Bugail y Bryn (testun cyfansawdd)
← | Bugail y Bryn (testun cyfansawdd) gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) |
Pennod Nesaf → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Bugail y Bryn |

Bugail y Bryn
gan
Elizabeth Mary Jones (Moelona)
DOLGELLAU
ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, LTD, SWYDDFAR "CYMRO".
1917
Gair am y Dafodiaith
YCHYDIG, meddir, yn enwedig o blith Gogleddwyr, a fedr ddeall Y Ddyfedeg mewn argraff. Eithr, yn sicr, medd hi gymaint o hawl ag unrhyw un o'r tafod—ieithoedd ereilli le yn ein llenyddiaeth. Wele ychydig reolau er mwyn cyn— orthwyo'r anghyfarwydd i'w deall fel y'i hysgrifennir yn y llyfr hwn.
1.—Seinir y llafariaid u ac 'y' (sain glir) yn union fel i E.g., Din, bid, ti, in, pwi, brin, yn lle Dyn, byd, ty, un, pwy, bryn.
2.—Troir y weithiau yn i,. yn enwedig yn y sillaf olaf ond un, megis Disgi, silwi, tinni, prini, yn lle Dysgu, sylwi, tynnu, prynu.
3.—Gadewir allan yr dd ar ddiwedd llawer o eiriau,— Newi, gili, lloni, Dafi, iste, yn lle Newydd, gilydd. llonydd, Dafydd, eistedd
4—Troir au yn fynych yn oi, ——Hoil, doi, cloi, hoi, yn lle Haul, dau, clau, hau. Am "gwau" ceir gwei."
5.—Troir ae yn 'â', Ath, gwâth, trâth, yn lle. Aeth. gwaeth, traeth.
6.—Troir ai weithiau yn ae.— Maer, taer, ffaer, yn lle Mair, tair, ffair.
7—Troir chw ar ddechreu gair yn wh, Whech, whâr. wheigen, wheddel, yn lle, Chwech, chwaer. chweigen, chwedl.
Hyderaf y ca'r "BUGAIL" hwn, er ei gloffni, daith weddol esmwyth drwy Gymru.
CAERDYDD,
- Gorffennaf, 1917.
BUGAIL Y BRYN.
I.
Da gwyddost wrando gweddi—dy weision;
Dewisaist eu noddi;
A minnau wyf, o mynni,
Duw Iesu deg, dy was Di.
—GORONWY OWEN.
YR wythnos gyntaf o'r flwyddyn newydd oedd,—wythnos y "cwrdde gweddi bob nos," yn ardal Cwmgwynli. Ceid cynulleidfaoedd lliosog yn y cyrddau hyn. Deuai i'r capeli bychain—o bell drwy'r tywyllwch—ffermwyr cefnog, prysur, heblaw'r diaconiaid a'r geneuau cyhoeddus. Deuai eu gweision a'u morwynion, eu gwragedd a'u plant. Deuai'r crefftwr o'i weithdy a'r hen wraig o'i bwthyn. Dywedai un gwr craff am danynt eu bod yn debig iawn i'r oruchwyliaeth gyfarwydd honno ymhlith amaethwyr, sef "mofyn cwlwm." Wedi gorffen a'r cynhaeafau, eid bron bob dydd am wythnos gyfan i'r orsaf neu i lan y môr, a chludid oddi-yno lawer llwyth o lô a chwlwm, ac wedi trin hwnnw a'i roi dan dô, teimlid fod tân ar yr aelwyd am flwyddyn arall wedi ei sicrhau.
Yr oedd felly, ar y nos Lun gyntaf o'r flwyddyn 18edrychiad â'i wisg neilltuol, a'i ddull neilltuol o gerdded. Cai'r meddwl grwydro'n hamddenol o gylch hanes pob un fel y deuai. Cyn amser dechreu'r gwasanaeth, yr oedd tyrfa fechan lonydd wedi dod ynghyd, ac anadl pob un yn y distawrwydd yn esgyn fel arogldarth i'r nefoedd. Y noson honno, yr oedd mwy nag arfer o ddisgwyliad yn llygaid y praidd bychan. Daethai Bugail newydd i'w plith, a hwn fyddai ei gyfarfod gweddi cyntaf yn y lle. Yn y pwlpud y gwelsid ef ar y Sul, a rywfodd, pell iawn. yw dyn mewn pwlpud oddiwrth nifer fawr o'r gynulleidfa. Heno, caent olwg gliriach arno. Deuai ychydig yn nes atynt, a chai y rhai a fyddai yno mewn pryd ei weld yn dod i mewn.
, oleu egwan yn pelydru o ffenestri capel Y Bryn, a chlywid swn araf-gerdded drwy'r heolydd lleidiog tuag yno. Daethai rhai o'r hen bobl yno yn gynnar â lanterni ac â ffyn, ac wedi gosod y rhai hyn yn ofalus o dan y sedd, eisteddent yn amyneddgar a defosiynol i ddisgwyl y lleill. Gwaith digon diddorol oedd eistedd yno a gwylio'r naill ar ol y llall yn dod i mewn,—fel yr anifeiliaid i'r arch;—pob.un â'iDdwy funud cyn hanner awr wedi chwech, caed y pleser hwnnw. Daeth y gweinilog ieuanc i mewn drwy'r drws â'i het yn ei law; taflodd un olwg hanner ofnus ar y gynulleidfa, a cherddodd yn flinderus at ei sedd o dan y pwlpud. Tra yr eisteddai yno am funud mewn myfyrdod â'i law ar ei lygaid, gwelai y rhai oedd gerllaw iddo y chwys yn dew ar ei dalcen.
Ieuanc iawn oedd. Daethai'r newydd o'i flaen nad oedd ond pedair ar hugain. Ond heno, gwelodd llawer llygad aml flewyn gwyn yn gymysg a'i wallt tywyll. Yr oedd ei wyneb fel pe wedi ei fwriadlu i chwerthin llawer, ac yr oedd ei gorff heini fel pe wedi ei drefnu i deithio yn amlder ei rym drwy'r byd. Yr oedd ei lygaid, yn wir, fel pe wedi eu gorfodi i edrych yn ddwys ar ol disgyblaeth galed. Cawsent eu gwasgu lawer gwaith fel yn awr i'w cadw yng nghau, ac yr oeddent eto yn llawn cwestiynau dolefus, fel eiddo plentyn na ddeall ystyr ei gosb, er wedi ei ddysgu i gredu fod triniaeth ei dad tuag ato yn iawn. Yr oedd y dyn icne yn gloff, ac hyd yn hyn, methasai a chyfrif ei gloffni yn beth dibwys a hawdd ei ddioddef yn ei fywyd.
"Dy'st'rio!" ebe Nani, Penlôn,—un o'r ddwy hen wraig eisteddai yn un o'r seddau canol—yn hanner clywadwy, â'i llygaid hen yn llaith gan ddagrau.
Trodd Sali olwg geryddol arni, am iddi feidklio dangos teimlad yn gyhoeddus felly. Lledodd hithau ei haeliau, a sychodd ei genau â'i chadach gwyn, glân, fel y gwnai ar amgylchiadau o brudd—der neilltuol neu o wir ddefosiwn.
Cododd Dafi Dafis, diacon hynaf yr eglwys, o'i sedd yn ymyl y pregethwr, a chan bwyso ar ei ffon, a symud ei dafod yn ddibaid drwy ei enau gwag,—fel baban cyn cael ei ddaned, edrychodd yn ofalus ar y wynebau o'i flaen. Wedi munud o anesmwythyd i lawer calon, galwodd, John Ifans, ddewch chi mlân, machgen i, i ddachre'r cwrdd?"
Gwridodd John yn ysgafn, a phetrusodd am ennyd, ond ufuddhaodd. Un o fechgyn ieuainc mwyaf addawol yr eglwys oedd John Ifans, ac ynddo elfennau amlwg diacon. Yr oedd ei d'ad, Morgan Ifans, Maesyryn, un o ffermwyr cryfaf yr ardal, yn ddiacon er's blynyddau. Teimlai yr. hen Ddafi Dafis faich ei lywyddiaeth o'r cyfarfod lawer yn ysgafnach wedi cael John i ddechreu'r cwrdd, heno pan oedd y gweinidog newydd yn bresennol. Gellid bod yn sicr yr ai John drwy ei ran yn syml a deheuig, heb ddarllen pennod ry faith neu ry amhwrpasol, ac heb ddywedyd pethau rhy ryfedd ar weddi. Gwrandawai ei fam ar John mewn agwedd foddhaus, gan symud ei chorff tal mewn mwynhad addolgar. Ceisiai Leisa ei chwaer ddarganfod effaith ei leferydd ar y gweinidog, ond yn ystod y weddi a'r darllen, ni chafodd y pleser o weled hwnnw unwaith yn codi ei olygon. Er na wasgai ei lygaid a'i law fel ar y dechreu, yr oedd yn dra gofalus i'w cadw yng nghau.
Wedi i John Ifans orffen, cododd Dafi Dafis drachefn. Symudodd ei dafod yn brysur fel o'r blaen cyn galw yn araf â llais crynedig,
"Sam Griffi, ddewch chi mlân i find a'r cwrdd ymhellach."
Eisteddai Sam yn ei agwedd gysurus arferol, ei ddwy fraich wedi eu gosod ar ymyl y sedd o'i flaen yn obennydd i'w ben. Hanner ymuniawnodd ar yr alwad, ac atebodd yn groew â llais bychan main,
"Fies i nos Lîn dwetha."
"Ddewch chi mlân, Daniel Jones?" ebe Dafi Dafis eto. Cododd Daniel o'i fangre, a symudodd yn araf ymlaen, ei wyneb diwên a'i holl osgo yn ddarlun o'r hunan-ymostyngiad a'r edifeirwch dwysaf, a'i ddwylaw aflonydd fel pe'n hiraethu am y rhaw gyfarwydd i afael ynddi. Safodd wrth risiau'r pwlpud, heb ryfygu mynd hyd at y bwrdd, a chan hanner bwyso ar fraich y grisiau tra'i holl gorff yn ym. wingo'n barhaus, rhoddodd allan o'i gof, mewn llais dwfn, tawel, ei emyn,—
"Treuliwyd blwyddyn ar ol blwyddyn,
Roddwyd in' gan Frenin nef,
'Cawsom eto ddechreu blwyddyn
O'i ddaioni rhyfedd ef;
Uwchben llawer un eleni
Oedd y llynedd yn dra llon;
Gellir heddyw ysgrifennu
Byddi farw'r flwyddyn hon.
Hedeg wna fy oriau innau
A'm blynyddau oll i gyd,
Brysio'r ydwyf tuag adre
I drigfannau bythol fyd;
Mae fy amser yn mynd heibio,
Rhaid im' ado daear gron,
Gallai mod i'n un o'r werin
A fydd marw'r flwyddyn hon."
Ni chaed y geiriau yn y llyfr emynau, er troi dail lawer gan Tomos Tomos, yr arweinydd canu. Felly cyn anturio arno, sibrydodd Tomos yn hyglyw,—
"Well i chi roi e mas bob yn ddwi lein." Yna, o nerth i nerth, canwyd y ddau bennill ar y dôn Alecsander. Siglai'r hen eu pennau'n fyfyrgar gan ddifrifoled y geiriau a phrudled y dôn, a gwenai'r ieuainc yn llon gan mor ddigrif y sefyllfa.
Gweddi ddwys fel ei wedd oedd gan Daniel Jones. Llawer mwy hyderus oedd efe wrth siarad â'i Dduw nag â'i gydddynion. Yn gymysg â'i erfyniadau taer, cyffesai o hyd derfynau cyfyng ei wybodaeth am y pethau uchaf. "Dina fel i ni'n diall, Arglwydd; dina fel i ni'n câl yn Di air Di," meddai unwaith a thrachefn wrth gyflwyno ei achos i sylw'r nef. Eithr er mor bŵl ei oleuni, ac er mor ddieithr iddo oedd y dirgelion, yr oedd rhyw dawelwch cartrefol bob amser yn niwedd ei weddi. "Hwre ni nawr i Dy law wedi madde'n holl gamwedde, yn heiddiant Di annwyl Fab., Amen."
A'r noson honno, fel ar lawer tro arall, rhwng muriau llwydion capel bach Y Bryn, yn swn ymadroddion anghelfydd yr hen dyddynwr, aeth y byd a'i bethau ymhell o'r golwg, a daeth Duw yn agos.
Nid oedd y cyfarfod eto ar ben. Buasai Dafi Dafis yn ofalus i gadw'r dawn cryfa'n olaf. Cyn i Daniel Jones orffen, yr oedd Tomos Bŵen wedi clirio'i wddf a sychu ei wyneb fel ag i fod yn barod, ond wedi clywed llais crynedig yr hen ddiacon yn ei alw, barnodd Tomos yn weddus betruso lawn dwy funud, a gostwng ei ben gan sydynrwydd y peth cyn beiddio penderfynu. Yna cododd, a cherddodd ymlaen yn wrol.
Ym mywyd Tomos Bŵen, Y Mwyndir, fel ym mywydau rhan fwyaf o honom, yr oedd rhai pethau hollol annealladwy. Yr oedd yn awr dros ei hanner cant oed, yn "enau cyhoeddus" neilltuol o gymeradwy yng nghapel Y Bryn er's deng mlynedd a mwy; er's blynyddau lawer yn byw ar ei fferm ei hun ac yn berchen un arall, eto ni welsid yn dda agor drws y ddiaconiaeth iddo. Dyma gyfle iddo heno i ddwyn ei ragoriaethau neilltuol gerbron y gweinidog newydd. Nid oedd yn hollol amharod, oherwydd, yn ystod y dydd, tra yn yr ydlan yn gyrru'r ceffylau a weithiai'r peiriant dyrnu, cawsai gyfle i adrodd wrtho'i hun eiriau'r weddi a fwriadai offrymu os deuai'r alwad. Tra felly yn arllwys ei genllif geiriau, clywodd ei glustiau effro un ochenaid ddofn oddiwrth y gweinidog, a mwy nag un Amen o gyfeiriadau ereill.
Wedi canu drachefn, plygodd yr hen Ddafi Dafis ei ben gwyn i gyfeiriad y gweinidog, ac yn hanner-ofnus, sibrydodd air yn ei glust. Yna distawodd pawb i wrando ar y Bugail. Byr a syml oedd ei eiriau, a distaw a threiddgar oedd ei lais. Mor fawr oedd eu braint i gael dechreu blwyddyn arall,—dalen wen na wyddid eto beth a ysgrifennid arni. O am ysgrifennu yn lân ac eglur fel y gellid ei darllen ar y diwedd gyda mwynhad! Dechreu blwyddyn yn ddechreu cyfle newydd i wneud rhywbeth yn y byd,—i helpu Duw ddwyn i ben Ei fwriadau tragwyddol. Cyd-weithwyr Duw! Uched y fraint! O, orfoledd y syniad! Pa lawenydd fedrai'r ddaear roi i gymharu a hwnnw oedd i'w gael yng ngwasanaeth Duw? Ac wrth ddechreu blwyddyn, i wynebu ar ystormydd ei gaeaf a hyfrydwch ei haf, felused meddwl mai Tad tyner oedd yn danfon y cwbl, a bod Ei ofal Ef dros bob un a'i nerth at bob rhaid. Wedi eu cyflwyno drachefn mewn gweddi, aeth y gynulleidfa fechan bob un i'w dy, pob un i ddechreu byw ei flwyddyn.
II.
Ah! must—
Designer infinite!—
Ah! must Thou char the wood ere Thou canst
limn with it?
—FRANCIS THOMPSON.
AM fwy nag ugain mlynedd buasai Catrin Lewis yn forwyn yn Y Mwyndir, gyda'r hen Sion ac Ester Bŵen. Morwyn ddistaw, ddiwyd, ffyddlon fu hi, yn gweini, nid â llygad-wasanaeth, ond megis i'r Arglwydd. Ryw noson yn ystod yr amser hwnnw, torrodd tân allan yn ystafell wely unig ferch y teulu, a bu Catrin yn ddigon dewr i ruthro drwy'r flamau i achub y fechan. Wedi'r cyfan, bu farw'r eneth dan effeithiau'r tân a'r braw, a bu agos i Catrin golli ei bywyd hefyd. Cariodd olion ei haberth ar ei dwylaw. ac ar ei hwyneb tra fu byw.
Fel cydnabyddiaeth am ei harwriaeth, rhoddodd ei meistr iddi ugain punt, gan ddywedyd yn dyner yr haeddai fwy, ac y cai fwy hefyd ar ryw adeg fwy cyfleus yn y dyfodol. Yng ngrym yr ugain punt hynny, ynghyd â'u hychydi; enillion ereill, mentrodd Griffi Elis a Chatrin Lewis ymbriodi, ac aethant i fyw i Foelygaer,—tyddyn bychan llwm ymhen ucha'r Sir. Yno y ganwyd iddynt eu hunig blentyn at phlentyn eu henoed—Owen Elis.
Daeth morwyn arall i'r Mwyndir, yr hon nid adwaenai mo Catrin. A phan bu farw Ester, ac ymhen blynyddau, yr hen Sion ei hun, prin y synnodd Catrin weled na chofiasai'r naill na'r llall eu haddewid iddi hi. Yn wir, ni chlybuwyd son am un ewyllys, a pherthynas agosaf Sion, sef Tomos Bwen, Pencnwc Bach, a ddaeth i feddiant o'r Mwyndir a'r medliannau.
Llwm yn wir, ac anghysbell oedd Moelygaer. Yr oedd y tai bron yn adfeilion, a'r heolydd arweiniai tuag yno yn droiog a blín i'r eithaf. Ac mor brudd oedd popeth o'i gylch! Nid oedd y môr yn y golwg, ond clywid ei ru lleddf yn fynych, a than ei awel, plygai a gruddfannai beunydd bob coeden a phob llwyn ger y fan. Ar y rhandir moel hwnnw, anaml cedd y preswylwyr, a phell bell o'r tyddyn bach oedd y capel, yr ysgol, a'r pentref.
Ychydig o ogoniant bywyd prio lasol brofwyd gan Gruffydd a Chatrin Elis. Prin yr adfeddiannodd Catrin ei hiechyd wedi'r tân. Cafodd fab i'w llonni, ond ni ddychwelodd iechyd a hoen y dyddiau gynt. Helbulus fu eu bywyd ar y tyddyn. Nid heb lawer o bryder y cesglid deuddeg punt bob hanner blwyddyn at yr ardreth, a chyn bod yn hanner cant oed, crymai'r ddeuddyn dan bwys gofalon a llafur caled.
Yn nhymor ei febyd, ei dad a'i fam oedd prif gwmni Owen Elis. Yn ystod nosweithiau hirion y gaeaf, dysgodd ddarllen—a'i fys bychan yn dilyn bys ei fam ar hyd dail yr hen Feibl. Dysgodd adnodau ac emynau dirif, a buan daeth i ddarllen pob llyfr a feddai ei rieni,—hen rifynnau melynwawr o Gronicl S.R.,—rhai diweddarach o'r Dysgedydd a'r Tywysydd, ac Esboniad Barnes ar yr Efengylau. Am dymhorau, yn awr ac yn y man, cai fynd i ysgol y pentref, a dysgai yno hefyd yn awchus, nes synnu o'r cymdogion at ei wybodaeth, a rhyfeddu beth ddeuai o hono, a pha anrhydedd a'i harhosai.
Eithr prudd iawn, ac amddifad iawn o bleserau rhai o'i oed oedd bywyd y bachgen. Yn y rhan honno o'r wlad, gwelid angladdau yn llawer amlach na phriodasau, ac eid i dy galar yn llawer mwy mynych nag i dŷ gwledd. Medrai Owen ganu, ond prin y gwyddai unrhyw dôn heblaw hymnau, ac anthemau, a'r rhai hynny gan mwyaf yn rhai lleddf. Swn cwynfan dan orthrymder, a hiraeth am wlad well, lle ca'r blinedig orffwys, ac y peidia'r annuwiolion â'u cyffro, glywid gynt, Sul a gwyl, haf a gaeaf, yn yr ardal honno fel mewn llawer ardal arall yng Nghymru.
Mewn awyrgylch felly tyfodd Owen Elis hyd yn bymtheg oed. Un bore Sul yn y Gwanwyn, deffrôdd y llanc o gwsg Buasai y Sadwm cynt yn llyfnu'r tir yn galed drwy trwm. y dydd, a gadawsai ei rieni tyner ef ar ei wely i ddadflino tra y buasent hwy eu dau yn cyflawni eu goruchwylion arferol cyn boreufwyd. Cododd Owen ar ei eistedd, gwelodd yr haul yn uchel yn y ffurfafen; plygodd dros erchwyn ei wely er mwyn ceisio darganfod drwy'r symudiadau yn y gegin pa amser oedd. Clywodd un yn chwythu'r tân yn aiddgar, ac un arall yn arllwys llaeth o bedyll."
Twimo llâth i'r lloi. Biti saith i'w i," ebe Owen rhyngddo a'i hun.
Cyn iddo orwedd yn ol, daeth llais ei dad i fyny ato yn groew drwy ddwndwr y pedyll llaeth a'r chwythu.—
"Odw, Catrin, wi am i Owen fod yn brigethwr."
Rhyw ochenaid ddofn oedd atebiad y fam, ochenaid oedd fel pe yn cyfleu na fedrai hi feddwl am ddim gogoneddusach mewn bywyd, ond bod y delfryd, O! mor bell ac anghyraeddadwy.
Aeth gwaith y gegin yn ei flaen, ac arhosodd Owen fan honno, yn plygu dros erchwyn ei wely ac yn dwys feddwl. Bedair blynedd ymhellach yr oedd Owen Elis yn fyfyriwr yn ysgol ramaderol Maesyrhaf, a chynllun ei fywyd wedi ei dynnu allan yn glir yn ei feddwl. Onid cedd son drwy'r oesau am bobl neilltuol wedi eu galw i waith neilltuol, a llaw Duw wedi eu llywio o'r dechreu drwy gaddug a niwl? Dyna Joseph, a Moses, Daniel a Phaul. Un felly ar raddfa lai oedd yntau yn ddiddadl, neu paham yr oedd mor anhebig i blant o'i oed? Paham y daliasai difrifwch bywyd ef mor fore? Paham y rhodded iddo dalentau yn anad neb o'i gyfoedion? Oedd, yr oedd gwaith neilltuol ar ei gyfer yntau.—pregethu'r efengyl, efallai yn dra gwahanol ac yn fwy rymus na neb yng Nghymru. Buasai Duw yn siarad ag ef ar hyd y blynyddau, geiriau ei dad ar y bore Sabath hwnnw, a'i deffroisai i glywed yr alwad.
Gartref ar y tyddyn, llafuriai ei dad a'i fam fore a hwyr i ddwyn eu breuddwyd gogoneddus i ben.
Tra yn yr ysgol a'r coleg, yn ymgymysgu a chwmni llon y lleoedd hynny, cafodd Owen Elis olwg newydd ar fywyd, a golwg newydd ar ei natur ei hun. Yr oedd yno dwr o fechgyn ieuainc fel yntau, â'u hwynebau ar y weinidogaeth, ond nid oedd pwysigrwydd y gwaith na dwyster yr alwad nefol wedi dwyn rhyw ddifrifwch neilltuol i'w bywydau hwy. Gwisgai, rhodiai, ymddiddanai a chwarddai y rhan fwyaf o honynt fel dynion ereill. Yr oedd bywyd mewn tref hefyd yn llawer llai llethol na bywyd y wlad. Ni frawychid un yno â mynych orymdeithiau galarus tua'r fynwent brudd. Pan fyddai angladd, eid â'r galarwyr yn frysiog mewn cerbydau cauedig, a dodid y marw allan o olwg gynted ag y gellid rhag aflonyddu ar bleserau'r byw. Nid oedd y nos yno agos mor ddu, na'r gwynt agos mor gwynfannus ag yn ardal Moelygaer.
A daeth blwyddi tirfion ieuengoed a llu o fwyniannau newyddion i'w canlyn. Fel gyda'i wersi a'i bregethau, rhagorai Owen Elis ar ei gyd-efrydwyr ymhob chwareuon a difyr-gampau. Daeth y byd a'i swynion afrifed' i'w ddenu. Daeth Pleser a Chlod i gynnyg eu rhoddion iddo, a graddol, graddol giliodd gogoniant y byd anweledig.
Eithr ataliwyd ef yn sydyn ar ei yrfa i ddinystr. Un prynhawn tywyll o Dachwedd, ar faes y bel droed, anafwyd ef yn enbyd. Pan ddaeth allan o'r ysbyty dri mis ymhellach, yr oedd yn gloff, a dywedwyd wrtho mai cloff a fyddai am y gweddill o'i oes.
Tra'n gorwedd ar ei wely cystudd, cafodd y newydd prudd am farwolaeth ei fam. Methodd fynd adref i roi gair o gysur iddi ar ei gwely angau, ac i gael yr olwg olaf ar ei hwyneb creithiog caredig yn ei harch; a phan, cyn diwedd y flwyddyn ddu, y dilynodd yn gloff, gorff ei dad i'r un fynwent lonydd, dywedai gyda'r Salmydd, "Amgylchynaist fi yn ol ac ymlaen, a gosodaist Dy law arnaf." Byth ar ol hynny, ni chollodd olwg ar ei etholedigaeth ac amcan mawr ei fywyd. Croeshoeliwyd y byd iddo, ac yntau i'r byd. Ddwy flynedd wedi marwolaeth ei dad, a chyn gorffen ei dmor yn y coleg, cafodd alwad i fugeilio eglwys Annibynnol Bryngwynli. Atebodd hi, a dechreuodd ar ei waith yno, fel y gwelwyd eisoes, ar ddechreu'r flwyddyn newydd.
III.
Mesur wnaent y byd a'i bwyso,
Coll a rhinweddau ifanc a hen.
—LLEW TEGID.
"HELO! Wês pobol miwn ma:" ebe rhywun mewn llais dolefus wrth ddrws Penffynnon, bwthyn Nani a Sali, drannoeth y cwrdd gweddi.
"Wês, dewch miwn," ebe Sali, gan godi i roi cadau wrth y tân, a thynnu ei ffedog drosti, rhag ofn fod llwchyn wedi cymeryd yr hyfdra o ddisgyn arni, wedi goruchwyliaeth y glanhau yn y bore. "Simid di stôl, dipin, Nani. Dewch ymlân fan hin, Mestres Ifans."
Tua thri o'r gloch yn y prynhawn oedd, yr awr felysaf o'r dydd ym Mhenffynnon, pan oedd y gwaith trymaf wedi ei orffen; y tân megis yn adnewyddu ei nerth wedi ymdrechion y bore, a miwsig y tegell fel llais cyfaill ffyddlon yn swyno'r glust. Awr ffafriol iawn oedd hon i fwynhau un o bleserau prinnaf y byd hwn,—cymdeithas eneidiau cydnaws,—pryd y ceid arllwys cyfrinachau a chyfnewid syniadau ynghylch cwrs y byd. Pa waeth nad oedd y byd" bob amser yn eang, na'r pynciau y ceisid eu dadrys yn rhai ymerodrol, nid oedd eu diddordeb am hynny yn llai. Chwith iawn fuasai gan Anna Ifans, Maesyryn, gael y gair gan neb ei bod yn hoff o chwedleua, ond teimlasai bleser byw iawn y prynhawn hwnnw wrth wisgo'r ffedog liain lân am dani a'r shôl ddu hir am ei gwarr, yn y rhagolwg ar ymgom fach ddifyr ar aelwyd Nani a Sali.
"Welwch chi bith i wei nawr. Nani fach, wedi simid ych stôl, rich o i chi ole'ch hinan," ebe hi wrth Nani, â'r oslef leddf arferol.
"O, mi weia i yn y tewillwch fel yn y gole, os na fidd codi ne istwn gen i, ne godi magle'r sowdwl ne rwbeth," ebe Nani.
"Gnei mi ginta wir," ebe Sali. "Be si'n dior i ti wei yn y tewillwch, a tithe wrthi trw gidol y didd heb neid dim arall? Dima finne a'r hen hosan ma ar y gweill gen i es taer wthnos. Ma cimint o waith yn yr hen di ma, Mestres Ifans. Ma rhiw gornel a ise'i lanhai e bob di, a neith Nani ddim cimint a golchi llester os gall i beido."
"Ma rhiwin yn golchi'n rhifedd ma no. Sdim ti glanach yn y gwmdogeth," ebe Anna Ifans.
"Sinni w i na fise'r hen ddodren ma wedi dod o wrth i gili es llawer di, gan gimint ma Sali'n rwto arnin nw," ebe Nani.
"Taw son, Nani! Ddisgest ti'm glanhau ariod. We Miss Martin yn benticilar iawn obiti gadw'r ti'n lân. Fies i'm yn gwsneithi da hi am beder bline heb ddisgi rhwbeth," ebe Sali.
Nid hwn oedd y tro cyntaf i wraig Maesyryn glywed am Miss Martin, felly nid oedd eisieu aros llawer gyda'r pwnc.
"Na fe wir," ebe hi. "Dima ragor o waith gwei i chi, te, Nani. Leicswn i i chi wei par i Morgan. Weles i mo'i bennach e am droilo saneie. Erbyn rhoia i bar newi am i drâd e ma nw'n facse. A sdim torreth ar wei da ni co leni, ma'r ddwi roces yn cal gwaith cadw i hinen mewn saneie, heb son am yn helpi i 'da saneie'r gwrwod. Wedi godro a thendo'r moch co, sdim iste cin swper i gal, a ma'r cwrdde gweddi 'rwthnos hin to bob nos yn, mind' a'r amser. Dima dipin o ddafe gwin at y brigin a'r blân, a'r dafe llwid at y rhest. Ma Morgan yn i leico rw'n hirion dros i belinie. Ma i e'n cal i flino gimint da'r hen riwmitis."'
"Cinta i'r felin bia'r mâl," ebe Nani gyda gwên foddhaus. "Ma par i ddod o'r Pantbach yr wthnes hin rwbrid fid, ond chi ddoith ginta ochodin."
"Ie, gweiwch nw cinted a galloch chi wirione. Beth iw'r hosan na si da chi? Mai at seis hosan Morgan. Leices. i ariod mo'r dafe coch a di na, mai e'n grandach, siwr, ond mai e'n dangos y baw gimint, a diw e'm yn golchi nagos cistled a'r dafe llwid."
"Dafi Alun bia rhein. Mi dibenna i nw fori. Mi ddachreia'ch rhai chi wedin ninion."
"Dafi Alun! Diw mo'r rhoces Gwen na yn galler gwei digon i thadci a hithe? Beth ma'r losgr'on yn neid a'i hamser?" ebe Anna Ifans, gydag yni newydd yn ei llais lleddf.
"Chidig o glem gwei weles i ar Gwen ariôd," ebe Sali. "Mi isteddith ma am orie a'i dwilo'n segir. Nid am nad all i wei cistel a finne,—wn i'm beth nad all i neid, ma rhwbeth yn lew iawn yndi."
"Ma'i'n hala pwer o'i hamser i ddarllen i'r hen ŵr. Ma'i liged e'n wannedd, a mi eith Gwen drw'r dwr a'r tân drosto fe. Ma golwg da'r ddoi ar i gili," ebe Nani. "Wirione, all gamol i bîd tê," ebe Anna Evans. bwer gwell arni nag ar ferched ffermidd. Do's da rheinco ddim amser i ddrichid ar lifir o fore di Llin hid nos Sadwm. Ond camstâc mawr we dod a'r groten o wrth i theili. Beth neithe i mwi se i'n colli 'thacî. Mai fan na da ge os whech mline, ymhell o'i chatre, yn gneid i hinan yn hanner ladi
Fidd i mham yn falio fawr i chal i nol mwi, a hithe fel na mond hanner whar i'r plant erill. Pwi we i thad' wn i? Enw i mham si arni hi welwch chi."
Chas neb wbod, chi. Ichel iawn we'i mham ariod. Ichel iawn iw Dafi Alun i hinan. Ond ta pwi wedd e, wedd e'n rhiwin pwisig o rwle, ma Gwen yn ladi bob modfedd o honi. Chas i 'mo'r ladieiddiwch na i gid o wrth i mham." ebe Sali.
"Lodes neis iw i no, ladi ne beido," ebe Nani.
"Ma Nani a hithe'n citino i'r dim, welwch chi, Fe a'i darllen a'i hwnco. Da nhwi ma'r amser ochodin ddarllen y losgron hefid fel ffeirad," ebe Sali.
"Wirione," ebe Anna Ifans, "eith ymlân na'r gweinidog gwlei, os na ofalith e. Sdim rhiw leferidd mowr da ge clo. Wi'n leice din a thipin o ddawn da ge, ond hwnna geison ni ochodin. Rhaid i ni shawnso ag e mwi am spel gwlei. Hawir annwl! mai e'n gloff. We Morgan yn gweid yn i wir e na silwodd e ariod fod e cindrwg ag wedd e neithwr. Wedd e'n ombeidis chi! Falla bod yr altrad tewi ma'n i neid e'n wâth."
"Wir, fe wedodd yn neis iawn neithwr no," ebe Sali, gan dynnu ei chadach poced allan, a'i gadw yn ei blyg parchus, a'i dynnu'n ysgafn dros ei gwefusau. "Na bert wedd e'n son am sgrifenni'n lân ac eglir. Weles Miss Martin lawer gwaith yn sgrifenni llithir da'r nos ma. Wedd i llaw i'n simid fel licheden ar y papir, ond we'r cwbwl mor streit a mor lân! Rhwbeth fel ni own i'n ddichmigi am flwiddin wedi i biw yn iawn."
"Fidd ise gwraig arno nawr cin bo hir," ebe Nani. "Taw son, Nani. Gad i'r din gal i anal. On'd iw i fedrib da ge?"
Wel, nenw din, wit ti'm yn disgwl arno fiw heb wraig se'ch bod i fodrib da ge? Beth, falle ceith hithe ŵr ffor hin. Se tithe a finne'n mind i riw gwmdogeth newi, falle coden ninne bobo wr, pwi wir?"
Chwarddodd Mrs. Ifans, a dywedodd Sali mewn tôn geryddol, ddifrifol,—
"Taw son, da tithe. Cofia mor agos i'r bedd wit ti a finne. Mai'n brid i ti adel di ddwli nawr."
Rhai o deili digon ciffredin in nhw, i chi'n gweld, ebe Mrs. Ifans. Morwm da rhiw ddoctor sha Maesyrhaf na fiodd hi, Miss Elis, am flinicle. Bachgen tlawd iw inte, er na wedodd e ariod fowr am i'bobol. Mai'n newid mowr iddi hi gal dod yn wraig fenheddig fan na nawr. Ma nw'n gweid bod i'n bleser bita bwid o'i llaw i, a bod y ti ishws yn dangos trefen."
Mi weles i scap arni Di Sil. Mai mor dene a scithan," ebe Nani.
"Ma hi wedi disgi gneid pethe'n iawn welwch chi," ebe Sali. "Fel ni own inne da Miss Martin. Cheise pethe 'm i gneid riwshap a rwffordd 'no.—we raid iddin nw fod yn iawn; a wedd i waith neilltiol i bob diwarnod, nid rhiw lisgo pethe ddile gal i gneid Di Llîn ymlân i Di Gwener, a dwmbwr dambar fel ni.
Fflachiodd Nani edrychiad direidus ar Mrs. Ifans, gan wau o hyd yn ddistaw, tra'r adgofiai Sali ogoniant ei gorffennol.
Riwshap a riwffordd iw i da ni ar y ffermidd ma'n firich no. We chi'n cal ych amser i gid i lanhai'r ti, pwi ddiolch iddo fod yn lân wedin? a phwi ddiolch i bopeth fod yn drenfis? In ni 'n gorffod golchi'r llawr ar slei co; ma'r gwrwod co'n meddwl taw gwaith dibroffit iawn iw glanhai'r ti, a ma Morgan yn mofin in o'r rhocesi mas yn rownd, shifted y ti fel shiffto fe. Ma'r rhocesi'n gorffod slafo lawer mwi na'r gwrwod wath gen i pwi a'i gwir e. Slafdod iw ffarmo nawr, mroi'n galed o fore stoi'n nos i grinhoi a chrinhoi i'r mistir tir a'r ffeirad, a phrin cal bŵid a dillad yn hinen. Fe geith y Bwms dod leni to cin talir dime o ddegwm o Maesyryn. Wa'th i beth? Dos neb o co'n tywilli drws yr eglws o ddachre'r flwiddin hid i diwedd i. I ni'n tali am yn crefidd, pwi reswm bo ni'n gorffod tali dros rai erill lŵeth, rhai alle dali'n dda i hinen. A rhiw ddwrned o bobol si'n mind i'r hen eglws fach na.
Pimp a'r ffeirad we na Di Sil dwetha, mynte Martha ginne,—Gwraig y ffeirad a'r cotshman, Shams y Gors, a Martha a'i gŵr," ebe Sali.
"Ma Shams y Gors yn para i dali'r rhent i flân i drwin," ebe Nani.
"Wel, sharadwch am y diafol, ac fe ddaw heibo, medde'r hen wheddel, a dico'r ffeirad yn dod ar y gaer," ebe Mrs. Ifans, gan edrych allan drwy'r ffenestr fach. "I le gall e fod yn mind, te?"
Cododd' Sali ac aeth yn dawel at y drws.
"Sdim angla na dim heddi, wês e?" ebe Nani. "Din digon diddrwg iw Mistir Piw. Do's da neb aer yn i erbin e, mai e'n ddigon parod a'i garedigrwydd."
"Weda i chi ble gall e fod yn mind. Fe brinodd geffil Di Gwener da John y Wern. Mind i dali am dano mai e, gewch weld," ebe Mrs. Ifans.
"We Gwen yn gweid wrthw i fod e'n taro miwn co weithe i gal sgwrs da 'r hen ŵr. Mai e'n ishel iawn at bawb," ebe Nani.
"Ma digon o amser da'r ddoi ochodin, a ma rhaid iddin nw hala'i diwarnod riwffordd," ebe Anna Ifans.
"Tra bu Nani a hithau'n penderfynu neges y ffeirad," safai Sali ar garreg y drws yn aros ei ddyfodiad. Wedi dywedyd Prynhawn da i chi, Syr," gan ymgrymu'n foesgar, a chlywed "A sut ma chi heddyw?" gan Mr. Puw, daeth i fewn yn ei hol a gwên foddhaus ar ei hwyneb.
Wedi ychydig ymddiddan pellach, cododd Mrs. Ifans. "Rhaid i finne find chi," ebe hi. "Dewch a'ch stên gal diferin o lath enwin. Menin ich'i Nani am yn dâl am wei'r sane? Dewch heibo Di Gwener pan bo Morgan yn y dre. Sdim ise iddin nhw gal gwbod popeth, welwch chi."
IV.
Nid oes heddyw ond yr atgof
Am y pethau hynny gynt.
HIRAETHOG.
ANAML, yn yr amser gynt, y digwyddai dim cyffrous iawn yn ardal Cwmgwynli. Yr oedd y bryniau a'r moelydd a'r dyffrynoedd yn aros yn yr unfan er erioed, a phan ddeuai'r tymhorau i newid eu gwisgoedd, gwnaent hynny mor araf a diswn nes cael o bawb ddigon o amser i dderbyn y cyfnewidiad heb gyffroi. Yr oedd pob dydd, yn ei waith a'i ddigwyddiadau, yn hynod debig i bob dydd arall; pryd hau a phryd medi yn dod bob blwyddyn yn ddiffael, haf a gaeaf, dydd a nos heb erioed anghofio eu hamser. Araf a phwyllog ac ansymudol fel Natur o'u cwmpas oedd preswylwyr y Cwm hefyd. Anaml y brysiai neb wrth fyw ei fywyd. Ni ddaethai trên na dim arall buan a rhwysgfawr a thrystiog erioed i beri rhuthr a chyffro iddynt. Ni cherddai'r llythyr- gludydd ond drwy ffordd fawr y plwyf. Cai'r byd mawr tuallan fynd ymlaen a'i ferw gwyllt. Hir y byddai gwan adsain o'i drwst cyn cyrraedd ardal lonydd Cwmgwynli.
Ym myd crefydd hefyd, araf a phwyllog ryfeddol oedd yr ardalwyr. Yr anhawster i'w symud a'u deffro flinai enaid y Parch. Owen Elis. Daethai ef i'w plith a'r weledigaeth nefol yn fyw o flaen ei lygaid, ei enaid wedi ei gyffroi i'w waelodion gan sylweddau byd arall, a phethau'r byd hwn yn mynd yn fwy anelwig a dibwys yn ei olwg bob dydd. Ei freuddwyd mawr oedd troi Cymru i'r unrhyw ffydd, gan ddechreu yng Nghwmgwynli. Tra'n ymdrechu pwysleisio ei neges o Sul i Sul ac o wythnos i wythnos, disgwyliai weld arwydd o lwyddiant, ond aethai bellach bron bedwar mis heibio, a neb o'i braidd wedi eu cynhyrfu'n ormodol. Cytunid yn gyffredin fod ganddo ddull tra newydd o bregethu; nid oeddid eto wedi penderfynu pa un a ddaliai dull felly yn ei flas ai peidio.
