Bugail y Cwm (testun cyfansawdd)
| ← | Bugail y Cwm (testun cyfansawdd) gan Robert David Rowland (Anthropos) |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Bugail y Cwm |


CYFRES Y PORTH PRYDFERTH."—VIII;
BUGAIL Y CWM:
GAN ANTHROPOS.
Os mawredd yw coledd cail,
Bagad gofalon bugail.
GORONWY OWAIN.
GWRECSAM:
HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.
1913.
LLYFRAU ANTHROPOS.
Cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam.
Oriau Hamdden 6ch.
Y Porth Prydferth 1/-, a 6ch.
Oriau gydag Enwogion. Gyda Darluniau. 1/-, a 6ch.
Ty Capel y Cwm. 1/-, a 6ch.
Y Golud Gwell 1/-, a 6ch.
Merch y Telynor. 1/-, a 6ch.
Y Pentre Gwyn. Gyda Darluniau. 1/-
Bugail y Cwm. Gyda Darluniau... 1/-
RHAGAIR YR AWDWR.
TRWY gydgyfarfyddiad amgylchiadau na raid manylu arnynt, hyd—ddenwyd ni i roddi tro i'r ardal wledig y ceisiwyd portreadu rhai o'i phobl a'i helyntion, mewn ystori flaenorol,—TY CAPEL Y CWM.
Yn y cyfamser, yr oedd yspaid o flynyddau wedi treiglo heibio, a llawer o bethau wedi newid, ond yr oedd amryw o'r hen drigolion yn aros, a'r sawl oedd yn blant, yng nghyfnod y Tŷ Capel cyntaf, wedi dod yn bennau teuluoedd eu hunain, ac yn gosod eu delw ar fywyd a chynnydd yr ardal. Ni ddiorseddwyd yr hen bethau eto, ond ymwthiai blaen llanw cyfnod newydd i wahanol gyfeiriadau.
Amcanwyd desgrifio y cyfnewidiad yn yr ystori sydd yn dilyn,—y modd y symudwyd ymlaen gyda'r "achos," a hynny heb beri anghydfod na thramgwydd.
Erbyn hyn, y mae cyfnewidiadau mwy yn cael eu cynllunio, a'r Cwm yn graddol golli ei neilltuolion cyntefig, ac yn dyfod yr un fath a phobman arall.
Ar y cyfrif hwn, y mae'n fwy na thebyg mai dyma'r waith olaf i ni son am dano. Gweddus ydyw gadael ei "ddatblygiad" dyfodol i nofelydd arbennig yr ugeinfed ganrif. Dichon y gall ein braslun syml wasanaethu fel rhagymadrodd" i waith mwy a gwell.
Yr ydym yn ddyledus i garedigrwydd arferol Mri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam, yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi ein "llyfr bychan," ac i'r Parch. D. O'Brien Owen am ganiatad i ddefnyddio'r darluniau sydd ynddo.
Ac wrth gefnu ar y Cwm, a syllu ar "Foel y Rhedyn dan lewyrch machlud haul, yr ydym yn sibrwd geiriau'r Salmydd, —" Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr—Heddwch fyddo i ti."
ANTHROPOS.
- Rhagfyr, 1913.
CYNHWYSIAD.
DARLUNIAU.
LLWYBRAU ADGOFWyneb-ddarlun.
NEUADD WERDD Y LLWYN
YN HAFNAU'R CWM
AROS MAE'R MYNYDDAU MAWR
BUGAIL Y CWM:
PENNOD I.
Y Capel Newydd.
TRO yn ol, pan yn adrodd hanes a digwyddiadau yr achos yn y Cwm, yr oeddym yn treulio y rhan fwyaf o'r amser yn y "Tŷ Capel," pan ydoedd dan ofal calon Marged Parri. Coffa da am dani!
Ond, ar ddiwedd y llyfr, dywedasom fod cyfnod arall yn ymyl ymddangos. Yr oedd y brodyr (a'r chwiorydd hefyd) wedi cyd-olygu i gael capel newydd, teilwng o'r achos a'i draddodiadau yn y gorffennol. Ac yr oedd hynny yn tybied cyfnewidiadau lawer. Ond nid arfer pobl y Cwm oedd "rhuthro i mewn nac allan," gyda phethau yn perthyn i'r "achos." Nid oedd brys a ffwdan yn gymeradwy yn eu golwg. "Gwneler popeth yn weddaidd, ac mewn trefn." Ond yr oeddynt yn symud, er yn araf, ac yn ochelgar, i gyfeiriad y dyfodol. Cytunent ar y prif bethau o'r cychwyn. Yr oedd yn rhaid cael capel newydd,—capel wedi ei adeiladu yn gadarn, o'i sail i'w nenfwd, heb lawer o ryw addurniadau celfyddydol,—rhyw "ffigiari" dibwrpas, fel y byddai Shôn William yn arfer eu galw. Nid oedd galeri" yn y deml gyntaf, ond danghosai y cynllunydd fod plan y capel newydd yn galw am oriel o gylch yr adeilad; a chan fod y Cwm yn cynhyddu yn ei boblogaeth, rhagolygon y gwaith ym Moel Rhedyn mor addawol, y dylid darpar digon o eisteddleoedd. Lled amharod oedd yr hen frodyr i gydsynio â'r gwelliant hwn. Ofnent hwy y buasai'r gwasanaeth yn "oeri" wrth rannu'r gynulleidfa yn ddwy adran,—un i fyny a'r llall i lawr. Ond yr oedd Rolant Owen, Bryn Goleu, fel arfer, yn cefnogi y cynhygiad.
"Fedra i ddim dringo i'r galeri byth," ebai yr hen flaenor siriol. "Ar y ngore glas y bydda i yn medru codi fy nhroed i'r 'sêt fawr.' Ond mi weles i gapel newydd yn Llawr y Glyn, ac yr oedd yno gôr o bobl ifinc ar front y galeri, ac yn canu fel eosiaid. Yn wirionedd i, mi gês fendith wrth edrych arnynt, a gwrando eu lleisiau ardderchog. Yr ydw i o blaid cael 'galeri' yn y capel newydd, ar bob cyfrif. Peth hyfryd ydi gweld llond capel o wynebau, a digon o le i bawb."
Ac felly y bu yn y diwedd. Yr oedd pawb yn gweld mai nid er ei fwyn ei hun yr oedd Rolant Owen yn dadleu o blaid yr ychwanegiad pwysig hwn at yr addoldy. Ond un o'r pethau y cafwyd mwyaf o drafferth gydag ef oedd y "Tŷ Capel." Cawsai yr hen dŷ cysegredig ei dynnu i lawr, o angenrheidrwydd, fel y gwnaed gyda'r hen gapel. Ac, yn ffodus, nid oedd y "tir" yn brin, yr oedd y diweddar (ie, y diweddar, bellach) Mr. Meredydd, o Blas y Wern, wedi llwyddo i gael darn newydd o dir gan berchen ystâd y Gwynfaes, a hynny yn rhydd—ddaliadol hyd ddiwedd amser! Nid oedd eisieu cynilo a chrintachu lle i gynteddau'r achos yn y Cwm.
Cadeirydd pwyllgor y Capel newydd oedd David Parry, yr hwn ddaethai yn fab yng nghyfraith ac yn olynydd i Mr. Meredydd ym Mhlas y Wern. Nid oedd efe wedi ei alw yn "ddiacon" hyd yn hyn; ond edrychid arno fel un oedd i lanw'r swydd pan ddeuai yr adeg briodol i ddewis "rhagor o swyddogion."
Cawsai ei ddewis yn unfrydol i weithredu fel cadeirydd y pwyllgor adeiladu. Nid oedd yn chwenych y swydd, mewn un modd; ond wrth weld yr hen frodyr mor awyddus iddo ymgymeryd â'r gwaith, nis gallai wrthod heb ymddangos yn ystyfnig ac anufudd. Am hynny, cynhygiodd Joseph Jones, ac eiliodd Shôn William, mewn araeth danllyd, fod y brawd David Parry i gael ei benodi yn gadeirydd y gweithrediadau. Yr oedd pawb yn codi eu llaw o blaid y penderfyniad.
Ond pan ddaethpwyd at fater y "Tŷ Capel," teimlai y cadeirydd ei hun mewn lle cyfyng. Yr oedd y syniad wedi ei feddiannu ef, a rhai o aelodau mwyaf gweithgar yr achos, y dylesid cael gweinidog, neu fugail, i ofalu am y ddeadell. Credai fod yr amseroedd yn galw am hynny, ac na allai y plant a'r bobl ieuainc gael yr hyfforddiant dyladwy mewn gwybodaeth Feiblaidd a duwinyddol heb rywun cymhwys i fod yn arweinydd iddynt, ac i gynnal dosbarthiadau a chyfarfodydd addas iddynt hwy.
Ond, yr oedd yn lled sicr yn ei feddwl nad oedd y syniad hwn wedi aeddfedu digon i'w ddwyn i'r golwg, na'i ddadleu, yn yr adeg yr oeddynt yn cydweithio gyda'r capel newydd. Buasai son am "weinidog" yn y cyfwng hwn yn debyg o darfu y gwersyll, a pheri anghydfod a blinder. Ac eto, yr oedd David Parry a'i gyfeillion mynwesol yn credu y deuai y dydd, a hynny yn weddol fuan, i alw gweinidog;" a doeth ydoedd darparu ar gyfer hynny, heb gynhyrfu dyfroedd meddwl hen ffyddloniaid yr achos.
"Y peth nesaf i ddyfod dan sylw," ebai'r cadeirydd un noson, "ydyw y 'Tŷ Capel.' Beth fydd ei ffurf a'i faintioli, a'r gôst yr ydym am fynd iddo gyda'i adeiladu? Am yr hen 'Dŷ Capel,' yr oedd hwnnw{[bar|2}}." Daeth rhyw atalfa ar ei lais a lleithder i'w lygaid, a gwelai foreu ei oes yn ymrithio o'i flaen.
Neidiodd Shôn William ar ei draed.
"Mae gen inne hiraeth am yr hen 'Dŷ Capel," meddai, un o'r lleoedd dedwyddaf ar y ddaear. A waeth i mi gyfadde'r gwir, y mae yn 'difar gan y nghalon i, lawer diwrnod, fod wedi codi fy llaw i'w dynnu o i lawr. Mi faswn i yn cynnyg ein bod i godi un arall yr un fath a fo yn union,—gardd fach o flaen y drws,—a gofyn i Marged Parri ddwad yn ei hol i edrych ar ein hole ni i gyd."
Erbyn hyn, yr oedd David Parry wedi adfeddiannu ei hun.
"Yr ydw i yn diolch i'r brawd Shôn William," meddai, "am ei eiriau cynnes a charedig. Yr oeddynt yn cyffwrdd llinynau tyner yn fy meddwl a'm côf. Ond fedrwn ni ddim cael yr hen bethau yn ol. Mae yr hen 'Dŷ Capel' wedi mynd am byth. Ac er i chwi godi un arall yr un fath, nis gellwch ei wneud yr un peth. Y mae mam wedi mynd yn rhy fusgrell i gadw 'Tŷ Capel' byth eto. Ond y mae teimladau dyn yn cael y llaw uchaf arno, er ei waethaf, os eir i gyffwrdd y pethau a fu. Soniai yr hen frawd am yr 'ardd fach'; ie, un fach ydoedd, a bychan iawn oedd y tŷ, o ran hynny. Oni fyddai yn ddoeth ynnom gael y tŷ newydd gryn dipyn yn fwy ac yn eangach na'r un blaenorol? Y mae'r capel newydd i fod yn llawer helaethach. Oni ddylai y 'Tŷ Capel' gael ei wneud yn gymesur â'r adeilad newydd? Felly y mae yn fy nharo i, gyfeillion. Y mae rhyw dŷ bychan, cyfyng ei ystafelloedd, yn lled anghyson âg adeilad eang a golygus, fel y mae'n digwydd mewn rhai mannau."
Yr oedd syniadau y llywydd yn wahanol i'r hyn fuasid yn ei dybied ymlaen llaw. Ond gan mai efe wyddai oreu am anfanteision y tŷ blaenorol, cytunwyd â'r awgrym i godi'r tŷ capel newydd ar gynllun gwahanol, os gellid gwneud hynny heb ychwanegu llawer at y draul.
Ac felly, yn ddistaw a chynnil, y dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Capel y Cwm.
Yn y cyfamser, yr oedd y "moddion" yn cael eu cynnal mewn lle nad ydoedd o'r blaen yn fangre "gysegredig," yn ol syniad rhyw ddosbarth ar y pwnc hwnnw. Ond gellir dweyd gyda sicrwydd iddo ddyfod yn wir gysegredig ym meddyliau y sawl fuont ynddo rhwng y "ddwy oruchwyliaeth,"—cyfnod adeiladu y deml newydd. Nid oedd yn y Cwm un ystafell gyhoeddus y gallesid ei defnyddio ar adeg o'r fath,—dim "neuadd bentrefol,"—fel y gwelir heddyw mewn amryw fannau yn y wlad.
Ond yr oedd "ysgubor" helaeth a glanwedd ym Mhlas y Wern, ac yno yr aed âg "arch Duw" am ysbaid, fel y gwnaed yn Israel gynt pan yr arhosai "arch y cyfamod" yn nhŷ Obededom. A lle hwylus, ar lawer cyfrif, i gynnal gwasanaeth crefyddol ynddo ydoedd ysgubor Plas y Wern. Yr oedd yr hin yn hafaidd, canys nid oedd pobl dda y Cwm yn ddigon ffôl i adeiladu eu teml newydd ym misoedd y gaeaf. Dyddorol oedd gweld yr addolwyr, ar fore Saboth, yn dod ar hyd y gwahanol lwybrau i'r odfa. Yr oedd y ffordd yn nes i rai, ac yn bellach, o dipyn, i ereill. Parodd hyn ychydig o drafferthu ynghylch yr amser i gychwyn. Yr oedd un dosbarth,—pobl y pentre,—yn arfer cychwyn am chwarter i ddeg i'r hen gapel. A byddent yn gwneud felly i'r funud, gydag un neu ddau o eithriadau. Ond, dan y drefn newydd, rhaid oedd cychwyn am hanner awr wedi naw. Ond am bobl ochrau'r Cwm, yr oeddynt hwy wedi arfer cychwyn yn gynnar, a chan fod y ffordd yn nes, yr oedd amryw ohonynt wedi cyrraedd Plas y Wern ymhell cyn amser dechreu. Yr oedd Bryn Goleu yn nes i Blas y Wern na'r hen gapel, ac yr oedd hynny yn llawenydd nid bychan i Rolant Owen. Clywid ei lais clochaidd ym muarth y Plas tua naw o'r gloch y boreu, ac elai rhag ei flaen i'r tŷ. Yno, yr adeg hon, y byddai y "pregethwr" yn lletya ar nos Sadwrn, a hoffai Rolant Owen gael tipyn o ymgom gyda'r "genau cyhoeddus cyn mynd i'r moddion.
"Fuoch chi yn pregethu ryw dro mewn 'sgubor?" meddai.
"Na, nid wyf wedi cael y fraint honno hyd heddyw," ebai'r pregethwr,—dyn lled ieuanc, ac yn gwybod mwy am dref na gwlad.
"Ie, ie, fel yna mae hi. Mi fydde'r hen bregethwyr yn arfer mynd i leoedd o'r fath, yn aml, yn niffyg capelau, wyddoch. Pregethu mewn tai annedd, ac, weithiau, heb dŷ o gwbl. Ond welsoch chi 'rioed le mor braf ag ydi'r 'sgubor yma i bregethu, ac i wrando hefyd. Pawb yn agos at eu gilydd, a rhyw gynhesrwydd yn y canu, a phopeth. Mi fydda i yn cael rhyw fwynhad,—braidd na fyddai'n mynd yn ysgafn, weithiau, wrth weld y wenoliaid yn picio drwy agenau'r adeilad, a'r adar tô yn canu'n braf ar lintars y drysau. Yr oedd yma un pregethwr yn ddiweddar, ac yr oeddwn yn sicr ei fod yn meddwl am danyn nhw fel finnau. Mi roddodd y pennill hwnnw i'w ganu cyn y bregeth,
'Hoff gan aderyn tô
Gael yno i'w gywion le,
A'r wennol, ar ei thro,
Hiraetha am ei thre';
Mae hiraeth f' enaid i'r un faint,
Am gael preswylio 'mhlith y saint.'
A chanu iawn fu yno. Weles i ddim cymaint o wenoliaid ac adar tô yn y 'sgubor un amser. Yr oedden nhw fel pe yn dallt fod y pennill yn eu 'siwtio' i'r dim."
Gyda hyn, clywid Rolant Owen yn clustfeinio ar rywbeth.
"Meddwl mod i'n clywed sŵn y cerbyd ar y buarth," medde fo.
"Cerbyd pwy? ebai'r pregethwr."
"O, cerbyd y Plas yma. Mi glywsoch am Marged Parri, fydde'n arfer cadw yr hen 'Dŷ Capel?'"
"Ie, wel, feder hi ddim cerdded i'r moddion, 'rwan, neu mi fuase yn dwad dros y Bont Bren drwy'r Dolau Gleision. Ond y mae Dafydd Parri yn mynd i'w chyrchu yn y cerbyd bach bob boreu Sul, ac yma y bydd hi yn llawn ffwdan yn tendio, yn nyrsio, ac yn gofalu, drwy'r dydd. Mae yr hen ysbryd caredig oedd ynddi yn aros fel cynt, a mi fase 'ma le rhyfedd iawn heb Marged Parri."
Wedi cael gafael yn ei ffon, cododd Rolant Owen. Rhaid i mi fynd i'r buarth," meddai, "er mwyn i Marged Parri weld mod i yma o'i blaen."
Hen ffyddloniaid anwyl! Y mae'r Saboth a chwithau yn cynghaneddu'n dlws.
PENNOD II.
Y Llawr Dyrnu.
YR oedd y cynulliadau yn yr "Ysgubor" yn para'n llewyrchus yn ystod yr adeg y bu yr "achos " heb addoldy, yn ystyr arferol y gair. Braidd nad oeddynt yn fwy lliosog. Deuai rhai yno i wrando nad oeddynt yn arfer mynychu'r gwasanaeth mewn llan na chapel ers blynyddau. Nid oedd "dillad Sabothol" yn meddu cymaint o ystyr yn oedfaon yr ysgubor, a chafodd y "maen tramgwydd" hwnnw ei symud am dymor, os nad am byth. Ymhlith y rhai a ddaethant "o'r newydd" i'r moddion yr oedd Harri Llwyd, Tyddyn Drain.
Gweithiwr cyffredin oedd ef, yn arfer ennill ei damaid drwy chwys ei wyneb, wrth dorri ffosydd, tacluso gwrychoedd, a "dyrnu," pan oedd hynny yn y ffasiwn. Ond yr oedd y "ffûst," yn y Cwm, fel mewn mannau ereill, wedi rhoddi ei lle i'r "dyrnwr mawr." Nid oedd y cyfnewidiadau hyn wedi gwella byd Harri Llwyd; ac yn sicr, yr oeddynt wedi chwerwi cryn fesur ar ei dymer. Dichon mai hynny, yn un peth, a barodd iddo gilio o'r capel, a pheidio mynd i unman ar y Saboth, ond nid dyn difeddwl nac anystyriol oedd Harri Llwyd. Darllennai lawer, yn ol ei gyfleusdra a'i fanteision, a thybid ei fod yn darllen llyfrau nad oeddynt yn cael eu cyfrif yn gwbl uniongred. Nid oedd efe ei hun yn sôn nemawr am hynny, ond yr oedd rhywrai wedi taenu y gair ar led nad ydoedd yr "hen Dyddyn Drain" yn credu yr un fath â'i gymdogion am athrawiaethau yr Efengyl, nad ydoedd yn "iach yn y ffydd." Creodd hyn ddrwg-dybiaeth ym meddwl rhyw ddosbarth sydd yn cyfrif uniongrededd yn gyfystyr a pharchusrwydd. Ond er yn condemnio Harri Llwyd am feddwl yn wahanol iddynt hwy, nis gellid ei feio fel gweithiwr diwyd ac egniol. Yn y peth hwn, nid oedd ei ragorach yn y fro. Ac ar wahanol adegau o'r flwyddyn, elai yn gyson i Blas y Wern, a'r ffermydd cyfagos; ond, fel rheol, ni sonid dim am "bethau crefydd" yn ei bresenoldeb. Dywedid fod un ffermwr lled hunan-ddoeth wedi ceisio ei argyhoeddi am esgeuluso'r moddion, ond yr oedd Harri Llwyd yn un anodd ei drin o'r safbwynt hwnnw.
Yr oedd y ffermwr yn ŵr pur fydol, ac yn gyrru ei weision yn drwm bob amser, fel nad oedd y Saboth yn gwneud llawer o wahaniaeth yn eu bywyd hwy.
"Y mae gen i barch i'r Saboth," ebai Harri Llwyd, "digon o barch i beidio gweithio, beth bynnag, na gorfodi neb arall i wneud hynny. A dyna mae'r Beibl yn ei orchymyn am y Saboth,— 'na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th was, na'th forwyn.' "
Collodd y ffermwr ei dymer. "Mi ŵyr pawb fod yna bethau y rhaid eu gwneud ar y Sul fel pob diwrnod arall. Ond mi ddyle dyn fel chi fynd i ryw le o addoliad, ac nid segura yn y tŷ."
"Rhoswch," ebai Harri Llwyd, "nid yw 'segura' yn fy hanes i. Welsoch chi ryw arwydd o hynny yn fy ngwaith? Ac nid segura yr ydw i ar y Sul. Yr wyf yn ceisio defnyddio yr amser i ddarllen a meddwl. Ai segura yr ydych chi yn galw hynny? Ac mi fase yn burion peth i chithau roi cyngor i'r llanciau yma sydd yn eich gwasanaeth i ddarllen mwy, a rhoi ystafell gysurus iddynt i wneud hynny, yn enwedig ar y Sul."
"Y musnes i ydi hynny," ebai'r ffermwr, ac nid oes arnaf eisio i chwi na neb arall fy nysgu. A chan mai fel yna yr ydych chwi yn dewis siarad, mi dalaf eich cyflog yrwan, a fydd dim eisieu i chwi ddwad yma eto." Ac felly y bu.
