i'w gweinyddu yn un o gapeli Abergwynli, bod y cwmni llawen i fynd tuag yno mewn cerbydau, a dychwelyd' erbyn cinio i Faesyryn. Byddai hynny yn llawer hwylusach na cherdded yn ddau a dau drwy'r ffyrdd gwlyb i gapel Y Bryn a chael syllu arnynt gan lygaid yr holl gymdogaeth. Ewyllys gref a rhag-welediad doeth Leisa oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r trefniadau. Hi, yn bennaf, a ddewisodd y cwmni. Gan fod cysgod ymadawiad Tomos Bwen arnynt, nid gweddus fyddai gwneud gormod o rialtwch, ac nid oedd eisieu gwahodd neb o'r tu allan i'r ddau deulu ac eithrio'r ddau weinidog weinyddai'r seremoni, sef Mr. Elis a'r Parch Lewis Jones, Abergwynli
Pan oedd Leisa a hithau'r bore hwnnw ar y llofft yn gwisgo, dywedodd Ann yn fyfyrgar wrth blethu ei gwallt,— Gwyn a gwridog, hawddgar iawn Yw f'anwylyd."
Ni feddai Leisa un math ar ateb i eiriau mor ffol, a dywedodd Ann drachefn,—
"Wi'n difari na fisen ni wedi gofin i Gwen Alun ddod lawr da ni i'r dre. Wi'n ffeili peido meddwl am deni heddi. Na olwg fach ddiflas wedd arni neithwr pan doith i a'i phresant lan Pam na eith hi nol at i mham? Mae'n ddiflas iawn arni hi a Manw fan na! Chlwes i moni'n son am find nol.
"Hm!" ebe Leisa."Wir, Ann, wit ti wedi gn.eid dy wallt, gwinia fach a lligad wrth y'n ffroc i. Dos dim ise i ti fecso am Gwen Alun. Ma hi'n ddigon ffit. A phe baet ti'n gofin i Gwen, fise rhaid i ti ofin i Fred hefid, gwlei. Fiset ti'n leico hen Sais o was yn in o dy gwmni priodas? Fe ofinest iddi ddod i helpi mam a Nanti Marged dendo. We hinni'n fwi na neithin i. Wrth gwrs, we Miss Gwen yn rhi ichel i neid hinni."
"Nid rhi ichel, Leisa," ebe Ann, gan wnio'r bach a llygad yn amyneddgar, "dos dim taer wthnos o ar marw 'i thaci cofia. Ma Manw'n cal dod i helpi. Leicswn i weld Gwen yn priodi'n hapis, a tithe hefid, a Marged Elen. Ond allwch chi'ch taer ddim cal y gweinidog, gwlei," he hi'n ddireidus, gan dorri'r edau a'i dannedd ac estyn y ffroc i Leisa.
"Bidd ddistaw, Ann," ebe Leisa. "Pwi si am dy weinidog di? A phaid meddwl bod pawb mor awiddis i briodi ag wyt ti."
"Hei, ho! Mae nghalon a ngho,
Yn orlawn o swynion, ber syniad,
canai Ann, wrth roi ei het newydd ar ei phen. Ann, Maesyryn, si'n gwisgo'r hat bert ma; Mrs. Bowen, Y Mwyndir, fidd yn ei thinni ddi lawr."
Yr oedd y dydd hwnnw bron ar ei hyd iddi ei hun gan Gwen. Yr oedd ei meddwl gyda'r cwmni llawen yn y dref. Cyn pen yr wythnos, byddai Fred a hithau yn yr un lle ar neges cyffelyb. Byddai wedi gadael Maesyryn am byth. O'r dref aent ar unwaith gyda'r tren i'r byd newydd. Nid oedd neb i wybod ond ei mam. Aethai Fred at ei mam i Sir Gaer y bore hwnnw i drefnu pethau'n derfynol.
Wedi rhoi ei haddewid, ni fynnai Gwen dynnu'n ol, ac yng nghwmni Fred teimlai'n foddlon ar ei dewisiad. Yr oedd rhywbeth yn ei bersonoliaeth a'i cariai hi gydag ef. Ond ni theimlai felly bob amser yn ei absenoldeb. Nid am dano ef y meddyliai heddyw. Gwyddai mai'r gweinidog oedd ei chariad. Paham y daethai un diwrnod yn rhy ddiweddar? Gorfu iddi ei glwyfo. Gwelai ef yn awr yn mynd allan o'r tŷ heb edrych arni, heb ddymuno'n dda i Fred a hithau, ac heb wybod fod ei chalon hi'n ei ganlyn. Paham na chai ddywedyd popeth wrtho? Paham na chai ei weld unwaith eto? Ond pe cai'r cyfle, a feiddiai egluro popeth iddo? Ni fyddai hynny yn deg tuag at Fred. Na, rhaid i'w chalon hi ei hun gadw'r gyfrinach am byth, ac o dan y pwysau, yr oedd y galon honno bron a thorri.