Ond yr oedd cynnwrf o natur arall gerllaw. Blynyddoedd caled i amaethwyr Cwmgwynli oedd y rhai hynny. Gweithient yn galed o wawr i hwyr; boddlonent ar yr ymborth symlaf; anaml ac ychydig oedd eu dyddiau o bleser; eto yn y ffeiriau a'r marchnadoedd nid oedd neb yn awyddus iawn am eu nwyddau. Byddai raid iddynt foddloni cadw eu.hanifeiliaid neu dderbyn prisiau isel iawn am danynt.
Ac ar ddiwedd y flwyddyn, yn hanes llawer iawn o honynt, byddai deupen y llinyn ymhell o fod ynghyd.
Yn eu cyfyngder, gyrrwyd hwy i edrych yn fanylach i bethau, ac i dderbyn yr hyn ystyrient yn anghyfiawnderau yn llai tawel a dirwgnach. Gofynasant i offeiriad y plwyf (nid Mr. Puw'r bennod ddiweddaf) gan nad ystyrient eu hunain yn ei ddyled, foddloni ar lai nag arfer o ddegwm. Ffromodd hwnnw'n aruthr, a hawliodd lawn fesur.
Cododd yr amaethwyr mewn gwrthryfel, a gwrthodasant dalu dim. Ymhen amser, gwelodd yr awdurdodau eglwysig os na cheid yr arian trwy deg fod yn rhaid eu cael trwy drais, a daeth swn rhyfel, a seiniau aflafar anghydfod i aflonyddu ar dawelwch y wlad.
Un dydd Llun, a'r Parch. Owen Elis a'i fodryb wrth eu bwrdd ciniaw, clywyd curiad ar y drws. Aeth y gweinidog ei hun i'w agor. Dau foneddwr trwsiadus oedd yno yn gofyn am gael eu cyfeirio i Faesyryn, os gwelai yn dda. Gwyddent fod y lle rywle yn y cyffiniau, ond nid oeddent yn siwr pa un o'r ffermydd oedd.
Aeth Owen Elis—a'i feddyliau yn brysur—allan gyda hwy at yr iet. Dywedodd wrthynt am fynd i lawr hyd y groesffordd, troi oddiyno ar y dde, a mynd ymlaen nes dod at y pentref, a gofyn i rywun yno ddangos iddynt y lon a arweiniai tua'r fferm.
Daeth yn ol i'r tŷ yn frysiog, a daeth Miss Elis mor frysiog ag y gallai i lawr o'r llofft, o'r lle y buasai yn cael llawn olwg ar y dieithriaid fel yr aent oddiwrth y ti.
"Beth we rheina, te, chi?" ebe hi.
"'Rwy'n credu'n siwr taw beiliaid y. Degwm yn'nw," ebe Owen Elis, gan gydio yn ei het. "Ma son bod nw wedi bod mewn rhai ardaloedd, a ma nw'n dechre yma. Fe gymer hanner awr dda iddyn nw fynd drw'r ffordd. Mi af fi yno nawr drw'r caeau i ddweyd wrth Ifans bod nw'n dod. Falle leicse fe gloi'r iete."
Cyflogasai'r ddwy blaid,—y ffermwyr a'r offeiriaid,—bob. un ei chyfreithwyr, i'w cyfarwyddo ynghylch mân bethau'r gyfraith, fel y gallent fynd belled ag oedd bosibl er eu lles eu hunain heb droseddu'r gyfraith. Ym mysg pethau ereill, dysgwyd hwynt na feddai yr un atafaelydd hawl i dorri clo drws neu glwyd, nac ychwaith ddringo ffordd arall er mwyn gosod' ei law ar nwyddau neu anifeiliaid. Felly, pe gofelid cloi'r clwydydd a arweiniai at y fferm, gellid teimlo'n ddiogel. Eithr lle'r oedd mynych dramwy, anodd oedd gwneud hyn, ac os llwyddid i gadw'r anifeiliaid o'r golwg, yr oedd y gwair a'r ŷd mewn man digon amlwg fynychaf.
Er ei gloffni, medrai Owen Elis gerdded yn gyflym, yn enwedig pan na fyddai neb gerllaw i edrych arno. Cyrhaeddodd Maesyryn a'i anadl yn ei wddf, pan oedd y teulu ar ginio.
"Helo ma," ebe ef, gan gerdded i mewn i'r gegin. "Mi redais i roi gwybod i chi fod y Beiliaid ar eu ffordd yma. Rwy'n teimlo'n siwr mai hwy oedden nhw. Fe fuon yn gofyn y ffordd i fi, ac mi cyfeiries nw drw'r pentref. Mi gewch amser i gloi, ond i chi frysio."
Cyn iddo orffen, yr oedd Morgan Ifans ar ei draed, ac yn galw ar y Sais o'r 'rwmford.'
"Fred, rhed i hol y tshaen o'r cartws. Dere a'i lan i'r iet goch," ac allan ag ef cyn cael amser i ddiolch i'r gweinidog.
"Mr. Elis bach, i chi wedi rhedeg sbo chi'n whîs. Sdim yn ormod da chi neid os gallwch chi neid cimŵinas," ebe Mrs. Ifans yn araf leddf. "Eisteddwch gal ych anal. Ann, rho ddiferin o ddwr yn y tegil. Odich, ginta, wedi cinhawa, a phe na fisech chi, sdim pŵer o flas ar y tato ma heddi. Gewch ddised o de nawr. W i'n leico dised yn hinan ar ol cino. Dere, Ann, a'r tegil."
Ni sylwasai Mrs. Ifans yn y cyffro fod Ann wedi rhedeg allan, ac wedi dilyn ei thad at yr iet. Leisa'n unig oedd ar ol yn y rwmford, ac yr oedd erbyn hyn wedi brysiog ddatod plethiad ei gwallt, ac wedi ei drefnu oreu medrai dan yr amgylchiadau. Yr hyn a'i blinai oedd mai ffedog waith oedd o'i blaen. Pam na fuasai wedi gwisgo ffedog wen fel y gwnai bob dydd cyn eistedd at giniaw. Nid oedd modd dod o hyd i honno yn awr heb ddangos ei hun i'r gweinidog. Aeth allan yn siriol i'r gegin a'r tegell yn ei llaw.
"Shwt i chi, Mr. Elis?" ebe hi, yn llon a gwylaidd, gan hongian y tegell uwchben y tân.
Cyn pen ychydig funudau clywyd swn rhywun yn rhedeg at y tŷ. Yr oedd gan Ann, Maesyryn, stôr o hen rigymau ar ei chof. Adroddai un bryd y mynnai, a neb ond ei hunan. yn gwybod pa gysylltiad oedd rhwng y rhigwm ac amgylchiadau'r funud. Daeth i'r tŷ yn awr yn ddiseremoni, gan ddweyd yn ddifrifol ddigon,—
"Ilbin Shon Alban a redodd yn chwirn, Ddaliodd wahadden gerfidd i girn; Redodd yn inion, dododd hi lawr, Wedodd wrth Alban, mi lladda hi nawr."
Mam, ma'r ddoi ddîn da nhad a Fred fan na, yn Parc yr Ardd, yn drichid ar y da.
Bryd hwnnw y cofiodd am bresenoldeb y gweinidog. Edrychodd i'w gyfeiriad gan wenu, a dywedodd:—
Alle nhad fod' wedi cloi'n brion, Mr. Elis, se fe'n dewis. Roisoch chi ddigon o amser iddo. Ond we'r dinion fan ni yn y tro pan doith e a Fred at yr iet, a wedd e'm yn leico. cloi fan ni o flân i lliged nw."
"Wel, wirione," llefai Mrs. Ifans. "Na nawr, fe werthan e'n da ni a'n cwbwl ni, a fidd e'n leico hinni, wn i?" ac aeth allan i weld beth ddigwyddai.
Ni fynnai Mr. Elis fynd allan i gael ei weld gan y dieithriaid, felly eisteddodd yng nghwmni Ann yn y tŷ. Clywid swn Leisa'n symud ar y llofft uwch eu pen. Aethai John y mab oddicartref er y bore.
Merch tua dwy ar hugain oed oedd Ann. Hi oedd yr ieuengaf o'r teulu. Dwy flwydd yn hŷn na hi oedd Leisa, a John tua dwy flwydd yn hŷn na hithau. Meddai Ann y swyn prin o naturioldeb. Nid oedd unrhyw dlysni anghyffredin yn ei gwedd. Cawsai awel Ebrill ryddid i chwarae a'i gwallt, ac yr oedd lliw ei haul ar ei breichiau neoth. oedd ei llygaid glas yn onest ac agored, heb ormodedd dyfnder ynddynt, ond yn llawn chwerthin hapus. Yr oedd bod yn ei chwmni fel eistedd mewn cae lle tyf porfa lâs Mehefin a'r blodau gwylltion amryliw heb ofyn sylw na diolch neb. Yr oedd cwpan ei dedwyddwch yn llawn, oherwydd onid oedd Josi'r Mwyndir a hithau wedi ymdynghedu i fod yn ŵr a gwraig cyn diwedd y flwyddyn?
Ni ddywedwyd gan Mr. Elis a hithau ddim digon pwysig i'w groniclo, a buan daeth Leisa i lawr o'r llofft wedi rhoddi heibio ei dillad gwaith, ac o'i blaen ffedog fechan wen yn lle'r ffedog sach. Yr oedd ei gwallt crych wedi ei drefnu'n dlws; yr oedd gwrid' ysgafn ar ei grudd, a'i haeliau trymion bron yn cuddio ei. llygaid. Rhyw edrychiad llechwraidd yn awr ac eilwaith daflai at Mr. Elis, ac yr oedd pob edrychiad a phob osgo o'i heiddo wrth osod y ford fach gron yn barod' erbyn tê,—fel yn mynegu rhyw bryder a gobaith am ba argraff a roddai ar y llygaid a'i gwyliai.
Pan ddychwelodd Morgan ac Anna Ifans i'r tŷ, yr oedd olion y giniaw wedi eu symud, a'r cwpanaid tê cysurus yn barod.
"Na'r diolch i chi'n gal, Mr. Elis, am ffwdani rhedeg drwa! Yn lle cloi fel gallse fe neid yn brion, towli'r tshaen o'i law nath e os gwelwch chi'n dda, a hagor y iet, felse fe'n i croesawi nw i find a'i eiddo fe i gyd," galarai Mrs. Ifans.
Dyna nês i ochodin, dwl ne beido," ebe Morgan Ifans. "Ie, a dina nw wedi streino ar 'n biwch ore ni! Fidd aeshon ma nawr, a'r dyrfa a'r ffwdan! Fise'n well i chi fod wedi tali'r hen ddegwm—fe goste lai. Cimrwch, Mr. Elis, gnewch gore galloch chi, fel mai e da ni. Leisa, torr ragor o fara menin. Fe limprith di dad hin 'mhen fowr o dro."
"Diolch yn fawr, Mrs. Ifans. Pwy oedd y ddau ddyn, Ifans?" gofynnai'r gweinidog.
"y Beili,—Lewis wrth i enw, mae'n debig, a Jones y Cifreithwr we'r llall."
"Ofynson i chi dalu heddyw?'
"Do, do. Fe widden yn brion beth we ni'n neid wrth yr iet hefyd. Wetson i nheges. Fise'n dda da nw os talwn i, ond os na, wedd e'n streino. Gwrthod nês i'n bendant, ac fe welson y gwartheg fan ni'n pori, a dina fe, fe streinodd ar y fiwch benwen. Biwch dda iw i. Fise mwi yn y mhoced i taswn i'n tali. Pimp a wheigen o ddegwm si arna i, ma'r fiwch fach yn werth wth ne naw pint. Gorffed i fi i seino papir hefid i addo na werthwn i mo'r fiwch nes delen nw i hol i. Dîn yn sharad yn neis we'r din, a'r hen gifreithwr bach hefid, we'r ddoi'n ddigon boneddigedd.
"Hm!" llefai Anna Ifans, "fe seinech chi'ch pen i bobol ond cal e'ch galw'n syr yn ddigon amal am hinni." "Pam na dalech chi te? Fuase hynny ddim yn well?" gofynnai Mr. Elis.
"Weda i chi, fel hin mai," ebe Morgan Ifans. "Rin ni fel Indeb wedi citino i ddangos e'n gwrthwinebiad i'r Degwm trw beido tali,—trw roi'r ffwdan iddin nhw i streino, a gwerthi'r nifel nei'r nwidd, a mind ag e gered. Os bidd acshon ma, dos ma neb trw'r cimdogeithe a feiddie ginnig ar ddim. Gist iddin nw ddod' a'i prinwir gida nhw. Teit fidd i armin nw wedyn i gali harian."
"Beth yw'r rheswm ynte, fod pobol wedi talu'n ddiddig ar hyd y blynydde, a nawr yn protesto?" gofynnai Mr. Elis. "Rhai anodd i'n symud i ni fel ffermwrs, chi. Ma'n well da ni odde pwer o bethe na chiffro'n hinen i wrthwinebi, nes eith i'n rhi galed. Fel ni mai nawr. Fio dim fath amser slac ar bopeth es tro. Ma'r landlordied i gid wedi gistwn rhiw gimint ar y rhenti; pe bise'r ffeirad bach wedi gistwn tipin ar y degwm fel gofinnwd iddo, fise dim rhagor o helger yn bod. Nawr trw ffwdan ceith e ddim."
"Ie, ac am beth mai e yn i cal nw?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, anghyfiawnder yn ddiau yw'r Degwm yng Nghymru nawr," ebe Mr. Elis, "a cheir dim gwared ar unrhyw anghyfiawnder heb i rywrai ymladd. Dw i fawr o ymladdwr— nawr, ond yn wir, mae 'nghydymdeimlad i gyda'r rhai sy'n ddigon gwrol i neud hynny."
"Wês, wês, ma raid wmla," ebe Morgan Ifans, "a wmla gewn ni'n hir wi'n onfi. Cadw'r ffermwirs ar lawr dan i trâd nhw iw amcan y gwir mowr, welwch chi, a ma'r cifreithe a'r Lliwodreth wedi bod ar i hochor nw ariod.
"Ie, a o ble ma'r hawl wedi dod iddin nhwi i lhordian i ar gefne pobol dlawd si'n gweithio'n galed?" gofynnai Anna Ifans.
"Ie, o ble? Oes, ma'n rhaid ymladd," ebe'r gweinidog yn fyfyrgar.
O hynny nes codi oddiwrth y bwrdd tê, yr oedd ei feddyliau yn rhy brysur i'w alluogi i gymeryd rhan helaeth yn yr ymddiddan. Tremiai i'w galon ei hun. Mor barod oedd i roi pwys ar bethau'r byd hwn a chefnogi ereill i wneud yr un peth! Beth oedd yn werth myned i'r fath helbul a ffwdan yn ei gylch? Beth ond y peth mawr? Ni ddylasai ef fod' wedi cymeryd cymaint o ddiddordeb mewn pethau mor faterol, nes rhedeg yn ei wylltineb draws y caeau i'w rhybuddio fel y gwnaethai. Ai nid ei waith ef oedd cyfeirio meddyliau pobl at fyd y sylweddau? Ie, a rhodio yn eu mysg fel un yn gweled yr Anweledig, ac heb awydd gostwng ei olygon at bethau daear. Wedi dod i mewn i'r tŷ hwn heddyw, nid oedd wedi son gair ond am bethau byd ac amser; —yr oedd wedi ymdroi gyda'r lleill ynghanol pethau di-urddas, ac wedi anghofio ei neges fawr.
Ac yn awr, hyd yn oed, ni allai gael gair allan am y pethau y teimlai y dylai siarad. Casaodd ei hun. Teimlodd ei fychander truenus. Wedi ychydig amser cododd i fynd adref.
Aeth Morgan ac Anna Ifans i'w hebrwng hyd ben y lôn. Safai Leisa ar y drws i'w gwylio'n cychwyn, a meddyliai rhyngddi a'i hun:
Na fachgen pert yw e on'bai fod e'n gloff! Ond do's neb yn berffeth, a alle neb weid fod dim arno pan iw e'n y pilpid'. Wedd e'n drichid digon, fid! A wedd e'n ddistaw iawn nawr cin mind oma. Pwi feddylie bore heddi bise fe ma yn ifed tê!"
Wrth droi'n ol i'r gegin agorodd ddrws y parlwr, lle'r oedd y drych mawr uwchben y tân, a chymerodd lawn olwg arni ei hun cyn tynnu'r ffedog wen ac ail-gydio mewn gwaith.
V.
Nad i ferch newidio foes!
—DAFYDD AP GWILYM.
ER bod yn agos i bedwar mis wedi mynd heibio er pan ymsefydlasai y Parch. Owen Elis yng Nghwmgwynli, ni ddaethai, hyd yn hyn, i gyffyrddiad a'r oll o aelodau ei eglwys. Yr oedd, ym mysg y rhai a'i gwrandawai bob Sul, lawer heb erioed gael cymaint ag ysgwyd llaw ag ef. Atgofiwyd ef o hyn tra'n dychwelyd wrtho'i hun drwy'r caeau y diwrnod hwnnw o Faesyryn. Gwelai ar y dde, ddwy neu d'air o ffermydd bychain, ac un neu ddau fwthyn tô gwellt, a gwyddai fod eu preswylwyr o nifer ei braidd. Sylwai ar y meysydd llwm y casglent ohonynt eu bara beunyddiol, ac ar y llwybrau anhygyrch a deithient o Sul i Sul i foddion gras, a chyhuddai ei hun o ddiofalwch yn ei waith fel Bugail. Cofiai amled yr ymwelai a Maesyryn, a ffermydd ereill cyffelyb, yn unig am fod y teuluoedd hynny yn flaenllaw gyda gwaith y capel. Am yr ereill hyn, rhai o'i braidd fel y Neill, er yn ddinod, leied wyddai o'u helyntion beunyddiol. Penderfynodd gychwyn yn gynnar drannoeth, ac er nad oedd ymweled yn waith hoff ganddo, penderfynodd na ddiffygiai nes dod i adnabod ac i ddeall ychydig ar fywyd y distadlaf fel y mwyaf ymhlith aelodau ei eglwys.
Drannoeth, drwy gydol y bore, disgynnai glaw Ebrill yn d'dibaid ar y ddaear, ond erbyn canol dydd, cliriodd yr awyr a chychwynodd y pregethwr i'w daith. Garwach a gwlypach nag arfer y diwrnod hwnnw oedd yr heolydd culion a arweiniai o un fferm fechan i'r llall. Wrth flin ym— lwybro drwyddynt, deuai llwybrau tebig, rhai dramwyasai ganwaith ym more oes yn fyw iawn i feddwl Owen Elis, ac ym miwsig leddf yr awel, yn gymysg a lleisiau pell o'r gorffennol deuai sibrydion dwys o'r dyfodol i chwarae ar ei glustiau. Yng nghwmni Natur—natur lawn ieuengrwydd a hoen, ond hefyd lawn o ryw ddwyster mwyn, canfyddai ddarlun o'i fywyd ei hun. Ieuanc oedd yntau, ac fel y datblygai Natur, yr oedd ei ysbryd yntau i ddatblygu i lawn ogoniant haf a ffrwythlondeb Hydref. O dymor hapus i ddyfod, wedi i'r anawsterau gael eu trechu o un i un! Cofiai am dano ei hun, pan yng ngwres ei ddeffroad cyntaf, fel yr hiraethasai am ei ryddhau oddiwrth yr hualau a geidw ieuenctyd yn rhwym wrth y ddaear. Llawer gwaith y dymunasai fod yn hanner cant oed, a chynhyrfiadau enaid ac ystormydd calon wedi eu tawelu am byth; i'r fath uchderau y gallai esgyn, a chymaint fedrai wneud o waith. awr, wele ef wedi ei arwain gan Ragluniaeth i'r cwrr bychan hwn o Gymru, lle ni chlywid cyffro bywyd ond o bell, lle nad oedd berigl i bleserau ei dynnu oddiar y llwybr, lle nad oedd unrhyw afael gref iawn o'r ddaear i'w gadw'n ol. Y fath drafferth gymerai Duw gydag ef! Pwy feiddiai ameu fod Duw'n sylwi ar yr unigolyn? Gallai ef ganfod eisoes y paham am bob tro yn ei yrfa ef.
Daeth ffermdy Llainddu i'r golwg. Yma yr oedd i alw gyntaf. Wrth neshau at y tŷ, daeth rhyw ofn ar ei ysbryd. Mor annigonol i'w waith mawr y teimai. Pedair ar hugain oed oedd, yr oedd y sawl y bwriadai ymweld â hwy wedi byw lawer yn hwy nag ef yn y byd. Anadledd ddymuniad ar Dduw am help i ddweyd rhywbeth a fyddai o les. rhywbeth a godai olwg pobl o'r ddaear. Gwaith cymharol hawdd oedd pregethu o'r pwlpud ar y Sul, y gamp oedd medru cydio'r gwirioneddau mawr wrth helyntion bywyd beunyddiol.
Yr oedd twrr o blant yn Llainddu. Bu rhai ohonynt mor ffodus a gweld y gweinidog yn dod o draw, a chlywodd yntau gyhoeddi ei ddyfodiad mewn lleisiau uchel ar draws y buarth, ac yna swn rhedeg gwyllt a chau drysau. Pan ddaeth ymlaen hyd at dai'r anifeiliaid, nid oedd neb i'w weled, ond o dan un o'r hen ddrysau anniben gwelai bum neu chwe phar o draed bychain, a thrwy'r agennau, gwelai lygaid bychain syn yn ei wylio.
Dynesodd at y tŷ. Cawsai un o'r plant y presenoldeb meddwl i redeg i ddweyd wrth ei mam ei fod yn dod. Wrth guro'n hanner ofnus ar y drws, clywodd fwced yn disgyn yn drystiog ar y llawr cerrig, a llais blinedig yn dweyd,—
"O, taw son! Wirione! ma le iddo!"
Curodd y gweinidog drachefn, a gwnaeth Mari Pŵel ei hymddangosiad.
"Prynhawn da, Mrs. Pŵel, ddeues i heibio i gael gweld sut rych chi yma.
"Dewch miwn, Syr, er nad os ma 'm llawer o le heddi. Ini ar ganol y corddi, a'r lle'n llawn anibendod i gid. Marged, cer i hol stol gader o'r penisha, ma llath ar rhein i gyd. Gofala nag wês dwst arni. Isteddwch, Syr."
Dim ond munud neu ddwy. Rhaid i mi beidioch rhwystro chi gyda'ch gwaith."
"Isteddwch chi, Syr. Ma'r hen gorddad wedi dod. Fidda i fowr o dro'n i glatsho fe.
Er mwyn arbed amser, tynnodd y pin o'r fuddai, a gadawodd i'r llaeth enwyn redeg yn ffrwd wen i'r giler. Yn y cyfamser, daeth dau neu d'ri o'r plant i mewn ar flaenau eu traed, rhoisant eu pennau yn unig tu mewn i ddrws y gegin, edrychasant gyda chywreinrwydd ar y gŵr dieithr ynghanol y crochanau, yna rhedasant allan yn chwyrn i ddweyd yr hanes wrth y lleill.
"Ydi Dafi Pŵel adref heddyw, Mrs. Pwel?" gofynnai'r gweinidog drwy dwrw bwrlymiad y llaeth enwyn.
Nadi, Syr, wir. Fise'n dda da fi pe bise fe.
Geise fe fwi o amser na fi i sharad a chi. Ath a'r cart lawr sha'r dre bore heddi i hol rhiw goed' i John Sâr. Marged, cer i hol ffagal fach dan y tegil na. Ie, wi'n gweid pŵer wrth Dafi bod i'n neis arno gal mind ma a co o swn y plant a'r helger, yn lle bod ynghanol y ffwdan fel fi o fore stoi'n nos.
Edrychodd y gweinidog i wyneb blin y wraig, a dywedodd,—
"Ie, digon anodd yw hi gyda cymaint o waith i dynnu'ch meddwl oddiwrth y ffwdan at rywbeth uwch."
"Dîn a'n helpo i! Dos dim posib, Syr," ebe Mari. "Ac eto," ebe'r gweinidog, yn ofni rhyngddo a'i hun y gadawai i'r cyfle hwn eto fynd heibio heb ddweyd ei neges, "mae eisieu gwneud hynny, Mrs. Pŵel. Y mae'n bosibl, ac fe fyddai eich bywyd beunyddiol yn llai o faich i chi pe gallech ei wneud. Rym ni i gyd wedi ein creu i rywbeth uwch nag i golli ein hunain yn helynt a thrafferth y bywyd hwn, a dyna'm neges i yma heddyw, Mrs. Pŵel, just i gyfeirio'ch meddwl chi at y pethe gwell yna."
"Ie, chi," ebe Mari'n fyfyrgar. "Pe bai Dafi ma, fe alle fe sharad a chi, falle. Ma dag e amser i feddwl am bethe fel na, staf fi ddim. Wi'n credi bidd y Bod Mowr ar y diwedd yn cimrid hinni i ystirieth. Mai E'n gwibod fel mai arna i. 'Drian a ti,' wêd E, 'paid di mindio. Chest ti'm amser ariôd i fod yn ddiwiol.' Ie wirione. Ewch chi ddim, Syr, cin cal dised o dê? Ma'r tegil yn berw:."
Boddlonwyd calon garedig Mari, pan ddywedodd Mr. Elis yr hoffai wydraid o'r llaeth enwyn ffres. Ac wrth ei yfed, ac yn hir wedi i'w flas adael ei enau, rhedai diwinyddiaeth newy id Mari Pŵel drwy ei feddwl, Paid di mindio, wêd E. Drian a ti! Chest ti'm amser ariod' i fod yn ddiwiol." Ar ymyl y ffordd fach tuhwnt i Llainddu, eisteddai Shaci'r Nant ar ei stol yn diwyd dorri cerrig. Yr oedd yntau yn un o'r praid. Hen ŵr bychan bywiog nedd Shaci, a chanddo lawer i ddweyd wrth bawb a ai heibio. Cymerai ddiddordeb anghyffredin yn hanes pawb o'i gym- dogion, a defnyddiai'r trydydd person wrth siarad a phawb o bob gradd. Yr oedd hefyd yn drwm iawn ei glyw. An- aml yr ai neb heibio'i garn gerrig heb ymdroi ychydig i siarad â'r hen ŵr. Pan ddaeth Mr. Elis ymlaen, cododd Shaci ei law at ei dalcen o barch iddo fel gweinidog, a dechreuodd ymddiddan, a pharhaodd, heb ond prin roi lle i'r gweinidog syn daflu gair i mewn.
"Shwt mai e heddi, Syr? Wel, tawn i marw! mai e wedi dewis diwarnod neis i dod' ffor hin. Fio'r hen lên fach ma ariod yn lipach. Naddo seriws. Mi eith yn shwe shac yn y sgidie bach tene na. Gweded pam na wisgith e glocs? Ie, tawn i marw! Dos dim ond clocs yn cered y lôn ma o ddachre'r flwiddin hid i diwedd i. Ma'r ffeirad ar gefen i boni finicha, ne clocs fise dag inte. Gweded te, le ca i weid bod e'n mind ffor hin?"
Gwaeddodd y Bugail ei neges oreu medrai.
"O, ie, ond Dei cato ni! peided a ffwdani dwino'i sgide'n rhi amal ffor hin. I ni'n crefidda ma i gid, welith e, ac yn dod nawr ag wleth i'r capel co i mofin yn toc. Ond weda i hin wrtho, i ni'n i leico fe wedi i dorri'n fân. Wedd e'n nabod yr hen Forus we ma o'i flân e? We mi ginta. Dei, cwlffe bras iawn we ni'n gal dag e a wirione, we'r bwid ddim yn cal i droilo da'n hanner ni. Ise i dorri e'n fân si, ie'n fân, fân. Cofied e gingor yr hen Shaci. Na drieni nawr, ath Bet i'r shop ginne, a mai heb ddod nol, ne fe geise'r ddised dê ffena gas e ariôd. Ma Bet yn gneid dised o dê i rifeddi, odi, tawn i marw. Ond galwed yn y Glaslwyn, Ma mab y Glasiwyn gatre o bant, a'i sgidie fe mor dene a'i rai e. Titsher iw e, bant sha'r gweithe na rwle. Sisnes o wraig si deg e, medde nhw. achan.
Wedi tipyn rhagor o ymgom unochrog, medrodd y gweinidog ddadfachu ei hun oddiwrth Shaci. Aeth, yn ol cyngor yr hen ŵr, i'r Glaslwyn. Yr oedd y tad a'r fam a'r mab y soniasai Shaci am dano, yn mynd i gael eu té pan alwodd y gweinidog. Gwahoddwyd ef i eistedd gyda hwynt wrth y bwrdd.
Tawedog iawn oedd John a Neli Morgan. Gan fod Daniel eu mab gartref, ystyrient mai efe oedd yr addasaf i siarad â'r gweinidog. Yr oedd Daniel yn hyn o'r un farn a'i dad a'i fam, a theimlai ac ymdrechai ddangos ei fod yn gwybod mwy na'r gweinidog gwledig am bob pwnc dan haul. Pan siaradai am grefydd, gwnai hynny mewn dull ysgafn cellweirus, fel pe yn cymeryd yn ganiataol nad allai neb fod o ddifrif yn eu proffes o bethe mor hen ffasiwn, ac y gallai'r rhai oedd yn y gyfrinach gyffesu hynny'n wyneb-agored wrth ei gilydd.
Cymerwch, bwytewch, Mr. Elis, ebe ef, gan gynnig y bara menyn, mae e wedi i fendithio'n barod.
Disgwyliai o leiaf wên oddiwrth y gweinidog fel gwerthfawrogiad o'i ffraethireb, a phan nas cafodd, ac y gwelodd fod y pregethwr yn siarad a'i dad a'i fam gan ei adael ef yn ddisylw, symudodd ei lygaid yn chwareus, a ffurfiodd ei wefusau y gair "Prig"!
"My word," ebe ef drachefn cyn hir, "ma soft job da chi'r pregethwir ma. Ma'r wthnos ond Di Sil practically 'n rhidd da chi."
"Ydych chi meddwl hynny?" gofynnai Owen Elis.
"Well, very little preparation will do, you know, here among the simple country people. If you are smart, as I am sure you are, you can give an impromptu discourse, and have it considered a great sermon. Take care not to say anything very new, throw in a good supply of sentimental anecdotes, and plenty of hwyl, and there you are! By Jove, nhad, pam na godech chi fi'n brigethwr?"
Hanner gwenu wnaeth ei dad, a dywedodd ei fam tra'n torri'n ddeheuig y frechdan hir:—
"Wi'n meddwl bod bid go lew arnat ti nawr," ac edrychodd gydag edmygedd ar ei mab, o'i glywed yn siarad Saesneg mor feistrolgar, ac yn trin y gweinidog fel cydradd. "It must be trying though," ebe Daniel drachefn, hammer on at the old subjects Sunday after Sunday, and to pretend to be serious when you really are not. I suppose you are very keen on Cyfiawnhad drwy ffydd and ail enedigaeth and all that. Mam, odich chi'n meddwl bod fi wedi'n ail—eni? Prid ma'r cyfiawnhai'n dod miwn wedin, Mr. Elis?" a chwarddodd y dyn ieuanc yn iachus. Er mai'r peth anhawddaf iddo i'w ddioddef oedd gwawd, mynnodd Owen Elis fod yn ddigon gwrol i ddywedyd yr hyn oedd ar ei feddwl.
"Mr. Morgan," ebe ef, "perigl mwyaf Crefydd Cymru heddyw yw pobl fel chi sydd wedi cael ychydig addysg ac wedi cael eich dwyn i fyny ynghanol breintiau'r efengyl. Rych chi wedi dod mor gyfarwydd a geiriau'r efengyl, a geiriau gwag yn unig y'n nw i chi. Rych chi'n gallu cellwair ag ymadroddion oedd yn llawn o ystyr i'r hen bobl, ac sydd eto'n llawn o ystyr i'r rhai sy'n deall pethau. Draw the line at religion, Mr. Morgan. I can't see that it is manly to scoff at things which are sacred to others, and which—pardon me for saying it bluntly to your face—you evidently do not in the least understand. Mae son yn yr Hen Destament am rywrai wedi cyfarwyddo cymaint ar Arch Duw, nes mynd yn rhy hŷf yn ei phresenoldeb, a'i chyffwrdd yn ddiystyr a'u dwylaw halog, a chael eu taro'n farw am hynny. Fe wneir digon o'r un peth yng Nghymru heddyw. Chwi a'ch tebig sy'n euog o hono. Yr un yw Duw o hyd, ac y mae E'n sylwi. Gwyliwch y gosb! Falle taw nid yr un fydd honno a chynt, ond fe fydd yn effeithiol, coeliwch fi, ac yn ffitio'r ces a'r camwedd!"
Synnodd Daniel gymaint nes methu cael gair mewn atebiad, ond chwarddodd eto er mwyn cuddio teimlad dyfnach. Wedi bwrlymu felly, trodd y gweinidog at John a Neli, gan geisio siarad am bethau mwy cyffredin, a gadawodd Daniel mor ddisylw a phe na bai yno.
Pan ddaeth yn bryd iddo fynd, yr hen ŵr aeth gam neu ddau i'w hebrwng, a safai Daniel ar y drws i'w wylio'n mynd. Yes, a confounded prig," ebe ef wrtho'i hun.
Cythryblus a thymhestlog ei feddwl oedd Owen Elis wrth ddisgyn drwy'r heol fach gul at yr afon. Safai merch ar y bompren gul. Pwysai ar yr hen ganllaw, a syllai i ddyfroedd yr afon. Adwaenodd hi fel un o ferched ei gynulleidfa, ond ni wyddai pwy oedd.
Nid cyn iddo ddyfod hyd at y bompren y cododd Gwen Alun ei phen. Trodd ei llygaid mawrion i'w gyfeiriad, ac edrychodd y ddau ar ei gilydd am funud heb ddywedyd gair, yna symudodd Gwen i wneud lle i'r gweinidog fynd heibio.
"Prynhawn da! Ydi Isaber—tŷ Dafydd Alun—yn agos.
"Odi," ebe Gwen. "Dyna lle'r w i'n biw. Ma Daci gatre.
"Rown i'n mynd i edrych am dano wrth fynd heibio,' ebe'r gweinidog, gan edrych ar Gwen o hyd, a'i het yn ei law.
"Ddo i nol gidach chi," ebe Gwen. "Dim ond hyd fan na own i'n mind,—i gal tipin o gwmni'r hen afon."
Siaradai Gwen â phawb yn syml a rhydd, fel y gwnai a'i thadcu.
"A beth mae'r hen afon yn ddweyd wrthych chi?" gofynnai'r gweinidog gan wenu.
"O. pŵer o bethe." atebai Gwen. Mai'n y nifrio i amell waith a nghisiro i brid arall. Dich chi ddim yn teimlo fel na weithe, Mr. Elis? Ma'r in peth yn digwidd amell waith ar nos Silie, pan fidd Daci a finne'n cimrid wâc ddistaw drw Barc y Berth. Din ni'm yn sharad llawer, ond ma popeth yn sharad wrthon ni. Duw yn rhoi ei falm, medde Daci."
Edrychodd y gweinidog yn syn ar Gwen. Ni chlywsai ferch yn siarad felly erioed. Yr oedd Gwen yn bert iawn.
"Dych chi'm yn dod i'r cwrdd ar nos Suliau?" gofynnai.
"Anamal iawn ma Daci'n mind i'r cwrdd," ebe Gwen, "a rw inne'n hoff iawn o Daci."
Daethant at Isaber. Gwahoddodd Gwen y gweinidog i mewn, a rhoddodd gadair iddo. "Mi alwai ar Daci nawr, "ebe hi, "mi gweles e yn yr ardd."
VI.
Mae'r henwyr? Ai meirw rheini?
Hynaf oll heno wyf i.
—GUTO'R GLYN.
DAETH Dafydd Alun i mewn yn araf, ac eisteddodd yn drwm ar ei gadair freichiau dderw, a chan bwyso ei ddwylaw ar ei ffon, edrychodd ar y gweinidog ieuanc, a dy wedodd,—
Ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto ei nerth sydd boen a blinder.' Rw i wedi gadael y mhedwar ugain a thair, Mr. Elis."
Edrychodd y dyn ieuanc ar yr hen ŵr yn ddistaw, a dywedodd, wedi ennyd o fyfyrdod,
"Mae rhyw air Saesneg yn dweyd fel hyn,—
'Let him not boast who puts his armour on,
Like him who puts it off, the battle won.'
Hyn yw ei ystyr,
"O, ma Daci'n diall Sisneg," ebe Gwen, gan wenu. Derbyniodd y gweinidog y ffaith yn ddistaw, a dywedodd, "Nawr wyf fi'n gwisgo'r arfau o ddifri, Dafydd Alun. Mae'r frwydr a'i helyntion, y blino a'r diffygio, i gyd yn f' aros i. Sut ych chi'n teimlo nawr wedi byw oes faith? Ydych chi'n foddlon myn'd oma?"
"Ma Rhagluniaeth yn garedig iawn wrthym ni'r hen bobol," ebe Dafydd Alun. "Mae'n mynd a ni ymaith mor raddol. Mae'r nerth yn mynd, y clyw, y perth'nase, a'r cyfeillion, rhai fu'n cydfyw a chyd-frwydro â ni; ma nw'n mynd o un i un, nes fod mwy o honom ni'r ochor draw nag sy'r ochor hyn, ac fod cystal da ninne fynd a pheido."
"Rw i da chi, Daci," ebe Gwen, gan sefyll yn ei ymyl a phwyso ei breichiau ar gefn ei gadair.
"Fuset tithe, merch i, 'n fwy rhydd hebddw i. Ffwdan wi i tithe nawr."
"O, Daci!"
"Gwen sy wedi gofalu am dana i ers whech mlyne nawr," ebe Dafydd Alun. "Ma'n unig blentyn i'n byw yn Shir Gâr, a theulu mowr da hi. Merch hena honno yw Gwen. Pan farw Sara ngwraig, whap wedi i ni roi'r ffarm fyny, rown i'n meddwl taw dim ond am gwpwl o fisodd buse ise Gwen arna i. Ond rw i'n cal byw o hyd. Wn i a nês i'n iawn, Gwen fach, i dy ddwyn di o wrth y plant erill."
"Dyna gân Daci nawr, stil, Mr. Elis," ebe Gwen rhwng lleddf a llon, "fel se fe ddim yn gwbod taw gidag ewi. hapisa.
"Mae'n anodd gwybod beth sy'n iawn yn fynych," ebe'r gweinidog. "Un cyfle geir i fyw'n y byd. Mae cymaint o wahanol lwybrau, a phob un yn gorfod dewis ei lwybr heb neb i roi cyfarwyddyd pendant. Problem barhaus yw bywyd. A gawsoch chi'r cwestiynau a'r anawsterau yna yn eich bywyd chwi, Dafydd Alun?"
Do, do. Ond ma'r gole'n dod hefyd. Ma'r hen fyd ma'n dod a ni i'n lle, Mr. Elis. Pan own i'n ifanc a heini fel chi, rown i'n galed ac uchel, a hunan ddigonol. 'Doedd mo Duw yn fy holl feddyliau. Fe fu raid i fi weld' trallodion a henent a dyddie blin cyn i f'ysbryd i ddod i'w le. Ro'dd Sara'n wahanol iawn i fi, a hi gas y dedwyddwch pura; a nawr, wedi iddi hi farw, rw i'n gweld' ystyr pŵer o'r pethe o'dd hi'n weyd, ie, nawr, wedi iddi hi farw," ebe'r hen wr fel wrtho'i hun.
Bu munud neu ddwy o ddistawrwydd.
Anaml ych chi'n dod i'r cwrdd', Dafydd Alun," ebe'r gweinidog.
Braidd nad anghofies i taw Bugail y Bryn oeddech chi, ac mai dod yma fel Bugail oedd eich neges," ebe'r hen ŵr mewn tôn dipyn yn sychlyd.