Nid oedd Harri Llwyd i'w weld am flynyddau yn y gwasanaeth crefyddol ar y Saboth. Ond yn ystod yr adeg y cynhelid y moddion yn ysgubor Plas y Wern, digwyddodd i Rolant Owen fod yn pasio Tyddyn Drain, ryw foreu Sul yn niwedd haf; ac yr oedd Harri Llwyd yn eistedd gyda'i lyfr yng nghongl yr ardd.
"Bore da," ebai Rolant Owen, gyda'i lais mwyn, "wrthi yn darllen, mi wela. Ac y mae ganddoch chi le ardderchog. Yr ydych yn peri i mi feddwl am yr adnod honno yn Genesis,—' yn yr ardd gydag awel y dydd.' Fydd rhyw 'lais' yn dod atoch chi yn y tawelwch yma weithia?
"Beth ydach chi'n feddwl, Rolant Owen? Ai llais yr awel, neu sŵn y gwenyn yma?"
"Na, meddwl am lais Rhywun arall yr oeddwn i, y llais a ddaeth i ardd Eden, ac i bob man lle y mae dyn wedi bod, Pa le yr wyt ti? Wyt ti yn dy le? Wyt ti'n gwneud yn iawn?"
Ni ddwedodd Harri Llwyd ddim, ond yr oedd difrifwch yn ei lygad.
"Mynd i'r moddion yr ydw i," ebai Rolant Owen, "i'r ysgubor, lle yr ydan ni am dipyn nes y bydd y capel yn barod. Dowch efo mi, Harri Llwyd, mi fydd gwell blas ar y llyfr i chi wedi bod yn gwrando'r Efengyl."
"Mae cryn amser er pan fuom i yn y moddion, ac y mae arna i ofn y bydd y bobl yn edrych arna i fel dase gyrn ar 'y mhen i."
"Peidiwch a gwneud bwgan o beth bychan fel ene," ebai Rolant Owen,
"yr yden yn weddol gynefin â 'chyrn" yn y 'sgubor, digon o gyrn bustych o gwmpas y drysau, wyddoch. Dowch, wir, mi fydd yn llawenydd ganddo ni eich cael, ac Ann, y wraig yma, os y gall hi ddod."
"Dydw i'n ameu dim am danoch chi, a Dafydd Parry, ond am ".
"Welwch chi, Harri bach, ddowch chi byth os ewch i lochesu rhyw feddyliau fel yna. Trwy lawer o orthrymderau' y rhaid iddi fod o hyd. Mi fydda i yn mynd i'r moddion fy hun, lawer adeg, yn ddigon drwg fy hwyl; ond wedi canu ambell i bennill, mi fydd y cwbl yn diflannu fel eira'r llynedd. 'Rwan am dani, frawd, neu fyddwn i ddim yno mewn pryd."
Yr oedd Harri Llwyd wedi gwisgo ei ddillad Sul. Gwnai felly bob amser, er nad oedd yn cyrchu i'r gwasanaeth. Cododd o'i eisteddle, ac aeth â'i lyfr i'r tŷ. Yr oedd Ann Llwyd yn tacluso y gegin ar ol brecwast.
"Yr ydw i'n mynd efo Rolant Owen," meddai Harri Llwyd.
"Mae'n dda gen i glywed," ebai Ann. (Yr oedd hi wedi "clywed" tipyn o'r sgwrs yn yr ardd). Estynnodd yr het a'r cadach poced, a thynnodd y brws dros ei ddillad goreu. "Mi newch y tro, 'rwan, ac mi fydd y cinio ar y bwrdd erbyn y dowch yn eich ol."
Yr oedd Ann Llwyd yn deall y sefyllfa, a gwyddai mai ychydig eiriau oedd yn gweddu ar y pryd. Aeth at lidiart yr ardd i ysgwyd llaw a Rolant Owen. "Cymrwch ofol o hono fo," ebai hi, "hwyrach y caiff o fynd i 'sêt Bryn Goleu."
Chwarddodd Rolant Owen.
"Ann bach," meddai, " yr wyt ti wedi gollwng yn ango mai yn y 'sgubor yr yden ni. 'Does acw ddim 'sêt' o gwbl, —pawb ar y meinciau yn gyfforddus, a phawb yr un fath a'u gilydd. wranta dy fod wedi clywed am 'gythrel y seti.' Ond er mor gethin ydi hwnnw, feder o ddim dwad i'r 'sgubor, —'does yno ddim 'seti,' a rhaid i'r ysbryd drwg fynd i rywle arall. Wel, dyma ni'n cychwyn. Bore da, Ann, hwyrach y deui dithau y Sul nesa'."
"Mi gawn weld," ebai Ann Llwyd, " ond os bydd o yn mynd, dydi o ddim yn debyg y medra i aros yma ar 'y mhen fy hun."
Yr oedd Ann Llwyd, pan yn ferch ieuanc, wedi bod yn forwyn ym Mryn Goleu, ac oddi yno y priododd. "Un o'r lodesi gore fu acw erioed," meddai Rolant Owen am dani, a pharhai i'w chyfarch fel y gwnelai yn y dyddiau gynt. "Cofia di, Ann, am fod yn barod, os cawn ni fyw, y Sul nesa."
Oherwydd y pethau a adroddwyd uchod, yr oedd Rolant Owen a'i gydymaith yn ddiweddarach nag arfer yn cyrraedd Plas y Wern y boreuddydd hwnnw. Yr oedd Marged Parri wedi cyrraedd ers meityn. Daeth yn amser dechre, ond nid oedd yr hen flaenor selog wedi cyrraedd. Peth rhyfedd iawn! Aed i'r 'sgubor, a rhoddodd y pregethwr bennill i'w ganu,
"Melus yw dydd y Saboth llon."
A melus ydoedd y boreu hwnnw, anian yn ei thlysni a'i harddwch. Ar ganol y pennill, llithrodd Rolant Owen a'i gyfaill i fainc yn agos i ddrws agored yr ysgubor, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa a'u cefnau atynt.
Mwynhaodd Harri Llwyd y gwasanaeth yn fawr, ac yr oedd llawer o feddyliau yn ymdaith heibio iddo, fel y gwenoliaid drwy agenau'r adeilad. Cofiai am dano ei hun yn dyrnu yn yr ysgubor, ac yn deol yr ûs oddiwrth y gwenith. Ac yn hynod, iddo ef, dyna oedd testyn y pregethwr y bore hwnnw,
Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr-dyrnu, ac a gasgl ei wenith i'r ysgubor: eithr yr ûs a lysg efe â thân anniffoddadwy."
Yr oedd cyd-darawiad amlwg rhwng yr adnod a'r lle yr oeddynt ynddo. Soniai'r pregethwr am waith y "wyntyll," ac am llawr-dyrnu." Soniodd am glanhau" a'r "casglu" sydd i fod ar wenith Duw. "Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law." Braidd nad oedd Harri Llwyd yn clywed sŵn ei hesgyll. Ond dyna lais y pregethwr yn toddi ac yn tyneru. "Yn llaw'r Gwaredwr y mae'r wyntyll heddyw,—'y Gŵr a fu gynt o dan hoelion.' Fel yna y mae yr hen bennill yn dweyd,—y Gŵr sydd imi yn ymguddfan, yn gysgod rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymhestl, Efe sydd yn dal y wyntyll yn ei law. Gwnawn yn fawr o'r 'llawr-dyrnu,' yno y mae'r Iesu yn glanhau ac yn cymhwyso'r gwenith i'w ysgubor."
Ar derfyn y bregeth, galwyd seiat am ychydig funudau;" ac wedi i amryw fynd allan, gofynwyd, yn ol yr arfer, a oedd rhywun wedi aros ar ol." Ar y funud, dyna Rolant Owen ar ei draed. "Mae yma frawd yn y fan yma," meddai, "Harri Llwyd, Tyddyn Drain. Ond nid y drain sydd i gael ei sylw o hyn allan,—nid y drain, ond y gwenith. Yr ydw i yn cynnyg ein bod yn ei dderbyn, yn ol ein dull arferol, fel aelod ar brawf," ac yn gobeithio y cawn ni groesawu ei briod yma ar fyrder. Diolch am y 'llawrdyrnu,' ac am y Gŵr sydd a'r wyntyll yn ei law!"
Cafodd Harri Llwyd ei dderbyn yn siriol, a phan aed allan, yr oedd y brodyr a'r chwiorydd yn gwasgu ato, ac yn ysgwyd llaw yn gynnes. Yr oedd Marged Parri yn crefu arno aros ym Mhlas y Wern i "gael tamaid o ginio."
"Diolch i chwi," meddai, "ond mi fydd Ann yn disgwyl."
"Ie," meddai Rolant Owen, "digon naturiol ydi hynny, a chofiwch chi ddweyd ar ol cyrraedd adre y byddwn ninnau yn disgwyl Ann efo chi y Sul nesa'."
Saboth cofiadwy oedd hwnnw, a daeth "blodau hyfryd i fywyd a phrofiad Harri Llwyd. Bu ei briod ac yntau yn ffyddlon hyd angeu. Daeth efe yn flaenllaw yn y deml newydd ar ol ei gorffen; ond, pan yn adrodd ei hanes crefyddol, am y "Llawr Dyrnu" y byddai yn debyg o grybwyll. Yn y 'sgubor, lle y buasai yn dyrnu gwenith, y cafodd olwg ar y Gŵr sydd a'r "wyntyll yn ei law." Canys nid âg ôg y dyrnir ffacbys, ac ni throir olwyn menn ar gwmin." A thrwy foddion tyner yr oedd y goreu yn enaid Harri Llwyd i gael ei gasglu i'r ysgubor.
PENNOD III.
Symud ymlaen.
AWN heibio i hanes agoriad y deml newydd, canys y mae yr adroddiad wedi ei gyhoeddi'n weddol gyflawn yng nghylchgrawn misol yr enwad. Cafwyd cyfarfod pregethu, yn ol y ddefod ar adegau o'r fath; ac, yn ol yr adroddiad uchod, yr oedd yr oedfaon yn llewyrchus a'r casgliadau at ddi-ddyledu'r capel yn sylweddol. Ac nid gormodiaeth oedd hynny. Wedi mantoli'r cyfrifon, nid oedd ond deucant o bunnau yn aros o'r ddyled ar y capel a'r adeiladau. A chafodd y swm hwnnw ei addaw yn ddi-lôg gan frawd o'r eglwys, ar yr amod fod yr oll o'r ddyled i gael ei chlirio yn ystod y tair blynedd dilynol.
Yn lled fuan, aed at y gorchwyl oedd wedi cael ei awgrymu ers tro,—galw rhagor o flaenoriaid. Teimlai'r brodyr oedd yn y swydd fod eu nifer yn rhy fychan i gyfarfod â'r gwaith, ac mai mantais i'r achos fuasai symud ymlaen yn y cyfeiriad hwn. Siaradwyd ar y mater yn y seiat, a gofynnodd Joseph Jones am ganiatad yr eglwys i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol. Nid oedd pawb o'r brodyr yn codi eu llaw, rhag ofn i rywrai dybied eu bod hwy yn awyddu am y swydd. Ond gwnaed y diffyg hwnnw i fyny gan y chwiorydd a'r bobl ieuainc, a chaed fod y "mwyafrif" o blaid y cynhygiad. Yn y cyfamser, anfonwyd y "cais" o eglwys y Cwm i'r Cyfarfod Misol, drwy law Edward Puw. Nid oedd yr hyn elwir yn Bwyllgor y "Cenadwrïau" wedi dod i fod yn y dyddiau hynny. Trosglwyddid pob cenadwri yn uniongyrchol i'r cyfarfod, yng ngwyddfod yr holl aelodau. A phan gododd Edward Puw i draethu ei neges, cafodd dderbyniad siriol. Dywedai'r llywydd eu bod, fel brawdoliaeth, yn llawenhau wrth weld y cyfeillion yn y Cwm yn mynd rhagddynt. Yr oedd ganddynt gapel newydd hardd, ac yr oeddynt wedi dangos haelfrydedd eithriadol ynglŷn â'r gwaith o dalu am dano. Bellach, yr oeddynt am gyfnerthu y swyddogaeth, capel newydd a blaenoriaid newydd. Beth nesaf, tybed?
"Gweinidog newydd," ebai George Lewis, un o leygwyr mwyaf goleuedig yr ardaloedd.
"Daeth gwên i wyneb y llywydd. Awgrym dda iawn," meddai, "hwyrach y bydd Edward Puw mor garedig ag adgoffa eich sylw ar ol iddo fynd adref. Ond un peth ar y tro. Yr hyn sydd yn ofynnol yn awr ydyw enwi dau neu dri o frodyr i gymeryd llais yr eglwys ynglŷn â dewis rhagor o flaenoriaid."
Cyn i neb gael amser i gynnyg fod "y personau a ganlyn" i wneud y gwaith, cododd Edward Puw.
"Os nad wyf yn afreolaidd," meddai, "ac yr ydw i yn siarad dros y brodyr acw, mi f'aswn yn cynnyg y Parch. Jacob Davies yn un. Y mae o yn ein hadnabod, ac yn deall ein hamgylchiadau yn drwyadl."
"Y mae hynny yn ddigon o reswm dros benodi Mr. Davies," ebai'r llywydd. "Pwy arall?"
Cynhygiwyd a chefnogwyd, a phasiwyd yn unfrydol fod enwau y Parch. William Richards, Llwyn Bedw, a Mr. George Lewis, yr Hafod, i gael eu 'chwanegu at yr eiddo Jacob Davies fel cynrychiolwyr dros y Cyfarfod Misol.
Wedi i Edward Puw gludo ei adroddiad i'r frawdoliaeth yn y Cwm, daeth y peth yn bwnc y dydd. Dyna oedd byrdwn yr ymddiddanion, a gofynnai y naill i'r llall," Pwy ydech chi am eu henwi?" Gofynnid hynny i un neu ddau o frodyr ag y tybid eu bod yn chwenych y swydd," er mwyn eu gweld yn dangos anesmwythder. Yr oedd un ffermwr wedi rhoddi y "wedd " i gludo cerrig at y capel newydd, a chan nad ydoedd wedi bod yn neilltuol am ddim gyda'r achos yn flaenorol, awgrymid ei fod yn cadw ei lygad ar y "sêt fawr." Tebyg nad oedd dim sail i'r dybiaeth honno, ond dyna ddull y byd hwn o feddwl, a barnu, yn bur aml.
Elai rhai lled chwilfrydig i weithdy'r crydd i gael barn Shôn William ar y mater. Ond yr oedd efe yn lled dawedog, yn fwy felly nag arfer. Nis gellid ei " dynnu allan," fel y dywedir. Ceisiodd un neu ddau o'r bechgyn" wneud hynny drwy ofyn cwestiwn,
"Pwy ydech chi'n feddwl fuasai yn gwneud blaenoriaid da, Shôn William? Yr ydan ni yn ifanc a dibrofiad, ond y mae ganddoch chi farn ar bethe, ac y mae eich barn chi yn werth ei chael bob amser."
Ond "nid âg ûs y delir hen adar." Yr oedd yr hen frawd yn ddigon craff i weld drwy y cynllwyn, ac ni fynnai gael ei arwain i'r rhwyd.
"Fydda i byth yn deyd fy marn ar bersonau," meddai. "Pey buasech yn gofyn am eglurhad ar ryw bwnc o athrawiaeth, gwnawn fy ngoreu i'ch goleuo a'ch arwain at y gwirionedd. Ond gyda mater fel hwn,—dewis blaenoriaid,—rhaid i chi ddysgu meddwl drostoch eich hunain. Ac os cym'rwch fy nghyngor i, peidiwch a siarad gormod am y peth, neu fe greda rhywrai fod arnoch eisieu mynd yn flaenoriaid eich hunain. Hyn a ddywedaf, y mae eglwys y Cwm wedi cael blaenoriaid campus hyd yma, a gobeithio y bydd y brodyr a ddewisir yr wythnos nesa' o gyffelyb ysbryd a gras."
Chwareu têg i'r bechgyn, yr oeddynt yn hoffi cael tipyn o "hwyl," ond nid oedd malais yn agos atynt. Cafodd geiriau Shôn William effaith ar eu meddyliau. Gwelsant ef ei hun, rywfodd, mewn goleuni newydd. Rhoddodd hynny syniad newydd i un ohonynt.
Wyddost ti beth," ebai Wmphre Cae Haidd, "yr ydw i am roi fôt i'r hen frawd. Mae o yn un o'r dynion mwya galluog yn y capel, ac y mae ei ysbryd wedi altro yn rhyfedd er pan fu'r dyn hwnnw o sir Aberteifi yn pregethu yma ar 'Elias yn yr ogo'.' "
"Yr ydw i yr un feddwl yn hollol," ebai Ifan Berth Ddu. "Ond—ydi o 'n peidio bod dros yr oed, dywed? Yr oedd Rolant Owen yn siarsio arnom ni feddwl am ddynion heb fod yn hen, dynion yn eu man gore, fel y dywedai, er mwyn iddyn' nhw fedru rhoi eu gore gyda'r achos."
"Tydi Shôn William ddim hynach na Rolant Owen, a 'does neb yn sôn am ei henaint ef. A dase Shôn William yn llai anibynnol ei ddull, ac yn hawddach ei drin, mi fase, yn ol pob tebyg, wedi cael ei ddewis yr un amser a Rolant Owen. Ond y mae o wedi altro, Ifan, y llew wedi mynd fel oen bach. Yr ydw i am fotio iddo fo, dase neb arall yn gwneud." Felly finne," ebai Ifan, "a hwyrach fod llawer yn meddwl yr un fath, o ran hynny."
Wrth fynd adref, yr oeddynt yn pasio Rose Cottage, cartref Marged Parri ar ol iddi ymado o'r hen "Dŷ Capel." Nid ydoedd yn hwyr, a throisant i mewn i edrych am dani. Yr oedd y bobl ieuainc, yn feibion a merched, yn hoff o gael ymgom efo Marged Parri, ac yn ymddiried ynddi am lawer cyfrinach.
Yr oedd hithau yn dra gochelgar gyda phwnc y "galw blaenoriaid." Ond pan ddywedodd un o'r bechgyn eu bod wedi meddwl am Shôn William, ac iddi hithau ddeall eu bod o ddifri, dywedodd, —
"Yr ydw i yn meddwl eich bod o gwmpas eich lle," meddai. Dyn da ydi Shôn William. Yr oedd o felly bob amser; ond y mae'n bosib i bobl dduwiol, ar adegau, golli naws crefydd oddiar eu hysbryd. Trin 'pwnc' oedd popeth ganddo yntau am flynyddau. Ond, 'rwan, y mae pob arwydd fod y 'pwnc yn ei drin ef. Y mae ei 'brofiad' wedi altro, a phob pregethwr ddaw yma yn ei 'blesio,' os bydd o yn sianel yr hen Efengyl. Dydw i ddim yn meddwl am funud fod Shôn William yn dychmygu am gael ei godi'n flaenor, erbyn hyn, ond mi fase'n dda gan 'y nghalon i dase'r eglwys yn ei alw i'r swydd. Ac mi ddeyda ragor, dase Harri Llwyd, Tyddyn Drain, wedi dwad ato ni dipyn yn gynt, mi faswn yn rhoi fy fôt iddo yntau. Sut bynnag, mi ga i fy siomi yn fawr os na thrŷ Harri Llwyd yn un o'r dynion mwya' defnyddiol, yn enwedig efo'r Ysgol Sul."
"Wel, diolch i chi am alw, fechgyn; ond waeth i chi heb sôn am hyn wrth bobol yr ardal yma. Gadewch i ni obeithio y caiff yr eglwys 'arweiniad' gyda'r gwaith."
Pan ddaeth y noson ddisgwyliedig, yr oedd y cynulliad yn dra lliosog, ac yr oedd cynrychiolwyr y Cyfarfod Misol yn y "sêt fawr." Nid oedd yr un ohonynt wedi bod yn y "capel newydd" o'r blaen, ag eithrio'r Parch. Jacob Davies. Yr oedd efe, ar gyfrif hen gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch, wedi cael y fraint o draddodi'r bregeth "gyntaf " yn y deml newydd. Nid oedd pobl y Cwm yn credu mai arddunol yw y pell ar bob achlysur. Medrent werthfawrogi yr agos; ac nid oedd eu llygaid yn eithafoedd y byd" gyda gweinidogaeth y Gair. Ar y cyfrif hwn, ei fod yno mor fynych,—mynnai Jacob Davies roddi yr holl amser i'r ddau frawd arall. Siaradodd y ddau yn wresog ac ymarferol. Gosodent bwys ar feddylgarwch ac arfer cydwybod; peidio gadael i deimlad na mympwy gymylu barn a phwyll. Yr oedd George Lewis yn awyddus am iddynt alw brodyr deallus ac eang eu syniadau, dynion yn edrych ymlaen gyda chrefydd, ac yn deall arwyddion yr amseroedd. Dylai blaenor fod yn arweinydd, ac yn barod i roesawu pob goleuni newydd ar y Beibl ac ar gwestiynau mawr bywyd. Ar derfyn yr anerchiadau, aeth y
cynrychiolwyr i'r festri newydd, derbynient y pleidleisiau yn y dull arferol. Ac wedi i'r gwaith gael ei orffen, daethant yn ol i'r sêt fawr. Nid oedd angen gofyn am ddistawrwydd, canys yr oedd y peth ei hun yno yn barod, distawrwydd perffaith. Hysbysodd George Lewis fod pedwar o frodyr wedi derbyn y nifer angenrheidiol o bleidleisiau, ac yna darllennodd eu henwau fel y canlyn,—David Parry, John Williams, Edward Edwards, ac Evan Rhys. Yr oedd golwg ddyddorol ar wynebau'r gynulleidfa, —y mwyafrif yn foddhaus, ereill yn awgrymu syndod, a hwyrach fod cysgod siom ar ambell un!
Cododd y Parch. Jacob Davies i longyfarch yr eglwys ar y dewisiad.
