Neidio i'r cynnwys

Bugail y Bryn/XXVIII

Oddi ar Wicidestun
XXVII Bugail y Bryn

gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

XXVIII.

Mae holl leisiau'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth Dy lais hyfrydaf, tawel,
Yn distewi a mynd yn fud.

—WILLIAMS, PANTYCELYN.

ERBYN hyn, wedi blynyddau lawer, medr Bugail y Bryn hefyd lwyr lawenhau ddarfod symud Gwen. Iddo ef,

""Tis better to have loved and lost,

nag unrhyw amodau ereill i gariad daear. Nid am beidio o hono a charu Gwen a'r atgof am dani. Mwyn a hudolus fu teimlad y dyddiau gynt,—ond mor llawn o ing ac o ansefydlogrwydd dihedd! Bu ei gariad tuag ati bron a bod yn fagl iddo, yn gaethiwed i'w enaid. A beth pe gwelsai hi yn wraig i arall? Mwy fyth fuasai ei ing, ei gyffro, ei gaethiwed. A Gwen yn y nef, un a'i gariad at y tragwyddol, pur fel hwnnw, yw ei gariad tuag ati. Cafodd yr hyfrydwch o wybod fod Gwen yn ei garu'n ol. Rhoddodd Duw iddo brofiad melysaf daear, ond cymerodd ef oddiarno cyn i'r melyster hwnnw edwino a gwywo ei iechyd ysbrydol. Ie, "Wele, fab dyn, Fi yn cymeryd oddiwrthyt ddymuniad dy boddlongar mewn unrhyw gylch. Na, os am esgyn, rhaid lygaid a dyrnod, eto na alara, ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau.

Fe glyw fynych son am "sancteiddio holl gysylltiadau bywyd". Onid gwŷr cyffredin ym myd yr ysbryd a sieryd felly? Iddo ef, mwy annioddefol na dim yw cyffredinedd torri pob hualau, a bod yn berffaith rydd. Beth yn fwy gogoneddus nag esgyn ac esgyn yn y byd uchaf,—bod yn athrylith ysbrydol, yn un o fawrion y nef! Pa oruchafiaeth debig i honno ar fyd, cnawd, a diafol? Pa dangnefedd i'w gymharu ag eiddo'r enaid fyddo mewn perffaith gymundeb a'i Dduw?

Ym maes newydd Owen Elis nid oes neb a wyr am gymaint ag enw Gwen Alun. Ond bernir yno'n gyffredin mai rhyw siom ym mlynyddoedd ei ieuenctid a wynnodd ei wallt mor gynnar ac a bair iddo fyw mor ddidoledig oddiwrth y byd a'i bethau. Tosturia llawer wrtho am na wel werth ym mhleserau a mwyniannau daear; gwel rhai ogoniant llachar ei gymeriad; a yntau ymlaen yn siriol dangnefeddus ar hyd ei lwybr unig, a goleu o'r nef ar ei wyneb. Proffwyda rhan iddo ddyfodol mwy rhyfedd fyth.







DOLGELLAU

ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, LTD, SWYDDFAR "CYMRO".





Nodiadau

[golygu]