Ie, fel Bugail y does i yma, Dafydd Alun, ond wedi'ch nabod chi, rw i am newid lle a chi. Rych chi'n hynaf— gwr profiadol ac yn Gristion. Rhowch help llaw i ddyn ieuanc. Methu deall w i na fyddai dyn o'ch bath chi yn amlach mewn lle o addoliad. Rych chi'n cerdded yn hoew, a dyw'r capel ddim ymhell iawn."
Pwysodd Dafydd Alun ei ben ar ei ffon, ac atebodd yn araf, fel wrtho'i hun,—
Ie, lle o addoliad,— Wele, y mae'r awr yn dyfod,' ie—hm— eithr mewn ysbryd a gwirionedd.' Mi fues i'n. dipyn o gwrddwr unwaith, ond fues i ariôd yn nodedig o flaenllaw gyda gwaith capel. Does gen i fawr o feddwl o lawer sy felly. Ofynnir dim i mi ar y diwedd, welwch chi, Sawl gwaith buest ti'n y capel?' ond Shwt buest ti byw?"
Ond, yn sicr," ebe'r gweinidog, "hyd nes daw pobl yn berffeithiach, mae gweinidogaeth capel ac eglwys yn angenrheidiol. All dynion cyffredin mewn gwlad na thre ddim addoli mewn ysbryd ac mewn gwirionedd heb help y pethau allanol yma. Dyna foddion gras onte?
"Rych chi'n iawn, rych chi'n iawn. Ond ma perigl o'r ochor arall i bobol bwyso gormod arnyn nw gynhyrchu iechyd yw e, ac nid yr iechyd i hunan, falle nad yw'r un moddion ddim yn cytuno â phawb."
Daeth gwên siomedig i wyneb y pregethwr.
"Dyna berigl Cymru a'i channoedd capeli ac eglwysi," ychwanegai Dafydd Alun,— "meddwl mai bod yn aelod eglwysig yw crefydd. Wirionedd i, na proffeswyr crefydd yng Nghymru yn debig iawn ag oedden nw yng ngwlad Canaan yn amser Crist, yn meddwl taw nhwy'n unig sy'n diall y ffordd i'r bywyd. Ma'r capeli a'r eglwysi wedi gneud twysged o les i Gymru, ond cyn bo hir,—fe fyddwch chi byw i weld hynny,—fe fydd raid cal rhyw foddion gras o natur wahanol, hyd yn oed yn e'n gwlad ni. Ma pobol yn colli golwg ar yr ysbrydol. Ma gofid ne drallod mowr yn amal yn dwyn dyn i'w le. Fe ddaw rhyw gynnwrf tebig ryw ddiwrnod i ysgwyd y genedl yn gyfan yn ol at y pethe mowr.
"Ond, ond," ebe'r gweinidog yn hanner ofnus, "yn lle cadw o'r capeli am fod y crefyddwyr mor amherffaith, ai nid ein dyledswydd ni yw gwneud ein gore i ddod a phethau yn fwy perffaith?"
"Ma hynna shwr o fod yn wir, Daci," ebe Gwen.
"Gyda chi'r ieuanc ma'r cyfle te," ebe Dafydd Alun. "Ma'n amser i ar ben. Wnawn i ddim rhyw bŵer o les mwy tawn i'n mynd i'r cwrdd yn gyson".
"Fe fuse esiampl dyn fel chi'n gwneud llawer," ebe'r gweinidog.
"Does dim eisie esiampl i fyn'd i'r cwrdd," ebe'r hen ŵr. "Mae pawb yn gneud hynny ffor hyn. Ma digon o eisie esiamplau i fyw'n onest, yn eirwir, yn ddi—genfigen. Rw i'n treio gneud hynny."
"Rhwbeth fel na ma Esaiah'n weid yn y bennod ddarllenson ni bore heddi," ebe Gwen, a difynnodd yr adnodau o'i chof: "Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? Ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachlian a lludw arno? Ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd? Onid dyma yr ympryd a ddewisais? Datod' rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri o honoch bob iau? Onid torri dy fara i'r newynog, a dwyn o honot y crwydriaid i dŷ? A phan welych y noeth ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddiwrth dy gnawd dy hun?"
Trodd y gweinidog ei lygaid o syllu ar Gwen, a dywedodd," Rhaid i mi ddweyd hyn: 'Rwyf erbyn hyn yn gyfarwydd a'r rhan fwyaf o aelodau'r eglwys yn Y Bryn, ond chefais i neb eto mor ysbrydol eu meddwl a chwi eich dau. Rw i am i chi ddod i'r cwrdd nawr am reswm arall hollol,—pan alloch chi, Dafydd Alun,—i fod yn galondid i mi, i mi gael teimlo fod rhywun yn y gynulleidfa yn fy neall."
"Mi na i—mi wnaf fi i Daci ddod mwy, amell waith," ebe Gwen.
"A pheth arall," ebe'r gweinidog, a'i lygaid yn disgleirio, mae mwy mewn crefydd na bod yn orest, a geirwir, a digenfigen, mwy hyd yn oed na datod rhwymau anwiredd a thorri bara i'r newynog, ac yn y blaen fel mae Esaiah 'n dweyd. A ddarllensoch chi ar ddiwedd y bennod am yr ymhyfrydu' yna? Y gorfoledd hwnnw na wyr y byd ddim am dano, y gorfoledd hwnnw sy'n codi dyn ymhell uwchlaw'r ddaear, nes gwneud holl gysylltiadau daear yn ddibwys, ie, sy'n gweddnewid y byd i gyd! Ma hynna mewn crefydd, a rw i'n credu taw yn y cysegr mae teimlo hwnna ar ei fan gore."
Pan gododd y gweinidog i fynd, cofiodd Gwen yn sydyn nad oedd wedi cynnig bwyd iddo, fel y gwnai pob teulu yn y wlad i ymwelwyr.
"O, Mr. Elis, arhoswch, fe ddaw tê'n barod' 'mhen cwpwl o finide," ebe hi.
"Diolch. Rhaid i mi fynd nawr, a mi ges dê yn Y Glaslwyn. Roedd yn well gen i'r ymgom yna a chwi eich dau nag un pryd o fwyd."
Felly ffarweliwyd. Aeth y gweinidog, a meddyliau am Gwen yn torri ar draws ei feddyliau arferol am ei waith, a blinai Gwen drwy weddill y dydd am anghofio o honi estyn croesaw arferol y wlad i'r gweinidog newydd.
VII.
Nis gwyr dyn ei ddamwain.
—HEN DDIHAREB.
SAFAI Isaber ar lawr yn bur isel yn y cwm. Dim ond lled yr ardd ac un cae a'r ddol oedd rhyngddo a'r afon Gwynli. Arweiniai lôn gul heibio Penffynnon,—tŷ Nani a Sali, ac i fyny'n hir a serth am fwy na hanner milltir, nes dod allan i'r ffordd fawr sydd rhwng Abergwynli a Thre'r ynys. O'r fan hon ceid llawn olwg ar y dyffryn hardd islaw. Gwelid simneiau gwynion y ffermdai yn ymddangos. drwy'r coed talgryf a'u cysgodai, ac ar ymylon rhai o'r caeau gwyrddlas codai bythod' tô gwellt eu pennau'n siriol. Fan draw, gwelid y pentref bach, ac yn ei ganol y capel gwyngalchog a'r fynwent lonydd. O'r tu ol, ymgodai'r tir yn raddol nes cyrraedd y rhosydd eang a'u swyn dihysbydd. I'r cyfeiriad arall, ymledai'r dyffryn nes graddol ymgolli yn nyffryn brasach yr Afon Fawr. Ar y gorwel pell gwelid y mynyddau'n ymgodi'n fawreddog, ac weithiau, ar hwyrnos dawel a chlir, clywid ysgrech oer y tren, a gwelid ei fwg gwyn fel colofn o niwl ar eu godre.
Un noson hyfryd ym mis Mai, wedi godro a gorffen gwaith ei dydd, aeth Gwen at ei thadcu, yr hwn eisteddai, yn ol ei arfer, yn ysmocio ei bibellaid ar foncyff pren yn yr ardd, a dywedodd,—Daci, wi'n mind a'r diferin llâth ma i Penffynnon. Fidda i nol 'ninion."
Ond yr oedd Nani wedi noswylio. Daeth ei llais at Gwen d'r diddosrwydd 'tu ol i lenni glân yr hen wely mawr,—
"Mind i'r gweli gida'r fiwch, a chodi gida'r hedidd."
Yr oedd Sali'n brysur yn golchi'r llestri ar ol y swper o gawl dwr, a themtiwyd Gwen i gymeryd gwib, fel y gwnai weithiau fin hwyr yn yr haf, wrthi ei hun i ben pellaf y lôn. Arhosodd yn ymyl hen lidiart lwyd cyn dod i'r ffordd fawr, gan bwyso'i phen arni a myfyrio. Fynychaf, tawel ei meddwl fyddai Gwen. Cai dyfroedd cyfoethog bywyd lifo'n llyfn dros ei henaid. Heno, yr oedd ei meddwl yn anniddig ac yn llawn cwestiynau heb ateb iddynt yn ei phrofiad hi. Edrychai ar y dyffryn o'i blaen, a sylweddolai fod cylch ei hadnabyddiaeth i gyd bron rhwng y capel bychan ar yr aswy a bwthyn ei thadcu ar y dde. Brinned oedd ei chyfle am gymdeithas! Ei thadcu, Nani a Sali, merched Maesyryn, ac ychydig ereill na wyddai fwy am fywyd na hithau oedd uni rai cyfarwydd ei byd. Deuai Mr. Puw, y rheithor, weithiau i gael ymgom a'i thadcu, ond yng nghwmni hwnnw. teimlai'n reddfol mai distaw y disgwylid hi fod. Aethai tair wythnos heibio oddiar ymweliad Owen Elis. Wedi dod mor agos atynt y tro hwnnw; wedi arllwys ei brofiadau fel y gwnaethai, disgwyliasai Gwen ei weld yn dod drachefn; ond yr unig olwg a gawsai arno wedi hynny oedd o'i sedd yn y capel.
Gwelsai ef y Sul yn ysgwyd llaw a'i thadcu, a phan ddaethai hi i'w gyfer wrth fynd allan, ni wnaethi Mr. Elis ond edrych arni'n syn, a rhoi rhyw hanner—gwên freuddwydiol iddi. Teimlai Gwen yn sicr na chofiai pwy oedd hi. Yr oedd y wên honno o flaen ei llygaid o hyd, ac ymgymysgai fel yn awr, a blinderau bychain ereill ei bywyd. Darllenai i'w thadeu'n gyson y papur newydd a gaent bob dydd o dŷ'r ffeiriad,' ac nid oedd hynny heb ei effaith arni. Yr oedd cymaint o bethau diddorol yn y byd na wyddai hi ddim. am danynt,—cymaint o broblemau ag arni eisieu eu d'adrys. Edrychai ar y mynyddau obry fel rhyw gewri yn gwylio drws y byl mawr tudraw ac yn ei gau yn ei herbyn, a rywfodd, ni ddug yr hwyrnos tawel hwnnw yr hedd arferol i'w bron.
Wedi troi drachefn tuag adref, gan gerdded yn fyfyrgar i lawr drwy'r lôn, brawychwyd calon Gwen pan welodd, ychydig latheni oddiwrthi, yn pori'r cloddiau'n hamddenol, bedwar o ebolion mawrion Ffynnonlas. Crynai Gwen gan ofn. Ni chymerai lawer am eu pasio, a rhedodd yn ol am ei heinioes i fwlch gerllaw, fel, os rhuthrent yn ffyrnig arni, y cai ffoi am ddiogelwch dros y glwyd. Gan ei swn hi yn rhedeg, brawychwyd yr ebolion. Dechreuasant redeg a gweryru, nes gwneud i galon Gwen guro'n waeth. Beth i'w wneud ni wyddai. Wedi aros am ychydig i orffen crynu, aeth allan o'r bwlch i ganol y lôn, a gwaeddodd "How! How! Whisht! Whisht! Cododd garreg, a thaflodd hi â holl nerth ei braich tuag atynt, ond disgynnodd honno'n ddiniwed ar ganol y cae gerllaw, ac ni wnaeth yr ebolion ond codi eu pennau ac edrych arni gan gnoi eu porfa flasus, fel pe yn gofyn," Beth yw dy helger di?" Caeau ŷd' oedd o bob tu i'r lôn, a phe y mentrai Gwen drwyddynt, nid oedd yn sicr y cai fwlch i ddod allan ar y gwaelod. A beth pe bai'r ebolion yn ei gweld, ac yn rhuthro dros y clawdd ar ei hol? Cofiai lawer son am bobl wedi eu niweidio. gan geffylau. Yr oedd golwg ffyrnig ofnadwy ar yr hen geffy! mwyaf. Yr oedd Gwen bron crio, ac yn dechreu meddwl y byddai raid iddi fynd yn ol i fferm yr Alltfawr i ofyn am gwmni rhywun, pan y clywodd swn traed o'r cyfeiriad hwnnw, ac y gwelodd Fred y Sais, gwas Maesyryn, yn dod i lawr drwy'r lôn gan chwibanu a'i ddwylaw yn ei boced. Yn ddiau, ni fu un ferch erioed yn falchach i weld bachgen nag oedd Gwen bryd hwnnw i weld y Sais.
"Nos da, Fred," ebe hi. "Ma ofan arna i baso'r hen geffile ma, a wi'n ffeili'n deg a chal da nw simid. Hen ebolion Ffynnonlas î'n nw. A halwch chi nw lawr o'ch blân?" Arhosodd Fred yn syn, a thynnodd ei gap, yn union fel y gwnaethai Mr. Elis wrth y bont,—yr unig ddau a wnaethai— hynny erioed ym myd Gwen. Certainly," ebe ef. "Are you-y-ti ofan hwy?" A chyda hanner yr ymdrechion a roisai Gwen i'r un pwrpas, gwnaeth i'r pedwar ebol dramwy'n heini tua chyfeiriad Ffynnonlas. Yna, daeth yn ol, a dywedodd,—
"Fi mind heibo ti chi, os chi ofan."
Dangosodd Gwen fod yn dda ganddi gael ei gwmni drwy fynd yn ddibetrus i gyd gerdded ag ef. Nid oedd erioed o'r blaen wedi cyfnewid gair ag ef, nac wedi ei weld yn agos. Yr oedd yn fachgen tâl, golygus, a thra hoew ei gerddediad. Yr oedd wedi gwenu cymaint yn ei fywyd nes gwneud rhychiau dyfnion i lawr dros ei ddwy rudd ac ar hyd ei dalcen, ac yr oedd y rhychiau hynny a lliw ei wyneb yn atgofio Gwen o groen y darn cig moch hongiai dan y simne gartre. Ond yr oedd rhywbeth yn fyw a llawen iawn yn ei wedd, ac yr oedd direidí a natur dda yn pefrio o'i lygaid.
Dyma hefyd y tro cyntaf i Gwen siarad ag un nad oedd yn Gymro, ac er fod Fred wedi treulio blwyddyn ym Minyrafon fferm ar dueddau Sir Gaer—cyn dyfod y calangaeaf cynt i Faesyryn, pur anhebig i iaith y rhan honno nac unrhyw ran arall o Gymru oedd ei Gymraeg. Yr oedd hyn yn beth newydd i Gwen, ac yn hynod ddiddorol, ac yr oedd cwmni Fred fel yn rhyw gil—agor drws y byd pell, cyfrin, yr hiraethasai am dano. Er mai "hen Sais" oedd,—creadur a'i bosibliadau i gyfeiriad drygioni yn ddiderfyn ym marn pobl y wlad,—daeth Gwen ar unwaith i siarad yn rhydd ag ef, a chwarddai yn galonnog ar ei ymdrechion i wneud ei hun yn ddealladwy iddi.
Gwnaeth dull rhydd Gwen i'r Sais ddyfod yn ddigon eofn i ddweyd',—
"Ti sharad Sisneg nawr, finne wherthin."
Cafodd ei gyfle pan atebodd Gwen gyda'r cynaniad a ddysgasai yn yr ysgol yn Sir Gaer,—
"Ei olwes read to mei grandfather. Ei can read and enderstand English, but ei don't leik to toke it. The words wont come with me."
Gwenodd Fred a dywedodd,—
"The words would come easily enough if you practised. You ought to talk to someone very often, someone who knows how to speak English correctly."
"Here iss ower hows," ebe Gwen, "and grandfather iss waiting forr me."
"Le buest ti, lodes?" ebe Dafydd Alun, gan edrych yn syn ar Fred a hithau.
"Fies am wâc fach hid ben y lôn. Gorffod i fi aros am spel wrth fwlch parc yr Alltfawr,—we hen ebolion Ffynnon— las ar y lôn, a we ofan arna i i paso nw. Ddoith Fred ma heibo wedin, a mi ges gwmni lawr."
"Hm!" "ebe Dafydd Alun, "we ise arna i i ti ddarllen araith Chamberlain i fi. Ddoith crwt y ffeirad a'r papir gynne, a fan hyn w i wedi bod yn dy ddisgwl di."
Darllenith Fred e. Newch chi, Fred?" ebe Gwen, gan gymeryd y papur o law ei thadcu a'i gynnyg i'r Sais.
Certainly, I'll read it," ebe ef.
"Com in then, to have light," ebe Dafydd Alun.
"I'll manage in this light, thankyou, Mr. Alun," ebe ef, a darllenodd yr araith o'i dechreu i'w diwedd',—nid fel y disgwylid i was fferm wneud, ond yn glir a chroew, a gyda phwyslais a thôn fel ysgolor.
"Lodes, pryd doi di i ddarllen fel na?" ebe'r hen ŵr. "Thanks, Fred, thanks, you read very well."
Am ddyddiau ar ol hynny, meddyliai Gwen hyfryded fyddai darllen Saesneg mor feistrolgar a'i siarad mor rhydd ag y gwnai Fred. Cyn ei glywed ef, ni ddaethai amheuaeth i'w meddwl nad oedd tinc ei Saesneg hi yr hyn a ddylai fod. Yr oedd seiniau Fred gymaint yn llyfnach a thlysach. Pen— derfynodd y mynnai hithau drwy ryw fodd ddysgu darllen Saesneg a'i siarad hefyd nes synnu ei thadcu a phawb a'i clywai.
Wedi clywed yr araith a chael cymaint o fwynhad ynddi, anghofiodd Dafydd Alun y meddwl cyntaf a ddaethai ato o weld Gwen a'r Sais yn cyd-gerdded.
VIII.
Shades of Evening, close not o'er us,
Leave our lonely bark awhile!
—T. H. BAYLEY.
DYDD pwysig iawn yn ardal Cwmgwynli oedd dydd Ffair Galanmai, neu, fel y gelwid hi'n gyffredin, "Ffaer Glame." Honno a Ffair Fedi oedd dwy ffair bleser y flwyddyn. Tyrrai'r bobl ieuainc o bob cyfeiriad i Abergwynli ar y dyddiau hynny, a lawer tro, dechreuwyd yno gwmniaeth a barhaodd am oes gyfan.
Y flwyddyn honno, Dafydd Alun aeth o Isaber i Ffair Galanmai, ac nid Gwen. Yr oedd ganddo neges yno a ofynnai am ei bresenoldeb, a chafodd ei gario i lawr yng ngherbyd bychan esmwyth Mr. Puw y Rheithor, gyda Mr. Puw ei hun yn gwmni. Yr oedd gan Gwen felly ddydd hir o Fai i'w dreulio wrthi ei hun.
Gan fod y ffermwyr a'u gweision yn y ffair, yr oedd swn arferol dydd gwaith wedi peidio. Ni welid neb yn llafurio hyd y caeau. Dadluddedai'r ceffylau blinedig hyd y meysydd glas, gan edrych fel pe'n methu deall ystyr y seibiant sydyn. Teyrnasai tawelwch Sabathaidd drwy'r wlad, a cheinder hudol Mai yn hulio bro a bryn.
O ymyl y ffordd lle y croesid yr afon Gwynli gan y bompren gul, ymestynnai dolydd Maesyryn am bellter hir gyda glan yr afon. Yn gynnar yn y Gwanwyn, buasid yn torri tanwydd yno, a gadawsid aml hen foncyff yma a thraw a ffurfiai sedd gysurus ar fin yr afon. At un o'r rhai hyn y cyfeiriai Gwen ei chamre yn gynnar yn y prynhawn a llyfr yn ei llaw.
Cyn cyrraedd bwlch y ddol, pwy welai yn cerdded yn araf i'w chyfarfod ond Owen Elis! Edrychai'n fyfyrgar tua'r llawr, pwysai weithiau'n drwm ar ei ffon, a chariai ei het wellt yn ei law. Braidd na wridodd pan gododd ei ben yn sydyn a gweld Gwen yn ei ymyl. Safasant i siarad ynghanol y tawelwch Sabathaidd a cheinder hudol y tymor mwyn.
Trodd Gwen yn ol gydag ef, ond pan ddywedodd fod ei thadcu wedi mynd i'r ffair, arhosodd Mr. Elis.
"Ddo i ddim i'r tŷ, ynte, gan nad yw'ch tadcu gartre, ebe ef, ac edrychodd ar Gwen a'i llyfr. Nid oedd am ei gadael ar unwaith hefyd. "Oeddech chi'n mynd rywle?" "Mind i'r ddol i iste—i eistedd ar lan yr afon own i. Wi'n leico darllen yn swn y dwr," ebe Gwen, ac ychwanegodd yn syml, gan edrych i wyneb y gweinidog,—
"Odich chi wedi mind nol ariod trw lwibir y ddol? Mai'n nes i chi na mind trw'r ffordd ac yn sichach lawer. Ma pompren fach yn croesi'r afon yn y ddol ganol. Mi ddangosa i'r llwibir i chi, os i chi am."
Felly cyd-gerddodd y ddeuddyn ieuanc trwy'r ddol las, esmwyth, hyd lan yr hen afon fechan droellog, o olwg ac Yno wrthynt o glyw pawb ond y gwartheg breuddwydiol. eu hunain, mor naturiol y siaradent! Deuai'r meddyliau a'r geiriau yn rhwydd a didrafferth. Ni chlywsent,—ni chlywsai Gwen leiaf—son erioed am gydnawsedd ysbryd." Ni feddyliodd yr un o'r ddau ymholi paham y caent bleser mor fyw yng nghwmni ei gilydd,—paham yr ymdoddai un enaid i'r llall mor llwyr. Profasant y gwmniaeth felys, bur, sydd o hyd yn bosibl rhwng ambell fab a merch.
"When each by turns was guide to each,
And Fancy light from Fancy caught;
And thought leap out to wed with thought,
Ere thought could wed itself with speech.
Daethant i ymyl hen foncyff hir, braf, ar fin y dwr. "Fan hin own i'n mind i is—i eistedd," ebe Gwen. Eisteddodd y ddau yn swn murmur hyfryd yr afon, gan wylio ambell frithyll chwaraeai yn y dwr. Cofiodd Gwen am ei llyfr.
Llyfr o donau bychain syml i blant ysgol oedd, a'r geiriau'n Saesneg, wrth gwrs. Caneuon Moore oedd y rhan fwyaf ohonynt. Cymerodd Owen Elis y llyfr o law Gwen. Trodd y dail, a chanodd mewn llais isel, un alaw fechan ar ol y llall, ac weithiau, bron heb yn wybod iddi, unai Gwen ag ef, ac ymgymysgai'r ddeulais yn fwyn.
"Ma na în ddeuawd i gal," ebe Gwen. Dyma hi,— Isle of Beauty." Canwch chi'r Alto, mi gana inne'r Top."
Cydganodd y ddau,—
Shades of evening close not o'er us,
Leave our lonely bark awhile!"
Swynol iawn oedd yr alaw a'r geiriau. Canasant y pennill cyntaf drosodd drachefn, ac ymddangosai Natur oll fel pe'n gwrando arnynt. Ym murmur isel yr afon deuai ambell nodyn lleddf, lleddf, i ymgymysgu a seiniau clir y mab a'r ferch pan ganent, feallai'n ddifeddwl ddigon,— "
Darker shadows round us hover,
Isle of Beauty, Fare thee well! ",
"Odich chi'n gwbod, Flow On, Thou Shining River,'" gofynnai Gwen. "Dyma hi.
"Ydw. Mi gyfieithes y geiriau yna rywbryd. Leicsech chi eu clywed nw?"
"O, leicwn, os gwelwch chi'n dda."
"Dw i ddim yn siwr o'u cofio ar unwaith, ond mi hysgrifenna i nw. Fe ddôn i'r cof, felly."
Tynnodd ddarn o bapyr o lyfr a gariai yn ei boced, ac ysgrifennodd arno'r ddau bennill. Dilynai llygaid Gwen bob gair fel y deuai,—
"O llifa, afon loew;
Ond cyn daw'th daith i ben
Gwna daflu'r blodau tlysion hyn
I ymyl cartref Gwen;
A dywed wrth yr eneth fwyn,
Os gwna hi ddod yn eiddo i mi,
Ein bywyd fydd mor llawn o swyn
A'r blodau ddygaist ti!
Ond os mai diystyrrwch
Oddiwrthi fydd fy rhan,
O! gad i'r blodau tlysion per
I wywo ar dy lan!
A dywed wrthi drosof fi,
'Rol darfod dyddiau ie'nctyd iach,
Yn unig, oer, heb swyn bydd hi,
'Run fath a'r blodau bach."
Daliodd y papyr o flaen Gwen tra bu hi yn ei ddarllen.
"O, ma nw'n bert!" ebe Gwen, gan edrych gydag edmygedd ar y gweinidog. "Dyna glefer i chi! A ga i i cadw nw, Mr. Elis?'
Plygodd Owen Elis y papyr, a rhoddodd ef iddi heb ddywedyd gair. Rywfodd distawodd y ddau. Ni lafai'r geir iau mor rhwydd a chynt. Cyn hir, cododd Gwen, gan ddywedyd,—
Ma rhaid ifi find. Mr. Elis. Falle daw Daci gatre'n ginnar. Ma'r bompren lan fan na, a ma'r llwibir yn ddigon amlwg. Fe ddewch mâs yn Llainddu."
Dywedodd y gweinidog y cerddai yn ol gyda hi hyd y bwlch. Yna ysgwyd dwylaw gan wenu, ond yr oedd rhywbeth newydd wedi dod i'r ddwy wên ac i gyffyrddiad y ddwy law. Aeth y gweinidog yn ol drachefn drwy'r ddol, ac wrth fynd i fyny drwy'r ffordd fach arw, ail-ddarllenai Gwen eiriau'r gân.
IX.
E ddaeth yr Haf tesog.
—JOHN HOWEL.
BUAN daeth yn gynhaeaf gwair. Cerddai Morgan Ifans, Maesyryn, drwy ei gae am y degfed bore, gan edrych yn bryderus ar y cymylau, a symud ambell dwmpath llaith o wair a'i ffon.
Beth am deni heddi. Dafi Alun? Ddal i. i chi'n feddwl?" ebe ef, pan ddaeth i glyw'r hen ŵr, gardd yr hwn ffiniai a'i gae.
Ryfeddwn i'm na ddeil i heddi. Ma'r gwynt mâs yn ddiogel. Ddaw e miwn?"
"Ddaw miwn ond mind ato'n weddol bore, a chal trwp da o bobol. Diw e'm yn gwella nawr hefid wedi glaw a hoil, glaw a hoil, am dist pethownos.
Nid oedd gan Morgan Ifans amser na blas i ymgomio ymhellach, a cherddodd tuag adref. Trodd drachefn wedi mynd ychydig bellter, a gwaeddodd,—
"Hei, ŵr! Mi halwch y losgron i helpi tipin nawr whap? a gwedwch wrthi am alw ar Sali wrth baso."
"Anna"ebe'r ffermwr yn wyllt wedi dod i'r tŷ, "rhowch lien gwinn mâs yn Parc y Bariwns, i bobol y Llain a'r Nant gal gwbod bod ni'n mind ar gwaer miwn. Ma gwaith trin arno, ac fe fydd ise twisged o bobol heddi. Rhaid i ni ddachre nawr 'ninion wedi brecwast."
"Ann," ebe Anna Ifans yn lleddf, ma'r shiden wen olchwd dŵe, yn y basged ar ben stâr. Ta'n hi ar fola'r dderin a'r în ergid claw yn Parc y Bariwns. Geith ladd doi fan ni,—sichi a rhoi rhibidd. Mi ferwa inne daer padelled o iwd heddi to, er mod i bron a chredi fod hinni'n tinni'r glaw, wa'th gida mod i'n benni finicha, ma'r cimile'n crinhoi."
Nawr te, odi brecwast yn barod?" gofynnai Morgan Ifans.
"Mai e ar ford, a ma'r tegil dist a berwi," ebe Leisa, gan droi'n frysiog i'r rwmford, rhag i'w thad ei gweld yn curlio'i gwallt ar fore mor brysur.
Ble ma Ann? Pam na ddaw i gloi a rhagor o friwyd ar tân?"
Yn fuan wedi brecwast dechreuodd gwaith y dydd o ddifri. O un i un, oddiyma ac oddidraw, daeth rhes hir of bobl i Barc y Big, a symudent yn brysur drwy'r cae gan droi'r ystodau gwair a'r rhacaeau. Ar ddyfodiad pob un, croesawid ef neu hi a bloedd groch o " More!" oddiwrth y rhai oedd eisoes yno. Gwaith di-ymdrech a phleserus oedd y troi," a mwynheid' ef a'r ymgomio melus gan bawb, o'r hen wraig blygai'n naturiol at y rhaca i'r ferch ieuanc wisgi yn y dillad goleu, glân, a'r het wellt fawr. I'r ieuanc o'r ddau ryw yr oedd y pleser fynychaf yn gor-bwyso'r lludded ar ddydd bwrw'r gwair i mewn. Cerddai Morgan Ifans yn ol ac ymlaen drwy'r cae, a'i bwys ar ei ffon, gan edrych o hyd i gyfeiriad y gwynt. Dilynid ef, mewn llawn afiaith, gan Rover y ci. Yn y tŷ, berwai Anna Ifans yr uwd sucan iraidd, caled a llyfn, oriau cyn amser cinio.
Wedi gorffen troi, eisteddodd y cwmni, erbyn hyn tua deugain neu fwy mewn nifer, yn ymyl y clawdd yn y cyhudd. Rhedodd Leisa ac Ann i'r tŷ i gyrchu'r ginio. Cafodd pob un ei ffiol a'i lwy bren, ac aeth Ann heibio a'r ddwy ystên, gan roi yr un cwestiwn yn siriol i bob un Enwyn ne lefrith?" Dilynodd rhywun arall â'r uwd, gan adael i bob un gymeryd ei ddogn i'w ffiol. Yna, tra'r gwŷr i gyd yn sefyll a'u hetiau yn eu dwylaw, a'r gwragedd oll yn plygu eu pennau, clywyd llais Morgan Ifans, "Dafi Pŵel, ddachreuwch chi?"
A'i law ar ei lygaid, ufuddhaodd Dafi,—" Bendithia ni, O, Arglwydd, yn y mwynhad o'r trigaredde hin. Disg ni ar bŵis Dy ddaioni i ogoneddi Di enw, drwy Iesu Grist. Amen."
Yn ymyl y lliain gwyn, a'i gwallt erbyn hyn wedi ei drefnu'n brydferth o dan yr het wellt fawr, a'i llygaid bychain duon yn fyw i ganfod angenrheidiau pob un o'r cwmni, penliniai Leisa, gan dorri'r tafelli hirion o fara menyn yn gyflym a deheuig.
Felly, gan led—orwedd yn y gwair per aroglus, tra'r haul yn gwenu, yr awel fwyn yn murmur, yr ehedydd yn arllwys ei gân o'r uchelder, a'r myrdd ieir bach yr haf yn gwibio o gylch i ddangos eu gwisgoedd newyddion amryliw, mwynhawyd y danteithion syml a'r ymgomio melys.
Yn y prynhawn, wedi'r awr o seibiant, dechreuwyd y gwaith o ddifrif. Rhannwyd y gweithwyr. Danfonwyd tua dwsin o'r gwŷr i'r ydlan i ofalu am y rhic. Dechreuodd y gweddill gasglu'r gwair ynghyd. Dewiswyd chwech neu wyth o'r merched cryfaf i "bitshio," hynny yw, i godi'r gwair i'r ceirt. Aeth gŵr y Llain adref i hol ei gambo a'r ddau geffyl, a daeth Fred â menn gyffelyb.
Yr oedd rhai o wŷr mwyaf hirben yr ardal yn yr ydlan y prynhawn hwnnw, ac yno, cafodd llawer pwnc ei drin a llawer stori ei hadrodd. Fel yr esgynnai'r rhic, uchaf i gyd y codai'r lleisiau, a mwy rhydd a byw y llifai'r arabedd. "Pwi wedwch chi iw'r ddoi co si'n cered trw Barc y Berth?" gofynnai John y Bwlch.
Rhoddodd pob un o wŷr y Rhic ei bwys ar ei bigfforch a'i law dros ei lygaid, gan dremio i gyfeiriad Barc y Berth. "Y Bigel, mi na lw, iw hwnco a'r hat wellt," ebe Jâms y Go. "Dy dad iw hwnco si gidag e, Jack gofynnai i fab Maesyryn.
"Shwt galle nhad fod co ac yn y parc gwaer?" ebe John yn swrth.
"Dafi Alun, iw e te, tawn i heb ffoi," ebe Jâms.
"Beth, ie ginta. Ma'r gweinidog dist biw a bod da Dafi Alun. Fise'n well i ni i gyd beido mind i'r cwrdd, neithe fowr o honom ninne wedin," ebe Anna Ifans, oedd newydd ddod allan i'r ydlan ag ystenaid o ddwr a blawd i'r cwmni.
"Dei, os iw e mor sich yn i sharad ag iw yn y pilpid, well gen i fod heb i gwmni e," gwaeddai Dafi Pŵel o'i gambo.
"Bachgen neis iw e, ond os wes rhaid i ni fiw fel mai e'n gweid, chewn ni nefodd bith, na chewn, bith," ebe Anna Ifans yn lleddf.
"Falle ma treio efengili tipin i Dafi Alun, mai e. Ma digon o ise," ebe Sam 'Ralltfawr.
"Ise cidymdeimlad si arno achan. Am hinni mai e'n son o hid," ebe John y Bwlch.
"Le ma'r groten? Losgròn bert jw i fid! Dos dim ise gofin pam ma'r boi'n mind na. Fentra rwbeth i fod e wedi bod no'n cal tê heddi," ebe John Sâr.
"Ma Gwen wrth y gwaer trw'r prynhawn. Mi gwela i ddi nawr," ebe John Maesyryn.
O, ma di liged dithe arni, eh, John bach?" ebe Dafi Pŵel.
"Owen Elis, bachgen Catrin," ebe Jâms y Go, megis wrtho'i hun. "Widdoch chi pwi basodd drw'r pentre co dwe, howir? Rachel Parri, fio'n forwn da'r hen Sion Bŵen yn y Mwyndir. Mai newi ddod nol o bant i fiw ffor hin, a ma felse tipin bach o golled arni. D'rawodd miwn i'r efel—
"Ise cidymdeimlad we arni hithe falle," ebe John y Bwlch.
"Dei annwl," ebe'r gof, heb gymeryd sylw, "chliwson ni'm shwt gimisgeth o gleber a dwli ariod. We Dai Nansi miwn da fi, a mi geison sport. Cin hir dima hi'n gofin yn sharp reit,—
"Odich chi'n nabod' Owen Elis?"
"Y gweinhidog?" myntwn i. "Owen Elis, Bigel y Bryn? Beth, odw," myntwn i.
"O ie," mynte'r hen wraig dan hanner llefen.
"Dw i ddim yn i nabod e, ond mi finna i gal i weld e. Staf fi'm ffrind ffor hin nawr! Dos neb yn y nabod i nawr! Owen Elis, mab Catrin, Bigel y Bryn! ie, Owen Elis, mab Catrin, Bigel y Bryn!"
Gwrandawai'r cwmni'n aiddgar.
"Pam na holech chi ragor arni? Falle bod i 'n nabod i bobol e," ebe John Maesyryn.
"Fe holwd wr, ond cheid dim mâs, achan. Dim ond yr un ffrâs na," ebe'r gof.
Daeth Fred ai lwyth o wair i'r golwg ym mwlch yr ydlan. "Ti ar ol, bachgen! Ti ar ol!" ebe ef wrth Dafi Pŵel yn llawen. Cleciodd hwnnw ei chwip yn ddiymdroi, a gyrodd ei ddau geffyl ar garlam drwy'r ffordd fach. Dadlwythwyd cambo Fred, a bu gwŷr yr ydlan yn rhy brysur i drin ymhellach bwnc Rachel Parri, a'i chysylltiad â Bugail y Bryn.
X.
I ba beth y byddaf brudd,
A throi llawenydd heibio?
HEN BENILLION.
PAN oedd y llwyth olaf o wair wedi ei godi, a glesni newydd y cae yn gwylaidd wenu ar haul y gorllewin, aeth Ann Mesyryn i gael ymgom a'i ffrynd Gwen.
Ych y fi, ych y finne, Ych y cwn, ych y cathe!" ebe hi. "O dîr, w i wedi blino!
Fidd raid i fi godi'n fore fori to a mind ar ol y da i'r ffair."
"I chi'n mind i Ffair Haf?" gofynnai Gwen. "Na neis!"'
"Fidd hi'm yn neis iawn i gered pim milltir ar ol haid o dda! Ma Leisa bron dwli ise mind i'r ffair, ond eithe hi ddim am lawer ar ol da. Ochodin, Fred a finne si'n mind, a nhad ar gefen y gaseg wrth gwrs. Rhaid i John fod gatre o achos y rhic.
Os gwerthwn ni'r hen dda yn y bore, fidda i'n rhidd wedin am y prinhawn. Dewch lawr, es! Na spri gewn ni!"
"O, mi leicswn ddod," ebe Gwen, gan feddwl yn brysur. "Ond shwt gna i? Ma raid i fi gorddi. Ma ise mind i'r dre arna i hefid. Ma'r cwrdde mhen tair wthnos, a finne heb gal y'n hat."
"Gadwch y corddi am ddiwarnod, es! Wddis yn y bid pwi fidd co," ebe Ann.
"Odi Jo'n mind?" gofynnai Gwen.
"Wn i ddim. Diw e'm yn gwbod mod i'n mind. Gobeithio bidd e no, sech ni.
"O, ie. Beth nawn i wedin?"
"Tish! Allech ddod da ni'n doi, es. A falle bidd rhiwin arall co," ebe Ann, gan wenu.
"O, hisht!" ebe Gwen.
"Fidd Fred co no, a chewch chi'm bod yn ddiflas lle bidd e."
Ochneidiodd Gwen. "Weda i i chi beth na i. Mi gordda i yn y bore. Fidd Daci'n ddigon bolon i fi ddod wedin. Mai e'n gwbod bod ise prini hat arna i. Beth i chi'n gal yn newi erbin y Gymanfa, Ann?"
I ni'n cal dillad a hate o'r siop ma leni. Martha'r Bont si'n i gneid nw. Defnidd gole bach iw e. Hate dion, a thith o flode mân, bach, a dolen fowr o riban 'rîn liw a'r dillad."
Hat wen w i'n mind i gal. Ma gwinn yn y nharo i, medde nhw, achos bod y ngwallt i mor ddi."
"Pwi iw'r nhw?" gofynnai Ann, gan wenu.
Gwenodd Gwen hefyd dros ei hwyneb, a dywedodd, Cofiwch fori nawr te! Fidda i lawr biti doiddeg. Drichwch am dana i."
Felly, yn fore drannoeth, aeth Ann a Fred a'r pum' eidion blwydd i Ffair Abergwynli. Dilynodd Morgan Ifans yn ŵr trwsiadus ar gefn y gaseg felen, a'r cyfrwy'n gwichian yn urddasol gyda phob symudiad.
Yr oedd digon o gwmni ar y ffordd y bore hwnnw, niferoedd o anifeiliaid yn tyrru ymlaen yn ofnus heb wybod i ba le; ambell ffermwr fel Morgan Ifans ar geffyl; arall a'i briod a'i blant bochgoch mewn cerbyd; ambell un a'i gart yn llawn o berchyll gwichlyd; un arall a'i briod ieuanc yn eu dillad goreu, yn gyrru'n chwyrn mewn car newydd disglair. Uwchlaw twrw traed a cherbydau, clywid bloedd iadau croch y bechgyn a brefiadau crynedig yr ychain a'r defaid. Wedi cyrraedd y dref, rhestrid yr anifeiliaid ger y cloddiau i ddisgwyl y prynwyr. Pan yn sefyll felly, llawenychodd calon Ann, o weld yn disgyn y rhiw, gerbyd hardd y Mwyndir, a Josi'n eistedd tu ol gan arwain ebol 'blwydd gerfydd ei ffrwyn. Ni feiddiai y ddau wneud ond gwenu a siarad a'u llygaid, ond daeth y ffair a'r anrhefn a'r blinder ar unwaith yn llawn o swyn iddynt.