Yr ydych wedi sicrhau gwasanaeth brodyr cymhwys," meddai, "yr wyf yn eu hadwaen oll. Nid oes yr un ohonynt yn 'newyddian yn y ffydd,' er fod dau yn gymharol ieuanc, a mantais iddynt hwy ac i'r eglwys a fydd hynny. Yr oedd Edward Edwards, Melin y Rhyd, er ei holl ofalon, yn un o'r rhai ffyddlonaf gyda'r achos, ac yn bleidiwr selog i bob mudiad da yn yr ardal. Ac am—wel, rhaid i mi, fel hen ffrynd, gael arfer yr enw cartrefol—am Shôn William, y mae'n llawenydd calon i mi weld fod yr eglwys wedi ei ddewis yn 'flaenor.' Cawsom lawer dadl frwd, ac un anodd ei orchfygu mewn dadl ydyw efe. Ond y mae ar grefydd Iesu yn y dyddiau hyn angen dynion yn deall athrawiaethau mawr yr Efengyl, dynion sydd yn medru gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, ac yn 'gadarn yn yr Ysgrythyrau. "
Yr oedd Rolant Owen yn "porthi'r gwasanaeth" â'i holl galon, a phan soniai Mr. Davies am "Shôn William," curai y llawr gyda'i ffon, i arwyddo ei gymeradwyaeth. Edrychai Shôn William ei hun fel gŵr wedi synnu, a phan ofynwyd a oedd yn cydsynio â'r alwad, nis gallai ddweyd gair.
Cododd Joseph Jones i ddiolch i'r cynrychiolwyr am ddyfod yno, ac am y cynghorion gwerthfawr roddwyd ganddynt i'r eglwys. Cydnabyddwyd hyn gan George Lewis, a throes yn sydyn at Joseph Jones,
"Yden ni wedi gwneud ein gwaith yn ddigon da i gael 'cyhoeddiad' yma eto?" meddai.
Edrychai Joseph Jones yn lled hurt, ond atebodd Rolant Owen,
"Dowch yma pan fynoch chi," meddai, "ond dyda ni ddim yn codi blaenoriaid fel codi tatws."
"Na, nid at godi blaenoriaid yr oeddwn i yn cyfeirio," ebai George Lewis, "ond at y peth ddeydais i yn y Cyfarfod Misol. Yr ydw i yn disgwyl y byddwch chi fel eglwys yn symud ymlaen i alw gweinidog."
Ac fel yna y terfynodd y gwasanaeth y noswaith honno. Yr oedd George Lewis wedi bwrw hedyn i faes meddwl yr eglwys. A ydoedd i gael dyfnder daear? Cawn weld.
PENNOD IV.
"Profi'r Ysbrydion."
YR oedd eglwys y Cwm wedi arfer dibynnu ar y "weinidogaeth deithiol," ac yn credu mewn newid doniau ar y Saboth. Tybid fod unwaith yn y flwyddyn yn gylchdro cyfaddas i'r gwahanol bregethwyr a ddeuent i'r daith. Deuent yno, fel rheol, ar gyfer yr un adegau, rhai yn y gaeaf, ac ereill yn yr haf. Prin yr oedd eisieu "taflen cyhoeddiadau y pryd hwnnw. Gwyddai y bobl ymlaen llaw pwy oedd i ddod, a pha bryd y digwyddai eu dyddgylch, fel y gwyddent am adeg ffair a marchnad.
Ond er fod y trefniant hwn wedi gweithio yn ddigon esmwyth am flynyddau maith, yr oedd amgylchiadau yr eglwys a gogwydd yr amseroedd yn distaw arwain at gyfnewidiad. Yr oedd eglwysi ereill wedi "galw brodyr i'w gwasanaethu fel bugeiliaid." Un o'r cyfryw oedd y Parch. Jacob Davies; ac efe a elwid yn gyffredin i'r Cwm pan fyddai angen gwasanaeth "gweinidog" ar achlysuron arbennig.
Daeth achos o'r fath dan sylw, un noson, yn y cylch swyddogol; ac erbyn hynny, yr oedd y blaenoriaid newydd wedi eu cyflawn urddo. Cynhygiodd Joseph Jones eu bod yn anfon cais at Mr. Jacob Davies, fel arfer.
"Yr wyf yn cefnogi hynny am y tro," ebai David Parry, "ac nid oes ungwr у mae gennyf fwy o barch iddo fel gweinidog yr Efengyl na Mr. Davies. Ond paham y rhaid i ni fenthyca gweinidog o eglwys arall yn barhaus? Onid ydyw'n bryd i ni alw rhywun i'n gwasanaethu yn gyfangwbl?"
"Yr ydech chi wedi mynd i gredu yr un fath a George Lewis," ebai Shôn William.
"Yr oeddwn i 'n credu hynny cyn iddo ef fod yma," ebai David Parry. "Ac mi ddylech chithe gredu hynny bellach, oherwydd yr ydych chi yn cyfri fod Doctor Edwards yn ei le ar bob pwnc duwinyddol, a 'does neb wedi ysgrifennu yn gryfach ar fugeiliaeth eglwysig nag efe."
Yr oedd parch Shôn William i enw Doctor Edwards mor ddwfn fel nas gallai lai na derbyn ei ddysgeidiaeth ar faterion eglwysig, yn ogystal a phynciau athrawiaethol. Gwyddai David Parry am ei edmygedd, a defnyddiodd ei wybodaeth i'w ddiarfogi y noswaith honno.
"Oes ganddoch chi rywun mewn golwg?" ebai Evan Rhys.
"Nac oes," ebai David Parry, "yr wyf yn gadael hynny yn hollol i farn yr eglwys."
"Ond sut y mae'r eglwys i ffurfio ei barn?" ebai Joseph Jones.
"Beth a ddywedwch chi ar hyn, Rolant Owen?"
"Chewch chi ddim gwell at wneud hynny na chyngor yr Apostol Ioan," ebai Rolant Owen.
"Beth ydi hwnnw?"
"Profwch yr ysbrydion." Cymerwyd yr awgrym. Rhoddwyd y mater gerbron yr eglwys, gydag anogaeth i feddwl am dano hyd nes y ceid gweledigaeth eglur. Ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd dilynol, yr oedd yr "ysbrydion gwasanaethgar " a ddeuent ar eu hymdaith Sabothol i'r Cwm, yn cael eu profi," er nas gwyddent hynny eu hunain. **** Yn y cyfamser, yr oedd y Tŷ Capel wedi ei orffen, a dechreuai rhywrai ddyfalu beth oedd gan David Parry mewn golwg pan yn dadleu yn y Pwyllgor am iddo fod yn helaethach, ac yn well adeilad na'r un blaenorol. Yr oedd efe yn arfaethu iddo fod yn "Dŷ Gweinidog," er nad oedd neb arall, o bosibl, yn meddwl am hynny ar y pryd. Nid oedd neb yn ei gyhuddo o dwyll-ymresymiad; ond yr oeddynt yn awgrymu, yn hanner chwareus, fod byw yn yr Amerig wedi gwneud David Parry yn ddyn oedd yn medru gweld gryn dipyn o'i flaen. Fodd bynnag, yr oedd y "tŷ" yn barod. Ond beth am y gweinidog oedd i fyw ynddo, ac i fugeilio'r praidd? Yr oedd amryw frodyr cymeradwy wedi bod yn gweinidogaethu yn ystod y cyfnod yr ydys yn son am dano. Eithr ni ddaeth y weledigaeth eglur y disgwylid am dani. Yr oedd rhai yn dechreu anesmwytho, ac yn awgrymu ei bod yn llawn bryd cael rhywun i fyw i'r "tŷ" newydd.
"Na," meddai Rolant Owen, "gwell ydyw cymeryd pwyll. Fydda i 'n meddwl am hanes Samuel yn mynd i chwilio am frenin ar Israel. Yr oedd o yn gweld meibion Jesse yn fechgyn nobl iawn. Ond yr oedd rhyw lais yn dweyd wrth yr hen broffwyd, —'Cadw'r corn olew am dipyn eto. Dydi'r brenin ddim wedi dwad i'r golwg.' Ond pan ddaeth y llanc gwridgoch i'r tŷ, a ffon y bugail yn ei law, dyma'r llais yn sibrwd yng nghlust Samuel,—' 'Rwan am dani. Dyma'r dyn, eneinia ef.' Ryfeddwn i ddim na fydd rhywbeth tebyg yn hanes yr eglwys yma cyn bo hir."
Tybed fod ysbryd proffwydo wedi disgyn ar hen sant Bryn Goleu? Pam lai? Yr oedd efe yn cerdded llwybr y gweledigaethau, a'i lygaid tua'r wawr. **** Un Saboth, yn nechreu'r gwanwyn, yr oedd gweinidog oedrannus, o'ran arall y sir, wedi methu dod i'w gyhoeddiad, a gŵr ieuanc, newydd orffen ei dymor yn yr athrofa, wedi dod yno yn ei le. Ei enw ydoedd Meredydd Owen, mab i dyddynwr bychan yn ardal Glyn Têg. Yr oedd wedi bod yn y Cwm yn ystod ei "flwyddyn brawf," a gwyddai David Parry, ac ereill, ei fod yn sefyll yn uchel yn ei arholiadau. Cafodd Saboth cysurus, er ei fod yn teimlo mai llanw bwlch yr ydoedd, a bod yr hen weinidog a ddisgwylid yn ŵr o ddylanwad yn holl gylchoedd ei swydd.
Pregethodd yn syml a hollol ddiymhongar. Yr oedd ei genadwri, yn fwyaf neilltuol, at fywyd ieuanc yr eglwys a'r gynulleidfa, ac yn sylfaenedig ar un o eiriau'r Iesu i'w ddisgyblion cyntaf. Nid oedd yn gwaeddi nac yn dyrchafu ei lef, ond yr oedd grym ysbryd yn ei genadwri;—y peth hwnnw sydd yn cyrhaeddyd trwodd o galon y pregethwr i galonnau ei wrandawyr.
Ac yn y seiat, ar ddiwedd y dydd, yr oedd rhyw deimlad distaw yn meddiannu'r frawdoliaeth oedd yn awgrymu fod gair Rolant Owen ar fedr cael ei sylweddoli. Yr oedd y weledigaeth wedi neshau, fel y gwna, yn fynych, heb udganu o'i blaen. "Pan y mynn y daw."
Ac heb yn wybod iddynt eu hunain, rywfodd, dechreuodd y bobl ymddiddan am y peth hwn. Yr oedd David Parry yn awyddus i wybod beth oedd barn Shôn William, a gwnaeth esgus i alw yn y gweithdy un o'r dyddiau dilynol. Ond yr oedd yr hen frawd mor graff ag yntau, a dechreuodd siarad am bethau "yn gyffredinol." Gwelodd David Parry fod yn rhaid iddo "agor y mater" ei hun. "Beth oeddych yn ei feddwl am y pregethau a gawsom y Saboth?" meddai. "Da iawn, ag ystyried mai dyn ifanc oedd o," ebai Shôn William, "ond mi faswn yn hoffi ei glywed yn trin rhyw
bwnc o athrawiaeth, fel y buase yr hen weinidog o Lawr y Ddôl, dase fo wedi medru cyrraedd i'w gyhoeddiad."
"Ydech chi'n peidio disgwyl gormod?" ebai David Parry, yn fwynaidd, "disgwyl i ŵr ieuanc, newydd orffen ei addysg, wneud fel un o weinidogion hynaf y sir? Yr oeddwn i 'n teimlo ei fod yn pregethu ar ei destyn, ac yn gosod allan y wedd ymarferol ar yr Efengyl."
"Ie, ie," meddai Shôn William, "ond gofyn y marn i 'roeddych, onide? Ond peidiwch a thybied am funud mod i yn coll-farnu y pregethwr na'r bregeth. Mi fum yn cael ychydig o 'sgwrs efo fo fore Llun, ac mi ofynnais oedd o wedi darllen gweithiau yr hen Biwritaniaid. 'Doeddwn i ddim yn meddwl ei fod. Fe gymer flynyddoedd i ddyn wneud hynny, fel y clywais Doctor Edwards yn deyd lawer gwaith. Ond yr oedd arna i eisio gwybod sut yr oedd o yn meddwl am y Piwritaniaid. Mae rhyw duedd mewn pobol sydd wedi cael tipyn o ddysg, 'rwan, i siarad yn ddibris am yr hen gewri gynt.
"Be ddeydodd o?" ebai David Parry. Wel, mi ddeydodd yn onest nad oedd wedi darllen llawer arnynt eto, fod gwersi y coleg wedi mynd a'i amser. Ond wedi cael ei anadl ato, meddai, y mae o am brynnu a darllen gweithiau Doctor Owen a Goodwin. Ac yr oeddwn i flŷs a churo ei gefn am feddwl felly am yr hen dduwinyddion enwog."
"Be ddyliech chi am roi cyfle iddo astudio y llyfrau mawr yna, a llyfrau mwy diweddar, efo ni yn y Cwm?" ebai David Parry. Mi gawse eich cynhorthwy chi i feistroli yr athrawiaethau, ac i fedru trin 'pwnc,' fel y byddwch yn arfer deyd."
Nid gweniaith oedd y geiriau hyn. Yr oedd gan David Parry barch calon i allu a gwybodaeth Shôn William, a gwyddai yntau hynny.
"Os ydech chi, a'r brodyr, yn teimlo fod yr adeg wedi dwad i alw gweinidog," meddai, "nid wyf yn ameu nad oes deunydd dyn da a defnyddiol yn y gŵr ifanc yma, ac mi gaiff bob help a fedraf fi ei roi iddo."
Aeth David Parry i'w ffordd yn llawen. Yr oedd wedi ennill Shôn William o blaid y symudiad.
Ac yr oedd Rolant Owen yn barod efo'r corn olew. "Dyn ifanc digon tebyg i'r llanc o Ephrata," meddai, "y mae golwg iach a gwridog arno, ac un felly ddylid gael mewn lle fel y Cwm yma. Dyn fedr gerdded a gwynebu pob tywydd. Mi fum inne yn medru gwneud felly ers talwm. Ac er fy mod i yn gloff a musgrell erbyn hyn, mi fyddaf yn hoffi gweld dyn ifanc yn sionc ac yn ysgafn ar ei droed."
"Rhyw ffansi ydi peth fel ene," meddai Evan Rhys. "Yr hyn sydd yn bwysig i weinidog ydi fod ganddo ben da."
"Eithaf gwir," ebai Rolant Owen, "ond y mae'r Beibl yn rhoi tipyn o le i'w draed o yn gystal a'i ben. 'Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu.'"
"Yr ydw inne yn cymeradwyo y gŵr ieuanc," ebai Edward Edwards, y Felin,
am fy mod yn credu fod ganddo galon hawddgar a da. Y mae hynny o'r pwys mwyaf i 'fugail' ym mhob cysylltiad, ei fod yn serchog a chymdeithasgar, ac yn teimlo dyddordeb, nid mewn llyfre yn unig, ond yn y bobol a'r plant fydd o dan ei ofal. Pob parch i'r Piwritaniaid a'u gweithie ardderchog, ond rhaid i'r 'bugail' wybod am hanes y bobl, a cheisio eu denu i'r porfeydd gwelltog. Ac y mae yr hyn a welais ynglŷn â'r gŵr ieuanc yr ydym yn sôn am dano yn peri i mi synied yn uchel am ei hynawsedd a'i dynerwch. Ac heb y pethe yna nis gall wir ofalu am y praidd, na chyd-ddwyn â'r diffygion sydd yn perthyn iddynt."
Fel yna, drwy ymddiddan a chyfnewid meddyliau, daeth y pwnc yn ddigon aeddfed i'w osod o flaen yr eglwys. "A oeddynt yn cydsynio i anfon cais at y gŵr ieuanc ac i fynd a'r achos i'r Cyfarfod Misol? "
Rhoddwyd arwydd drwy godiad llaw, a chafwyd unfrydedd, o'r braidd, o blaid y cynhygiad.
Ac felly, wedi cyflawni y defodau arferol, y cafodd Meredydd Owen ei alw i fod yn "weinidog" i gapel y Cwm. Yr oedd ei fynediad yno yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes yr ardal, a cheisir adrodd rhannau o hono yn y penodau dilynol.
PENNOD V
Yr Arwerthiant.
NID oedd y tŷ newydd yn gwbl barod pan ddaeth Meredydd Owen i fugeilio'r praidd yn y Cwm. Yn y cyfamser, bu yn trigo mewn lluestai, fel y patriarchiaid gynt,—un oedd Plas y Wern, un arall oedd siop Joseph Jones. A chan nad oedd efe hyd yma wedi teimlo grym yr adnod a ddywed mai "nid da bod dyn ei hunan," nid oedd symud ei lety yn gwneud llawer o wahaniaeth yn ei hanes. A dichon fod hynny yn un rheswm paham yr oedd cynifer o deuluoedd yn ewyllysgar i'w dderbyn, a'i roesawu o dan eu cronglwyd.
Fodd bynnag, yr ydoedd yn ddealledig, pan fyddai y tŷ newydd yn barod, mai y "gweinidog " oedd i fynd iddo i fyw. Nid ydoedd yn dŷ mawr na gorwych, ond yr oedd yn fwy ac yn well o gryn lawer na'r hen "Dŷ Capel." Ond gan mai gŵr sengl, hyd yma, oedd y gweinidog, ymddangosai y tŷ newydd yn rhy fawr, rywfodd, ac yr oedd cryn ddyfalu ynghylch y dyfodol. A oedd efe yn debyg o roddi "galwad i rywun i ofalu am ei dŷ?" Cawsai lawer " cyngor" ar y dull goreu o weithredu, pe y gofynasai am dano. Dewisodd gadw'r gyfrinach iddo ei hun. Nid oedd yn meddwl am i'r tŷ fod yn wag, ond yr oedd yn awyddus am iddo fod yn "Dŷ'r Capel," yn ogystal a thŷ'r gweinidog. Perthyn i'r "achos" yr oedd y tŷ yn ei olwg ef, ac ewyllysiai roddi yr ystafell oreu oedd ynddo at wasanaeth yr "achos," fel y gallai'r brodyr gyd-gyfarfod rhwng y "moddion " ar y Saboth, a nosweithiau'r wythnos, megis yn y dyddiau gynt. A phe buasai'n bosibl cael Marged Parri i ofalu am dano ef, a phopeth arall, cawsai yr hen drefn ei gogoneddu dan yr oruchwyliaeth newydd. Gresyn na fuasai hynny yn bosibl! Dyna oedd delfryd Meredydd Owen, ac yr oedd yn cydgordio â theimladau y sawl oedd yn arfer mynychu yr hen "dŷ capel," pan fyddai gwahanol deuluoedd yr ardal yn dod yno yn eu tro i "gadw'r mis."
Ond tra yr oedd pethau yn ymddangos yn lled niwliog ac aneffiniol ynglŷn â'r cwestiwn dyrus hwn, cafodd sylw y bobl ei droi, yn anisgwyliadwy, i gyfeiriad arall. Ac fel hyn y bu. Yr oedd y rhan fwyaf o'r tir, ffermdai, a'r tyddynod yn y Cwm yn perthyn i ystâd Gwynfaes, a dyna hanes Pentre y Rhyd, gan mwyaf. Ychydig o eiddo rhydd-ddaliadol oedd yn y Cwm, ac eithrio Plas y Wern, ac ychydig o dai annedd yma a thraw. Nid oedd llawer o gwyno oherwydd y peth; yr oedd Yswain y Gwynfaes yn dir-feddianydd caredig; nid oedd y rhenti yn afresymol o uchel, a darparai adeiladau da ar gyfer dyn ac anifail. Ond bu efe farw, a daeth yr ystâd yn eiddo ei ddisgynyddion. Nid oeddynt hwy yn byw yn y wlad, nac yn bwriadu cario'r traddodiadau yn eu blaen. A rhyw ddiwrnod, daeth y newydd i'r Cwm fod y rhan fwyaf o ystâd y Gwynfaes i fynd dan y morthwyl. Parodd hyn gryn gyffro, a disgwylid ei fod yn gamarweiniol. Ond yn bur fuan, gwelid yr hysbysleni mawrion ar furiau'r Pentre, yn rhoddi manylion yr arwerthiant. Creodd hyn anesmwythder cyffredinol. Ofnid y buasai'r bobl oedd wedi eu geni a'u magu yn y Cwm yn colli eu cartrefi, ac yn gorfod troi allan i roddi lle i estroniaid. Cyfarfu y ffermwyr â'u gilydd, a phenderfynwyd nad oedd neb i ymddwyn yn anfrawdol. Os byddai tenant yn awyddus i brynnu ei dyddyn, nid oedd yr un o'i gymdogion i gynnyg yn ei erbyn, nac i godi y pris uwchlaw yr hyn oedd yn wir werth y tir. Cytunwyd ar hyn, ac y mae'n dda gennym wybod, wedi i'r helynt fynd drosodd, fod y "cyfamod wedi ei gadw yn ffyddlon, ac na wnaed "brad Cymru fâd," gan neb o drigolion y Cwm.
Ond nis gallai pobl y fro feddu un dylanwad ar ddieithriaid oedd yn berchen golud, ac yn awyddus i fod yn "dirfeddianwyr." Daeth amryw o'r rhain, yn lled lechwraidd, i'r Cwm yn ystod y dyddiau oedd yn rhagflaenu'r arwerthiant. Ysbiwyr oeddynt, wedi dod i weld "ansawdd y tir." Daeth un ohonynt heibio Tyddyn Drain, ac wrth weld Ann Llwyd yn taenu dillad" ar glawdd yr ardd, arhosodd wrth y llidiart, a gofynnodd am lymaid o ddiod. Meddyliodd Ann Llwyd mai teithiwr lluddedig ydoedd, ac yn ei diniweidrwydd, gofynnodd iddo ddod i'r tŷ, i orffwyso ychydig. Pe y gwybuasai beth oedd ei neges, a phaham yr holai am y lle, a'i hanes, prin y cawsai roddi ei droed ar y buarth, heb sôn am gael ei wahodd i'r tŷ.
Gwyddid fod perchenogion chwarel "Moel y Rhedyn" yn dra awyddus i brynnu rhagor o dir er mwyn eangu terfynau'r gwaith, ac yr oedd rhai o'r ffermydd oddi amgylch yn debyg o gael eu cyfyngu, os nad eu cymeryd yn gyfangwbl gan Gwmni'r chwarel. Ac felly y troes pethau allan. Prynwyd y tir oedd rhwng y "ffordd fawr" a Moel y Rhedyn gan y Cwmni, a daeth y ffermydd yn eiddo iddynt hwy. Nid oedd hyn yn golygu fod y tenantiaid yn gorfod ymadael; ond yr oedd y tir, o hynny allan, at alwad y Cwmni, os byddai ei eisieu i ddibenion y chwarel. Troes pethau yn well na'r ofnau, yn y rhanbarth yma, gydag un neu ddau o eithriadau.