Drwy'r drws agored deuai swn y dyfroedd dig fel rhyferthwy'r môr. Nid canu'n felys wnai'r hen afon heddyw, gan sibrwd addewidion mwynion, ond rhuthro'n ddiamynedd, yn ddig, yn fawreddog, yn ofnadwy. Mewn bocs bychan ar y seld yr oedd y gân fechan honno yn llawysgrif Owen Elis. Tynnodd Gwen hi allan, canodd y geiriau tlysion nes i'w chân droi'n wylo. Plygodd y papyr, rhoddodd ef yn ei mynwes. Cymerodd ei het, ac aeth allan at yr afon.
Yr oedd dolydd Maesyryn fel môr mawr, llwyd, ac ambell lwyn yma a thraw yn dangos ei ben fel darn o graig. Yr oedd yr olwg ar yr afon yn croesi'r ffordd fach yn ddigon i beri dychryn. Rhuthrai mor chwyrn! Yr oedd bron cyf-uwch a'r bompren, a llifai i fyny ar hyd y ffordd fel llanw'r môr i gyfarfod â Gwen. Yr oedd llwybr bychan ar y clawdd hyd at y bompren. Cerddodd Gwen yn ofalus ar hyd hwnnw. Yr oedd arni awydd pwyso ar y ganllaw ac edrych i lawr ar y rhyferthwy. Cyrhaeddodd y fan yn ddiogel. Swynid a dychrynid hi gan yr olygfa. Dychmygai, fel lawer gwaith o'r blaen, glywed yr hen afon yn siarad wrthi. Nid ei suo'n garedig a wnai heddyw. Rhuo wrthi wnai, ei cheryddu, ei deffio, ei difrio, ei bygwth, ac yn gymysg a'r cwbl taflai allan ryw islais o gydymdeimlad a thosturi. Tynnodd Gwen ei het, gyda'r un hen osgo gyfarwydd. Anghofiodd guled oedd y fan lle y safai, llithrodd ei throed, cydiodd ei het yn y llwyn, syrthiodd hithau heb gri i'r dyfroedd llwyd. Suwyd hi i'w holaf gwsg ar fynwes yr hen afon a garasai gymaint.
Llawen iawn oedd cymni'r briodas ar eu ffordd adref. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd y par ifanc, wrth gwrs. Yn yr ail yr oedd Morgan Ifans ac Ester Bwen a'r Parch. Lewis Jones; yn y trydydd yr oedd y bobl ieuainc,—John, Maesyryn, a Marged Elen, Y Mwyndir, ymlaen, a Leisa ac Owen Elis tu ol. Ar awgrym Leisa penderfynodd y pedwar adael eu cerbyd yn Llainddu hyd y prynhawn, a cherdded adref drwy'r ffordd isaf, yn hytrach na dilyn y lleill drwy'r pentref. Byddent mewn pryd i fynd i gwrdd â'r par ifanc, i beri syndod hyfryd iddynt ac i'w croesawu'n llawen. Ymgomient yn ddifyr ar hyd y ffordd fel y gweddai i gwmni priodas. Hanner-obeithiai Leisa y gwelai Gwen hwy, a hanner- obeithiai'r gweinidog y gwelai yntau Gwen.
Arosasant cnnyd i syllu ar yr afon. Dechreuodd y ddwy ferch ofni croesi ar bomprer mor gul. Gorchymynrodd y gweinidog iddynt ei ddilyn ef yn, araf, a chydio yn y ganllaw yn ofalus, ac edrych o'u blaen ac nid ar yr afon. Deuai John yn olaf. Yr oeddent oll wedi croesi'n ddiogel pan welodd Marged Elen het Gwen ar y llwyn ar fin y dwr.
"Hat pwi iw honna, te?" ebe hi.
"O'r arswyd! Hat Gwen Alun, mi na'n llw," ebe John yn frawychus.
Clywodd Leisa, ond aeth yn ei blaen gan gau ei dannedd, a gobeithiai na chlywsai'r gweinidog. 'Gwen Alun, Gwen Alun, beunydd a byth! Galwodd John yn wyllt ar y ddau, "Hei, Leisa! Mr. Elis! Dima hat Gwen Alun. Beth ma'i'n neid fan hin? Beth os iw Gwen wedi cwmpo i'r afon?"
Troisant yn ol. Edrychodd pawb yn frawychus. Camodd Owen Elis yn frysiog i ganol y bompren gan dremio'n wyllt i lawr ar hyd yr afon. Edrychodd John o ben y clawdd.