Yna dechreuodd cyffro a thwrw'r bargeinio,—y prynwyr yn arllwys eu Saesneg mewn lleisiau croch, y gwerthwyr a'u llygaid yn graff, a'u brawddegau yn gynnil, ond i'r pwrpas. Isel oedd y prisiau y bore hwnnw, ac ychydig o fynd oedd ar bethau. Am tua'r degfed gwaith, trodd Morgan Ifans ei drem flin ar "ddeler."
"How much a head, Sir?",
"Hm! They're worth just five pounds and no more.
Come, Sir! Twenty-five pounds for the lot. By Jove! if that's not a handsome price for these ill-looking beasts! Trodd Morgan Ifans ymaith yn sarrug ei wedd.
"Nawr, nawr! Gatwch i fi'ch 'elpi chi!" ebe rhyw ŵr byrr ei gorff ond' tra bywiog ei symudiadau gerddai gyda'r deler. "Ma gormod o w'niath rynto chi nawr. Dewch chi lawr, dicin bech, Syr, aiff ynta ma lan dicin. Nawr ta."
"Ich chi'n Gymro no. Ddile fod mwi o gidwibod da chi na hwn. Odich chi'n y fisnes?" gofynnai Morgan Ifans.
Wel, otw, am 'neddi ta beth. Wi weti bod dicin ar îd y ffira ma'n ddweddar, yn sharad' ticin o Gwmrêg dros y boi ma. Diawst! wi'n ceti dechria i ar y job y minan waff. Now, Sir, what is your best hoffer?"
Wedi llawer o siarad trystfawr, llawer o edrych dirmygus; llawer o droi ymaith a dod yn ol drachefn; llawer o eiriau Saesneg cryfion ar ran y 'deler'; a llawer o gyfryngu gan y gŵr o Forgannwg; tarawodd y gwerthwr a'r prynwr eu dwylaw ynghyd, ac edrychodd Ann a Fred ar ei gilydd gyda golwg o ryddhad wrth weld prynhawn o bleser o'u blaen.
"Gwetwch ta, o bwi bart rain yn dod?" gofynnai'r gŵr byrr.
"O Maesyryn, ardal Cwmwynli," atebai Morgan Ifans. Cwmgwynli! Iefa, din? In o na iw ngwraig i, din." "O, falle wir!"
"Ia, ia, ond ma shew o amsar o ar gatws i'r lle, bit shwr. Dich chi'm yn i chofio i, sposo. Rachel Parri odd i cin prioti."
"Rachel Parri we'n forwn yn Y Mwyndir slawer di?" Dyna hi, dîn."
"O, falle wir, ŵr! Own i'n nabod Rachel yn brion. Shwt mai!"
"Wel, cenolig bach iw i e's ticin. Dyna pam dethon ni i fiw nol ffor hin. We dim perswad arni isha cal dod nol i'r hen ardal. In o Gwm Rhondda w i'm inan,—John Jinkins wrth y menw. Ma raid ifiddhai i'r minwod ma, din! I ni'n biw nawr yn ardal Glynygors na, a winne ffel in yn gallar nithir ticin o docins ta'r mochwrs a'r delers ma."
"O, falle wir! O, cofiwch fi at Rachel,—Ifans Maes- yr-yn. Gobeithio daw i whap."
"Gna shwr din. Ia. Wel, so long nawr."
"Ffarwel!"
Cymerodd John Jincins a Fred ofal y pum bustach, aeth Ann ar ei hynt drwy'r dref, ac aeth Morgan Ifans a'r deler i'r Red Lion i gyfnewid arian ac yfed iechyd da ei gilydd.
Mewn ystafell eang yno yr oedd cwmni trystfawr, ffermwyr a phrynwyr, a llygaid y rhan fwyaf yn dechreu pelydru'n beryglus, a'u dwylaw yn crynu wrth godi'r gwydrau at eu geneuau. Yr oedd tinc yr arian a'r gwydrau ac uchel swn y siarad, yn ddigon i fyddaru un, ac weithiau, taflai ambell wraig drem bryderus i mewn drwy'r drws gan gilio'n ol drachefn. Yn ymyl un o'r byrddau eisteddai gŵr Y Mwyndir, a gwydriad o win o'i flaen, yn ail rifo arian dalesid iddo gan y gŵr praff oedd newydd godi o'i ymyl.
"Dydd da, Tomos Bŵen," ebe Morgan Ifans.
"Dydd da, dydd da."
"Werthwd y cel bach?"
"Gwerthwd e, ne fe rhowd e no. Slac iw i ma heddi."
"Slac ombeidis! Werthes inne'r pim bistach am hanner i gwerth. What you drink?" (wrth y deler).
"Brandy, Sir."
"Dewch a doi frandi fan hin, os gwelwch chi'n dda."
Wedi gorffen y fusnes a chael gwared ar y deler, trodd y ddau ffermwr drachefn i gael ymgom bellach.
"Na, wn i ddim o ble ma'r talmentodd yn mind i ddod leni, a phopeth mor slac," ebe Morgan Ifans. "Ond dyna, i chi ar le'ch hinan, widdoch chi ddim am deni."
"Pob în ai ffwdan i hinan iw i," ebe Tomos Bŵen. "Fiswn i ddim wedi gwerthi'r ebol nawr onbai fod ise'i wared e arna i. Ma rhwbeth ar i goese fe, chi,—rhiw riwmitis ma am wn i. Geison drwbwl da ge trw'r geia, a miwn biodd e bob nos da ni trw'r haf. Own i'n onfi wirione, bise fe'n gloff heddi wedi cered lawr, ond wir, mi safiodd yn lew a silwodd neb fod dim mas o le arno."
"O, falle wir! "
"A ma ise i le fe arna i. Ma'r cwrdde ma'n dod. Fe fidd cimin o geir yn dod o bobman, a fe fidd ise'r stabal. We'r ebol yn cadw lle doi yn y lŵs bocs, welwch chi."
"Na fe, bidd, shwr. Widdoch chi pwi weles i heddi yn helpi gida'r din brinodd y nifeiled gen i? Gŵr y Rachel ni we'n forwn da'r hen Sion Bŵen yn Y Mwyndir. Ma hi ag inte'n biw sha Glynygroes, nawr."
Yfodd Tomos Bŵen ei wydriad gwin cyn ateb.
"O," ebe ef. "Nabiddes i'm llawer o'r feniw ariôd. Wedd i'n briod pan ath hi o ma, te?"
"Nag wedd. Dîn o'r Rhondda na iw e."
"Glynygroes, wetsoch chi?"
"Ie shwr. Diw hi'm yn iach iawn, mynte'r din bach, a wedi minnid dod nol i fiw."
"O. Ma oed mowr arni nawr ginta. Ma igen mline o ar gadodd i'r Mwyndir, ag wedd' i'm yn ifanc iawn prinni, os w i'n cofio'n iawn. Hei! dewch a glased o frandi ma. Ifwch chi lased arall, Ifans?"
"Na-na, tenci, Tomos Bŵen. Ma hwn yn gimint ag a alla i ddala heddi."
"Wi'n teimlo rhiw wendid arna i, chi. Y gwrês ma, gwlei, si'n llethol."
Tua deuddeg o'r gloch, safai Fred, a'i bwys ar un o'r ceirt o flaen y Red Lion, gan edrych yn fynych i ben y rhiw fel pe yn disgwyl rhywun. O'r diwedd, ymuniawnodd, a chroesodd yn heini i ganol y ffordd i gyfarfod â Gwen.
"Helo, Fred! Le ma Ann?" gofynnai Gwen.
"Ann a Jo wedi mind," ebe Fred, gan godi ei ysgwyddau a chyfeirio at ben ucha'r dre.
Edrychodd Gwen yn siomedig, a Fred heb dynnu ei lygaid oddiarni.
Gwen," ebe ef yn dyner, "come with me to-day. Let me help you to enjoy yourself.
"O, I don't know, indeed," ebe Gwen, gan droi draw.
Rhaid i fi brini hat, no, a phrini lot o bethe erill. Falle gwela i Ann to."
"May I walk down with you?" gofynnai Fred.
O, come then, if you like," atebai Gwen.
Felly, drwy'r dyrfa aflonydd cerddodd Gwen, ar y cyntaf fel pe yn rhyw hanner boddlon, yn ymyl y bachgen tâl, lluniaidd. Dan ei arweiniad profiadol ef, cafodd ei rhan o bleserau diniwed y ffair. Ac, fel arfer, wedi'r munudau cyntaf o hanner cywilydd, daeth Gwen yn hollol rydd yn ei gwmni, a mwynhaodd ei hun hyd yr eithaf. Yr oedd Fred mor dal a heini, mor garedig, cymerai ofal mor llwyr o honi, a gwyddai bopeth am bob lle mor dda. Rywfodd, ymddangosai yn fwy o ddyn nac, hyd yn oed, unrhyw fab fferm a adwaenai Gwen. Ac wrth deithio tuag adref yn y cyfnos mwyn, drwy yr heol fach gul a arweiniai at Isaber, melys iawn oedd teimlo braich gref Fred am dani, a chlywed ei eiriau mwyn. Wedi prynhawn mor hyfryd yn ei gwmni, sut medrai wrthod iddo un cusan?
Y noson honno ar ei gwely, wedi terfysg y dydd, cai Gwen ei hun heb yn wybod iddi, yn eistedd gyda'r gweinidog ar yr hen foncyff ger yr afon, ac eilwaith a thrachefn deuai swn eu deulais i'w chlustiau yn cyd-ganu'r ganig fechan dlos,-
"Shades of Evening, close not o'er us, Leave our lonely bark awhile!"
"O diolch," ebe hi, "na welodd mo Owen Elis fi'n dod gatre ym mraich Fred."
XI.
"Asgre lân, diogel ei pherchen."
HEN DDIHAREB.
YR oedd y Gymanfa Dairsirol wrth y drws. Yng nghyfarfod y diaconiaid fore Sul penderfynwyd galw pwyllgor yn ystod yr wythnos i drefnu ynghylch bwydo'r torfeydd ddisgwylid, ac hefyd, bod ffermwyr a theuluoedd cyfrifol ereill yr ardal i gael eu gwahodd i teya'r gweinidogion. Addawodd y Bugail fynd ar hynt o ymweled, a thynnu allan restr o'r cartrefi a foddlonai gymryd dau weinidog neu fwy i aros noson.
Safai'r Mwyndir ar lethr o fewn llai na hanner milltir i gapel Y Bryn. Ymestynai ei ddaear fras i lawr hyd làn yr afon. Yr oedd yno dŷ cyfleus, a chedwid ef mor lân a threfnus ag unrhyw dŷ yn y gymdogaeth. Ar y bore Llun hwnnw, aeth y gweinidog yno gyda dau neges,—gofyn yn swyddogol am ganiatad i gynnal y Gymanfa ar un o'r caeau, ac hefyd am gael llety noson i ddau neu fwy o weinidogion.
Er yn ŵr blaenllaw gyda chrefydd a gwaith yr eglwys, nid oedd y reddf groesawgar yn amlwg o gwbl yng nghymeriad Tomos Bŵen na'i wraig Ester. Am y rheswm hwnnw, ynghyd a gwyleidd-dra naturiol Owen Elis, er yr adwaenai bob un o'r teulu, ni fuasai ef erioed dros drothwy'r tŷ. Gwyddid ei fod yn dod y diwrnod hwnnw, a phan oedd Marged Elen yn gorffen gwisgo, gwelodd ef o ffenestr y llofft yn camu'n gloff drwy'r llwybr a arweiniai ar draws y cae gwair at y tŷ.
Cafwyd atebion ffafriol i'r ddau gais, wrth gwrs. Nid oedd dim a roddai fwy o fwynhad i Tomos Bŵen a'i deulu bach na chael bod o wasanaeth i achos crefydd yn y lle. Mewn gair, nid oedd cae yn yr ardal a wnai'r tro cystal a Pharc y Berllan. Os adeiledid yr esgynlawr ar y gwaelod, cai'r gynulleidfa eistedd neu sefyll yn rhestri ar y llethr, ac felly, cai pawb weld a chlywed yn hwylus. Yr oedd gwely segur wrth gwrs, bob amser yn y rwm goreu, felly gellid cymeryd dau weinidog, ac yn awr, wedi gwerthu'r ebol, yr oedd lle i saith o geffylau yn yr ystabl.
Wedi mwynhau'r tê a'r danteithion, yng nghwmni'r gŵr a'r wraig a'r ferch yn y gegin oreu, lle'r oedd pob dodrefnyn a llestr yn disgleirio, cafodd Tomos Bŵen a'r gweinidog gyfle pellach i ymddiddan a thrin pynciau dyfnach feallai nag a ellid wneud yng nghlyw'r menywod.
"Fe ddaw ma dwisged o weinidogion, gwlei, o'r taer Shir, a thyrfa o bobol te," ebe Tomos Bŵen.
"Daw, yn ddiau, daw," ebe'r gweinidog. "Wir, rwy'n hyderu y daw'r Wyl a bywyd newydd i'r wlad yma. Mae eisieu ysgwyd a deffro tipyn ohonom."
"Wês,' ebe Thomas Bŵen. "O, fe ddaw a bowid newi'n ddiddadl. Fidd ma bwer o barotoi a thrwsho, wa'th fidd pawb am fod ar i gore'r wthnos ni, welwch chi, a mi geith y shope ma gyfle gore'i bowid."
"Rych chi'n y nghamddeall i, Tomos Bŵen. Bywyd newydd mewn ystyr arall,
"O, ie, ie. Wel, wrth gwrs, mai'n dda i brigethwirs glŵed i gili hefyd. Ie, clwed prigethe, yn lle'i rhoi nw o hid."
" Bywyd ysbrydol newydd oeddwn i'n feddwl. Fe ddyle'r Wyl yma'n codi ni fel gwlad nes dadfachu'n hunain oddiwrth bethau'r ddaear, a chael gafael ar y bywyd sydd fywyd yn wir. Mae'n od ein bod ni'n ymglymu cymaint am bethau sydd a chyn lleied o werth ac o barhad ynddyn nw, ac mor ddall i bethau mawr y byd ysbrydol,—y golud na dderfydd."
"Ie, ie, i chi'n eitha reit, i chi'n eitha reit," ebe Tomos Bŵen, gan symud yn anesmwyth ar ei gadair.
"Ma pobol wedi mynd mor faterol. Y fferm a'r fusnes yw'r pethe pwysig,—"
"Ie, ie, wrth gwrs," ebe Tomos Bŵen yn rhy frysiog. "Ma pobol yn methu sylweddoli y fath bethau bach a dibwys yw'r rhai hyn mewn gwirionedd," ychwanegai'r gweinidog.
"Fe glwes Jôns y Bont yn gweid rhwbeth tebig i hinna rwbrid ar i bregeth yng nghapel Blâncwm. Capel Methodist odd e, mae'n wir, a Methotsin wedd inte. Ond fachgen, wedd e'n i gweid i, ag yn gweiddi, te! Nosweth o haf wedd i, a we'r drwse ar gored. We nw'n gweid bod nw'n i glwed e'n amlwg reit o ben icha'r Rhosgoch."
Ochneidiodd y gweinidog a throdd ei olygon o gylch yr ystafell am ennyd fel pe'n chwilio am bwnc newydd.
"Faint sy er pan rych chi'n byw yma, Tomos Bŵen."
"Be si nawr? Igen mline i gwlhangel nesa, gwlei.' Rwy wedi bwriadu dod i fyny yma lawer gwaith i weld y tŷ a'r lle. Fe fu mam yn forwyn yma am flynyddau."
"E'ch mam?" ebe Tomos Bŵen yn gyffrous, gan hanner godi o'i gadair.
"Do siwr," ebe'r gweinidog yn dawel. "Catrin Lewis oedd hi. Oddiyma yr aeth hi i briodi. Sion Bŵen, onide, oedd y meistr bryd hwnnw?"
"Ie, ie. Cender i fi wedd e," ebe Thomas Bŵen, gan ddal ei ên yn dyn yn ei law, a chraffu ar y gweinidog.
"Fe glywsoch, yn ddiau, pan fu'r lle yma ar dân, i ferch Sion Bŵen fod bron llosgi i farwolaeth. Fy mam a'i hachubodd hi o ryw ystafell ar y llofft. Leicswn i weld yr ystafell honno unwaith, Tomos Bŵen," ebe'r gweinidog gyda golwg hanner-ofnus.
Wel,-hy,-ma'r ti wedi i ail-fildo, ne wedi i adnewiddi no wedi hinni, a dw i ddim yn meddwl y gŵir neb ma pwi rwm wedd hwnnw. Wi'n cofio clwed rhiw son am y tân, flinidde lawer cin i Sion farw wrth gwrs. Allwch weld y ti wrth gwrs, brid minnoch chi, ond do's ma neb yn shwr am y rhwm."
"O, does dim gwahaniaeth felly. Roedd' creithiau dyfnion ar wyneb a dwylaw mam, a llawer gwaith y gorfu iddi esbonio'r achos o honynt i mi."
"Ie, ie, i chi'n eitha reit. Os w i'n cofio'n iawn, fe gas e'ch mam igen pint am i thrwbwl. Arian mowr! ond dina shwt i'n wedd Siop y nghender. Ie, arian mowr, wa'th marw nath y losgron fach, wedi'r cwbl."
Buan cododd Owen Elis i fynd adref, ac aeth Tomos Bŵen allan gydag ef hyd ben y llwybr, gan graffu arno beunydd yn llechwraidd drwy ei lygaid meinion. Wrth ddychwelyd at y tŷ, cerddai a chamre bychain brysiog yn ol ei arfer, ei ddwylaw ar ei gefn a'i olygon tua'r llawr fel mewn penbleth.
"Be si'n bod, chi?" gofynnai ei wraig wrth ddod o'r beudy a'r gunog laeth yn ei llaw. "Ath Mr. Elis?"
"Hm! Do. Fise'n dda gen i swn i heb ariôd weld yr hen hwlcin cloff! Shwt bies i mor dwp? Pam na fiswn i wedi holi? Ond dw i'm yn meddwl fod neb ffor hin yn gwbod dim am i rieni e. Ma'r hen griadir mor ddistaw am i bobol! Wyddost ti pwi iw e? Mab yr hen Gatrin!
XII.
Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,
Y'r holl awyrgylch sydd yn ddu.
—MYNYDDOG.
TRA'R oedd pawb o drigolion Cwmgwynli yn edrych ymlaen at y Gymanfa,-a'r bywyd newydd hwnnw y soniai Tomos Bŵen am dano yn dechreu cael ei deimlo drwy'r ardal; y gwniadyddesau a'r teiliwriaid yn brysur; pob perchen gardd yn ei chwynu a'i thrin; tai yma a thraw yn cael eu gwyngalchu y naill ar ol y llall; merched gwamal. fel Ann Maesyryn, a Gwen Alun, yn son am rubanau a gwisgoedd acin; y siopwyr yn symud yn ysgafn-droed ac yn derbyn i'w tai gyflenwad o nwyddau;—daeth digwyddiad cyffrous arall i dorri ar lonyddwch y fro.
Yr oedd buwch benwen Maesyryn wedi hen anghofio ymweliad y ddau foneddwr yn nechreu Ebrill, a phorai bob dydd ar y ddol las yn dawel-ddiddig gyda'r gwartheg ereill. Ond ryw fore yn fuan wedi ffair haf, daeth dau wr drachefn i'w gweled, a braidd yn ddiarwybod iddi, rhoddwyd torch ddur greulon yn ei ffroenau, ac, o'i hanfodd, a hi yn edrych o'i chylch yn syn, arweiniwyd hi i'r clôr. Yno yr oedd tyrfa drystfawr wedi ymgynnull, a swn pedyll yn tincian a chyrn yn canu.
Daeth y swn aflafar i glustiau Gwen Alun tra'n prysur chwynnu'r pâm cennin yn yr ardd. Cododd ei phen i wrando, gan fethu deall beth oedd y twrw anarferol, ond pan glywodd swn y pedyll rhedodd i'r tŷ gan waeddu,—
"Daci! Daci! Ma'r Bwms mas. Wi'n shwr taw ym Maesyryn ma nw. Ma nw wedi dod i werthu fiwch, gewch wedd.
"Falle wir! Ma nw mas heddi to! Ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru," ebe Dafydd Alun, gan blygu ei bapyr a chymeryd ei ffon a mynd allan. "Wês ma dyddie rhyfedd wedi dod ar Gymru. Gwell i ti fynd lan i gal gweld be sy'n mynd ymlân. Ie, wirione, ym Maesyryn ma nw."
"Mi af fi te," ebe Gwen, gan wisgo ffedog lân. Os na ddo i nol erbin cinno, ma iwd yn barod yn y ddisgil ar fainc fach y lleithdy, a ma llâth yn y badell felen." Rhedodd drwy Barc y Big a Pharc y Bariwns ac i fyny drwy'r clòs nes cyrraedd ymyl y dyrfa. Yn y canol gwelai'r fuwch ddychrynedig, a'i llygaid mawr, prudd, yn dweyd mor anesboniadwy iddi oedd triniaeth mor chwerw ar fan mor gyfarwydd. Yn ei hymyl yr oedd dyn tal yn gafael mewn rhaff gref, a honno'n glymedig am y dorch ddur oedd yn ei thrwyn. Gerllaw, safai dyn bychan arall, ac ychydig greithiau duon ar ei wyneb, yn edrych fel pe rhoisai'r byd am le i ffoi o wydd y dyrfa aflonydd, fygythiol, oedd o'i gylch. O ba le y daethai cynifer o bobl mewn cyn lleied o amser? Deuent o hyd drwy gaeau a thros wrychoedd, rhai yn cario pigffyrch, ereill bastwyni mawrion, ereill gyrn, neu unrhyw fath ar lestr a wnai aflafar dincian.
Gyda chryn anhawster, llwyddodd Gwen i gyrraedd diogelwch clawdd y berllan, lle y safai Anna Ifans a Leisa ac Ann yn gwylio'r digwyddiadau ar y clôs. Ond ychydig ellid weld oddiyno. A oedd yn bosibl fod y fuwch yn cael ei gwerthu? Pwy fedrai beri clywed ei lais yn y dwndwr ofnadwy? Ymddangosai pawb ar ei eithaf yn bloeddio, yn oernadu, neu yn gwneud swn o ryw fath, a rhuthrent i gyd drwy ei gilydd fel anifeiliaid gwylltion. Dacw rywbeth yn cael ei hyrddio drwy'r awyr i gyfeiriad y gwerthwr, a chwerthiniad calonnog y dyrfa yn dangos ei fod wedi cyrraedd ei nod. Curai calonnau'r gwragedd gan fraw o weld Morgans y Polis a heddgeidwad arall yn cerdded yn dywysogaidd at y dorf. Pwy wyddai beth ddigwyddai? Nid peth amhosibl fai gweld clwyfo a lladd mewn tyrfa mor anhydrin. Lliniarodd y terfysg ryw gymaint wedi dyfodiad gwŷr y gyfraith, a buan gwelai Gwen a'i chwmni symud cyffredinol tua chyfeiriad y lôn. Canai'r cyrn a thincianai'r pedyll mor aflafar ag erioed. Yr oedd y fuwch wedi ei gwerthu i rywun. Gwelsant hefyd fod y dyn a'i harweiniai wedi colli ei het, ac fod ei ddillad ef a'i gymdeithion yn wlyb gan ryw hylif drewedig. Rhedodd y tair merch i ymgymysgu â'r dorf, ac aeth Anna Ifans yn brudd ei gwedd a lleddf ei llais tua'r tŷ.
Rywbryd yn y prynhawn, a'r fuwch benwen a'i gosgorddlu trystfawr erbyn hynny ymhell ar ei ffordd i'r orsaf, safai Leisa ac Ann a Gwen Alun yn flinedig yn ymyl yr iet wen, yn trist adolygu digwyddiadau'r dydd.
"O dir," ebe Ann, "wn i'm shwt ma. codi i odro fori, a gwbod na fidd mo Penwen no i ddod ata i o weilod y clôs fel arfe i ofin am i godro. O druan fach! Wedd i'n drichid arna i felse i'n sinni bo fi'n galler sefill fan ni i gweld i'n cal i phoini."
"Drian fach!" ebe Gwen. "Dyna în o'r pethe wi ddim yn ddiall yn y bid ma—pam ma criadiriaid mîd a diamddiffyn yn gorffod godde cimint o'i drelo!"
Erbyn hyn, wylai Ann yn hidl i'w ffedog, "Paid gwenwino. Ann!" be Leisa'n llym. "Beth ta dim ond în fiwch da ni fel si da Gwen, a honno wedi mind!" Yna gan newid ei llais," Dina dda bo fi wedi gwingalchi'r claw bach dwe! We dinion o bob parte wedi dod."
Yr oedd ar Gwen ryw ofn greddfol ym mhresenoldeb Leisa. Teimlai ei hun yn ei hymyl yn wan a dinerth, a'i bywyd yn fethiant i gyd." Yr oedd llygaid Leisa mor oer a chaled a sicr ar bob pwnc. Symudent yn effro fel pe yn mesur a phwyso pawb a phopeth yn ddidrafferth, ac nid sedd dim yn y nef na'r ddaear a wnai iddynt ymagor ychydig mewn syndod. Ni ddangosent byth unrhyw betruster na'r gronyn lleiaf o deimlad, ac ai Gwen fynychaf yn anesmwyth dan eu pelydr oer.
O'r lle y safent, gellid gweld y lon gul i lawr heibio Pen- ffynnon a bron hyd Isaber. Wynebai Leisa ar hon, a safai Gwen gyferbyn â hi. Pwysai Ann ar yr iet.
Tra'n son am wyngalchu'r clawdd bach, gwelodd Leisa rywbeth neu rywun yn y pellter a wnaeth iddi gyffroi ychydig a hanner gwrido, ond cadwodd ei chyfrinach, a gofalodd gadw ei llygaid ar Gwen a phara i ymddiddan rhag i honno gael cyfle i droi yn ol.
Cyraeddasai peth o ymgom y rhic ei chlustiau hithau. Buasai sibrydion tebig yn y cae gwair. Gwelsai a'i llygaid ei hun yr hen wr a'r gweinidog ieuanc yn cerdded drwy Barc y Berth. Er fod ffurf gwên ar ei hwyneb wrth siarad â Gwen, teimlai yn ddigon dig tuag ati i'w tharo. Pa hawl oedd gan ferch yn byw mewn tŷ bach, heb ond prin fodd i fyw, fod mor bert ag oedd Gwen? Pa reswm bod y gweinidog yn cymeryd ei ddenu ganddi? Y dyn ffol, heb feddwl am ddim ond yr olwg allanol! Ac wedi'r cyfan, a oedd Gwen yn bert? Ni fuasai hi byth yn ei chyfrif yn lodes deidi. Nid oedd ei gwallt yn gwrl, ac yr oedd ei llygaid mor ddof a llygaid Penwen.: Meddai hi bellach un stori a gai'r gweinidog glywed drwy ryw fodd ne'i gilydd hwyr neu hwyrach.
Tra rhedai'r pethau hyn drwy ei meddwl, siaradai o hyd yn fwyn a diaros â Gwen am y gwahanol bersonau welsid. Yn sydyn, gorffennodd daflu ei golygon i'r lon fach. Yr oedd y neb a wyliai, pwy bynnag oedd, wedi mynd o'r golwg i rywle.
"Gatre ma'ch Tacî heddi?" ebe hi.
"Ie."
'Pwi si'n gneid cinno iddo te?"
"Nês i honno'n barod cin dod."
"O, wir."
"Ma'i bron yn brid te nawr, hefid. Rhaid i fi find," ebe Gwen.
Widdoch chi pwi ath o'r golwg yn y tro obri nawr? Y gweinidog! I'ch ti chi mai e'n mind, ginta. Mi eithwn i gatre ar ras 'swn i'n eich lle chi."
Gwridod'd Gwen, ac edrychodd Ann arni gan wenu drwy ei dagrau. "Ble gwelest ti e, Leisa?" gofynnai.
"Se di liged dithe ar gored, gwelset tithe fe. Mai e newi find heibo'r tro. Mai e shwr o fod yn Isaber nawr. Cerwch gloi chi, Gwen."
Fflachiodd Gwen un olwg arni, a'r llygaid oedd fynychaf, fel y dywedai Leisa, mor dawel a llygaid Penwen, a dywedodd,—
Falle leicech chi find. Dyma gifle i chi.
Mi arosa i fan hin am awr arall. Whilwch riw neges at Daci."
"O, na i mo'r tro iddo, wi'n shwr," ebe Leisa'n fwyn, "nac i Fred chwaith. Odich chi'n gweid wrth Mr. Elis e'ch bod chi heb benderfyni rhinto fe a Fred to?"
Cyn i Gwen gael amser i ateb, dywedodd Ann, gan bwyso ar yr iet, a swn wylo ar ol y fuwch o hyd yn ei llais,—
"Blin iw cari yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnnw,
Ond o'r blinderau, blinaf blinder,
Cur annifir cari'n ofer."
Yn hytrach na chweryla, bu'r tair yn ddigon doeth i newid yr ymddiddan. Cyn hir, aeth Gwen i lawr drwy'r lôn ei hun, a throdd Leisa ac Ann tua Maesyryn. Ond wedi dechreu'r ffordd, rhedodd Leisa'n ol yn sydyn i ymyl yr iet, a mynnodd weld i ba le yr ai Gwen. Gwelodd hi'n troi i mewn i Benffynnon. Gwasgodd ei dannedd ynghyd yn ei thymer.
"Yr hen ffwl!" ebe hi, a cherddodd tuag adref heb ym ostwng i esbonio dim o deithi ei meddwl i un mor ddistadl a'i chwaer Ann.
XIII
Pa beth yw Storom? Awel yn ei grym.
—ISLWYN.
ER prinned ei hamser, ni allai Gwen fynd heibio tŷ Nani a Sali heb alw i holi hynt ei dwy hen ffrind. Cai Leisa, os dewisai, weld nad oedd gormod o awydd arni i redeg tuag adref i weld Mr. Elis. Tynnodd ei het, cariodd hi ar ei braich, a cherddodd yn araf. Yr oedd am deimlo'r awel fwyn wrth chwarae a'i gwallt yn llonyddu tipyn ar ei hysbryd wedi cyffroi cymaint dan eiriau Leisa. Ond ai nid gyflymed ag y medrai tuag adref y chwenychai fynd? Wrth ymdroi felly a pheri iddi ei hun fynd i mewn i'r bwthyn, ceisiai dwyllo ei hun a thwyllo unrhyw un a fynnai ei gwylied; ond ar yr un funud penderfynai rhyw feddwl arall o'i mewn na wnai aros ond ychydig iawn o amser yn y tŷ, ac y gallai redeg tipyn wedi mynd heibio'r tro. Swniai ei chlocs y glir ac uchel ar y cerrig gleision llyfn o flaen y tŷ. Cerddodd i mewn yn ddibetrus gan alw'n llon, "Ble ma'r bobol ma heddi?"
Nid cyn sefyll o honi ar ganol llawr yr ystafell fechan dywell y clywodd lais tawel-ddwfn y gweinidog yn darllen. ac y gwelodd Sali, a'i hwyneb Dydd Sul, yn amneidio arni wylio ar ei throed wrth ddyfod i mewn, ac yn dangos cadair iddi i eistedd. Safodd Gwen am eiliad mewn petruster syn, ond yr oedd yn rhy ddiweddar i redeg allan heb air o eglurhad. Felly eisteddodd, gan edrych yn ddyfal tua'r llawr.
Darllenodd y gweinidog un adnod gyfan a'i lygaid ar Gwen, yna gorffennodd y bennod fel pe na bai hi yno. Eisteddai Nani yn y cornel, yn ymyl y ffenestr fach a'r gwely, a'i llygaid direidus yn mynnu troi i gyfeiriad Gwen, gan ddisgwyl cyfle i roi gwên lydan iddi hyd nes ceid amser i chwerthin yn uchel ar ddigrifwch y sefyllfa. Ar y stol deir- troed yr eisteddai Sali, gan roi ochneidiau aml, a mynych sychu ei hwyneb a'i chadach poced glân, yn union fel pe bai yn y capel.
Wedi darlleniad y bennod, penliniodd y pedwar ar y llawr pridd,—pob un a'i bwys ar ei gadair, ac offrymodd y gweinidog weddi dyner. Cai Gwen o'i chongl lawn olwg arno, ac fel yn y capel er ys llawer Sul bellach, cai y pleser o syllu arno'n ddirwystr tra'n gwau ei breuddwydion per am dano. Bellach, cawsai lawer cyfle i siarad ag ef ac i'w adnabod. Buasai ef droion yn Isaber, a dywedasai unwaith fod y cartref yn Fethania iddo, a'i bod hi yn Fair a Martha. Ni ddywedasai ddim yn fwy pendant na hynny, ond a oes eisieu mynegiad o'r ffaith mewn geiriau noeth cyn i ferch ddeall fod mab yn ei charu?
Cofiodd Gwen yn sydyn am eiriau Leisa. Diau ei bod wedi gweld Mr. Elis yn troi i Benffynnon, ond ei bod am iddi hi fynd adref heb ei weld. Gwenodd wrth feddwl beth ddywedasai Leisa o'i gweld yno wedi'r cyfan. Dechreuodd ei chalon guro'n gyffrous wrth glywed y weddi yn tynnu at y terfyn. Yr oedd ar fin mwynhad mawr,—os mwynhad hefyd. Hwyrach mai siom a'i harhosai. Boddlon fuasai i'r weddi honno bara awr arall. Buasai'r awr honno beth bynnag, yn fwynhad digymysg.
Dilywodraeth felly yw meddyliau merch! Gwridodd Gwen gan gywilydd pan ddaeth Amennau'r gweinidog a Sali a hi ati ei hun. Cododd pawb.
"Adar o'r inlliw hedant i'r inlle," ebe Nani, a pharai rheolau moesgarwch yr adeg a'r cwmni nad allai Sali hyd yn oed edrych yn llym arni, llawer llai weinyddu cerydd. Esboniodd Gwen ei dyfodiad diseremoni tra'n ysgwyd llaw â'r gweinidog. Yr oedd yn dda cael rhywbeth i'w ddweyd rhag datguddio pethau cyn yr amser. Siaradwyd am y gwerthu, y dyrfa, y fuwch, a phethau ereill. Pan ddywedodd Gwen fod yn rhaid iddi fynd, ffarweliodd y gweinidog hefyd a'r ddwy hen wraig, a chafodd Nani gyfle i roi winc awgrymiadol ar Gwen.
Aeth y ddau allan gyda'i gilydd, ond am ryw reswm, nid oedd gan y gweinidog nemawr i'w ddywedyd. Bwriadai fynd adref heibio Maesyryn. Cnodd Gwen ei gwefus rhag iddi grynu gormod. Yr oedd Leisa i gael ei dymuniad wedi'r cyfan, a hithau i fynd adref a brath yn ei chalon! Ar y funud honno, clywyd chwibanu llon, a gwelwyd Fred yn croesi'r cae gerllaw ar ei ffordd yn ol o hebrwng y dyrfa. Cerddai'n wisgi a'i ddwylaw yn ei bocedi. Yn hytrach na thrafferthu i agor y llidiart a safai o'i flaen, gosododd ei law arni a neidiodd yn chwim drosti. Pan welodd Gwen a'r gweinidog, ataliodd ei chwibanu, cododd ei gap yn siriol, ac aeth yn ei flaen. Edrychodd Owen Elis yn llechwraidd ar Gwen mewn pryd i'w gweld yn gwenu ar Fred. Gwelodd y pelydr yn ei llygaid a'r gwrid ar ei hwyneb, ac aeth symudiadau heini Fred a swn ei chwiban llon yn chwerwder ysbryd i'r dyn ieuanc cloff. Dywedodd drachefn ei fod yn mynd heibio Maesyryn, a thra y dywedai hyn, cadwai Gwen ei golwg ar Fred yn symud ymlaen yn y pellter cyn troi i ddymuno Prynhawn Da' yn siriol. Yna aeth adref a'i het ar ei braich, gan fwmian canu er mwyn ceisio perswadio'i hun ei bod yn hapus.
Yr un yw ystrywiau bycha mab a merch yng nghyrion pella'r wlad ag yn lleoedd mwyaf ffasiynol y byd. Mae Afon Cariad yr un mor anodd i'w mordwyo yn y naill le a'r llall. Gwaeda calonnau a gwelwa wynebau am achosion sydd yn debig iawn i'w gilydd ym mhobman.
XIV.
"Ni chaf chwaneg fynegi
Y ffordd arall deall di."
WRTH fynd tua'i chartref, meddylai Gwen mor wahanol oedd ei byd yn awr i'r hyn a fuasai dri mis yn ol. Erbyn hyn, yr oedd muriau wedi syrthio, a'i byd bach wedi lledu'n sydyn. Daethai'r gweinidog i'w bywyd, ac wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd! Daethai Fred hefyd. Gwas fferm oedd Fred, a 'hen Sais' oedd, ond gwyddai Gwen nad oedd hynny yn ddisgrifiad llawn ohono. Beth bynnag a fuasai ei orffennol, nid i fod yn was fferm y cawsai ei ddwyn i fyny. Yn ei gwmni ef arweinid hi allan i gyfeiriad newydd,—i ryw fyd dieithr ond llawn o swyn. Dau ddyn a'u trem ar fywyd yn hollol wahanol oedd y gweinidog a'r Sais, a datblygent ddwy duedd hollol wahan- ol yn ei natur hi, nes creu brwydrau mewnol mynych. Ond nid oedd gan y brwydrau mewnol hyn ddim i wneud a theimlad ei chalon tuag at y naill a'r llall. Cai hyfrydwch yng nghwmni Fred. Treiddiai dylanwad y gweinidog yn ddyfnach. Efe'n unig a feddai'r gallu i roi iddi
"Wae a gwynfyd,
Nef ac uffern bob yn ail."
Gwrandawsai Duw ar ddeisyfiad ei henaid, a rhoisai iddi fwy nag a ddymunasai gael. Ni ofynasai hi erioed, yn. nyddiau mwyaf llwydaidd ei bywyd, am y 'cur annifyr,' yr ing, a'r anesmwythyd a deimlasai yn ddiweddar. Yng nghyfarfodydd gweddi'r Bryn, clywsai fynych ddefnyddio'r frawddeg "Ni wyddom ni pa beth a weddiom megis ag y dylem." Ai tybed mai ofni wnai yr hen weddiwyr profiadol osod llawer o'u dymuniadau hoffusaf gydag eglurder gerbron yr Orsedd, rhag y byddai raid derbyn llawer o extras anhyfryd ynglyn a'r atebion iddynt?
Pan ddaw Cariad i mewn i'r bywyd, rhaid i bob merch, ac eithrio'r rhai anaturiol gall, gael rhannu'r dedwyddwch a rhyw ferch arall. Ddwywaith a mwy bob wythnos, mynnai Ann a Gwen ryw esgus i fod yng nghwmni ei gilydd. Ni flinai Ann ddyfod a Josi'r Mwyndir gerbron bob tro yn holl agweddau ei gymeriad; oherwydd, er llwyred' ei hadnab ofynyddiaeth ohono, deuai rhyw swynion newydd ynglyn ag ef i'r golwg yn barhaus, a byddai raid i Gwen roi ei barn ar lawer gair ac ymddygiad o'i eiddo, ac edmygu'n briodol ei fwynder fel dyn, ei dalent fel amaethwr, a'i berffeithrwydd cyffredinol. Lle hyfryd i fyw ynddo fyddai'r Mwyndir. Ar briodas eu mab, ai Tomos Bŵen a'i wraig a'i ferch yn ol i'r hen gartref,—Pencnwcbach. Yr oedd yn awr yn Orffennaf, a rywbryd tua'r Nadolig byddai Ann yn wraig yn Y Mwyndir.
Nid mor sicr oedd Gwen ynglyn a'i hapusrwydd dyfodol. Rhyw sicrwydd mewnol,—y peth amhendant ac anelwig hwnnw,—yn unig a feddai hi. Ond y mae i ddealltwriaeth gyfrin felly rhwng deuddyn ei swyn a'i melyster ei hun Hanner ofnus y soniai Gwen am ei chariad. Yr oedd y gogoniant mor danbaid, rhyfyg fyddai bod yn ddiofn, ac yr oedd Ann dan rwymedigaeth i beidio datguddio'r gyfrinach fwyn hyd nes cai ganiatad.