Yr oedd hen dŷ o'r enw Hafod Las, un o'r ychydig aneddau rhydd-ddaliadol yn y Cwm,-ar ymylon Moel y Rhedyn, ac erbyn hyn yr oedd tomen y chwarel yn lled agos ato. Awyddai'r perchenogion brynnu'r tŷ, ac yna buasai'r ffordd yn rhydd i estyn terfynau y gwaith."
Ac wedi iddynt brynnu'r tir oedd o amgylch yr Hafod Las, yr oeddynt yn fwy awyddus i feddiannu'r hen dŷ, a'i gladdu yn barchus o dan domen y chwarel. Perchennog yr Hafod Las ydoedd Rhobet Pirs, yr hwn oedd, weithian, yn hen a methiantus, ac yn dibynnu am ymgeledd ar garedigrwydd ei unig ferch, Elin Pirs. Eglwyswr oedd Rhobet Pirs, ond aelod yn y capel oedd Elin. Pan yn abl i fynd oddiamgylch, treuliai efe lawer o amser yng nghwmni'r " person," y Parch. Hugh Williams, gŵr o sir Aberteifi, a hen lanc," yn ol ei "ddaliadau," am fywyd cysurus a di-ofalon. Erbyn hyn, yr oedd y person a Rhobet Pirs wedi cyrraedd gwth o oedran; ac, yn bur hynod, bu y ddau farw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd. Ac yr oedd hynny o fewn amser byrr i'r adeg y bu'r arwerthiant mawr yn y Cwm. Ac wedi i ddyddiau'r arwyl fynd drosodd, ac i Gwmni'r chwarel brynnu y tir, daeth cyfreithiwr i ymweld âg Elin Pirs i ofyn ei hewyllys da. Dywedai fod ansicrwydd yn bod am y terfynau rhwng y tir a brynwyd a'r hyn oedd yn perthyn i'r Hafod Las. A fuasai hi mor garedig a gadael iddo weld y "gweithredoedd? " Nid oedd yn meddwl eu cymeryd ymaith, dim ond edrych drostynt yn ei phresenoldeb hi, er mwyn tynnu y ffiniau yn dêg.
"Mae'n ddrwg gennyf eich trafferthu fel hyn," ebai'r cyfreithiwr, "a chwithau yn eich profedigaeth. Ond, gyda'ch caniatad, galwaf yma yfory, wedi i chwi gael hamdden i gael y deeds at eu gilydd."
Aeth ymaith yn foesgar ddigon, ac aeth Elin Pirs i chwilio am yr hen weithred oedd yn nghadw yn y gist dderw. Ond er ei syndod a'i braw, nid oedd hi yno. Goleuodd ganwyll, manwl chwiliodd bob twll a chornel; ond nid oedd hanes am dani! Erbyn bore drannoeth, yr oedd wedi chwilio pob dror a chwpwrdd yn y tŷ, ond nid oedd yr hen femrwn i'w gael yn un man!
Daeth y cyfreithiwr yn ol ei air. Gwelai fod Elin Pirs mewn trallod meddwl, deallodd yn fuan nad oedd y "weithred " ar gael. Cymerodd arno ei chysuro, ond yr oedd mwy o ragrith nag o onestrwydd o dan ei eiriau.
"Mae'n ddrwg gennyf drosoch," meddai yn frysiog, "ond fel cyfreithiwr, dylwn ddweyd wrthych fod yr hawl i eiddo yn dibynnu ar fod y deeds yn eich meddiant, neu mewn rhyw le y gellwch gael gafael arnynt. Yn awr, nid oes gennych ddim i ddangos mai chwi bia'r Hafod Las, ac nis gellwch ei werthu fel yr eiddoch eich hun. Y peth gore i chwi ydyw derbyn ewyllys da y Cwmni, a chwilio am dŷ yn y Pentre."
Disgynnodd y geiriau hyn fel talpau o iâ ar galon Elin Pirs; ond, yn ei dychryn a'i phenbleth, cytunodd â'r cynnyg, a llaw-nododd y papur a roddid iddi gan gyfreithiwr y Cwmni. Nid oedd y swm a "ganiateid" yn agos i werth y tyddyn, ond beth ellid wneud ? Yr oedd "gweithredoedd " Hafod Las wedi eu lladrata, neu wedi eu colli am byth. Tybed? Y mae gan bethau o'r fath ryw ddull hynod o "adgyfodi" ambell dro. Ond rhaid gadael yr Hafod Las o dan domen y chwarel ar hyn o bryd, a dychwelyd at yr hanes oedd gennym mewn llaw.
Yn ei dro, daeth "Tyddyn Drain" i gael ei drafod yn yr arwerthiant. "Faint am y lle prydferth hwn?" ebai'r arwerthwr.
Yr oedd David Parry wedi cyflenwi Harri Llwyd, yn ychwanegol at yr hyn a feddai ef ei hun, â'r "cyfalaf" i brynnu'r tyddyn. Yr oeddynt wedi gosod y marc yn ddigon uchel, fel y credent, ac nid oedd neb yn debyg o gynnyg yn erbyn, ac ystyrrid y fargen yn sicr. Ond, er syndod, dyna lais dieithr yn "codi" ar y cynhygiad blaenorol. "Cododd" Harri Llwyd bum punt yn uwch nag yr oedd wedi meddwl. Ond yr oedd y gŵr dieithr yn "codi" pum punt arall yn y fan. Edrychai Harri Llwyd yn synllyd.
"Mynd," ebai'r arwerthwr, "yn mynd, —wedi mynd." A'r gŵr dieithr oedd piau "Tyddyn Drain." Aeth Harri Llwyd ymlaen ato, a gwelodd Ann, ei wraig, ar unwaith mai efe oedd y dyn fu yn ei holi hi ynghylch y "tŷ."
"Fedrwch chi ganiatau i mi gael byw yno fel tenant?" meddai Harri Llwyd.
"Na," meddai'r dyn, "rhaid i chi ymadael ar ddiwedd y tymor. Yr ydw i 'n meddwl dod i fyw yno fy hun. Hen gartre fy nhaid oedd Tyddyn Drain, ac yr wyf wedi cael dymuniad mawr fy oes,— dod yn berchennog y lle y bu fy henafiaid yn byw."
Nis gallai Harri Llwyd, ac nis gallai neb arall, deimlo yn ddig at y dyn dieithr wedi gwybod yr holl fanylion. Ond pa le yr oedd Harri ac Ann Llwyd i gael cartref? Aeth Meredydd Owen i edrych am danynt wedi clywed yr helynt, a chyn gorffen yr ymgom, dywedodd wrthynt yn siriol,—
"Y mae gen i hanes tŷ i chwi, ac mi gewch fynd iddo pan y mynnoch." "Ydi y rhent yn peidio bod yn uchel ? " meddai Ann Llwyd. "Nag ydyw, llai na hwn o gryn dipyn, ac eto, y mae yn fwy tŷ. 'Does neb wedi bod yn byw ynddo o'r blaen. Y chwi a finnau fydd y tenantiaid cyntaf. Ddowch chwi?"
**** Ac felly y daeth Ann a Harri Llwyd i gadw'r tŷ capel, ac i ofalu am gysuron y gweinidog. Credai Marged Parri fod Rhagluniaeth wedi goruwch-reoli cyffro yr arwerthiant, a cholli Tyddyn Drain, er mwyn lles yr "achos yn y Cwm. A phe buasai ymdeithydd yn digwydd pasio'r tŷ, wedi i Marged Parri glywed yr hanes uchod, gallasai ei chlywed yn hymio "canu emyn Charles, Caerfyrddin,
"Rhagluniaeth fawr y nef,
Mor ryfedd yw
Esboniad helaeth hon
O arfaeth Duw;
Mae'n gwylied llwch y llawr,
Yn trefnu llu y nef,
Cyflawna'r cwbl oll
O'i gyngor Ef."
PENNOD VI.
Pentre y Rhyd
Y MAE'R "darllennydd hynaws," fel y dywedir am dano, yn gwybod, neu, dylai wybod, fod Capel y Cwm,—yr hen a'r newydd, encyd o ffordd ar y de-orllewin i'r Pentre. Nid oedd hyn yn boddhau pawb oll, ond yr oedd Shôn William wedi trechu yr wrthblaid yn dêg, ac wedi profi fod y capel yn y lle yr oedd Rhagluniaeth wedi bwriadu iddo fod. Ar un cyfnod, yr oedd mwy yn dod i'r capel o gyfeiriad y wlad, gwastadedd, a llethrau'r Cwm, nag o'r Pentre cyfagos. Ond, yn yr adeg yr ydym yn son am dani, yr oedd pethau wedi graddol gyfnewid, a'r ddwy adran o'r eglwys a'r gynulleidfa yn lled gyfartal. Ac er mwyn adwaen rhai o'r cymeriadau, awn am dro, gyda'r gweinidog newydd, ar ei ymweliad â'r praidd. Y mae enw'r Pentre, "Pentre y Rhyd,"—yn awgrymu fod afon yn rhywle gerllaw. Afon lled fâs ydyw yn y llecyn hwn; ac, ar dywydd braf, gellir ei chroesi yn hollol ddiberygl, dim ond cadw ar gerrig sarn y Rhyd." Felly y bu yr arfer am gyfnod, ond pan wnaed ffordd newydd ar hyd y Cwm, adeiladwyd pont faen gadarn ar draws yr afon. Ond arhosodd enw y Pentre fel cynt, Pentre y Rhyd. Nid oedd nemawr ddim hynodrwydd hanesyddol yn perthyn iddo. Dywedid fod un o awdwyr clasurol Cymru Fu wedi bod yn trigiannu ynddo am ysbaid fel "person y plwy." Gallesid meddwl ar ffurf y Pentre mai eglwys a mynwent y plwy oedd yno gyntaf. Safai y rhai hyn ynghanol y Pentre, ac yntau wedi cyfodi yn araf a distaw o'u hamgylch. Yr oedd nifer o goed yw cysgodfawr yn lledu eu breichiau dros furiau y fynwent; ac ar nosweithiau gaea', clywid sŵn y gwynt yn ocheneidio drwyddynt fel cwyn hiraeth am a fu. Parai yr olwg arnynt i ddyn dieithr deimlo rhyw ias o bruddglwyf yn ymaflyd ynddo. Ond nid pobl bruddglwyfus oedd yn byw ym Mhentre y Rhyd. Fuasech chwi ddim yn dweyd hynny am John Dafis, perchennog gwesty'r "March Gwyn," er fod y tŷ hwnnw ar gyfer porth y fynwent. Yr oedd John Dafis yn fwy o borthmon nag o dafarnwr, a chyn i ddeddf cau'r tafarnau ar y Saboth ddyfod i rym, byddai ef yn cau ei dŷ, ac yn gwrthod cwsmeriaeth y dieithriaid sychedig a ddeuent yno ar eu tro. Gŵr arall o'r un anianawd oedd William Hamer, y gof. Yr oedd yr efail yn ganolbwynt i'r llanciau ddod iddi ar fin nos, a difyr oedd yr hwyl a'r sgwrs. Ond os deuai rhyw was fferm yno, ac os ceisiai ymorchestu, gan arfer geiriau bras, neu lwon a rhegfeydd, safai William Hamer yn ymyl yr engan, a'i forthwyl yn ei law, ac edrychai ym myw llygad y llanc. Fel rheol, byddai hynny yn ddigon. Ond, os byddai'r troseddwr yn rhy ddwl, neu yn rhy ystyfnig i ddeall yr awgrym, byddai y gôf yn dangos y drws iddo, ac allan y byddai'n rhaid iddo fynd yn ddiymdroi. Nid oedd William Hamer, ar y pryd, yn "proffesu crefydd," ond yr oedd yn geidwad moes yn y Pentre. Ystyrrid fod dyn ieuanc a gawsai ei "droi o'r efail" wedi ei gosbi mor bendant a phe cawsai ei droi allan o'r eglwys." Daeth William Hamer a Meredydd Owen yn gyfeillion calon, a thrwy y cyfeillgarwch hwnnw, yn ol llaw, y daeth y gôf yn rhywbeth mwy na gwrandawr" achlysurol yng Nghapel y Cwm. Ar ben ucha'r stryd, yr oedd siop Joseph Jones, ac yr oedd honno, fel y llenllian, yn cynnwys "pob rhyw beth" oedd yn eisieu ar bobl y Pentre a'r wlad oddiamgylch. Yr oedd y siop yn hen sefydliad, a Joseph Jones yn un o'r dynion prysura yn y lle. Yn ddiweddarach, daethai Hugh Morgan, y teiliwr, i fyw i'r Pentre, a rhoddes y geiriau clasurol, Tailor and Cutter, uwchben ffenestr ei dŷ. Ac ychydig yn îs i lawr, yr oedd gweithdy adnabyddus Shôn William y crydd. Ymhellach ymlaen yr oedd yr ysgol ddyddiol, ac yna deuwch at Felin y Rhyd. Dyna'r Pentre, ac yr oedd Meredydd Owen yn cael derbyniad a chroeso gan bob gradd. Disgwylid i'r gweinidog newydd gefnogi "nwyddau cartrefol," a phrynnu yr oll oedd yn eisieu ymhlith ei bobl. Ac nid oedd hynny yn beth anhawdd ar yr olwg gyntaf, oherwydd un o bob masnach a galwedigaeth oedd yno,—un crydd, un siopwr, un gôf, un melinydd (ac, yn rhyfedd, yr oedd hwnnw yn gwerthu glo!) Ond syrthiodd y gweinidog ieuanc i dipyn o brofedigaeth gyda'r teiliwr. Aeth i weithdy Hugh Morgan i gael ei "fesur" am bâr o ddillad. Gwyddai fod y gŵr da wedi bod yn "mesur" ei bregeth, a thybiai y buasai "mesur" y pregethwr yn fwy o fantais na dim arall. Ond, rywfodd, anghofiodd fod y deilwriaeth yn wahanol i'r crefftau ereill yn y lle. Yr oedd mwy nag un yn ei chynrychioli. Hugh Morgan oedd unig deiliwr gwarantedig Pentre y Rhyd. Ond yr oedd Ifan Morus, Llys Awel, yn dilyn yr un alwedigaeth barchus ynghanol y wlad. Ac yr oedd y ddau frawd yn aelodau yng Nghapel y Cwm. Ni feddyliodd Meredydd Owen am yr anhawsder ar y pryd, ac ni fwriadai am roddi tramgwydd, ond yr oedd y ddau frawd yn lled eiddigus o'u gilydd, ac yn barod i "dalu'r pwyth y naill i'r llall. Ymffrostiai Hugh Morgan yn ei "gwsmer" newydd, ac aeth rhywun ar ei union i Lys Awel i hysbysu y peth. Yr oedd Ifan Morus, ar y pryd, yn tacluso gwrych yr ardd.
"Wedi troi yn arddwr?" meddai'r ymwelydd.
"Wel, 'doedd dim rhyw daro am ddillad newydd yr wsnos yma," meddai
yntau, ac yr oedd eisieu gwneud tipyn o drefn o gwmpas y tŷ yma." Hugh Morgan sy'n brysur," ebai'r cludwr chwedlau. Wrthi ddydd a nos."
Ho," meddai Ifan Morus, peth digon amheuthyn yn ei hanes o. Be sydd wedi digwydd? Gwneud dillad erbyn rhyw gynhebrwng y mae o?"
"Nage, gwneud siwt newydd i Mr. Owen, y gweinidog, ac y mae i fod yn barod erbyn y Sul nesa."
"O," ebai'r teiliwr, "fel ene y mae hi, aie? Mi gawn weld sut y bydd hi'n ffitio."
Ac yna ail ddechreuodd Ifan Morgan ar y gorchwyl o dorri'r gwrych.
Tybiai y chwedl-gludwr y cawsai gwpaned o dê am ei lafur, ond yn hynny yr oedd yn camgymeryd. Ni wahoddwyd ef i'r tŷ. Yr oedd Ifan Morus yn crynhoi ei holl sylw ar ei gryman a'r gwrych drain.
Y Saboth dilynol, yr oedd y siwt newydd yn y pulpud, a Hugh Morgan yn porthi y gwasanaeth, ac yn edmygu ei waith ei hun. Ond yr oedd Ifan Morus yn absennol drwy'r dydd. Yr oedd hynny yn beth lled eithriadol yn ei hanes. A phan ddaeth Saboth wedyn, yr oedd yn anweledig. Un o'r rhai cyntaf i ddehongli ei absenoldeb ydoedd Marged Parri, a phan alwodd Meredydd Owen i edrych am dani, wrth ddychwelyd o'i gyhoeddiad fore Llun, cafodd yntau "air o eglurhad."
"Yr ydech chi wedi cael ysgol dda," meddai Marged Parri, "ond y mae ene un ysgol y rhaid i ni fod ynddi yn hir iawn, a dydech chithe ddim wedi bod ryw lawer o amser yn honno?"
"Pa ysgol ydych yn ei feddwl, Marged Parri?"
Ysgol profiad. Ac y mae ene wers fach ar eich cyfer yr wsnos yma."
"Beth ydyw honno?"
"Mynd i edrych am Ifan Morus, y teiliwr. Dydi o ddim wedi bod yn y capel ers dau Sul."
"Felly'n wir. Ydi o yn wael?
Na, chlywes i mo hynny. Wedi dampio tipyn ar ei ysbryd y mae o, debyga i. A chi yn unig, Mr. Owen bach, feder dynnu'r damp allan o hono fo. Mi faddeuwch i mi am fod dipyn yn blaen. 'Doedd gynnoch chi ddim help. Ond dasech chi wedi deyd wrtha i eich bod yn mynd i ordro siwt o ddillad, mi faswn yn eich cynghori, y tro cynta fel hyn, i fynd at Ifan Morus. Dydw i ddim yn deyd am funud ei fod yn well teiliwr na Hugh Morgan. Ond y mae o yn aelod crefyddol yn y capel yma flynyddoedd lawer cyn i Hugh Morgan ddwad i'r Pentre i ddechre busnes. Wyddech chi mo hynny, mae'n eitha tebyg. Ond y mae Ifan wedi cymeryd y peth ato yn o sownd, a gwell i chi fynd i edrach am dano. Y cam cynta ydi'r goreu efo phethe fel ene. Dydw i ddim yn meddwl y bydd o yn gâs, ond mi fydd yn rhyddhad iddo gael siarad efo chi yn bersonol."
"Diolch i chwi am eich cyngor," ebai Meredydd Owen. "Af yno heddyw'r prynhawn. Yn hollol ddifeddwl y gwnaethum y peth, ond yr wyf yn disgwyl fy mod wedi dysgu un wers yn ysgol profiad."
Ond pan ddaeth yr adeg, nid peth mor hawdd oedd cychwyn. Ac eto, yr oedd yn rhaid cyflawni yr addewid a roddes i Marged Parri. Ar y ffordd, cyfarfu Meredydd Owen a David Parry, Plas y Wern. Gwelai hwnnw ar unwaith fod rhywbeth yn blino'r gweinidog. Yr oedd ei wyneb yn brudd, a'r sirioldeb arferol wedi ffoi.
"I ble'r ydych yn troi?" ebai David Parry. "I Lys Awel. Mae arnaf ofn fy mod wedi rhoddi achos tramgwydd i Ifan Morus. Mi ddigwyddais."
"Peidiwch a phoeni ynghylch y peth," ebai David Parry. "Yr ydw i 'n gwybod yr hanes, ac mi ellwch fynd i Lys Awel yn galonnog. Dydi Ifan Morus ddim yn gecryn, er fod tipyn o eiddigedd rhwng Hugh Morgan ac yntau fel teilwriaid. Ewch yno ar bob cyfri, a dowch heibio acw wrth fynd yn ol, gael imi glywed sut y bu."
Aeth Meredydd Owen yn ei flaen, a'i feddwl dipyn yn ysgafnach. Y mae Llys Awel, fel yr awgryma ei enw, ar lechwedd gallt, ac nid oes un tŷ arall yn agos iawn ato. Gallesid tybied, ar yr olwg gyntaf, ei fod yn lle anfanteisiol i d dyn wneud "busnes." Ond yr oedd Ifan Morus, ar un cyfnod, yn arfer mynd i weithio ei grefft yn y ffermdai cylchynol, yn ol arfer teilwriaid gwlad. Erbyn hyn, yr oedd y ffasiwn wedi newid, ac yntau yn gwneud gwaith i'w hen gwsmeriaid yn ei dŷ ardrethol ei hun. Nid oedd ganddo arwydd-fwrdd uwchben y drws, fel Hugh Morgan, ond yr oedd tipyn o frethynau yn y ffenestr, a dau neu dri o fashion plates, wedi bod yn y "ffasiwn" ryw dro! Yr oedd ffenestr y gweithdy yn wynebu'r ffordd oedd yn arwain at y tŷ. A chyn i Meredydd Owen gyrraedd rhiniog y drws, clywai lais Ifan Morus yn gwaeddi,—
"Dowch i mewn."
Ac felly yr aeth.
Estynnodd y teiliwr ei law yn siriol. Esgusodwch fi am beidio dwad i lawr oddiar y bwrdd," meddai. Yr ydwyf yn digwydd bod yn brysur iawn heddyw. Ond y mae'n dda gen i eich gweld chi. Mi deimles dipyn am i chi fynd at Hugh Morgan i gael eich siwt gynta fel gweinidog. Ond yr ydw i wedi cael esboniad."
Wel, dweyd y gwir," ebai Meredydd Owen, "i hynny y daethum yma. Fynaswn i ddim a pheri tramgwydd, ac y mae'n ddrwg gen i fod wedi anghofio hen aelod."
Popeth yn iawn, Mr. Owen. Yr ydw i yn dallt y cwbl, ac, os byw ac iach, mi fyddaf yn y capel y Sul nesa'. Mi fydd yno rywun arall efo siwt newydd, ac mi gewch weld prun ai Ifan ai Hugh feder 'ffitio' oreu, er ei fod yn galw ei hun yn Tailor and Cutter. Ond 'gwyn pob newydd' ydi hanes y byd yma efo theilwriaid fel popeth arall. Ac fel yna y pery yn ol pob tebyg."
Yr ydych wedi deffro fy nghywreinrwydd, Ifan Morus. Braidd na ofynwn i chwi pwy sydd yn mynd i wisgo y siwt newydd? Ydyw, y mae yn frethyn dan gamp, a mae arnaf ofn y caf fy nhaflu i'r cysgod yn lân. Pwy all o fod, tybed? Ydi o 'n flaenor?"