"Well i ni gid find gartre a galw'n Isaber ar ein ffordd. Falle bod Gwen no'n saff. Colli ne anghofio'i hat nath i, falle," ebe Leisa.
"Odich chi'n gweld rhwbeth lawr fan obri. Mr. Elis?" ebe John, mewn sibrwd dychrynedig.
Neidiodd Owen Elis i ben y clawdd, ac edrychodd. Ar ben draw'r ddol yn ymyl y clawdd, lle troai'r afon yn sydyn i'r dde, gwelent rywbeth du yn nofio'n esmwyth ar wyneb y dyfnder llwyd. Ai darn o bren oedd? Atebwyd eu cwest- iwn ar unwaith; daeth rhuthr arall o'r afon, symudwyd y gwrthrych nes er wneud yn fwy eglur. Dacw'r gwallt hir- llaes, y breichiau, y ffedog wen! Gwen Alun oedd yno, wedi boddi!
Edrychodd y ddau ddyn ieuanc ar eu gilydd, yn welw a mud.
Disgynasant yn ebrwydd o ben y clawdd
"Rhaid ei chael allan cyn i lif yr afon ei chipio'n ol," ebe Owen Elis. "Gwell i ni fynd i mewn o'r ochr uchaf, mae'r dwr yn rhy ddwfn fan yma.
Brysiodd y ddau i fyny.
"Ewch chi'm i'r dwr fel na, a'ch dillad," dechreuai Leisa.
"Rhedwch e'ch dwi rwle i mofin help," gwaeddai John wrth redeg. "Gwedwch wrth bawb. Dewch a rhwbeth. Mr. Elis, af fi nol i'r Nant i gal rhaca hir a rhaff ne rwbeth. Cerddwch chi lawr ar hid y claw. Se bachin hir ne rwbeth da chi, ond mi fidda i nol nawr."
Ymhen tuag awr o amser, gwelid gorymdaith fechan brudd yn mynd i fyny'r rhiw fach tuag Isaber. Owen Elis a John Maesyryn, a'u dillad goreu yn fudr gan ddwr a llaid, flaenorai'r dyrfa fechan. Ar eu hysgwyddau hwy a dau ereill yr oedd ysgol, ar yr hon y dodasid corff marw Gwen Alun. Dydd priodas Ann, Maesyryn, oedd, ond yr oedd y cwmni i gyd yno, Ann ei hun, a'i braich am Manw y ceisio'i chysuro ac yn cyd-wylo â hi
Wedi cyrraedd y tŷ, dodwyd yr ysgol a'i baich prudd fel ag yr oedd ar ddwy gadair yn ymyl y ffenestr. Ar y funud honno rhedodd Fred i mewn yn welw ei wedd. Cawsai'r newydd cyn cyrraedd. Heb edrych ar neb penliniodd yn ymyl y corff, gan ddywedyd yn wyllt,—
"Gwen! Darling Gwennie! Speak to me. It's Fred. It's Fred, Gwennie! Whom you've promised to marry. Gwennie!"
Trodd y gwallt gwlyb yn ol yn dyner. Cusanodd y talcen oer. Plygodd ei ben ac wylodd yn chwerw.
Daeth Manw i gydio yn ei fraich ac i wylo yn ei ymyl. Hi oedd y cyntaf i ganfod y darn papyr ym mynwes Gwen. Tynnodd ef allan, a rhoddodd ef i Fred. Agorodd hwnnw ef yn grynedig, a phawb yn ei wylio. A roddai'r papyr ryw oleuni ar y digwyddiad alaethus?
"O lifa, afon loew." Na, nid llythyr oedd, dim ond rhyw gân fechan. Pasiwyd y papyr gwlyb o un i'r llall o'r cwmni. Un yn unig yn eu plith a adwaenai'r llawysgrif, ac a wyddai hanes y gân. Cadwodd hwnnw ei gyfrinach.
Syllai Ann, Maesyryn, drwy ei dagrau ar y tri bachgen yno yn ymyl corff marw Gwen, a chofiodd yn sydyn eiriau'r hen gipsy, Not one o' the three will ye marry!"
Wrthi ei hun y noson honno, meddyliai Leisa fel hyn,—"Ma'n well gen i na pheido fod Gwen wedi mind o'r ffordd! Wedd hi riwffordd yn dod ar draws din ym mhob- man. Allen ni ddim bod yn shwr o neb na dim os bise Gwen gerllaw. Dyna 'i wedi spwilo heddi i ni i gid. Diolch nad all hi'm boddran neb mwi! Odw, Gwen, mei-ledi, wi'n falch gal lloni da ti.'