Trefnasai'r ddwy fynd gyda'i gilydd ar nos Iau, drannoeth gwerthu'r fuwch, i dŷ'r wniadyddes, Martha'r Bont. Yr oedd dydd pwysig y Gymanfa yn dod, a dillad newydd Gwen heb eu dechreu. Yn fuan wedi saith o'r gloch, galwodd Ann yn Isaber ar ei ffordd, yn ol y cytundeb.
"Wi bron bod yn barod," gwaeddai Gwen o'r llofft pan glywai Ann yn dod i mewn. "Isteddwch finid. Rhaid i fi aros nes daw Daci nol. Fidd e ddim yn hir, wi'n shwr."
Atebodd Ann ar gân,-
"Gwen Alun, Gwen Alun, be si arnoch chi chwant? Fe ddaw Owen Elis i'ch mofin chi bant, A'i geffil, a'i garetsh, a'i was gidag e, I'ch mofin chi bant yn wraig iddo fe!'
Rhedodd Gwen i lawr o'r llofft gan wenu'n llawen iawn, a rhoddi ei llaw ar enau Ann ac erfyn arni dewi.
Beth pe bai rhywun yn ei chlywed? A pheth arall, yr oedd hi erbyn hyn yn berffaith siwr nad oedd y gweinidog yn meddwl dim am dani. Gwelsai ef ddoe ym Mhenffynnon, ond atynt hwy i Maesyryn yr aethai, gan ei gadael hi'n ddigon diesgus a diseremoni.
Yna aethpwyd i ddyfalu paham. Disgrifiodd Gwen ddyfodiad Fred, a dywedodd gyda llaw, fod rhywbeth yn atyniadol iawn yn Fred. Yr oedd mor heini ac mor llawen, ac yr oedd yr un fath bob amser. Ac ocheneidiodd Gwen.
Yna tywalltodd Ann ei balm.
"Mai e'n dwli arnoch chi merch i! A ma dinion mewn cariad yn graff iawn. Ma ofan arno'ch bod chi'n cari Fred. Mai e'n gwbod bo chi a finne'n ffrindie, a mai e'n serchog iawn i fi'n ddiweddar. Ma hinni'n eitha arwidd! Wn i ddim pam mai e beido gweid pethe'n blaen, ond fe neith riw ddiwarnod, gewch weld. All e'm peido."
Cyn i Gwen gael amser i ateb, clywyd curo wrth y drws, a chyn i neb gael amser i'w hatal, cerddodd gipsy i mewn a basged o amryw drugareddau ar ei braich. Penliniodd yn d'diseremoni ar y llawr, gan ddangos ei nwyddau, a siarad yn ddiaros,-
"Buy some of this beautiful lace this evening, Miss, do.Help a poor woman. a yard. Look at this lovely piece for sixpence It's a bargain.
You'll never regret it, Miss. Let me sell you both a nice length. Luck's coming' t'you, it's comin' t'ye both, an" ye'll think o' me as told you before han'. Now which of you will buy first?"
Wedi gwrthod, a chael eu cymell drachefn, a gwenu, ac ymgynghori a'i gilydd, a chael gostyngiad sylweddol ym mhris y nwyddau, tynnodd y ddwy ddarn o arian allan, a bu'r gipsy mor garedig a 'dweyd ei ffortiwn' wrth y naill a'r llall yn y fargen. Tro Ann ddaeth gyntaf.
"I see a fair man comin' towards you with a ring, an' you 're goin' to wear his ring. Before you are two years older you will be a wife. An' ye're one o' the lucky ones, my dear, an' ye'll remember in years to come as I told you so. But, look out! There's some one as is tryin" to do you harm. Keep yer head above water. Keep this bit o' lace as ye've just bought, Miss. Use it to trim a dainty wrapper for your first born. It'll bring luck to him an' you. An' God bless you, Miss."
Yna estynnodd Gwen ei llaw yn grynedig. Trodd y fenyw hagr ei llygaid duon arni am funud gyfan cyn dechreu datgan ei phroffwydoliaeth..
This is going to be a crowded year for you, my dear, ay, a crowded year. There are two men, ay, maybe three, a tryin' for yer 'and. Not one o' the three will you marry. Your 'appiness comes from another direction. For ye're goin' to be 'appy, ay, 'appy an' very lucky. The old gipsy woman knows what she's saying. God tempers the wind to the shorn lamb! You may 'ave some trouble, but after that a great 'appiness is in store for you,-a great 'appiness! God bless you, Miss."
Da oedd gan Gwen i'r hen wraig gael amser i fynd yn ddigon pell o'r tŷ cyn i Dafydd Alun ddychwelyd. Am ddyddiau lawer, bu'r geiriau rhyfedd a glywsent yn destyn siarad gan y ddwy. Rhai ffol iawn yw merched yn ol barn gyffredin y byd, ac nid oedd Ann a Gwen yn wahanol i'r lleill. Credent fod yr hen wraig groen-felyn, drwy ryw allu cyfrin, wedi codi cwrr y flen o'u blaen. Sut y gallai? Ah! pwy wyr? Ond mae llawer o ddirgeledigaethau yn y gread igaeth nas deallwyd eto gan y callaf. Tuedd y ddwy eneth, er hynny, oedd credu yr hyn garent ei fod yn wir, ac ang- hredu neu anghofio'r gweddill.
"Na beth rhifedd iddi weid two or maybe three' wrthoch chi," meddai Ann. "Mi wn i pwi iw'r trididd, a falle nad o's neb arall yn gwbod. Ond weda i ddim.
Ond shwt odd i'n gweid na phriodech chi ddim in o nw? Wes rhiwin cifoethog iawn yn mind i ddod i'ch hol chi?"
"Wedd i'n croesweid i hinan fan na,"" ebe Gwen, "wa'th shwt gallwn i fod yn hapis a pheido."
Yna chwarddod y ddwy yn iachus.
XV.
Ai ni wnest Ti, o ddydd i ddydd,
Ymwadu a phleserau'n llwyr?
—KERI.
FEL y rhan fwyaf o aelodau ei eglwys, rhoddai'r Parch. Owen Elis hefyd lawer o le yn ei feddwl i'r Gymanfa agoshaol, a chymysg fel efe ei hun oedd ei ddisgwyliadau am dani a'i baratoadau ar ei chyfer. Gofynasid iddo fod yn un o ddau i bregethu yn yr oedfa ddau o'r gloch ar brif ddydd yr Wyl. Nid peth arferol oedd gofyn hynny i weinidog yr eglwys lle y cynhelid y Gymanfa. Yr oedd ef hefyd mor ieuanc ac yn newydd yn y lle,—yn newydd yn wir yn y weinidogaeth. Ond pan ddygodd y ffeithiau hyn i sylw'r awdurdodau, gan erfyn arnynt yn wylaidd geisio rhywun addasach nag ef, ni fynnent wrando arno. Yr oedd disgwyliad yn y Cyfundeb am ei glywed, a dywedwyd wrtho y byddai y cyfle hwn i wneud ei hun yn adnabyddus i Annibynwyr y tair sir yn sicr o droi'n fantais iddo eto'n ol llaw.
Felly, yr un noson ag y defnyddiai Ann a Gwen ei enw mor rhydd ynglyn a'u bwriadau dyfodol, cerddai ef yn ol a blaen yn ei fyfyrgell, weithiau a rhyw lawenydd anrhaethadwy yn pelydru o'i lygaid, bryd allan a'i ben tua'r llawr, a'r rhychau yn ddwfn ar ei dalcen. Arhosodd, cydiodd yn y Beibl ac agorodd ef ar antur fel y gwnai yn fynych. Ar y geiriau hynny yn y drydedd bennod ar ddeg ar hugain o Eseciel y disgynnodd ei lygaid, "Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y'th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o'm genau, ac y rhybuddiech hwynt oddiwrthyf fi."
Hon oedd un o'i hoff benodau. Darllenai hi'n fynych ar ddechreu'r gwasanaeth yn ei gapel. Ie, y fath gyfrifoldeb oedd ynglŷn â'r gwaith, ond y fath orfoledd hefyd! Y fath gyfle braf a gai ar ddydd y Gymanfa! Tystio dros ei Waredwr gerbron tyrfa o weinidogion a channoedd o bobl! Dywedyd neges fawr ei fywyd, nid wrth ddyrnaid o bobl mewn capel, ond yng ngwydd y tyrfaoedd yn yr awyr agored, a chludid ei eiriau ar adenydd yr awel ymhell dros y wlad. O ryfedd gariad! O'r fraint gael dywedyd am dano!
Yna, a phelydr ei orfoledd o hyd yn ei lygaid, aeth ei feddyliau heb yn wybod iddo i gyfeiriad arall. Rhaid fod son am dano fel pregethwr wedi mynd eisoes drwy'r wlad. Rhaid fod hyd yn oed ei frodyr yn y weinidogaeth yn meddwl cryn dipyn o hono. Nid safle ddibwys oedd i fachgen tlawd fod wedi ei chyrraedd. Yn hollol heb ganiatad na chroesaw ymlusgodd i mewn i'w galon feddwl bychan arall, sef, y gwnai les, feallai, i'r gweinidogion . . . ., ond mygodd hwnnw cyn iddo fynd ymhellach, ac aeth i ddychmygu ei hun, ar y llwyfan a'r gynulleidfa fawr o'i gylch. Wyneb Gwen oedd o'i flaen o hyd. Gwelai ei llygaid gleision mawr yn edrych arno mewn edmygedd tra'i meddwl yn cyd-deithio a'i feddwl yntau. Dychmygai weld ei gwefusau yn symud fel y gwnaent o hyd yn ol yr hyn a deimlai ac a feddyliai. Yr oedd cymaint o fynegiant yng ngwefusau 'Gwen ag oedd yn ei llygaid.
Her mobile lips, her tender eyes!'
Ah! y fath wynfyd fyddai bywyd yng nghwmni' Gwen!
Eisteddodd y dyn ieuanc ar ei gadair gydag ochenaid. Atgofiodd ei hun yn chwerw o'i gloffni. Sut gallai byth ofyn i eneth hoew, nwyfus, fel Gwen, gylymu ei hun wrth un ymlusgai drwy fywyd fel y gwnai ef? Ac oni chloffwyd ef i bwrpas neilltuol? Onid un o alwadau cryfaf Duw ato oedd hyn, i'w ddenu oddiwrth bleserau anwadal y byd i dangnefedd diderfyn? Eithr mor siomedig oedd ei gynnydd ysbrydol! Profiad y Salmydd oedd ei brofiad yntau,— Glynodd fy enaid yn y llwch." Pa bryd y medrai ymysgwyd ac ehedeg uwchlaw pethau bychain amser a lle? Efe, neilltuasid i waith mor aruchel, yn cystadlu ag ereill am fwyniannau'r byd, gogoniant dynion, bri daear! Yr oedd bychander felly yn sarhad ar urddas ei ymgysegriad.
Ie, ymgysegriad! Nid modd i ennill bara beunyddiol oedd ei waith mawr iddo ef. Onid hyn oedd un o'r beiau ynglŷn â Phrotestaniaeth yng Nghymru, gwneud pregethu'n grefft nes bod rhy ychydig o wahaniaeth rhwng y pregethwyr a'r byd? Yr oedd eisieu arweinwyr newydd, rhai wnai ymwadu â phleserau a mwyniannau daear er mwyn medru cyfranogi'n helaethach o'r llawenydd uwch a dangos reality'r llawenydd hwnnw ger bron y byd. Meddyliai am y gwahanol fathau ar arweinwyr crefyddol Cymru ar y pryd,—ei llu pregethwyr ymneilltuol,—rhai o honynt na ellir eu gwahaniaethu oddiwrth y dyrfa, os nad wrth eu gwisg neu dôn eu llais. Trist oedd meddwl bod dibynnu ar yr eglwysi am eu cynhaliaeth yn tueddu i gymryd oddiarnynt ryddid llafar a rhyddid barn, ac yn codi cymylau tew rhyngddynt a nef y nefoedd. Na ato Duw iddo yntau fod yn un ohonynt yn hyn! Nid chwaith fel offeiriaid Eglwys Loegr y carai fod. Oni ellid adnabod llawer o honynt hwy gan foethusrwydd eu gwedd a'u llediaith Saesneg? I'w dyb ef, meddai yr ychydig offeiriaid pabyddol a welsai yn y dref yn nyddiau ei goleg un ragoriaeth amlwg. I bob ymddangosiad allanol, yr oeddynt wedi ymgysegru'n llwyrach. Tystiai eu gwedd eu bod yn ymwrthod a moethau'r byd, a gwyddai y gwarafunid iddynt lawer o fwyniannau cymdeithasol cyffredin bywyd. Yn hyn, yr oeddent yn nes i'w lle fel arweinwyr. Ai ni chai ei ymgysegriad yntau—weinidog ymneilltuol—fod yr un mor llwyr?
Ni chai un cysylltiad daearol ei gadw yntau'n ol. Na, ni chai cariad gwraig na phleserau bywyd teuluol gyfyngu rhyddid ei enaid. Ni feiddiai gondemnio ereill, ond rhaid oedd iddo ef ddilyn y goleu roed iddo.
Rhaid iddo yrru pob meddwl am Gwen ymhell oddiwrtho. Gwae iddo erioed oddef i'w serchiadau ymglymu am dani! Am hynny y poenid ef yn awr, a beth os rhoisai ddigon o le iddi hithau feddwl am dano yntau! Na, cofiodd am dani'n gwrido wrth weld Fred, ac yn gwenu arno. Fred yn ŵr i un fel Gwen! Sais difater a'i gymeriad yn ddiau ymhell o fod yn ddilychwyn i briodi merch fwyn a phur fel Gwen! Annioddefol! Cofiai am y prynhawn hyfryd hwnnw ger yr afon; yn sicr nid oedd Gwen wedi anghofio hwnnw. Ond rhaid oedd gosod y pethau hyn o'r tu ol. Pe cai ef briodi Gwen ni fyddai lle yn ei galon na'i fywyd i waith y nef. Hanerog fyddai ei ymgysegriad, a byddai pob bore glân o'i fywyd yn ei wawdio am iddo ollwng gafael ar y mwy er mwyn cadw'r llai. Na, rhaid ymlid Gwen o'i galon, a pheidio mynd mwy i'w golwg os gallai beidio.
"A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" ebe ef yn chwerw. Agorodd ei Feibl drachefn, a darllenodd eiriau a'i brawychodd, ac a adawodd bwysau fel plwm ar ei galon,—
"Wele, fab dyn, fi yn cymeryd oddiwrthyt ddymuniad dy lygaid a dyrnod, eto na alara, ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau.'
XVI.
A weli di mo'r pumil ar y llethr
O adladd teg yng nghwrr y wenallt draw?
Ni wnaethpwyd ond cyhoeddi cennad Nef
I draethu'r Gair ar benodedig ddydd,
Ac wele'r cwmwd pell a'r hwndrwd moel
Yn codi i'r alwad gyda'r bore glas.
—CRWYS.
DA oedd gan Gwen weld pelydrau'r haul yn llanw ei hystafell pan ddeffrodd fore'r Gymanfa. Buasai hin anffafriol yn tynnu cryn dipyn oddiwrth ogoniant y dydd. Gwisgodd yn ebrwydd, a phan aeth allan i odro, er nad oedd ond pump o'r gloch, gwelai fwg yn esgyn o simneiau'r ffermdai, twrr o wartheg yma a thraw yn cael eu cyrchu, a gwartheg Maesyryn yn dychwelyd i'r cae wedi eu godro. Nid bore i ymdroi oedd hwnnw, oherwydd dechreuai'r oedfa gyntaf am saith o'r gloch. Er hynny, ni fedrodd Gwen brysuro. Yn lle galw ei buwch o'r bwlch fel y gwnai fynychaf, cerddodd tuag ati drwy'r gwlith a'r borfa îr i ben pellaf y cae, ac yfodd i'w henaid o dangnefedd dwys y bore. Yr oedd swn Dydd Sul ym mhobman, cyffro daear wedi gosteg, a Duw yn siarad.
Ni welsai Gwen erioed Gymanfa yn yr awyr agored. Medrai ei thadcu edrych yn ol ar res hir ohonynt. Wrth fynd allan o'r tŷ y bore hwnnw ar bwys ei ffon, dywedodd wrth Gwen heb edrych arni,—
"Ma raid i fi gal yr oedfa saith heddi, wa'th dyma'r Gymanfa ola wela i, wel di."
Ni fedrodd Gwen ateb gair. Safodd, a'r brwsh dillad yn ei llaw i edrych arno'n mynd i fyny drwy'r lôn fach. Yr oedd gan Gwen feddwl uchel iawn o'i thadcu. Yn ol ei barn hi, ni fyddai un dyn yn y Gymanfa heddyw, na ffermwr nac arall, o leiaf ag eithrio'r gweinidogion, a ddaliai ei gymharu ag ef yn urddas ei natur a'i gymeriad. Ystyrrid ef gan lawer, rhai na fedrai byth ei ddeall, yn oer, a balch, a sarhaus. Ni wyddent hwy pa ryw ddyfnder o gariad a thynerwch oedd yn ei natur, na pha mor uchel y gallai esgyn ym myd meddwl ac ysbryd. Cynhesodd calon Gwen o'r newydd at yr hen ŵr, a throdd i'r tŷ gan sychu ei llygaid.
I'r oedfa ddeg a'r oedfa ddau o'r gloch yr ai Gwen a'i ffrind Ann. Byddai raid iddynt ar ol hynny frysio adref i odro. Addawsai Gwen helpu Ann, fel y gallent ddychwelyd drachefn gyda'i gilydd i gael rhyw gyfran o'r oedfa chwech. Yr oedd Leisa yn rhwym am y dydd. Maesyryn oedd yn cadw'r mis, a hwy felly a ofalai am fwyd y gweinidogion yn nhŷ'r capel. Yn lle cael help Ann a Gwen yno, trefnodd Leisa eu bod i wahodd Miss Elis. Ni fyddai hynny ond ei chydnabod yn briodol fel perthynas y gweinidog, a rhoi cyfle iddi adnabod rhai o'r un byd ag ef. Sicrhaodd Leisa y byddai hi a'i mam a Miss Elis a gwraig tŷ'r capel yn hen ddigon at y gwaith, ac felly, cai Ann a Gwen helpu bwydo'r bobl yn y festri a bod gyda'i gilydd.
Wrth fynd, cai'r ddwy lawn olwg ar faes y Gymanfa ymhell cyn ei gyrraedd. Yr oedd cae Tomos Bŵen yn ddu gan bobl. Safai'r mwyafrif ar eu traed, eisteddai, penliniai, a lled orweddai ereill ar ymyl uchaf y dorf ger y clawdd, a chrwydrai ambell un ger bwlch y cae ac ar hyd y ffordd. Codasid pabell eang ar gyfer y gweinidogion. Cefn honno welent yn awr, ond gyda'r awel ysgafn, deuai llais melodaidd y pregethwr tuag atynt. Ac yr oedd Natur oll fel pe'n distewi ac yn gwrando. Yr oedd gwair John Sâr ar lawr ac yn galw am ei drin, ond ni feddyliai neb am ei gyffwrdd ar ddydd yr wyl. Safai cerrig beddau'r fynwent gerllaw fel ar flaenau eu traed. i wrando, ac ymsymudai dail y coed a'r borfa, ac ymsiriolent, fel pe bai'r dirgelion oll eisoes yn eglur iddynt hwy, ac fel pe yn dda ganddynt weld dynol-ryw yn ymhyfrydu yn yr un pethau gogoneddus. Daeth cenllif o gerddoriaeth o'r cae. Clywyd dyblu a threblu'r geiriau,
"Gad in' deimlo Awel o Galfaria Fryn."
"O dir," ebe Gwen.. "Wi'n teimlo felswn i wrth borth y nefoedd."
Chwarddodd Ann, a dywedodd fel y gwnai'n fynych, "Na lodes rifedd i chi, Gwen." Ac ychwanegodd, "Weles i monoch chi'n drichid yn neisach ariod. Gwisgwch hat wen stil mwy.
Na'ch taro chi ma'i! A fidd dim ise i chi dinni'ch golwg o ar y stage, trw'r amser! Wn i'm bid ym mhwi ran o'r dyrfa fawr y ca i weld Jo.
A disgynnodd Gwen o'r uchelion i drafod yr un pwnc, i feddwl am yr awr ginio, y myrdd dieithriaid, y dillad newydd, a'r pleserau posibl. Yn anad dim, edrychai hi ymlaen at y mwynhad o glywed Owen Elis yn annerch y dorf fawr, a hi yn gwybod yn ei chalon ei bod hi'n nes ato ac yn ei ddeall yn well nac hyd yn oed y llu gweinidogion oedd o'i gwmpas.
Dywed rhai fod Cymanfa rymus y dyddiau gynt yng Nghymru wedi dirywio erbyn hyn nes bod yn ddim namyn cystadleuaeth neu arddangosfa bregethu.
Gall fod gwir yn hynny weithiau. Meidrol yw pawb, ac y mae rhagor rhwng pregethwr a phregethwr mewn ysbrydolrwydd meddwl a llwyredd ymgysegriad. Daeth y demtasiwn i gwrdd ag Owen Elis. Brwydrodd a hi, a daeth allan yn goncwerwr. Ar brynhawn dydd y Gymanfa, pan godai ei lef dros ei Waredwr ger bron y gynulleidfa fawr, ciliodd y byd yn ufudd o'r golwg.
"Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymaith, oedd testun ei bregeth. Tywalltodd allan gyfrinion enaid gyda rhyw hyawdledd a wefreiddiai'r dorf fawr. Ar y cychwyn, taflai'r gweinidogion edrychiadau mynych at ei gilydd gan wenu'n awgrymiadol; gwrandawai'r dyrfa ar y llethr yn astud iawn, daeth y rhai oedd ger y clawdd o un i un yn nes i ymyl y dorf, gan sibrwd wrth ei gilydd, "Fachgen, ma'r boi cloff na'n galler i gweid i!" Safai Owen Elis o'u blaen yn eofn ac yn wylaidd ar yr un pryd, heb wybod dim yn eu plith ond Iesu Grist, a hwnnw wedi Ei groeshoelio. Cyn diwedd y bregeth ryfedd honno, ciliasai swn yr Amennau, ac yr oedd y distawrwydd bron yn llethol. Edrychai llawer yn frawychus fel pe baent, er wedi byw blynyddau hir, heb hyd yr awr honno ddeall gwir ystyr bywyd. Pan eisteddodd y pregethwr, ni symudodd y gynulleidfa. Parhaodd y myfyrdod syn a'r tawelwch nes i eiriau'r emyn a'i nodau hiraethus roddi i bawb ollyngdod teimlad.
Ymwasgarodd y dorf. Gorfu i lu o ferched fel Ann a Gwen gefnu ar y fan a brysio'n ddiramant tuag adref i odro. Aethai llu ereill, merched eto—ymhell cyn diwedd yr oedfa i'r festri i baratoi tê. Tuag yno y dylifai'r dorf yn awr, rhai mewn brys anweddaidd, ac ereill yn hamddenol, gan fesur a phwyso'r pregethau. Ar ol yn y cae, gwelwyd nifer fechan yn symud yn gyffrous o gwmpas rhywun neu rywbeth, ac un arall yn rhedeg tuag atynt a gwydraid o ddwfr yn ei llaw. Yr oedd yno rywun wedi llewygu. Hen wraig fechan oedd, ac amser wedi rhychu pob modfedd o'i hwyneb llwyd. Os mai mewn llewyg y buasai, yr oedd yn awr wedi dadebru. Yr oedd ei llygaid yn llydan agored, ac yn rhythu ar bawb fel pe heb weld neb, a threiglai dagrau fel dwy afon loew dros ei dwyrudd hen. Siaradai yn ddi-daw. Daliai'r ferch y gwydraid dwr yn ei hymyl heb feiddio torri ar lif ei geiriau. Bernid fod y pregethu dwys ynghyd a gwres yr hin wedi bod yn ormod iddi i'w dal. Beth ond hynny ellid gasglu oddiwrth ei geiriau gwyllt?
"Odi, odi, ma didd y cyfri'n shwr o ddod. Ble bidda i wedin? Faint o fwinhad ges i wedi'r cwbwl? Ond nid arna i wedd y bai i gyd, nage, nid arno i wedd y bai mwia, ma Duw'n gwbod. Ond mi roia i bethe'n reit yto. Alla i ddim marw'n dawel heb hinni. Shwt wmeda i ddidd y farn a mhechode i heb i madde? Ma rhaid i fi find at y prigeth- wr i roi pethe'n reit. Le ma'r prigethwr? Owen Elis wi'n feddwl, y bachgen cloff na. Ma raid i fi gal sharad ag e.
Ceisiodd godi, ac yr oedd ei threm yn wyllt ac anaturiol. Tra'r oedd rhai o'r gwragedd caredig yn ceisio ei pherswadio i yfed diferyn o ddwr ac aros yno yn y cysgod am ychydig yn hytrach na mynd i ganol y dyrfa, torrodd yr hen wraig i wylo'n hidl a distaw. Gadawyd iddi, gan wybod mai hynny a wnai fwyaf o les iddi.
Tra'r oeddid mewn penbleth felly yn ei chylch, daeth dyn bychan byrr ar hanner rhedeg tuag atynt. Yr oedd creithiau duon ar ei wyneb, ac adwaenodd rhai ef fel cydymaith beili'r degwm. Rhuthrodd drwy'r cwmni a'i anadl yn ei wddf, ac olion ei bryd tê brysiog ar ei wefusau, a dywedodd, gan blygu at yr hen wraig,—
"Man i'n wit ti, ta? Dera, dera, Rachal fach. Be si matar eddi to? Dera, sich dy lyced. Awn adra'r minid ma. Wetas taw fel in bysa pethach."
Yna trodd at y cwmni i esbonio pethau mewn hanner sibrwd, "Wetas ddicon wrthi'r bora ma, lwch chi, taw aros adra fydda ora iddi. Diw i'm yn iech es ticin, a ma rhwi feddyla bech arni. Dos dim iws dishgwl ar beth ma'i'n wêd, na tolach gormodd arni. Bod yn ffirm si ora, medde'r doctor. Own i'n meddwl byddai'n well weti dod ffordd in i fiw, ond gwathyci ma'i, ia, gwathyci. 'Dera nawr, Rachal fach. Gei ddishglad fach o dê nawr yn y festri co, a mi gerddwn adra gan bwyll.
Bob yn dipyn, caed gan Rachel ufuddhau, ac aeth heb weld y pregethwr ym mraich ei gwr bychan bywiog. I rai, bu ei hanes o fwy diddordeb na'r un o'r pregethau. Daethpwyd mewn byrr amser i wybod cymaint ellid wybod am dani; ei bod wedi bod yn forwyn yn Y Mwyndir cyn i Tomos Bŵen fynd yno, ei bod wedi mynd bant' i fyw ar ol hynny, a phriodi dyn bychan llawer iau na hi o rywle yn Sir For gannwg; fod ei hiechyd wedi cilio, a'i bod wedi dod yn ol i'r wlad i fyw, tuag ardal Glynygroes; fod ei gwr yn rynu anifeiliaid ar hyd y ffeiriau, ac yn prynu hefyd i hen feili'r Degwm.
Medrai rhai pobl ddychmygu llawer mwy am dani. Pan fyddai" meddylie" ar rywun, yr oedd rhyw achos am hynny fynychaf. Pwy wyddai beth a fuasai gorffennol yr hen wraig? Rhyw le rhyfedd sydd yn y gweithfeydd. Pregeth Owen Elis yn ddiau a ddeffroisai ei chydwybod heddyw, dyna paham y galwasai am dano ef. Rhaid fod rhyw bechod yn pwyso ar ei chydwybod. Cofid am dani yn Y Mwyndir gan rai o'r ardal. Ni fuasai unrhyw son am dani' yno. Cofiodd rhywun fod ganddi chwaer rywle ger Abergwynli yn byw bywyd digon isel. Sut priododd hithau hen ddyn bach oedd gymaint yn iau na hi, a rhyw hen waith rhyfedd oedd ganddo. Trueni iddo ddod yno i'r cae cyn i'r hen wraig gael gweld y gweinidog. Gallesid bod wedi cael clywed ei chyffes, a chael manylion a fuasai'n bwnc ymddiddan diddorol ynghanol undonedd bywyd gwlad am amser hir.
XVII.
"Llwyther y bibell weithion,—yn ei mwg
Dychmyger myrdd swynion;
Yn lludw aed trallodion
Llawer awr ar allor hon."
WEDI diwedd yr oedfa olaf, yr oedd yn rhy hwyr ac yn rhy bell i'r rhan fwyaf o'r pregethwyr ddychwelyd i'w cartrefi. Cyn ymwasgaru, ymgasglodd nifer o honynt yn nhŷ'r capel i gael ymgom wedi cyffro'r dydd. Nid oedd gormod o le yn ystafell oreu'r tŷ bychan. Gorfu i bob ystafell arall ynddo roi benthyg cadair neu ddwy. Wedi ymdrech egniol, llwyddodd Jones y Berth i agor y ffenestr hyd ei hanner. Daeth Leisa a'r lamp i mewn a thynnodd y llenni. Buan aeth bron yn amhosibl i wr weld wyneb ei gyfaill gan fwg. Ychydig o siarad a glywid ar y cyntaf, ond tynnai pob un yn egniol, ac yr oedd rhywbeth yn esmwythhaol yn y swn, fel swn ceffylau yn dyfal dyfal gnoi eu gwair wedi dydd o ludded ar y maes.
Daethai Owen Elis i mewn hefyd. Wedi eistedd yn anesmwyth am dipyn, edrychodd yn hanner ofnus o'i gylch, dywedodd ei fod yn flinedig iawn, a'i fod yn gobeithio yr esgusodid ef am eu gadael; ysgydwodd law a dau neu dri o'r rhai hynaf, dymunodd "Nos Da" i bawb, ac aeth allan gan gau'r drws yn ysgafn ar ei ol.
"Thank Heaven for that,"" ebe Jones y Berth dan ei ddannedd.
Edrychodd dau neu dri ereill fel pe baent hwythau yr un mor ddiolchgar, ond bu pawb yn ddistaw nes i swn cerddediad cloff Owen Elis fynd o glyw.
"Pam oeddet ti'n diolch, Jones?" gofynnai'r hen wr penwyn, Dafis Bethel.
"Am gael lle i anadlu eto. Mae un olwg ar wyneb y dyn yna yn codi diffyg ana'l arna i."
"Wir, fe bregethodd yn nodedig o nerthol," ebe Dafis. "Hm!" ebe Morgan Puw. Mae pregeth fel honna ar dro efallai'n burion, ond yn yr hen rut yna mae e o hyd, ac y mae hanner ei gynulleidfa wedi cael digon arno. Rown i'n aros yn nhŷ un o'i braidd e neithiwr; os yw hwnnw'n dweyd y gwir, cilio o'r Bryn wna pobol un ar ol y llall."
"A fynnwch chwithau hefyd fyned ymaith, ebe Sam John, gweinidog ieuanc Hermon, yn ddistaw. "Beth yw'i fai mawr e?" gofynnai Dafis. "Mae e'n rhy bell oddiwrth i bobol. Ma'i safon e mor amhosibl. Ma'i bregethe fe mor sych a rhisgl coed, medde dyn y Mwyndir na wrthw i," ebe Morgan Puw.
Glywais inne fod y rhan fwyaf o'i gynulleidfa wedi rhoi fyny bob gobaith am nefoedd," ebe Dewi Edwards.
Dyw strôcs fel yna'm yn talu,—rhyw or-dduwioldeb fel yna? Rhaid i chi astudio tipyn o'ch cynulleidfaoedd, os am ddod ymlaen gyda nw." ebe Jones.
"Ie, dywedwch chi a fynnoch chi, 'dall dyn ddim pregethu'r peth ddyle fe na'r peth leice fe y dyddie hyn,—'n enwedig dyn sy a gwraig a phlant gydag e. Rw i wedi cal fod yr Iddewon yn destyn sâff iawn," ebe Rhys y Dyffryn.
"Wir, fachgen," ebe Dafis yn araf, gan chwythu mwg fel colofn niwl o'i enau, rwy'n ofni bod mwy nag un dyn wedi colli ei enaid oherwydd ei wraig a'i blant.'
"Fe rydd hwn hefyd ei draed ar y ddaear pan priôd e," ebe Rhys.
"Neu fe beidia a phriodi," ebe Dafis. "Mae llawer o'r mystic ynddo fe, welwch chi."
"Beth yw mystic?" gofynnai Gwynli Williams.
Chwarddodd Jones y Berth yn uchel.
Machgen bach i!" ebe Morgan Puw, "ddeallet ti ddim pe bai dyn yn hala awr i dreio'i esbonio i ti. A guddiwyd oddiwrth y doethion a'r deallus, wel di.
"Mae e rywfodd yn gymaint o awdurdod ar y byd ysbrydol," ebe Dafis. "Y byd hwnnw yw'r byd real iddo fo. Roedd e'n siarad mor ymarferol, ei ffeithiau mor ddidroi- yn-ol, a'i resymeg mor glir ag eiddo unrhyw ddyn o'r byd am ei fusnes. Mae llawer o honom ni o ddifri, gobeithio, mae e'n wir wedi cyrraedd tir uwch; mae e rywsut yn siarad yn fwy fel dinesydd o'r byd ysbrydol, a chanddo fwy first hand knowledge, wyddoch."
"Wn i'm wir, fachgen," ebe Morus y Bont, hynafgwr arall. "Pobol digon cyffredin fel ti a finne a gododd Gymru i'r man lle mae heddyw. 'Doedd dim llawer o'r mystic yn Williams o'r Wern a'r hen Gristmas a John Elias."
"Mwy nag a feddyliet ti, lawer. 'Roedd yr hen bregethwyr i gyd yn llawer llai o beiriannau nag ym ni."
Dyw dynion o fath Owen Elis ddim yn hollol sane, allan nw'm bod," ebe Morgan Puw.
"Sane" neu beidio, rw i'n credu byddai dau neu dri o ddynion wedi codi—neu ostwng—i'r lefelau yna yn ddigon mewn un wlad ac oes; rhywbeth i gadw meddwl y genedl yn fyw ar y pwnc. Ond mae'r safon yn rhy amhosibl i'r bobl gyffredin," ebe Jones y Berth.
"Fanatics mewn ystyr yw'r mystics ma welwch chi," ebe Rhys y Dyffryn. "Dydyn nw ddim yn hollol sane fel oeddet ti'n dweyd, Puw. Mae nw fel penboethiaid mewn unrhyw gylch arall. Mae'n dda bod ambell un ohonynt er mwyn codi ac arwain meddwl cenedl, ond mae'r Holl-Ddoeth wedi trefnu nad all pawb ddim bod mor or-grefyddol, a diolch am hynny, on'te?"
"Mae Elis yn rhy ofnadwy ddifrifol a phrudd," ebe Dewi Edwards. "O'm rhan i, rwy'n credu llawer mwy yn efengyl Robert Louis Stevenson. There is no duty we so much under-rate as the duty of being happy,' medde fe. A dyma bennill o'i eiddo fe sydd a chymaint o grefydd ynddo ag unrhyw emyn,-
"If I have faltered more or less
In my great task of happiness;
If I have moved among my race,
And showed no glorious morning face;
If beams from happy human eyes
Have moved me not; if morning skies,
Books, and my food, and summer rain
Knocked on my sullen heart in vain; Lord,
Thy most pointed pleasure take And stab my spirit broad awake;
Or, Lord, if too obdurate I,
Choose Thou, before that spirit die,
A piercing pain, a killing sin,
And to my dead heart run them in."
"Mae'r llinellau'n rhagorol wrth gwrs," ebe Sam John, "ond does dim ynddyn nw'n taro Owen Elis. Dyw e ddim yn brudd."
"Na, dyw e ddim yn brudd," ebe Dafis Bethel.
"Pwy erioed a'i gwelodd e'n dangos 'glorious morning face'? Ma'i wyneb e fel ffidl bob amser," ebe Dewi.
"Wn i'm a ydych chi wedi sylwi ynglyn a'r so-called mytics ma," ebe Morgan Puw, taw ar ol blynydde o suddo dros y pen ym mhleserau'r byd mae pobol yn troi i'r cyflwr yna.
Rhyw gael eu ffling yng nghynta, aie?" ebe rhywun.
Ie, ie, a rhyw surni ysbryd mewn gwirionedd yw dechreu ac weithiau diwedd hefyd y teimlad uchel yma. Mae rhyw siom neu ryw flinder wedi gyrru'r rhan fwyaf ohonyn' nw i gasau'r byd, a dyna nhw, yn full-fledged mystics whap iawn, os oes tuedd grefyddol yn eu natur nw.
"Fe all ddigwydd felly weithiau, ond lol yw dweyd taw dyna'r rheol," ebe Sam John.
"Mae'n digwydd yn go aml, rwy'n meddwl," ebe Puw. "Mae'r Salmydd yn son rywle am Dduw yn chwerthin, ebe Harri Huws, gan gymeryd rhan am y tro cyntaf yn yr ymddiddan. Rwy'n meddwl weithiau 'i fod E'n cael ambell spri yn iawn wrth edrych ar Gymru,—pobol a'u gwahanol syniadau bach, un yn tynnu ffordd hyn a'r llall ffordd arall, a phob un gymaint o ddifri a'i gilydd; neb am wn i yn iawn, a Duw yn cuddio'i hun yn y dirgelion pell ac yn chwerthin.
'Fachgen, fachgen!" ebe dau neu dri.
"Dydw i'n credu fawr ym mhobol yr un idea yma," ebe Morus y Bont. Rwy'n tueddu i ffafrio dy grefydd di, Dewi, ac R.L.S. Dynion rownd, ys dywedai'r hen bobol, sy eisieu; rhai i wasgar sirioldeb a daioni wrth fynd drwy'r byd. Beth sy eiseu'n rhagor?
"Rw i'n ieuanc iawn mi wn, i siarad ar bwnc fel hwn," ebe Sam John, " ond mae gen i un syniad bach, ac rwy am i ddweyd e. Roedd llwyddiant yr hen bregethwyr i'w briodoli i'r pellter mewn un ystyr oedd rhyngddyn' nw a'r bobl. Roedden' nw'n gallu llefaru gydag awdurdod am mai ganddynt hwy oedd y dirgelion. Mae'r mystery na yn help i addoliad a chrefydd. Mae hwnna ar goll yng Nghymru heddyw. Mae pawb yn hyf ar y pethau sancteiddiolaf, a ninnau'r arweinwyr yn un a'r bobl, ac felly heb fawr o ddylanwad. Mae'n rhaid i ni godi'n hunain,—a gwneud hynny drwy ryw fodd heblaw addysg. Does dim modd am dani ond yn ol dull proffwydi'r Hen Destament,—drwy gymundeb agos ac uniongyrchol a Duw. Mystics ein dyddiau ni yw'r tebycaf i wneud hyn.
"A ydyw Sam John hefyd ymysg y proffwydi?" ebe—Jones. y Berth, yn ddistaw.
Machgen i, rwyt ti'n llygad dy le," ebe Dafis Bethel, gan godi o'i gadair, ac wynebu ei gynulleidfa, a chadw'i bibell yn ei law i bwysleisio'i ymadroddion. "Mae'r mystics yma'n bobol ryfedd iawn. Mae llawer o honyn nw'n rhai anodd i fyw da nw ac i gwmnia a nw. Dynion yr un idea! Ond mae'r rhai hyn wedi specialiso yn y wybodaeth uchaf, coeliwch chi fi. Penboethni os mynnwch, ond penboethni gogoneddus! Gyda nhw mae allwedd bywyd. Hwy sy'n cael y mwyniant puraf a'r mwyaf parhaol. Mae ambell beth yn Owen Elis nad wy'n hoffi, ond yn ei gwmni ddoe, ac wrth ei glywed yn pregethu heddyw, rown i'n teimlo f'enaid yn sefyll ar flaenau 'i draed. Mi dd'weda i chi beth arall, fechgyn, dyma bregethwyr dyfodol Cymru. Mae tymor y deffro drwy son am ddydd y farn wedi mynd: mae tymor y dysgu drwy erthyglau diwinyddol gorffenedig wedi mynd hefyd. Hwyrach y deil pregeth fach y teimlad eto am "dipyn, a'i storiau difyr a phrudd, ac hefyd y bregeth up-to-date wyddonol, smart, ond dyw'r rhai hyn fawr o les ysbrydol i neb. Profiad ysbrydol sydd yn eisieu mewn pregethwr heddyw. "Roeddet ti'n iawn, John, machgen i. Rhai sydd gartref yn y byd anweledig yw'r unig rai ga siarad gydag awdurdod o bwlpud Cymru mwy.