"Ydi, ac yn ŵr bonheddig hefyd. Neb amgen na David Parry, Plas y Wern." Aeth Meredydd Owen o Lys Awel mor lawen a'r ehedydd. Yr oedd yn dda ganddo fod Ifan Morus wedi dyfod ato ei hun. Ond beth am David Parry? Gwyddai nad oedd arno ef un angen am "siwt o ddillad " ar y pryd. Rhoddodd archeb am dani er mwyn iachau ysbryd Ifan Morus, ac er mwyn esmwythau llwybr ei weinidog. Diolch am gyfaill mor bur," ebai Meredydd Owen, tra y canai y fwyalchen ar goeden gerllaw.
PENNOD VII.
Bardd o'r Cwm.
NID oes odid ardal yng Nghymru heb ei bardd. Dichon fod yno fwy nag un, canys y mae'r dwymyn farddol, fel llawer twymyn anianyddol, yn dueddol i ymledu, ac nid oes swyddog iechydol a fedr roddi atalfa ar ei rhawd.
Ond, yn y Cwm, ar yr adeg yr ydys yn son am ei neilltuolion meddyliol a moesol, nid oedd ond un brawd y gwyddid hyd sicrwydd ei fod yn arfer "barddoni." Ei enw bedydd oedd John Wyn, a'i gartre oedd Tŷ Mwswg. A phriodol oedd yr enw. Aneddle wledig, hen ffasiwn; rhan o'i barwydydd hyd eu hanner yn y ddaear, a'r mwswg gwyrddlas fel carped esmwyth yn gorchuddio'r tô.
Cymeriad lled wreiddiol oedd John Wyn, a dichon mai hynny oedd yn cyfrif am ei ddawn farddonol, a'i ddull o fyw,
"Un rhyfedd yw bardd ym mhob oes."
Pa bryd y dechreuodd efe deimlo cyffyrddiadau yr awen ar ei ysbryd, nis gellid dweyd hyd sicrwydd. Y mae'n lled debyg iddo gael ei eni'n freiniol, fel pob gwir fardd. Ond yng nghylchwyl "Soar," yr hon a gynhelid ar ddyddgwyl Dewi, yr enillodd y "wobr" gyntaf. Ei ffugenw ar yr achlysur pwysig hwnnw ydoedd Bardd o'r Cwm, ac wrth yr enw hwnnw y cafodd ei "urddo" yn Eisteddfod fawr Llan Ysgaw.
Bu yn cystadlu wedyn; ond nid oedd y beirniad yn ddigon craff i adnabod yr hyn sydd
"O'r un waed a'r awen wir."
Rhoddai fwy o bwys ar gystrawen, a sillebiaeth, nag ar feddyliau awenyddol. Ac wedi darllen y cyfansoddiad a fernid yn fuddugol, a gweld mor amddifad ydoedd o ysbryd y "peth byw," penderfynodd John Wyn na chollai amser gyda chystadlu, ond y canai yn ei ddull ei hun, ac ar destynau fyddent yn cyddaro â'i anian ac â'i ddawn.
Anfonai y darnau hynny, yn eu tro, i'r newyddiadur a ddarllenid yn yr ardaloedd, —Llais y Bobl. Byddai'r golygydd, gŵr oedd yn adwaen barddoniaeth, yn ei roesawu yn wastad i "lethrau Parnassws," ac i fysg yr "etholedigion cymeradwy." Yn y modd yma, daeth enw "Bardd o'r Cwm" yn air teuluaidd yn y wlad.
Ac er mwyn cael mantais i ddatblygu ei awen, a gwasanaethu ei ces yn well, arweiniwyd ef, yn y man, i newid ei gwrs mewn bywyd. Yr oedd tipyn o dir yn perthyn i Dŷ Mwswg, a thra yr oedd ei fam yn fyw, ceid y bardd yn ymboeni gyda'r gwaith cartrefol o drin y ddaear, a gofalu am ddwy, neu dair, o wartheg godro. Ond nid oedd yn rhagori gyda gorchwylion o'r fath. Yr oeddynt o'r ddaear yn ddaearol, ac yntau yn cael ei gipio'n fynych i fyd y drychfeddyliau. Rywbryd, yn y blynyddau hynny, daeth yn fardd y "rhiangerddi." Cyfansoddodd gân serch na fuasai raid i Geiriog gywilyddio ei harddel, i "Ferch yr Hafod." Ond syrthiodd i'r un amryfusedd a Hywel gyda Myfanwy,
Os disgyn ei lygad ar ferch,
Prydyddu wnaiff ef iddi hi,
Yn lle mynd a siarad ei serch."
Anfonodd y cyfansoddiad yn gyfrinachol i ferch yr Hafod, eithr ni fu, ar y pryd, yn llwyddiannus yn ei neges. Cadwodd Elin Pirs y gân yn barchus, a dichon y deuai'r dydd i "ateb yn gadarnhaol."
Ond wedi colli ei fam,—hen wraig ddiwyd a darbodus,—cafodd y bardd ei ado ei hunan. Yn yr unigedd hwnnw, fodd bynnag, y cafodd weledigaeth ar ddyfodol ei oes. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, ac yn arfer derbyn amryw o'r cylchgronau Cymreig. Efe, hefyd, oedd dosbarthwr lleol Llais y Bobl, a phan ddaeth y trafaeliwr heibio un o'r wythnosau dilynol, cafodd John Wyn gyfle i fynegi ei feddwl, ac i ddweyd ei fod yn awyddus i ddechreu tipyn o fusnes fel "gwerthwr llyfrau."
Oeddych chi'n bwriadu symud i fyw i Bentre y Rhyd? ebai 'r trafaeliwr. Lle ychydig o'r neilltu ydyw hwn i gadw siop. Y mae yn lled agos i'r ffordd, a gallech roddi hysbyslen gyferbyn â'r tŷ. Ond gwell fuasai rhyw le ynghanol y Pentre, os gellid ei gael."
"Na," meddai'r bardd, "dydw i ddim am symud o fy hen gartre nes y gwela i sut y try pethe allan. Fy syniad i ydi hwn,—mynd a bwndel o lyfrau ar fy ysgwydd, a'u gwerthu, os gallaf, yn y ffermydd a'r tai yma ac acw, ar hyd y wlad."
Syniad da iawn," ebai'r trafaeliwr. Fel yna y byddai'r hen lyfrwerthwyr yn arfer gwneud, ond ychydig ohonynt sydd i'w cael erbyn heddyw. Byddent yn galw heibio'r bobol, ac yn codi stondin mewn ffair a marchnad i werthu llyfrau. Ond beth a wnewch chwi efo'r tyddyn yma?"
"Yr wyf am 'osod' y tir a'r beudai, ac yna gallwn fynd a dod yn ol fy ewyllys."
Wel, y mae'r peth yn werth ei dreio. Edrychwch dros y catalog hwn o'n swyddfa ni. Y mae ynddo ddigon o ddewis i chwi,—gweithiau safonol, a llyfrau newyddion, poblogaidd."
Beth fuasech chwi yn ei gynghori?" ebai John Wyn. "Y mae gen i ugain punt yn y tŷ, ac yr wyf yn barod i brynnu gwerth cymaint a hynny o lyfrau, a thalu ymlaen llaw."
Dyna beth lled anghyffredin," ebai'r trafaeliwr, "ond mi gewch ddiscownt da. Hwyrach y buasai gwerth deg punt yn ddigon y tro yma, ac mi gewch weld sut y byddwch yn dod ymlaen."
Dewiswyd y llyfrau, a daethant yno ymhen yr wythnos. Dechreuodd John Wyn ar ei yrfa gyhoeddus fel llyfrwerthwr. Parodd y peth gryn syndod am ennyd, a dyna oedd testyn y siarad yn y Cwm,fod John Wyn wedi troi yn werthwr llyfrau.
"Dydi o ryfedd yn y byd," ebai Marged Parri. "Wydde fo fawr am drin tir, ac wedi colli ei fam, nid oedd ganddo neb i'w osod ar waith. Ond y mae o yn gwybod am lyfre, ac os meder o ddenu'r llanciau i brynnu ambell i lyfr, a'i ddarllen, mi wna les mawr, a mi feder gadw ei hun, 'does bosib. Un od oedd John bob amser, ond fu o erioed yn segura nac yn diogi. Piti fod Elin Pirs wedi peidio mynd i Dŷ Mwswg, pan ofynnodd o iddi briodi; ond fedre hi ddim gadel ei thad, ac yr oedd yn rhaid iddo yntau gadw cartre i'w fam. Ac eto, mi ddyle dyn fel John Wyn gael rhywun i ofalu am dano ac edrych ar ei ol. Mae'r bobol yma sy'n arfer 'prydyddu' yn anghofio popeth,—anghofio byta, chysgu, fel pobol ereill. Yr oedd Catrin Wyn yn cael helynt ofnatsen efo John pan ddoi y "ffit" arno. Byddai yn rhaid iddi afel yn ei ysgwydd, weithie, a'i lusgo fo at ei fwyd. Sut y gwna fo ei hun, druan, 'dwn i ddim. Gobeithio'r gore, yntê? ****
Cafodd gobeithion Marged Parri eu sylweddoli'n lled dda, ar y cyfan. Yr oedd dau ddynsawd, rywfodd, wedi cydgyfarfod yn y gwerthwr llyfrau. Fel bardd, yr oedd yn eithaf diofal am lawer o bethau. Ond yr oedd John Wyn yn ddyn ymarferol a gwyliadwrus ar ei fuddiannau personol. Meddai ddawn i werthu llyfrau, a chadwai ei gyfrifon yn gywir a gofalus. Yr oedd gan gyhoeddwyr, ac awduron, bob ymddiried yn ei onestrwydd, a chawsai "gredyd" pe yn gofyn am dano.
Yn y man, dechreuodd brynnu llyfrau ail-law," a daeth i wybod gwerth hen lyfrau prin ac anodd eu cael. Deuai ar eu traws mewn lleoedd anisgwyliadwy, wedi eu hesgeuluso, a'u gadael yn y tyrrau llwch, ac yn rhandir y pry copyn. Mynychai ffeiriau "ocsiwn," a daliai ar ei gyfle i brynnu rhyw "weddillion" llenyddol, cylchgronau heb eu rhwymo, &c. Ac, yn raddol, llenwid y Tŷ Mwswg gan lyfrau, newydd a hen. Yr oedd pob ystafell, a phob dodrefnyn ynddo, wedi eu gorchuddio gan lyfrau, cyhoeddiadau, a phapurau o bob math.
Dywedai Meredydd Owen, pan yn ymweld â'r lle, ryw ddydd, ei bod yn llawn bryd newid ei enw, a'i alw, nid yn "Dŷ Mwswg," ond "Tŷ y Tryblith."
A phriodol iawn fuasai'r enw newydd. Yr oedd popeth ar draws eu gilydd, heb gynllun na threfn. Ond dylid ychwanegu hyn,—os byddai ar brynwr eisieu rhyw lyfr neilltuol yn y pentwr, yr oedd rhyw reddf yn peri i John Wyn ddod o hyd iddo, er nas gallasai undyn arall wneud hynny.
Daliai ati i brynnu llyfrau, a'u gwerthu, yn ol y galw. Elai y "lle" yn gyfyngach beunydd yn y Tŷ Mwswg. Ac wedi iddo fod yn "ocsiwn " y persondy, —ar ol marw hen offeiriad y plwy, y Parch. Hugh Williams, ychwanegodd ei ystorfa yn ddirfawr. Yr oedd wedi prynnu llond trol o hen gyfrolau, hen bregethau, a hen bapurau wedi melynu gan oedran.
Ac wedi eu dwyn adre, yr oedd y gofod mor brin fel y bu raid iddo eu gosod, dros amser, yn y gegin gefn, ac yr oeddynt yn ei llanw yn daclus. Bu raid iddo ef ymneillduo i'r parlwr;" wedi mynd yno, nid oedd ganddo ond llwybr cul o'r drws at y tân, ac un culach na hynny o'r aelwyd at risiau'r llofft.
Ac felly y bu'r llyfrau a'r papurau a brynwyd yn "ocsiwn" y persondy am gyfnod o dan glo yn y gegin gefn.
Yn y cyfamser, elai John Wyn ar ei deithiau llyfryddol drwy'r wlad, a daeth ei ymweliadau yn bethau i'w disgwyl ar aml i aelwyd, yn enwedig ymhlith y plant a'r bobl ieuainc. Byddai y rhieni yn cymeryd arnynt ddwrdio, yn awr ac eilwaith, gan ddweyd fod gormod o lyfrau newyddion yn dod i'r tai, a'r gwaith beunyddiol yn dioddef o'r herwydd. Prin yr oedd hynny yn ffaith; ac, yn sicr, yr oedd yr oriau hamddenol yn cael eu treulio i well pwrpas, nid i segura, ond i ddarllen. Yr oedd John Wyn yn gwneud gwaith gwerthfawr yn y parthau gwledig, ac yn gyfrwng i hau had da mewn aml i feddwl, yr hwn oedd i ddwyn ffrwyth goludog yn y dyfodol. Nid ûs llenyddol a gludai yn ei ysgrepan, ond grawn goreu llenyddiaeth y cyfnod, a llyfrau oedd yn meddu rhin a naws ddymunol, ac yn gludyddion meddyliau hawddgar a phur. Gwyddai am yr adeg fwyaf manteisiol i ymweld â'r ffermydd, pan fyddai y gweision o gwmpas y tŷ, a'r plant wedi dod adref o'r ysgol. Doniol fyddai yr ymgom, lawer tro. Chwenychai y bachgen, neu y lodes, lyfr newydd. Ond adgofiai y penteulu nad oedd ond rhyw fis wedi mynd heibio er pan gawsent lyfr o'r fath.
Yr ydw i wedi ei ddarllen o bob gair," ebai'r bachgen. "A hwyrach y bydd o wedi cael ei brynnu gan rywun arall cyn y daw John Wyn yma eto."
Yr oedd yntau yn ddigon parod i gefnogi y cynhygiad.
" Y mae galw mawr am lyfrau fel hwn, a'r peth goreu ydyw dal ar y cyfle rhag ofn iddo gael ei werthu allan."
Ac wedi addaw gwneud amryw ddyledswyddau pendant, y diwedd fyddai prynnu'r llyfr, er mwyn cael llonydd gan y bachgen.
"Ond, cofiwch, ni ddisgwylir chi i alw am yn hir eto," meddai'r penteulu, neu fydd gen i ddim ceiniog ar fy elw. Nid ydyw y llyfrau yma yn ddim help i dalu rhent na threth."
Hwyrach nad ydynt, yn uniongyrchol," ebai John Wyn. Ond y mae darllen yn gwneud eich gweision yn fwy meddylgar, a'r plant yn fwy awyddus i ragori gyda'u gwersi."
Ac yr oedd hanes amryw ohonynt, ar hyd a lled y fro, yn cadarnhau yr hyn a ddywedid gan y llyfrwerthwr. Ciliai y bechgyn o gynulliadau'r groesffyrdd a lleoedd o'r fath, wedi dechreu cael blas ar ddarllen, a meddwl drostynt eu hunain. Ac yn raddol, daeth goreugwyr y Cwm i synied fod cenhadaeth lyfryddol John Wyn yn gadael argraff ddistaw, ond dyrchafedig, ar y bobl ieuainc; ac mai doeth ydoedd rhoddi cefnogaeth i'r peth er iddo gostio ychydig arian a thraul. Dyweder a fynner, y mae llinell y bardd yn llawn o wirionedd,
"Lleufer dyn yw llyfr da."
PENNOD VIII.
Miri Etholiad.
NID oedd pobl y Cwm yn gwybod llawer am "gynhyrfiadau" yn y byd gwleidyddol. Deuai etholiad cyffredinol, yn ei dro, a theimlid dyddordeb nid bychan yn y canlyniadau. Ond, fel yr awgrymwyd mewn pennod flaenorol, yr oedd y rhan fwyaf o'r tir, hyd yn ddiweddar, yn perthyn i ystâd y Gwynfaes; ac er fod golygiadau politicaidd y tirfeddianwr yn wahanol i'r eiddo y mwyafrif o bobl y Cwm, nid oedd wedi arfer gormesu ar eu rhyddid, na cheisio dylanwadu yn anheg ar eu cydwybodau. Nid oedd "troi allan " o ffermydd, ar ol etholiad, wedi digwydd o fewn côf neb yn yr ardal. Ond wedi i'r ystâd gael ei gwerthu, daeth dylanwadau newyddion a gwahanol i'r fro. Prynesid cryn lawer o dir ac amryw ffermydd heb fod yn fawrion, gan gwmni chwarel Moel y Rhedyn. Ac yr oedd olynydd y Parch. Hugh Williams yn ddyn hollol wahanol i'r hen "berson" tawelfwyn a charedig. Yr oedd yn ddyn galluocach o lawer na'i ragflaenydd, ac wedi gosod ei fryd ar wneud yr eglwys wladol yn "allu " yn y plwy. Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn er mwyn egluro y "sefyllfa" pan ddaeth helynt etholiad ar ei rawd. Yr oedd un peth wedi digwydd eisoes oedd yn dangos fod yr eglwys filwriaethus" wedi dihuno yn y Cwm. Cyfeirio yr ydym at ethol gwarcheidwad. Yn y gorffennol, yr oedd y swydd hon wedi disgyn yn naturiol ar ysgwyddau Mr. Meredydd, Plas y Wern. Cyflawnai hi yn onest a didderbyn wyneb, a daeth yn fath o dreftadaeth iddo am flynyddau lawer. Nid oedd neb yn dangos awydd i aflonyddu ar ei sedd. Wedi ei farw ef, fodd bynnag, daeth eglwyswr i'r maes. Nid oedd dim yn erbyn hynny ynddo ei hun; ond awgrymid mai y person newydd oedd y tu cefn i'r symudiad. Gofynwyd i David Parry "sefyll " fel olynydd, hollol deilwng, i'w dad yng nghyfraith. Ond gwrthododd gydsynio â'r cais. Syrthiodd y coelbren ar Edward Edwards, Melin y Rhyd, ac efe a ddewiswyd drwy fwyafrif anrhydeddus.
Nid oedd hon namyn ysgarmes fechan, ddiniwed, yn ymyl yr un oedd i ddilyn. Cofir honno hyd heddyw, etholiad cyntaf y Cyngor Sir. Yr oedd yn beth newydd ar y ddaear, a chredid fod pethau mawrion yn agoshau. Deffrôdd y Cwm i bwysigrwydd yr amgylchiadau, chafwyd brwydr galed a phenderfynol. Yr oedd dau ymgeisydd ar y maes. Un ydoedd Mr. Webster, goruchwyliwr gwaith Moel y Rhedyn; y llall oedd David Parry, Plas y Wern. Nid oedd Mr. Webster wedi ymdrafferthu i ddysgu Cymraeg, ac ni fuasai'n ymostwng i wneud hynny o gwbl. Ac nid oedd yn ŵr hyawdl yn Saesneg. Ond yr oedd ganddo ddylanwadau o'i du, ac ni phetrusai eu defnyddio hyd eu heithaf. Yr oedd y gweithwyr ym Moel y Rhedyn yn dibynnu ar ei ewyllys da, ac yr oedd y ffermwyr a ddalient eu tir dan berchenogion y chwarel yn agored i gael dylanwadu arnynt gan y goruchwyliwr.
Dechreuwyd canfasio yr ardal, a chasglu addewidion. Ac ynglŷn â hynny, daeth rhyw adnewyddiad disyfyd ar y busnes ym Mhentre y Rhyd. Yr oedd y teiliwr, y crydd, a'r siopwr yn derbyn archebion dyddiol, a dywedid fod Mr. Webster am roddi pob cefnogaeth i nwyddau cartrefol." Nid oedd neb wedi meddwl o'r blaen ei fod yn ŵr bynheddig mor ffeind," ac mor awyddus i helpu pawb i wneud bywioliaeth gysurus.
Yr oedd Elin Pirs, ar ol colli ei chartre yn yr Hafod Las, wedi cymeryd tŷ yn y Rhyd, ac wedi agor tipyn o siop i werthu bara gwyn, ac yn ei bobi ei hun. Da iddi, erbyn hyn, ei bod mor fedrus ar y gorchwyl hwnnw. Daeth y bara gwyn yn glodfawr, ac anfynych y byddai negesydd yn troi adref, yn enwedig os byddid yn disgwyl "pobl ddiarth," heb bwrcasu torth neu ddwy o "fara gwyn" Elin Pirs. Ond yr oedd yr hyn a ddigwyddasai ynglŷn â " gweithredoedd" yr Hafod Las wedi suddo i'w chalon. Nid oedd y "gydnabyddiaeth" a gawsai wedi lliniaru nemawr ar ei theimladau. Gwyddai mai ei thad oedd pia'r lle, ac mai yn anghyfiawn y cawsai hithau ei hamddifadu o hono. Ni ddywedai lawer am y peth, ond yr oedd yn cashau Moel y Rhedyn, a phopeth a berthynai iddo, â'i holl enaid. A phan ddaeth un o is-swyddwyr Mr. Webster i'r siop i ofyn am ei phleidlais, cythruddodd yn ddirfawr. Yn anffodus, yr oedd y gŵr yn lled amddifad o foesau da, a chyfeiriodd at y "ffafr" oedd cwmni'r chwarel wedi ei wneud â hi ynglŷn â'r Hafod Las. Aeth troell ei naturiaeth yn fflam.
"Ewch allan o ngolwg i, y funud yma," meddai, a'i gwyneb yn welw fel y galchen. Peidiwch a bod mor ffôl," ebai'r swyddog, "yr ydych yn sefyll yn eich goleuni eich hun."
Ond cyn iddo ddweyd gair ymhellach, cydiodd Elin Pirs mewn torth wen oedd ar y cownter, a thra yr oedd y gŵr yn rhuthro allan, taflodd hi drwy y drws ar ei ol! Yr oedd amryw o'r cymdogion yn llygad-dystion o'r olygfa, a daeth y "dorth wen" yn enwog yn ystod dyddiau yr etholiad.
A phan gynhelid cyfarfod cyhoeddus gan David Parry a'i bleidwyr, yr oedd dau neu dri o gyfeillion Mr. Webster yn ceisio aflonyddu ar yr areithwyr. Apeliwyd am osteg, gan ddweyd y byddai rhyddid i ofyn cwestiynau ar y diwedd. Ond para i darfu y siaradwyr yr oedd y blaid " arall. Cododd y cadeirydd i apelio am ddistawrwydd.
