Bugail y Cwm/Rhagair yr Awdwr
| ← Bugail y Cwm | Bugail y Cwm gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Cynhwysiad → |
RHAGAIR YR AWDWR.
TRWY gydgyfarfyddiad amgylchiadau na raid manylu arnynt, hyd—ddenwyd ni i roddi tro i'r ardal wledig y ceisiwyd portreadu rhai o'i phobl a'i helyntion, mewn ystori flaenorol,—TY CAPEL Y CWM.
Yn y cyfamser, yr oedd yspaid o flynyddau wedi treiglo heibio, a llawer o bethau wedi newid, ond yr oedd amryw o'r hen drigolion yn aros, a'r sawl oedd yn blant, yng nghyfnod y Tŷ Capel cyntaf, wedi dod yn bennau teuluoedd eu hunain, ac yn gosod eu delw ar fywyd a chynnydd yr ardal. Ni ddiorseddwyd yr hen bethau eto, ond ymwthiai blaen llanw cyfnod newydd i wahanol gyfeiriadau.
Amcanwyd desgrifio y cyfnewidiad yn yr ystori sydd yn dilyn,—y modd y symudwyd ymlaen gyda'r "achos," a hynny heb beri anghydfod na thramgwydd.
Erbyn hyn, y mae cyfnewidiadau mwy yn cael eu cynllunio, a'r Cwm yn graddol golli ei neilltuolion cyntefig, ac yn dyfod yr un fath a phobman arall.
Ar y cyfrif hwn, y mae'n fwy na thebyg mai dyma'r waith olaf i ni son am dano. Gweddus ydyw gadael ei "ddatblygiad" dyfodol i nofelydd arbennig yr ugeinfed ganrif. Dichon y gall ein braslun syml wasanaethu fel rhagymadrodd" i waith mwy a gwell.
Yr ydym yn ddyledus i garedigrwydd arferol Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi ein "llyfr bychan," ac i'r Parch. D. O'Brien Owen am ganiatad i ddefnyddio'r darluniau sydd ynddo.
Ac wrth gefnu ar y Cwm, a syllu ar "Foel y Rhedyn dan lewyrch machlud haul, yr ydym yn sibrwd geiriau'r Salmydd, —" Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr—Heddwch fyddo i ti."
ANTHROPOS.
- Rhagfyr, 1913.