Maes o law, fe fydd llawer llai o godi pregethwyr yn ein gwlad nag a fu. Dim ond y rhai a alwyd a etyb. Dim ond rhai â neges ganddynt ga'r hawl i draethu. Felly fe fydd yr ymgysegriad yn naturiol yn llwyrach, a'r wobr yn un ysbrydol."
Eisteddodd yr hen wr drachefn. Bu pawb am ennyd yn ddistaw. Dechreuwyd paratoi i ymwahanu.
"Wel, fe fydd lle i amrywiaeth o hyd, gobeithio," ebe Rhys y Dyffryn, gan godi o'i gadair a botymu ei gôt.
"'Dall neb ddim byw ar y lefel ofnadwy uchel na o hyd,' ebe Jones y Berth yn bendant. "The heart cannot beat without its intervening pauses," ys dywed Matheson."
"A beth newch chi o'r rhai sydd a'r alwad bron mor gryf o'r ddau gyfeiriad,—ni'r bobl gymysg yma?" ebe Dewi Edwards, gan droi yn ol i'r drws.
Symudodd mwy nag un ei ben fel pe'n ategu'r cwestiwn ond ni ddywedodd neb air. Ymwasgarodd y cymni cyn beiddio o neb gynnig atebiad iddo.
XVIII.
"Oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni."—IESU.
UN o gampau pennaf plant y byd hwn yw dwyn allan y gau a gwneud iddo gymeryd lle'r gwir. Hawdded y gellir bathu darn o fetel melyn a'i wneud mor debyg i'r aur nes mai llygad y cyfarwydd yn unig a genfydd y gwahaniaeth. Digwydd yr un peth mewn bydoedd uwch. Gymaint o ffug dosturi, o ffug garedigrwydd, o ffug gariad brawdol a gyfnewidir yn y byd! Gymaint o'r cyfryw a dderbynir yn ddiolchgar gan bobl grediniol yr oesau heb ameu eu gwerth! Nid newydd yw'r grefft chwaith. Daw swn geiriau melf- edaidd y goruchwyliwr anffyddlawn hwnnw i lawr o'r oesau pell, Pa faint sydd arnat ti o ddyled? . . . . Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna ddeg a deugain." Ceir dilynwyr y dyn hwnnw ym mhob cylch o gymdeithas heddyw. Nid aur yw popeth melyn, ac nid caredigrwydd yw pob gweithred a gymer yr enw.
Offeryn defnyddiol iawn yw'r ffug-garedigrwydd hwn. A oes arnat eisieu ffafr gan neb? Paid meddwl gofyn iddo'n uniongyrchol ac wyneb-agored. Yn hytrach chwilia am le i wneud iddo rywbeth na chyst lawer i ti, ac na fydd ond odid yn nemawr lles iddo yntau. Daw yn ddiau o dipyn i beth i ddeall beth garet gael ar ei ran, a phwy felly fedr dy wrthod a chadw ei anrhydedd? A wnest gam a rhywun erioed? Os nad oes berigl iddo ddial ei gam, na ofala. Eithr os yw Nemesis ar dy warthaf, beth a wnei?
Dos at y gwr y gwnest gam ag ef; dangos iddo ochr felfedeiddiaf dy natur; gosod fân actau digost o garedigrwydd yn llyffethair am ei arddyrnau, fel pan ddel yr awr y bydd yn anodd iddo godi ei law yn dy erbyn. Dyna ddoethineb y byd hwn.
Ni fu'r Gymanfa heb ei heffaith ar fywyd y wlad. Gwir na thorrodd allan ar unwaith ddiwygiadau cyffrous mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu cyfarfodydd gweddi yr wythnosau dilynol lawer yn lliosocach na'r rhai cynt. Ni chanfyddid rhyw wahaniaeth amlwg iawn yn yr iaith a'r ymddygiad ar y meysydd cynhaeaf, yn y ffair a'r farchnad, yng nghwmniau llawen yr efail a'r gweithdy. Bu mwy nag un Bugail yn cwynfan gyda'r Proffwyd, "Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth."
Eithr er yn hir o'r golwg, nid aethai'r had da i gyd ar goll. Hwyrach mai yn y dirgel y gwnaed llawer o'r addunedau; nid oeddynt am hynny yn llai difrifol na'r ymdrechion i'w cadw yn llai egniol. Weithiau, ar aelwydydd, fin nos, ceid aml ymddiddan dwys rhwng gwr a gwraig neu rhwng dau gymydog, ar rai o bynciau'r pregethau,—ymddiddanion o'u clywed a fuasai'n agoriad llygaid ac yn adgyfnerthiad ysbryd i lawer gweinidog blin Weithiau hefyd, tra'n unig ar y maes yn gyrru'r wedd, cai'r aradrwr ei hun yn distaw ganu darn o emyn ganesid gyda hwyl ddydd y 'Gymanfa, a chyda'r emyn deuai'n ol radd o'r un dylanwadau. Os syrthiodd peth o'r had ar y palmant caled, peth, ysywaeth, ar y creigle, a peth ymysg drain, fe syrthiodd peth ar dir da, ac yn araf a distaw a ddug ei ffrwyth.
Yn hanes Tomos ac Ester Bŵen, Y Mwyndir, yn anad neb, bu dydd y Gymanfa yn drobwynt tra phwysig. Yr hwyr hwnnw, braidd na fu'r Parch. Morgan Puw a'r gweinidog arall yn rhy araf wrth fodd eu lletywr gyda'u swper a'u hymgom. Digon anodd oedd cymeryd rhan siriol mewn ymddiddan, a phethau trymion yn gwasgu ar y meddwl. Wedi i'r ddau wr dieithr o'r diwedd weld yn dda noswylio, cafodd y mab a'r ferch hefyd orchymyn i fynd ar unwaith i'w gwelyau, gan ei bod yn hwyr, ac y byddai raid codi gyda'r wawr drachefn drannoeth. Yna cymerodd Ester y pocer, gwnaeth i'r tân cwlwm glân fflamio ychydig yn siriolach, tynnodd y ddau eu cadeiriau yn nes ato, a dechreuwyd ymddiddan dwys a barhaodd nes i'r wawr dorri. Pa ddiwygiadau bynnag a ddygodd y Gymanfa i fywyd y wlad, dysgodd i Tomos ac Ester yr angenrheidrwydd o ffurfio polisi newydd hollol am y dyfodol, ac er y gallai'r polisi hwnnw droi'n dreulfawr ac o bosibl yn ddifudd, yr oedd yn werth mentro arno os mewn unrhyw fodd y gellid osgoi amgylchiadau ereill anhawddach eu cyfarfod
Un prynhawn Gwener, yr ail wedi'r Gymanfa, synnwyd Marged Elen o gael ei gorchymyn gan ei mam i drefnu ei gwaith fel y gallai fynd cyn nos ar neges fechan i dŷ'r gweinidog. Buasai'r Mwyndir yn ffodus iawn yn eu cywion ieir y flwyddyn honno, a theimlai Ester Bŵen y gallent yn hawdd hepgor un i'r gweinidog. Rhoddai ereill o bobl yr eglwys roddion bychain iddo'n awr ac eilwaith, a pha eisieu iddynt hwythau fod ar ol. Esboniodd y fam yn ofalus i'r ferch ei bod hi ers tro wedi gweld y priodoldeb o wneud pethau felly, ond fod ei thad mor glòs. Beth bynnag, wedi iddi hi siarad ag ef yn ddwys ar y pwnc, daethai i weld pethau o'i safbwynt hi. Felly, yr oedd Mari'r forwyn eisoes yn plufio'r ffowlyn bach, a chai Marged Elen fynd yn union wedi godro.
Amlwg oedd fod ei thad wedi cael troedigaeth lwyr ar y pwnc, oherwydd gwelodd Marged Elen na cheisiai ei mam guddio dim rhagddo y tro hwn. Pan aeth hi i lawr o'r llofft wedi gwisgo yr oedd y fasged fach a'i chynhwysiad yno ar y ford yn ei ymyl, ac yntau heb wg ar ei wyneb wrth weld gwerth arian felly yn mynd o'i dŷ. Mwy syndod fyth, ei thad a awgrymodd fod digon o le yn y fasged i bwys o ymenyn ffres y diwrnod hwnnw. Cyn troi i'r llaethdy i gyrchu'r pwys ymenyn, dywedodd y fam,—
Newided i hat, wir, Marged Elen. Leices i mo honna ar i phen i ariôd. Diw i'm yn mind yn amal i'r gwmdogeth na.
Daeth Marged Elen i lawr yr ail waith a'i het oreu ar ei phen.
Yr oedd tŷ'r gweinidog filltir a hanner o'r Mwyndir. Pan gychwynodd Marged Elen yn ol wedi gwneud ei neges a chael cwpanaid o dê yr oedd yn dechreu tywyllu. Er iddi sicrhau nad oedd ofn arni, ni allai Owen Elis fod mor anniolchgar ac anfoesgar a gadael iddi fynd drwy'r tywyllwch ei hun. Aeth gyda hi'n gloff drwy'r pentref, a bron hyd y tŷ, gan gario'i basged.
Be si wedi codi ym mhen nhad a mam, te?" ebe Josi, pan oedd ei chwaer ac yntau eu hunain yn y gegin y noson honno. "Beth ddoith a'r idea iddin nw mor sidin? Allan beido ffwdani. Cin i ti roi mwi o dy feddwl ar y Bigel, mi weda i gwmsel wrthot ti. Dw i ddim fod i weid, ond mae e'n ddigon gwir. Mae'r boi dros i ben mewn cariad â Gwen Alun."
"Gwen Alun! Bidd ddistaw da tithe, Josi," ebe Marged Elen yn anghrediniol.
"O reit," ebe Josi, "ond ma'r peth yn ffact coila di fi." Ni feddyliai Josi na'i chwaer son am gyfrinachau felly wrth eu mam na'u tad, ac ni chymerai Marged Elen arni un amser fod yn deall dim o'r polisi newydd; ond bu'r fasged a hithau fwy nag unwaith drachefn yn nhŷ'r gweinidog ar neges gyffelyb; ac o leiaf unwaith, a'r noson yn dywell iawn, gwelwyd Owen Elis a hithau yn dod tua'r Mwyndir, drwy'r heolydd cul, anwastad, fraichymraich.
XIX.
Tymhorau ehedant,
Y blodau a wywant,
A dail a orweddant
Ar hyd y llawr.
Medelwyr a ganant,
Yd addfed a gludant,
Adar ehedant
Dros y môr mawr.
—CALEDFRYN.
BUAN iawn daeth yn gynhaeaf Medi. Un bore mwynaidd, aeth John Maesyryn, gan mai efe oedd y mwyaf diwaith o'r teulu y bore hwnnw, i alw am help y tyddynwyr i rwymo'r ŷd. Ai heibio Isaber ar ei ffordd, a meddyliodd mai purion peth fyddai gofyn am help Gwen Alun. Rhoddai hynny esgus iddo i alw, beth bynnag, a hwyrach y cai gyfle i gael ymgom fechan gyda Gwen. Yr oedd yn dyheu am gyfle felly, heb ond hwy eu dau yno. Yr oedd ganddo rywbeth neilltuol i'w ddywedyd wrthi.
Nid oedd John yn un o'r rhai fedr ruthro'n hyf i gwmni merch a theimlo'n gartrefol yno. Rhai dieithr iawn iddo ef oedd merched ei adnabyddiaeth. Er hynny, nid dieithr iddo oedd cariad. Ers blwyddi rai, Gwen bioedd ei galon, ond yr oedd mynd i'w phresenoldeb a siarad â hi yn peri cymaint cyffro iddo, ac yr oedd arno gymaint o ofn ei wrthod, nes y boddlonai o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn, ei chanlyn o hirbell, a'i haddoli'n y dirgel. Yn awr, yr oedd gwrid merchedaidd ar ei rudd, a churai ei galon yn gyflym wrth neshau at y drws. Daeth llais Gwen tuag ato yn canu'n lleddf-dyner un o hen emynau Pantycelyn. Rhydd merched Cymru wledig yn fynych iawn fwy nag un ystyr i lawer o hen emynau'r cysegr. Bychan yw eu hystor hwy o ganeuon teimlad, a llawer emyn ga wneud y tro'r delyneg serch. Arhosodd John fan honno nes i Gwen ddistaw ganu'r ddau bennill drwyddynt. Pwy feddyliai fod cymaint o swyn yn yr hen dôn gyfarwydd 'Eifionydd'? Pa faint o brofiad Gwen, tybed, oedd yn y geiriau trist?
"Eto unwaith mi ddyrchafaf
Un ochenaid tua'r nef,
Ac a wylaf ddagrau'r hidl
Am Ei bresenoldeb Ef.
Pwy a wyr na chaf fy ngwrando
Gan Dywysog mawr y nen,
Ac na ddaw fy nymuniadau
Trist, hiraethlawn, oll i ben?
Fel y rhed llifogydd mawrion,
Fel y chwyth yr awel gref,
Felly bydded fy ngruddfannau
Yn dyrchafu hyd y nef.
Gwn, fy Nuw, nas gelli atal,
Gwn nas gelli' roi nacâd.
O un fendith îs y nefoedd
Ag sydd imi er llesâd."
Yn swn y llinell olaf aeth John yn ol ar flaenau ei draed hyd yr iet fach, caeodd hi'n drystfawr, a cherddodd at y drws gan waeddu'n serchog, "Helo ma?"
Yr oedd Gwen yn gwnio ffedog liain i Nani Penffynnon. Aeth â'i gwaith yn ei llaw i'r drws.
"Helo! chi si na? Dewch miwn," ebe hi.
Na, dos gen i'm amser," ebe John, gan wenu a gwrido mwy nag erioed. "Dod i mofin help i rwimo wi."
Yr oedd rhyw leithter yn llygaid Gwen, ac yr oedd swn wylo yn ei chanu hefyd, ond erioed ni welsai John hi'n edrych yn dlysach. Mor gyflym a deheuig y symudai ei bysedd gwynion wrth wnio! Ciliodd yn ol, ac eisteddodd ar y clawdd bach, fel y gallai siarad â hi a gwrando arni heb dynnu ei lygaid oddiarni. Ond am y tywydd, a'r cynhaeaf, a helyntion y gymydogaeth y siaradent. Er y curai ei galon yn wyllt gan gariad, nid oedd John yn fedrus yn yr iaith.
O'r diwedd, o bellter diogel y clawdd bach, anturiodd fynegi ei newydd.
"Widdoch chi bod y gweinidog yn cari'n din?" gofynnai. "Odi e wir? A phwi?" gofynnai Gwen yn siriol, ac os gwynnodd ei grudd, methodd John ganfod hynny, ac yr oedd yn rhy bell i glywed curiad ei chalon. Gwniai hi o hyd yn brysur.
"Marged Elen, Y Mwyndir."
'O, wir," ebe Gwen, yn siriol eto.
Own ni wedi cal rhiw shis o'r peth, ond mi gweles nw nos Wener diwetha a'n lliged yn hinan Own i'n digwydd dod lawr trw lôn Y Mwyndir, a mi gwrddais a nhw i doi, yn breicho'n din hefid.
"O, ma nw shwr o fod obiti find te," ebe Gwen.
"Shwr o fod. Ma arian yn Y Mwyndir welwch chi, ma'r dîn bach yn giwt," ebe John, gan edrych yn graff iawn ar Gwen, ond methodd weld un arwydd o ofid am y peth ar ei hwyneb. Teimlai'n falch am hynny. Lodes gall oedd Gwen. Diau na feddyliasai erioed am y gweinidog fel 'cariad,' er cymaint siaradai pobl. Yr oedd ei chalon yn rhydd, ac yr oedd gobaith iddo ef eto.
"Deis i! Ma rhaid i fi find," ebe ef. "Ddewch chi i rwimo?"
"Gna, gna. Prid biddwch chi'n dachre?"
Ni fu Gwen yn llonnach erioed nag yn y cae ŷd y diwrnod hwnnw. Medrai rwymo'r ysgubau mor ddeheuig ag y gwniai ffedog Nani. Clywid ei chwerthin llon yn amlach na'r eiddo neb arall, ac yn swn miwsig ei llais, tra'n torri'r ŷd yno'n ymyl ei gilydd, gwnai John a Fred bob un ei gynlluniau erbyn y dyfodol, a Gwen a lanwai'r naill a'r llall.
Ond wedi gorffen gwaith y dydd ar y cae, wedi gwneud ei gorchwylion bychain gartref, wedi i'w thadcu fwyta'i swper a mynd i'w wely, daeth Gwen wyneb yn wyneb a'r nos. Yn oriau anhrugarog y tywyllwch ciliodd cwsg ymhell oddiwrthi, a daeth cwestiynau ac atgofion, blinderau a chamgymeriadau ei bywyd bach yn fyw ger ei bron. Beth a wnaethai i Mr. Elis? Beth a barasai iddo newid mor sydyn yn ei ymddygiad tuag ati? Pwy a ddaethai i'w gwahanu? Ac ni chai ofyn iddo am esboniad! Ni chawsai Gwen yr un addysg ond greddf ar y pwnc, ond gwyddai mai dioddef yn ddistaw oedd raid, o derbyn ymddygiad mor rhyfedd fel pe bai'r peth naturiolaf yn y byd. Cofiai fel yr edrychasai ymlaen at y Gymanfa. Mor llawn o Owen Elis y buasai ei holl feddyliau am dani! Teimlai yn awr, rywfodd, mai o'r dydd hwnnw y dechreuasai pethau fynd yn ei herbyn. Ni welsai ef byth oddiar hynny ond yn ei bwlpud ar y Sul. Cofiai ei weld o ganol y gweinidogion yn syllu yn graff arni, a phan roisai hi hanner gwên iddo, troisai draw yn sydyn gan grychu ei dalcen. Hwyrach fod ei gwên a'i hedrychiad wedi dangos gormod o gariad ei chalon, ac iddo yntau weld mor amhosibl a gwrthun oedd meddwl y gallent hwy eu dau fod yn ddim i'w gilydd. Yr oedd ef yn ddyn o bwys yno ynghanol y gweinidogion, a hithau yn ferch dlawd ddinod. Sychodd Gwen ei dagrau. Gwelodd eto John Maesyryn ar y clawdd bach a'r wên fwyn ar ei wyneb yn dweyd ei newydd; teimlodd eto'r pwysau annioddefol ar ei chalon, a gwyddai y byddai'r darlun hwnnw a'r boen honno yn dileu am byth bob atgof a theimlad arall am John Maesyryn.
Marged Elen, Y Mwyndir! Pam na fuasai Ann wedi dweyd rhywbeth wrthi? Gwyddai Josi'n ddiau, ac felly gwyddai Ann, a gallai ar yr un pryd siarad a hi am dano yn yr hen ddull! Pa mor bell y gellid ymddiried mewn ffrind? Ni chai neb gymaint o'i chyfrinachau mwy.
"Ma arian yn Y Mwyndir, welwch chi. Mae'r dîn bach yn giwt," meddai llais tawel John eto'n ei chlustiau. O'r gore, os mai dyn felly oedd Mr. Elis, aed. Efallai fod ereill yn y byd heb fod mor ddibris o honi. Yna, daeth yr oedfa honno ger yr afon gyda rhuthr i'w chof. Wylodd drachefn nes oedd ei gobennydd yn foddfa ddagrau, ac a haul y bore yn gwenu i'w hystafell, cysgodd yn drwm.
XX.
Tywys Di fi i'r dyfodol,
Er na welaf fi ond cam.
—HERBER.
A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn dyfod i'w hoed.
—GWYNN JONES.
FEL y cyfeiria'r emynnydd, daw adegau yn ein bywyd pan na welwn ond cam i'r dyfodol. Diflannodd yn sydyn y golygfeydd swynol a ymagorai gynt o'n blaen, dyryswyd ein
holl gynlluniau, ac o geisio camu ymlaen, deuwn ar draws mur uchel, noeth. Nid pawb ohonom all bob amser ddy- wedyd fel y dywedodd emynnydd arall,—
"Un cam a boddlon wy'."
Mis mwynaf y flwyddyn fu mis Medi'r flwyddyn honno. Yr oedd ei foreuau mor ddistaw, a
"Duw'n
Arogldarthu ar y bryniau,"
ei oriau anterth mor gynnes, a'i nosau mor glaer-oleu. Yr oedd yr haf fel pe yn mynnu oedi i'r eithaf cyn ffarwelio. Ond syrthiai'r dail er hynny o un i un, a phan elai Gwen drwy ei llwybr arferol i lan yr afon, cerddai ar garped o ddail meirwon.
Yn y mis mwyn hwnnw y dechreuodd Dafydd Alun waelu. Ni fuasai yn y capel lawer wedi'r Gymanfa. Yn ddiweddar hefyd, ni theimlasai'n ddigon cryf i fynd gyda Gwen am dro drwy Barc y Berth. Nid ai i unman ond o gylch y tŷ a'r ardd, ac er na chysgai efallai drwy'r nos, ai i'w wely'n gynnar iawn. Ond ni chwynai, ac mor ofalus yr oedd rhag i Gwen drafferthu gormod yn ei gylch, a rhag i'w anhwyldeb ef boeni dim arni. Ac ni ddaeth i feddwl Gwen fod ei thadcu ar fin ymadael â hi.
Beth ddaw i'n suo felly i gysgu pan ddylasem fod yn fwyaf effro? Wedi i'n rhai annwyl ein gadael y sylweddolwn fynychaf pa mor oer, mor ddideimlad, ac mor ddall y buasem. Hoffai llawer o honom, druain, gael yr un cyfle'r ail waith!
Dyddiau llwydaidd yn wir oedd y rhai hynny i Gwen. Yr oedd yr ŷd erbyn hyn yn ei ddas, ac yn cael ei gywain gyda llawenydd i'r ydlanau. Yr oedd y ffermwyr i gyd yn brysur. Bu Gwen am bythefnos bron heb weld neb ond ei thadcu, Nani a Sali weithiau, a gwas bach y ffeiriad bob dydd a'r papyr. Yr ail Sul iddi fethu mynd i'r capel daeth Sali gyda'r nos ar bwys ei ffon i holi hynt y ddau, a dywedodd mai dyn ieuanc dieithr a fuasai'n pregethu'r Sul hwnnw, fod y Bugail wedi mynd i ffwrdd i rywle i bregethu neu i newid awyr.
Aeth Gwen allan gyda Sali i'w hebrwng gam neu ddau. ac wrth ddychwelyd, gwelodd Fred yn dod i'w chyfarfod. Siriolodd Gwen o'i weled. Nid oedd eisieu hanner craffter Fred i ganfod hynny. Daeth yn ddigon hyf i ofyn i Gwen fynd am dro gydag ef ar hwyrnos mor hyfryd.
Chi'n pale iawn. Bidd wâc yn da i chi," ebe ef, gan edrych arni'n dyner.
"Do's dim iws i fi ddod, pale ne beido," ebe 'Gwen. Do's dim iws i fi adel Daci, diw e'm yn iach iawn."
My poor girl!" ebe Fred.
Llanwodd llygaid Gwen, nid oedd y dagrau un amser ym- hell y dyddiau hynny. Pwysodd ei phen ar yr iet fach, ac heb fedru peidio, wylodd yn hidl. Syllodd Fred arni'n fud am ennyd, ond pa ddyn fedrai wneud hynny'n hir heb geisio'i chysuro? Rhoddodd ei fraich gref am dani, a'i wyneb yn agos iawn i'w hwyneb hi, a sibrydodd eiriau mwynion yn ei chlust,-
My dear child! your life is too lonely and monotonous for you, and you are over-wrought and miserable. I wish I could take you away with me and make you happy! Why did'nt I see you ten years ago? How different my life would have been! Let me comfort you now! My darling! you need me, yes, you do! and I need you."
Yr oedd Gwen yn rhy lawn o ocheneidiau i yngan gair mewn gwrthdystiad, a phan gododd ei phen i sychu ei dagrau, gwasgodd Fred hi'n ddiwarafun at ei galon, ac am yr ail dro yn ei fywyd, gadawodd ei gusan brwd ar ei gwefus.
"Gwen." ebe ef, "fi dod lawr heibo ti chi bob nos ar ol swper.
"Os chi dod mas fan hin, cawn sharad am spel." Ni wnaeth Gwen ond edrych arno heb gynnyg gair mewn atebiad; ond nid oedd gwg yn y llygaid llaith. Edrychodd Fred ar ei hol nes clywed y drws yn cau, tynnodd un ochenaid ddofn, yna trodd tuag adref, rhoddodd ei ddwylaw yn ei bocedi, a chwibanodd yn ysgafn yn ol ei arfer.
Tra'n eistedd ar ei haelwyd unig y noson honno, mynnai un o frawddegau gwyllt Fred redeg drwy feddwl Gwen, "I wish I could take you away with me," ddywedasai. Mor dda fuasai ganddi gael mynd yn ddigon pell o ardal Cwm- gwynli! Sut medrai fyw a gweld Mr. Elis yn priodi Marged Elen, Y Mwyndir? Yn hytrach nag wynebu hynny, gwell ganddi fynd i ffwrdd i rywle, hyd yn oed gyda Fred—hen Sais. Bron o'i hanfodd daeth i'w meddwl eiriau ei thadcu rywbryd pan oedd y gweinidog yno,— Fuse tithe'n fwy rhydd hebddw i, Gwen fach." Llithrodd yn rhwydd i— ddychmygu beth wnai pe bai ei thadcu'n marw, a hithau'n rhydd. Yr un eiliad ffieiddiodd ei hun am oddef y fath feddyliau; ceisiodd eu taflu oddiwrthi, ond methai gael. llonydd ganddynt.
Mor hanerog, wedi'r cyfan, yw cariad goreu daear! Wylodd Gwen yn brudd ac edifeiriol wrth weld ei derfynau. Er mwyn teimlo'n sicrach o'i serch at ei thadcu, aeth i'w ystafel drachefn cyn mynd i'w gwely, a dywedodd yn siriol, heb wybod fod swn dagrau o hyd yn ei llais,-
"Shwt i chi'n teimlo nawr, Daci bach? Dich chi'm wedi peswch fowr heddi. 'Rich chi siwr o fod yn well, welwch chi. Falle cisgwch chi heno nawr.'
Ceisiodd yntau druan ei chysuro hithau. "Odw i, merch i, yn teimlo'n lew iawn.
Cer di i dy wely nawr, a phaid di becso. Fuest ti'n llefen heno? Dw i'm yn wael, wel di. Ond falle bydd well i ti sgrifennu gair at dy fam bore fory. Fuse'n brion peth i ti gal cwmni ma nawr."
Yr un nos Sul eisteddai Owen Elis yn unig yn ei lety yn un o gymoedd Morgannwg. Pregethasai fore a hwyr i gynulleidfa drystiog, ddi-ddefosiwn. Methasai ganfod enaid cydnaws drwy lygaid neb o'r rhai a'i gwrandawai. Ni theimlasai neb o'r diaconiaid ddigon o ddiddordeb ynddo—fel ag i ddod gydag ef i'w lety am awr o ymgom. Gwr a gwraig oedd ei letywyr, hen mewn dyddiau, ond megis babanod ym myd crefydd ac enaid, ac heb ddim i'w ddywedyd ar nemawr i bwnc arall. Felly eisteddai'r gweinidog ei hun.
I lawer pregethwr, i Owen Elis yn anad neb, nos anhyfryd fynychaf oedd nos Sul. Wedi dringo i'r uchelion yn ystod y dydd, mwy fyth oedd y cwymp i'r gwaelodion. Yr oedd ei gyflawniadau bob Sul mor bell o'r hyn y dymunai iddynt fod, a'r gwir lwyddiant yr hiraethai am dano o hyd mor anghyraeddadwy. Weithiau, yr oedd yr oriau rhwng oedfa olaf y dydd ac amser cysgu bron yn annioddefol iddo.
Safai'r tŷ lle y lletyai ar ben pellaf y pentref bychan Aeth i'w ystafell wely'n gynnar, ac oddiyno clywai swn cerdded parhaus ar y ffordd o flaen y tŷ, swn siarad difyr, Swn chwerthin llawen. Oddimewn, gwaedai calon y dyn ieuanc unig. Cyn diosg ei ddillad, diffoddodd ei gannwyll, cododd gwrr llenni'r ffenestr ac edrychodd allan. Disgleirjai'r lleuad Fedi'n fwyn, yr un lleuad a wyliai Gwen a Fred ger yr iet. Hwyrach mai saeth-feddwl gwyllt o galon Gwen ddaeth ato drwy'r pellter i agor clwyfau ei galon. Cerddai cannoedd o bobl ieuainc heibio'i ffenestr, gan mwyaf yn ddau a dau, fel yr adar ddechreu'r gwanwyn. Mor hapus yr ymddangosent! Dyn ieuanc oedd yntau. Paham oedd raid iddo ef fod mor unig, mor unig? Paham na chai yntau rodio llwybrau bywyd yn llon gyda Gwen fel y deuoedd hapus welai o'i flaen? Yn ystod yr wythnosau diweddaf, credasai ei fod yn graddol ennill y dydd ar holl atyniadau daear, ond heno eto, wele'r hen deimlad hudolus a'r ing yn llifo fel ton dros ei enaid. O Dduw! ai ymdrech barhaus oedd bywyd i fod? ymdrech chwerw, chwerw fel heno? Murmurodd eiriau a welsai rywle,—"Would that I could sleep and awake an old man, with an old man's passionless resignation!" Yna trodd yn ol i'w ystafell, ac eisteddodd yn hir yn y tywyllwch. Pan gododd i fynd i'w wely, medrodd ddywedyd gyda'r hen fynach,—"Tyrd ynte, O fy Iesu, tyrd i dorri'r unig linynnau a'm cylyma wrth y creadur, ac a geidw'n ol y foment pan na fyddwyf byw mwyach, ond i Ti. Par i mi anghofio fy hun, heb weld, na chwennych ond Tydi yn unig, a chael pwyso ar Dy fynwes, fel y disgybl annwyl, yn y tangnefedd hyfryd hwnnw, nad all y byd mo'i roddi na'i ddeall, ac nas cynhyrfir gan yr un ystorm.
XXI.
Na feier anwadalwch merch.
—GWILYM COWLYD.
NID yw'r nos dduaf heb ei myrdd o ser rywle tu ol i'r cwmwl, ac nid yw nen dywyllaf bywyd heb ei phelydr,—bydded wanaidd, bydded ddisglair, o gysur. Mae'r cysuron roddir mor amrywiol a'r personau a'u derbyn. Wedi'r nos Sul ystormus hwnnw, tywynnodd heulwen drachefn i galon Bugail y Bryn. Daeth ato'n hyglyw lais Un ddywedodd, Mi a orchfygais y byd,' a chymerodd gysur; cafodd ei hun yng nghwmni seintiau'r oesau, a theimlodd yn foddlawn.
Ni fu nos Gwen chwaith yn ddibelydr. Wedi derbyniad llythyr oddiwrthi gan ei mam, gyrrwyd ei chwaer Manw, geneth bymtheg oed, i fod yn gwmni iddi. Bu Fred hefyd yn ffyddlon i'w addewid, ac o dipyn i beth, daeth cael ymgom fechan ag ef gyda brig yr hwyr, yn brif ddigwyddiad y dydd i Gwen. Gan fod Manw yno yn y tŷ, nid oedd mynd am dro mwyach yn amhosibl. Gwenodd y lleuad Fedi a lleuad arall lawer noson, ar y Sais a hithau, fraich-ymraich, yn difyr rodianna drwy lwybrau'r coed a'r caeau.
Nid oedd Gwen am hynny'n llai hoff o'i thadcu, nac yn llai gofalus o hono. Nid ai allan byth pan fyddai ei heisieu arno ef, ni pheidiai wneud popeth a fedrai i'w gysuro. Eithr tra mae'r hen a'i huan yn machlud, ymegyr y dydd a'i bosibliadau o flaen yr ieuanc, ac ar rai pynciau mae dealltwriaeth berffaith rhyngddynt yn amhosibl. Os digwyddai i'r hen wr sylwi ar absenoldeb Gwen a holi Manw pa le yr oedd, yr oedd yr ateb bob amser yn barod;—ei bod wedi mynd i Benffynnon ar neges at Nani a Sali, neu wedi mynd gyda'i ffrind Ann Maesyryn i'r lle hwn neu'r lle arall.
Nid oedd 'Gwen mor berffaith ag y dywedir mewn llyfrau fod rhai.
Yn ei thyb hi ateb i'w gweddi oedd dyfodiad Fred. Pan fydd yn alarus gan siomiant cariad, nid oes dim a gwyd galon merch yn well na chariad newydd. Dechreuodd Gwen feddwl fod amgylchiadau yn trefnu eu hunain, ac mai felly yr oedd pethau i fod. Pe cai ei dewis o'r dau, ni phetrusai ddewis y gweinidog. Ond pa sawl merch ga briodi yr hwn gafodd gariad pura'i chalon? Yr oedd pennill o gân ddysg asai Gwen yn ddigon difeddwl rywbryd yn awr yn rhan o'i phrofiad,-
"Y rhai garasant fore'u hoes,
Anfynych cânt gyd-fyw,
Gobeithion a ffurfiasom gynt
Aeth gyda'r gwynt yn wyw:
Gan amser fe'n rheolir oll,
Llawn coll yw bywyd Gwen.
A siawns daw'r degfed ran neu rith
O'i dewis byth i ben."
Purion peth fyddai i'r gweinidog ddeall nad oedd ei gwmni ef yn anhebgorol i'w chysur. Ar y cyntaf, ni fedrai oddef y syniad o briodi Fred, ond erbyn hyn nid ymddangosai'r peth hanner mor amhosibl. Bob tro y cwrddent, cytgan barhaus Fred fyddai, "How I wish I could take you away with me! We will go away together yet." Yr oedd y darlun gyfodai'r geiriau hynny o'i blaen yn graddol dynnu golwg Gwen oddiar bob anfantais yn ei chysylltiad ag ef. A beth pe byddai i'w thadcu farw, a'i gadael yn unig?
Ni rannai Gwen y dedwyddwch newydd hwn ag Ann, Maesyryn, nag a neb arall ond Manw.
Un prynhawn Gwener tua dechreu Tachwedd, digwyddai Anna Ifans, Maesyryn, fod yn Isaber. Er pan ddaethpwyd i wybod am afiechyd yr hen wr, deuai gwragedd caredig y gymdogaeth o un i un ar brynhawnau i edrych am dano gan ddwyn rhoddion o dê a siwgr neu rywbeth arall. Ar hynt felly yr oedd Anna Ifans yn awr, ac wrth geisio cysuro Gwen adroddai a'i llais wylofus am afiechydon ereill tebig welsai yn ystod ei hoes, a'r modd y cawsid gwellhad. Er fod Dafydd Alun yn hen, gallasai fyw blynyddau eto. Yr oedd ei thad hi yn bedwar ugain a deuddeg yn marw.
"Fiodd y gweinidog ma?" gofynnai, gan graffu ar Gwen.
Yr oedd Gwen wedi dechreu paratoi cwpanaid o de. Trôdd at y seld i gael y llestri, tra'n ateb,—
"Naddo, wir. Fiodd e'm nawr o ar ma Daci'n sal."
"Wel, fe ddilse fod wedi bod. Gwan iw e fel Bigel. Sdim ots d'a ge shwt ma'n hanner ni'n biw. Fiodd e ddim yn y ti co chwaith es wthnose. Ond own i'n meddwl i fod e'n trado pwer ma.
"Wi'n credi i fod e mwi cloff nawr nag wedd e, a ma'r hen ffirdd ma'n arw iawn," ebe Gwen.
"Hm. Mai e'n galler trado'n digon shonc i rai manne, a mai e felse fe wedi newid i gid yn ddiweddar. Mai e fwi'n i gragen na biodd e arioed, heb hidio beth ma neb yn feddwl am dano. Tua'r Mwyndir na ma'i holl feddwl e. am wn i. Ond neith hinni mo'r tro, mewn Bigel. Gwas i bawb ddile fe fod. 'Swn i'n cal cifle arno wrtho'i hinan mi wetswn hinni wrtho."
Fel mewn atebiad i ddymuniad Anna Ifans, clywyd y cerddediad cloff cyfarwydd oddiallan. Curodd calon Gwen yn ddilywodraeth, a sylwodd Anna Ifans gyda diddordeb ar ei chyffro. Cynhyddodd ei diddordeb a'i syndod pan ddaeth y gweinidog i mewn o'i weld yntau mor anesmwyth a chyffrous ei wedd a Gwen. Aeth ei haraith fwriadol o'i chof wrth syllu ar y dyn ieuanc a cheisio cael allan y dirgelwch ynglyn ag ef. Aeth Gwen i'r llofft i ddywedyd wrth ei thadcu pwy oedd yno.
Cyn pen munud neu ddwy daeth i lawr drachefn, a dychryn lond ei llygaid.
"Ma rhiw olwg ddierth iawn ar Daci," ebe hi. "Mai e am i chi'ch doi ddod lan.
Dilynodd Anna Ifans a'r gweinidog hi heb ddywedyd gair. Safasant wrth ymyl y gwely, ond prin y sylwodd yr hen wr eu bod yno. Cydiodd y gweinidog yn ei law, a gofynnodd iddo sut y teimlai. Araf a bloesg oedd yr ateb,—
"Mae arnaf chwant i'm datod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw.
Penliniodd Gwen wrth y gwely, symudodd ei llaw yn ysgafn dros dalcen ei thadcu. Daeth Manw i mewn o rywle ar flaenau ei thraed. Aeth pawb yn ddistaw. Ni chlywid ond anadliad byrr y claf.
Cyn hir, trodd Dafydd Alun ei lygaid ar y ddau ddieithr, a dywedodd,—
"Duw a'ch halodd chi'ch dou ma heno. Arhoswch hyd y diwedd. Ma ise cwmni ar Gwen fach." Yna edrychodd yn dyner ar Gwen,—
"Chei di mo'r gwaetha, merch i. Ma Duw wedi addo gofalu am danat ti. Thorr E mo'i air."
Bu distawrwydd drachefn am bum munud hir, ddwys. Troediai'r claf ar hyd glyn cysgod angau ei hun, a'r rhai a'i gwyliai heb fedru dod ond i lan y dwr. Gan afael o hyd yn ei law, adroddodd y gweinidog yn ddistaw eiriau'r hen emyn,
Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau.
Yn swn y geiriau cysurlawn croesodd Dafydd Alun yn ddiogel i'r lan draw.
Daeth cyffro mawr yn lle'r tawelwch i'r ystafell fach. Llefodd Manw'n uchel, a llewygodd Gwen. Tra y ceisiai Anna Ifans yn anfedrus ei dadebru, cymerodd Owen Elis hi yn ei freichiau, a chariodd hi i lawr dros y grisiau i fan lle ceid mwy o awyr; gosododd hi ar wastad ei chefn ar y lawr, tafledd ddwfr oer ar ei hwyneb nes iddi agor ei llygaid a syllu arno. Yna, pan ddaeth cymdogion o un i un at y tŷ, wedi clywed y newydd drwy ryw fodd, aeth y gweinidog oddiyno a'i gamre'n gloff iawn a'i galon drymed ag eiddo Gwen.
Y noson honno ym Maesyryn, ni flinai Anna Ifans adrodd ac ail-adrodd yr hyn a welsai. Yr oedd mwy nag un mater heb fod yn eglur iddi. Sut oedd Dafydd Alun,—hen wr gyfrifasai hi erioed yn oer a stoicaidd a digrefydd, heb feddwl fawr am gapel nac eglwys, yn marw felly ac adnodau ar ei wefus? A beth oedd y dirgelwch rhwng Gwen a'r Bugail? Mor awdurdodol a digywilydd y cymerasai hi'n ei freichiau! Efallai nad oedd hynny'n beth newydd iddo! Dyna'r gwaethaf o gael dyn ifanc yn weinidog. Ac yr oedd yr hen Ddafydd Alun wedi cystal a gofyn iddo ofalu am dani.
Aethai Ann i lawr ar unwaith i Isaber at Gwen.
Gwrandawai'r lleill yn awchus ar yr hanes cyffrous. Fflachiai llygaid Leisa'n beryglus, ac yfai John a Fred eu cawl llaeth yn egniol pan ddywedai Anna Ifans na synnai hi ddim pe clywid fod Gwen a'r gweinidog wedi priodi cyn i'r hen wr oeri'n ei fedd.
XXII.
Ai nid yw'r adar fel yn cydymdeimlo?
Nid ynt fel arfer ar y berth yn pyncio;
Mae anian fel yn gwau ei galar emyn,
A'i adsain brudd yn crwydro hyd y dyffryn.
—PENNAR.