"Os na chawn i well trefn," meddai, rhaid i ni alw y 'plismon' i fynd a'r cynhyrfwyr yma allan."
'Does dim eisieu 'plismon' i wneud hynny," ebai llais o'r dyrfa, "y mae 'torth wen' Elin Pirs yn well o'r hanner. Anfonwch am dani, Mr. Llywydd, ac mi gewch 'u gweld nhw yn mynd allan am eu bywyd."
Ond pan gododd David Parry i anerch y cyfarfod, nid oedd eisieu cynhorthwy y dorth wen, na dim arall. Yr oedd penderfyniad yn ei osgedd, a'i lais yn cario awdurdod, —y peth hwnnw sydd yn hawlio gwrandawiad. Dywedai fod yr argyfwng yn un pwysig i werin gwlad, a bod dyfodol addysg y plant yn dibynnu ar iddynt hwy bleidio y cynllun newydd oedd a'i amcan i roddi manteision dyladwy i'r plentyn tlawd; plentyn y bwthyn yn ogystal a phlentyn y pendefig.
Mi wyddoch fy hanes i," meddai (cymeradwyaeth). Nid oedd gennyf neb i'm cynorthwyo, ac wedi cael tipyn o addysg yn Ysgol y Rhyd, nid oedd dim o'm blaen heblaw mynd i geisio ennill fy mara, fel y gweddill o'm cyfoedion. A dyna a wnaethwn, oni bai i Ragluniaeth fy arwain ar hyd ffordd arall. Cefais ragorfraint eithriadol i fachgen tlawd; ac y mae yr hyn yr aethum drwyddo yn yr Amerig wedi ennyn awydd yn fy enaid i wneud yr oll a allaf i osod plant Cymru ar dir mwy manteisiol i ymladd brwydrau bywyd. Cymro oeddwn cyn cychwyn oddicartref, ond yr wyf yn fwy o Gymro wedi bod yn y Gorllewin. Yno, gwelais bobl wedi dringo i safleoedd uchel a phwysig yn y wladwriaeth, ac eto yn ymffrostio yn eu gwaedoliaeth Gymreig, ac yn caru iaith a hanes yr hen wlad â'u holl galon. Nid wyf yn cydymdeimlo â'r ysbryd sydd yn y frawddeg adnabyddus, —' Cymru i'r Cymry.' Ond yr wyf am i Gymru, yn ei hiaith a'i hanes, gael chwareu teg. Ac, yn awr, pan y mae'r cyfleusdra i anrhydeddu y pethau sydd wedi bod cyhyd yn nhir y caethiwed, wedi ei ddwyn i'n gafael, oni ddylem fel gwladgarwyr wneud y defnydd priodol o hono? Nid wyf yn apelio atoch am fy mod yn chwenych swydd. Y mae gennyf ddigon o ofalon a thrafferthion i lanw fy amser. Ond yr wyf yn barod i wneud fy ngoreu i hyrwyddo buddiannau yr ardal, ac i ddadleu eich hawliau, os bydd eisieu, yn y Cyngor Sir. Yr oeddwn yn ofni mai anhawdd fuasai ein symud fel ardalwyr. Yr ydym wedi arfer mwynhau cryn fesur o dawelwch, a dichon ein bod yn meddwl am 'lonyddwch, mai da yw.' Ond y mae'r cyfarfod hwn yn dangos mai nid hepian yr ydym, a bod ein gwrthwynebwyr yn medru 'aflonyddu,' os na allant wneud dim arall. Nid oes gennyf ddim teimlad angharedig tuagat fy nghydymgeisydd. mae yn cynrychioli syniadau cwbl wahanol i'r eiddof fi ar bynciau sydd yn bwysig yn fy ngolwg. Ond, chwi fel etholwyr sydd i droi y
Y
fantol rhyngom. Ymddygwch yn onest ac yn egwyddorol, a pheidiwch cymeryd eich hud-ddenu gan ffafrau personol. Ond os mai Mr. Webster ydyw y dyn cymhwysaf yn eich barn, yr wyf yn hollol foddlawn iddo fynd i mewn".
"Daiff o ddim," ebai lleisiau yn y dyrfa.
"Mi aiff allan fel y stiward o flaen torth wen Elin Pirs."
Ac allan yr aeth.
Pan gyhoeddwyd y ffigyrau ar noson yr etholiad, yr oedd David Parry wedi cael dwy ran o dair o bleidleisiau pobl y Cwm.
Mawr fu y miri ym Mhentre y Rhyd wedi clywed y newydd da. Daeth David Parry yno i " dalu diolch," a thraddododd araeth frwd oddiar y garreg farch" y tu allan i borth y fynwent. Ffurfiwyd gorymdaith drwy yr heol gan aros i roddi "hwre" wrth basio siop Elin Pirs a gweithdy Shôn William, y crydd. Daeth yr hen frawd allan i ysgwyd llaw efo David Parry. A dyna ddechreu canu, Canoli
"Bachgen da yw Dafydd,
Yn gwisgo 'sgidie newydd."
Wisgodd o ddim esgid heb i mi ei gwneud hi," ebai Shôn William. Mi wn i fesur ei droed o yn well na neb arall."
Rhoddwyd bonllef wrth basio Melin y Rhyd, ac aed ymlaen i gyfeiriad Plas y Wern. Rhedodd dau neu dri o'r bechgyn i hysbysu Marged Parri, rhag ofn iddi ddychryn wrth weld y fintai. Tro caredig oedd hwnnw, a phan glywid eu sŵn oddi draw, yr oedd Marged Parri wedi dyfod allan ar garreg y drws. Edrychai yn synllyd a phryderus. Ond pan ddaeth y cerbyd at y tŷ, neidiodd David Parry i lawr, a rhedodd ati,
"Peidiwch a dychryn, mam, nid oes yma ddim byd o'i le, ond rhaid i'r bobol gael dangos eu teimlad caredig. Dowch i'r tŷ."
Ac wedi eistedd yn y gadair wrth y tân, torrodd Marged Parri i wylo.
"Duw a'th fendithio, y machgen i," meddai. "Y mae O wedi gwneud hynny yn barod, a hwyrach mai un peth sy'n cyfrif am hynny ydi dy fod wedi bod mor ffeind wrth dy fam."
"Fedrwn i ddim peidio bod felly," ebai yntau, "ond peidiwch a chrio, mam, a finne wedi ennill y frwydr."
"Na i ddim, Dafydd. Yn tydw i yn wirion! Glywi di'r bobol ene yn canu? Be mae nhw yn ddeyd, dywed? Agor y drws."
Aeth Marged Parri ar y rhiniog. A chlywai y glaslanciau yn canu, Canoli
"Bachgen da yw Dafydd,
Yn gwisgo 'sgidie newydd."
Brensiach anwyl! wyddwn i ddim dy fod di wedi cael 'sgidie newydd. Be haru'r bobol?"
Aeth David Parry yn ol i'r cerbyd. "Nos da, Marged Parri," ebai'r llanciau.
"Ac i chithe i gyd," meddai hithau, "a diolch i chi am fod mor 'driw' i Dafydd. ****** Ymhen ychydig ddyddiau, daeth llythyr wedi ei gyfeirio at " Mr. David Parry, C.C., Plas y Wern." Rhoddodd Jiams, y postmon, ef i'r certiwr wrth basio'r buarth. Edrychodd yntau arno, a dangosodd ef i'r hwsmon.
Be ydi'r C.C. yma, William Jones? Gad i mi ei weld o," meddai'r hwsmon. Y mae'r llythrennau yma yr un peth a 'D.D.' ar ol enw ambell bregethwr; ond yn ei gysylltiad â 'mistar,' os wyt ti'n dallt, yr ystyr ydi, 'Concwerwr y Cwm.'"
PENNOD IX.
Y Dosbarth Diwinyddol.
UN o'r pethau newyddion a ddaethant i i fôd wedi i'r Parch. Meredydd Owen ymsefydlu fel bugail yn y Cwm ydoedd Dosbarth Beiblaidd, yr hwn a gyfenwid y "Dosbarth Diwinyddol." Awgrymwyd yr enw gan Shôn William, a thybiwyd ei fod yn enw da, ac yn cyfleu y syniad o urddas a phwysigrwydd. Bwriedid ef ar gyfer "pobl mewn oed," ac yr oedd bod yn aelod yn y dosbarth uwchraddol hwn yn profi fod dyn wedi ennill gradd dda fel diwinydd ac esboniwr Ysgrythyrol. Cynhelid ef ar noson waith mewn ystafell gysurus ynglŷn â'r capel newydd. Dylid dweyd fod dosbarth darllen yn cael ei gynnal o'r blaen, ar y Saboth, rhyw awr cyn dechreu'r Ysgol. Dosbarth i athrawon oedd hwnnw, a Shôn William oedd yr arweinydd. Gwyddid ei fod ef yn mawrhau ei swydd, ac yn ei llanw yn deilwng. A phan gychwynwyd y dosbarth diwinyddol, aeth y gweinidog ieuanc at yr hen frawd selog i ddymuno arno barhau yn ei swydd fel prif athraw. Eithr ni fynnai.
"Chwi sydd i fod yn athraw," meddai. Y mae gennyf bob ymddiried ynnoch. Ond pe bai rhyw ddyryswch yn codi, gellwch fod yn bur sicr o un peth,— mi safa i tu cefn i chi, ond wna i ddim ymyrryd o gwbl os na fydd raid."
Diolchodd y gweinidog am yr addewid hon, a gwyddai y byddai Shôn William gystal a'i air. Ac efe oedd y cyntaf i gynnyg, wedi i'r dosbarth gyfarfod, fod Mr. Owen i gymeryd yr awenau. Cytunwyd yn unfrydol, er fod rhai yn lled synnu fod yr hen frawd wedi cymeryd y peth mor siriol a didramgwydd. Aeth pethau rhagddynt yn eithaf hapus am rai wythnosau. Rhoddai y gweinidog bob cefnogaeth i'r aelodau i ofyn cwestiynau ac i wyntyllio syniadau eu gilydd. Ac ar adegau, ceid syniadau " lled newyddion a gwahanol i'r hyn a gyfrifid yn hollol uniongred. Byddai Shôn William yn clustfeinio, ac yn edrych yn graff ar wyneb Meredydd Owen. Ond nid oedd un arwydd o gyffro ar ei wedd; gwrandawai yn bwyllog, ac arweiniai y drafodaeth yn ei blaen. Efe, o ran oedran, oedd un o'r rhai ieuengaf yn y dosbarth hwnnw, ac fel Elihu gynt, nid oedd yn brin yn y gallu i dalu gwarogaeth ddyladwy i'r rhai oedd yn hynach ac yn fwy profiadol. Hefyd, yr oedd yn meddu y ddawn nas gellir ei dysgu, na'i throsglwyddo i arall,—y ddawn i edrych ar gwestiwn o safle y sawl fyddai yn ei ofyn. Yr oedd David Parry, er engraifft, yn lled hoff o ofyn cwestiwn ymarferol. Yr oedd ei drigias yn yr Amerig wedi tynnu ei sylw at agweddau cymdeithasol crefydd. "Sut yr ydym i ddeall yr adnod hon yng ngoleuni yr amseroedd yr ydym ni yn byw ynddynt?" Yr oedd meddwl Harri Llwyd o duedd athronyddol; ac yr oedd cryn lawer o'r "Paham" a'r " Pa fodd " yn ei holiadau. Daeth i gael ei gydnabod yn un o'r meddylwyr cryfaf yn y dosbarth, er fod Shôn William yn awgrymu, weithiau, ei fod yn rhoddi gormod o lei "allu dyn."
Ond y gŵr y byddai'r athraw yn cadw ei olwg arno yn fwy na'r oll ydoedd Edward Edwards, Melin y Rhyd. Ac nid ar unwaith y gallesid dyfalu y rheswm am hynny. Dyn pwyllog, sobr ei wedd, oedd Edward Edwards. Nid oedd yn siaradwr mawr, yn gyhoeddus, eithr llefarai bob amser yn fyrr ac i'r pwynt, fel dyn yn gwybod ei ffordd, ac yn hollol glir ei feddwl. Dyn o farn; dyn crefyddol ei ysbryd; gwastad ei dymer. Ond o dan arwynebedd difrifddwys yr oedd ystôr o ddireidi hollol ddiniwed, yr hyn a elwir yn humour byw. Nid oedd gwên ar ei wyneb; dim arwydd o ysgafnder, ond yr oedd rhywbeth, weithiau, yng nghil ei lygad oedd yn bradychu'r peth. Ac nid oedd hwnnw wedi dianc sylw Meredydd Owen. Ac un noson, daeth yr hyn y disgwyliai am dano i'r amlwg, er mai efe ei hun, o bosibl, oedd wedi gweld rhyw nwyf chwareus dan amrant llygad gŵr y Felin. Yr oedd y gair "uwchfeirniadaeth" newydd gyrraedd i'r Cwm. Ambell bregethwr ieuanc yn ei ddefnyddio, ac ambell erthygl mewn cylchgrawn yn sôn am dano. Ac fel y digwydd gyda gair newydd, yr oedd rhai o aelodau y dosbarth yn lled chwannog i'w ddefnyddio. Ar y noson grybwylledig, yr oeddynt yn darllen yn Efengyl Matthew am "arwydd y proffwyd Jonas." Gofynnodd un brawd, —" Beth a olygid wrth 'arwydd yn yr adnod?"
"Y mae'r ateb yn yr adnod nesaf," ebai Shôn William. "Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil."
Tawodd yr holwr cyntaf.
Chwi sydd i ofyn y cwestiwn nesaf," meddai'r athraw, gan gyfarch Edward Edwards.
'Does gen i ddim neilltuol i'w ofyn," ebai yntau, yn bur ddigyffro, "ond rhag bod yn anufudd, be ddyliech chi o ryw gwestiwn fel hwn,—Pa un ai fel 'hanes' ynte fel 'arwydd yr ydym i ddeall y geiriau hyn?"
Ond fel hanes, debyg," ebai Shôn William, yn lled chwyrn, "beth arall all o fod?"
"Ie, ie," ebai Edward Edwards, "gofyn cwestiwn yr oeddwn i. Yr ydw i wedi clywed rhai o honoch yn son am yr 'uwchfeirniadaeth," gan edrych ar David Parry a Harri Llwyd. "Faswn i yn hoffi gwybod yn fawr beth y mae'r ' uwchfeirniadaeth' yn ei ddweyd ar y mater yma?"
Dweyd mai 'arwydd' ydoedd," ebai David Parry. Pan oeddwn i yn yr Amerig, mi glywais un o athrawon coleg diwinyddol yn dweyd, ar goedd, mai alegori ydi llyfr Jonah."
"Alegori," ebai Shôn William, "beth oedd meddwl y dyn? Oedd o yn meiddio dweyd nad oedd hanes Jonah ddim yn wir bob gair?"
Yr oedd o yn dweyd ei fod yn wir fel alegori, neu fel 'arwydd,' ac mai dyna oedd ystyr yr adnod yma,—'arwydd y proffwyd Jonah."
"Wel, os dyna ydi yr 'uwchfeirniadaeth' yma," ebai Shôn William, "ymhell y bo hi!" Ac yna troes at Edward Edwards, yr hwn a ymddangosai mor ddigyffro a llyn y Felin ar ddydd o haf.
Yr ydw i'n synnu atoch chi," meddai Shôn William, a mellten yn ei lygaid, "yn credu y fath 'ffigiari' ffôl."
"Ddeydais i ddim fy mod yn ei chredu," ebai gŵr y Felin. Gofyn ddaru mi, ar gais yr athraw, beth oedd yr 'uwchfeirniadaeth' yn ei ddysgu ar y pwnc. Ac yr ydw i wedi cael ateb."
"Rhoswch am funud," ebai Rolant Owen, "yr ydw i fel dyn wedi d'rysu'n lân. Mi glywais inne'r gair mawr ene, sut mae'i ddeyd o, hefyd? "
"Uwchfeirniadaeth," ebai amryw.
Ie siwr, ond wyddwn i ar y ddaear beth oedd o, daswn i'n gwybod eto. Yr oeddwn i'n meddwl, dan heno, mai rhyw fath o beiriant oedd o i setlo'r bobol hynny nad yden nhw ddim yn credu'r Beibl, ac mi fase'n dda cael rhywbeth felly gydag inffideliaid di—ras. Ond yr ydw i wedi clywed gair arall heno gan Dafydd Parry,—'alegori,' yn te?"
"Ie," ebai yntau, "alegori, neu fel yr oedd yr athraw yn y 'Merica yn deyd, gwirionedd mewn stori, neu ddameg."
"Wel," ebai Rolant Owen, "y mae hanes Jonah cystal a dim stori weles i 'rioed, a gwell o ran hynny, ond ydi'r stori ddim yn wir, deydwch?"
Gwirionedd mewn dameg," ebai David Parry.
Erbyn hyn yr oedd Shôn William wedi adfeddiannu ei hun. Gadewch ini ddarllen yr adnod eto, —' Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil.' Mi ellwch siarad am 'alegori' a dameg, neu rywbeth arall y mae'r uwchfeirniadaeth yna wedi ei ddyfeisio, ond y cwestiwn ydi hwn,—A fu y proffwyd Jonah ym mol y morfil, neu fu o ddim?"
Dyna fo," meddai Rolant Owen. Mae'r peth fel ene yn hollol glir. Yr ydw i yn bendant o'r un farn a'r Parch. John Davies, Nerquis, coffa da am dano! Mi clywes o'n darlithio ar 'Jonah' ryw dro, ac yr oedd o'n rhannu ei ddarlith fel dase hi'n bregeth. Yn gynta', Jonah cyn mynd i fol y morfil;' yn ail, Jonah ym mol y morfil;' yn drydydd, Jonah ar ol dod allan o fol y morfil.' Ac ar y pen ola ene yr ydw i yn cofio ei fod yn darlunio'r hen broffwyd o dan gysgod y cicaion, ac yn canu'r dôn 'Boston'yn glyfria fu 'rioed. Yr ydw i o'r un farn a John Davies, Nerquis."
"Ydech chi'n meddwl fod y dôn 'Boston' wedi ei chyfansoddi yr adeg honno? ebai Edward Edwards.
"Wn i yn y byd," ebai Rolant Owen, ond y mae hi'n hen dôn dda iawn, ac yn un lled hawdd ei chofio."
"Mae gen i gymaint o barch i enw John Davies, Nerquis, a Rolant Owen," meddai Shôn William, "ond ffansi ydi pethe fel ene, digon difyr, wrth gwrs. Ond ddalia nhw ddim ymchwiliad."
"Beth oedd barn Doctor Edwards, tybed?" meddai Evan Rhys, gan edrych i gyfeiriad Shôn William.
"Os i mi yr ydech chi'n gofyn," meddai yntau, "fedra i ddim ateb. Chlywais i mo Doctor Edwards yn pregethu ar 'Jonah,' nac yn un o'r proffwydi bach ene o gwbl. Dyn yr athrawiaethe mawr oedd ef."
"Mi glywes i bregeth ardderchog ganddo fo yn llyfr y proffwyd Hosea," meddai Rolant Owen, —" "Mi a'i denaf i'r anialwch, ac a roddaf iddi ei gwinllanoedd o'r fan honno.' Ac yr oedd o yn deyd mai proffwyd mawr oedd Hosea, er ei fod o yn cael ei alw yn un o'r proffwydi bach."
"Yr ydym wedi crwydro tipyn oddiwrth y mater," ebai yr athraw. "Sut yr ydych yn meddwl erbyn hyn am yr ymadrodd, 'arwydd y proffwyd Jonas?'
"Yn bersonol," ebai Harri Llwyd, "nid wyf yn barod i gollfarnu yr hyn y mae rhai o honoch wedi ei alw yn 'uwchfeirniadaeth.' Dylem fod yn ddiolchgar am bob goleuni newydd ar y Beibl. Ymddengys fod yr esbonwyr diweddaraf yn pwysleisio ar y gair 'arwydd,' a bod yr Iesu yn defnyddio syniadau yr oes honno am rai pethe, heb eu cymeradwyo, neu eu collfarnu, fel y dywed am yr haul yn codi ac yn machlud. Nid oedd y gwirionedd am y ddaear yn troi o amgylch yr haul wedi cael ei ddarganfod. Felly am y geiriau hyn. Nid profi gwirionedd yr hanes y maent, ond ei briodoldeb fel arwydd o'r hyn oedd i fod ynglŷn â Mab y dyn."
Os dyna yr uwchfeirniadaeth," meddai Joseph Jones, y mae'n debyg iawn i'r adnod ddeydodd Rolant Owen,—'Mi a'ch arweiniaf i'r anialwch.' Ac y mae hwnnw yn llawn dyrysni."
"Ie," ebai Harri Llwyd, "ond dichon y gellir gorffen yr adnod ryw ddiwrnod, ac a roddaf winllanoedd o'r fan honno. "
Digon rhyfedd, hefyd," ebai Edward Edwards, "i'r môr y mae hanes Jonah yn arwain pobol yn gyffredin, ond y mae wedi mynd a ni i ganol yr anialwch."
"Fyddwn ni ddim yno yn hir," ebai Shôn William, "yr ydw i'n gweld yr 'uwchfeirniadaeth' yma yn ddigon tebyg i'r 'cicaion' hwnnw. Mae rhywrai yn meddwl gwneud pabell o dani. Ond, os nad oes ganddi rywbeth gwell i'w roddi yn lle yr hen esboniad a'r hen ddiwinyddiaeth, yr ydw i yn bur siwr y gellir deyd am dani yn ei chrynswth, —' Mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu.' "
Ac os na chafodd proffwydoliaeth yr hen frawd tanbaid ei sylweddoli yn hanes yr "uwchfeirniadaeth " yn gyffredinol, cafodd ei gwirio yn bur lythrennol yn hanes y Dosbarth Diwinyddol yn y Cwm. Ychydig, os dim, a glywid am y peth ar ol hynny. A phan y byddai pregethwr yn crybwyll y gair o'r pulpud, edrychai y naill aelod o'r dosbarth ar ei gymydog, cystal a dweyd,—" Dyma arwydd y proffwyd Jonah wedi troi i fyny unwaith yn rhagor."