DAETH tyrfa fawr ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i Dafydd Alun. Heblaw trigolion Cwmgwynli, daeth ereill o bell, rhai a barchai'r hen wr fel un o ddisgynyddion hen deulu urddasol a fuasai unwaith yn cymeryd rhan amlwg yn hanes eu sir a'u gwlad. Daeth hefyd rai hynafgwyr cyfrifol a fuasai'n cydysgolia ag ef yn y blynyddau pell pan oedd ysgolia'n beth dieithr a phrin. Nid fel dyn dinod yn byw mewn bwthyn diarffordd y claddwyd Dafydd Alun, ond megis gwr mawr yn Israel.
Yn y wlad, mae dydd claddedigaeth yn un o'r cyfleusterau anaml geir i gymdeithasu ac i weled hen wynebau. Os bydd y ffordd o'r tŷ i'r capel yn hir, ceir amser hyfryd i drin holl faterion y wlad a'r ardal.
Ar eu taith araf, ai'r cynhebrwng heibio Pencnwcbach,— hen gartref Tomas Bŵen, Y Mwyndir, a bu'r lle a'i hanes yn destyn ymddiddan rhwng bron pob dau o'r dyr a ddu. Sylwyd fod llenni dros ei ffenestri, a bod ei ddrysau yng nghaead. Oddiar Wyl Fihangel buasai'r tŷ'n wag. Cawsai'r tenant rybudd i ymadael gan y bwriadai Tomos Bŵen a'i wraig a'i ferch ddychwelyd iddo i fyw rywbryd cyn y Nadolig, er mwyn rhoi'r Mwyndir i fyny i'w mab ar ei briodas a merch Maesyryn. Cofiai llawer am yr hen Sion Bŵen a'i wraig. Mor ffodus y buasai Tomos Bwen i'r hen Sion farw'n ddiewyllys! Synai pawb ar y pryd iddo fod mor garedig i'w nai. Gwyddid nad oedd ganddo berthynas arall, ac ni fuasai ganddo erioed olwg fawr ar ei nai. Soniai am dano'n ddigon mynych fel hen gigfran yn gwylio am gyfle i ddisgyn ar ei ysglyfaeth. Od na fuasai wedi trefnu'n wahanol, ond hen greadur digon od oedd fel Tomos Bŵen ei hun, ac y mae rhyw deimlad o barch gan bob dyn tuag at ei dylwyth. Rhyw radd o'r teimlad hwnnw'n ddiau a barasai i Sion beidio a rhoi ei arian i neb arall, a'i gasineb o'i nai a barasai iddo beidio gwneud ewyllys bendant yn ei ffafr ef. Trueni iddynt golli eu hunig ferch! Pa le'r oedd y forwyn honno fuasai'n eu gwasanaeth mor hir, ac a losgasai ei hwyneb yn y tân? Cofiodd rhywun glywed farw ohoni hi a'i gwr yn agos iawn at ei gilydd ychydig flynyddau'n ol, a chofiodd rhywun arall mai un o'r ardal honno oedd gweinidog ieuanc Y Bryn, ac o ryw gwrr o'r dyrfa, treiglodd y ffaith hynod mai mab y Gatrin honno oedd efe. I rai, parodd hynny syndod anghyffredin. Sut na fuasent wedi meddwl am y cysylltiad yng nghynt? I rai hefyd, nid oedd y newydd yn gwbl hyfryd. Carasent achyddiaeth fwy urddasol i'w Bugail. Ond i'r rhan fwyaf, enw pell o dir angof oedd enw Catrin Lewis.
Y cysylltiad hwn, yn ddiau, esboniai ddechreuad y gyfathrach rhwng y Bugail a theulu presennol Y Mwyndir. Os oedd yr hyn a ddywedid yn wir, tebig y byddai ef a merch y Mwyndir cyn hir yn wr a gwraig. Gallai'r ferch fod yn lodes digon neis, ond hen ddyn gwael oedd yr hen Domos, er crefydded ei osgo ac er hyotled ei weddiau. Gwir na feiddiai neb estyn bys ato, oherwydd nid pechodau cyhoeddus oedd yr eiddo ef, ac os eid i gosbi hunanoldeb a rhagrith, dy'st'rio! pa le y dechreuid, a pha le y gorffennid? Yr oedd yn gall iawn beth bynnag i roi'r Mwyndir i fyny i'w fab. Tebig mai aros iddynt setlo i lawr ym Mhencnwcbach oedd y ferch cyn eu gadael. Tua'r Gwanwyn felly, mae'n debig, y byddai'r briodas. Pa sail oedd i'r siarad? O. rhaid fod rhyw sail cyn buasai'r son wedi dechreu. Onid oeddid wedi gweld cludo cistiaid o dato'r Hydref o'r Mwyndir i dŷ'r gweinidog? Ac oni welsai rhywun rywbryd y ddeuddyn ieuanc yn cerdded fraichymraich? Felly y ffurfid y damcaniaethau ac y treiglid y stori yn swn cerddediad yr orymdaith a murmur lleddf olwynion yr hêrs.
Yr oedd meddyliau Tomos Bŵen ei hun hefyd yn brysur iawn wrth fynd heibio'i hen gartref. Y noson cynt clywsai yn ddamweiniol newydd a wnaethai i'w galon lawenychu'n ddirfawr. Yr oedd yr hen Rachel, yr hen wraig oedd a cholled arni, ar ei gwely angau. Dywedasai'r doctor nad oedd ganddi ond ychydig oriau i fyw. Mwy na thebig y clywid rhybuddio ei hangladd heddyw. Yr oedd pethau bellach yn ddiau yn cyfeirio fel y dylent. Unwaith y caeai hi ei llygaid gallai ef glecian ei fysedd ar bawb. Ni ddylasai fod wedi ameu'r hen wraig, ond paham y daethai'n ol i'r ardal i beri cymaint o anesmwythyd iddo? Wel, rhaid mentro rhyw gymaint yn y byd hwn. "Never venture, never win," meddai'r Sais. Yr oedd yn dda ganddo erbyn hyn ei fod wedi mentro. Daethai'r fenter a llu o fendithion iddo eisoes. Hyd yn oed pe dywedai'r hen Rachel rywbeth yn awr, yr oedd y peth mor bell yn ol, a phwy roisai ronyn o sylw i eiriau gwyllt hen wraig a cholled arni. Y tato a'r ymenyn a'r cywion roisid i'r Bugail a fuasai'r unig golled ynglŷn â'r peth wedi'r cyfan. Bu bron a chwerthin yn uchel yno yn yr angladd wrth gofio am ei gallineb yn trefnu go-gyfer a'r gwaethaf, a ffolineb ei ofnau disail. A dacw Owen Elis yn camu'n gloff o'i flaen heb freuddwydio gymaint o'i dynged oedd yn ei law ef—Bwen, Y Mwyndir! "Machgen mowr i," ebe ef yn ei feddwl wrth y Bugail, "wit ti wedi cal dy giw ola o'r Mwyndir, a gna di'n fowr o'r llwith tato gest ti stwetha, weli di'm în arall!" Lle digrif a diddorol oedd y byd wedi'r cyfan. Teimlai Tomos Bŵen hynny i'r eithaf wrth drwm gerdded gyda'r dorf.
Wedi'r gwasanaeth yn y capel ac yn y fynwent, cerddai Gwen a'i mam a Manw yn alarus oddiwrth y bedd. Daeth y gweinidog tuag atynt yn hanner ofnus i ysgwyd llaw â hwy. Tynerodd ei lygaid a chyffrôdd ei wedd wrth edrych ar Gwen yn ei du a'i dagrau. Paham na chai ei chymeryd yn ei freichiau a'i gwasgu at ei galon fel y gwnaethai'r noson honno yn y tŷ? Waeth beth geisiai feddwl am hynny, yr oedd ei deimlad tuag ati bron mynd yn drech nag ef, a gorfu iddo droi ymaith yn frysiog, nes gwneud i galon Gwen grynu, ac i'w mam synnu mor fyrr yr oedd yn ei ymddiddan ac mor anfedrus oedd fel gweinidog yn ei ymdrechion i gysuro pobl.
"Annar minid, Syr, os gwelwch chi'n ddê," ebe rhyw lais tu ol i Owen Elis pan gerddai'n frysiog tua'i gartref. Arhosodd y gweinidog, a gwelodd wr bychan dieithr yn ei ymyl, yn dal ei het yn ei law, ac yn sychu'r chwys oddiar ei dalcen.
"O'n i weti meddwl e'ch dala chi cin i chi ddod o'r englodd," ehe ef. "Ma ngwraig i bron marw. Ma'r doctor yn gwêd taw ffili marw ma'i o achos rwpath. Mi ofynnws y bora ma am gal e'ch gweld chi, Syr. Din a wir pam gofynnws i am denoch chi. Ma rwi gollad bach arni slwar didd, ond odd i'n dishgwl yn i senses y bora ma, a odd raid i fi ddod i whilo am denoch chi. Ddewch chi, Syr?"
Dylifodd y dyn bychan ei eiriau allan bron heb anadl. Wedi cael ychydig fanylion pellach, trodd y gweinidog yn ol gydag ef yn ddibetrus. Yr oedd ganddynt lawn tair milltir a'u blaen cyn cyrraedd ardal Glynygroes, ac er iddynt gyfarfod ag amryw o bobl yr angladd wrth fynd yn ol heibio'r capel, nid amser oedd hwnnw i aros ac esbonio.
XXIII.
Hallt yw'r môr i'r sawl a'i profo.
Cas yw'r byd i'r neb a'i caro.
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD.
ARWEINIODD Jincins y gweinidog i fwthyn bach tô gwellt ar gwrr pellaf pentref Glynygroes. I ddychymyg byw Owen Elis yr oedd gwedd allanol y bwthyn fel wyneb cyfaill yn sefyll i fyny i'w rybuddio o ryw brudd-der llethol tu mewn. Tremiai'r ddwy ffenestr fechan arno fel dau lygad syn, a phlygu eu pennau'n drist wnai'r ychydig flodau gerllaw. Dwy ystafell oedd i'r bwthyn, ac yr oeddent yn lân iawn ac wedi eu dodrefnu'n ddigon gweddus heb ol tlodi ar ddim. Ar wely uchel yn y penucha' gorweddai hen wraig, ei hwyneb rhychiog bron mor welw a'r gobennydd—ei llygaid yn wyllt, a'i dwylaw hen yn symud yn aflonydd ar y dillad glân. Safai un o wragedd y pentref gerllaw i weini arni.
"Rachal, dyma'r gweinidog wedi dod, Rachel fach," ebe'r dyn bach.
Tynnodd yr hen wraig ochenaid ddofn, llonyddodd ei dwylaw a'i llygaid, edrychodd yn syn ar y gweinidog, gafael- odd yn dyn yn y llaw estynnodd iddi, a dywedodd yn araf a bloesg,—
"Owen Elis, mab Catrin, mab Y Mwyndir, gŵr Y Mwyndir, perchen Y Mwyndir!"
Trodd Jincins ei gefn at y gwely, a sibrydodd wrth y gweinidog ryw ymddiheurad am eiriau ei wraig, oherwydd nid dieithr i'w glustiau yntau oedd y si am y gweinidog a merch Y Mwyndir.
"Fiws hi'n forwn yn Y Mwyndir, 'lwch chi, yno ma'i meddwl i'n ddiweddar. Do's dim iws dishgwl ar beth mai'n wêd, ma'r meddwl bech yn crwidro, oti, oti, ma'r meddwl bech yn crwidro."
"John," ebe llais clir o'r gwely, "cer mas o'r ti nawr, cer di a Mali, cerwch i rywle a chaewch y drws."
Nid oedd modd anufuddhau. Gorfu i'r hen wraig gael ei boddloni taw nid yn y gegin yr oeddent. Ymddangosai erbyn hyn yn hollol effro a chlir ei meddwl.
"Odich chi'n gweld y basged bach co si'n hongian dan lofft "ebe hi wrth y gweinidog. "Dewch ag ei fi. Dyna! Isteddwch ar y gater na, nawr, Syr, a grondwch ar gyffes Rachel Jincins."
Yr oedd y fasged fechan yn llawn o bellennau edafedd. Chwiliodd yr hen wraig ynddo, a chafodd un fawr lwyd, ac ychydig edau goch wedi ei ddirwyn am dani fel ar ddamwain. Daliodd y bellen yn ei llaw, syllodd arni'n fud, a llanwodd ei llygaid o ddagrau. Yna'n sydyn, gydag ochenaid dywedodd,-
"Do's gida fi ddim amser i golli," a thynnodd ymaith yr edau goch gan ddechreu dirwyn yr edafedd am ei bysedd. "Dirwinwch chi," ebe hi wrth y gweinidog, "rw i wedi blino."
Ufuddhaodd y pregethwr syn, gan deimlo mai gwell peidio croesi ewyllys yr hen wraig, er mor ffol a dibwrpas ei gofynion. Teimlai'n ddigon anghysurus, a dymunai'n ei galon am i rywbeth beri i John Jincins ddod i mewn. Ond, er prudded yr amgylchiadau, ni fedrai lai na gweld ochr ddigrif y peth. Daethai yno, fel y tybiai, i weini cysuri un ar fin marw, ac wele ef, yn holl bwysigrwydd ei ddillad duon goreu, yn anfedrus ddirwyn edafedd; a'r hen wraig ar ei gwely yn syllu amo'n ddibaid a'i llygaid gwyllt, gan furmur yn awr ac eilwaith eiriau rhyfedd digyswllt.
"Ma dwst ar yr hen bellen, dwst igen mline. Tinnwch y dafe'n dinnach, drichwch mor llac i chi'n dirwn! Pwi feddylie am y bellen—yn y basged fan na gida'r lleill? Megis doe dirwines i ddi,—megis doe,—igen mline. A ma'n dda gen i nawr i fi neid. Mi beches, do, ond own i'm yn ddrwg i gid, mi ddifares ddigon. Fies i'm yn hapis, naddo, fies i'm yn hapis! A mi ro i bethe'n reit. Rhingto fe a'i fisnes! Does da fi ond bwrw'n hinan ar drigaredd Duw. Well gen i fwrw'n hinan ar drigaredd Duw nag ar drigaredd Twm Bwen, Y Mwyndir."
Cyn hir, pan oedd Owen Elis wedi hen flino ar ei waith. a'r bellen newydd oedd yn ei law bron cymaint a'i ddeu-ddwrn, ac mor feddal a gobennydd Rachel, daeth diwedd y dirwyn i'r golwg yn ymddangosiad darn o bapyr plygedig rhwng gweddill yr edafedd. Cydiodd Rachel yn y papyr yn wyllt, a daliodd ei gafael ynddo nes ei gael yn rhydd o'r edafedd.
"Rhowch y dafe yn y fasged nol dan lofft nawr," ebe hi. Agorodd y papyr yn ofalus, a'i dwylaw hen yn crynu. Edrychodd yn syn ar yr ysgrifen oedd wedi melynu gan henaint. Estynnodd ef i Owen Elis.
"Darllenwch,' 'ebe hi.
Crynai llaw a llais y gweinidog tra'n darllen y geiriau rhyfedd,—
Dyma fy Ewyllys olaf i-John Bowen, Y Mwyndir, Swydd X
. Amaethwr.O'r arian geir ar fy enw yn Y Banc, Abergwynli, gwnaer y taliadau a ganlyn,-
1. Deg punt i Tomos Bowen, Pencnwcbach, Swydd X,
i dalu am unrhyw dreuliau ynglyn a'm claddu.2. Deg punt i Rachel Parri, fy morwyn bresennol, os bydd yn fy ngwasanaeth pan fyddwyf farw. Dymunaf fod i'r gweddill o'm harian geir ar fy enw yn Y Banc, Abergwynli, ynghyd a'm holl feddiannau, sef fferm Y Mwyndir, a'r holl stoc, a'r crop; holl ddodrefn y tŷ, a phopeth o'm heiddo ym mhobman, ag eithrio'r ddau daliad uchod 1. a 2.,—i fod yn eiddo i Catrin Elis, yn awr o Foelygaer, Swydd X , am iddi unwaith beryglu ei bywyd er ceisio achub fy merch.
Arwyddwyd gennyf fi, JOHN BOWEN.
Dyddiad: Tachwedd 3ydd, 18
Arwyddwyd gennym ni, ym mhresenoldeb
John Bowen, ac ym mhresenoldeb ein gilydd,
SIMON PHYLIP.
ESEC LEWIS.
Cododd Owen Elis o'r gadair yn sydyn. Cerddodd yn wyllt-gloff ar draws ac ar hyd yr ystafell fechan gyfyng, a'r papyr melynwawr yn ei law. Ugain mlynedd yn ol! Y Mwyndir a'r meddiannau yn eiddo i'w fam er yr amser hwnnw, pan nad oedd ef ond pedair oed! A'i rieni druain wedi gorfod brwydro cymaint ag amgylchiadau bywyd ac wedi mynd i'w bedd, feallai yn anamserol, pan allent fod wedi byw'n gysurus uwchlaw pryderon!
Daeth gwaedd o'r gwely i dorri ar lif ei feddyliau,
"O! arhoswch, Syr! Dewch nol fan hin. Isteddwch i fi gal gweid yr hanes—i fi gal ciffesi. Does gen i'm amser i golli! Fidda i wedi mind toc o flân y Marnwr. Codwch y pilw dipin, ie, fel na, a grondwch yn ofalus. Alla i'm siarad yn uchel."
"Igen mline! ond wi'n cofio o hid. Wedd yr hen Sion ar farw, wedd e wedi bod fel marw bron trw'r di. We Tomos ac Ester ar lan yn y rwm da ge yn i ddisgwl e i dinni'r anal ola. Ddoith Tomos lawr ata i i'r gegin, lle'r own i'n dirwn dafe. Beiti naw o'r gloch y nos wedd i."
"Rachel," minte fe, "dyma sofren felen. Dyma hi i ti os gwedi di wrthw i ble ma gwillis yr hen wr."
Atebes i'm gaer am spel. "Wit ti am y bint?" minte fe lweth.
Chidig own i'n ennill. Twm Bwen we inig berthinas biw'r hen wr "Wedd pint yn bint i fi, Syr. Pwi ddrwg fidde mewn gweid? Mi wedes. Fe ath inte a channwll yn i law i ddrichid am deni.
Ddoith nol ymhen spel heb y gannwll. "Dere ma, Rachel," minte fe. Fe gaeodd ddrws y penisha arnom ni. "O Syr, shwt gweda i? Estinnwch y glas a'r dwr na i fi. Fe ddarllenodd y willis i fi. Dim iddo fe! Pe na bai willis, iddo fe bidde'r cwbwl.
"Ma'r ddoi witnest wedi mind," minte fe.
"Ma Esec yn dod gatre'n i goffin fori, a ma Simon wedi marw es blwiddin. Ti'n inig si'n gwbod bod gwillis i gal." Ginhigodd arian mowr i fi am losgi'r willis a dala nhafod. Own i'n crini! We nhw'n arian mowr-can pint!
"Llosg i nawr," minte fe.
"Os gna i, rhaid i chi roi'ch addewid ar bapir," minte fi. Fe nath hinni. We'r papir gen i'n în llaw, a'r willis yn y llaw arall.
Wn i ddim beth barodd iddo find i'r lofft ar y finid ni at yr hen wr. Fe halodd rhwbeth e heb iddo stando. Ar yr în finid fe ddoith siniad newi ata inne o rwle. Mi bliges bapir y willis a mi ddirwines ddafe'n din am dano, a mi nês bellen fowr 'n inion. Wedd llithir gen i yn y mhoced, mi roies hwnnw'n y tân. Wedd e'n llosgi'n neis pan doith Bwen lawr, a'r bellen yn ddiniwed i golwg fan ni ar stol.
"Dina'ch willis chi," minte fi, a mi wasgeres y papir llosgedig a'r pocer.
Fe nghredoddi ar y ngair. Mi ges y canpint, gas inte'r Mwyndir. Nawr, dyma'r willis i chi. Minnwch i phrofi ddi. Cerwch at Morus y Shop. Ma da ge lithiron mi wn o wrth yr hen Sion a'r ddoi witnest, allwch brofi'r llaw- 'sgrife owrth rheini. Cerwch at gifreithwr. Chi bia'r Mwyndir. Fies i'm yn hapis, ond dyna fi wedi rhoi pethe'n reit, a nawr,—
Gyda chri wylofus, syrthiodd yr hen wraig yn ol ar y gobennydd. Pan ddaeth John Jincins ar flaenau ei draed at y ffenestr, gwelodd y gweinidog ar ei liniau wrth y gwely a'r hen wraig a'i llygaid yng nghau yn anadlu'n drwm. Ni chaed gair ganddi drachefn. Cyn hanner nos bu farw.
XXIV.
Ac anniddig iawn oeddwn,—gwyddwn ing
Gweddi nos ar wndwn;
Enaid yn byw o dan bwn a dolur,
Arial o gysur awel a geisiwn.
—T. H. PARRY WILLIAMS.
FEL un mewn breuddwyd y cerddodd Bugail y Bryn o bentref Glynygroes tua'i gartref. Gan mor llawn o'i feddyliau ei hun yr oedd, ni welodd Bwen, Y Mwyndir, a. golwg ddychrynedig yn ei lygaid yn troi i efail Simon y gof yng ngwaelod y pentref.
Nid hon oedd yr efail agosaf i'r Mwyndir, ac anaml yr ai Tomos Bwen yno; ond wedi meddwl ychydig, llwyddodd i gael neges cyfaddas. Yr oedd arno awydd bod rywle ym mhentref Glynygroes y prynhawn hwnnw, fel ag i glywed yn gynnar y newydd a ddisgwyliai, a gwyddai pawb nad oedd gof Cwmgwynli yn agos cystal a gof Glynygroes am wneud swch a chwlltwr.
Wedi cyfarch y gof a chael rhywbeth cyfaddas i eistedd arno yn aflerwch yr efail, gofynnodd mor ddidaro ag y medrai,—
"Ble mai e'r boi cloff wedi bod heddi, te?"
Rhoddodd y gof drem tua'r heol a gwelodd Owen Elis ar fynd o'r golwg yn y tro; cydiodd mewn darn o haearn, dododd ef yn y tân, chwythodd yn egniol a'r fegin a phoerodd yn chwim i'r lludw poeth cyn ateb.
"Nawr mai e'n mind nol! Ma hen wraig ar lan fan na'n wael iawn,—Rachel, gwraig John Shincin. Beth, i chi'n i nhabod i, morwm y Mwyndir gint. Wedd i'n galw'n rhifedd am weld Elis. Ath lan da Shincin o'r angla ginne, a nawr mai e'n mind nol. Mai e na es awr a hanner dda." Sychodd Tomos Bwen y chwys oddiar ei dalcen, gan ddywedyd wrth y gof ei bod yn glos iawn i gerdded er fod y gaeaf yn ymyl.
"Ble bioch chi, te? Nid nawr i chi'n dod o'r angla?" gofynnai Miss Elis o'r drws, tra'n gwylio'r gweinidog yn dynesu at y tŷ, a mwy nag arfer o nodau cur a blinder ar ei wedd.
Fe halwd yn hol i i Glynygroes at hen wraig oedd ar fin marw."
"Glynygroes! Owen bach, pam na ddoithech chi nol, gal tipyn o ginno yng nghinta? Rhaid i chi feddwl rhwbeth am e'ch hinan."
"Gymera i gwpaned o dê nawr, os yw e'n barod," ebe yntau'n flin, gan eistedd ar ei gadair, a syllu'n drist i'r tân cwlwm siriol.
Yn fuan wedi tê, dywedodd wrth ei fodryb ei fod yn mynd allan drachefn, ac os byddai'n hwyr arno'n dychwelyd, am iddi beidio aros ar lawr i'w ddisgwyl.
"Owen bach! A chithe wedi blino cimint," protestiai Miss Elis.
"Rw i wedi dadflino nawr. Ma raid i fi fynd. Cerwch chi i'r gwely, modryb," ebe ef, a chyda'r eglurhad hanerog hwnnw, aeth Owen Elis i geisio'i het a'i got fawr.
Yr oedd Miss Elis yn hen gyfarwydd â byw ar hanner- esboniadau felly ar ran ei nai. Buasai'n well ganddi gadw tŷ i rywun a fedrai ddeall yn drwyadl,—rhywun mwy tebig i bob dyn arall. Ond er yn byw dan yr un to, yr oedd Owen Elis mor bell oddiwrthi a phe bai yn byw ar gyfandir arall, ac ers llawer dydd, rhoisai Miss Elis i fyny bob gobaith am fynd yn agos ato. Ocheneidiodd a throdd at ei gwaith.
Ocheneidiodd Owen Elis hefyd. Oni hoffai yntau ar lawer adeg, Duw a wyr, fod yn debycach i bob dyn arall; medru ymgomio'n rhydd ac agored am ei lawenydd a'i wae, yn lle bod fel meudwy ar ynys, mor ofnadwy bell oddiwrth bawb a'r eigion yn berwi o'i gylch! Eithr heb fedru dewis, oni raid i bob dyn ddygymod a'i bersonoliaeth ei hun er gwell neu er gwaeth am byth?
Wedi datguddiadau'r dydd, teimlai'r dyn ieuanc awydd anorchfygol i fynd hyd at Y Mwyndir; eistedd ar ryw gamfa heb fod yn rhy agos i'r tŷ, a'r nos garedig yn ei gysgodi, ac yno wrtho'i hun, ceisio meddwl yn glir am bethau.
Cerddodd yn gyflym drwy'r tywyllwch. Er nad oedd ond prin wyth o'r gloch nid oedd nemawr o bobl ar hyd y ffyrdd. Aeth heibio'r fynwent, lle'r oeddis newydd osod Dafydd Alun i orwedd; croesodd gloddiau a daeth allan o fewn lled cae i'r Mwyndir, ar lethr y tu ol i'r tŷ. Gorweddai twrr o loi'r Gwanwyn yn un cornel i'r cae. Camodd yn ysgafn rhag eu dychrynu. Ger y cornel arall, safai hen glwyd segur ar ymyl y clawdd. Eisteddodd ar honno.
Arhosodd yn llonydd er mwyn i dangnefedd y nos dreiddio i'w enaid. Cyn hir cliriodd ei feddwl.
Eiddo ef yr erwau bras o'i gylch, eiddo ef y ffermdai clyd yng nghysgod y coed, eiddo ef y coed eu hunain! Caeodd ei law'n dyn am y papyr melynwawr yn ei boced. A ai yn awr i lawr hyd y tŷ ac i mewn drwy'r drws i ddal y gorffennol o flaen llygaid Tomos Bwen? Pa ryw wyneb fedrai hwnnw ddangos wedi'r dadleniad? Ond yr oedd yn rhy gynnar eto.
A dyma'r lle bu ei fam yn llafurio'n galed am flynyddau maith. Cododd a thremiodd yn wyliadwrus drwy'r bwlch er mwyn cael llawn olwg ar y clôs, a thai'r anifeiliaid. Dychmygai weld ei fam yn awr yn symud hyd y fan,—ei chefn wedi crymu dan bwys llafur oes, a'i llygaid mor llawn o fwyneidd-dra dirwgnach. Gweithio, gweithio fu ei rhan. hi hyd y diwedd, gweithio er ei fwyn ef, ac O! gweithio pan ddylasai ei byd fod yn gysurus a'i dyfodol yn ddibryder. Eisteddodd Owen Elis drachefn ar yr hen glwyd, pwysodd ei ben ar ei ddwylaw, cynhyrfwyd ei enaid.
Daeth i'w gof ymddygiad Tomos Bwen tuag ato drwy gydol y flwyddyn. Cofiodd am y modd dibris y derbyniasai ei gyfeiriad ef at aberth ei fam. Cofiodd mor reddfol anghysurus y teimlasai ef yn wyneb caredigrwydd nodedig Y Mwyndir yn ddiweddar. A beth oedd y rheswm am y caredigrwydd hwn? Hir y bu Owen Elis cyn canfod y cysylltiad, oherwydd anghyfarwydd a diddarfelydd oedd efe yng nghynlluniau cyfrwys plant y byd. O'r diwedd, tywynnodd goleuni arno. Deallodd genhadaeth yr ymenyn, y cywion ieir, a'r llwythi tato, ac O! syndod, gwelodd ystyr danfoniad Marged Elen mor aml. Ceisio unioni'r cam felly! Er mwyn osgoi dial, ei wneud yn un o'r teulu! Ceisio newid cwrs ei fywyd ef i wasanaethu eu dybenion isel eu hunain!
Mor dda ganddo na syrthiasai i'r rhwyd a osodasid iddo. Ni feddyliasai erioed am Marged Elen ond fel plentyn. Yr oedd mor bell o'i feddwl ef a phe bai yn naw oed yn lle yn ddeunaw. Marged Elen! Nid oedd un ferch yn bod' iddo ef ond Gwen. Ai heddyw yr ysgydwasai law a Gwen, yno yn ei dillad duon a'r dagrau ar ei grudd? Beth pe gwybu- asai Gwen am ei deimlad cynnes tuag ati, am y frwydr bar- haus yn ei fron! Eithr ni roed iddo ef y mwyniant o gael dywedyd ei gariad wrthi a gwylio ddeffro o Serch yn ei chalon hithau. Anhebig i ddynion ereill oedd efe yn hyn eto, a pha bryd y sylweddolai hynny ac yr ymlonyddai ei enaid? Pa bryd y medrai roi ei hun yn gyfangwbl i'r llawenydd uwch, yn lle siglo o'r naill i'r llall a cholli'r ddau?
Beth oedd da'r byd hwn iddo ef? Pa les iddo ef fyddai meddiant o'r Mwyndir a'r meddiannau? Yr oedd ganddo'n awr ddigon at ei raid. Nid oedd ganddo neb i ddod ar ei ol. Ni fyddai yn amddifadu neb o'r hyn oedd eiddo iddynt. A oedd yn werth iddo ef,—a fuasai'n deilwng o'i urddas i ymgecru ag ereill am elw bydol, i ymgiprys am bethau nad oedd ar y goreu ond pethau dros amser? Yr oedd ganddo hawl iddynt, oedd. Ond a oedd yn werth iddo ef drwy chwys a lludded fynnu dangos ei hawl at beth oedd wedi'r cyfan mor gymharol ddibwys? Gwnaed cam a'i dad a'i fam. Do, ond dianghasent hwy, a gwell goddef cam na'i wneuthur. Gwnaed cam ag yntau. A gai hynny derfysgu ei enaid yn awr?
Tybed nad bwriad Duw oedd cadw'r pethau hyn oddiwrtho? Po leiaf yr afael o'r ddaear, rhwyddach ac uwch y gellid esgyn. Onid rhan o driniaeth Duw ar ei enaid oedd tlodi a phrudd-der ei febyd? Ie, yn ddiameu. Anrhydedd fawr cael dibrisio popeth daear er Ei fwyn Ef!
Beth yw holl dda daear at ryddid enaid?
Gallai Tomos Bwen a'i deulu gysgu'n dawel. Nid ai ef heno nag un noson arall i aflonyddu arnynt, a thynnu dan seiliau eu cysuron. Pell oedd o genfigennu wrth Tomos Bwen. Yn hytrach, tosturiai wrtho am iddo werthu heddwch cydwybod mor rhad. Tosturiai hefyd wrth yr hen wraig gariasai bwysau'r gyfrinach erch am gyhyd o amser nes rhychu ei gwedd ac amharu ei synnwyr.
Cododd, ac aeth yn araf at y bwlch arweiniai o'r cae i'r lôn. Clywodd swn cerdded a siarad. Adnabu lais Ann, Maesyryn. Ar ei ffordd adref o'r Mwyndir yr oedd yn ddiau, a Josi oedd ei chwmni. Yr oedd dydd eu priodas wedi ei benodi. Arhosodd y gweinidog lle yr oedd nes iddynt fynd heibio. Daeth llais tawel Josi tuag ato,-
Wit ti'n meddwl biddi di'n hapis yn Y Mwyndir, Ann?" "Wrth gwrs, Jo. Fiddi di a finne'r ddoi hapisa fio biw ariod! Do's dim lle fel Y Mwyndir yn y byd..
Rwi'n hoffi'r nith, rwi'n hoffi'r nith, Ac, O! rwi'n hoffi'r derin!"
ac yna swn chwerthin llawen.
Cyn mynd i'w wely'r noson honno, tynnodd Owen Elis y papyr melynwawr, rhychiog, o'i boced; edrychodd arno'n syn am funud gyfan, yna daliodd ef yn fflam y gannwyll, a gwyliodd y llawysgrif grynedig, anunion, air ar ol gair, oll yn llosgi'n ulw.
XXV.
"Un ffordd iawn, gyfiawn a gwedd,
Un arall drwy anwiredd."
PAN ddeffrodd Owen Elis drannoeth yr ymdrech, teimlai'n ddyn newydd. Yr oedd ei benderfyniad wedi ei wneud, ac nid oedd bellach fodd i'w newid. Daeth llwybr bywyd drachefn yn glir. Bu'r dydd hwnnw yn un o'i ddyddiau goreu yn ei fyfyrgell; bu myfyrio a chyfansoddi mor ddi-drafferth iddo ag anadlu.
Awyddai am fynd i'r Mwyndir drachefn i weld yr hen le a phrofi iddo'i hun nad edifar ganddo ei benderfyniad ynglŷn ag ef. Awyddai edrych i wyneb Tomos Bwen yn y goleuni newydd gawsai ar gymeriad hwnnw. Hwyrach mai eisieu cyfle oedd arno yntau i gyffesu. Ai tybed mai grisiau at y gyffes gyflawn oedd rhoddion y dyddiau diweddaf? Awyddai hefyd fynd tua Maesyryn i weld hapusrwydd yn tywynnu o lygaid diwenwyn Ann, yn y rhagolwg ar ei bywyd fel gwraig Y Mwyndir, ac yn ei dedwyddwch hi cai yntau'r dedwydd- wch o feddwl y gallasai ef fod wedi cymylu ei dyfodol, ac iddo gael gras i beidio. O dan, ac yn gymysg a phob awydd arall, awyddai am fynd i Isaber, a chael eto edrych yn llygaid Gwen.
Yn hwyr y dydd hwnnw, daeth Miss Elis adref o siop y pentref a'r newydd rhyfedd fod Tomos Bwen, Y Mwyndir, ar goll. Ni welsai neb ef wedi amser noswylio'r noson cynt. Pan ddeffrodd Ester Bwen yn y bore, gwelodd nad oedd ei gwr yn y gwely, ac er chwilio a chwilio, ni chawsid dim o'i hanes yn ystod y dydd. Adroddodd Miss Elis farn hwn ac arall fel y'u clywsai yn y siop. Hen ddyn od oedd Tomos Bwen erioed.
Er fod pob ymddangosiad allanol yn ddifai, digon anghysurus oedd bywyd yn Y Mwyndir. Yr oedd ofn croesi'r hen ddyn arnynt i gyd. Yn ddiweddar, hefyd, bu- asai'n fwy cecrus nag arfer. Bernid fod ei fwriad i ymadael â'r Mwyndir wedi pwyso arno nes amharu ei synnwyr.
Ond os teimlai felly, pa reidrwydd oedd arno i roi'r Mwyndir i'w fab? Yr oedd yn drueni gweld Ester Bwen, meddid. Ofni wnaent ei fod wedi gwneud niwed iddo'i hunan rywle. Ond pa le y gallasai fod wedi mynd?
Yn gynnar drannoeth, aeth y gweinidog i geisio gweini cysur i'r teulu adfydus.
Eisteddai Ester Bwen wrth y tân cwlwm yn y gegin oreu, a shol ddu hir am ei gwarr. Edrychodd yn ofidus a hanner ofnus ar y gweinidog, a phlygodd ei phen drachefn heb siarad gair. Daeth Marged Elen i mewn. Prudd oedd hithau, ond gwridodd yn brydferth a gwenodd yn fwyn iawn wrth ysgwyd llaw. Mor fuan y daethai'r gweinidog i'w gweled! Ni chlywsai erioed iddo frysio felly at deuluoedd ereill yn eu gofid, a dyma 'fe yn eu tŷ hwy am unarddeg yn y bore!
Atebodd ei holiadau caredig a rhoddodd iddo holl hanes pethau er pan welsid eisiau ei thad. Ymhen ychydig, unodd Ester Bwen hefyd yn yr ymddiddan. Yr oedd ganddynt ryw gymaint o gysur erbyn hyn; gwelsent fod Tomos Bwen wedi cymeryd gydag ef ddeugain punt, pris nifer o fustych werthasai yn y ffair ddechreu'r wythnos. Nid oedd yr arian yn eu lle arferol, ac yr oeddent yno'r noson cyn ei ymadawiad. Awgrymai hynny mai mynd i ffwrdd i rywle a wnaethai, ac nid gwneud diwedd arno'i hun. Ond i ble a phaham? Yr hyn wnai'r peth yn fwy chwithig fyth oedd y ffaith fod dydd priodas Josi ac Ann wedi ei benodi. Prin pythefnos oedd hyd hynny. Yr oeddent hwy eisoes wedi dechreu symud eu pethau i Bencnwcbach, ac yn awr, dyma hyn yn torri ar draws eu holl drefniadau. Yr oedd yn dda cael rhyw awgrym ei fod yn fyw, ond beth i wneud, a pha fodd i drefnu pethau, ni wyddai Ester Bwen yn ei byw.
Syllodd y gweinidog yn syn ar wyneb curiedig y wraig, tra y siaradai. Pa faint o hanes yr ewyllys a wyddai hi tybed? Os oedd yn gyfrannog yn y pechod, diau mai cael ei gorfodi i hynny gan natur gryfach ei gwr a wnaethai. Edrychai fel pe wedi ufuddhau ac ofni ar hyd ei hoes. Tosturiodd Owen Elis wrthi, a cheisiodd drwy ei eiriau a'i ymddygiad, wasgar ei hofnau a'i phryderon—os oedd yn ofni a phryderu—ynglŷn â'i gysylltiad ef a'r Mwyndir. Cynghorodd hwy i fod yn dawel ac i fynd ymlaen a'u trefniadau blaenorol ynglŷn â'r briodas a'r symud. Diau y caent ryw esboniad buan ar ymddygiad rhyfedd Tomos Bwen.
Daeth Josi, gan hanner rhedeg, i mewn i'r tŷ. Buasai ym Maesyryn yn cario'r newydd am y deugain punt i ysgafnhau calon Ann. Cyn cymeryd amser i gyfarch y gweinidog, dywedodd,
"Mam, mi welwd nhad ar stesion Abergwynli bore dwe yn disgwl y tren naw. Trafeilwr oedd yn gneid yn siop y Pentre bore heddi iddo'i weld e a'i liged i hinan. We crwt y siop ar y lôn fan na nawr, ar i ffordd 'lan i weid."
Wylodd Ester Bwen a Marged Elen. Ble gaflasai fod erbyn hyn? Beth fyddai'r trydydd newydd glywid am dano? Holwyd ac atebwyd, ac aed dros bethau drachefn gyda Josi.
"Wi'm yn diall beth gododd ar nhad. Allwch chi roi rhiw esboniad, Mr. Elis?" gofynnai Josi, gan edrych yn wyneb y gweinidog a'i lygad yn llawn pryder.
O'r braidd y medrodd Owen Elis beidio datguddio'r gyfrinach drist. Iddo ef, yr oedd pethau'n eglur ddigon. Yr euog a ffy heb ei erlid. Diau i Tomos Bwen glywed am ei ymweliad ef a'r hen wraig. Credodd fod amser y ddrycin wedi dod, a cheisiodd redeg i'r cysgod gan adael ei wraig a'i blant i wynebu'r gwaethaf. Yn lle cyffesu, llithro o un camwedd i gamwedd arall wnai'r dyn. Anghofiodd y gweinidog ei dosturi. Fflachiodd ei lygaid ar ei waethaf yn lle ateb cwestiwn Josi, dywedodd yn dyner,— "Mae'r cwbl yn ymddangos yn dywyll iawn. Does gyda chi ond ceisio bod yn amyneddgar. Synnwn i ddim na chaech chi air oddiwrtho cyn pen ychydig ddyddiau. Fe dry pethau'n well nag ydych chi'n ofni, rwy'n teimlo'n sicr." Dywedodd hefyd ei fod yn mynd heibio Maesyryn, ac y cariai'r newydd olaf i Ann, ac ail-adroddodd ei gynghorion ynghylch y briodas a'r symud.
Pan oedd yn ymadael, daeth Ester Bwen gydag ef at y drws, a dywedodd wrtho a'r dagrau'n ei llygaid,-
"Ma dda gen i'ch bod chi wedi dod lan i'n gweld ni yn ein gofid. Alla i'm gweid mor dda si gen i. I chi wedi rhoi pwer o gysir i fi. Diolch i chi, machgen i."