Ond cafodd Meredydd Owen gyfle i siarad yn "gyfrinachol" â gŵr y Felin. "Yr oeddwn yn deall eich amcan," meddai wrtho, "ond y mae yr arf sydd gennych yn un lled beryglus i'r anghyfarwydd. Y mae yn un da iawn i ddarostwng chŵydd a mympwy, ac i dynnu'r gwynt o hunan ac anwybodaeth."
"Nid oeddwn yn bwriadu gwneud dim i dynnu oddiwrth wir amcan y dosbarth," ebai Edward Edwards, "ond y mae'r duedd i ddefnyddio geiriau mawr heb eu deall yn bur gref mewn rhai pobl. Ac os gwnaethum rywbeth i beri poen i chwi, y mae'n wir ddrwg gennyf."
"Dim o'r fath," ebai Meredydd Owen, "ond y mae'n bwysig i'r dosbarth gael
PENNOD X.Cyfrinach a Darganfyddiad.
YCHCHYDIG o waith awenyddol y "Bardd o'r Cwm" oedd i'w weld yn Llais y Bobl ers amryw fisoedd. Yr oedd trafferthion y llyfrwerthwr wedi dod yn "bwn ar gefn yr awen." A phan gyfeirid at y peth, dywedai nad oedd ganddo amser i gyfansoddi" dim. Ond dichon fod methiant y gân serch-glwyfus a anfonasai dro yn ol, a hynny o "dan sêl," fel y gweddai gyda chynyrchion o'r fath, i ferch yr Hafod Las, wedi cynyrchu rhyw ddiflasdod ar ganu penhillion yn ei feddwl. Y mae'n wir na chawsai ei "wrthod " ganddi. Dywedai, mewn llythyr bychan a gadwai efe yn ei logell yn wastadol, mai amgylchiadau teuluaidd oedd yn peri nas gallai feddwl, yr adeg honno, am "newid ei byd." Bellach, yr oedd yr amgylchiadau wedi cyfnewid yn rhyfedd, a hithau yn ceisio ennill ei bywoliaeth drwy gadw siop. Ffynnai y teimladau goreu rhyngddynt megis cynt, ac nid oedd neb ond Marged Parri, a rhyw ychydig gyfeillion, yn gwybod am y "gyfrinach." Byddai John Wyn yn galw yn y siop i brynnu "bara beunyddiol," canys yr oedd gofalu am angenrheidiau bywyd, bellach, yn dibynnu yn gwbl arno ef ei hun. Ac wedi treulio ychydig amser yng nghwmni Elin Pirs, a gweld mor lanwedd a theidi oedd y siop, a'r gegin, nis gallai beidio a chyferbynnu y glanweithdra a'r trefnusrwydd dymunol â'r anhrefn oedd yn teyrnasu yn ei drigfod ef ei hun. Ac wedi mynd adref, yr oedd "Tŷ Mwswg" yn troi yn lle unig ac anyddorol dros ben. Deuai gweledigaethau o flaen ei feddwl yn y distawrwydd, a gwelai yr hen dŷ fel yr ydoedd yn amser ei fam,—yr aelwyd a'r dodrefn yn disgleirio yng ngoleu'r fflam. Gwelai rywun arall yn ei roesawu ar ddiwedd dydd, ar ol bod yn tramwy y wlad gyda'i lyfrau. Ond lledrithion oedd y pethau hyn, yn mynd ac yn dod, fel llewyrch y tân ar y mur. ***** Yn raddol, daeth merched y Pentre (ac ni fedd Scotland Yard eu gwell am ffeindio dirgelion), daethant i awgrymu, yn y cylchoedd cyfrin, fod John Wyn yn ymweld yn lled fynych â'r siop a gedwid gan Elin Pirs, a bod yr ymweliadau yn mynd yn feithach eu hyd yn nhreigliad amser. Nid oedd y ffaith ei fod yn prynnu "bara" yn ddigon i esbonio y drafodaeth.
"Mi wn i amcan," meddai Gwen Huws, "faint o fara sydd yn mynd i gadw dyn am wsnos, ac iddo fo fyta fel gwas fferm. Ond os ydi John Wyn yn prynnu torth bob tro y mae o yn galw yn y siop, y mae ene gryn lawer yn mynd yn wast yn Nhŷ Mwswg. Marciwch chi 'y ngeirie i, er nad oes arna i ddim eisio i'r peth fynd gam pellach na'r drws 'ma. Ond mor wir a mod i yn y fan yma, mi fydd y siop ene 'ar osod' cyn hir. Dydi Elin Pirs ddim chwarter mor bethma ag y bydde efo'i chwsmeriaid."
Ac yr oedd Gwen Huws, yn y broffwydoliaeth awgrymiadol hon, yn digwydd bod yn agosach i'w lle nag arfer. Daeth y peth i gael ei sibrwd drwy yr ardal, a buan y daeth pawb i ddeall am y "briodas" oedd i gymeryd lle rhwng John Wyn ac Elin Pirs. Gofynnid y cwestiwn,—"Pa un ai hi oedd yn mynd i fyw ato ef, ai efe oedd yn mynd i fyw ati hi?" Yr oedd gwahaniaeth barn ar y pwnc, ond nid oedd goleuni i'w gael gan y "ddeuddyn" eu hunain. Ceisiwyd cadw dyddiad y briodas yn ddirgelwch. Deallid mai yng nghapel y Cwm yr oedd i gael ei gweinyddu, ac mai'r Parch. Meredydd Owen oedd i "rwymo" y ddau ynghyd. A phan wawriodd y dydd, nis gellid celu y gyfrinach ddim yn hwy.
Daeth cynulliad lliosog i'r capel, er fod yr awr yn lled gynnar. Honno oedd y briodas gyntaf i Meredydd Owen ei gweinyddu fel "bugail," a theimlai ymron mor "nerfus" a John Wyn. Ymddangosai ef fel dyn wedi anghofio popeth, a dyddorol oedd ei weld yn chwilio ei logellau i ymofyn am y "fodrwy" briodasol. Ond yr oedd Elin Pirs yn gwbl hunanfeddiannol, ac aeth y y gwasanaeth heibio yn hollol ddi—dramgwydd.
Gan mai hi oedd y briodas gyntaf yn y capel newydd," anrhegwyd y pâr ieuanc, fel y dywedir, â Beibl a Llyfr Hymnau, ar ran yr eglwys a'r gynulleidfa, gan Mr. David Parry, Plas y Wern. Ac yna, cychwynnodd y ddau mewn cerbyd i dreulio eu "mis mêl," er mai wythnos oedd ei hyd i fod, yng "nglan y môr." Yr oeddynt yn mynd heibio Rose Cottage, a daeth Marged Parri i'r ffordd i'w llongyfarch, a'u hanrhegu gyda "bwns" o flodau o'r "ardd bach."
"Ac yr ydych chi wedi priodi," meddai, "mi ddylsech fod wedi gneud ers talwm. Ond mi wyddwn i na fase Elin yn edrach ar neb arall. Wel, pob cysur i chi eich dau, a llawer iawn o flynyddoedd efo'ch gilydd. Yr ydych wedi bod yn ofalus am eich tad a'ch mam pan oedden nhw, ac yr ydw i yn credu fod bendith Duw ar hynny bob amser. Yn Nhy Mwswg yr ydych chi am fyw, yntê?
Yr oeddwn i'n meddwl. A phan ddowch chi'n ol, cofiwch ddwad yma am gypaned o dê. Mi ofala i am wadd Elsie a Dafydd yma i'ch cyfarfod."
Yr oedd y "gath" wedi dilyn Marged Parri o'r tŷ, fel arfer, ac yn cerdded oddiamgylch y cerbyd. Disgynnodd ei llygaid hithau arni pan oeddynt yn cychwyn i ffwrdd.
"Tyrd yma i ti, gath," meddai, neu yr wyt ti yn siwr o fynd dan draed y cyffyle."
Ac fel yna, gan ddwrdio'r gath, ac ysgwyd ei chadach poced, yr aeth yr orymdaith briodasol o olwg llygaid Marged Parri. ***** Pe y digwyddasai Elin Pirs fod yn gadael y Cwm, cawsai docyn aelodaeth yn hysbysu ei bod hi yn "aelod cyflawn gyda'r Trefnyddion." Ond wedi ymsefydlu fel gwraig yn Nhy Mwswg, cafodd y drefnyddiaeth " ei gosod dan brawf llym. A phe yn llai penderfynol ei hewyllys, o'r braidd y gallasai wynebu y tryblith oedd yn teyrnasu yn y tŷ. Yr oedd y llyfrau a'r papurau, erbyn hyn, yn llenwi ei holl ystafelloedd. A chan fod ganddi hithau ddodrefn tŷ yn y siop, pa beth a ellid ei wneud? Cynhaliwyd amryw bwyllgorau teuluaidd ar y mater, ond y penderfyniad y daethpwyd iddo, wedi arfer pwyll ac amynedd y tuhwnt i fesur, ydoedd hyn,—fod siop y bara gwyn yn y Pentre i gael ei throi yn siop lyfre, a bod y dodrefn oedd yno i gael eu cludo i Dŷ Mwswg. Ac mewn trefn i symud ymlaen yn ddeheuig, yr oedd yn rhaid clirio yr " anialwch," a gwneud y lle yn gymwys i dderbyn y dodrefn, ac i'w wneud yn gartref cysurus iddynt ill dau. Cymerai hyn gryn amser. Yr oedd yn angenrheidiol dosbarthu y llyfrau, a rhwymo yr holl bapurau ynghyd rhag i ddim oedd werthfawr fynd ar goll. Ymddiriedwyd am y gorchwyl llafurfawr hwn i "wraig y tŷ," canys nid oedd yr canys nid oedd yr ermig o "drefn" wedi datblygu nemawr ym mhenglog John Wyn. Elai ef ar ei deithiau llyfrwerthol, a cheisiai hithau droi y tryblith yn drefn. Daeth i ben yn lled dda gyda'r llyfrau, er fod y llwch yn haenau trwchus ar bob llaw. Ond pan aeth i'r "gegin gefn," bu agos iddi dorri ei chalon, ac eistedd i lawr mewn anobaith. Yno, fel y dywedwyd o'r blaen, yr oedd y "llanast" o bapurau a chylchgronau oedd wedi cael eu prynnu yn arwerthiant y persondy. Nid oeddynt yn ymddangos yn ddim amgen nag ysbwriel, a buasai llawer un llai ei hamynedd yn gwneud coelcerth ohonynt ar y buarth. Ond yr oedd Elin Wyn wedi penderfynu yn wahanol. Edrychai dros bob papurun cyn ei osod o'r neilltu. Nid oedd yn disgwyl dod o hyd i arian-nodau colledig, a phrin y gallasai esbonio y peth iddi ei hun. Ond yno y bu am dridiau ynghanol y tyrrau llwch, mewn llafur a lludded blin. Ac wrth chwilio a chwalu, gosododd ei llaw ar amlen led fawr, wedi ei rhwymo gyda darn o edef goch. Datododd y llinyn, ac agorodd yr amlen. O'i mhewn yr oedd dau bapur, un wedi melynu gan oedran, a'r llall yn ymddangos yn fwy newydd. Cymerodd hwy gyda hi at y tân, a dechreuodd graffu ar yr ysgrifen-law. Ac yn y man, daeth rhyw oleuni newydd i'w llygaid. Yr ydoedd wedi gwneud darganfyddiad! Nid oedd y papurau oedd wedi bod yn gorwedd o'r golwg yn y "gegin gefn" yn ddim amgen na "gweithredoedd" yr Hafod Las, ac ewyllys ei thad, yn yr hon y trosglwyddai ei holl eiddo i'w unig ferch, Elin Pirs.
Pa fodd y daeth y pethau hyn i fysg papurau y diweddar Barch. Hugh Williams, cyn—"berson" y plwy? Nid oedd ond un dyfaliad yn ymarferol. Yr oedd y cyfeillgarwch a fodolai rhwng ei thad a'r hen offeiriad wedi ei arwain i ofyn iddo ef gadw y gweithredoedd a'r "ewyllys;" ac yr oedd dyddiad yr olaf yn dangos ei bod wedi ei llawnodi o fewn ychydig amser i'r adeg y bu y ddau feirw, a hynny yn hynod ddisyfyd.
Wedi i John Wyn ddychwelyd y noson honno, cafodd wybod am y darganfyddiad, a mawr oedd ei synedigaeth.
"Meddwl," meddai, "fod y papurau gwerthfawr yma wedi bod yn gorwedd yn y 'gegin gefn' am fisoedd, a finne yn gwybod dim byd am danynt."
Drannoeth, aed a'r oll i Blas y Wern i gael barn David Parry ar y pwnc. Yr oedd yntau wedi ei daro â syndod pan ddeallodd yr amgylchiadau. Ond wedi archwilio y gweithredoedd, a chraffu ar eiriad yr ewyllys, dywedai yn ddibetrus fod yr oll yn glir, ac yn sicr o ddal unrhyw ymchwiliad cyfreithiol.
"Cymeraf y peth yn fy llaw fy hun," meddai, ac ni orffwysaf nes y bydd y cam a gawsoch gan Gwmni Moel y Rhedyn wedi ei uniawni yn anrhydeddus."
Bu cystal a'i air. Anfonodd at dwrne y Cwmni, gan amgau copi o'r "gweithredoedd" Ceisiodd hwnnw ymesgusodi rhag "talu iawn," gan haeru fod y "cytundeb" a wnaed gydag Elin Pirs yn derfynol. Hysbyswyd ef fod hynny yn gamarweiniol hollol, ac os na ddeuid i delerau têg, yr eid a'r holl achos i'r Frawdlys.
Nid oedd y twrne yn barod i ildio heb ymdrech galed, er nad oedd yn ewyllysio i'r achos gael ei ddwyn i'r Frawdlys. Gwyddai fod pethau ereill wedi digwydd ynglŷn â'r tir o amgylch y Chwarel allasent arwain i ymgyfreithio pellach, pe yr elai y ddedfryd yn eu herbyn gyda'r Hafod Las. Cynhygiodd "delerau" newyddion, fel ychwanegiad at y swm bychan a dalesid fel ewyllys da" Elin Pirs wedi iddo ffeindio, er ei thrallod, fod y "gweithredoedd " ar goll. Tebyg y buasai John Wyn yn eu derbyn yn ewyllysgar, er mwyn heddwch, ond yr oedd David Parry yn barnu yn wahanol, a gwrthododd gydsynio â chais y twrne.
Y diwedd fu penodi dau ŵr profiadol i weithredu dros y ddwyblaid, a chytunwyd drwy gyflafareddiad fod y Cwmni i dalu tri chant o bunnau o iawn am drawsfeddiannu Hafod Las, a'i gladdu dan domen y chwarel.
Erbyn hyn, yr oedd y newydd da wedi ymdaenu dros yr holl wlad, a phawb yn ystyried John Wyn yn ddyn lwcus, wedi priodi gwraig ag eiddo " ganddi.
"Ie," meddai Shôn William, ond cofiwch hyn, yr oedd John wedi priodi Elin heb wybod dim am ei ffortiwn. Ac oni buasai ei fod o wedi prynnu yr hen bapure ene yn 'ocsiwn' y person, ni chlywsid byth son am dani."
"Eithaf gwir," ebai'r cymydog, "ond wydde fo ddim yn eu cylch. Elin Wyn a ffeindiodd y gweithredoedd."
Ac fel yna, wedi hir ddadleu, cytunwyd fod y rhan fwyaf o'r clôd i'w roddi i Elin Wyn, a thipyn bach, yn ei scîl, i fynd i'w phriod ffodus, "Bardd y Cwm."PENNOD XI.
Seiat y Plant.
FEL pob "bugail" ieuanc sydd â'i galon yn y gwaith, yr oedd gan Meredydd Owen ddelfrydau uchel pan dderbyniodd yr "alwad" i'r Cwm. Ac ni ollyngodd efe ei afael ohonynt, er iddo fethu eu sylweddoli i'r graddau y dymunai. Ond llosgai yr awyddfryd am fod yn "ddefnyddiol fel tân gwastadol ar allor ei galon. Gwyddai fod yno wŷr a gwragedd oedd yn meddu dyfnach profiad nag ef; ac ni fynnai arglwyddiaethu ar y praidd, yn rhinwedd ei swydd. Ond er yn ofni ac yn pryderu nid ychydig gyda'r gorchwyl o "fugeilio'r defaid," yr oedd y gair a ddywedwyd wrth yr Apostol Petr ar lan môr Tiberias, yn ei feddwl bob dydd,—"Portha fy wyn."
Meddai hoffder greddfol at blant. Medrai fod yn siriol, heb fod yn wamal; yn blentyn, heb fod yn blentynaidd. Ac yn bur fuan, yr oedd y plant ac yntau yn gyfeillion mynwesol. Cymerai ddyddordeb yn eu chwareuon, yn eu gwersi, ac yn eu hanes. Elai gyda hwynt am dro gyda glan yr afon, ac i'r coed i chwilio am nythod adar. Ceisiai eu dyddori a'u dysgu, heb ymddangos ei fod yn gwneud hynny. Ond teimlai, ar lawer adeg, mai hwy oedd yn ei ddysgu ef. Cychwynnodd ddosbarthiadau ar eu cyfer, a rhoddai ei oreu gyda'r gorchwyl o baratoi " ei feddwl i fod yn athraw i'r rhai bach. Cafodd gan amryw o'r bobl ieuainc ddyfod i'r cyrddau hyn i hyfforddi'r plant mewn canu ac adrodd yn gyhoeddus. Ac yr oeddynt hwythau yn mynd a'r caneuon adref yn eu côf, ac yn peri dyddanwch nid bychan ar aelwydydd y Cwm.
Ar derfyn un o'r cyfarfodydd hyn, cododd Harri Llwyd i ddiolch i'r plant am ymddwyn mor ragorol, ac am eu caneuon melus a mwyn.
"Yr ydw i yn teimlo fel dyn yn 'adnewyddu ei ieuenctid' wrth eich gwrando," meddai, "a phe cawswn y fraint yr ydych chwi yn ei chael, mhlant anwyl i, yr wyf yn cwbl gredu y buasai fy oes i wedi bod yn bur wahanol. Ond ches i ddim, ac mi grwydrais i'r anialwch, i ganol y 'pridd tew a'r clai tomlyd.' Gallwn adrodd fy mhrofiad yn y geiriau hynny,
'Mi a grwydrais anial garw
Heb un gradd o oleu'r dydd.'
Ond cefais fy arwain yn ol i'r porfeydd 'gwelltog, ac at y dyfroedd tawel.' Mi ddowch chwithe, gobeithio, i weld gwerth y pethe yma yn y man. Ond y peth a barodd i mi godi ar fy nhraed oedd hyn, mi hoffwn i'r eglwys glywed y pethe yr ydych yn eu dysgu, ac os bydd Mr. Owen yn cydweld, mi hoffwn i gael 'seiat' arbennig, un o'r wythnose nesa',—' seiat plant. "
Cydsyniodd y gweinidog yn llawen. Diolchai am yr awgrym, ac addawodd ymgynghori a'r blaenoriaid er mwyn trefnu noson gyfleus i'r pwrpas. Nid oedd y peth wedi digwydd yng Nghapel y Cwm o'r blaen. Gofynnid adnodau'r plant; holid ychydig arnynt ar ddechreu'r gwasanaeth, megis y gwneir yn gyffredin yn y wlad. Ond yr oedd "seiat plant" yn beth newydd ar y ddaear. Ofnai rhywrai fod y "bugail" yn anturio gormod, ac yn mynd tuhwnt i derfynau y Gyffes Ffydd. Dichon nad oedd yr oll o'r swyddogion yn awyddus am y cyfnewidiad; ond cydsyniwyd i roddi prawf ar y peth; ac os methiant a fyddai, ni fyddai raid ei ail-adrodd,—dim ond mynd ymlaen yn y " dull arferol."
Eithr nid methiant a fu. Gwahoddwyd yr holl eglwys i roddi eu presenoldeb, ac ar gyfrif newydd-deb y peth, o bosibl, daeth cynulliad rhagorol ynghyd. Cynhelid cyfarfodydd yr wythnos, gan mwyaf, yn y festri newydd; ond, y noson honno, penderfynwyd mynd i'r capel. A doeth oedd hynny; yr oedd y plant eu hunain yn llanw canol y llawr, a'r olwg arnynt fel blodau'r gwanwyn. Gofynwyd i Rolant Owen ddechreu'r cyfarfod, a gwnaeth hynny yn ei ddull tyner a thoddedig. Yr oedd y gwasanaeth arweiniol wedi codi ysbryd y seiat i bwynt uchel, a theimlid fod yr awyrgylch yn hyfryd a nawsaidd.
Eglurodd y gweinidog pa fodd y daethpwyd i gynnal seiat gyda'r plant; nid oedd yn bwriadu traddodi araeth y noson honno, ac nid oedd yn arfaethu holi'r plant, fel y gwneid yn yr Ysgol Sul. Carai i'r cyfarfod fod ar ddelw "seiat" hyd y gellid, er nad oedd yn disgwyl "profiad " gan y plant. Yr oedd wedi gofyn iddynt chwilio am benhillion a'r gair Iesu " ynddynt, a chredai eu bod wedi gwneud hynny. Yna aeth i'r "llawr," a dechreuodd ofyn am y pennill oedd y naill a'r llall wedi ei ddysgu.
Adwaenai hwynt oll, a galwai ar bob un wrth ei enw. A dyna ddechreu adrodd o ddifri, a chlywid yr hen emynnau cysegredig yn llifo allan o galon plentyn, fel dwfr o'r ffynnon loew, lân,—
"Iesu, Iesu, 'rwyt ti'n ddigon."
"Iesu, difyrwch f'enaid drud."
"Iesu, llawnder mawr y nefoedd."
"Iesu, ti yw ffynnon bywyd."
Iesu, cyfaill pechaduriaid."
"Mae Iesu Grist o'n hochor ni."
"Iesu byw, Iachawdwr byd."
Nis gallai Meredydd Owen ymatal heb ofyn ambell i gwestiwn, a gwneud ambell i sylw wrth fynd heibio. Nid oedd ball ar y penhillion; ond pan ddaeth y gweinidog at un bachgennyn, nis gallai efe ddweyd dim, a thorrodd i wylo'n ddwys.
"Beth ydyw y mater, Willie bach?" ebai'r gweinidog. Wedi anghofio dy bennill yr wyt ti?"
"Nage," meddai yntau, ond John Ffridd Wen sy wedi ei deyd o mlaen i."