Yr oedd Leisa, Maesyryn, ar ei ffordd adref o'r siop,- yr oedd llawer o gerdded rhwng Maesyryn a'r siop y dyddiau hynny. Edrychodd yn ol o ben rhiw'r Bwlch i gael golwg ar y dyffryn ac hefyd i gael anadl, oherwydd yr oedd ei basged yn drwm. Yn nhro'r ffordd ar y gwaelod gwelodd rywun mewn dillad duon yn cerdded yn gloff. Rhoddodd ei meddwl cyflym ar waith. Dod i Maesyryn yr oedd yn ddiau, er nad o'r cyfeiriad arferol. Cymerai bum' munud iddo gyrraedd gwaelod y rhiw. Pam na fuasai hi wedi digwydd. bod bum munud yn hwyrach, ac felly gael cyd-gerdded ag ef? Cofiodd fod eisieu dweyd wrth Nel, Troedyrhiw, eu bod wedi corddi ym Maesyryn y bore hwnnw, ac am iddi ddod a'i hysten i gael llaeth enwyn. Brysiodd yn ol a'r fasged ar ei braich. Yr oedd arni ormod o frys i fynd i'r tŷ ar waethaf cymhellion Neli. Siaradodd ychydig eiriau a hi ger y drws. Yr oedd cymaint o waith ym Maesyryn y dyddiau hynny; yr oedd hi yn wir wedi blino arno, a hwyrach mai ofer fyddai'r helger i gyd eto os na cheid rhyw oleuni ar achos yr hen Domos Bwen. Yr oedd yn dda ganddi mai Ann ac nid hi oedd yn mynd i mewn i'r fath deulu.
Pan ddywedodd ei chlust effro wrthi fod yr amser cyfaddas wedi dod, cododd ei basged, chwarddodd yn llon pan ddywedodd Nel y clywid am briodas arall ym Maesyryn eto cyn hir, ac, a'r wên ar ei hwyneb aeth allan i'r lôn yr un funud ag y cyrhaeddodd y gweinidog yno.
"Helo, Mr. Elis!" ebe hi, gan agor ei llygaid mewn syndod, pwi feddylie'ch gweld chi ffor hin mor fore?"
Cafodd Owen Elis eto'r fraint o gario basged.
Helynt y Mwyndir, wrth gwrs, oedd pwnc cyntaf eu hym ddiddan, yna pan soniwyd ddarfod gweld Tomos Bwen yn ymddangosiadol yn ei iawn bwyll yn angladd Dafydd Alun, llithrodd yr ymddiddan yn rhwydd at Gwen.
Siarad yn fwyn iawn wnai Leisa am Gwen. Er yn ei charu'n fawr ni allai wrth gwrs lai na gweld ei ffaeleddau amlwg. Ei hoffter o honi'n wir a barai fod y rhai hyn yn peri cymaint blinder iddi.
"Trieni am Gwen, drian fach," ebe hi, "mai'n ifanc iawn i fod mor bell o wrth i mham? "'
"Pam? Beth sy'n bod?" ebe'r gweinidog, dipyn yn frysiog.
'O, wel," petrusai Leisa, "difeddwl iw i wedi bod. Wi'n shwr taw hinni iw e, dim yn ystiried mai. Ma Ann a hithe'n bartners mowr wrth gwrs, ond dim nawr 'n agos fel bion nw. Ma Ann yn dachre diall pethe nawr."
"Pam, ynte? Beth sydd i'w ddweyd am Gwen Alun?" gofynnai'r gweinidog eto.
Wel, dw i'm yn leico gweid wrthoch chi, seriws, Mr. Elis," ebe Leisa, gan wrido'n brydferth.
"Odich chi'n nabod Fred we da ni'n was?"
"Ydw. Ai nid gyda chi mae Fred eleni?"
Nage. Gwas aral si da ni leni. Diwedd yr wthnos ddiwetha gadawodd Fred wrth gwrs. Do's dim neb yn gwbod beth mai e'n oligi neid mwy, wede fe'm gair o'i blans wrth nhad, ond mae e yn y gwmdogeth o hid,—yn lodjo da Anna'r Bwlch. Gwen si'n gwbod i hanes e ore, clo. Pan wedd i thaci'n wael, wedd i'n mind mas da Fred bron bob nos, a nawr, wrth gwrs,
"Mae ei chwaer yna gyda hi on'd yw hi?"
"Odi, am wn i. Trieni si am Gwen, drian fach. Dim yn stando mai. Ma Fred yn weithwr da, ond wrth gwrs, we ni'n gweld ol peth ifed arno o hid, a hen Sais yw e wedin!"
Rwy'n mynd i alw i weld Miss Alun, heddyw ar fy ffordd yn ol," ebe'r Bugail, a newidiodd bwnc yr ymddiddan yn ddiymdroi, ac ofnodd Leisa'n ei chalon mai ofer ei gwaith.
Aethai Morgan Ifans i'r farchnad, ond yr oedd John y mab gartref. Mynnodd Leisa gyfle i roi gair o gyngor iddo, a gwyddai fod gan John ei resymau ei hun dros fod yn ddigon parod i wrando arni.
"Mai e'n mind i weld Gwen Alun. Cer i hebrwn e, gan nad iw nhad ma. Minn esgis i find da ge i Isaber. Dyna nawn i pe bawn i'n teimlo fel ti 'no," ebe hi, gan edrych yn ddirmygus ar wrid merchedaidd gruddiau John.
Felly, wedi gorffen ei neges, a mwynhau cwpanaid o dê cyn cinio gyda'r teulu, cychwynodd y gweinidog yn ol, ac aeth John yn wylaidd gydag ef drwy'r lôn gul. Beth gymerasai'r naill am ddweyd wrth y llall yr hyn a lanwai ei galon? Yn lle hynny, ceisient yn ddyfal feddwl am ryw bwnc i ymddiddan arno, ac yr oedd pob un o'r ddau yn llawer distawach nag y dymunai fod. Dywedodd rhywun mai modd i guddio teimladau a meddyliau yw geiriau, ac mai drwy ddistawrwydd y dadlennir un enaid i'r llall. Y bore hwnnw, ar waethaf eu hymdrechion, cafodd Owen Elis a John Ifans drem glir i galonnau ei gilydd.
Wedi dod at yr iet wen, arhosodd y gweinidog, estynnodd ei law i John, gan gymeryd yn ganiataol fod ymadael yno; ond dywedodd John, gan wrido, ond hefyd â llawn grym penderfyniad,—
"Wi'n dod gida chi dipin ymhellach, Mr. Elis, ma neges bach gen i at Dafi, Llainddu."
Daeth Isaber i'r golwg. Curai calonnau y ddau ddyn ieuanc, a gwylient ei gilydd yn llechwraidd. Yr oedd meddwl mynd i mewn yno yng nghwmni John yn groes i deimlad Mr. Elis. Synnodd deimlo'n ei fynwes rywbeth heblaw cariad brawdol tuag at John. Cyflymodd y ddau eu cerddediad heb yn wybod iddynt eu hunain. Daeth geiriau. Ni fu'r ddau mor siaradus drwy'r holl ffordd ag wrth basio'r tŷ hwnnw. O'r braidd y medrent ddioddef cwmni ei gilydd hyd Llainddu. Diseremoni fu eu ffarwel.
Aeth John i'w ffordd gan synnu debyced i ddynion meidrol oedd y Bugail. Amlwg oedd ei fod yn ddyn cyn bod yn sant. Yr un ffaith drist bwysai ar galon Owen Elis, ond yn gymysg â'r cwbl yr oedd penderfyniad cryf i fynnu gweld Gwen unwaith eto, heb ond ef a hi. Yr oedd yn ddyledswydd arno fynd i'w gweld. Daeth Dyledswydd am unwaith yn greadur newydd.
XXVI.
Nid oedd yno neb i'n gwylio
'N agor drws ein Heden wiw,
Dim ond swn y gwynt yn cwyno
Dorrai ar ein clyw.
DAETH y gaeaf yn sydyn. O fore Sadwrn hyd y nos Iau dilynol, bu'r glaw yn tywallt a'r gwynt yn chwythu, a thrwy gydol y dyddiau a'r nosweithiau meithion, tywyll hynny, gorweddai Owen Elis ar ei wely, yn nychu dan hynny, Manw ac nid Gwen welai Ann amlaf. Yr oedd annwyd trwm. Am y tro cyntaf yn ei oes weinidogaethol, methodd fynd i'w bwlpud ar y Sul, a gorfu i'r gynulleidfa siomedig foddloni ar gyfarfodydd gweddi.
Yn gymysg â'r danteithfwyd maethlon a'r cyffeiriau, rhoddai Miss Elis i'r claf ddognau helaeth o anerchiadau a rhybuddion ynghylch terfynau rhesymol gofal bugeiliol a diffyg ystyriaeth dynion yn gyffredinol, ac Owen Elis yn anad neb. Os cofiai unpeth, byddai, druan, yn sicr o gofio mwy drwy ei oes, iddo unwaith redeg a chwysu drwy y dydd, byw ar hanner digon o fwyd, ac yna ychwanegu at ei orffwyledd drwy aros allan am oriau yn niwl oer nos o Dachwedd. Pa ryfedd i natur godi mewn gwrthryfel?
Eithr yr oedd dioddefaint mwyaf y dyn ieuanc ymhell tuhwnt i ddeall Miss Elis ac o gyrraedd ei medr hi i'w leddfu. Yn unigedd dyddiau'r cystudd gwelodd mor anobeithiol bell oedd o gyrraedd ei ddelfryd. Addawsai roi ei holl galon a chysegru ei holl fywyd i Dduw. Gwyddai am seintiau brofasai, yn ystod tymor o afiechyd, lawenydd pennaf eu bywyd mewn cymundeb â Duw. Nid dieithr iddo yntau gynt yr un llawenydd. Belled o'r tir uchel hwnnw yr oedd erbyn hyn Beth ddaethai o'r hen fwyn orfoledd? Llifasai cariad daeorol fel llanw'r môr i'w galon. Efe ei hun oedd wedi esgeuluso cau'r dorau. Yn awr wele Dduw yn tynnu Ei ddiddanwch oddiwrtho, yn ei fwrw ymaith oddi ger Ei fron, yn cymeryd Ei Ysbryd sanctaidd oddiwrtho. A methai yntau deimlo'n edifeiriol a gostyngedig yn wyneb hynny! Hiraethai am gael codi o'i wely yn iach,—nid er mwyn ail ymdaflu i'w waith, ond i gael rhedeg at Gwen Alun, a dywedyd ei gariad wrthi, cael yr hawl i'w chysgodi rhag stormydd malais a chenfigen, ei gwaredu o afael Fred a John, a chael nefoedd ei fywyd yng ngwên ei hwyneb a miwsig ei llais.
Tra bu'r Bugail yn gorwedd yn ddiymadferth, trodd olwynion bywyd yn ddiaros fel erioed.
Daeth prynhawn Gwener eto, ac un gwyllt a garw oedd er peidio o'r glaw. Eisteddai Gwen wrthi ei hun, o flaen y tân cwlwm siriol, a syllai yn freuddwydiol ar y fflamau gleis- ion bob yn ail a darllen y llythyr ddaliai yn ei llaw. Aethai Manw i'r pentref ar neges dros Ann, Maesyryn. Y dyddiau hynny, Manw ac nid Gwen welai Ann amlaf. Yr oedd amser Ann yn rhy brin, ac nid oedd Gwen yn ddigon iach ei chalon i fynd lawer o'i chartref. Edrychai yr hard iawn yn ei dillad duon syml. Edrychai'r gegin lân gynnes yn gysurus iawn hefyd, ond yr oedd rhyw wacter a distaw- rwydd rhyfedd drwy'r tŷ i gyd wedi symud yr hen wr. Ym- ddangosai'r hen ddodrefn cyfarwydd fel pe'n syllu'n garu- aidd ar Gwen ac yn ei gwylio'n bryderus fan honno â'r llythyr yn ei llaw.
Llythyr oddiwrth Fred oedd o un o drefi mawrion Lloegr. Aethai yno wythnos yn ol a dychwelai heno. Buasai'n ffodus iawn i gael lle da gyda'i hen feistr yn un o swydd- feydd y dref. Byddai'n dechreu ar ei waith ymhen pythef nos, a heno tua chwech o'r gloch gobeithiai weld Gwen i gael dywedyd stori ei fywyd wrthi.
A gwyddai Gwen beth fyddai' diwedd y stori honno. Byddai raid iddi bellach benderfynu un ffordd neu'r llall. Dywedasai ei mam eisoes ei bod yn bryd i Manw ddychwelyd adref. Ni allai hithau fyw ei hun yn Isaber yn ddiwaith a diamcan, a phrin yr oedd ei heisieu ar ei mam. Dyna Fred wedi gwneud yr hyn a geisiodd ganddo, sef, "cael lle bant." Sylwai pobl ar y cyfnewidiad yn ei fywyd yn ddiweddar, a charai efe hi â'i holl galon. Sut gallai ei wrthod mwy? Nid oedd modd gohirio eto chwaith. O, paham nad allai hi deimlo mor sicr a diogel ag y teimlai Ann, Maesyryn, heb gysgod troedigaeth ynglŷn â'i dewisiad!
Yr oedd Manw a hithau yno pan ddaeth Fred. Ai yr un Fred oedd hwn ag a weithiai ar gaeau Maesyryn bythefnos yn ol? Yr oedd mor lân a thrwsiadus a gŵr bonheddig! Yr oedd ei ddillad glas tywyll yn ei weddu'n llawer gwell na dillad gwas fferm. Fel hyn yn sicr y bwriadwyd iddo wisgo erioed. Llamodd calon Gwen. Edrychodd arno gydag edmygedd diamheuol yn ei llygaid.
Prudd meddwl fel y ca'n cariad puraf ar y ddaear yn fynych ei blannu a'i feithrin gan ddamwain mewn gwisg ac ymddangosiad allanol!
Yr oedd gan Fred lawer i'w ddywedyd am ei deithiau, a chafodd y ddwy chwaer yn wrandawyr aiddgar. Ond ni allai ddywedyd ei neges pennaf i glyw'r ddwy. Trodd o'i Gymraeg bratiog i'r Saesneg,-.
"Gwen," ebe ef, "won't you come out with me? Let us go for a nice walk. I can't tell you everything here. I could not in this house even if we were alone. I want to feel the kindly night around me, its soft winds fanning my cheek, and I want to hold your dear hand in mine. Come, Gwennie dear."
Aethant heibio Penffynnon, ac i fyny drwy'r lôn gul, hir hyd y fan lle y cydia a'r brif-ffordd. Hyfryd iawn wedi'r cyfan oedd bod yng nghwmni Fred. Yr oedd ef mor gryf, meddai gymaint o awdurdod mwyn; yr oedd mor ffit i gwrdd a'r byd, ac eto mor dyner. Gyda phob cam pwysai Gwen yn llwyrach arno. Safasant wrth yr un iet ag y pwysai Gwen arni ar y noson bell honno yn y Gwanwyn, pan gerddasai gyntaf gyda Fred.
Mor hardd wyllt oedd y nos! Yr oedd lleuad rywle yn y nen, ond cuddid hi'n llwyr gan gymyl trwchus afonydd. Rhuai a chwynfannai'r gwynt bob yn ail. Crynai a phlygai pob llwyn a choeden. Yr oedd Natur oll yn gruddfan. Llanwyd calon Gwen a dychryn dieithr.
A'i Gymraeg amherffaith, swynol, ac weithiau mewn Saesneg bron rhy ddwfn i Gwen i'w ddeall, adroddodd Fred stori el orffennol yn llawnach nag y gwnaethai erioed o'r blaen. Cododd gwrr y llen ar ei fywyd yn y dref cyn ei ddyfodiad i Gymru. Nid oedd y ddalen yn wen i gyd, ac wrth ddatguddio'r darnau duaf, gafaelai yn dynn yn llaw Gwen fel pe bai arno ofn iddi redeg a'i adael cyn clywed y cwbl. Eithr ni charasai un ferch erioed fel y carai Gwen. Wedi ei gweld hi y dechreuodd ffieiddio ei ddull o fyw, ac awydd am droi dalen. Hi oedd wedi ei achub. Hi oedd ei guardian angel. Buasai'n llwyddiannus gynt yn ei waith, yn ennill arian da, cyn dechreu mynd lawr. Profid hynny gan y ffaith fod yr un meistr yn ei gymeryd yn ol yn awr wedi pum mlynedd. Hi roisai amcan newydd i'w fywyd. Hi oedd ysbrydiaeth ei fywyd. Er ei mwyn hi y byddai byw mwyach.
And now, dearest, you will not let me go down again. I shall be safe with your love to guide and protect me. Sweet one, give me now your promise. We will be married here, and then we'll go away to our new home at once. Will you be mine, Gwen?"
Yn sicr, yr oedd llwybr bywyd yn glir bellach i Gwen. Yr oedd Fred yn ei charu, ac yr oedd ei heisieu arno. Term tlws iawn oedd "guardian angel," ac yr oedd Fred yn rhy dda i'w adael i lithro eto. Cai fynd ar unwaith i ffwrdd ymhell,—o olwg ac o glyw unrhyw beth a ddigwyddai, a diau y deuai angof, a thawelwch meddwl, a dedwyddyd. Yr oedd ganddi olwg fawr ar Fred. Oernadai a chwynfannai'r gwynt fel mil o ysbrydion cyfeiliorn Pwysodd Gwen ei phen ar fynwes Fred, a sibrydodd,
"Yes, Fred, I will be your wife."
Ni charai Owen Elis feddwl treulio Sul arall heb fynd i'w bwlpud. Aeth allan am ychydig dydd Gwener, a dydd Sadwrn teimlai'n ddigon cryf i fynd am wib hir wrtho'i hun. Cymerodd y ffordd isaf heibio Llainddu a'r Bwlch,—i Is- aber. Ni allai aros yn hwy heb weld Gwen. Gadawsai ei gystudd ef gyda'r un awydd hwnnw uwchlaw pob awydd arall. Yr oedd y bryn uchel feddyliasai oresgyn yn rhy serth iddo, yn ormod i'w nerth. Gwell iddo yntau rodio'r dyffryn cynnes fel dynion ereill a gorffen hiraethu am y llechweddau. Prysurodd ei gamre heb yn wybod idde. Gyda phob cam cloff murmurai'n ffyrnig ddwy linnell o emyn,-"Eled daear, eled dynion, Man y mynnont, ni waeth ble. Eled d'aear, eled dynion, Man y mynnont, m waeth ble."
Methai a chael llonydd ganddynt. Yr oeddent fel ellyllon yn ei ymyl yn gwatwar ei gloffni, yn chwerthin am ei fethiant.
Yr oedd yn dechreu nosi pan gyrhaeddodd Isaber. Manw ddaeth i'r drws i ateb ei guriad. Rywfodd ni chyfrifasai ar bresenoldeb Manw, ond wele Gwen yn estyn ei llaw yn wyl aidd, ac yn dywedyd, Helo, Mr. Elis!" gan roi cyfoeth o. ystyr yn y geiriau.
Daliodd Owen Elis ei llaw a syllodd i'w llygaid cyn dywedyd gair. O, oedd, yr oedd Gwen yn ei garu, neu pa beth achosai gymaint o gyffro yn ei hwyneb? Yn wir, onid oedd yn bosibl roddi o ryw ysbryd rybudd iddi o'i ddyfodiad? Edrychai fel pe'n ei ddisgwyl. Ni wisgai merched y wlad eu dillad duon felly ar ddydd gwaith. Ac mor lân oedd y tŷ! Mor llawn o gysur a hedd oedd yr aelwyd gynnes!
Rhedeg yn wyllt wnai meddyliau'r gwr ieuanc tra'n ceisio siarad pethau cyffredin â'r ddwy eneth. Er wedi dyfod yno gyda'r unig amcan o ddywedyd ei neges fawr, mwyn oedd oedi felly a syllu ar wyneb hardd Gwen, a dychmygu am y gwrid a'i gorchuddiai, a'r goleu disglair a ddeuai i'w llygaid yn y man, pan ddywedai efe ei gariad wrthi, ac y gofynnai iddi'r cwestiwn mawr. Gwelai ei syndod ar y cyntaf, ei gwyleidd-dra, a'i hofn feallai i feddwl bod yn wraig i weinidog, ond gwelai hi a'i phen ar ei fynwes yn datguddio cyfrinachau'r misoedd aeth heibio,—y llawenydd a'r ing.
Gwelai eto ym mhellach, Gwen yn frenhines ei aelwyd, yn oleuni ei gartref, a gwelai hi'n eistedd fin hwyr fel yn awr wrth y târ siriol, a baban bychan ar ei glin. Anghofiodd fodolaeth John a Fred a phawb arall, nid oedd ond Gwen ac yntau vn y byd. Cododd i dir mor uchel nes anghofio'r cloffni a'i blinasai gymaint ar hyd y blynyddoedd. Hyfryd gweld cyffro Gwen eisoes yn ei bresenoldeb. Yr oedd mor gyffrous nes ei bod yn edrych ar y cloc bob yn ail funud heb yn wybod iddi ei hun.
Geneth gall o'i hoed oedd Manw. Cymerodd y bwced o'r llaethdy ac aeth allan, a gwyddai Owen Elis ei bod wedi mynd i odro. Eisteddai Gwen gyferbyn ag ef ar yr aelwyd Edrychodd arni a'i enaid yn ei lygaid fel y gwnaethai wrth ysgwyd llaw. Plygodd tuag ati. Gwen," ebe ef. Cododd Gwen yn sydyn, fel pe'n ofni iddo ddod yn agos ati a chyffwrdd â hi. Rhoddodd i'r dyn ieuanc edrychiad arhosodd gydag ef am byth,—
"O, Mr. Elis," ebe hi, "hisht! peidiwch gweid dim. Mai'n rhi ddiweddar! Mai'n rhi ddiweddar!
Ar y foment, clywyd swn rhywun yn cerdded at y drws, yn gwaeddi "Hallo!
"Hallo!" yn llawen, ac yn dod i mewn i'r gegin.
Aeth Gwen i'w gyfarfod. Cododd y gweindog gan syllu'n syn.
"Gwennie, my darling," ebe Fred, gan gymeryd ei ddyweddi yn ei freichiau a'i chusanu.
XXVII.
Fy neigr aeth o fewn y gro
Ar erchwynnau'r arch honno.
—TUDUR ALED.
WEDI'R tymhestloedd gerwin, daeth drachefn dywydd teg. Yr oedd bore priodas Ann, Maesyryn, twyned a bore o wanwyn. Torasai'r afon Gwynll dros ei cheulannau, gan orchuddio'r dolydd. Clywid ei rhu mawreddog o bob rhan o'r cwm tawel, a thywynnai'r haul yn siriol ar ruthr y dyfroedd.
Ciliasai'r storm bryderon hefyd o ffurfafen Ann a Josi, a gwenai'r haul, er yn wannaidd, fel haul Rhagfyr. Dri diwrnod cyn y briodas, caed' llythyr oddiwrth gyfnither i Ester Bwen o Lerpwl, yn dywedyd fod Tomos Bwen wedi dod yno'n ddisymwth wythnos yn ol; fod rhywbeth yn od yn ei ymddygiad, fel pe na bai yn ei iawn bwyll; ond wedi cael gorffwys a chysgu ei fod lawer yn well, ac y caent yn fuan esboniad llawn ganddo ef ei hun o'r tro rhyfedd a wnaethai.
Siaredid llawer am y digwyddiad o hyd yn ardal Cwm-gwynli. Barnai rhai fod rhywbeth tu ol i'r cyfan, rhyw gweryl â'r mab ynghylch ymadael a Maesyryn a dybid oedd
. wrth wraidd y peth, a chredai pawb fod Ester yn gwybod mwy nag a fynnai ddangos. Clywyd o rywle fod llythyr wedi mynd o Faesyryn i'r gyfnither yn Lerpwl cyn derbyniad ei llythyr hi a'r newydd. Er dyfalu, methwyd cael esboniad boddhaol ar bethau, a gorfu i'r byd foddloni mynd yn ei flaen fel cvnt. Y peth pwysig oedd bod y ffordd wedi dod yn glir i briodas Ann a Josi.
Dydd llawn o gyffro oedd hwnnw ym Maesyryn. Gan fod y ddau deulu yn ffermwyr cefnog, trefnwyd bod y briodas i'w gweinyddu yn un o gapeli Abergwynli, bod y cwmni llawen i fynd tuag yno mewn cerbydau, a dychwelyd' erbyn cinio i Faesyryn. Byddai hynny yn llawer hwylusach na cherdded yn ddau a dau drwy'r ffyrdd gwlyb i gapel Y Bryn a chael syllu arnynt gan lygaid yr holl gymdogaeth. Ewyllys gref a rhag-welediad doeth Leisa oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r trefniadau. Hi, yn bennaf, a ddewisodd y cwmni. Gan fod cysgod ymadawiad Tomos Bwen arnynt, nid gweddus fyddai gwneud gormod o rialtwch, ac nid oedd eisieu gwahodd neb o'r tu allan i'r ddau deulu ac eithrio'r ddau weinidog weinyddai'r seremoni, sef Mr. Elis a'r Parch Lewis Jones, Abergwynli
Pan oedd Leisa a hithau'r bore hwnnw ar y llofft yn gwisgo, dywedodd Ann yn fyfyrgar wrth blethu ei gwallt,— Gwyn a gwridog, hawddgar iawn Yw f'anwylyd."
Ni feddai Leisa un math ar ateb i eiriau mor ffol, a dywedodd Ann drachefn,—
"Wi'n difari na fisen ni wedi gofin i Gwen Alun ddod lawr da ni i'r dre. Wi'n ffeili peido meddwl am deni heddi. Na olwg fach ddiflas wedd arni neithwr pan doith i a'i phresant lan Pam na eith hi nol at i mham? Mae'n ddiflas iawn arni hi a Manw fan na! Chlwes i moni'n son am find nol.
"Hm!" ebe Leisa."Wir, Ann, wit ti wedi gn.eid dy wallt, gwinia fach a lligad wrth y'n ffroc i. Dos dim ise i ti fecso am Gwen Alun. Ma hi'n ddigon ffit. A phe baet ti'n gofin i Gwen, fise rhaid i ti ofin i Fred hefid, gwlei. Fiset ti'n leico hen Sais o was yn in o dy gwmni priodas? Fe ofinest iddi ddod i helpi mam a Nanti Marged dendo. We hinni'n fwi na neithin i. Wrth gwrs, we Miss Gwen yn rhi ichel i neid hinni."
"Nid rhi ichel, Leisa," ebe Ann, gan wnio'r bach a llygad yn amyneddgar, "dos dim taer wthnos o ar marw 'i thaci cofia. Ma Manw'n cal dod i helpi. Leicswn i weld Gwen yn priodi'n hapis, a tithe hefid, a Marged Elen. Ond allwch chi'ch taer ddim cal y gweinidog, gwlei," he hi'n ddireidus, gan dorri'r edau a'i dannedd ac estyn y ffroc i Leisa.
"Bidd ddistaw, Ann," ebe Leisa. "Pwi si am dy weinidog di? A phaid meddwl bod pawb mor awiddis i briodi ag wyt ti."
"Hei, ho! Mae nghalon a ngho,
Yn orlawn o swynion, ber syniad,
canai Ann, wrth roi ei het newydd ar ei phen. Ann, Maesyryn, si'n gwisgo'r hat bert ma; Mrs. Bowen, Y Mwyndir, fidd yn ei thinni ddi lawr."
Yr oedd y dydd hwnnw bron ar ei hyd iddi ei hun gan Gwen. Yr oedd ei meddwl gyda'r cwmni llawen yn y dref. Cyn pen yr wythnos, byddai Fred a hithau yn yr un lle ar neges cyffelyb. Byddai wedi gadael Maesyryn am byth. O'r dref aent ar unwaith gyda'r tren i'r byd newydd. Nid oedd neb i wybod ond ei mam. Aethai Fred at ei mam i Sir Gaer y bore hwnnw i drefnu pethau'n derfynol.
Wedi rhoi ei haddewid, ni fynnai Gwen dynnu'n ol, ac yng nghwmni Fred teimlai'n foddlon ar ei dewisiad. Yr oedd rhywbeth yn ei bersonoliaeth a'i cariai hi gydag ef. Ond ni theimlai felly bob amser yn ei absenoldeb. Nid am dano ef y meddyliai heddyw. Gwyddai mai'r gweinidog oedd ei chariad. Paham y daethai un diwrnod yn rhy ddiweddar? Gorfu iddi ei glwyfo. Gwelai ef yn awr yn mynd allan o'r tŷ heb edrych arni, heb ddymuno'n dda i Fred a hithau, ac heb wybod fod ei chalon hi'n ei ganlyn. Paham na chai ddywedyd popeth wrtho? Paham na chai ei weld unwaith eto? Ond pe cai'r cyfle, a feiddiai egluro popeth iddo? Ni fyddai hynny yn deg tuag at Fred. Na, rhaid i'w chalon hi ei hun gadw'r gyfrinach am byth, ac o dan y pwysau, yr oedd y galon honno bron a thorri.
Drwy'r drws agored deuai swn y dyfroedd dig fel rhyferthwy'r môr. Nid canu'n felys wnai'r hen afon heddyw, gan sibrwd addewidion mwynion, ond rhuthro'n ddiamynedd, yn ddig, yn fawreddog, yn ofnadwy. Mewn bocs bychan ar y seld yr oedd y gân fechan honno yn llawysgrif Owen Elis. Tynnodd Gwen hi allan, canodd y geiriau tlysion nes i'w chân droi'n wylo. Plygodd y papyr, rhoddodd ef yn ei mynwes. Cymerodd ei het, ac aeth allan at yr afon.
Yr oedd dolydd Maesyryn fel môr mawr, llwyd, ac ambell lwyn yma a thraw yn dangos ei ben fel darn o graig. Yr oedd yr olwg ar yr afon yn croesi'r ffordd fach yn ddigon i beri dychryn. Rhuthrai mor chwyrn! Yr oedd bron cyf-uwch a'r bompren, a llifai i fyny ar hyd y ffordd fel llanw'r môr i gyfarfod â Gwen. Yr oedd llwybr bychan ar y clawdd hyd at y bompren. Cerddodd Gwen yn ofalus ar hyd hwnnw. Yr oedd arni awydd pwyso ar y ganllaw ac edrych i lawr ar y rhyferthwy. Cyrhaeddodd y fan yn ddiogel. Swynid a dychrynid hi gan yr olygfa. Dychmygai, fel lawer gwaith o'r blaen, glywed yr hen afon yn siarad wrthi. Nid ei suo'n garedig a wnai heddyw. Rhuo wrthi wnai, ei cheryddu, ei deffio, ei difrio, ei bygwth, ac yn gymysg a'r cwbl taflai allan ryw islais o gydymdeimlad a thosturi. Tynnodd Gwen ei het, gyda'r un hen osgo gyfarwydd. Anghofiodd guled oedd y fan lle y safai, llithrodd ei throed, cydiodd ei het yn y llwyn, syrthiodd hithau heb gri i'r dyfroedd llwyd. Suwyd hi i'w holaf gwsg ar fynwes yr hen afon a garasai gymaint.
Llawen iawn oedd cymni'r briodas ar eu ffordd adref. Yn y cerbyd cyntaf yr oedd y par ifanc, wrth gwrs. Yn yr ail yr oedd Morgan Ifans ac Ester Bwen a'r Parch. Lewis Jones; yn y trydydd yr oedd y bobl ieuainc,—John, Maesyryn, a Marged Elen, Y Mwyndir, ymlaen, a Leisa ac Owen Elis tu ol. Ar awgrym Leisa penderfynodd y pedwar adael eu cerbyd yn Llainddu hyd y prynhawn, a cherdded adref drwy'r ffordd isaf, yn hytrach na dilyn y lleill drwy'r pentref. Byddent mewn pryd i fynd i gwrdd â'r par ifanc, i beri syndod hyfryd iddynt ac i'w croesawu'n llawen. Ymgomient yn ddifyr ar hyd y ffordd fel y gweddai i gwmni priodas. Hanner-obeithiai Leisa y gwelai Gwen hwy, a hanner- obeithiai'r gweinidog y gwelai yntau Gwen.
Arosasant cnnyd i syllu ar yr afon. Dechreuodd y ddwy ferch ofni croesi ar bomprer mor gul. Gorchymynrodd y gweinidog iddynt ei ddilyn ef yn, araf, a chydio yn y ganllaw yn ofalus, ac edrych o'u blaen ac nid ar yr afon. Deuai John yn olaf. Yr oeddent oll wedi croesi'n ddiogel pan welodd Marged Elen het Gwen ar y llwyn ar fin y dwr.
"Hat pwi iw honna, te?" ebe hi.
"O'r arswyd! Hat Gwen Alun, mi na'n llw," ebe John yn frawychus.
Clywodd Leisa, ond aeth yn ei blaen gan gau ei dannedd, a gobeithiai na chlywsai'r gweinidog. 'Gwen Alun, Gwen Alun, beunydd a byth! Galwodd John yn wyllt ar y ddau, "Hei, Leisa! Mr. Elis! Dima hat Gwen Alun. Beth ma'i'n neid fan hin? Beth os iw Gwen wedi cwmpo i'r afon?"
Troisant yn ol. Edrychodd pawb yn frawychus. Camodd Owen Elis yn frysiog i ganol y bompren gan dremio'n wyllt i lawr ar hyd yr afon. Edrychodd John o ben y clawdd.
"Well i ni gid find gartre a galw'n Isaber ar ein ffordd. Falle bod Gwen no'n saff. Colli ne anghofio'i hat nath i, falle," ebe Leisa.
"Odich chi'n gweld rhwbeth lawr fan obri. Mr. Elis?" ebe John, mewn sibrwd dychrynedig.
Neidiodd Owen Elis i ben y clawdd, ac edrychodd. Ar ben draw'r ddol yn ymyl y clawdd, lle troai'r afon yn sydyn i'r dde, gwelent rywbeth du yn nofio'n esmwyth ar wyneb y dyfnder llwyd. Ai darn o bren oedd? Atebwyd eu cwest- iwn ar unwaith; daeth rhuthr arall o'r afon, symudwyd y gwrthrych nes er wneud yn fwy eglur. Dacw'r gwallt hir- llaes, y breichiau, y ffedog wen! Gwen Alun oedd yno, wedi boddi!
Edrychodd y ddau ddyn ieuanc ar eu gilydd, yn welw a mud.
Disgynasant yn ebrwydd o ben y clawdd
"Rhaid ei chael allan cyn i lif yr afon ei chipio'n ol," ebe Owen Elis. "Gwell i ni fynd i mewn o'r ochr uchaf, mae'r dwr yn rhy ddwfn fan yma.
Brysiodd y ddau i fyny.
"Ewch chi'm i'r dwr fel na, a'ch dillad," dechreuai Leisa.
"Rhedwch e'ch dwi rwle i mofin help," gwaeddai John wrth redeg. "Gwedwch wrth bawb. Dewch a rhwbeth. Mr. Elis, af fi nol i'r Nant i gal rhaca hir a rhaff ne rwbeth. Cerddwch chi lawr ar hid y claw. Se bachin hir ne rwbeth da chi, ond mi fidda i nol nawr."
Ymhen tuag awr o amser, gwelid gorymdaith fechan brudd yn mynd i fyny'r rhiw fach tuag Isaber. Owen Elis a John Maesyryn, a'u dillad goreu yn fudr gan ddwr a llaid, flaenorai'r dyrfa fechan. Ar eu hysgwyddau hwy a dau ereill yr oedd ysgol, ar yr hon y dodasid corff marw Gwen Alun. Dydd priodas Ann, Maesyryn, oedd, ond yr oedd y cwmni i gyd yno, Ann ei hun, a'i braich am Manw y ceisio'i chysuro ac yn cyd-wylo â hi
Wedi cyrraedd y tŷ, dodwyd yr ysgol a'i baich prudd fel ag yr oedd ar ddwy gadair yn ymyl y ffenestr. Ar y funud honno rhedodd Fred i mewn yn welw ei wedd. Cawsai'r newydd cyn cyrraedd. Heb edrych ar neb penliniodd yn ymyl y corff, gan ddywedyd yn wyllt,—
"Gwen! Darling Gwennie! Speak to me. It's Fred. It's Fred, Gwennie! Whom you've promised to marry. Gwennie!"
Trodd y gwallt gwlyb yn ol yn dyner. Cusanodd y talcen oer. Plygodd ei ben ac wylodd yn chwerw.
Daeth Manw i gydio yn ei fraich ac i wylo yn ei ymyl. Hi oedd y cyntaf i ganfod y darn papyr ym mynwes Gwen. Tynnodd ef allan, a rhoddodd ef i Fred. Agorodd hwnnw ef yn grynedig, a phawb yn ei wylio. A roddai'r papyr ryw oleuni ar y digwyddiad alaethus?
"O lifa, afon loew." Na, nid llythyr oedd, dim ond rhyw gân fechan. Pasiwyd y papyr gwlyb o un i'r llall o'r cwmni. Un yn unig yn eu plith a adwaenai'r llawysgrif, ac a wyddai hanes y gân. Cadwodd hwnnw ei gyfrinach.
Syllai Ann, Maesyryn, drwy ei dagrau ar y tri bachgen yno yn ymyl corff marw Gwen, a chofiodd yn sydyn eiriau'r hen gipsy, Not one o' the three will ye marry!"
Wrthi ei hun y noson honno, meddyliai Leisa fel hyn,—"Ma'n well gen i na pheido fod Gwen wedi mind o'r ffordd! Wedd hi riwffordd yn dod ar draws din ym mhob- man. Allen ni ddim bod yn shwr o neb na dim os bise Gwen gerllaw. Dyna 'i wedi spwilo heddi i ni i gid. Diolch nad all hi'm boddran neb mwi! Odw, Gwen, mei-ledi, wi'n falch gal lloni da ti.'
XXVIII.
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth Dy lais hyfrydaf, tawel,
Yn distewi a mynd yn fud.
—WILLIAMS, PANTYCELYN.
ERBYN hyn, wedi blynyddau lawer, medr Bugail y Bryn hefyd lwyr lawenhau ddarfod symud Gwen. Iddo ef,
""Tis better to have loved and lost,
nag unrhyw amodau ereill i gariad daear. Nid am beidio o hono a charu Gwen a'r atgof am dani. Mwyn a hudolus fu teimlad y dyddiau gynt,—ond mor llawn o ing ac o ansefydlogrwydd dihedd! Bu ei gariad tuag ati bron a bod yn fagl iddo, yn gaethiwed i'w enaid. A beth pe gwelsai hi yn wraig i arall? Mwy fyth fuasai ei ing, ei gyffro, ei gaethiwed. A Gwen yn y nef, un a'i gariad at y tragwyddol, pur fel hwnnw, yw ei gariad tuag ati. Cafodd yr hyfrydwch o wybod fod Gwen yn ei garu'n ol. Rhoddodd Duw iddo brofiad melysaf daear, ond cymerodd ef oddiarno cyn i'r melyster hwnnw edwino a gwywo ei iechyd ysbrydol. Ie, "Wele, fab dyn, Fi yn cymeryd oddiwrthyt ddymuniad dy boddlongar mewn unrhyw gylch. Na, os am esgyn, rhaid lygaid a dyrnod, eto na alara, ac na wyla, ac na ddeued dy ddagrau.
Fe glyw fynych son am "sancteiddio holl gysylltiadau bywyd". Onid gwŷr cyffredin ym myd yr ysbryd a sieryd felly? Iddo ef, mwy annioddefol na dim yw cyffredinedd torri pob hualau, a bod yn berffaith rydd. Beth yn fwy gogoneddus nag esgyn ac esgyn yn y byd uchaf,—bod yn athrylith ysbrydol, yn un o fawrion y nef! Pa oruchafiaeth debig i honno ar fyd, cnawd, a diafol? Pa dangnefedd i'w gymharu ag eiddo'r enaid fyddo mewn perffaith gymundeb a'i Dduw?
Ym maes newydd Owen Elis nid oes neb a wyr am gymaint
ag enw Gwen Alun. Ond bernir yno'n gyffredin mai rhyw
siom ym mlynyddoedd ei ieuenctid a wynnodd ei wallt mor
gynnar ac a bair iddo fyw mor ddidoledig oddiwrth y byd
a'i bethau. Tosturia llawer wrtho am na wel werth ym
mhleserau a mwyniannau daear; gwel rhai ogoniant llachar
ei gymeriad; a yntau ymlaen yn siriol dangnefeddus ar hyd
ei lwybr unig, a goleu o'r nef ar ei wyneb. Proffwyda rhan
iddo ddyfodol mwy rhyfedd fyth.

DOLGELLAU
ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, LTD, SWYDDFAR "CYMRO".

Nodiadau
[golygu]
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.