"Na ofala ddim am hynny," ebai'r gweinidog drachefn, mae pennill da yn werth ei adrodd fwy nag unwaith."
"Ydi, ydi," ebai Rolant Owen, "yr ydw i wedi ledio'r un pennill gantoedd o weithie, a mi wnaf hynny eto."
Erbyn hyn, yr oedd Willie wedi sychu ei ddagrau, a chyda llais oedd yn gwefreiddio pawb oll, adroddai yr hen bennill,
"Mae Iesu Grist o'n hochor ni,
Fe gollodd Ef ei waed yn lli."
A, rywfodd, yn y fan yna y torrodd yr argae yn y seiat; dechreuodd rhywun ganu y pennill mewn llais isel, a chyn pen ychydig yr oedd yr holl gynulliad yn ymuno yn galonnog. Ni chawsid y fath eneiniad ar ganu pennill ers llawer o amser.
Erbyn hyn, yr oedd Rolant Owen wedi cydio yn ei ffon, ac wedi codi ar ei draed.
"Wyddoch chi beth, frodyr a chwiorydd," meddai, "dyma gyfarfod hyfryd iawn. Mae'n dda gen i fod wedi cael byw i weld o. Yr oeddwn i'n meddwl am air y Salmydd,—'O enau plant bychain y perffeithiaist foliant.' Mi glywsoch y pennill hwnnw o waith yr hen Bantycelyn pan oedd o yn darlunio sut y byddai Jones Llangan' yn arfer pregethu,-
"Iesu'r text, a Iesu'r bregeth,
Iesu'r ddeddf, a Iesu'r ffydd."
Ac fel yna y mae hi yma heno. Iesu pia'r seiat, yn ddiddadl, a dene yw y rheswm, mae arna i ofn, fod y seiat mor lwydaidd a dilewyrch lawer adeg,—yr yden ni yn son gormod am danom ein hunain, a rhy fychan am dano Ef. Diolch i'r plant yma am ein harwain at yr Iesu."
A chyda bod Rolant Owen wedi eistedd, y nesaf i godi, er cryn syndod i'r seiat, oedd Shôn William. Fel rheol, nid oedd ganddo ef nemawr i'w ddweyd wrth y plant. Ac yr oedd ganddynt hwythau raddau o'i ofn bob amser. Dichon fod ei edrychiad trymaidd yn eu tarfu, fel cysgod clogwyn ar fin nos. Nis gallai oddef unrhyw ysgafnder na gwên ynglŷn â gwasanaeth y cysegr. Ond o dan y gerwindeb allanol, yr oedd calon dyner ym mynwes Shôn William; a'r noson honno, yr oedd ei thannau wedi cael eu cyffwrdd mewn modd anisgwyliadwy. Daeth rhyw belydr o oleuni i'w wynepryd, a chrynai ei lais pan yn ceisio siarad.
"Mae yn weddus i mi," meddai, "godi i gefnogi popeth a ddeydodd Rolant Owen. Tipyn yn amheus oeddwn am y priodoldeb o newid y dull o gadw seiat; ond yr wyf yn meddwl yn wahanol ar ol gwrando ar y plant yma yn adrodd y penhillion ardderchog ene am yr Iesu. Yr oeddynt yn hen ac yn newydd. Mi fydda i yn trwsio esgidie yn bur amal yn y gweithdy acw, ond y mae'n well gen i wneud esgid newydd. Ac fel yna yr yden ni yn y seiat yn aml, yn treio trwsio tipyn ar brofiadau ein gilydd. Ond gyda'r plant yma, y mae pob peth yn newydd. Nid ydynt wedi cynefino â phethe'r Efengyl fel ni, ac y mae hynny yn beth mawr iawn. Yr ydw i wedi teimlo rhywbeth heno na theimlais yr un fath ers llawer blwyddyn, ac yn falch mod i wedi dwad yma."
Cafwyd gair ymhellach gan David Parry. "Yr oeddwn yn meddwl am yr adeg pan oeddwn yn yr hen Dŷ Capel," meddai. Yr oeddym yn arfer deyd adnod yn y seiat yr amser hwnnw; ond wedi gorffen, ychydig iawn o syniad oedd gennym am ddim fydde yn mynd ymlaen wedyn. Mi fydde mam yn fy nwrdio i am gysgu; ond, yn wir, 'doedd gen i ddim help. Yr oedd y 'rhesel' yn rhy uchel i rai bach fedru cyrraedd yn agos ato. Ond, heno, nid yn unig y mae'r plant yn y seiat, ond y mae'r seiat a hwythau ar yr un lefel, megis; ac y mae 'bendith' wedi defnynu arnom. 'Byddaf fel gwlith i Israel.' Arhoswn dan y gwlith."
Terfynwyd y gwasanaeth drwy ganu,
"Bugail Israel sydd ofalus
Am ei dyner, anwyl wyn."
Aeth hanes y "seiat plant" drwy y fro. Yr oedd yr ychydig oedd yn absennol yn beio eu cymdogion am na fuasent wedi eu hysbysu mewn pryd. Ond nis gellir rhagfynegi dyfodiad y
fendith; ac yr oedd y "seiat plant" wedi profi ei hun yn rhywbeth mwy nag yr oedd neb wedi ei dybied ymlaen llaw.
Yr oedd Marged Parri yn dra siomedig. Mae'n wir nad oeddwn i ddim yn teimlo yn dda," meddai, "ond 'daswn i'n gwybod fod y cwarfod i fod yn un mor hynod, mi fuase'n rhaid i mi gael dod iddo drwy bob rhwystr. Ac mi ddeydodd Dafydd mod i yn ei 'ddwrdio' fo ers talwm, a hynny ar goedd pawb! Ond be fedrwn i neud yn amgen, a fynte yn cysgu wrth fy ochr i? Na, dydi o ddim wedi dod ar y cyful ar ol hynny. Mi wydde y base fo yn ei chael hi yn o hallt am edliw peth felly o flaen y bobol."
Ond gwyddai y sawl oedd yn gwrando nas gallai Marged Parri ddal i "ddwrdio" yn hir pan ddeuai Dafydd i edrych am dani.
Pan ddaeth "Dafydd," chwedl hithau, at y tŷ, nawn drannoeth, yr oedd Meredydd Owen wedi cyrraedd yno ychydig o'i flaen, ac wrthi yn adrodd hanes y plant. Yr oedd Marged Parri wrth ei bodd, ac wedi anghofio'n llwyr am y "cerydd."
"Pwy ddeydodd ei bennill oreu," meddai, pan oedd Dafydd yn dod i mewn.
"Cwestiwn haws ei ofyn na'i ateb," ebai Meredydd Owen. "Yr oedd yr oll yn adrodd mor dda. Ond Willie, Tŷ Gwyn, a wnaeth fwya o farc, er ei fod wedi torri i grio cyn dechreu."
"Yr oeddwn yn cofio ei daid," ebai Marged Parri, "ac yr oedd rhyw dinc yn ei lais o oedd yn toddi pob calon."
Y Saboth dilynol, cytunwyd yn unfrydol fod "seiat plant" i gael ei chynnal ddwy waith yn y flwyddyn, a da oedd hynny yng ngolwg yr holl eglwys.
Ac yr oedd mwy o ffrwyth" y seiat gyntaf honno i ddod i'r golwg yn yr wythnosau dyfodol.
PENNOD XII.
"Salmau'r Nef."
DYDDOROL ydyw sylwi ar anian yn gweddnewid o'r gaeaf i'r gwanwyn. Yn raddol a distaw y daw. Blaenorir ef gan genhadon bychain, syml. Ambell awel fechan, swil, yn symud, megis, ar flaen ei throed. Ambell aderyn bychan yn dechreu canu ar y berth; ambell flodyn gwynliw yn codi ei ben. Dyna "broffwydi bach" Natur; ond y mae ganddynt genadwri hynaws, a daw ereill, mwy na hwy eu hunain, ar eu hol.
Tebyg ydoedd hanes yr adnewyddiad a ddaeth i'r gwasanaeth crefyddol yn y Cwm. Dydd y pethau bychain ydoedd y "seiat plant" y rhoddwyd amlinelliad digon amherffaith o honi yn y bennod o'r blaen. Nid oedd dim byd mawr na chynhyrfus wedi cymeryd lle, ond yr oedd rhyw naws newydd wedi cyffwrdd ysbryd y bobl, fel awel o'r de. Do, chwythodd y deheuwynt ar yr " ardd," a gwasgarwyd ei pheraroglau. Nid ydys yn awgrymu mai "gwynt y gogledd oer" oedd yn arfer chwythu yng nghylchoedd crefydd a'i hordinhadau. Ond nid oedd yr awyrgylch mor gynnes ag y bu mewn cyfnodau a gofid gyda hiraeth a diolchgarwch.
"Pan y mynn y daw," yn ei adeg a'i ddull ei hun. Dichon mai y prawf allanol cyntaf o'i ddyfodiad ydoedd y cyfarfod pregethu a gynhelid yn y Cwm ynglŷn â'r gwaith o glirio'r ddyled. Tybed fod ymdrech" o'r fath yn paratoi meddwl y bobl i dderbyn y fendith? Yr oeddynt wedi ymdrechu yn egniol, a hynny yn eu ffordd wladaidd eu hunain, heb fenthyca unrhyw gynllun estronol. Y pwnc oedd "clirio'r ddyled," a phawb yn rhoddi hyd eithaf eu gallu. Nid oedd un teulu yn yr ardal, oedd yn perthyn i'r eglwys, heb gyfrannu. Pe y buasid yn craffu ar rhoddion," gallesid crybwyll amryw bethau dyddorol iawn. Dichon mai yr hynotaf, mewn rhyw ystyr, oedd yr eiddo John ac Elin Wyn. Cyfranasant hwy ugain punt fel offrwm diolch "am ddarganfyddiad gweithredoedd" yr Hafod Las.
Ond er cymaint y llawenydd a barodd "clirio'r ddyled," nid oedd yn gymesur â'r llawenydd a ymdaenodd drwy'r lle pan ddeallwyd fod amryw "o'r newydd" wedi aros yn y seiat ar derfyn dydd gwyl y cyfarfod pregethu. Hwnnw, yn ddiameu, ydoedd eu "llawenydd pennaf." Dyna flaenffrwyth yr adfywiad a gerddodd am ysbaid drwy y fro. Yn eu mysg yr oedd William Hamer, y gof. Gŵr o gymeriad dilychwin; gwrandawr astud; ond, hyd yma, yr oedd wedi arfer "mynd allan" ar nos Sabothau. Nid oedd yn ddideimlad, nac yn sarrug, pan geisid ganddo ymuno â'r frawdoliaeth. Dywedai mai y syniad uchel a feddai am broffes grefyddol, a'i ymwybyddiaeth o'i ffaeleddau ei hun, oedd yn peri iddo aros ar " stol y gwrando." Nid hawdd ydoedd ymresymu â dyn o'r fath, canys gwyddai ei gymdogion ei fod yn un o'r gwŷr glanaf ei fuchedd yn y Pentre.
Ond, wele, efe a arhosodd yn y "seiat" ar ddiwedd y cyfarfod pregethu. Ni wnaed dim y noson honno heblaw datgan y llawenydd o'i weld ef, ac ereill, wedi cyflwyno eu hunain i'r Arglwydd, ac i'w bobl, trwy broffes gyhoeddus.
Yr wythnos ddilynol, cafwyd seiat hirgofiadwy yng nghapel y Cwm. Treuliwyd hi gyda'r gorchwyl dymunol o "ymddiddan" â'r dychweledigion. A phan ddaethpwyd at William Hamer, gofynwyd iddo beth oedd wedi "torri'r ddadl" yn ei feddwl. Ai rhyw air a ddywedwyd yn yr oedfaon, ar adeg y cyfarfod pregethu?
Yr oeddwn yn mwynhau yr oll," meddai yntau, "ac yn teimlo fod nerth a goleuni yn y weinidogaeth. Ond nid hynny, ynddo ei hun, sydd yn cyfri am fy nyfodiad i atoch, fel eglwys."
Hwyrach y byddwch chwi mor garedig a dweyd beth ydoedd," ebai Meredydd Owen. Gall ei wybod fod yn galondid i ereill."
Wel, 'doedd o ddim yn meddu rhyw hynodrwydd ynddo ei hun, ond fe adawodd argraff ar fy meddwl, ac nis gallwn ymryddhau o'i afaelion. Un boreu, daeth dau fachgen bach i'r Efail acw wrth fynd i'r ysgol. Mae nhw yn arfer dwad i weld ceffyle yn cael eu pedoli, ac i glywed sŵn y fegin. Y boreu hwnnw, 'doedd neb yn digwydd bod yn yr Efail ond mi fy hun, a dyma un o honyn nhw yn troi ataf, a'i lygaid yn perlio,
'Piti na fasech chi yn y capel neithiwr,' meddai.
'Beth oedd yno?' ebwn innau, er fy mod wedi clywed.
'Seiat Plant,' meddai yntau. 'A ni oedd yn ei chadw hi,—y plant, wyddoch.' Rhyfedd iawn,' meddwn. 'Beth oeddych yn ei wneud? Wyddwn i ddim o'r blaen y bydde plant yn arfer cadw seiat.'
"Adrodd penhillion yr oedden ni, a'r gair Iesu ynddyn nhw.'
'Ac mi ddaethoch trwyddi yn lled dda?'
'Do, er fod Willie wedi torri i grio am fod bachgen arall wedi deyd ei bennill o'i flaen o.'
'Prun oedd y pennill?'
'Pennill Willie?'
'Ie.'
Mae Iesu Grist o'n hochor ni, ac mi deydodd o dros y lle. A chanu hwnnw y buom ni am spel wedyn. Piti na fasech chi yno yn clywed.'
Ar hynny, canodd cloch yr ysgol, a rhedodd y ddau fachgen i ffwrdd. Ond yr oedd y gair a ddywedodd un ohonynt yn fy meddwl drwy y dydd,—Piti na fasech chi yno.' Fedrwn i ddim cael llonydd gan y peth, a dyma fi wedi dwad, ac mi fydd yn dda gen i gael aros, os bernwch fy mod yn gymhwys. Methu gweld dim cymhwyster ynnof fy hun yr oeddwn ar hyd y blynyddoedd, neu, y mae'n sicr y buaswn wedi dwad yn gynt." Eisteddodd i lawr, ac ar gynhyrfiad y foment, cododd Harri Llwyd o ymyl y set fawr.
"Yr oeddwn i'n meddwl am y gair hwnnw," meddai, wrth wrando ar William Hamer,—'A bachgen bychan a'u harwain hwy.' Peth pwysig ydyw ufuddhau i awgrymiadau bychain; drwy foddion felly yr ydym yn cael ein 'harwain' ar lawer adeg. Ac wrth wrando hanes yr ymddiddan yn yr Efail, nis gallwn lai nag adgofio fy hanes fy hun. Yr oedd hwnnw yn wahanol i hanes William Hamer. Gallesid dweyd am dano ef bob amser —'Nid wyt ti bell oddiwrth deyrnas nefoedd.' Yr oedd o yn wrandawr cyson, ac yn arfer dwad i'r Ysgol Sul. Ond mi fum i yn y 'wlad bell,'—nid gyda'r moch a'r cibau, hwyrach, ond yr oeddwn 'ymhell' o ran fy ysbryd, ac yn bur galed yn fy marn am broffeswyr crefydd. Meddyliwn fod llawer o ragrith yn yr eglwys, ac mai parchu golud yn hytrach na chymeriad yr oedd y pregethwyr a'r blaenoriaid. Ac wrth fynwesu syniadau fel yna, a darllen rhyw fath o lyfre oedd yn eu cadarnhau, mi eis i dir pell iawn. Ond, ryw Saboth,—ac mi cofiaf o tra bydda i byw,—mi ddaeth Rolant Owen heibio, ar ei ffordd i'r odfa yn y Sgubor. Ac, yn ol ei arfer, siaradodd yn garedig, a gwahoddodd fi i ddod i'w ganlyn. Ac felly fu. Dim byd mawr, fel y deydodd William Hamer; mynd i'r odfa am fod Rolant Owen yn cymell. Ond wedi dallt pethe yn well, mi wn fod yna Rywun mwy yn cymell Harri Llwyd,—rhaid fod! Yr oedd y bregeth yn fy ffitio i'r dim, a chês fy hun, mewn mwy nag un ystyr, ar y 'Llawr dyrnu.' Yr oeddwn yn gweld Arglwydd y cynhaeaf yn casglu ei wenith' i'r ysgubor, a'r ûs ar dân. Beth oeddwn i, tybed? Ond pan adroddodd y pregethwr yr hen bennill anwyl,—
"Y Gŵr sydd imi yn ymguddfa,
Sydd a'r wyntyll yn ei law,"
daeth goleuni i fy enaid, a cheisiais ofyn iddo Ef fy ngwneud yn addas i fod ymysg y 'gwenith' a gesglir, ryw ddydd, i'r ysgubor. "
Erbyn hyn, yr oedd y cynulliad yn fyw drwyddo, a tharawodd rhyw chwaer nodau y "Delyn Aur,"—
"Dechreu canu, dechreu canmol,
Ym mhen mil o oesoedd maith."
Yr oedd golwg ryfedd ar Rolant Owen. Edrychai fel dyn wedi hurtio. Cydiai yn ei ffon, ac ysgydwai hi fel pe buasai yn arwain côr! Y funud nesaf, edrychai o'i amgylch yn fuddugoliaethus, cystal a dweyd fod yr hen delynau wedi dod adref, ac mai "caniadau Seion" oedd yn mynd a hi. Troes i edrych ar Shôn William, a daeth gwên i'w wynepryd; braidd na chwarddodd yn uchel. Yr oedd Shôn William yn canu! Dyna beth hynod! Yn y gorffennol, math o "ddeddf goddefiad" oedd canu gan Shôn William. Pan lediai emyn, nid oedd yn foddlawn i'r bobl "ganu mwy nag un pennill. Ac fe wyddis beth fu ei hanes gyda'r "offeryn cerdd." Ond,yr oedd Rolant Owen bron a methu credu golwg ei lygaid,—dyna Shôn William, a'i lygaid yng nghaead, yn "canu" neu rywbeth tebyg, fel "telyn Dafydd ar yr wyl."
Yr oedd Edward Puw wedi rhoddi heibio bob ymgais at "arwain" ers meityn. Gwyddai fod Arweinydd uwch wedi cymeryd ei le. Yr oedd y gwefr Dwyfol wedi tramwy drwy galonnau y bobl, a'r "mudan yn seinio cân."
Yr oedd gwyneb Meredydd Owen yn welw gan deimlad. Yr oedd yng ngwyddfod pethau dieithr ac anesboniadwy. Nid ydoedd wedi rhagweld yr amgylchiadau hyn o gwbl. Clywsai son am orfoledd, a bu yn traethu ar hanes yr hen ddiwygiadau yng Nghymru. Ond, rhyfedd, mor wahanol oedd bod yn llygad-dyst o'r bedydd tân." Dirgrynnai ei natur, ac yr oedd llawenydd ac ofn yn dygyfor yn ei enaid. Un o'r dyddiau blaenorol, yr oedd wedi derbyn "galwad" i eglwys arall, ac wedi bod yn petruso beth i'w wneud. Ond, y noson honno, gwyddai fod yr ateb wedi dod, a hwnnw yn "ateb drwy dân."
Ac yn sŵn mawl a gweddi'r saint, addunedodd adduned,—hen adduned Ruth,—"Dy bobl di fydd fy mhobl innau, a'th Dduw di fydd fy Nuw innau." Penderfynodd gysegru ei hun yn llwyrach ac yn ddyfalach i wasanaethu ei Arglwydd fel "bugail y praidd" yn eglwys y Cwm. ***** Ac yno y mae hyd y dydd hwn, a'i orsedd yng nghalon ei bobl, ac yn serchiadau eu plant.
Nid ydyw wedi llanw llawer o swyddau mewn byd nac eglwys, heblaw y swydd a dderbyniodd pan yn ddyn lled ieuanc, bod yn "fugail" ar eglwys wladaidd, seml ei phobl a'i nodweddion. Yn ffodus iddo ef, yr ydoedd yn eglwys lled niferus, ac yn medru symud ymlaen yn ei nherth ei hun, heb ddibynnu ar y cynorthwyon a ddarperir ar gyfer gweiniaid. Nid oedd Meredydd Owen yn cael ei reoli gan Fwrdd Llywodraethol, a than orfod i bregethu yn ol eu rhaglen hwy, pa un bynnag a oedd yn teimlo awydd i hynny ai peidio. Cafodd ei gadw rhag mynd yn beiriant" crefyddol, a gorwedda ei ymdrechion a'i ddyddgylch yn esmwyth ar feddyliau ei bobl a'i wrandawyr yn y Cwm.
Nid ydyw wedi llwyddo i wneud popeth a ddisgwylid, o bosibl, yn ystod ei yrfa. Ond, yn araf, y mae pethau o'r fath yn dod i aeddfedrwydd mewn ardal dawel a gweddol sefydlog yn ei dull o fyw. Nid digwyddiadau mynych ydyw "priodi a rhoddi i briodas." Ond y mae Marged Parri yn gobeithio cael byw i weld y dydd pan fo Meredydd Owen yn efelychu "Dafydd, ac yn arwain oddiamgylch "wraig a fyddo'n chwaer." Feallai y caiff hi ei dymuniad. Ni pherthyn i ni ddarogan na phroffwydo. Ac felly yr ydym yn gollwng y llenn i lawr ar hanes yr achos" yn y Cwm. Ymdaena'r cysgodau dros fywyd yr hen grefyddwyr, Rolant Owen a Shôn William. Ond y mae goleuni yn yr hwyr. Erys ereill yn anterth eu grym, a'u hysgwydd yn dynn o dan yr achos, a'u llygaid tua'r wawr.
Un o'r pethau diweddaf a wnaed yn eglwys y Cwm oedd chwanegu at nifer y diaconiaid. A dewiswyd tri wŷr da eu gair i wasanaethu yn y swydd honno, nid amgen Harri Llwyd, Tŷ Capel; William Hamer, y Gôf; a John Wynn, Tŷ Mwswg. Ac wrth gofio hanes y gorffennol, nis gallai Meredydd Owen lai na gweld "rhagluniaeth ddistaw" ac "arfaeth gref yn arwain, ac yn rhwymo bywyd fu unwaith ar ddisberod "wrth golofnau pur y nef."
DIWEDD.

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.